Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Deunydd Perthnasol a Eithrir) (Cymru) 2015

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1775 (Cy. 247)

Meinweoedd Dynol, Cymru

Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Deunydd Perthnasol a Eithrir) (Cymru) 2015

Gwnaed

7 Hydref 2015

Yn dod i rym

00:01 ar 1 Rhagfyr 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer eu pwerau yn adrannau 7(2) ac 20(1) a (2) o Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013(1) ac ar ôl cynnal unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus sy’n briodol yn eu barn hwy yn unol ag adran 20(3) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 20(4) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Deunydd Perthnasol a Eithrir) (Cymru) 2015 a deuant i rym am 00:01 ar 1 Rhagfyr 2015.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013.

Deunydd perthnasol a eithrir

2.—(1Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i’r eithriadau ym mharagraff (4).

(2At ddibenion adran 7(2) o’r Ddeddf, pennir y cyfan neu ran o’r meinweoedd cyfansawdd a ganlyn (“meinweoedd cyfansawdd a eithrir”) yn ddeunydd perthnasol a eithrir—

(a)ymennydd;

(b)madruddyn y cefn;

(c)wyneb;

(d)trwyn;

(e)ceg;

(f)braich;

(g)rhan uchaf y fraich;

(h)elin;

(i)llaw;

(j)bys;

(k)coes;

(l)morddwyd;

(m)rhan isaf y goes;

(n)troed; neu

(o)bys troed.

(3At ddibenion adran 7(2) o’r Ddeddf, pennir y cyfan neu ran o unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn ddeunydd perthnasol a eithrir—

(a)ofari;

(b)croth;

(c)pidyn;

(d)caill;

(e)ffetws;

(f)brych;

(g)llinyn bogail; neu

(h)embryo (y tu mewn i’r corff).

(4Nid yw’r cyfan neu ran o unrhyw un neu ragor o’r canlynol sy’n rhan o unrhyw feinweoedd cyfansawdd a eithrir yn ddeunydd perthnasol a eithrir—

(a)llygad;

(b)meinweoedd nerfol;

(c)rhydweli;

(d)asgwrn;

(e)cyhyr;

(f)tendon; neu

(g)croen,

i’r graddau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer trawsblannu unrhyw feinweoedd cyfansawdd a eithrir.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

7 Hydref 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”).

Mae adran 7(4) o’r Ddeddf yn darparu bod rhaid cael cydsyniad datganedig ar gyfer tynnu deunydd perthnasol a eithrir at ddibenion gweithgaredd trawsblannu.

Mae rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch y diffiniad o ddeunydd perthnasol a eithrir at ddibenion adran 7 o’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill