- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Y ddarpariaeth yn y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol | Y pwnc |
---|---|
Erthygl 47(5) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 5 a 7 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2122 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran categorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau a esemptir o reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, rheolaethau penodol ar fagiau personol teithwyr ac ar lwythi bach o nwyddau a anfonir at bobl naturiol na fwriedir eu rhoi ar y farchnad(1)) | Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sy’n dod i’r Undeb sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno ar gyfer rheolaethau swyddogol ar y safle rheoli ar y ffin lle daw i’r Undeb am y tro cyntaf. |
Erthygl 50(1) | Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr llwyth perthnasol y mae Erthygl 47(1) yn gymwys iddo gyflwyno’r tystysgrifau neu’r dogfennau swyddogol gwreiddiol y mae’n ofynnol iddynt fynd gyda’r llwyth i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin. |
Erthygl 50(3) | Yn gwahardd gweithredwr llwyth perthnasol rhag hollti’r llwyth nes y bydd rheolaethau swyddogol wedi eu cyflawni a bod y Ddogfen Mynediad Iechyd Cymunedol (“DMIC”) wedi ei chwblhau. |
Erthygl 56(1) | Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr llwyth perthnasol gwblhau’r rhan berthnasol o’r DMIC. |
Erthygl 56(4) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 1(1) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013 ynghylch hysbysu ymlaen llaw fod llwythi o gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau yn dod i’r Undeb(2) a rheoliad 9) | Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr llwyth perthnasol roi hysbysiad ymlaen llaw i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin fod y llwyth yn cyrraedd cyn i’r llwyth gyrraedd yr Undeb yn gorfforol. |
OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 45.
OJ Rhif L 165, 21.6.2019, t. 8.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys