Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliad 18

ATODLEN 1Mesurau gwladol dros dro

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “cyflwyno” yw cyflwyno i Gymru o drydedd wlad neu ran arall o diriogaeth yr Undeb.

RHAN 1Planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o drydydd gwledydd

Mesurau dros dro sy’n gymwys i gyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o drydydd gwledydd

2.—(1Ni chaiff unrhyw berson gyflwyno unrhyw beiriannau neu gerbydau a ddefnyddiwyd ac a weithredwyd at ddibenion amaethyddiaeth neu goedwigaeth ac a allforiwyd o’r Swistir oni bai bod y peiriannau neu’r cerbydau—

(a)wedi eu hallforio o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad amddiffyn planhigion gwladol yn unol ag SRFFf 4 fel ardal sy’n rhydd rhag Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. & T.C. Harr., neu

(b)yn achos unrhyw beiriannau neu gerbydau a allforiwyd o ardal sydd wedi ei heigio â Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. & T.C. Harr., eu bod wedi eu glanhau a’u bod yn rhydd rhag gweddillion pridd a phlanhigion cyn eu symud allan o’r ardal.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “SRFFf 4” yw’r Safon Ryngwladol ar Fesurau Ffytoiechydol Rhif 4 dyddiedig Tachwedd 1995 ynghylch y gofynion ar gyfer sefydlu ardaloedd di-bla, a baratowyd gan Ysgrifenyddiaeth yr IPPC a sefydlwyd gan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig(1).

RHAN 2Planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o ran arall o diriogaeth yr Undeb

Mesurau dros dro sy’n gymwys i gyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o ran arall o diriogaeth yr Undeb

3.  Yn y Rhan hon—

ystyr “datganiad swyddogol” (“official statement”) yw datganiad a ddyroddir gan gynrychiolydd awdurdodedig i’r awdurdod cymwys yn yr Aelod-wladwriaeth wreiddiol neu o dan ei oruchwyliaeth;

ystyr “Sbaen” (“Spain”) yw’r rhan honno o Sbaen sydd wedi ei chynnwys o fewn tiriogaeth yr Undeb at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, heblaw Ynysoedd Baleares;

ystyr “symud” (“move”) yw symud yng Nghymru.

4.  Ni chaiff unrhyw berson gyflwyno na symud unrhyw blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill a ddisgrifir yng ngholofn 2 o Dabl 1 oni cheir datganiad swyddogol gyda hwy yn cadarnhau’r materion a nodir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3 o’r Tabl hwnnw.

Tabl 1
(1)

(2)

Disgrifiad o’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill

(3)

Manylion y datganiad swyddogol

1.Cloron Solanum tuberosum L., gan gynnwys y rhai a fwriedir i’w plannu sy’n tarddu o Sbaen ac eithrio pan fo’r cloron hynny’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad 2012/270/EURhaid i’r datganiad swyddogol gadarnhau bod y cloron wedi eu golchi fel nad oes mwy na 0.1% o bridd ar ôl
2.Cloron Solanum tuberosum L., yn tarddu o Wlad Pwyl

Rhaid i’r datganiad swyddogol gadarnhau y cafwyd bod y cloron yn rhydd rhag

Clavibacter michiganensis ssp. Sepedonicus (Spieckermann a Kotthoff) David et al. mewn profion mewn labordy

Rheoliad 23

ATODLEN 2

RHAN 1Dehongli cyffredinol

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “Cyfarwyddeb 93/85/EEC” (“Directive 93/85/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 93/85/EEC ynghylch rheoli pydredd cylch tatws(2);

ystyr “Cyfarwyddeb 98/57/EC” (“Directive 98/57/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 98/57/EC ynghylch rheoli Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.(3);

ystyr “Cyfarwyddeb 2007/33/EC” (“Directive 2007/33/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2007/33/EC ynghylch rheoli Llyngyr tatws(4);

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le, gan gynnwys unrhyw dir, adeilad, cerbyd, llestr, awyren, hofrenfad, cynhwysydd llwythi, wagen reilffordd, trelar neu adeilad neu adeiledd symudol;

ystyr “Pydredd coch tatws” (“Potato brown rot”) yw naill ai’r clefyd tatws a achosir gan Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. neu’r bacteriwm hwnnw, fel y bo’r cyd-destun yn mynnu;

ystyr “Pydredd cylch tatws” (“Potato ring rot”) yw naill ai’r clefyd tatws a achosir gan y bacteriwm Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al. spp. Sependonicus (Spieckermann a Kotthof) Davis et al. neu’r bacteriwm hwnnw, fel y bo’r cyd-destun yn mynnu;

ystyr “Rheoliadau Tatws Hadyd” (“Seed Potatoes Regulations”) yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(5);

ystyr “taten” (“potato”) yw unrhyw gloronen neu wir had neu unrhyw blanhigyn arall o Solanum tuberosum L, neu unrhyw rywogaeth arall o’r genws Solanum L. sy’n ffurfio cloron.

RHAN 2Darpariaethau cyffredinol ynglŷn â phlannu rhywogaethau mochlysaidd penodol

Cyfyngiadau cyffredinol ar blannu tatws

2.—(1Ni chaiff unrhyw berson fynd ati’n fwriadol i blannu’r canlynol, nac achosi na chaniatáu’n fwriadol iddynt gael eu plannu—

(a)unrhyw datws a dyfwyd mewn trydedd wlad, heblaw’r Swistir, neu

(b)unrhyw datws a gynhyrchir o’r tatws hynny.

(2Ni chaiff unrhyw berson fynd ati’n fwriadol i blannu unrhyw datws, nac achosi na chaniatáu’n fwriadol iddynt gael eu plannu oni bai—

(a)eu bod yn tarddu mewn llinell uniongyrchol o ddeunydd tatws sydd wedi ei gael o dan raglen a gymeradwywyd yn swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir,

(b)y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Pydredd cylch tatws mewn profion swyddogol gan ddefnyddio’r dulliau a nodir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC, ac

(c)y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Pydredd coch tatws mewn profion swyddogol gan ddefnyddio’r dulliau a nodir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC.

RHAN 3Mesurau i reoli Clefyd y ddafaden tatws

Dehongli

3.  Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “Clefyd y ddafaden tatws” yw naill ai’r clefyd tatws a achosir gan y ffwng Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival neu’r ffwng hwnnw, fel y bo’r cyd-destun yn mynnu;

(b)mae llain o dir i’w hystyried yn llain halogedig os bydd prawf swyddogol yn cadarnhau bod Clefyd y ddafaden tatws yn bresennol ar o leiaf un planhigyn sy’n tyfu neu a dyfwyd ar y llain honno.

Mesurau swyddogol ynglŷn â lleiniau tir halogedig

4.—(1Rhaid i arolygydd iechyd planhigion ddarnodi unrhyw lain halogedig a pharth diogelwch o amgylch y llain honno sy’n ddigon mawr i sicrhau diogelwch yr ardal o’i hamgylch.

(2Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 15(1) yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gloron neu wlydd tatws sy’n bresennol ar y llain halogedig neu sydd wedi dod o’r llain halogedig, gael eu trin mewn modd sy’n sicrhau bod Clefyd y ddafaden tatws sy’n bresennol arnynt yn cael ei ddinistrio.

(3Pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi ei fodloni bod unrhyw gloron neu wlydd tatws wedi eu halogi â Chlefyd y ddafaden tatws ac na all yr arolygydd ganfod a fu’r cloron neu’r gwlydd hynny yn bresennol ar lain halogedig, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 15(1) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r swp cyfan sy’n cynnwys y cloron neu’r gwlydd yr effeithiwyd arnynt gael ei drin mewn modd sy’n sicrhau nad oes risg y bydd Clefyd y ddafaden tatws yn lledaenu.

Gwahardd plannu tatws ar leiniau halogedig

5.—(1Pan fo llain halogedig wedi ei darnodi o dan baragraff 4(1), ni chaiff unrhyw berson—

(a)tyfu unrhyw datws ar y llain, neu

(b)tyfu neu storio ar y llain unrhyw blanhigion a fwriedir i’w trawsblannu.

(2Ni chaiff unrhyw berson dyfu tatws mewn parth diogelwch a ddarnodir o dan baragraff 4(1) oni bai bod arolygydd iechyd planhigion wedi ei fodloni eu bod o rywogaeth sydd ag ymwrthedd i’r hiliau o Glefyd y ddafaden tatws a geir ar y llain halogedig y mae’r parth diogelwch yn ymwneud â hi.

(3Bernir bod amrywogaeth tatws yn un sydd ag ymwrthedd i hil benodol o Glefyd y ddafaden tatws at ddibenion is-baragraff (2) pan fo’r amrywogaeth honno yn adweithio i halogiad gan gyfrwng pathogenig yr hil honno mewn modd sy’n sicrhau nad oes perygl o sgil-heintio.

Dirymu darnodiad llain halogedig

6.  Pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi ei fodloni nad yw Clefyd y ddafaden tatws yn bresennol mwyach ar lain a ddarnodir o dan baragraff 4(1) neu ar ei pharth diogelwch cysylltiedig, rhaid i’r arolygydd ddirymu’r darnodiad hwnnw.

RHAN 4Mesurau i reoli poblogaethau Ewropeaidd o Lyngyr tatws

Dehongli

7.  Yn y Rhan hon—

ystyr “bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible bulbs”) yw bylbiau, cloron neu risomau, a dyfwyd mewn pridd ac a fwriedir i’w plannu, o Allium ascalonicum L., Allium cepa L., Dahlia spp., Gladiolus Tourn. Ex L., Hyacinthus spp., Iris spp., Lilium spp., Narcissus L. neu Tulipa L., heblaw’r rhai y ceir tystiolaeth drwy gyfrwng eu pecynnau neu drwy ddulliau eraill y bwriedir iddynt gael eu gwerthu i ddefnyddwyr terfynol nad ydynt yn ymwneud yn broffesiynol â chynhyrchu planhigion neu flodau wedi eu torri;

ystyr “cae” (“field”) yw ardal sydd wedi ei darnodi fel cae at ddibenion Erthygl 3 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC;

ystyr “cae a heigiwyd” (“infested field”) yw cae y cofnodwyd ei fod wedi ei heigio yn unol â pharagraff 9(1);

ystyr “deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible material”) yw planhigion cynhaliol, bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;

ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad o dan reoliad 15(1);

ystyr “Llyngyr tatws” (“Potato cyst nematode”) yw unrhyw lyngyr sy’n ffurfio systiau o’r rhywogaeth Globodera pallida (Stone) Behrens neu Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens sy’n heigio ac yn lluosogi ar datws, gan gynnwys unrhyw fath neu bathoteip o lyngyr o’r fath;

ystyr “planhigion cynhaliol” (“host plants”) yw planhigion ac iddynt wreiddiau Capsicum spp., Solanum lycopersicum L. neu Solanum melongena L.;

ystyr “planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible plants”) yw planhigion ac iddynt wreiddiau Allium porrum L., Asparagus officinalis L., Beta vulgaris L., Brassica spp. neu Fragaria L.

Ymchwiliadau ac arolygon swyddogol

8.  Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod ymchwiliadau swyddogol yn cael eu cynnal yn unol ag Erthyglau 4 a 5 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC ar gyfer presenoldeb Llyngyr tatws mewn caeau y bwriedir plannu neu storio ynddynt datws hadyd neu ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu planhigion i’w plannu, a

(b)bod arolygon swyddogol yn cael eu cynnal yn unol ag Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC ar gyfer presenoldeb Llyngyr tatws mewn caeau a ddefnyddir i gynhyrchu tatws, heblaw’r rhai a fwriedir ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd.

Cofnodion swyddogol ymchwiliadau ac arolygon

9.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod canlyniadau pob ymchwiliad swyddogol neu arolwg swyddogol a gynhelir yn unol â pharagraff 8 yn cael eu cofnodi i ddangos a ganfuwyd Llyngyr tatws yn y caeau yn ystod yr ymchwiliad neu’r arolwg.

(2Pan fo’r mesurau a gymeradwywyd yn swyddogol ac a nodir yn Adran 3(C) o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2007/33/EC wedi eu cymryd mewn cae y cofnodwyd ei fod wedi ei heigio yn unol ag is-baragraff (1) ac, ar ôl cwblhau’r mesurau hynny, y cadarnheir yn swyddogol nad oes Llyngyr tatws yn bresennol yn y cae mwyach, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y cofnod yn cael ei ddiweddaru yn unol â hynny.

Hysbysiadau mewn perthynas â chaeau a heigiwyd a deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a halogwyd

10.—(1Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd neu i’r person arall sydd â gofal am gae a heigiwyd, sy’n pennu ffiniau’r cae a heigiwyd.

(2Ni chaniateir tynnu’r hysbysiad yn ôl hyd nes y cadarnheir, yn unol â pharagraff 9(2) nad oes Llyngyr tatws yn bresennol yn y cae mwyach.

(3Rhaid i arolygydd iechyd planhigion, drwy hysbysiad, ddynodi bod unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n dod o gae y cofnodwyd yn swyddogol ei fod wedi ei heigio o dan baragraff 9(1) neu unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sydd wedi bod mewn cysylltiad â phridd lle cafwyd Llyngyr tatws yn ddeunydd halogedig.

Gwahardd plannu tatws mewn caeau a heigiwyd

11.—(1Oni chaiff ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd, ni chaiff unrhyw berson—

(a)plannu unrhyw datws y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu tatws hadyd mewn cae a heigiwyd, neu

(b)plannu neu storio unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y bwriedir ei blannu mewn cae a heigiwyd.

(2Caiff arolygydd iechyd planhigion awdurdodi plannu bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau mewn cae a heigiwyd.

(3Rhaid i awdurdodiad o dan is-baragraff (2) gael ei roi drwy hysbysiad a rhaid iddo gynnwys y mesurau a nodir yn Adran 3(A) o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2007/33/EC.

Atal Llyngyr tatws

12.—(1Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw datws mewn cae a heigiwyd nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd oni bai ei fod wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd iechyd planhigion.

(2Rhaid i awdurdodiad o dan is-baragraff (1) gael ei roi drwy hysbysiad a dim ond os yw’r arolygydd wedi ei fodloni bod pob cam rhesymol i atal Llyngyr tatws yn y cae wedi eu cymryd yn unol â’r rhaglen reoli swyddogol a fabwysiadwyd gan Weinidogion Cymru ar gyfer atal Llyngyr tatws y caniateir iddo gael ei roi.

Rheolaethau ar datws hadyd halogedig etc.

13.—(1Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw datws hadyd nac unrhyw blanhigion cynhaliol sydd wedi eu dynodi yn halogedig yn unol â pharagraff 10(3), oni bai ei fod wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd.

(2Rhaid i awdurdodiad o dan is-baragraff (1) gael ei roi drwy hysbysiad a rhaid iddo gynnwys y mesurau sy’n angenrheidiol ym marn yr arolygydd i ddihalogi’r tatws hadyd neu’r planhigion cynhaliol hynny.

Rheolaethau ar datws ar gyfer prosesu neu raddio diwydiannol

14.—(1Ni chaiff unrhyw berson symud unrhyw datws a ddynodwyd yn halogedig yn unol â pharagraff 10(3) ac a fwriedir ar gyfer prosesu neu raddio diwydiannol, oni bai ei fod wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd.

(2Rhaid i awdurdodiad o dan is-baragraff (1) gael ei roi drwy hysbysiad a rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i’r tatws gael eu danfon i safle prosesu neu raddio sydd â gweithdrefnau gwaredu gwastraff priodol a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes risg y bydd Llyngyr tatws yn lledaenu.

Rheolaethau ar fylbiau halogedig etc.

15.  Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw fylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sydd wedi eu dynodi fel rhai a halogwyd yn unol â pharagraff 10(3), oni bai eu bod wedi bod yn destun y mesurau a nodir yn Adran 3(A) o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2007/33/EC a bod arolygydd wedi cadarnhau drwy hysbysiad nad ydynt wedi eu halogi mwyach.

Ymchwiliadau pellach ar gyfer presenoldeb llyngyr tatws

16.  Os yw unrhyw achos a amheuir o Lyngyr tatws neu unrhyw achos o bresenoldeb Llyngyr tatws a gadarnhawyd yn deillio o fethiant neu newid o ran effeithiolrwydd amrywogaeth tatws sydd ag ymwrthedd sy’n ymwneud â newid eithriadol o ran cyfansoddiad rhywogaethau llyngyr, pathodeipiau neu grwpiau gwenwyndra, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cynhelir drwy ddulliau priodol ymchwiliad i’r rhywogaeth o Lyngyr tatws dan sylw a, pan fo’n gymwys, y pathoteip a’r grŵp gwenwyndra dan sylw, a’u bod yn cael eu cadarnhau drwy ddulliau priodol.

RHAN 5Mesurau i reoli Pydredd cylch tatws

Dehongli

17.  Yn y Rhan hon—

ystyr “blwyddyn dyfu gyntaf” (“first growing year”), yn achos mesurau sydd i’w cymryd mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig, yw’r flwyddyn dyfu gyntaf yn dilyn y flwyddyn dyfu pryd y dynodir y man cynhyrchu yn halogedig at ddibenion Erthygl 5(1)(a) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

ystyr “deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible material”) yw cloron neu blanhigion Solanum tuberosum L.;

ystyr “gwrthrych” (“object”) yw unrhyw beiriant, cerbyd, llestr, storfa neu wrthrych arall, gan gynnwys deunydd pecynnu;

ystyr “halogedig” (“contaminated”) yw wedi ei dynodi’n halogedig gan arolygydd iechyd planhigion at ddibenion Erthygl 5(1)(a) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

ystyr “halogedig o bosibl” (“possibly contaminated”) yw wedi ei bennu’n halogedig o bosibl gan arolygydd iechyd planhigion at ddibenion Erthygl 5(1)(b) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

ystyr “hysbysiad” (“notice”), mewn perthynas â hysbysiad sydd i’w roi gan arolygydd iechyd planhigion, yw hysbysiad o dan reoliad 15(1);

ystyr “parth” (“zone”) yw unrhyw ardal, gan gynnwys unrhyw fangre unigol;

ystyr “tatws hadyd ardystiedig” (“certified seed potatoes”) yw tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig o fewn yr ystyr a nodir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Tatws Hadyd.

Arolygon a phrofion swyddogol

18.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod arolygon swyddogol systemataidd ar gyfer Pydredd cylch tatws yn cael eu cynnal yng Nghymru ar gloron Solanum tuberosum L. a, pan fo’n briodol, ar blanhigion Solanum tuberosum L., yn unol ag Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC.

(2Pan amheuir bod Pydredd cylch tatws yn bresennol mewn deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod profion swyddogol yn cael eu cynnal gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC ac yn unol â’r amodau a bennir ym mhwynt 1 o Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC i gadarnhau a yw’n bresennol ai peidio,

(b)bod y canlynol yn cael eu cadw a’u diogelu’n briodol tra disgwylir i’r profion swyddogol gael eu cwblhau—

(i)yr holl gloron a samplwyd, a lle bynnag y bo’n bosibl, yr holl blanhigion a samplwyd;

(ii)unrhyw echdyniad sy’n weddill a deunydd paratoi ychwanegol ar gyfer y profion sgrinio;

(iii)yr holl ddogfennaeth berthnasol, ac

(c)hyd nes y cadarnheir ei fod yn bresennol neu y gwrthbrofir yr amheuaeth ei fod yn bresennol, pan fo symptomau gweledol diagnostig sy’n peri amheuaeth ynghylch presenoldeb Pydredd cylch tatws wedi eu gweld, neu pan fo symptomau Pydredd cylch tatws wedi eu canfod gan brawf imiwnofflworoleuedd cadarnhaol neu brawf cadarnhaol priodol arall—

(i)bod symud yr holl lotiau neu lwythi y cymerwyd y samplau ohonynt, heblaw’r rhai sydd o dan reolaeth swyddogol, yn cael ei wahardd, ac eithrio pan gadarnhawyd nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd cylch tatws yn lledaenu,

(ii)bod camau’n cael eu cymryd i olrhain tarddiad yr achos a amheuir, a

(iii)bod camau rhagofalus priodol ychwanegol sy’n seiliedig ar lefel y risg a amcangyfrifir yn cael eu cymryd i atal y pla planhigion rhag lledaenu.

(3Caiff hysbysiad gynnwys mesurau at ddibenion is-baragraff (2)(c)(i) i (iii).

Mesurau i’w cymryd yn dilyn cadarnhau presenoldeb Pydredd cylch tatws

19.—(1Os yw presenoldeb Pydredd cylch tatws yn cael ei gadarnhau mewn sampl o ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn dilyn profion swyddogol a gynhelir yn unol â pharagraff 18(2)(a) neu is-baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y llwyth neu’r lot ac unrhyw wrthrych y cymerwyd y sampl ohono a, pan fo’n briodol, y man cynhyrchu a’r cae y cynaeafwyd y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ohonynt, yn cael eu dynodi yn halogedig gan arolygydd iechyd planhigion;

(b)bod arolygydd iechyd planhigion yn canfod graddau’r halogi tebygol drwy gysylltiad cyn neu ar ôl cynaeafu neu drwy unrhyw gyswllt cynhyrchu ag unrhyw beth a ddynodir yn halogedig o dan baragraff (a), gan ystyried y materion a nodir ym mhwynt 1 o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

(c)bod parth yn cael ei ddarnodi gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad a wneir o dan baragraff (a), gan ystyried y materion a nodir ym mhwynt 2 o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC.

(2Pan fo deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau wedi ei ddynodi yn halogedig o dan is-baragraff (1)(a), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cynhelir profion ar stociau tatws sy’n perthyn drwy glonio i’r deunydd hwnnw sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn y dull a bennir ym mharagraff 18(2)(a) er mwyn canfod prif ffynhonnell debygol yr haint, a graddau’r halogi tebygol.

(3Rhaid cynnal unrhyw brofion o’r fath ar faint bynnag o ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ag sy’n angenrheidiol i ganfod prif ffynhonnell debygol yr haint, a graddau’r halogi tebygol.

(4Rhaid i unrhyw ddynodiad gan arolygydd iechyd planhigion o dan y paragraff hwn hon gael ei wneud drwy hysbysiad.

(5Pan fo arolygydd iechyd planhigion yn canfod o dan is-baragraff (1)(b) fod unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, neu unrhyw wrthrych, yn halogedig o bosibl, rhaid i’r arolygydd ddynodi drwy hysbysiad fod y deunydd hwnnw neu’r gwrthrych hwnnw yn halogedig o bosibl.

Cyfyngiadau mewn perthynas â deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrychau sy’n halogedig neu sy’n halogwyd o bosibl â Phydredd cylch tatws

20.—(1Ni chaiff unrhyw berson fynd ati’n fwriadol i blannu’r canlynol, nac achosi na chaniatáu’n fwriadol iddynt gael eu plannu—

(a)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig, neu

(b)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig o bosibl.

(2Pan fo deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrych wedi eu dynodi’n halogedig neu’n halogedig o bosibl o dan baragraff 19(1) neu (5), rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol—

(a)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig, i’r deunydd gael ei waredu drwy ei ddinistrio neu drwy unrhyw fesur arall sy’n cydymffurfio â phwynt 1 o Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

(b)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig o bosibl, i’r deunydd gael ei ddefnyddio neu ei waredu yn unol â phwynt 2 o Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

(c)yn achos gwrthrych sy’n halogedig neu wrthrych sy’n halogedig o bosibl, i’r gwrthrych—

(i)cael ei waredu drwy ei ddinistrio, neu

(ii)cael ei lanhau a’i ddiheintio fel nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd cylch tatws yn goroesi neu’n lledaenu.

(3Ni chaniateir i ddim byd a lanhawyd ac a ddiheintiwyd yn unol ag is-baragraff (2)(c)(ii) gael ei drin mwyach fel pe bai’n halogedig at ddibenion Cyfarwyddeb 93/85/EEC.

Mesurau mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig

21.—(1Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno’r hysbysiadau a ganlyn i unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am fan cynhyrchu halogedig—

(a)mewn perthynas ag unrhyw gae halogedig sy’n rhan o’r man cynhyrchu, hysbysiad yn cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu neu hysbysiad yn cynnwys yr ail gyfres o fesurau dileu;

(b)mewn perthynas ag unrhyw gae sy’n rhan o’r man cynhyrchu ond nad yw’n halogedig, hysbysiad yn cynnwys y drydedd set o fesurau dileu.

(2Dyma’r set gyntaf o fesurau dileu—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am o leiaf dair blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, ac unrhyw blanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws,

(b)gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae yn ystod y cyfnod hwnnw—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws;

(ii)planhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws;

(iii)cnydau lle ceir risg mewn cysylltiad â hwy y bydd Pydredd cylch tatws yn lledaenu,

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod y tymor cnydio tatws cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws am o leiaf ddwy flwyddyn dyfu yn olynol cyn plannu, a bod y cloron a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC, a

(d)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod y tymor cnydio tatws nesaf yn dilyn cylch cylchdroi priodol (rhaid i’r cylch hwnnw fod o leiaf ddwy flynedd pan fo’r tatws i’w plannu i gynhyrchu tatws hadyd).

(3Dyma’r ail set o fesurau dileu—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am bedair blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws,

(b)gofyniad bod y cae yn cael ei gadw, yn ystod y cyfnod hwnnw, yn fraenar neu’n dir pori parhaol, gan dorri’r borfa yn fyr neu bori’r tir yn ddwys yn fynych, ac

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn ystod y tymor cnydio tatws cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws am o leiaf ddwy flwyddyn dyfu yn olynol cyn plannu, a bod y cloron a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC.

(4Dyma’r drydedd set o fesurau dileu—

(a)pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi ei fodloni bod y risg o blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws wedi ei ddileu, gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am y flwyddyn dyfu gyntaf—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws,

(ii)planhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws, a

(iii)tatws hadyd ardystiedig, oni bai eu bod ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta yn unig,

(b)gofyniad mai dim ond y tatws a ganlyn y caniateir eu plannu ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y flwyddyn dyfu ganlynol—

(i)tatws hadyd ardystiedig, a

(ii)tatws hadyd a brofwyd yn swyddogol ar gyfer absenoldeb Pydredd cylch tatws ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n fan cynhyrchu halogedig,

(c)gofyniad mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol o datws hadyd ardystiedig y caniateir eu plannu i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn ystod o leiaf y drydedd flwyddyn dyfu, a

(d)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad hyd at ddiwedd y drydedd flwyddyn dyfu er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, ac unrhyw blanhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws a gofyniad bod profion swyddogol yn cael eu cynnal ar y cloron a gynaeafwyd ym mhob cae gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC.

(5Rhaid hefyd i hysbysiad a gyflwynir gan arolygydd iechyd planhigion o dan is-baragraff (1)(a) sy’n cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu—

(a)cynnwys gofyniad bod rhaid i’r holl beiriannau a chyfleusterau storio yn y man cynhyrchu a ddefnyddir i gynhyrchu tatws gael eu glanhau a’u diheintio ar unwaith ac yn dilyn y flwyddyn dyfu gyntaf, a

(b)pennu’r dulliau priodol ar gyfer glanhau a diheintio’r peiriannau a’r cyfleusterau storio.

(6Caniateir i’r mesurau y caiff eu pennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (5) gael eu cynnwys mewn hysbysiad gyda mesurau priodol eraill.

(7Rhaid i’r person y cyflwynir hysbysiad iddo yn unol ag is-baragraff (1) sicrhau bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn cael eu cymryd yn y modd gofynnol.

(8Pan fo arolygydd iechyd planhigion yn cyflwyno hysbysiad yn cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod arolwg swyddogol yn cael ei gynnal mewn perthynas â’r cae a grybwyllir yn is-baragraff (2)(d) yn unol ag Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 93/85/EEC.

Mesurau ychwanegol sy’n gymwys i uned cynhyrchu cnwd o dan orchudd

22.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys i blannu unrhyw gloron, planhigion neu wir hadau tatws mewn uned cynhyrchu cnydau o dan orchudd sy’n halogedig lle mae’n bosibl amnewid yr holl gyfrwng tyfu yn yr uned.

(2Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw gloron, planhigion na gwir hadau tatws yn yr uned heb awdurdodiad ysgrifenedig arolygydd iechyd planhigion.

(3Ni chaiff arolygydd iechyd planhigion roi awdurdodiad o dan is-baragraff (2) oni bai—

(a)y cydymffurfiwyd â’r holl fesurau i ddileu Pydredd cylch tatws ac i symud yr holl blanhigion sy’n eu cynnal ymaith a bennir mewn hysbysiad mewn perthynas â’r man cynhyrchu lle y mae’r uned wedi ei lleoli,

(b)bod y cyfrwng tyfu yn yr uned wedi ei newid yn llwyr, ac

(c)bod yr uned a’r holl offer a ddefnyddiwyd yn yr uned wedi eu glanhau ac wedi eu diheintio i ddileu Pydredd cylch tatws ac i symud yr holl ddeunydd planhigion cynhaliol ymaith.

(4Pan roddir awdurdodiad o dan is-baragraff (2), caiff yr awdurdodiad bennu mai dim ond tatws hadyd ardystiedig, cloron bychain neu ficro-blanhigion sy’n deillio o ffynonellau a brofwyd yn swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu.

Mesurau i’w cymryd mewn parthau a ddarnodwyd i reoli Pydredd cylch tatws

23.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi darnodi parth yn unol â pharagraff 19(1)(c).

(2Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, bennu rhagor o waharddiadau, cyfyngiadau a mesurau eraill a fydd yn gymwys yn y parth a ddarnodwyd i atal y risg y bydd Pydredd cylch tatws yn goroesi neu’n lledaenu.

(3Caiff Gweinidogion Cymru, yn benodol, bennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (2)—

(a)bod rhaid i unrhyw beiriannau neu gyfleusterau storio mewn mangre yn y parth a ddarnodwyd a ddefnyddir i gynhyrchu tatws gael eu glanhau a’u diheintio mewn modd priodol, fel nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd cylch tatws yn goroesi neu’n lledaenu;

(b)mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn ystod y cyfnod penodedig;

(c)bod rhaid i unrhyw datws hadyd a dyfir mewn man cynhyrchu sy’n halogedig o bosibl gael eu profi’n swyddogol ar ôl eu cynaeafu;

(d)bod rhaid i datws a fwriedir i’w plannu gael eu trin ar wahân i’r holl datws eraill mewn mangre yn y parth neu fod rhaid gweithredu system lanhau a, pan fo’n briodol, ddiheintio rhwng trin tatws hadyd a thrin tatws bwyta yn ystod y cyfnod penodedig.

(4O ran hysbysiad o dan is-baragraff (2)—

(a)rhaid iddo fod mewn ysgrifen,

(b)rhaid iddo ddisgrifio hyd a lled y parth a ddarnodir,

(c)rhaid iddo bennu ar ba ddyddiad y bydd pob mesur i gael effaith ac am ba hyd,

(d)rhaid iddo gael ei gyhoeddi mewn modd sy’n briodol i ddod ag ef i sylw’r cyhoedd, ac

(e)caniateir iddo gael ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy hysbysiad arall.

(5Rhaid trin unrhyw fangre sy’n rhannol o fewn parth a ddarnodir ac yn rhannol y tu allan iddo fel pe bai o fewn y parth hwnnw at ddibenion y paragraff hwn, ac eithrio pan nad yw’r rhan sydd y tu allan i’r parth a ddarnodir yng Nghymru.

(6Rhaid trin hysbysiad a gyhoeddir yn unol ag is-baragraff (4) fel pe bai wedi ei gyflwyno—

(a)i unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am unrhyw fangre o fewn y parth a ddarnodir, a

(b)i unrhyw berson sy’n gweithredu peiriannau neu sy’n cyflawni unrhyw weithgaredd arall mewn perthynas â chynhyrchu tatws o fewn y parth a ddarnodir.

(7Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod mangreoedd sy’n tyfu, yn storio neu’n trin cloron tatws, a mangreoedd sy’n gweithredu peiriannau tatws o dan gontract, yn cael eu goruchwylio gan arolygwyr iechyd planhigion drwy gydol y cyfnod penodedig;

(b)bod arolwg swyddogol yn cael ei gynnal yn ystod y cyfnod penodedig yn unol ag Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

(c)bod rhaglen yn cael ei sefydlu, pan fo’n briodol, i amnewid yr holl stociau tatws hadyd dros gyfnod priodol o amser.

(8At ddibenion is-baragraffau (3) a (7), ystyr “y cyfnod penodedig” yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, a rhaid iddo fod o leiaf dri thymor tyfu ar ôl y flwyddyn y darnodwyd y parth.

RHAN 6Mesurau i reoli Pydredd coch tatws

24.  Yn y Rhan hon—

ystyr “blwyddyn dyfu gyntaf” (“first growing year”), yn achos mesurau sydd i’w cymryd mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig, yw’r flwyddyn dyfu gyntaf yn dilyn y flwyddyn dyfu pryd y dynodir y man cynhyrchu halogedig yn halogedig at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(ii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

ystyr “deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible material”) yw planhigion (gan gynnwys cloron) heblaw gwir hadau Solanum tuberosum L. neu blanhigion, heblaw ffrwythau neu hadau Solanum lycopersicum L.;

ystyr “gofynion PRHG perthnasol” (“relevant RNQP requirements”), mewn perthynas â phlanhigion at blannu Solanum lycopersicum L., yw—

(a)

yn achos planhigion i’w plannu a gynhyrchwyd cyn 14 Rhagfyr 2019, y gofynion a oedd yn gymwys i’r planhigion i’w plannu hynny o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC neu yn rhinwedd y Gyfarwyddeb honno;

(b)

yn achos planhigion i’w plannu a gynhyrchwyd ar neu ar ôl 14 Rhagfyr 2019, y gofynion sy’n gymwys i’r planhigion i’w plannu hynny o dan y Rheoliad Amodau Ffytoiechydol neu yn rhinwedd y Rheoliad hwnnw;

ystyr “gwrthrych” (“object”) yw unrhyw beiriant, cerbyd, llestr, storfa neu wrthrych arall, gan gynnwys deunydd pecynnu;

ystyr “halogedig” (“contaminated”) yw wedi ei ddynodi’n halogedig gan arolygydd iechyd planhigion at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(ii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

ystyr “halogedig o bosibl” (“possibly contaminated”) yw wedi ei bennu’n halogedig o bosibl gan arolygydd iechyd planhigion at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(iii) neu (c)(iii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

ystyr “hysbysiad” (“notice”), mewn perthynas â hysbysiad sydd i’w roi gan arolygydd iechyd planhigion, yw hysbysiad o dan reoliad 15(1);

ystyr “parth” (“zone”) yw unrhyw ardal, gan gynnwys unrhyw fangre unigol;

ystyr “tatws hadyd ardystiedig” (“certified seed potatoes”) yw tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Tatws Hadyd.

Arolygon a phrofion swyddogol

25.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cynhelir arolygon swyddogol systemataidd blynyddol yng Nghymru er mwyn nodi presenoldeb Pydredd coch tatws ar ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn unol ag Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 98/57/EC.

(2Pan amheuir bod Pydredd coch tatws yn bresennol, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod profion swyddogol yn cael eu cynnal i gadarnhau a yw’n bresennol—

(i)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC ac yn unol â’r amodau a bennir ym mhwynt 1 o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(ii)mewn unrhyw achos arall, gan ddefnyddio unrhyw ddull a gymeradwyir yn swyddogol;

(b)hyd nes y cadarnheir ei fod yn bresennol neu y gwrthbrofir yr amheuaeth ei fod yn bresennol, pan fo symptomau gweledol diagnostig sy’n peri amheuaeth ynghylch presenoldeb Pydredd coch tatws wedi eu gweld, ac y cafwyd canlyniad cadarnhaol mewn prawf sgrinio cyflym, neu y cafwyd canlyniad cadarnhaol yn y profion sgrinio a bennir ym mhwynt 2 o Adran 1 ac Adran 3 o Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC—

(i)bod symud yr holl blanhigion a’r holl gloron o’r holl gnydau, yr holl lotiau neu’r holl lwythi y cymerwyd y samplau ohonynt, heblaw’r rhai sydd o dan reolaeth swyddogol, yn cael ei wahardd, ac eithrio pan gadarnhawyd nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd coch tatws yn lledaenu,

(ii)bod camau’n cael eu cymryd i olrhain tarddiad yr achos a amheuir, a

(iii)bod mesurau rhagofalus priodol ychwanegol sy’n seiliedig ar lefel y risg a amcangyfrifir yn cael eu cymryd er mwyn atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

(3Caiff hysbysiad gynnwys mesurau at ddibenion is-baragraff (2)(b)(i) i (iii).

Mesurau i’w cymryd yn dilyn cadarnhau presenoldeb Pydredd coch tatws

26.—(1Os bydd presenoldeb Pydredd coch tatws yn cael ei gadarnhau yn dilyn profion swyddogol a gynhelir yn unol â pharagraff 25(2)(a), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cymerir y camau a bennir yn is-baragraffau (2) i (4) yn unol ag egwyddorion gwyddonol cadarn, bioleg Pydredd coch tatws a systemau cynhyrchu, marchnata a phrosesu perthnasol planhigion sy’n cynnal Pydredd coch tatws.

(2Yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y camau yw—

(a)ymchwiliad gan arolygydd iechyd planhigion i ganfod graddau’r halogiad a phrif ffynonellau’r halogiad yn unol ag Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(b)profion swyddogol pellach, gan gynnwys profion ar yr holl stociau tatws hadyd sy’n perthyn drwy glonio;

(c)dynodi gan arolygydd iechyd planhigion bod y pethau a ganlyn yn halogedig—

(i)y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a’r llwyth neu’r lot y cymerwyd y sampl ohono neu ohoni;

(ii)unrhyw wrthrychau sydd wedi dod i gysylltiad â’r sampl honno;

(iii)unrhyw uned cynhyrchu cnwd dan orchudd neu gae cynhyrchu cnwd dan orchudd ac unrhyw fan cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y cymerwyd y sampl ohoni neu ohono;

(d)penderfyniad gan arolygydd iechyd planhigion ynghylch graddau’r halogiad tebygol drwy ddod i gysylltiad cyn neu ar ôl cynaeafu, drwy gysylltau cynhyrchu, dyfrhau neu chwistrellu neu drwy berthynas drwy glonio;

(e)darnodi parth gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad o dan baragraff (c), y penderfyniad a wneir o dan baragraff (d) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws yn unol â phwynt 2(i) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC.

(3Yn achos planhigion cynhaliol, heblaw deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, pan fo arolygydd iechyd planhigion yn nodi bod cynhyrchu deunydd o’r fath yn wynebu risg, y camau yw—

(a)ymchwiliad gan arolygydd iechyd planhigion i ganfod graddau’r halogiad a phrif ffynonellau’r halogiad yn unol ag Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(b)dynodi gan arolygydd iechyd planhigion fod planhigion cynhaliol y cymerwyd y sampl ohonynt yn halogedig;

(c)penderfyniad gan arolygydd iechyd planhigion o ran yr halogiad tebygol;

(d)darnodi parth gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad o dan baragraff (b), y penderfyniad a wnaed o dan baragraff (c) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws yn unol â phwynt 2(i) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC.

(4Yn achos dŵr wyneb a phlanhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt cysylltiedig, pan fo arolygydd iechyd planhigion yn nodi bod cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn wynebu risg oherwydd dyfrhau, chwistrellu neu lifogydd dŵr wyneb, y camau yw—

(a)ymchwiliad gan arolygydd iechyd planhigion i ganfod graddau’r halogiad, sy’n cynnwys cynnal arolwg swyddogol, ar adegau priodol, ar samplau o ddŵr wyneb ac, os ydynt yn bresennol, planhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt;

(b)dynodi dŵr wyneb y cymerwyd y sampl ohono gan arolygydd iechyd planhigion, i’r graddau sy’n briodol ac ar sail yr ymchwiliad o dan baragraff (a);

(c)penderfyniad gan arolygydd iechyd planhigion o ran yr halogiad tebygol ar sail y dynodiad a wnaed o dan baragraff (b);

(d)darnodi parth gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad o dan baragraff (b), y penderfyniad a wnaed o dan baragraff (c) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws yn unol â phwynt 2(ii) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC.

Cyfyngiadau mewn perthynas â deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrychau sy’n halogedig neu sy’n halogedig o bosibl â Phydredd coch tatws

27.—(1Ni chaiff unrhyw berson fynd ati’n fwriadol i blannu’r canlynol, nac achosi na chaniatáu’n fwriadol iddynt gael eu plannu—

(a)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig, neu

(b)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig o bosibl.

(2Pan fo deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrych wedi eu dynodi’n halogedig neu’n halogedig o bosibl o dan baragraff 26(2), rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol—

(a)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig, i’r deunydd fod yn destun unrhyw fesur sy’n cydymffurfio â phwynt 1 o Atodiad 6 i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(b)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig o bosibl, i’r deunydd gael ei ddefnyddio neu ei waredu yn unol â phwynt 2 o Atodiad 6 i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(c)yn achos gwrthrych sy’n halogedig neu wrthrych sy’n halogedig o bosibl, i’r gwrthrych—

(i)cael ei waredu drwy ei ddinistrio, neu

(ii)cael ei lanhau a’i ddiheintio fel nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu.

(3Ni chaniateir i ddim byd a lanhawyd ac a ddiheintiwyd yn unol ag is-baragraff (2) gael ei drin mwyach fel pe bai’n halogedig at ddibenion Cyfarwyddeb 98/57/EC.

Mesurau y caniateir eu gwneud yn ofynnol mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig

28.—(1Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno’r hysbysiadau a ganlyn i unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am fan cynhyrchu halogedig sydd mewn parth a ddarnodir gan arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff 26(2)(e)—

(a)mewn perthynas â chae halogedig neu uned cynhyrchu cnwd dan orchudd halogedig sy’n rhan o’r man cynhyrchu, hysbysiad yn cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu neu hysbysiad yn cynnwys yr ail set o fesurau dileu;

(b)mewn perthynas â chae sy’n rhan o’r man cynhyrchu ond nad yw’n halogedig a, pan fo’r arolygydd wedi ei fodloni bod y risg o blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd coch tatws wedi ei dileu, hysbysiad yn cynnwys y drydedd set o fesurau dileu.

(2Y set gyntaf o fesurau dileu yw—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae neu’r uned o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am o leiaf bedair blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf, er mwyn dileu unrhyw blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol ac unrhyw blanhigion eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, sy’n cynnal Pydredd coch tatws,

(b)gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae neu’r uned yn ystod y cyfnod hwnnw—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws;

(ii)planhigion tomatos neu hadau tomatos;

(iii)gan ystyried bioleg Pydredd coch tatws, planhigion cynhaliol eraill neu blanhigion o’r rhywogaeth Brassica lle ceir risg mewn cysylltiad â hwy bod Pydredd coch tatws yn goroesi;

(iv)cnydau lle ceir risg mewn cysylltiad â hwy y bydd Pydredd coch tatws yn lledaenu,

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae neu’r uned yn ystod y tymor cnydio tatws neu domatos cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae neu’r uned yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomato gwirfoddol a phlanhigion cynhaliol eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, yn ystod arolygiadau swyddogol ar gyfer Pydredd coch tatws, am o leiaf y ddwy flwyddyn dyfu olynol cyn plannu, a bod y cloron neu’r planhigion tomatos a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC, a

(d)gofyniad bod rhaid cymhwyso cylch cylchdroi priodol yn y tymhorau cnydio tatws neu domatos dilynol, a rhaid i’r cylch hwnnw fod yn ddwy flynedd o leiaf pan fo tatws i’w plannu i gynhyrchu tatws hadyd.

(3Yr ail set o fesurau dileu yw—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae neu’r uned o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am bum blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, sy’n cynnal Pydredd coch tatws,

(b)gofyniad—

(i)yn ystod tair blwyddyn gyntaf y blynyddoedd tyfu hynny, fod y cae neu’r uned yn cael ei gadw neu ei chadw—

(aa)yn fraenar,

(bb)gyda chnydau grawnfwyd, os yw’r arolygydd wedi ei fodloni nad oes risg y bydd Pydredd coch tatws yn lledaenu,

(cc)yn dir pori parhaus gan dorri’r borfa yn fyr neu bori’r tir yn ddwys yn fynych, neu

(dd)fel glaswellt ar gyfer cynhyrchu hadau;

(ii)yn ystod y bedwaredd a’r bumed flwyddyn dyfu, mai dim ond planhigion nad ydynt yn cynnal Pydredd coch tatws ac nad oes unrhyw risg mewn cysylltiad â hwy y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu y caniateir eu plannu yn y cae neu’r uned, ac

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn ystod y tymor cnydio tatws neu domatos cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae neu’r uned yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion cynhaliol eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, yn ystod arolygiadau swyddogol ar gyfer Pydredd coch tatws, am o leiaf ddwy flwyddyn dyfu yn olynol cyn plannu, a bod y cloron neu’r planhigion tomatos a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC.

(4Y drydedd set o fesurau dileu yw—

(a)gofyniad na phlennir planhigion sy’n cynnal Pydredd coch tatws neu mai dim ond y planhigion tatws a’r planhigion tomatos a ganlyn y caniateir eu plannu yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am y flwyddyn dyfu gyntaf—

(i)tatws hadyd ardystiedig ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta;

(ii)planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ar gyfer cynhyrchu ffrwythau,

(b)gofyniad mai dim ond y tatws a ganlyn y caniateir eu plannu i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y flwyddyn dyfu ddilynol gyntaf, os oes tatws i’w plannu yn y flwyddyn honno—

(i)tatws hadyd ardystiedig;

(ii)tatws hadyd a brofwyd yn swyddogol ar gyfer absenoldeb Pydredd coch tatws ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n halogedig,

(c)gofyniad mai dim ond y planhigion tomatos a ganlyn y caniateir eu plannu i gynhyrchu planhigion neu ffrwythau yn y flwyddyn dyfu ddilynol gyntaf, os oes planhigion tomatos i’w plannu yn y flwyddyn honno—

(i)planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol;

(ii)os ydynt wedi eu lluosogi yn llystyfol, planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n halogedig,

(d)gofyniad, yn achos tatws, mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol o datws hadyd ardystiedig y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod yr ail flwyddyn dyfu ddilynol ac unrhyw flwyddyn dyfu ddilynol arall i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y cae,

(e)gofyniad, yn achos tomatos, mai dim ond planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol neu, os ydynt wedi eu lluosogi yn llystyfol, planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod yr ail flwyddyn dyfu ddilynol ac unrhyw flwyddyn dyfu ddilynol arall i gynhyrchu planhigion neu ffrwythau yn y cae,

(f)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad hyd at ddiwedd y flwyddyn dyfu a bennir yn yr hysbysiad er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, a phlanhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd coch tatws, ac

(g)arolygiadau swyddogol o gnydau sy’n tyfu ar adegau priodol a phrofion swyddogol ar datws a gynaeafwyd yn unol â’r dull a nodir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC.

(5Rhaid hefyd i hysbysiad a gyflwynir gan arolygydd iechyd planhigion o dan is-baragraff (1)(a) sy’n cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu—

(a)cynnwys gofyniad bod rhaid i’r holl beiriannau a chyfleusterau storio yn y man cynhyrchu a ddefnyddir i gynhyrchu tatws gael eu glanhau a’u diheintio ar unwaith ac yn dilyn y flwyddyn dyfu gyntaf,

(b)pennu’r dulliau priodol ar gyfer glanhau a diheintio’r peiriannau a’r cyfleusterau storio, ac

(c)gwahardd unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu neu bennu sut y mae’n rhaid cynnal unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu, at ddiben atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

(6Caniateir i’r mesurau y caiff eu pennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (5) gael eu cynnwys mewn hysbysiad gyda mesurau priodol eraill.

(7Rhaid i’r person y cyflwynir hysbysiad iddo yn unol ag is-baragraff (1) sicrhau bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn cael eu cymryd yn y modd gofynnol.

Mesurau ychwanegol mewn perthynas ag unedau cynhyrchu cnwd dan orchudd

29.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys i blannu unrhyw gloron, planhigion neu wir hadau tatws mewn uned cynhyrchu cnydau o dan orchudd sy’n halogedig lle mae’n bosibl amnewid yr holl gyfrwng tyfu yn yr uned.

(2Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw gloron, planhigion na gwir hadau tatws, planhigion tomatos neu hadau tomatos neu blanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws yn yr uned heb awdurdodiad ysgrifenedig arolygydd iechyd planhigion.

(3Ni chaiff arolygydd iechyd planhigion roi awdurdodiad o dan is-baragraff (2) oni bai—

(a)y cydymffurfiwyd â’r holl fesurau i ddileu Pydredd coch tatws ac i symud yr holl blanhigion sy’n cynnal Pydredd coch tatws ymaith a bennir mewn hysbysiad mewn perthynas â’r man cynhyrchu lle y mae’r uned wedi ei lleoli,

(b)bod y cyfrwng tyfu yn yr uned wedi ei newid yn llwyr, ac

(c)bod yr uned a’r holl offer a ddefnyddiwyd yn yr uned wedi eu glanhau ac wedi eu diheintio i ddileu Pydredd coch tatws ac i symud yr holl ddeunydd planhigion cynhaliol ymaith.

(4Caiff awdurdodiad o dan is-baragraff (2)—

(a)mewn perthynas â chynhyrchu tatws, bennu mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu gloron bychain neu ficro-blanhigion sy’n deillio o ffynonellau a brofwyd yn swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu;

(b)mewn perthynas â chynhyrchu tomatos, bennu mai dim ond hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol neu, os cânt eu lluosogi yn llystyfol, blanhigion tomatos a gynhyrchwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu;

(c)gwahardd unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu;

(d)pennu sut y mae’n rhaid cynnal unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu at ddiben atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

Mesurau i’w cymryd mewn parthau a ddarnodwyd i reoli Pydredd coch tatws

30.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi darnodi parth mewn perthynas â chadarnhad bod Pydredd coch tatws wedi ei ganfod o dan baragraff 26(3)(d) neu (4)(d).

(2Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, bennu rhagor o waharddiadau, cyfyngiadau a mesurau eraill a fydd yn gymwys yn y parth a ddarnodir i atal y risg y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu.

(3Caiff Gweinidogion Cymru, yn benodol, bennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (2)—

(a)bod rhaid glanhau a, pan fo’n briodol, ddiheintio unrhyw beiriannau neu gyfleusterau storio mewn mangre o fewn y parth a ddarnodir a ddefnyddir i dyfu, i storio neu i drin cloron tatws neu domatos o fewn y parth, neu unrhyw fangre o fewn y parth y gweithredir peiriannau o dan gontract ar gyfer cynhyrchu tatws neu domatos ohoni, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu;

(b)yn achos cnydau tatws, mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn ystod y cyfnod penodedig;

(c)bod rhaid i datws a fwriedir i’w plannu gael eu trin ar wahân i’r holl datws eraill mewn mangre o fewn y parth neu fod rhaid gweithredu system lanhau a, pan fo’n briodol, ddiheintio rhwng trin tatws hadyd a thrin tatws bwyta yn ystod y cyfnod penodedig;

(d)yn achos cnydau tomatos, mai dim ond planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol neu, os cânt eu lluosogi yn llystyfol, blanhigion tomatos a gynhyrchir o hadau o’r fath ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn ystod y cyfnod penodedig;

(e)na chaniateir defnyddio dŵr wyneb halogedig ar gyfer dyfrhau na chwistrellu deunydd planhigion penodedig a, pan fo’n briodol, blanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws, heb awdurdodiad ysgrifenedig ymlaen llaw gan arolygydd iechyd planhigion;

(f)os oes gollyngiadau gwastraff hylifol wedi eu halogi, fod rhaid gwaredu unrhyw wastraff o fangre brosesu neu becynnu ddiwydiannol yn y parth sy’n trin deunydd planhigion penodedig o dan oruchwyliaeth arolygydd iechyd planhigion.

(4O ran hysbysiad o dan is-baragraff (2)—

(a)rhaid iddo fod mewn ysgrifen,

(b)rhaid iddo ddisgrifio hyd a lled y parth a ddarnodir,

(c)rhaid iddo bennu mewn perthynas â phob mesur a yw’n gymwys yn gyffredinol ynteu i ardal o ddŵr wyneb yn y parth a ddarnodwyd,

(d)rhaid iddo bennu ar ba ddyddiad y bydd pob mesur yn cael effaith ac am ba hyd,

(e)rhaid iddo gael ei gyhoeddi mewn modd sy’n briodol i ddod ag ef i sylw’r cyhoedd, ac

(f)caniateir iddo gael ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy hysbysiad arall.

(5Rhaid trin unrhyw fangre sy’n rhannol o fewn parth a ddarnodir ac yn rhannol y tu allan iddo fel pe bai o fewn y parth hwnnw at ddibenion y paragraff hwn, ac eithrio pan nad yw’r rhan sydd y tu allan i’r parth a ddarnodir yng Nghymru.

(6Rhaid trin hysbysiad a gyhoeddir yn unol ag is-baragraff (4) fel pe bai wedi ei gyflwyno—

(a)i unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am unrhyw fangre o fewn y parth a ddarnodir;

(b)i unrhyw berson—

(i)sydd â hawl i ddefnyddio unrhyw ddŵr wyneb halogedig,

(ii)sydd ag unrhyw ddŵr wyneb halogedig ar fangre o fewn y parth a ddarnodir y mae’r person yn ei meddiannu neu y mae ganddo ofal amdani, a

(iii)sy’n gweithredu peiriannau neu sy’n cyflawni unrhyw weithgaredd arall mewn perthynas â chynhyrchu tatws neu domatos o fewn y parth a ddarnodir.

(7Ni chaiff Gweinidogion Cymru bennu’r mesurau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3) ond pan fo’r parth wedi ei darnodi—

(a)mewn perthynas â’r mesurau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (d) o’r is-baragraff hwnnw at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(iv) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(b)mewn perthynas â’r mesurau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (e) ac (f) o’r is-baragraff hwnnw at ddibenion Erthygl 5(1)(c)(iii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC.

(8Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod mangreoedd sy’n tyfu, yn storio neu’n trin cloron tatws a mangreoedd sy’n gweithredu peiriannau tatws o dan gontract yn cael eu goruchwylio gan arolygwyr iechyd planhigion yn ystod y cyfnod penodedig;

(b)bod arolwg swyddogol yn cael ei gynnal yn unol ag Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 98/57/EC yn ystod y cyfnod penodedig;

(c)bod rhaglen yn cael ei sefydlu, pan fo’n briodol, i amnewid yr holl stociau tatws hadyd dros gyfnod priodol o amser.

(9At ddibenion is-baragraffau (3) ac (8), rhaid i’r “cyfnod penodedig”, mewn perthynas â pharth a ddarnodir yn unol â pharagraff 26(3)(d) neu (4)(d) fod o leiaf dri thymor tyfu ar ôl y flwyddyn y darnodwyd y parth.

RHAN 7Mesurau ynglŷn â thatws o’r Aifft

Mesurau at ddibenion Erthygl 7 o Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EC

31.—(1Yn y Rhan hon, ystyr “tatws o’r Aifft” yw unrhyw gloron Solanum tuberosum L., yn tarddu o’r Aifft a gyflwynir i diriogaeth yr Undeb o dan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EC.

(2Ni chaiff unrhyw weithredwr proffesiynol—

(a)symud unrhyw datws o’r Aifft yng Nghymru oni bai eu bod wedi eu labelu i ddangos eu bod yn tarddu o’r Aifft;

(b)prosesu, paratoi, golchi neu becynnu unrhyw datws o’r Aifft mewn mangre yng Nghymru heblaw mewn mangre y mae Gweinidogion Cymru wedi ei chymeradwyo mewn ysgrifen at y diben hwnnw.

(3Nid yw is-baragraff (2)(b) yn gymwys i becynnu neu baratoi unrhyw datws o’r Aifft mewn siop, bwyty, ffreutur, clwb, tŷ tafarn, ysgol, ysbyty, neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) i’w ddanfon at y defnyddiwr terfynol.

Rheoliad 38(1)(d) i (f)

ATODLEN 3Troseddau: darpariaethau perthnasol yn Rheoliadau’r UE

RHAN 1Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE

Y Ddarpariaeth yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UEY Pwnc
Erthygl 5(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 8(1))Yn gwahardd cyflwyno pla cwarantin Undeb i diriogaeth yr Undeb, symud pla cwarantin Undeb o fewn tiriogaeth yr Undeb neu ddal, lluosogi neu ryddhau pla cwarantin Undeb o fewn tiriogaeth yr Undeb(6).
Erthygl 9(3) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 33(1))

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol hysbysu awdurdodau cymwys ar unwaith am unrhyw dystiolaeth a all fod ganddynt ynghylch perygl sydd ar fin digwydd:

(a)

y daw pla cwarantin Undeb neu bla sy’n destun mesurau a fabwysiadwyd yn unol ag Erthygl 30(1) i diriogaeth yr Undeb neu i ran o diriogaeth yr Undeb lle nad yw’n bresennol eto, neu

(b)

y daw pla cwarantin parth gwarchodedig i’r priod barth gwarchodedig.

Erthygl 14(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 16 a 33(1))

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol sy’n amau neu sy’n dod yn ymwybodol:

(a)

bod pla cwarantin Undeb neu bla sy’n destun mesurau a fabwysiadwyd yn unol ag Erthygl 30(1) yn bresennol mewn planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sydd o dan reolaeth y gweithredwr;

(b)

bod pla cwarantin parth gwarchodedig yn bresennol mewn planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sydd o dan reolaeth y gweithredwr yn y priod barth gwarchodedig,

hysbysu’r awdurdod cymwys ar unwaith a chymryd camau rhagofalus i atal y pla rhag ymsefydlu a lledaenu.

Erthygl 14(3)

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol:

(a)

ymgynghori â’r awdurdod cymwys pan fo’r gweithredwr proffesiynol wedi cael cadarnhad swyddogol ynghylch presenoldeb pla cwarantin Undeb mewn planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sydd o dan reolaeth y gweithredwr, a

(b)

pan fo’n gymwys, bwrw ymlaen â’r camau sy’n ofynnol o dan Erthygl 14(4) i (7).

Erthygl 15(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 15(2), 16 a 33(1))

Yn ei gwneud yn ofynnol i berson nad yw’n weithredwr proffesiynol hysbysu’r awdurdod cymwys ar unwaith pan fydd y person yn dod yn ymwybodol o’r canlynol, neu pan fo ganddo reswm i amau’r canlynol:

(a)

presenoldeb pla cwarantin Undeb;

(b)

presenoldeb pla cwarantin parth gwarchodedig yn y priod barth gwarchodedig.

Erthygl 32(2)Yn gwahardd cyflwyno pla cwarantin parth gwarchodedig i’r priod barth gwarchodedig, symud pla cwarantin parth gwarchodedig yn y priod barth gwarchodedig neu’r daliad, lluosogi neu ryddhau pla cwarantin parth gwarchodedig yn y priod barth gwarchodedig(7).
Erthygl 37(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 39, ac Erthygl 17 o’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol)Yn gwahardd gweithredwr proffesiynol rhag cyflwyno i diriogaeth yr Undeb bla nad yw’n bla cwarantin Undeb a reoleiddir ar blanhigion i’w plannu y caiff ei drosglwyddo drwyddynt, neu symud pla nad yw’n bla cwarantin Undeb a reoleiddir o fewn tiriogaeth yr Undeb ar blanhigion i’w plannu y caiff ei drosglwyddo drwyddynt(8).
Erthygl 40(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1))Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill penodol i diriogaeth yr Undeb os ydynt yn tarddu o bob trydedd wlad neu diriogaeth neu rai penodol ohonynt(9).
Erthygl 41(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1))

Yn gwahardd:

(a)

cyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill o drydydd gwledydd oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni(10);

(b)

symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni(11).

Erthygl 42(2) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1))Yn gwahardd cyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n uchel eu risg o drydydd gwledydd(12).
Erthygl 43(1)Yn gwahardd cyflwyno i diriogaeth yr Undeb ddeunydd pecynnu pren, p’un a yw’n cael ei ddefnyddio i gludo gwrthrychau o unrhyw fath neu beidio, oni bai ei fod yn cyflawni’r gofynion penodedig neu ei fod yn destun yr esemptiadau y darperir ar eu cyfer yn SRFFf 15.
Erthygl 45(1), y trydydd paragraff (fel y’i darllenir gydag Erthygl 55)Yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau post a gweithredwyr proffesiynol sy’n ymwneud â gwerthu drwy gontractau pellter drefnu bod gwybodaeth benodol ar gael i’w cleientiaid drwy’r rhyngrwyd.
Erthygl 53(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 57 a 58)

Yn gwahardd:

(a)

cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n tarddu o drydydd gwledydd i barthau gwarchodedig penodol;

(b)

cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n tarddu o fewn tiriogaeth yr Undeb i barthau gwarchodedig penodol(13).

Erthygl 54(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 57 a 58)

Yn gwahardd:

(a)

cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill i barthau gwarchodedig penodol oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r parthau gwarchodedig hynny wedi eu cyflawni;

(b)

symud planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill mewn parthau gwarchodedig penodol oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r parthau gwarchodedig hynny wedi eu cyflawni(14).

Erthygl 59

Yn ei gwneud yn ofynnol:

(a)

i gerbydau, peiriannau neu ddeunydd pecynnu a ddefnyddir ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n symud i diriogaeth yr Undeb neu o’i mewn, neu drwy diriogaeth yr Undeb, fod yn rhydd rhag plâu cwarantin Undeb a phlâu sy’n destun mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1);

(b)

i gerbydau, peiriannau neu ddeunydd pecynnu a ddefnyddir ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill sy’n symud i’r parthau gwarchodedig neu o’u mewn, neu drwy barthau gwarchodedig, fod yn rhydd rhag y plâu cwarantin priod barth gwarchodedig.

Erthygl 62(1)

Yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gyfrifol am orsaf gwarantin neu gyfleuster cyfyngu fonitro’r orsaf neu’r cyfleuster a’r cyffiniau agos, am bresenoldeb anfwriadol plâu cwarantin Undeb a phlâu sy’n destun mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl

30(1).

Erthygl 62(2)

Yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gyfrifol am orsaf gwarantin neu gyfleuster cyfyngu gymryd camau priodol ar sail y cynllun wrth gefn y cyfeirir ato ym mhwynt (e) o Erthygl 61(1) ac i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau i weithredwyr proffesiynol yn Erthygl 14 pan ganfyddir neu pan amheuir presenoldeb anfwriadol pla cwarantin Undeb neu bla sy’n destun mesurau a fabwysiadir yn unol ag Erthygl 30(1).

Erthygl 64(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 64(2))Yn gwahardd rhyddhau planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o orsafoedd cwarantin neu gyfleusterau cyfyngu oni bai bod hynny wedi ei awdurdodi gan yr awdurdodau cymwys.
Erthygl 66(1) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 65(3))Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol penodol gyflwyno cais am gofrestru i’r awdurdodau cymwys.
Erthygl 66(5) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 65(3))

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr cofrestredig, pan fo’n berthnasol:

(a)

cyflwyno diweddariad blynyddol ynghylch unrhyw newidiadau yn y data y cyfeirir ato ym mhwyntiau (d) ac (e) o Erthygl 66(2) neu yn y datganiadau y cyfeirir atynt ym mhwyntiau (b) ac (c) o Erthygl 66(2);

(b)

diweddaru’r data y cyfeirir ato ym mhwynt (a) o Erthygl 66(2) heb fod yn hwyrach na 30 diwrnod ar ôl y newid yn y data hwnnw.

Erthygl 69(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 65(3) a 69(3))Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol y cyflenwir iddo blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun y gofynion neu’r amodau penodedig gadw cofnod sy’n caniatáu i’r gweithredwr adnabod y gweithredwr proffesiynol a gyflenwodd bob uned fasnach.
Erthygl 69(2) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 69(3))Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr proffesiynol sy’n cyflenwi planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun y gofynion neu’r amodau penodedig gadw cofnod sy’n caniatáu i’r gweithredwr adnabod y gweithredwr proffesiynol y cyflenwyd pob uned fasnach iddo.
Erthygl 69(4)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol gadw’r cofnodion sy’n ofynnol yn unol ag Erthygl 69(1) i (3) am o leiaf dair blynedd.
Erthygl 70(1)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol y cyflenwir y planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill y cyfeirir atynt yn Erthygl 69(1) a (2) iddynt, neu sy’n cyflenwi’r rheiny, fod â systemau neu weithdrefnau olrhain ar waith i ganiatáu i symudiadau’r planhigion, y cynhyrchion planhigion a’r gwrthrychau eraill hynny o fewn a rhwng eu mangreoedd eu hunain gael eu hadnabod.
Erthyglau 72(1) a 73Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill i diriogaeth yr Undeb o drydydd gwledydd oni bai bod tystysgrif ffytoiechydol yn mynd gyda hwy(15).
Erthygl 74(1)Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill o drydydd gwledydd i barthau gwarchodedig penodol oni bai bod tystysgrif ffytoiechydol yn mynd gyda hwy(16).
Erthygl 79(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 81, 82 a 83)Yn gwahardd symud planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill o fewn tiriogaeth yr Undeb heb basbort planhigion(17).
Erthygl 80(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 81, 82 a 83)Yn gwahardd cyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill i barthau gwarchodedig penodol, neu symud planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau penodol eraill o fewn parthau gwarchodedig penodol, heb basbort planhigion(18).
Erthygl 84(1)Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol rhag dyroddi pasbortau planhigion oni bai eu bod wedi eu hawdurdodi a rhag dyroddi pasbortau planhigion ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill nad ydynt yn gyfrifol amdanynt.
Erthygl 84(3)Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion ac eithrio mewn mangreoedd, warysau cyfun neu ganolfannau anfon penodedig.
Erthygl 85 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 87)Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill oni bai bod y gofynion penodedig wedi eu cyflawni mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny.
Erthygl 86(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 86(2) a 87)Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i’w cyflwyno i barth gwarchodedig, neu i’w symud o’i fewn, oni bai bod y gofynion penodol wedi eu cyflawni mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny.
Erthygl 88Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr proffesiynol atodi pasbortau planhigion i uned fasnach y planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill o dan sylw, neu pan fo’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill yn cael eu symud mewn pecyn, bwndel neu gynhwysydd, i’r pecyn, y bwndel neu’r cynhwysydd hwnnw.
Erthygl 90(1)

Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr awdurdodedig:

(a)

nodi a monitro’r pwyntiau yn ei broses gynhyrchu a phwyntiau allweddol penodol eraill ynglŷn â symud planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill pan fo’r gweithredwr awdurdodedig yn bwriadu dyroddi pasbort planhigion mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion a’r gwrthrychau eraill hynny, a

(b)

cadw cofnodion ynghylch nodi a monitro’r pwyntiau hynny am o leiaf dair blynedd.

Erthygl 90(2)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr awdurdodedig sicrhau bod hyfforddiant priodol yn cael ei roi i’w bersonél sy’n ymwneud â’r archwiliadau y cyfeirir atynt yn Erthygl 87.
Erthygl 93(1)Yn gwahardd gweithredwyr awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion amnewid oni bai bod amodau penodol wedi eu cyflawni.
Erthygl 93(5)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr awdurdodedig gadw pasbortau planhigion amnewid neu eu cynnwys am o leiaf dair blynedd.
Erthygl 96(1)

Yn gwahardd marcio deunydd pecynnu pren, pren neu wrthrychau eraill o fewn tiriogaeth yr Undeb:

(c)

gan unrhyw weithredwr proffesiynol nad yw wedi ei awdurdodi yn unol ag Erthygl 98, neu

(d)

heblaw yn y modd gofynnol.

Erthygl 97(1)

Yn gwahardd trwsio deunydd pecynnu pren:

(a)

gan unrhyw weithredwr proffesiynol nad yw wedi ei awdurdodi yn unol ag Erthygl 98, neu

(b)

heblaw yn y modd gofynnol.

RHAN 2Y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol

Y ddarpariaeth yn y Rheoliad Rheolaethau SwyddogolY pwnc
Erthygl 47(5) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 5 a 7 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2122 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran categorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau a esemptir o reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, rheolaethau penodol ar fagiau personol teithwyr ac ar lwythi bach o nwyddau a anfonir at bobl naturiol na fwriedir eu rhoi ar y farchnad(19))Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sy’n dod i’r Undeb sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno ar gyfer rheolaethau swyddogol ar y safle rheoli ar y ffin lle daw i’r Undeb am y tro cyntaf.
Erthygl 50(1)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr llwyth perthnasol y mae Erthygl 47(1) yn gymwys iddo gyflwyno’r tystysgrifau neu’r dogfennau swyddogol gwreiddiol y mae’n ofynnol iddynt fynd gyda’r llwyth i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin.
Erthygl 50(3)

Yn gwahardd gweithredwr llwyth perthnasol rhag hollti’r llwyth nes y bydd rheolaethau swyddogol wedi eu cyflawni a bod y Ddogfen Mynediad Iechyd Cymunedol (“DMIC”) wedi ei chwblhau.

Erthygl 56(1)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr llwyth perthnasol gwblhau’r rhan berthnasol o’r DMIC.
Erthygl 56(4) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 1(1) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013 ynghylch hysbysu ymlaen llaw fod llwythi o gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau yn dod i’r Undeb(20) a rheoliad 9)Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr llwyth perthnasol roi hysbysiad ymlaen llaw i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin fod y llwyth yn cyrraedd cyn i’r llwyth gyrraedd yr Undeb yn gorfforol.

RHAN 3Deddfwriaeth arall yr UE

Y ddarpariaeth yn neddfwriaeth yr UEY pwnc
Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1602 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y Ddogfen Mynediad Iechyd Cymunedol sy’n mynd gyda llwythi o anifeiliaid a nwyddau i’w cyrchfan(21)
Erthygl 3 (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 4(a), 5(1)(b) a (d), 5(2)(a) ac (c) a 6(a))Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth sicrhau bod DMIC yn mynd gyda’r llwyth cyn ei ryddhau ar gyfer cylchredeg rhydd yn unol ag Erthygl 57(2)(b) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2124 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer rheolaethau swyddogol ar lwythi o anifeiliaid a nwyddau sy’n cael eu cludo, eu trawslwytho a’u cludo ymlaen drwy’r Undeb(22)
Erthygl 5(a) a (b)Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sydd wedi cael awdurdodiad i gludo’r llwyth ymlaen i nodi manylion penodol yn y DMIC a chyflwyno’r DMIC.
Erthygl 6Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sydd wedi cael awdurdodiad i’w gludo ymlaen gydymffurfio â’r amodau penodedig ynglŷn â’i gludo a’i storio.
Erthygl 16(1) a (3)Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol a drawslwythir roi’r wybodaeth benodedig i awdurdodau cymwys.

Erthygl 22(4)

Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sy’n cael ei gludo drwy diriogaeth yr Undeb gymryd mesurau penodol ynglŷn â chludo’r llwyth.

Rheoliad 38(1)(g)

ATODLEN 4Troseddau ynglŷn â phenderfyniadau brys gan yr UE

Penderfyniad yr UEY ddarpariaeth ym mhenderfyniad yr UE
Penderfyniad y Comisiwn 98/109/ECErthygl 1 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb flodau wedi eu torri o Orchidaceae sy’n tarddu o Wlad Thai)
Penderfyniad y Comisiwn 2002/757/ECErthygl 3(1) a (2) (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a phren sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n tarddu o UDA)
Erthygl 3(4) (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodol, heblaw hadau, a fwriedir i’w plannu ac sy’n tarddu o drydydd gwledydd heblaw UDA)
Erthygl 4 (gwahardd cyflwyno i diriogaeth yr Undeb risgl sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n tarddu o UDA)
Erthygl 5 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodol a fwriedir i’w plannu ac sy’n tarddu o’r Undeb)
Penderfyniad y Comisiwn 2004/200/ECErthygl 1 (gwahardd symud o fewn tiriogaeth yr Undeb hadau Solanum lycopersicum L. wedi eu halogi gan Firws amryliw pepino) i’r graddau y mae’n ymwneud â symud hadau Solanum lycopersicum L. a gynhyrchwyd cyn 14 Rhagfyr 2019 ac sy’n cael eu symud o fewn tiriogaeth yr Undeb ar unrhyw adeg cyn 14 Rhagfyr 2020
Erthygl 3(1) (gofynion mewn perthynas â symud hadau Solanum lycopersicum L. sy’n tarddu o’r Undeb) i’r graddau y mae’n ymwneud â symud hadau Solanum lycopersicum L. a gynhyrchwyd cyn 14 Rhagfyr 2019 ac sy’n cael eu symud o fewn tiriogaeth yr Undeb unrhyw bryd cyn 14 Rhagfyr 2020
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EUErthygl 1(1) (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb gloron Solanum tuberosum L. sy’n tarddu o’r Aifft)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/138/EUErthygl 2 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd, heblaw Tsieina)
Erthygl 3(1) a (2) (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o Tsieina)
Erthygl 4 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o ardaloedd a ddarnodwyd, neu a gyflwynwyd iddynt, neu blanhigion penodedig a gyflwynwyd i diriogaeth yr Undeb yn unol ag Erthygl 2 neu 3)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/270/EUErthygl 1 (gwahardd cyflwyno i diriogaeth yr Undeb, a lledaenu o fewn tiriogaeth yr Undeb, Epitrix cucumeris (Harris), Epitrix Papa. (Orlova-Bienkowskaja), Epitrix subcrinita (Lec.) neu Epitrix tuberis (Gentner))
Erthygl 2(1) (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb gloron tatws sy’n tarddu o drydydd gwledydd lle gwyddys bod un neu fwy o’r organeddau penodedig yn bresennol)
Erthygl 3 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb gloron tatws sy’n tarddu o ardaloedd a ddarnodwyd neu gloron tatws a gyflwynwyd i diriogaeth yr Undeb o drydydd gwledydd lle gwyddys bod un neu fwy o’r organeddau penodedig yn bresennol)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/535/EUErthygl 10(1) a (2) (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, pren sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu risgl sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/697/EUErthygl 2 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd)
Erthygl 3 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o ardaloedd a ddarnodwyd)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/789Erthygl 9 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig, heblaw unrhyw rai a dyfwyd ar gyfer y cylch cynhyrchu cyfan in vitro neu blanhigion sy’n perthyn i amrywogaethau o blanhigion penodedig a restrir yn Atodiad III)
Erthygl 9a (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig a dyfwyd ar gyfer y cylch cynhyrchu cyfan in vitro ac am o leiaf ran o’u bywyd mewn ardaloedd a ddarnodwyd)
Erthygl 15 (gwahardd cyflwyno planhigion Coffea i’w plannu, ac eithrio hadau, sy’n tarddu o Costa Rica neu Honduras)
Erthygl 16 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd lle nad yw’r organedd penodedig yn bresennol)
Erthygl 17(1) (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd lle gwyddys bod yr organedd penodedig yn bresennol)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/893Erthygl 2(a) (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd lle gwyddys bod yr organedd penodedig yn bresennol)
Erthygl 3(a) (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb bren penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd lle gwyddys bod yr organedd penodedig yn bresennol)
Erthygl 4 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o ardaloedd a ddarnodwyd, neu a gyflwynwyd iddynt, neu blanhigion penodedig a gyflwynwyd i diriogaeth yr Undeb o drydydd gwledydd yn unol ag Erthygl 2)
Erthygl 5 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb bren penodedig sy’n tarddu o ardaloedd a ddarnodwyd, pren penodedig sy’n cadw’r cyfan neu ran o’i wyneb crwn sydd wedi ei gyflwyno i ardaloedd a ddarnodwyd neu ddeunydd pecynnu pren penodedig sy’n tarddu o ardaloedd a ddarnodwyd)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/715Erthygl 5 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb ffrwythau penodedig sy’n tarddu o Dde Affrica neu Uruguay)
Erthygl 5a (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb ffrwythau penodedig sy’n tarddu o’r Ariannin neu Frasil)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2017/198/EUErthygl 1 (gwahardd cyflwyno Pseudomonas syringae pv. actinidiae Takikawa, Serizawa, Ichikawa, Tsuyumu & Goto i diriogaeth yr Undeb a gwahardd ei ledaenu o fewn tiriogaeth yr Undeb)
Erthygl 2 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd)
Erthygl 3 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o’r Undeb neu blanhigion penodedig a gyflwynwyd i diriogaeth yr Undeb o drydydd gwledydd yn unol ag Erthygl 2)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/638Erthygl 3(a) a (b) (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd heblaw’r Swistir)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/1503Erthygl 7(1), (6) a (7) (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o ardaloedd a ddarnodwyd, planhigion penodedig a gyflwynwyd i ardaloedd a ddarnodwyd neu blanhigion penodedig a gyflwynwyd i diriogaeth yr Undeb o drydydd gwledydd lle y gwyddys bod yr organedd penodedig yn bresennol yn unol ag Erthygl 11)
Erthygl 8 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb bren penodedig sy’n tarddu o ardaloedd a ddarnodwyd neu bren penodedig sy’n cadw’r cyfan neu ran o’i arwyneb crwn a gyflwynwyd i ardaloedd a ddarnodwyd)
Erthygl 9 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb ddeunydd pecynnu pren penodedig sy’n tarddu o ardaloedd a ddarnodwyd)
Erthygl 11 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd lle gwyddys bod yr organedd penodedig yn bresennol)
Erthygl 12 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb bren penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd lle gwyddys bod yr organedd penodedig yn bresennol)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1615Erthygl 2 (gwahardd cyflwyno Firws ffrwythau crychlyd coch tomatos i diriogaeth yr Undeb a’i ledaenu o fewn tiriogaeth yr Undeb)
Erthygl 5 (gofynion mewn perthynas â symud o fewn tiriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o diriogaeth yr Undeb)
Erthygl 6 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1739Erthygl 2 (gwahardd cyflwyno Firws rhoséd rhosynnau i diriogaeth yr Undeb a’i ledaenu o fewn tiriogaeth yr Undeb)
Erthygl 5 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb blanhigion penodedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd)
Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2032Erthygl 6 (gofynion mewn perthynas â symud planhigion penodedig o fewn tiriogaeth yr Undeb)
Erthygl 7 (gofynion mewn perthynas â symud pren penodedig a rhisgl ynysedig o barth a heigiwyd i barth clustogi neu o ardal a ddarnodwyd)
Erthygl 8 (gofynion mewn perthynas â symud deunydd pecynnu pren o barth a heigiwyd i barth clustogi neu o ardal a ddarnodwyd)
Erthygl 9 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno planhigion penodedig i diriogaeth yr Undeb sy’n tarddu o drydydd gwledydd nad ydynt yn wledydd Ewropeaidd)
Erthygl 10 (gofynion mewn perthynas â chyflwyno i diriogaeth yr Undeb bren penodedig neu risgl ynysedig sy’n tarddu o drydydd gwledydd nad ydynt yn wledydd Ewropeaidd )

Rheoliad 49

ATODLEN 5Diwygio is-ddeddfwriaeth ynglŷn â marchnata hadau a deunydd lluosogi planhigion a ffioedd iechyd planhigion

RHAN 1Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995

1.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995(23) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 8—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “Council Directive 2000/29/EC” rhodder “the EU Plant Health Regulation”;

(b)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(5) In this regulation, “the EU Plant Health Regulation” means Regulation (EU) 2016/2031 of the European Parliament and of the Council on protective measures against pests of plants.

RHAN 2Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurniadol 1999

2.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurniadol 1999((24) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y lle priodol mewnosoder—

the EU Plant Health Regulation” means Regulation (EU) 2016/2031 of the European Parliament and of the Council on protective measures against pests of plants;;

(b)hepgorer y diffiniad o “Directive 2000/29/EC”.

(3Yn rheoliad 6A(4), yn y diffiniad o “responsible official body”, yn lle’r geiriau o “a body” hyd at y diwedd, rhodder “, in relation to Wales, the Welsh Ministers”.

(4Yn rheoliad 7, yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Registration of a supplier on the register of professional operators for the purposes of the EU Plant Health Regulation is deemed to constitute registration for the purposes of paragraph (1) above.

(5Yn rheoliad 8(3)—

(a)yn lle’r geiriau o “notifiable” hyd at “Order 2018” rhodder “plant pest of a description specified in Annex 2, 3 or 4 to Commission Implementing Regulation (EU) 2019/2072 establishing uniform conditions for the implementation of Regulation (EU) 2016/2031 of the European Parliament and the Council, as regards protective measures against pests of plants,”;

(b)yn lle “article 42 of that Order (notification of the presence or suspected presence of certain plant pests)” rhodder “the EU Plant Health Regulation”.

(6Yn rheoliad 9(2), yn lle “Directive 2000/29/EC” rhodder “the EU Plant Health Regulation”.

(7Yn rheoliad 12(3), yn lle’r geiriau o “if he delivers” hyd at y diwedd rhodder “, in relation to Wales, if the supplier delivers a phytosanitary certificate for export or a phytosanitary certificate for re-export to the Welsh Ministers”.

RHAN 3Rheoliadau Deunyddiau Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002

3.—(1Mae Rheoliadau Deunyddiau Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002(25) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(2), yn y diffiniad o “plant passport”, yn lle “the Plant Health (Forestry) Order 2005” rhodder “Regulation (EU) 2016/2031 of the European Parliament and of the Council on protective measures against pests of plants”.

RHAN 4Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016

4.—(1Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(26) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion)” (“the Official Controls (Plant Health) Regulations”) yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020;.

(3Yn rheoliad 13(9), ar ôl “y Rheoliadau hyn” mewnosoder “, Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion”.

(4Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 3(d)—

(i)yn lle “Atodlen 14 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006” rhodder “Ran 3 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion)”;

(ii)yn lle “Gorchymyn hwnnw” rhodder “Rheoliadau hynny”;

(b)ym mharagraff 4(1)(b), yn lle “Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006” rhodder “Ran 4 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion)”;

(c)ym mharagraff 7(1)(b), yn lle “Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006” rhodder “Ran 4 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion)”;

(d)ym mharagraff 9(1)(b), yn lle “Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006” rhodder “Ran 4 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion)”.

(5Yn Atodlen 2, ym mharagraff 10(b), hepgorer “neu yng Ngorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006”.

(6Yn Atodlen 5, ym mharagraff 3(b)—

(a)yn lle “Atodlen 14 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006” rhodder “Ran 3 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion)”;

(b)yn lle “Gorchymyn hwnnw” rhodder “Rheoliadau hynny”.

RHAN 5Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019

5.—(1Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019(27) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y diffiniad o “man arolygu a gymeradwywyd” yn lle “erthygl 3 o’r Gorchymyn” rhodder “rheoliad 13(10) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020”;

(b)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “hysbysiad adfer coedwigaeth” (“forestry remedial notice”) yw hysbysiad a gyflwynir gan arolygydd iechyd planhigion o dan reoliad 10 neu 15(1) neu (2) o’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020;;

(c)yn lle’r diffiniad o “trwydded” rhodder—

ystyr “trwydded” (“licence”) yw—

(a)

trwydded y cyfeirir ati yn rheoliad 51(1) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020 a roddwyd gan Weinidogion Cymru, neu

(b)

awdurdodiad a ddisgrifir yn rheoliad 20(1)(a) neu (b)(i) neu 21(1)(a) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020 a roddwyd gan Weinidogion Cymru.;

(d)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020” (“the Official Controls (Plant Health) Regulations 2020”) yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020;;

(e)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “Rheoliad Amodau Ffytoiechydol” (“Phytosanitary Conditions Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 yn sefydlu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion;;

(f)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “arolygydd iechyd planhigion” (“plant health inspector”) yw swyddog iechyd planhigion swyddogol a benodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020;;

(g)yn y diffiniad o “awdurdodiad pasbort planhigion”, ar y diwedd mewnosoder “ac a roddir gan Weinidogion Cymru”;

(h)hepgorer y diffiniad o “y Gorchymyn”;

(i)hepgorer y diffiniad o “hysbysiad adfer”;

(j)yn y diffiniad o “gwaith adfer”, yn lle “hysbysiad adfer, neu gan arolygydd o dan erthygl 32(1) o’r Gorchymyn” rhodder “hysbysiad adfer coedwigaeth, neu gan arolygydd iechyd planhigion o dan reoliad 16(1) o’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020”;

(k)yn y diffiniad o “awdurdodiad DPP”, ar y diwedd mewnosoder “ac a roddir gan Weinidogion Cymru”.

(3Yn rheoliad 3—

(a)hepgorer paragraff (6);

(b)ar y diwedd mewnosoder—

(6A) Rhaid i’r person y cyflwynir hysbysiad adfer coedwigaeth iddo neu y rhoddir hysbysiad iddo o dan reoliad 16(1) o’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) 2020 dalu’r ffi a bennir yn Atodlen 5 ar gyfer cynnal neu fonitro gwaith adfer a gweithgareddau cysylltiedig gan arolygydd iechyd planhigion mewn cysylltiad â llwyth a reolir.

RHAN 6Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017

6.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017(28) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(1), hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2000/29/EC”.

(3Hepgorer rheoliad 10(6).

(4Yn rheoliad 11(7), yn lle’r geiriau o “masnachwr planhigion” hyd at “2018” rhodder “gweithredwr proffesiynol at ddibenion Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion”.

(5Yn rheoliad 15(1)(g), yn lle paragraff (iii) rhodder—

(iii)pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodiad 2, 3 neu 4 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 yn sefydlu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion.

Rheoliad 50

ATODLEN 6Dirymu offerynnau

OfferynCyfeirnod
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Coedwigaeth) (Prydain Fawr) 2004O.S. 2004/1684
Rheoliadau Tatws sy’n Tarddu o’r Aifft (Cymru) 2004O.S. 2004/2245 (Cy. 209)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005O.S. 2005/2517
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006O.S. 2006/1701 (Cy. 163)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Marcio Deunydd Pecynnu Pren) (Coedwigaeth) 2006O.S. 2006/2695
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) 2006O.S. 2006/2696
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) 2008O.S. 2008/644
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) 2009O.S. 2009/594
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Rhif 2) 2009O.S. 2009/3020
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) 2012O.S. 2012/2707
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2013O.S. 2013/1658 (Cy. 156)
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014O.S. 2014/1463 (Cy. 144)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2014O.S. 2014/1759 (Cy. 174)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Cymru) 2015O.S. 2015/1723 (Cy. 235)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2016O.S. 2016/1084 (Cy. 259)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2018O.S. 2018/772 (Cy. 156)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018O.S. 2018/1064 (Cy. 223)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2019O.S. 2019/132 (Cy. 33)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Cymru) 2019O.S. 2019/498 (Cy. 115)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2019O.S. 2019/1153 (Cy. 202)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2019O.S. 2019/1167 (Cy. 204)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2019O.S. 2019/1280 (Cy. 224)
(1)

Ar gael oddi wrth Ysgrifenyddiaeth yr IPPC, AGPP-FAO, Viale Delle Terme di Caracalla, 00153, Rhufain, Yr Eidal ac yn https://www.ippc.int/int.

(2)

OJ Rhif L 259, 18.10.1993, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/56/EC (OJ Rhif L 182, 4.7.2006, t. 1). Mae’n cael ei ddiddymu o 1 Ionawr 2022 ymlaen (gweler Erthygl 113(2) o Reoliad (EU) 2016/2031 (OJ Rhif L 317, 23.11.2016, t. 4).

(3)

OJ Rhif L 235, 21.8.1998, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/63/EC (OJ Rhif L 206, 27.7.2006, t. 36). Mae’n cael ei ddiddymu o 1 Ionawr 2022 ymlaen (gweler Erthygl 113(2) o Reoliad (EU) 2016/2031).

(4)

OJ Rhif L 156, 16.6.2007, t. 12. Mae’n cael ei ddiddymu o 1 Ionawr 2022 ymlaen (gweler Erthygl 113(2) o Reoliad (EU) 2016/2031).

(6)

Nodir y rhestr o blâu cwarantin yr Undeb yn Atodiad 2 i Reoliad (EU) 2019/2072 (“Rheoliad Amodau Ffytoiechydol”) sy’n pennu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau diogelu rhag plâu planhigion (OJ Rhif L 319, 10.12.2019, t. 1) (“Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE”).

(7)

Nodir y rhestr o barthau gwarchodedig a’r priod blâu parth gwarchodedig yn Atodiad 3 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(8)

Nodir y rhestr o blâu nad ydynt yn blâu cwarantin Undeb a reoleiddir a’r planhigion perthnasol i’w plannu, gyda chategorïau a throthwyon, yn Atodiad 4 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(9)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill a’r trydydd gwledydd, y grwpiau o drydydd gwledydd neu’r ardaloedd penodol o drydydd gwledydd y mae’r gwaharddiad yn gymwys iddynt yn Atodiad 6 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(10)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill sy’n tarddu o drydydd gwledydd a’r gofynion arbennig cyfatebol mewn perthynas â’u cyflwyno i diriogaeth yr Undeb yn Atodiad 7 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(11)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill sy’n tarddu o’r Undeb a’r gofynion arbennig cyfatebol mewn perthynas â’u symud o fewn tiriogaeth yr Undeb yn Atodiad 8 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(12)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill uchel eu risg y mae’r gwaharddiad yn gymwys iddynt yn Atodiad 1 i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/2019 yn sefydlu rhestr dros dro o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill uchel eu risg, o fewn ystyr Erthygl 42 o Reoliad (EU) 2016/2031 a rhestr o blanhigion nad yw tystysgrifau ffytoiechydol yn ofynnol ar eu cyfer i’w cyflwyno i’r Undeb, o fewn ystyr Erthygl 73 o’r Rheoliad hwnnw (OJ Rhif L 323, 19.12.2018, t. 10).

(13)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 9 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(14)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 10 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(15)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at ddibenion Erthygl 72(1) yn Rhan A o Atodiad 11 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol. Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at ddibenion Erthygl 73(1) yn Rhan B o’r Atodiad hwnnw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill yn y rhestr a nodir yn Rhan C o’r Atodiad hwnnw.

(16)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 12 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(17)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 13 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(18)

Nodir y rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill at y dibenion hyn yn Atodiad 14 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol.

(19)

OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 45.

(20)

OJ Rhif L 165, 21.6.2019, t. 8.

(21)

OJ Rhif L 250, 30.9.2019, t. 6.

(22)

OJ Rhif L 321, 12.12.2019, t. 73.

(23)

O.S. 1995/2652, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/2190 (Cy. 174); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.

(25)

O.S. 2002/3026, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/496 (Cy. 133); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.

(26)

O.S. 2016/106 (Cy. 52); ceir offerynnau diwygio ond nid yw’r un yn berthnasol.

(28)

O.S. 2017/691 (Cy. 163), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/368 (Cy. 90); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill