- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliad 24
1. Y gofyniad sydd i’w fodloni mewn perthynas â seilo yw ei fod yn cydymffurfio â’r darpariaethau a ganlyn yn yr Atodlen hon.
2. Rhaid i sylfaen y seilo—
(a)ymestyn y tu hwnt i unrhyw furiau sydd i’r seilo,
(b)cael o’i hamgylch sianelau sydd wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel eu bod yn casglu unrhyw elifiant silwair sy’n dianc o’r seilo, ac
(c)bod â darpariaeth ddigonol ar gyfer draenio’r elifiant hwnnw o’r sianelau hynny i danc elifiant drwy sianel neu bibell.
3. Ni chaiff tanc elifiant dal llai nag—
(a)yn achos seilo sy’n dal llai na 1,500 o fetrau ciwbig, 20 litr ar gyfer pob metr ciwbig o’r hyn y mae’r seilo yn ei ddal, a
(b)yn achos seilo sy’n dal 1,500 o fetrau ciwbig neu fwy, 30 o fetrau ciwbig ac yn ychwanegol 6.7 litr ar gyfer pob metr ciwbig o’r hyn y mae’r seilo yn ei ddal uwchlaw 1,500 o fetrau ciwbig.
4.—(1) Rhaid i sylfaen y seilo—
(a)bod wedi ei dylunio yn unol â’r cod ymarfer ar gyfer dylunio strwythurau concrit i gadw hylifau dyfrllyd a gyhoeddir gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 8007: 1987(1), neu
(b)bod wedi ei hadeiladu gan ddefnyddio asffalt wedi ei rolio’n boeth yn unol â’r cod ymarfer ar gyfer dewis a defnyddio deunyddiau adeiladu a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 21: 1990(2).
(2) Rhaid i sylfaen y seilo, sylfaen a muriau ei danc elifiant a sianelau a muriau unrhyw bibellau fod yn anhydraidd.
5. Rhaid i sylfaen a muriau’r seilo, ei danc elifiant a’i sianelau a muriau unrhyw bibellau, i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol, allu gwrthsefyll ymosodiad gan elifiant silwair.
6. Ni chaniateir lleoli unrhyw ran o’r seilo, ei danc elifiant na’i sianelau nac unrhyw bibellau o fewn 10 metr i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol na dyfroedd arfordirol y gallai elifiant silwair fynd i mewn iddynt pe bai’n dianc.
7. Os oes gan y seilo furiau cynnal—
(a)rhaid i’r muriau cynnal allu gwrthsefyll lleiafswm o lwythi mur sydd wedi eu cyfrifo ar y rhagdybiaethau ac yn y dull a ddangosir gan baragraff 15.6 o’r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 22: 2003(3),
(b)ni chaniateir i’r seilo bod wedi ei lwytho ar unrhyw adeg i ddyfnder sydd uwchlaw’r dyfnder eithaf sy’n gyson â’r rhagdybiaeth ddyluniol a wnaed o ran llwythi y muriau cynnal, ac
(c)rhaid arddangos hysbysiadau ar y muriau cynnal yn unol â pharagraff 18 o’r cod ymarfer hwnnw.
8. Yn ddarostyngedig i baragraff 9, rhaid i’r seilo, ei danc elifiant a’i sianelau ac unrhyw bibellau fod wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel y’u bod yn debygol, gyda’r gwaith cynnal a chadw priodol, o barhau i fodloni gofynion paragraffau 2 i 5 ac, os yw’n gymwys, paragraff 7(a) am o leiaf 20 mlynedd.
9. Os oes unrhyw ran o danc elifiant islaw wyneb y tir, rhaid i’r tanc fod wedi ei ddylunio a’i adeiladu fel ei fod yn debygol o barhau i fodloni gofynion paragraffau 4 a 5 am o leiaf 20 mlynedd heb waith cynnal a chadw.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 1987. ISBN 0-580-16134-X.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Rhagfyr 1990. ISBN 0-580-18348-3.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2003. ISBN 0-580-38654-6.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys