- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
30.—(1) Caiff CANC, o dan amgylchiadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad rheoliad 30”) i berson sydd â silwair neu slyri dan ei ofal neu ei reolaeth, neu sydd yn gyfrifol am y seilo, neu’r system storio slyri, yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw wneud gwaith, neu gymryd rhagofalon neu gamau eraill, a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Rhaid i’r gwaith, y rhagofalon neu’r camau eraill fod, ym marn CANC, yn briodol, o ystyried gofynion y Rheoliadau hyn, er mwyn lleihau i’r eithaf unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd a reolir.
(3) Rhaid i’r hysbysiad—
(a)pennu neu ddisgrifio’r gwaith y mae’n ofynnol i’r person ei wneud neu’r rhagofalon neu’r camau eraill y mae’n ofynnol iddo eu cymryd,
(b)datgan y cyfnod y mae rhaid cydymffurfio ag unrhyw ofyniad o’r fath o’i fewn, ac
(c)hysbysu’r person am effaith rheoliad 31.
(4) Y cyfnod i gydymffurfio a ddatgenir yn yr hysbysiad yw—
(a)28 niwrnod, neu
(b)unrhyw gyfnod hwy sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau.
(5) Rhaid i berson y cyflwynwyd iddo hysbysiad rheoliad 30 gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad hwnnw.
(6) Caiff CANC ar unrhyw adeg (gan gynnwys adeg ar ôl i’r cyfnod i gydymffurfio ddod i ben)—
(a)tynnu’r hysbysiad yn ei ôl,
(b)estyn y cyfnod i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn yr hysbysiad, neu
(c)gyda chydsyniad y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, addasu gofynion yr hysbysiad.
(7) Rhaid i CANC dynnu’r hysbysiad yn ei ôl, estyn y cyfnod i gydymffurfio, neu addasu gofynion yr hysbysiad os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 31(5).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys