- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Meinweoedd Dynol, Cymru
Gwnaed
7 Hydref 2015
Yn dod i rym
00:01 ar 1 Rhagfyr 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer eu pwerau yn adrannau 7(2) ac 20(1) a (2) o Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013(1) ac ar ôl cynnal unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus sy’n briodol yn eu barn hwy yn unol ag adran 20(3) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 20(4) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Deunydd Perthnasol a Eithrir) (Cymru) 2015 a deuant i rym am 00:01 ar 1 Rhagfyr 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013.
2.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i’r eithriadau ym mharagraff (4).
(2) At ddibenion adran 7(2) o’r Ddeddf, pennir y cyfan neu ran o’r meinweoedd cyfansawdd a ganlyn (“meinweoedd cyfansawdd a eithrir”) yn ddeunydd perthnasol a eithrir—
(a)ymennydd;
(b)madruddyn y cefn;
(c)wyneb;
(d)trwyn;
(e)ceg;
(f)braich;
(g)rhan uchaf y fraich;
(h)elin;
(i)llaw;
(j)bys;
(k)coes;
(l)morddwyd;
(m)rhan isaf y goes;
(n)troed; neu
(o)bys troed.
(3) At ddibenion adran 7(2) o’r Ddeddf, pennir y cyfan neu ran o unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn ddeunydd perthnasol a eithrir—
(a)ofari;
(b)croth;
(c)pidyn;
(d)caill;
(e)ffetws;
(f)brych;
(g)llinyn bogail; neu
(h)embryo (y tu mewn i’r corff).
(4) Nid yw’r cyfan neu ran o unrhyw un neu ragor o’r canlynol sy’n rhan o unrhyw feinweoedd cyfansawdd a eithrir yn ddeunydd perthnasol a eithrir—
(a)llygad;
(b)meinweoedd nerfol;
(c)rhydweli;
(d)asgwrn;
(e)cyhyr;
(f)tendon; neu
(g)croen,
i’r graddau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer trawsblannu unrhyw feinweoedd cyfansawdd a eithrir.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Hydref 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”).
Mae adran 7(4) o’r Ddeddf yn darparu bod rhaid cael cydsyniad datganedig ar gyfer tynnu deunydd perthnasol a eithrir at ddibenion gweithgaredd trawsblannu.
Mae rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch y diffiniad o ddeunydd perthnasol a eithrir at ddibenion adran 7 o’r Ddeddf.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: