Ymholiadau Deddfwriaeth, Ymchwil Cyfreithiol, Dehongli a Chyngor
Nid ydym yn llunio deddfwriaeth ac ni allwn roi cyngor cyfreithiol ar ddehongli unrhyw ddeddfwriaeth sydd ar gael ar y wefan hon na chynghori ar faterion gweinyddol. Nid ydym chwaith yn gwneud gwaith ymchwil ar ran defnyddwyr.
Byddem yn eich cynghori i gysylltu âr adran o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am y ddeddfwriaeth yr ydych yn holi amdani neu ymweld â Chyngor ar Bopeth sy’n rhoi cyngor a gwybodaeth am ddim am ddeddfwriaeth a materion cyfreithiol. Gweler yr adrannau Help gyda Deddfwriaeth a Sut y gallaf gael at ddeddfwriaeth nad yw ar gael ar legislation.gov.uk? ar ein tudalennau Help. Mae gwefan GOV.UK hefyd yn cynnig digonedd o wybodaeth am amrywiaeth o bynciau a allai gynorthwyo gydag ymholiadau o’r fath.
Apeliadau Fisa – Peidiwch â chyflwyno apeliadau fisa i ni os gwelwch yn dda. Os cawsoch eich cyfeirio at legislation.gov.uk yng nghyswllt cais am fisa, roedd hynny er mwyn i chi gyfeirio at y seiliau y gallwch eu defnyddio i apelio arnynt, nid i gyflwyno’r apêl ei hun. Gallwch gael gwybodaeth a manylion cyswllt am y broses apelio yn yr adran Dinasyddiaeth o wefan GOV.UK.
Ymholiadau ac Adborth o’r Wefan
Ein rôl yw cyhoeddi’r fersiynau o ddeddfwriaeth a ddeddfwyd ac a ddiwygiwyd, mewn print ac ar-lein, a gallwn gynorthwyo defnyddwyr y wefan gydag ymholiadau’n gysylltiedig â’r gweithgareddau hyn – anfonwch e-bost at: legislation@nationalarchives.gov.uk gyda’ch ymholiad a bydd aelod o’n tîm yn ymateb ichi cyn gynted â phosibl. Ar gyfer ymholiadau ynghylch prynu deddfwriaeth brintiedig neu gyhoeddiadau swyddogol eraill gweler yr adran ynghylch Prynu Deddfwriaeth ymhellach i lawr y dudalen hon.
Rydym yn croesawu adborth gan ddefnyddwyr, os yw’n gadarnhaol neu’n negyddol, ar y wefan legislation.gov.uk ac rydym yn defnyddio hwn i goethi a datblygu ein gwasanaeth ymhellach. Defnyddiwch y ddolen ddilynol os dymunwch wneud sylwadau ar y gwasanaeth, adrodd am broblem, awgrymu gwelliant i’r dyfodol neu gysylltu â’r “gwefeistr” – legislation.gov.uk Feedback.
Sylwer os gwelwch yn dda mai dim ond gydag ymholiadau Saesneg y gallwn gynorthwyo.
Gwneud ymholiad trwy’r Post
Dylid anfon ymholiadau trwy’r post i’r Tîm Gwasanaethau Deddfwriaeth yn Yr Archifau Gwladol, Kew, Richmond Surrey TW9 4DU.
Gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth i’r Archifau Gwladol
Mae’r wefan hon yn cael ei darparu gan Yr Archifau Gwladol. Gellir gwneud ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth gan ddefnyddio ffurflen ymholiadau Rhyddid Gwybodaeth yr Archifau Gwladol. Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data at linell gymorth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ar 0303 123 1113 neu 01625 545745 neu ewch at http://www.ico.org.uk.
Gwneud cais am Gofnodion a gedwir yn Yr Archifau Gwladol
Os yw’ch ymholiad yn perthyn i rywbeth rydych yn meddwl y’i cedwir yng nghofnodion Yr Archifau Gwladol, yna dylech gyflwyno cais gan ddewis “Ymholiadau Cyffredinol” fel y testun ar y dudalen we ddilynol - http://www.nationalarchives.gov.uk/contact/.
Gellir archebu llungopïau o Offerynnau Statudol lleol nas argraffwyd o 1922 i 2006 gan Yr Archifau Gwladol trwy ddefnyddio’r ffurflen gysylltu ar-lein gan ddatgan yr hoffech gael copi o offeryn statudol lleol a gedwir yng nghyfeirnod cadwrfa TS37.
Dylid e-bostio ceisiadau am Offerynnau Statudol lleol nas argraffwyd nad ydynt eto wedi’i rhoi yn y gadwrfa (h.y. OSau ar ôl 2006) ac nad ydynt ar gael ar y wefan i: legislation@nationalarchives.gov.uk.
Prynu Deddfwriaeth
Gellir prynu copïau print o ddeddfwriaeth a chyhoeddiadau eraill gan ein cyhoeddwr deddfwriaeth dan gontract Y Llyfrfa Cyfyngedig (TSO) y mae eu manylion yma:
Y Llyfrfa Cyfyngedig, PO Box 29, Norwich, NR3 1GNFfôn: +44 (0)333 202 5070Ffacs: +44 (0)333 202 5080
E-bost: book.orders@tso.co.ukGwe: www.tso.co.uk/bookshop
Fel arfer mae copïau printiedig o fersiynau diwygiedig o ddeddfwriaeth ar gael trwy gyhoeddwyr cyfreithiol arbenigol yn unig.