Gallwch weld yr holl ddeddfwriaeth coronafeirws ar legislation.gov.uk. Byddwn yn cyhoeddi’r holl ddeddfwriaeth coronafeirws cyn gynted â phosibl ac yn ei chadw yn gyfredol. Rydym wedi amlygu rhai darnau allweddol o ddeddfwriaeth coronafeirws ar y dudalen hon.
Sut i gael gwybod beth yw’r rheolau coronafeirws
Os ydych am gael gwybod beth yw eich ymrwymiadau cyfreithiol, rydych yn y lle iawn – mae legislation.gov.uk yn cynnwys y gyfraith y mae’n rhaid i chi ei dilyn. Os ydych yn chwilio am gyfarwyddyd ar y ffordd orau i gadw’n ddiogel a helpu i reoli lledaeniad coronafeirws, bydd angen i chi edrych ar GOV.UK, a, phan fydd yn berthnasol, gwefannau’r llywodraeth ar gyfer yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Bydd darllen y ddeddfwriaeth A’R cyfarwyddyd gan y llywodraeth yn eich helpu i ddeall materion gan gynnwys:
- ble a phryd y gallwch gyfarfod ag eraill;
- y cyfyngiadau lleol sy’n berthnasol yn eich ardal chi;
- pryd y mae angen i chi hunanynysu ar ôl teithio yn rhyngwladol; a
- sut i gael cefnogaeth ariannol.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng deddfwriaeth a chyfarwyddyd?
Er mwyn cael gwybod yn union beth yw’r rheolau yn ystod y pandemig coronafeirws, mae angen i chi edrych ar ddeddfwriaeth a chyfarwyddyd y llywodraeth. Mae’r ddeddfwriaeth yn nodi’r ymrwymiadau cyfreithiol a’r cyfyngiadau y gellir eu gorfodi trwy’r gyfraith. Os nad ydych yn cadw at y ddeddfwriaeth rydych yn torri’r gyfraith. Mae cyfarwyddyd a chyngor yn debygol o fod yn seiliedig ar ddeddfwriaeth (ac felly bydd yn rhwymol yn gyfreithiol) a gall gynnig y ffordd orau neu fwyaf priodol o gadw at y gyfraith.
Y gyfraith yw’r hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud; gall y cyfarwyddyd fod yn gymysgedd o’r hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud a’r hyn y dylech ei wneud.
Darnau allweddol o ddeddfwriaeth coronafeirws
Mae’r ddeddfwriaeth yn gwahaniaethu gan ddibynnu ar ba ran o’r Deyrnas Unedig yr ydych ynddo. Lluniwyd y ddeddfwriaeth coronafeirws yn ôl y modd y mae’n berthnasol yn Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon a dyna sut yr ydym wedi ei drefnu ar y dudalen hon. Mae’r rhan fwyaf o ddeddfwriaeth coronafeirws yn ddeddfwriaeth eilaidd, sydd wedi cael ei gwneud dan bwerau a nodir mewn deddfwriaeth sylfaenol.
Mae dwy eitem o ddeddfwriaeth sylfaenol yn cynnwys pwerau argyfwng yn ymwneud â choronafeirws a diogelu iechyd yn Lloegr.
Mae dwy eitem o ddeddfwriaeth sylfaenol yn cynnwys pwerau argyfwng yn ymwneud â choronafeirws a diogelu iechyd yng Nghymru.
Mae’r rheoliadau yma yn nodi’r cyfyngiadau cyfredol yng Nghymru.
Mae pedair eitem o ddeddfwriaeth sylfaenol yn cynnwys pwerau argyfwng yn ymwneud â choronafeirws a diogelu iechyd yn yr Alban.
- Deddf Coronafeirws 2020 (c. 7)
- Deddf Coronafeirws (Yr Alban) 2020 (asp 7)
- Deddf Coronafeirws (Yr Alban) (Rhif 2) 2020 (asp 10)
- Deddf Iechyd Cyhoeddus ac ati (Yr Alban) 2008 (asp 5)
Mae’r rheoliadau yma yn nodi’r cyfyngiadau cyfredol yn yr Alban
Mae dwy eitem o ddeddfwriaeth sylfaenol yn cynnwys pwerau argyfwng yn ymwneud â choronafeirws a diogelu iechyd yng Ngogledd Iwerddon.
Chwilio am ddeddfwriaeth coronafeirws
Rydym wedi rhestru’r darnau allweddol o ddeddfwriaeth coronafeirws, ond nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysol. Gallwch chwilio i ddod o hyd i’r holl ddeddfwriaeth eilaidd gyda ‘coronavirus’ yn y teitl. Er mwyn gwneud y rhestr yma yn haws ei darllen, nid yw’r canlyniadau chwilio hyn yn cynnwys unrhyw ddeddfwriaeth yn deillio o’r UE.
Gallwch hefyd chwilio am ddeddfwriaeth sy’n deillio o’r UEgyda 'coronavirus’ yn y teitl.
Fel arall, efallai y byddwch am weld canlyniadau ar gyfer yr holl ddeddfwriaeth eilaidd gyda ‘health protection’ yn y teitl.
Chwilio eich hun am ddeddfwriaeth coronafeirws
Er mwyn mireinio eich chwiliad, gallwch ddefnyddio pedwar o baramedrau chwilio - teitl, blwyddyn, rhif a’r math o ddeddfwriaeth. Gallwch ddefnyddio’r paramedrau hyn (ffig. 1) ble bynnag yr ydych ar legislation.gov.uk. Mwyaf penodol fydd eich chwiliad, lleiaf yn y byd o ganlyniadau fydd yn cael eu cynnig, gan ei gwneud yn haws i ddod o hyd i’r canlyniadau mwyaf addas.

Ffig. 1 – chwilio legislation.gov.uk
Mireiniwch eich canlyniadau ymhellach gan ddefnyddio chwiliad uwch
Mae’r chwiliad uwch yn gadael i chi fireinio eich chwiliadau ymhellach, gyda pharamedrau chwilio ychwanegol gan gynnwys iaith a geiriau allweddol yn y cynnwys.
Enghraifft o chwiliad uwch ar cyfyngiadau teithio rhyngwladol yn ymwneud â choronafeirws yng Nghymru | |
---|---|
Teitl: | coronavirus |
Geiriau allweddol yn y cynnwys: | "International Travel" |
Math: | Select types > Wales Statutory Instruments |
Gweld canlyniadau’r chwiliad hwn |
Newidiadau i ddeddfwriaeth coronafeirws
Mae llawer o’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â choronafeirws yn cael ei diwygio gan ddeddfwriaeth ddilynol, yn aml weithiau. Er enghraifft, mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Pob Haen) (Lloegr) 2020 (S.I. 2020/568) wedi cael eu newid nifer o weithiau i ddiwygio’r rhestr o wledydd sy’n cael eu heithrio.
Pan gyhoeddir eitem newydd o ddeddfwriaeth, rydym yn casglu’r holl newidiadau y mae’n eu gwneud i’r ddeddfwriaeth sy’n bodoli, ac rydym yn cyhoeddi’r newidiadau hyn ar ein Tudalen Newidiadau i Ddeddfwriaeth. Yna rydym yn gwneud y newidiadau hynny i’r ddeddfwriaeth coronafeirws sy’n bodoli, fel arfer cyn pen ychydig ddyddiau ar ôl i’r newidiadau ddod i rym. Os na fydd newidiadau wedi cael eu gweithredu eto i’r testun, rydym yn nodi hynny mewn blwch coch ar frig y ddeddfwriaeth. Wrth glicio ar y blwch coch hwn, fe welwch y newidiadau sydd heb eu gwneud.
Deall deddfwriaeth coronafeirws
Mae rhai o’r newidiadau a wneir i ddeddfwriaeth yn rhai dros dro, neu â chyfyngiad ar eu gweithrediad. Rydym wedi ceisio gwneud hyn mor glir â phosibl, ond i ddeall y ddeddfwriaeth yn iawn bydd arnoch hefyd angen darllen yr anodiadau ar y ddeddfwriaeth.
Ychwanegir yr anodiadau gan ein tîm golygyddol wrth ddiwygio’r ddeddfwriaeth ac maent yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am gyd-destun y newid. Maent yn rhoi’r awdurdod ar gyfer y newid, ac yn cynnwys manylion y ddeddfwriaeth sy’n diwygio, gan gynnwys pryd y daeth y diwygiad i rym.
Mae anodiadau yn ymddangos ar waelod darpariaeth, neu dan y pennawd cysylltiedig os yw’n cyfeirio at raniad ar lefel uwch (ffig. 2).

Ffig. 2 - anodiadau ar ddarn o ddeddfwriaeth
Darllen dogfennau cysylltiedig
Efallai y byddwch hefyd yn ei chael yn ddefnyddiol darllen y Nodiadau Esboniadol, Nodiadau Polisi neu Femoranda Esboniadol i’r ddeddfwriaeth gan eu bod wedi eu hysgrifennu yn benodol i esbonio beth mae’r ddeddfwriaeth yn anelu at ei wneud yn glir. Gallwch ddod o hyd i’r rhain dan y tab ‘Rhagor o Adnoddau’ (ffig. 3).

Ffig. 3 – enghraifft o’r tabiau sy’n ymddangos ar ddarn o ddeddfwriaeth
Deddfwriaeth a ddiddymwyd
Weithiau mae deddfwriaeth coronafeirws yn cael ei diddymu, ei dileu neu yn dod i ben. Bydd deddfwriaeth sydd wedi ei diddymu yn ymddangos yn eich canlyniadau chwilio, ond bydd yn dweud ‘diddymwyd’ yn y teitl. Mae wedi ei diddymu yn golygu nad oes gan y ddeddfwriaeth rym cyfreithiol, oni bai bod unrhyw arbediadau wedi eu gwneud. Os oes arbediadau (rhannau o’r ddeddfwriaeth sy’n parhau i fod â grym cyfreithiol ar gyfer rhai dibenion), bydd y rhain wedi eu cofnodi yn yr anodiadau.
Hysbysiadau cyfreithiol eraill
Legislation.gov.uk yw’r lle i ddod o hyd i’r holl ddeddfwriaeth coronafeirws. Ond bydd rhai awdurdodau yn defnyddio peirianwaith gwahanol i wneud newidiadau dros dro i’r gyfraith sy’n ymwneud â choronafeirws, neu i ysgogi cychwyn neu ohirio newidiadau cyfreithiol. Gall hyn gael ei wneud trwy gyfarwyddyd, dynodiad neu hysbysiad. Cyhoeddir hysbysiadau o’r math hwn, sy’n cael effaith gyfreithiol yn The Gazette.