Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1Rhagarweiniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.

Mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau

2.  Mewn daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel a ddangosir ar y map perthnasol o’r enw “Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2013”(1)

(a)nid yw rheoliadau 4 i 11, 15, 23, 27 a 33 i 43 yn gymwys hyd nes 1 Ionawr 2023, ac

(b)nid yw rheoliadau 17 i 21, 25 a 26, a 28 i 31 yn gymwys hyd nes 1 Awst 2024.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae “adeiladu” (“construct”) yn cynnwys gosod;

mae i “amaethyddiaeth” yr ystyr a roddir i “agriculture” yn adran 109(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1947(2);

ystyr “ardal amaethyddol” (“agricultural area”) yw unrhyw dir amaethyddol a ddefnyddir at ddibenion amaethyddol;

ystyr “CANC” (“NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

mae “cnwd â galw mawr am nitrogen” (“crop with high nitrogen demand”) yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, porfa, tatws, betys siwgr, indrawn, gwenith, rêp had olew, haidd, bresych, rhyg a rhygwenith;

mae i “cwrs dŵr” yr ystyr a roddir i “watercourse” yn adran 221 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991;

ystyr “cynllun gwrteithio” (“fertilisation plan”) yw cynllun a gafodd ei baratoi o dan reoliad 6(1)(c);

ystyr “da byw” (“livestock”) yw unrhyw anifail (gan gynnwys dofednod) a bennir yn Atodlen 1;

ystyr “da byw nad ydynt yn pori” (“non-grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 2 yn Atodlen 1;

ystyr “da byw sy’n pori” (“grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 1 yn Atodlen 1;

ystyr “daliad” (“holding”) yw’r holl dir a’i adeiladau cysylltiedig sydd ar gael i’w defnyddio gan y meddiannydd ac a ddefnyddir i dyfu cnydau mewn pridd neu i fagu da byw at ddibenion amaethyddol;

ystyr “dofednod” (“poultry”) yw dofednod a bennir yn Atodlen 1;

mae i “dyfroedd a reolir” yr ystyr a roddir i “controlled waters” yn adran 104 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991

ystyr “elifiant silwair” (“silage effluent”) yw elifiant o silwair;

ystyr “gwrtaith ffosffad” (“phosphate fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy’n cynnwys un neu ragor o gyfansoddion ffosffad a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae’n cynnwys tail organig;

ystyr “gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd” (“manufactured phosphate fertiliser”) yw unrhyw wrtaith ffosffad (ac eithrio tail organig) sydd wedi ei weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;

ystyr “gwrtaith nitrogen” (“nitrogen fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy’n cynnwys un neu ragor o gyfansoddion nitrogen a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae’n cynnwys tail organig;

ystyr “gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd” (“manufactured nitrogen fertiliser”) yw unrhyw wrtaith nitrogen (ac eithrio tail organig) sydd wedi ei weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;

ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;

ystyr “porfa” (“grass”) yw—

(a)

glaswelltir parhaol neu laswelltir dros dro (ystyr dros dro yw am gyfnod o lai na phedair blynedd),

(b)

sy’n bodoli rhwng hau ac aredig y borfa, ac

(c)

mae’n cynnwys cnydau yr heuwyd porfa oddi tanynt,

ond nid yw’n cynnwys glaswelltir sydd â 50 % neu ragor o feillion;

ystyr “pridd tenau” (“shallow soil”) yw pridd y mae ei ddyfnder yn llai na 40 cm;

ystyr “pridd tywodlyd” (“sandy soil”) yw unrhyw bridd sy’n gorwedd ar dywodfaen, ac unrhyw bridd arall sy’n cynnwys—

(a)

yn yr haen hyd at ddyfnder o 40cm—

(i)

mwy na 50 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â diamedr o 0.06 i 2 mm,

(ii)

llai na 18 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â’u diamedr yn llai na 0.02 mm, a

(iii)

llai na 5 % yn ôl pwysau o garbon organig, a

(b)

yn yr haen sydd rhwng 40 a 80 cm o ddyfnder—

(i)

mwy na 70 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â diamedr o 0.06 i 2 mm,

(ii)

llai na 15 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â’u diamedr yn llai na 0.02 mm, a

(iii)

llai na 5 % yn ôl pwysau o garbon organig;

ystyr “pydew derbyn” (“reception pit”) yw pydew a ddefnyddir i gasglu slyri cyn ei drosglwyddo i danc storio slyri neu i gasglu slyri sy’n cael ei ollwng o danc o’r fath;

ystyr “seilo” (“silo”) yw adeiladwaith a ddefnyddir i wneud neu i storio silwair;

mae “silwair” (“silage”) yn cynnwys cnwd sy’n cael ei wneud yn silwair;

ystyr “slyri” (“slurry”) yw mater hylifol neu led hylifol a’i gynnwys yw—

(a)

carthion a gynhyrchir gan dda byw (ac eithrio dofednod) tra maent ar fuarth neu mewn adeilad (gan gynnwys da byw sy’n cael eu cadw mewn corlannau sglodion coed), neu

(b)

cymysgedd sy’n cynnwys yn gyfan gwbl neu’n bennaf carthion da byw, gwasarn da byw, dŵr glaw a golchion o adeilad neu fuarth a ddefnyddir gan dda byw,

ac o ddwyster sy’n caniatáu iddo gael ei bwmpio neu ei ollwng drwy ddisgyrchiant ar unrhyw gymal yn y broses o’i drin;

mae “taenu” (“spreading”) yn cynnwys dodi ar wyneb y tir, chwistrellu i mewn i’r tir neu gymysgu â haenau arwyneb y tir ond nid yw’n cynnwys dyddodi carthion yn uniongyrchol ar y tir gan anifeiliaid;

ystyr “tail organig” (“organic manure”) yw unrhyw wrtaith nitrogen neu wrtaith ffosffad sy’n deillio o anifeiliaid, planhigion neu fodau dynol, ac mae’n cynnwys tail da byw;

mae “tanc storio slyri” (“slurry storage tank”) yn cynnwys lagŵn, pydew (ac eithrio pydew derbyn) neu dŵr sy’n cael ei ddefnyddio i storio slyri;

ystyr “tir y mae’r risg o oferu drosto yn isel” (“land that has a low run-off risk”) yw tir—

(a)

y mae ei oleddf cyfartalog yn llai na 3º (3 gradd),

(b)

nad oes ynddo ddraeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi ei selio), ac

(c)

sydd o leiaf 50 metr i ffwrdd o gwrs dŵr neu ddyfrffos sy’n arwain at gwrs dŵr.

(2Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at system storio slyri yn cynnwys tanc storio slyri ac—

(a)unrhyw bydew derbyn ac unrhyw danc elifiant sy’n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r tanc, a

(b)unrhyw sianelau a phibellau sy’n cael eu defnyddio mewn cysylltiad â’r tanc, ag unrhyw bydew derbyn neu ag unrhyw danc elifiant.

(3Bodlonir gofyniad yn y Rheoliadau hyn i seilo neu danc storio slyri gydymffurfio â Safon Brydeinig (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) os yw’r seilo neu’r tanc yn cydymffurfio â safon neu â manyleb sy’n darparu lefel gyfatebol o warchodaeth a pherfformiad ac sy’n cael ei chydnabod i’w defnyddio mewn Aelod-wladwriaeth, yn Ynys yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu Dwrci.

RHAN 2Cyfyngu ar ddodi tail organig

Dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad

4.—(1Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, yn ystod unrhyw flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yn fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.

(2Rhaid cyfrifo maint y nitrogen a gynhyrchir gan dda byw yn unol ag Atodlen 1.

(3Wrth gyfrifo arwynebedd y daliad at ddibenion canfod maint y nitrogen y caniateir ei daenu ar y daliad, diystyrir dyfroedd wyneb, unrhyw loriau caled, adeiladau, ffyrdd neu unrhyw goetir, oni ddefnyddir y coetir hwnnw ar gyfer pori.

Taenu tail organig – terfynau nitrogen fesul hectar

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a daenir ar unrhyw hectar penodol ar y daliad yn fwy na 250 kg.

(2Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig, yn gyfan gwbl ar ffurf compost ardystiedig, a ddodir ar unrhyw hectar penodol o’r daliad, yn fwy nag—

(a)1000 kg mewn unrhyw gyfnod o bedair blynedd os dodir ef fel tomwellt ar dir perllan, neu

(b)500 kg mewn unrhyw gyfnod o ddwy flynedd os dodir ef ar unrhyw dir arall.

(3At ddibenion paragraffau (1) a (2), rhaid cyfrifo cyfanswm y nitrogen mewn tail organig drwy gyfeirio at y dulliau a ddisgrifir yn rheoliad 9 ar gyfer cadarnhau’r cynnwys nitrogen.

(4Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “tir perllan” yw tir y tyfir arno unrhyw ffrwyth a restrir yn Atodlen 2;

(b)ystyr “compost ardystiedig” yw compost gwyrdd neu gompost gwyrdd/bwyd y mae’r cyflenwr yn cadarnhau mewn ysgrifen ei fod yn bodloni’r safonau a bennir yn y cyhoeddiad PAS 100:2011 ar ddeunyddiau a gompostiwyd, dyddiedig Ionawr 2011 ac nad yw’n cynnwys unrhyw dail da byw;

(c)rhaid i’r meddiannydd gadw cadarnhad ysgrifenedig fod y tail organig yn cydymffurfio ag is-baragraff (b).

RHAN 3Y gofynion o ran cnydau

Cynllunio’r modd y taenir gwrtaith nitrogen

6.—(1Rhaid i feddiannydd daliad sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen—

(a)cyfrifo faint o nitrogen yn y pridd sy’n debyg o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno yn ystod y tymor tyfu (“y cyflenwad nitrogen yn y pridd”),

(b)cyfrifo’r maint optimwm o nitrogen y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth y maint o nitrogen sydd ar gael o’r cyflenwad nitrogen yn y pridd, ac

(c)llunio cynllun ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen ar gyfer y tymor tyfu hwnnw.

(2Yn achos unrhyw gnwd nad yw’n laswelltir parhaol, rhaid i’r meddiannydd gydymffurfio â pharagraff (1) cyn taenu unrhyw wrtaith nitrogen am y tro cyntaf er mwyn gwrteithio cnwd sydd wedi ei blannu neu y bwriedir ei blannu.

(3Yn achos glaswelltir parhaol, rhaid i’r meddiannydd gydymffurfio â pharagraff (1) bob blwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr cyn taenu gwrtaith nitrogen am y tro cyntaf.

(4Rhaid i’r cynllun fod ar ffurf barhaol.

(5Rhaid i’r cynllun gofnodi—

(a)cyfeirnod neu enw’r cae perthnasol,

(b)y rhan o’r cae a blannwyd neu y bwriedir ei phlannu, ac

(c)y math o gnwd.

(6Yn achos y rhan a blannwyd neu y bwriedir ei phlannu, rhaid i’r cynllun gofnodi—

(a)y math o bridd,

(b)y cnwd blaenorol (ac os porfa oedd y cnwd blaenorol, a reolid y borfa drwy ei thorri ynteu ei phori),

(c)y cyflenwad nitrogen yn y pridd wedi ei gyfrifo’n unol â pharagraff (1) a’r dull a ddefnyddiwyd i gyrraedd y ffigur hwn,

(d)y mis y rhagwelir y caiff y cnwd ei blannu,

(e)maint y cynnyrch a ddisgwylir (os yw’n gnwd âr), ac

(f)y maint optimwm o nitrogen y dylid ei daenu ar y cnwd gan gymryd i ystyriaeth y maint o nitrogen sydd ar gael o’r cyflenwad nitrogen yn y pridd.

Yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y flwyddyn

7.—(1Cyn taenu tail organig, rhaid i’r meddiannydd, ar bob achlysur, gyfrifo maint y nitrogen o’r tail hwnnw sy’n debygol o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo.

(2Rhaid i’r meddiannydd, cyn taenu, gofnodi—

(a)y rhan y taenir y tail organig arni,

(b)y maint o dail organig sydd i’w daenu,

(c)y dyddiad arfaethedig ar gyfer taenu (y mis),

(d)y math o dail organig,

(e)cyfanswm y nitrogen sydd ynddo, ac

(f)cyfanswm y nitrogen sy’n debygol o fod ar gael, o’r tail organig y bwriedir ei daenu, i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo.

(3Cyn taenu gwrtaith nitrogen, rhaid i’r meddiannydd gofnodi—

(a)y maint sydd ei angen, a

(b)y dyddiad arfaethedig ar gyfer taenu (y mis).

Cyfanswm y nitrogen sydd i’w daenu ar ddaliad

8.  Ni waeth beth fo’r ffigur yn y cynllun, rhaid i feddiannydd sicrhau na fydd cyfanswm—

(a)y nitrogen o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd, a

(b)y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o dail organig yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo, a gyfrifir yn unol â rheoliad 9,

yn fwy yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis na’r terfynau a bennir yn rheoliad 10.

Cyfrifo maint y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o dail organig

9.—(1Rhaid i’r meddiannydd gadarnhau cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw, at ddibenion rheoliad 8, drwy—

(a)defnyddio’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 3, neu

(b)samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.

(2Unwaith y bydd cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw wedi ei ganfod, rhagdybir y canrannau canlynol er mwyn cadarnhau maint y nitrogen yn y tail da byw sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo.

Y ganran sydd ar gael

Math o dail da bywMaint y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo
Slyri gwartheg40 %
Slyri moch50 %
Tail dofednod30 %
Tail da byw eraill10 %

(3Mewn perthynas â phob tail organig arall, rhaid i’r meddiannydd gadarnhau cyfanswm y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo, at ddibenion rheoliad 8—

(a)drwy gyfeirio at ddadansoddiadau technegol a ddarperir gan y cyflenwr,

(b)i’r graddau nad oes gwybodaeth o’r fath ar gael, drwy gyfeirio at y gwerthoedd a roddir yn y Canllawiau Rheoli Maethynnau (RB 209)(3), neu

(c)drwy samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.

Terfynau nitrogen uchaf fesul cnwd

10.  Cyfanswm y nitrogen y caniateir ei daenu ar unrhyw gnwd a restrir yn y golofn gyntaf isod yw’r ffigur a roddir yn yr ail golofn isod, wedi ei addasu yn unol â’r nodiadau i’r tabl, ac wedi ei luosi â chyfanswm yr arwynebedd, mewn hectarau, o’r cnwd hwnnw a heuwyd ar y daliad.

Uchafsymiau nitrogen

CnwdMaint y nitrogen a ganiateir (kg)(a)Cynnyrch safonol (tunnell/ha)
(a)

Caniateir 80 kg yr hectar yn ychwanegol ar gyfer pob cnwd a dyfir mewn caeau os dodwyd gwellt neu slwtsh papur ar y cnwd presennol neu’r cnwd blaenorol.

(b)

Caniateir 20 kg yr hectar yn ychwanegol ar gaeau sydd â phridd tenau (ac eithrio priddoedd tenau sy’n gorwedd ar dywodfaen).

(c)

Caniateir 20 kg yr hectar yn ychwanegol am bob tunnell y mae’r cynnyrch disgwyliedig yn uwch na’r cynnyrch safonol.

(d)

Caniateir 40 kg yr hectar yn ychwanegol ar gyfer rhywogaethau o wenith melino.

(e)

Mae hyn yn cynnwys unrhyw nitrogen a ddodir fel esemptiad o’r cyfnod gwaharddedig ar gyfer gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd. Ceir cynyddu’r maint a ganiateir hyd at 30 kg yr hectar am bob hanner tunnell y mae’r cynnyrch disgwyliedig yn uwch na’r cynnyrch safonol.

(f)

Caniateir 40 kg yr hectar yn ychwanegol ar gyfer porfa a dorrir deirgwaith, o leiaf, bob blwyddyn.

Merllys150dd/g
Gwenith a heuir yn yr hydref neu’r gaeaf cynnar220(b) (c) (d)8.0
Betys (coch)350dd/g
Ysgewyll Brwsel350dd/g
Bresych350dd/g
Calabrese350dd/g
Blodfresych350dd/g
Moron150dd/g
Seleri250dd/g
Courgettes250dd/g
Corffa250dd/g
Ffa maes0dd/g
Indrawn porthi150dd/g
Porfa300(f)dd/g
Cennin350dd/g
Letys250dd/g
Winwns250dd/g
Pannas250dd/g
Pys0dd/g
Tatws270dd/g
Radis150dd/g
Ffa dringo250dd/g
Gwenith a heuir yn y gwanwyn180(c) (d)7.0
Haidd y gwanwyn150(c)5.5
Betys siwgrSwêds120dd/g
India-corn250dd/g
Maip250dd/g
Haidd y gaeaf180(b) (c)6.5
Rêp had olew y gaeaf250(e)3.5

RHAN 4Rheoli’r broses o daenu gwrtaith nitrogen

Mapiau risg

11.—(1Rhaid i feddiannydd daliad sy’n taenu tail organig ar y daliad hwnnw gynnal map o’r daliad (“map risg”) yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Os bydd amgylchiadau’n newid, rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r map risg o fewn tri mis i’r newid.

(3Rhaid i’r map risg ddangos—

(a)pob cae, ynghyd â’i arwynebedd mewn hectarau,

(b)yr holl ddyfroedd wyneb,

(c)unrhyw dyllau turio, ffynhonnau neu bydewau sydd ar y daliad neu sydd o fewn 50 metr i ffin y daliad,

(d)y rhannau â phriddoedd tywodlyd neu denau,

(e)tir sydd ar oleddf o fwy na 12°,

(f)tir sydd o fewn 10 metr i ddyfroedd wyneb,

(g)tir sydd o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew,

(h)draeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi ei selio);

(i)safleoedd sy’n addas ar gyfer tomenni dros dro mewn caeau os bwriedir defnyddio’r dull hwn o storio tail, a

(j)tir y mae’r risg o oferu drosto yn isel (mae hyn yn ddewisol i feddiannydd nad yw’n bwriadu taenu tail ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel yn ystod y cyfnod storio yn unol â rheoliad 29).

(4Os yw meddiannydd yn taenu tail organig drwy ddefnyddio cyfarpar taenu manwl hyd at 6 metr oddi wrth ddŵr wyneb fel y caniateir gan reoliad 14(1), rhaid i’r map risg nodi’r tir sydd o fewn 6 metr i ddyfroedd wyneb.

(5Rhaid i’r meddiannydd gadw copi o’r map risg.

Pryd i daenu gwrtaith

12.—(1Rhaid i feddiannydd sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gynnal arolygiad o’r caeau yn gyntaf, er mwyn ystyried y risg y gallai nitrogen fynd i mewn i ddŵr wyneb.

(2Ni chaiff unrhyw berson daenu gwrtaith nitrogen ar y tir hwnnw os oes risg sylweddol y byddai nitrogen yn mynd i mewn i ddŵr wyneb, gan gymryd i ystyriaeth yn benodol—

(a)goleddf y tir, yn enwedig os yw’r goleddf yn fwy na 12°,

(b)unrhyw orchudd tir,

(c)pa mor agos yw’r tir at ddŵr wyneb,

(d)yr amodau tywydd,

(e)y math o bridd, ac

(f)presenoldeb draeniau tir.

(3Ni chaiff unrhyw berson daenu gwrtaith nitrogen os yw’r pridd yn ddyfrlawn, dan ddŵr, wedi ei orchuddio ag eira, wedi rhewi neu os oedd y pridd wedi rhewi am fwy na 12 awr yn ystod y 24 awr flaenorol.

Taenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd ger dŵr wyneb

13.  Ni chaiff unrhyw berson daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd o fewn 2 fetr i ddŵr wyneb.

Taenu tail organig ger dŵr wyneb, tyllau turio, ffynhonnau neu bydewau

14.—(1Ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb oni ddefnyddir cyfarpar taenu manwl, ac yn yr achos hwnnw ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 6 metr i ddŵr wyneb.

(2Ond caniateir taenu tail da byw yno (ac eithrio slyri a thail dofednod)—

(a)os taenir ef ar dir a reolir ar gyfer bridio adar hirgoes neu fel glaswelltir lled-naturiol cyfoethog ei rywogaethau ac os yw’r tir—

(i)yn dir yr hysbyswyd ei fod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(4), neu

(ii)yn ddarostyngedig i ymrwymiad amaeth-amgylcheddol a wnaed o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005(5), neu Reoliad (EU) 1305/2013(6),

(b)os taenir ef rhwng 1 Mehefin a 31 Hydref yn gynwysedig,

(c)os na thaenir ef yn uniongyrchol ar ddŵr wyneb, a

(d)os nad yw’r cyfanswm blynyddol yn fwy na 12.5 tunnell yr hectar.

(3Ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew.

(4At ddibenion y rheoliad hwn diffinnir “cyfarpar taenu manwl” fel system gwadnau llusg, bar diferion neu chwistrellydd.

Rheoli’r modd y taenir gwrtaith nitrogen

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i unrhyw berson sy’n taenu slyri ddefnyddio cyfarpar taenu sydd â thaflwybr taenu isel, sef is na 4 metr o’r ddaear.

(2Caniateir defnyddio cyfarpar taenu sydd â thaflwybr taenu sy’n fwy na 4 metr o’r ddaear ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel pan fydd cyfarpar o’r fath yn gallu cyflawni cyfartaledd cyflymder dodi slyri heb fod yn fwy na 2 mm yr awr pan fydd wrthi’n gweithredu’n ddi-dor.

(3Rhaid i unrhyw berson sy’n taenu gwrtaith nitrogen ei daenu mor fanwl gywir ag y bo modd.

Corffori tail organig yn y ddaear

16.—(1Rhaid i unrhyw berson sy’n dodi tail organig ar wyneb pridd moel neu sofl (ac eithrio pridd sydd wedi ei hau) sicrhau y corfforir y tail yn y pridd yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Rhaid corffori tail dofednod cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan hwyraf.

(3Rhaid corffori slyri a hylif slwtsh carthion treuliedig (hynny yw, hylif sy’n dod o drin slwtsh carthion drwy dreulio anerobig) cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan hwyraf, oni ddodwyd y slyri a’r hylif gan ddefnyddio cyfarpar o fath a ddisgrifir yn rheoliad 14(4).

(4Rhaid corffori unrhyw dail organig arall (ac eithrio tail organig a daenir fel tomwellt ar bridd tywodlyd) yn y pridd cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan hwyraf, os yw’r tir o fewn 50 metr i ddŵr wyneb ac yn goleddfu mewn modd a allai achosi goferu i’r dŵr hwnnw.

RHAN 5Cyfnodau gwaharddedig ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen

Ystyr “tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd”

17.  Yn y Rhan hon, ystyr “tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd” yw tail organig y mae mwy na 30 % o gyfanswm y nitrogen sydd ynddo ar gael i’r cnwd ar yr adeg y taenir y tail.

Cyfnodau gwaharddedig ar gyfer taenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd

18.  Yn ddarostyngedig i reoliadau 19 ac 20, ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar dir rhwng y dyddiadau canlynol, sydd bob un ohonynt yn ddyddiadau cynwysedig (“y cyfnod gwaharddedig”)—

Y cyfnod gwaharddedig

Math o BriddGlaswelltirTir tro
Pridd tywodlyd neu denau1 Medi i 31 Rhagfyr1 Awst i 31 Rhagfyr
Pob math arall o bridd15 Hydref i 15 Ionawr1 Hydref i 31 Ionawr

Esemptiadau: cnydau a heuir cyn 15 Medi

19.  Caniateir taenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar dir tro lle mae’r pridd yn dywodlyd neu’n denau rhwng 1 Awst a 15 Medi yn gynwysedig, ar yr amod yr heuir y cnwd ar neu cyn 15 Medi.

Esemptiadau ar gyfer daliadau organig

20.  Caiff meddiannydd daliad sydd wedi cyflwyno ei ymgymeriad i’r system reoli y cyfeirir ati yn Erthygl 27 o Reoliad y Cyngor (EC) 834/2007(7) daenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar unrhyw adeg—

(a)ar gnydau a restrir yn y tabl yn Atodlen 4 (cnydau a ganiateir am y cyfnod gwaharddedig), neu

(b)ar gnydau eraill yn unol â chyngor ysgrifenedig gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau(8),

ar yr amod na fydd pob hectar y mae tail organig yn cael ei daenu arno yn cael mwy na chyfanswm o 150 kg o nitrogen rhwng dechrau’r cyfnod gwaharddedig a diwedd Chwefror.

Cyfyngiadau ar ôl y cyfnod gwaharddedig

21.  O ddiwedd y cyfnod gwaharddedig tan ddiwedd Chwefror—

(a)30 metr ciwbig yr hectar yw’r uchafswm o slyri y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg ac 8 tunnell yr hectar yw’r uchafswm o dail dofednod y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg, a

(b)rhaid bod o leiaf dair wythnos rhwng pob taeniad.

Adegau pan waherddir taenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd

22.—(1Ni chaiff unrhyw berson daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd ar dir yn ystod y cyfnodau canlynol (mae pob dyddiad yn gynwysedig)—

(a)yn achos glaswelltir, o 15 Medi i 15 Ionawr, neu

(b)yn achos tir tro, o 1 Medi i 15 Ionawr.

(2Caniateir taenu gwrtaith yn ystod y cyfnodau hyn ar y cnydau a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4, ar yr amod nad eir dros ben y gyfradd uchaf yng ngholofn 2.

(3Caniateir taenu yn ystod y cyfnodau hyn ar gnydau nad ydynt yn Atodlen 4 ar sail cyngor ysgrifenedig gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau.

RHAN 6Storio tail organig a silwair

Storio tail organig

23.  Rhaid i feddiannydd daliad sy’n storio unrhyw dail organig (ac eithrio slyri), neu unrhyw sarn sydd wedi ei halogi ag unrhyw dail organig, ei storio—

(a)mewn llestr,

(b)mewn adeilad dan do,

(c)ar wyneb anhydraidd, neu

(d)yn achos tail solet y gellir ei bentyrru’n domen ar ei phen ei hun, ac nad oes hylif yn draenio o’r deunydd, ar safle dros dro mewn cae.

Gwneud neu storio silwair

24.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i berson sydd â silwair sy’n cael ei wneud neu ei storio dan ei ofal neu ei reolaeth sicrhau—

(a)bod y silwair yn cael ei gadw mewn seilo sy’n bodloni gofynion Atodlen 5, neu

(b)bod y silwair yn cael ei gywasgu i fyrnau–

(i)sydd wedi eu lapio a’u selio mewn pilennau anhydraidd, neu wedi eu cau mewn bagiau anhydraidd, a

(ii)sydd wedi eu storio o leiaf 10 metr oddi wrth unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol y gallai elifiant sy’n dianc o’r byrnau fynd i mewn iddynt, neu

(c)os mai cnwd yw’r silwair sy’n cael ei wneud yn silwair maes (hynny yw, silwair sy’n cael ei wneud ar dir agored drwy ddull gwahanol i’r dull byrnau y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)), neu os mai silwair sy’n cael ei storio ar dir agored ydyw—

(i)bod CANC yn cael ei hysbysu o’r man lle bydd y silwair yn cael ei wneud neu ei storio o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn defnyddio’r fan honno at y diben hwnnw am y tro cyntaf, a

(ii)bod y fan honno o leiaf 10 metr oddi wrth unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol, ac o leiaf 50 metr oddi wrth fan tynnu dŵr perthnasol agosaf unrhyw ffynhonnell cyflenwi dŵr warchodedig y gallai elifiant silwair fynd i mewn iddynt pe bai’n dianc.

(2At ddibenion paragraff (1)(c)(ii), mae ffynhonnell cyflenwi dŵr yn ffynhonnell cyflenwi dŵr warchodedig—

(a)os oes unrhyw dynnu dŵr perthnasol o’r ffynhonnell wedi ei drwyddedu o dan Ran 2 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(9), neu

(b)os yw’r person sy’n gwneud neu’n storio’r silwair yn ymwybodol o leoliad y ffynhonnell—

(i)cyn dechrau ar wneud y silwair, neu

(ii)os gwnaed y silwair mewn man arall, cyn ei storio ar y tir dan sylw.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i silwair tra ei fod yn cael ei storio dros dro mewn cynhwysydd, ôl-gerbyd neu gerbyd mewn cysylltiad â’i gludo o gwmpas y fferm neu fan arall.

(4Ni chaiff person sydd â bwrn silwair dan ei ofal neu ei reolaeth agor na symud ymaith yr hyn sy’n lapio’r bwrn o fewn 10 metr i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol y gallai elifiant silwair, o ganlyniad, fynd i mewn iddynt.

(5Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “tynnu dŵr perthnasol” yw tynnu dŵr ar gyfer ei ddefnyddio—

(i)i’w yfed gan bobl, neu

(ii)at ddibenion domestig (o fewn yr ystyr a roddir i “domestic purposes” gan adran 218 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(10)) heblaw at ei yfed gan bobl, neu

(iii)i weithgynhyrchu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w yfed gan bobl, a

(b)ystyr “ffynhonnell cyflenwi dŵr” yw dyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd daear y tynnir dŵr perthnasol ohonynt neu y trwyddedir tynnu dŵr perthnasol ohonynt.

Storio slyri

25.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i berson sydd â slyri dan ei ofal neu ei reolaeth feddu ar system storio slyri sy’n bodloni gofynion Atodlen 6, a rhaid storio’r slyri yn y system honno.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i slyri tra bo’n cael ei storio dros dro mewn tancer sy’n cael ei ddefnyddio i gludo slyri ar ffyrdd neu o gwmpas fferm.

Esemptiadau i’r gofynion storio

26.—(1Nid yw rheoliadau 24(1) a 25(1) yn gymwys i seilo neu system storio slyri—

(a)a ddefnyddid, cyn 1 Mawrth 1991, at y diben o wneud silwair neu storio slyri,

(b)onis defnyddid cyn 1 Mawrth 1991 at y diben hwnnw, a adeiladwyd cyn y dyddiad hwnnw ar gyfer y defnydd hwnnw, neu

(c)yr oedd, mewn perthynas ag ef neu hi–

(i)contract wedi ei wneud cyn 1 Mawrth 1991 i adeiladu, ehangu’n sylweddol neu ailadeiladu’n sylweddol y seilo neu’r system storio slyri, a

(ii)gwaith o’r fath wedi cychwyn cyn y dyddiad hwnnw, ac

yn y naill achos neu’r llall fod y gwaith wedi ei gwblhau cyn 1 Medi 1991.

Safleoedd dros dro mewn caeau

27.—(1Ni chaiff safle dros dro mewn cae bod—

(a)mewn cae sy’n agored i lifogydd neu fynd yn ddyfrlawn,

(b)o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew neu o fewn 10 metr i ddŵr wyneb neu ddraen tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi ei selio),

(c)mewn unrhyw un lleoliad am fwy na 12 mis yn olynol, neu

(d)yn yr un man ag un cynharach a adeiladwyd o fewn y ddwy flynedd diwethaf.

(2Rhaid i unrhyw dail dofednod solet, nad oes sarn yn gymysg ag ef ac sy’n cael ei storio ar safle dros dro mewn cae, gael ei orchuddio â deunydd anhydraidd.

(3Yn ychwanegol—

(a)ni chaniateir symud uwchbridd o’r tir lle y bwriedir adeiladu safle dros dro mewn cae,

(b)ni chaiff safle dros dro mewn cae bod o fewn 30 metr i gwrs dŵr ar dir y nodir ar y map risg fod ei oleddf yn fwy na 12°, ac

(c)rhaid cadw arwyneb unrhyw safle dros dro mewn cae mor fach ag y bo’n rhesymol ymarferol, er mwyn lleihau effeithiau trwytholchi gan ddŵr glaw.

Gwahanu slyri

28.  Rhaid i’r broses o wahanu slyri i’w ffracsiynau solet a hylifol gael ei chyflawni’n fecanyddol neu ar wyneb anhydraidd lle mae’r ffracsiwn hylifol yn draenio i mewn i gynhwysydd addas.

Gofod ar gyfer storio

29.—(1Rhaid i feddiannydd daliad sy’n cadw unrhyw un o’r anifeiliaid a bennir yn Atodlen 1 ddarparu digon o ofod i storio’r holl slyri a gynhyrchir ar y daliad yn ystod y cyfnod storio, a’r holl dail dofednod a gynhyrchir mewn buarth neu adeilad ar y daliad yn ystod y cyfnod storio.

(2Rhaid cyfrifo cyfaint y tail a gynhyrchir gan yr anifeiliaid ar y daliad yn unol ag Atodlen 1.

(3Rhaid bod gan storfa slyri y gofod i storio, yn ychwanegol at y tail, unrhyw ddŵr glaw, golchion neu hylif arall sy’n dod i mewn i’r llestr (naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) yn ystod y cyfnod storio.

(4Nid yw cyfleusterau storio’n angenrheidiol ar gyfer slyri na thail dofednod—

(a)a anfonir oddi ar y daliad, neu

(b)a daenir ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel (ar yr amod bod hyn yn cael ei wneud yn unol â’r cyfyngiadau ar daenu yn y Rheoliadau hyn); ond yn yr achos hwn rhaid darparu cyfleusterau storio ar gyfer gwerth wythnos ychwanegol o dail fel mesur wrth gefn pe na bai’n bosibl taenu ar rai dyddiadau.

(5At ddibenion y rheoliad hwn y “cyfnod storio” (mae pob dyddiad yn gynwysedig) yw—

(a)y cyfnod rhwng 1 Hydref ac 1 Ebrill ar gyfer moch a dofednod;

(b)y cyfnod rhwng 1 Hydref ac 1 Mawrth ym mhob achos arall.

Hysbysiad yn gwneud gwaith etc. yn ofynnol

30.—(1Caiff CANC, o dan amgylchiadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad rheoliad 30”) i berson sydd â silwair neu slyri dan ei ofal neu ei reolaeth, neu sydd yn gyfrifol am y seilo, neu’r system storio slyri, yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw wneud gwaith, neu gymryd rhagofalon neu gamau eraill, a bennir yn yr hysbysiad.

(2Rhaid i’r gwaith, y rhagofalon neu’r camau eraill fod, ym marn CANC, yn briodol, o ystyried gofynion y Rheoliadau hyn, er mwyn lleihau i’r eithaf unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd a reolir.

(3Rhaid i’r hysbysiad—

(a)pennu neu ddisgrifio’r gwaith y mae’n ofynnol i’r person ei wneud neu’r rhagofalon neu’r camau eraill y mae’n ofynnol iddo eu cymryd,

(b)datgan y cyfnod y mae rhaid cydymffurfio ag unrhyw ofyniad o’r fath o’i fewn, ac

(c)hysbysu’r person am effaith rheoliad 31.

(4Y cyfnod i gydymffurfio a ddatgenir yn yr hysbysiad yw—

(a)28 niwrnod, neu

(b)unrhyw gyfnod hwy sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau.

(5Rhaid i berson y cyflwynwyd iddo hysbysiad rheoliad 30 gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad hwnnw.

(6Caiff CANC ar unrhyw adeg (gan gynnwys adeg ar ôl i’r cyfnod i gydymffurfio ddod i ben)—

(a)tynnu’r hysbysiad yn ei ôl,

(b)estyn y cyfnod i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn yr hysbysiad, neu

(c)gyda chydsyniad y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, addasu gofynion yr hysbysiad.

(7Rhaid i CANC dynnu’r hysbysiad yn ei ôl, estyn y cyfnod i gydymffurfio, neu addasu gofynion yr hysbysiad os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 31(5).

Apelau yn erbyn hysbysiadau rheoliad 30

31.—(1Caiff person y cyflwynwyd iddo hysbysiad rheoliad 30, o fewn cyfnod o 28 niwrnod sy’n dechrau drannoeth y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo (neu unrhyw gyfnod hwy a ganiateir gan Weinidogion Cymru), apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad.

(2Rhaid i apêl o dan y rheoliad hwn gael ei gwneud drwy i’r apelydd gyflwyno hysbysiad i Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o sail yr apêl neu rhaid i ddatganiad o’r fath ddod gydag ef.

(4Cyn penderfynu ar apêl o dan y rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru, os gofyn yr apelydd neu CANC iddynt wneud hynny, roi cyfle i’r apelydd neu CANC ymddangos ger eu bron a chael gwrandawiad gan berson a benodwyd gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.

(5Wrth benderfynu ar apêl o dan y rheoliad hwn, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo CANC—

(a)i dynnu’r hysbysiad rheoliad 30 yn ei ôl,

(b)i addasu unrhyw un neu ragor o’i ofynion,

(c)i estyn y cyfnod i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad, neu

(d)i wrthod yr apêl.

(6Estynnir y cyfnod i gydymffurfio â hysbysiad rheoliad 30 y gwnaed apêl yn ei erbyn, yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (5), fel ei fod yn dod i ben ar y dyddiad pan fydd Gweinidogion Cymru’n penderfynu’n derfynol ar yr apêl neu, os tynnir yr apêl yn ei hôl, ar ddyddiad ei thynnu’n ôl.

Hysbysiad o adeiladu etc.

32.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw seilo neu system storio slyri y mae ei adeiladu neu ei hadeiladu i ddechrau ar neu ar ôl 28 Ebrill 2021 (“storfa newydd neu storfa wedi ei gwella”).

(2Rhaid i berson sy’n bwriadu cael silwair neu slyri dan ei ofal neu ei reolaeth, a hwnnw i gael ei gadw mewn storfa newydd neu storfa wedi ei gwella, roi i CANC hysbysiad yn pennu’r math o seilo neu system storio a’i leoliad neu ei lleoliad, o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn y mae gwaith adeiladu’r storfa newydd neu storfa wedi ei gwella, i ddechrau.

(3Yn y rheoliad hwn, mae “adeiladu” yn cynnwys ehangu’n sylweddol ac ailadeiladu’n sylweddol.

RHAN 7Cyfrifiadau a chofnodion

Cofnodi maint y daliad

33.—(1Rhaid i feddiannydd daliad gynnal cofnod o faint cyfan y daliad wedi ei gyfrifo’n unol â rheoliad 4(3).

(2Os bydd maint y daliad yn newid, rhaid diweddaru’r cofnod hwn o fewn un mis.

Cofnodion ynglŷn â storio tail yn ystod y cyfnod storio

34.—(1Rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gynnal cofnod o’r canlynol—

(a)maint y tail y bydd y nifer disgwyliedig o anifeiliaid yn ei gynhyrchu, a gedwir mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 29, gan ddefnyddio’r ffigurau yn Atodlen 1;

(b)maint y gofod storio (llestri slyri a lloriau caled) y mae ei angen i’w gwneud yn bosibl cydymffurfio â rheoliad 29, gan gymryd i ystyriaeth—

(i)maint y tail y bwriedir ei allforio o’r daliad,

(ii)maint y tail y bwriedir ei daenu ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel, a

(iii)yn achos llestr i ddal slyri, maint yr hylif ac eithrio slyri sy’n debygol o fynd i mewn i’r llestr;

(c)maint cyfredol y gofod storio ar y daliad.

(2Rhaid i feddiannydd sy’n dod ag anifeiliaid i ddaliad am y tro cyntaf gydymffurfio â pharagraff (1) o fewn mis ar ôl dod â’r anifeiliaid yno.

(3Os yw maint y gofod storio yn newid, rhaid i’r meddiannydd gofnodi’r newid o fewn wythnos.

Cofnodion blynyddol ynglŷn â storio

35.—(1Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gofnodi, am y cyfnod storio blaenorol y cyfeirir ato yn rheoliad 29, nifer a chategori’r anifeiliaid mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio.

(2Rhaid i’r meddiannydd gofnodi hefyd y safleoedd a ddefnyddiwyd ar gyfer tomenni mewn caeau a dyddiadau eu defnyddio.

Cofnod o’r nitrogen a gynhyrchwyd gan anifeiliaid ar y daliad

36.—(1Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o’r canlynol—

(a)nifer a chategori (yn unol â’r categorïau yn Atodlen 1) yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol, a

(b)nifer y diwrnodau a dreuliodd pob anifail ar y daliad.

(2Rhaid i’r meddiannydd gyfrifo wedyn faint y nitrogen sydd yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno gan ddefnyddio’r Tabl yn Atodlen 1.

(3Fel arall, yn achos moch neu ddofednod a letyir yn barhaol, caiff y meddiannydd ddefnyddio—

(a)meddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru, neu

(b)yn achos system cadw da byw sy’n cynhyrchu tail solet yn unig, dulliau samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.

(4Rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o’r cyfrifiadau a’r modd y cyrhaeddwyd at y ffigurau terfynol.

(5Rhaid i feddiannydd a ddefnyddiodd feddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru gadw allbrint o’r canlyniad.

Tail da byw a ddygwyd i’r daliad neu a anfonwyd ohono

37.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i feddiannydd sy’n dod â thail da byw i’r daliad gofnodi, o fewn un wythnos—

(a)math a maint y tail da byw,

(b)y dyddiad y daethpwyd â’r tail da byw i’r daliad,

(c)maint y nitrogen sydd ynddo, a

(d)os yw’n hysbys, enw a chyfeiriad y cyflenwr.

(2Rhaid i feddiannydd sy’n anfon tail da byw o ddaliad gofnodi o fewn un wythnos—

(a)math a maint y tail da byw,

(b)y dyddiad y’i hanfonwyd o’r daliad,

(c)maint y nitrogen sydd ynddo,

(d)enw a chyfeiriad y derbynnydd, ac

(e)manylion cynllun wrth gefn sydd i’w ddefnyddio pe bai cytundeb i berson dderbyn y tail da byw yn methu.

(3Os nad yw maint y nitrogen sydd yn y tail da byw a ddygir i’r daliad yn hysbys, rhaid i’r meddiannydd ganfod y maint hwnnw cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi i’r tail gyrraedd, a’i gofnodi o fewn un wythnos o’i ganfod.

(4Rhaid canfod maint cyfan y nitrogen sydd yn y tail da byw drwy ddefnyddio naill ai’r ffigurau safonol yn Rhan 1 o Atodlen 3 neu drwy samplu a dadansoddi yn y modd a nodir yn Rhan 2 o’r Atodlen honno.

Samplu a dadansoddi

38.  Rhaid i unrhyw berson sy’n defnyddio samplu a dadansoddi i ganfod maint y nitrogen mewn tail organig gadw’r adroddiad gwreiddiol gan y labordy.

Cofnodion o’r cnydau a heuwyd

39.  Rhaid i feddiannydd sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gofnodi, o fewn wythnos i hau cnwd—

(a)y cnwd a heuir, a

(b)dyddiad ei hau.

Cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen

40.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), o fewn un wythnos i daenu tail organig rhaid i’r meddiannydd gofnodi—

(a)y rhan y taenwyd y tail organig arni;

(b)faint o dail organig a daenwyd;

(c)y dyddiad neu’r dyddiadau;

(d)y dulliau o’i daenu;

(e)y math o dail organig;

(f)cyfanswm y nitrogen sydd ynddo;

(g)maint y nitrogen oedd ar gael i’r cnwd.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), o fewn un wythnos i daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd rhaid i’r meddiannydd gofnodi—

(a)dyddiad ei daenu, a

(b)maint y nitrogen a daenwyd.

(3Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i feddiannydd daliad mewn unrhyw flwyddyn galendr pan fo 80 % o arwynebedd amaethyddol y daliad wedi ei hau â phorfa, ac—

(a)nad yw cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifeiliaid neu o ganlyniad i daenu, yn fwy na 100 kg yr hectar,

(b)nad yw cyfanswm y nitrogen mewn gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddodir ar y daliad yn fwy na 90 kg yr hectar, ac

(c)nad yw’r meddiannydd yn dod ag unrhyw dail organig i’r daliad.

Cofnodion dilynol

41.—(1Rhaid i feddiannydd sydd wedi defnyddio gwrtaith nitrogen gofnodi’r cynnyrch a gafwyd o gnwd âr o fewn wythnos i ganfod y cynnyrch hwnnw.

(2Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd gofnodi sut y cafodd unrhyw laswelltir ei reoli yn y flwyddyn galendr flaenorol.

Cadw cyngor

42.  Rhaid i feddiannydd gadw copi o unrhyw gyngor gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau, ac y dibynnwyd arno at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau hyn, am bum mlynedd.

Dal gafael ar gofnodion

43.  Rhaid i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo wneud cofnod o dan y Rheoliadau hyn gadw’r cofnod hwnnw am bum mlynedd.

RHAN 8Monitro ac adolygu

Monitro ac adolygu

44.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu rhaglen fonitro i asesu effeithiolrwydd y mesurau a osodir gan y Rheoliadau hyn fel modd i leihau neu atal llygredd dŵr o ffynonellau amaethyddol.

(2O leiaf bob pedair blynedd, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu effeithiolrwydd y mesurau a osodir gan y Rheoliadau hyn fel modd i leihau neu atal llygredd dŵr o ffynonellau amaethyddol ac, os yw’n angenrheidiol, eu diwygio.

(3Wrth gynnal adolygiad o dan baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—

(a)y data gwyddonol a thechnegol sydd ar gael, gan gyfeirio’n benodol at y priod gyfraniadau nitrogen sy’n dod o ffynonellau amaethyddol a ffynonellau eraill, a

(b)amodau amgylcheddol rhanbarthol.

Mesurau amgen

45.—(1Os ceir cynigion ar gyfer cyfres amgen o fesurau i sicrhau’r canlyniadau yn rheoliad 44(1) o fewn 18 mis i ddyfodiad i rym y Rheoliadau hyn, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried a fyddai’r mesurau hynny’n sicrhau’r canlyniadau yn fwy effeithiol na’r mesurau a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn.

(2Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y byddai cynigion a gyflwynwyd o dan baragraff (1) yn fwy effeithiol i sicrhau’r canlyniadau yn rheoliad 44(1), rhaid iddynt gyhoeddi datganiad o fewn dwy flynedd i ddyfodiad i rym y Rheoliadau hyn, gan esbonio pa gamau a gymerir.

RHAN 9Gorfodi

Troseddau a chosbau

46.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn euog o drosedd ac yn agored o’i euogfarnu’n ddiannod, neu o’i euogfarnu ar dditiad, i ddirwy.

(2Mae person sy’n torri rheoliad 32 yn euog o drosedd a bydd yn agored o’i euogfarnu’n ddiannod i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 2 ar y raddfa safonol.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo corff corfforedig yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y drosedd honno wedi ei chyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforedig, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o’r fath,

bydd y person hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforedig, yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(4Nid yw paragraff (3) yn gymwys i unrhyw doriadau o dan reoliadau 24(1), 24(4), 25(1), 30(5) neu 32.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforedig y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforedig.

Gorfodi

47.  Gorfodir y Rheoliadau hyn gan CANC.

RHAN 10Amrywiol

Dirymu

48.—(1Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair a Slyri) (Cymru) 2010(11) wedi eu dirymu fel a ganlyn—

(a)mewn perthynas â daliad neu ran o ddaliad a oedd wedi ei leoli neu wedi ei lleoli mewn parth perygl nitradau fel a ddangosir ar y map perthnasol o’r enw “Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2013”(12), ar 1 Ebrill 2021;

(b)mewn perthynas â phob daliad arall—

(i)rheoliadau 3 a 9 ar 1 Ebrill 2021;

(ii)pob darpariaeth sy’n weddill ar 1 Awst 2024.

(2Mae’r canlynol wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013;

(b)Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2015(13);

(c)Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2019(14).

Diwygiadau canlyniadol

49.—(1Yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016(15), yn Atodlen 2, ym mharagraff 17(b), yn lle “the Nitrate Pollution Prevention (Wales) Regulations 2013” rhodder “the Water Resources (Control of Agricultural Pollution) (Wales) Regulations 2021”.

(2Yn Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017(16), yn Rhan 2 o Atodlen 2—

(a)yn lle paragraff 21 rhodder—

21.  The Water Resources (Control of Agricultural Pollution) (Wales) Regulations 2021.;

(b)yn lle paragraff 24 rhodder—

24.  The Water Resources (Control of Agricultural Pollution) (Wales) Regulations 2021.

(3Yn Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau (Cymru a Lloegr) 2017(17), yn rheoliad 104, hepgorer paragraff (1)(b) a’r “neu” o’i flaen.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

21 Ionawr 2021

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill