- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Archwilio Cyhoeddus, Cymru
Gwnaed
11 Mehefin 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 35(2) a (3) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Cychwyn, Diwygiadau Canlyniadol, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2013 a daw i rym yn unol ag erthyglau 2 a 3.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
2. Daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym ar 4 Gorffennaf 2013—
(a)adran 1 (trosolwg);
(b)adran 8 (sut y mae swyddogaethau i gael eu harfer), i’r graddau y mae’n angenrheidiol er mwyn paratoi’r cod ymarfer, y cod ymarfer archwilio, y cynllun blynyddol ac amcangyfrif o incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15;
(c)adran 10 (cod ymarfer archwilio);
(d)adran 12 (trosglwyddo etc swyddogaethau goruchwyliol Gweinidogion Cymru: ymgynghori);
(e)adran 13 (ymgorffori Swyddfa Archwilio Cymru) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud ag aelodau sy’n gyflogeion;
(f)adran 14 (pwerau);
(g)adran 15 (effeithlonrwydd);
(h)adran 16 (y berthynas â’r Archwilydd Cyffredinol);
(i)adran 17(2) a (3) (SAC i fonitro a darparu cyngor) i’r graddau y mae’n angenrheidiol er mwyn paratoi’r cod ymarfer, y cynllun blynyddol ac amcangyfrif o incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15;
(j)adran 18 (dirprwyo swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a’u harfer ar y cyd) i’r graddau y mae’n angenrheidiol er mwyn paratoi’r cynllun dirprwyo;
(k)adran 20 (gwariant) dim ond i’r graddau y mae’n ymwneud â’r flwyddyn ariannol 2014-2015;
(l)adran 24 (cynllun ar gyfer codi ffioedd);
(m)adran 25 (cynllun blynyddol);
(n)adran 26 (cynllun blynyddol: y Cynulliad Cenedlaethol);
(o)adran 27 (cynllun blynyddol: effaith);
(p)adran 28 (swyddogaethau’r Cynulliad Cenedlaethol);
(q)adran 29(1), (2), (3)(b) ac (c) a (4) (indemnio);
(r)adran 31 (cyfarwyddiadau);
(s)adran 32 (dehongli);
(t)adran 33 (darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed etc);
(u)yn Atodlen 1 (ymgorffori Swyddfa Archwilio Cymru)—
(i)paragraff 1 (aelodaeth) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud â’r aelodau sy’n gyflogeion;
(ii)paragraff 2 (penodi aelodau anweithredol ac aelodau sy’n gyflogeion) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud â’r aelodau sy’n gyflogeion;
(iii)paragraff 3 (statws) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud â’r aelodau sy’n gyflogeion;
(iv)paragraff 4 (penodi aelodau anweithredol);
(v)paragraff 5 (penodi cadeirydd ar SAC);
(vi)paragraff 6 (cyfnod penodi ac ailbenodi);
(vii)paragraff 7 (trefniadau talu cydnabyddiaeth);
(viii)paragraff 8 (telerau penodi eraill);
(ix)paragraff 9 (ymgynghori);
(x)paragraffau 10, 11 a 12 (dod â phenodiadau i ben);
(xi)paragraff 13 (talu cydnabyddiaeth ychwanegol i’r Archwilydd Cyffredinol);
(xii)paragraff 26 (anghymhwyso fel aelod o SAC neu gyflogai iddi) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud â’r aelodau sy’n gyflogeion;
(xiii)paragraff 27 (cyffredinol);
(xiv)paragraff 28 (cworwm ar gyfer cyfarfodydd SAC);
(xv)paragraff 29(1) (pwyllgorau);
(xvi)paragraff 30 (cynnal pleidleisiau);
(xvii)paragraff 31 (dilysrwydd); a
(xviii)paragraff 32 (dirprwyo swyddogaethau) ac eithrio mewn cysylltiad â’r aelodau sy’n gyflogeion a chyflogeion;
(v)yn Atodlen 2 (y berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a SAC)—
(i)paragraff 1 (paratoi a chymeradwyo etc);
(ii)paragraff 2 (cynnwys); a
(iii)paragraffau 5 i 14 (person arall, dros dro, yn arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol);
(w)yn Atodlen 3 (darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed)—
(i)paragraff 4 (rheolau gweithdrefnol SAC cyn i reolau gael eu gwneud o dan baragraff 27 o Atodlen 1); a
(ii)paragraff 13 (indemnio); ac
(x)paragraff 79(2) o Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 12 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2).
3.—(1) Daw pob un o ddarpariaethau eraill y Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2014 i’r graddau nad ydynt wedi eu cychwyn yn unol ag erthygl 2.
(2) Mae’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2014.
4.—(1) Mewn perthynas â’r cyfnod pan fo penodiad archwilydd o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(3) yn cael ei barhau gan baragraff 2(2) o Atodlen 3 i’r Ddeddf, mae’r canlynol yn cael effaith fel petaent heb eu diwygio gan y Gorchymyn hwn—
(a)y diffiniad o “the auditor” yn rheoliad 2 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997(4);
(b)rheoliad 6(5)(b) o Reoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002(5);
(c)rheoliad 5(4)(b) o Reoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002(6);
(d)rheoliad 6(6)(b) o Reoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu’r Cynulliad) (Cymru) 2002(7); ac
(e)Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005(8).
(2) Mae penodiad unrhyw berson fel archwilydd o dan adran 145B(5)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9) yn parhau i gael effaith tan ddiwedd y cyfnod y gwnaed y penodiad ar ei gyfer (yn ddarostyngedig i derfynu’n gynnar).
(3) Nid yw’r diwygiadau sydd wedi eu gwneud i erthygl 4(2)(c)(v) o Orchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998(10) gan y Gorchymyn hwn yn gymwys i gontractau yr ymrwymwyd iddynt ar 31 Mawrth 2014 neu cyn hynny.
5. Mae paragraffau 13, 14 a 15 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi eu harbed at ddibenion cyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2013-2014.
Jane Hutt
Gweinidog dros Cyllid, un o Weinidogion Cymru
11 Mehefin 2013
Erthygl 3(2)
1. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997 yn lle “the auditor appointed under section 13 of that Act to audit the accounts of the authority in accordance with Chapter 1 of Part 2 of that Act” rhodder “the Auditor General for Wales”.
2. Yn erthygl 4(2)(c)(v) o Orchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998 ar ôl “the Audit Commission or” mewnosoder “a local government body in Wales whose accounts are audited by”.
3. Ym mharagraff 16 o Atodlen 2 (Cyflogwyr sy’n esempt o yswiriant) i Reoliadau Atebolrwydd Cyflogwyr (Yswiriant Gorfodol) 1998(11) yn lle “The Auditor General for Wales” rhodder “The Wales Audit Office”.
4. Yn rheoliad 6(5)(b) o Reoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002 hepgorer—
(a)“archwilydd a benodwyd gan”; a
(b)“i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.
5. Yn rheoliad 5(4)(b) o Reoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002 hepgorer—
(a)“archwilydd a benodwyd gan”; a
(b)“i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.
6. Yn rheoliad 6(6)(b) o Reoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu’r Cynulliad) (Cymru) 2002 hepgorer—
(a)“archwilydd a benodir gan”; a
(b)“i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.
7.—(1) Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle pob cyfeiriad at “yr archwilydd” rhodder “Archwilydd Cyffredinol Cymru”.
(3) Yn lle rheoliad 15(2)(c) rhodder—
“(c)yr archwilydd yw Archwilydd Cyffredinol Cymru a chynnwys cyfeiriad Archwilydd Cyffredinol Cymru;”.
(4) Yn rheoliad 20 yn lle “cyfarwyddo archwilydd i gynnal” rhodder “cynnal”.
8.—(1) Mae Rheoliadau Enwau Cwmnïau, Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a Busnesau (Awdurdodau Cyhoeddus) 2009(12) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yng Ngholofn 1 o’r Atodlen (“awdurdodau cyhoeddus” penodedig a rhestr o adrannau eraill o’r Llywodraeth a chyrff eraill y mae rhaid ceisio eu barn) mewnosoder yn y man priodol—
“Wales Audit Office (known in Welsh as “Swyddfa Archwilio Cymru”)”.
(3) Yng Ngholofn 2 o’r Atodlen (“awdurdodau cyhoeddus” penodedig a rhestr o adrannau eraill o’r Llywodraeth a chyrff eraill y mae rhaid ceisio eu barn) mewnosoder yn y man priodol—
“Wales Audit Office (known in Welsh as “Swyddfa Archwilio Cymru”)”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o ganlyniad i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”), sy’n gwneud darpariaeth sy’n diwygio’r trefniadau archwilio cyhoeddus yng Nghymru.
Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn ymwneud ag Archwilydd Cyffredinol Cymru (“yr Archwilydd Cyffredinol”). Mae Rhan 2 yn sefydlu corff corfforaethol newydd, sef Swyddfa Archwilio Cymru (“SAC”), ac mae’n nodi ei berthynas â’r Archwilydd Cyffredinol.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf i rym ar 4 Gorffennaf 2013, i alluogi i benodiadau penodol i SAC gael eu gwneud ac er mwyn i waith paratoi gael ei wneud cyn i swyddogaethau SAC ddod yn gyfan gwbl arferadwy ar 1 Ebrill 2014.
Mae holl ddarpariaethau eraill y Ddeddf yn cael eu dwyn i rym ar 1 Ebrill 2014 drwy erthygl 3, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym ar y dyddiad hwnnw. Mae erthygl 3 hefyd yn dwyn i rym ddiwygiadau canlyniadol penodol i is-ddeddfwriaeth ar 1 Ebrill 2014 i ddileu cyfeiriadau at archwilwyr a benodwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol, ac i gynnwys cyfeiriadau at SAC pan fo hynny’n briodol.
Mae erthygl 4 yn darparu, pan fo archwilydd corff llywodraeth leol wedi ei benodi gan yr Archwilydd Cyffredinol, y bydd darpariaethau’r rheoliadau a bennir yn parhau i gael effaith tan i benodiad yr archwilydd hwnnw ddod i ben, fel petai’r addasiadau a wnaed gan y Gorchymyn hwn heb gael eu gwneud.
Mae’n darparu, pan fo person wedi ei benodi yn archwilydd o dan adran 145B(5)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, y bydd y penodiad hwnnw yn parhau i gael effaith (yn ddarostyngedig i derfynu’n gynnar).
Mae hefyd yn darparu, pan ymrwymwyd i gontract o dan erthygl 4(2)(c)(v) o Orchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998, ar 31 Mawrth 2014 neu cyn hynny, y bydd y contract hwnnw yn parhau i gael effaith fel petai’r erthygl honno heb gael ei diwygio gan y Gorchymyn hwn.
Mae erthygl 5 yn gwneud darpariaeth arbed mewn perthynas â’r cyfrifon blynyddol y mae rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol eu paratoi. Mae paragraffau 13, 14 a 15 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi eu harbed at ddibenion y flwyddyn ariannol 2013-2014.
O.S. 1997/2862 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/761 (Cy. 65). Mae offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
O.S. 2002/438 (Cy. 56) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/761 (Cy. 65).
O.S. 2002/679 (Cy. 76) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/761 (Cy. 65).
O.S. 2002/1857 (Cy. 181) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/761 (Cy. 65). Mae offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
O.S. 2005/368 (Cy. 34) y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
O.S. 1998/648 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/757 (Cy. 62). Mae offeryn diwygio arall nad yw’n berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
O.S. 1998/2573 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/686. Mae offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
O.S. 2009/2982 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys