Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliad 38(1)(d) i (f)

ATODLEN 3Troseddau: darpariaethau perthnasol yn Rheoliadau’r UE

RHAN 1Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE

Y Ddarpariaeth yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UEY Pwnc
Erthygl 5(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 8(1))Yn gwahardd cyflwyno pla cwarantin Undeb i diriogaeth yr Undeb, symud pla cwarantin Undeb o fewn tiriogaeth yr Undeb neu ddal, lluosogi neu ryddhau pla cwarantin Undeb o fewn tiriogaeth yr Undeb(1).
Erthygl 9(3) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 33(1))

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol hysbysu awdurdodau cymwys ar unwaith am unrhyw dystiolaeth a all fod ganddynt ynghylch perygl sydd ar fin digwydd:

(a)

y daw pla cwarantin Undeb neu bla sy’n destun mesurau a fabwysiadwyd yn unol ag Erthygl 30(1) i diriogaeth yr Undeb neu i ran o diriogaeth yr Undeb lle nad yw’n bresennol eto, neu

(b)

y daw pla cwarantin parth gwarchodedig i’r priod barth gwarchodedig.

Erthygl 14(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 16 a 33(1))

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol sy’n amau neu sy’n dod yn ymwybodol:

(a)

bod pla cwarantin Undeb neu bla sy’n destun mesurau a fabwysiadwyd yn unol ag Erthygl 30(1) yn bresennol mewn planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sydd o dan reolaeth y gweithredwr;

(b)

bod pla cwarantin parth gwarchodedig yn bresennol mewn planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sydd o dan reolaeth y gweithredwr yn y priod barth gwarchodedig,

hysbysu’r awdurdod cymwys ar unwaith a chymryd camau rhagofalus i atal y pla rhag ymsefydlu a lledaenu.

Erthygl 14(3)

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol:

(a)

ymgynghori â’r awdurdod cymwys pan fo’r gweithredwr proffesiynol wedi cael cadarnhad swyddogol ynghylch presenoldeb pla cwarantin Undeb mewn planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sydd o dan reolaeth y gweithredwr, a

(b)

pan fo’n gymwys, bwrw ymlaen â’r camau sy’n ofynnol o dan Erthygl 14(4) i (7).

Erthygl 15(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 15(2), 16 a 33(1))

Yn ei gwneud yn ofynnol i berson nad yw’n weithredwr proffesiynol hysbysu’r awdurdod cymwys ar unwaith pan fydd y person yn dod yn ymwybodol o’r canlynol, neu pan fo ganddo reswm i amau’r canlynol:

(a)

presenoldeb pla cwarantin Undeb;

(b)

presenoldeb pla cwarantin parth gwarchodedig yn y priod barth gwarchodedig.

Erthygl 32(2)Yn gwahardd cyflwyno pla cwarantin parth gwarchodedig i’r priod barth gwarchodedig, symud pla cwarantin parth gwarchodedig yn y priod barth gwarchodedig neu’r daliad, lluosogi neu ryddhau pla cwarantin parth gwarchodedig yn y priod barth gwarchodedig(2).
Erthygl 37(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 39, ac Erthygl 17 o’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol)Yn gwahardd gweithredwr proffesiynol rhag cyflwyno i diriogaeth yr Undeb bla nad yw’n bla cwarantin Undeb a reoleiddir ar blanhigion i’w plannu y caiff ei drosglwyddo drwyddynt, neu symud pla nad yw’n bla cwarantin Undeb a reoleiddir o fewn tiriogaeth yr Undeb ar blanhigion i’w plannu y caiff ei drosglwyddo drwyddynt(3).
Erthygl 40(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1))Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill penodol i diriogaeth yr Undeb os ydynt yn tarddu o bob trydedd wlad neu diriogaeth neu rai penodol ohonynt(4).
Erthygl 41(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1))

Yn gwahardd:

(a)

cyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill o drydydd gwledydd oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni(5);

(b)

symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni(6).

Erthygl 42(2) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1))Yn gwahardd cyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n uchel eu risg o drydydd gwledydd(7).
Erthygl 43(1)Yn gwahardd cyflwyno i diriogaeth yr Undeb ddeunydd pecynnu pren, p’un a yw’n cael ei ddefnyddio i gludo gwrthrychau o unrhyw fath neu beidio, oni bai ei fod yn cyflawni’r gofynion penodedig neu ei fod yn destun yr esemptiadau y darperir ar eu cyfer yn SRFFf 15.
Erthygl 45(1), y trydydd paragraff (fel y’i darllenir gydag Erthygl 55)Yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau post a gweithredwyr proffesiynol sy’n ymwneud â gwerthu drwy gontractau pellter drefnu bod gwybodaeth benodol ar gael i’w cleientiaid drwy’r rhyngrwyd.
Erthygl 53(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 57 a 58)

Yn gwahardd:

(a)

cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n tarddu o drydydd gwledydd i barthau gwarchodedig penodol;

(b)

cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n tarddu o fewn tiriogaeth yr Undeb i barthau gwarchodedig penodol(8).

Erthygl 54(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 57 a 58)

Yn gwahardd:

(a)

cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill i barthau gwarchodedig penodol oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r parthau gwarchodedig hynny wedi eu cyflawni;

(b)

symud planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill mewn parthau gwarchodedig penodol oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r parthau gwarchodedig hynny wedi eu cyflawni(9).

Erthygl 59

Yn ei gwneud yn ofynnol:

(a)

i gerbydau, peiriannau neu ddeunydd pecynnu a ddefnyddir ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n symud i diriogaeth yr Undeb neu o’i mewn, neu drwy diriogaeth yr Undeb, fod yn rhydd rhag plâu cwarantin Undeb a phlâu sy’n destun mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1);

(b)

i gerbydau, peiriannau neu ddeunydd pecynnu a ddefnyddir ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n symud i’r parthau gwarchodedig neu o’u mewn, neu drwy barthau gwarchodedig, fod yn rhydd rhag y plâu cwarantin priod barth gwarchodedig.

Erthygl 62(1)

Yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gyfrifol am orsaf gwarantin neu gyfleuster cyfyngu fonitro’r orsaf neu’r cyfleuster a’r cyffiniau agos, am bresenoldeb anfwriadol plâu cwarantin Undeb a phlâu sy’n destun mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl

30(1).

Erthygl 62(2)

Yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gyfrifol am orsaf gwarantin neu gyfleuster cyfyngu gymryd camau priodol ar sail y cynllun wrth gefn y cyfeirir ato ym mhwynt (e) o Erthygl 61(1) ac i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau i weithredwyr proffesiynol yn Erthygl 14 pan ganfyddir neu pan amheuir presenoldeb anfwriadol pla cwarantin Undeb neu bla sy’n destun mesurau a fabwysiadir yn unol ag Erthygl 30(1).

Erthygl 64(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 64(2))Yn gwahardd rhyddhau planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o orsafoedd cwarantin neu gyfleusterau cyfyngu oni bai bod hynny wedi ei awdurdodi gan yr awdurdodau cymwys.
Erthygl 66(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 65(3))Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol penodol gyflwyno cais am gofrestru i’r awdurdodau cymwys.
Erthygl 66(5) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 65(3))

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr cofrestredig, pan fo’n berthnasol:

(a)

cyflwyno diweddariad blynyddol ynghylch unrhyw newidiadau yn y data y cyfeirir ato ym mhwyntiau (d) ac (e) o Erthygl 66(2) neu yn y datganiadau y cyfeirir atynt ym mhwyntiau (b) ac (c) o Erthygl 66(2);

(b)

diweddaru’r data y cyfeirir ato ym mhwynt (a) o Erthygl 66(2) heb fod yn hwyrach na 30 diwrnod ar ôl y newid yn y data hwnnw.

Erthygl 69(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 65(3) a 69(3))Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol y cyflenwir iddo blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun y gofynion neu’r amodau penodedig gadw cofnod sy’n caniatáu i’r gweithredwr adnabod y gweithredwr proffesiynol a gyflenwodd bob uned fasnach.
Erthygl 69(2) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 69(3))Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol sy’n cyflenwi planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun y gofynion neu’r amodau penodedig gadw cofnod sy’n caniatáu i’r gweithredwr adnabod y gweithredwr proffesiynol y cyflenwyd pob uned fasnach iddo.
Erthygl 69(4)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol gadw’r cofnodion sy’n ofynnol yn unol ag Erthygl 69(1) i (3) am o leiaf dair blynedd.
Erthygl 70(1)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol y cyflenwir y planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill y cyfeirir atynt yn Erthygl 69(1) a (2) iddynt, neu sy’n cyflenwi’r rheiny, fod â systemau neu weithdrefnau olrhain ar waith i ganiatáu i symudiadau’r planhigion, y cynhyrchion planhigion a’r gwrthrychau eraill hynny o fewn a rhwng eu mangreoedd eu hunain gael eu hadnabod.
Erthyglau 72(1) a 73Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill i diriogaeth yr Undeb o drydydd gwledydd oni bai bod tystysgrif ffytoiechydol yn mynd gyda hwy(10).
Erthygl 74(1)Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill o drydydd gwledydd i barthau gwarchodedig penodol oni bai bod tystysgrif ffytoiechydol yn mynd gyda hwy(11).
Erthygl 79(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 81, 82 a 83)Yn gwahardd symud planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill o fewn tiriogaeth yr Undeb heb basbort planhigion(12).
Erthygl 80(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 81, 82 a 83)Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill i barthau gwarchodedig penodol, neu symud planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill o fewn parthau gwarchodedig penodol, heb basbort planhigion(13).
Erthygl 84(1)Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol rhag dyroddi pasbortau planhigion oni bai eu bod wedi eu hawdurdodi a rhag dyroddi pasbortau planhigion ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill nad ydynt yn gyfrifol amdanynt.
Erthygl 84(3)Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion ac eithrio mewn mangreoedd, warysau cyfun neu ganolfannau anfon penodedig.
Erthygl 85 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 87)Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill oni bai bod y gofynion penodedig wedi eu cyflawni mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny.
Erthygl 86(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 86(2) a 87)Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i’w cyflwyno i barth gwarchodedig, neu i’w symud o’i fewn, oni bai bod y gofynion penodol wedi eu cyflawni mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny.
Erthygl 88Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol atodi pasbortau planhigion i uned fasnach y planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill o dan sylw, neu pan fo’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill yn cael eu symud mewn pecyn, bwndel neu gynhwysydd, i’r pecyn, y bwndel neu’r cynhwysydd hwnnw.
Erthygl 90(1)

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr awdurdodedig:

(a)

nodi a monitro’r pwyntiau yn ei broses gynhyrchu a phwyntiau allweddol penodol eraill ynglŷn â symud planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill pan fo’r gweithredwr awdurdodedig yn bwriadu dyroddi pasbort planhigion mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion a’r gwrthrychau eraill hynny, a

(b)

cadw cofnodion ynghylch nodi a monitro’r pwyntiau hynny am o leiaf dair blynedd.

Erthygl 90(2)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr awdurdodedig sicrhau bod hyfforddiant priodol yn cael ei roi i’w bersonél sy’n ymwneud â’r archwiliadau y cyfeirir atynt yn Erthygl 87.
Erthygl 93(1)Yn gwahardd gweithredwyr awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion amnewid oni bai bod amodau penodol wedi eu cyflawni.
Erthygl 93(5)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr awdurdodedig gadw pasbortau planhigion amnewid neu eu cynnwys am o leiaf dair blynedd.
Erthygl 96(1)

Yn gwahardd marcio deunydd pecynnu pren, pren neu wrthrychau eraill o fewn tiriogaeth yr Undeb:

(c)

gan unrhyw weithredwr proffesiynol nad yw wedi ei awdurdodi yn unol ag Erthygl 98, neu

(d)

heblaw yn y modd gofynnol.

Erthygl 97(1)

Yn gwahardd trwsio deunydd pecynnu pren:

(a)

gan unrhyw weithredwr proffesiynol nad yw wedi ei awdurdodi yn unol ag Erthygl 98, neu

(b)

heblaw yn y modd gofynnol.

RHAN 2Y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol

Y ddarpariaeth yn y Rheoliad Rheolaethau SwyddogolY pwnc
Erthygl 47(5) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 5 a 7 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2122 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran categorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau a esemptir o reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, rheolaethau penodol ar fagiau personol teithwyr ac ar lwythi bach o nwyddau a anfonir at bobl naturiol na fwriedir eu rhoi ar y farchnad(14))Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sy’n dod i’r Undeb sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno ar gyfer rheolaethau swyddogol ar y safle rheoli ar y ffin lle daw i’r Undeb am y tro cyntaf.
Erthygl 50(1)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr llwyth perthnasol y mae Erthygl 47(1) yn gymwys iddo gyflwyno’r tystysgrifau neu’r dogfennau swyddogol gwreiddiol y mae’n ofynnol iddynt fynd gyda’r llwyth i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin.
Erthygl 50(3)

Yn gwahardd gweithredwr llwyth perthnasol rhag hollti’r llwyth nes y bydd rheolaethau swyddogol wedi eu cyflawni a bod y Ddogfen Mynediad Iechyd Cymunedol (“DMIC”) wedi ei chwblhau.

Erthygl 56(1)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr llwyth perthnasol gwblhau’r rhan berthnasol o’r DMIC.
Erthygl 56(4) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 1(1) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013 ynghylch hysbysu ymlaen llaw fod llwythi o gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau yn dod i’r Undeb(15) a rheoliad 9)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr llwyth perthnasol roi hysbysiad ymlaen llaw i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin fod y llwyth yn cyrraedd cyn i’r llwyth gyrraedd yr Undeb yn gorfforol.

RHAN 3Deddfwriaeth arall yr UE

Y ddarpariaeth yn neddfwriaeth yr UEY pwnc
Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1602 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y Ddogfen Mynediad Iechyd Cymunedol sy’n mynd gyda llwythi o anifeiliaid a nwyddau i’w cyrchfan(16)
Erthygl 3 (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 4(a), 5(1)(b) a (d), 5(2)(a) ac (c) a 6(a))Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth sicrhau bod DMIC yn mynd gyda’r llwyth cyn ei ryddhau ar gyfer cylchredeg rhydd yn unol ag Erthygl 57(2)(b) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2124 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer rheolaethau swyddogol ar lwythi o anifeiliaid a nwyddau sy’n cael eu cludo, eu trawslwytho a’u cludo ymlaen drwy’r Undeb(17)
Erthygl 5(a) a (b)Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sydd wedi cael awdurdodiad i gludo’r llwyth ymlaen i nodi manylion penodol yn y DMIC a chyflwyno’r DMIC.
Erthygl 6Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sydd wedi cael awdurdodiad i’w gludo ymlaen gydymffurfio â’r amodau penodedig ynglŷn â’i gludo a’i storio.
Erthygl 16(1) a (3)Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol a drawslwythir roi’r wybodaeth benodedig i awdurdodau cymwys.

Erthygl 22(4)

Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sy’n cael ei gludo drwy diriogaeth yr Undeb gymryd mesurau penodol ynglŷn â chludo’r llwyth.
(1)

Nodir y rhestr o blâu cwarantin yr Undeb yn Atodiad 2 i Reoliad (EU) 2019/2072 (“Rheoliad Amodau Ffytoiechydol”) sy’n pennu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau diogelu rhag plâu planhigion (OJ Rhif L 319, 10.12.2019, t. 1) (“Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE”).

(2)

Nodir y rhestr o barthau gwarchodedig a’r priod blâu parth gwarchodedig yn Atodiad 3 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(3)

Nodir y rhestr o blâu nad ydynt yn blâu cwarantin Undeb a reoleiddir a’r planhigion perthnasol i’w plannu, gyda chategorïau a throthwyon, yn Atodiad 4 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(4)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill a’r trydydd gwledydd, y grwpiau o drydydd gwledydd neu’r ardaloedd penodol o drydydd gwledydd y mae’r gwaharddiad yn gymwys iddynt yn Atodiad 6 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(5)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill sy’n tarddu o drydydd gwledydd a’r gofynion arbennig cyfatebol mewn perthynas â’u cyflwyno i diriogaeth yr Undeb yn Atodiad 7 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(6)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill sy’n tarddu o’r Undeb a’r gofynion arbennig cyfatebol mewn perthynas â’u symud o fewn tiriogaeth yr Undeb yn Atodiad 8 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(7)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill uchel eu risg y mae’r gwaharddiad yn gymwys iddynt yn Atodiad 1 i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/2019 yn sefydlu rhestr dros dro o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill uchel eu risg, o fewn ystyr Erthygl 42 o Reoliad (EU) 2016/2031 a rhestr o blanhigion nad yw tystysgrifau ffytoiechydol yn ofynnol ar eu cyfer i’w cyflwyno i’r Undeb, o fewn ystyr Erthygl 73 o’r Rheoliad hwnnw (OJ Rhif L 323, 19.12.2018, t. 10).

(8)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 9 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(9)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 10 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(10)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at ddibenion Erthygl 72(1) yn Rhan A o Atodiad 11 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol. Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at ddibenion Erthygl 73(1) yn Rhan B o’r Atodiad hwnnw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill yn y rhestr a nodir yn Rhan C o’r Atodiad hwnnw.

(11)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 12 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(12)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 13 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(13)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 14 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(14)

OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 45.

(15)

OJ Rhif L 165, 21.6.2019, t. 8.

(16)

OJ Rhif L 250, 30.9.2019, t. 6.

(17)

OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 73.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill