• Skip to main content
  • Skip to navigation

legislation.gov.uk

http://www.nationalarchives.gov.uk
  • English
  • Hafan
  • Pori trwy Ddeddfwriaeth
  • Deddfwriaeth Newydd
  • Deddfwriaeth Coronafeirws
  • Newidiadau i Ddeddfwriaeth
  • Chwilio Deddfwriaeth

Chwilio Deddfwriaeth

Chwiliad Uwch

Section Navigation

  • Am y wefan hon
  • Amdanom Ni

Yn ôl i’r brig

Amdanom Ni

Am y wefan hon

Rheolir y wefan hon gan Yr Archifau Gwladol ar ran Llywodraeth EM. Mae cyhoeddi holl ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig yn rhan ganolog o gylch gorchwyl Llyfrfa Ei Mawrhydi (HMSO), rhan o’r Archifau Gwladol, a Swyddfa Argraffydd y Brenin.

Cyhoeddir y fersiynau gwreiddiol (fel y’u deddfwyd) a diwygiedig o’r ddeddfwriaeth ar legislation.gov.uk gan a dan awdurdod Rheolwr HMSO (yn ei swyddogaeth fel Argraffwr Deddfau Seneddol y Brenin, ac Argraffwr Llywodraeth Gogledd Iwerddon) ac Argraffydd y Brenin.

Mae’r fersiynau diwygiedig o’r ddeddfwriaeth sydd ar y safle yn cael eu cynnal a’u cadw gan dîm golygyddol deddfwriaethol yn yr Archifau Gwladol a staff Swyddfa Cyhoeddiadau Statudol Gogledd Iwerddon – rhan o Swyddfa’r Cwnsel Deddfwriaethol yng Ngogledd Iwerddon yn Swyddfa’r Weithrediaeth.

Mae Swyddfa Argraffydd y Brenin (OKPS) yn cynnig mynediad at Ddeddfau Senedd yr Alban, offerynnau statudol yr Alban ac ystod o ddeddfwriaeth arall sy’n gymwys i’r Alban. Mae hefyd yn darparu ystod o wasanaethau i’r cyhoedd, y diwydiant gwybodaeth a’r llywodraeth am ailddefnyddio gwybodaeth a grëwyd gan Lywodraeth yr Alban, y llywodraeth ddatganoledig yn yr Alban. Mae Argraffydd y Brenin, sy’n cael ei benodi dan adran 92 o Ddeddf yr Alban 1998, yn adrodd yn ôl i Weinidogion yr Alban.

Amdanom Ni

Yr Archifau Gwladol yw archif a chyhoeddwr swyddogol llywodraeth y DU. Rydym yn ganolbwynt o arbenigedd ym mhob elfen o greu, cadw, defnyddio a rheoli gwybodaeth swyddogol. Rydym yn adran anweinidogol o’r Adran Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

  • Fel archif swyddogol llywodraeth Lloegr, Cymru a’r Deyrnas Unedig, rydym yn cadw dros 1,000 o flynyddoedd o gofnodion y genedl i bawb eu darganfod a’u defnyddio.
  • Rydym yn gweithio gyda 250 o gyrff llywodraeth a sector cyhoeddus, gan eu helpu i reoli a defnyddio gwybodaeth yn fwy effeithiol
  • Rydym yn hyrwyddo ailddefnyddio gwybodaeth sector cyhoeddus ac yn rheoleiddio gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth sefydliadau sy’n creu ac yn casglu gwybodaeth sector cyhoeddus.
  • Rydym yn rheoli hawlfraint y Goron.
  • Rydym yn cynnig arweiniad, cefnogaeth a chyfarwyddyd i’r sector archifau ehangach yng Nghymru a Lloegr.

Rydym yn cadw cofnod cyhoeddus y Deyrnas Unedig, ac yn ei wneud yn hygyrch. Mae ein cyngor a chyfarwyddyd arbenigol yn helpu aelodau o’r cyhoedd ac ymchwilwyr o bob math i astudio’r wybodaeth sy’n cael ei chadw yn ein casgliad, ac i archwilio hanes ein cenedl a’u hynafiaid hwy eu hunain. Ar yr un pryd, rydym yn frwd dros gael mynediad ehangach at wybodaeth a gynhyrchir gan y sector cyhoeddus, fel y gellir ei rhannu a’i hailddefnyddio gan ddinasyddion, grwpiau cymunedol a busnesau.

Mae’r Archifau Gwladol yn gyfrifol hefyd am The Gazette, cofnod cyhoeddus swyddogol y DU, sy’n cynnwys tri chyhoeddiad: The London Gazette, The Edinburgh Gazette a The Belfast Gazette. Rheolir The Gazette gan Y Llyfrfa, dan oruchwyliaeth yr Archifau Gwladol. Mae llawer o’r hysbysiadau a roddir yn The Gazette yn ofynnol yn gyfreithiol, ond cyhoeddir rhai oherwydd tybir bod budd i’r cyhoedd iddynt fod ar gael yn gyhoeddus. Dyfynnir o The Gazette yn aml mewn deddfwriaeth, a gall roi hysbysiadau am ddigwyddiadau sy’n sbarduno’r gwaith o gychwyn deddfwriaeth, a chaiff ei ystyried gan y llysoedd a sefydliadau cyfreithiol eraill fel y cyfrwng mwyaf effeithiol i gyflawni hynny. Gweler y rhestr lawn o hysbysiadau sy’n ymddangos yn The Gazette drwy’r cod hysbysu.

Sefydlwyd Llyfrfa Ei Mawrhydi (HMSO) yn 1786. Hi sy’n dal Hawlfraint y Goron ac mae wedi bod yn argraffwr a chyhoeddwr swyddogol yr holl Ddeddfau Seneddol ers 1889.

Rhwng 2003 a 2006, roedd HMSO yn un o bedwar o gyrff y llywodraeth a ddaeth at ei gilydd i ffurfio’r Archifau Gwladol, gan ymuno â’r Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus, Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus a’r Comisiwn Brenhinol ar Lawysgrifau Hanesyddol. Roedd pob un o’r sefydliadau yma yn arbenigo ar agweddau gwahanol o reoli gwybodaeth bwysig.

Heddiw mae’r Archifau Gwladol yn dwyn at ei gilydd y sgiliau a’r arbenigedd sy’n angenrheidiol yn ein byd digidol ar gyfer rheoli a chadw gwybodaeth y llywodraeth o’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol – ac ar gyfer ei gwneud yn hygyrch i ddefnyddwyr.

  • New site design
  • Help
  • Amdanom ni
  • Map o’r safle
  • Hygyrchedd
  • Cysylltu â Ni
  • Rhybudd Preifatrwydd
  • Cwcis

OGL logoMae’r holl gynnwys ar gael dan Drwydded Llywodraeth Agored v3.0 ac eithrio ble nodir yn wahanol. Yn ychwanegol mae’r safle hwn â chynnwys sy’n deillio o EUR-Lex, a ailddefnyddiwyd dan delerau Penderfyniad y Comisiwn 2011/833/EU ar ailddefnyddio dogfennau o sefydliadau’r UE. Am ragor o wybodaeth gweler ddatganiad cyhoeddus Swyddfa Gyhoeddiadau’r UE ar ailddefnyddio.

© Hawl y goron a chronfa ddata