Search Legislation

Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Cychwyn, Diwygiadau Canlyniadol, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2013

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 1466 (Cy. 138) (C. 56)

Archwilio Cyhoeddus, Cymru

Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Cychwyn, Diwygiadau Canlyniadol, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2013

Gwnaed

11 Mehefin 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 35(2) a (3) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Cychwyn, Diwygiadau Canlyniadol, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2013 a daw i rym yn unol ag erthyglau 2 a 3.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 4 Gorffennaf 2013

2.  Daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym ar 4 Gorffennaf 2013—

(a)adran 1 (trosolwg);

(b)adran 8 (sut y mae swyddogaethau i gael eu harfer), i’r graddau y mae’n angenrheidiol er mwyn paratoi’r cod ymarfer, y cod ymarfer archwilio, y cynllun blynyddol ac amcangyfrif o incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15;

(c)adran 10 (cod ymarfer archwilio);

(d)adran 12 (trosglwyddo etc swyddogaethau goruchwyliol Gweinidogion Cymru: ymgynghori);

(e)adran 13 (ymgorffori Swyddfa Archwilio Cymru) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud ag aelodau sy’n gyflogeion;

(f)adran 14 (pwerau);

(g)adran 15 (effeithlonrwydd);

(h)adran 16 (y berthynas â’r Archwilydd Cyffredinol);

(i)adran 17(2) a (3) (SAC i fonitro a darparu cyngor) i’r graddau y mae’n angenrheidiol er mwyn paratoi’r cod ymarfer, y cynllun blynyddol ac amcangyfrif o incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15;

(j)adran 18 (dirprwyo swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a’u harfer ar y cyd) i’r graddau y mae’n angenrheidiol er mwyn paratoi’r cynllun dirprwyo;

(k)adran 20 (gwariant) dim ond i’r graddau y mae’n ymwneud â’r flwyddyn ariannol 2014-2015;

(l)adran 24 (cynllun ar gyfer codi ffioedd);

(m)adran 25 (cynllun blynyddol);

(n)adran 26 (cynllun blynyddol: y Cynulliad Cenedlaethol);

(o)adran 27 (cynllun blynyddol: effaith);

(p)adran 28 (swyddogaethau’r Cynulliad Cenedlaethol);

(q)adran 29(1), (2), (3)(b) ac (c) a (4) (indemnio);

(r)adran 31 (cyfarwyddiadau);

(s)adran 32 (dehongli);

(t)adran 33 (darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed etc);

(u)yn Atodlen 1 (ymgorffori Swyddfa Archwilio Cymru)—

(i)paragraff 1 (aelodaeth) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud â’r aelodau sy’n gyflogeion;

(ii)paragraff 2 (penodi aelodau anweithredol ac aelodau sy’n gyflogeion) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud â’r aelodau sy’n gyflogeion;

(iii)paragraff 3 (statws) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud â’r aelodau sy’n gyflogeion;

(iv)paragraff 4 (penodi aelodau anweithredol);

(v)paragraff 5 (penodi cadeirydd ar SAC);

(vi)paragraff 6 (cyfnod penodi ac ailbenodi);

(vii)paragraff 7 (trefniadau talu cydnabyddiaeth);

(viii)paragraff 8 (telerau penodi eraill);

(ix)paragraff 9 (ymgynghori);

(x)paragraffau 10, 11 a 12 (dod â phenodiadau i ben);

(xi)paragraff 13 (talu cydnabyddiaeth ychwanegol i’r Archwilydd Cyffredinol);

(xii)paragraff 26 (anghymhwyso fel aelod o SAC neu gyflogai iddi) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud â’r aelodau sy’n gyflogeion;

(xiii)paragraff 27 (cyffredinol);

(xiv)paragraff 28 (cworwm ar gyfer cyfarfodydd SAC);

(xv)paragraff 29(1) (pwyllgorau);

(xvi)paragraff 30 (cynnal pleidleisiau);

(xvii)paragraff 31 (dilysrwydd); a

(xviii)paragraff 32 (dirprwyo swyddogaethau) ac eithrio mewn cysylltiad â’r aelodau sy’n gyflogeion a chyflogeion;

(v)yn Atodlen 2 (y berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a SAC)—

(i)paragraff 1 (paratoi a chymeradwyo etc);

(ii)paragraff 2 (cynnwys); a

(iii)paragraffau 5 i 14 (person arall, dros dro, yn arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol);

(w)yn Atodlen 3 (darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed)—

(i)paragraff 4 (rheolau gweithdrefnol SAC cyn i reolau gael eu gwneud o dan baragraff 27 o Atodlen 1); a

(ii)paragraff 13 (indemnio); ac

(x)paragraff 79(2) o Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 12 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2).

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2014

3.—(1Daw pob un o ddarpariaethau eraill y Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2014 i’r graddau nad ydynt wedi eu cychwyn yn unol ag erthygl 2.

(2Mae’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2014.

Darpariaethau Trosiannol

4.—(1Mewn perthynas â’r cyfnod pan fo penodiad archwilydd o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(3) yn cael ei barhau gan baragraff 2(2) o Atodlen 3 i’r Ddeddf, mae’r canlynol yn cael effaith fel petaent heb eu diwygio gan y Gorchymyn hwn—

(a)y diffiniad o “the auditor” yn rheoliad 2 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997(4);

(b)rheoliad 6(5)(b) o Reoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002(5);

(c)rheoliad 5(4)(b) o Reoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002(6);

(d)rheoliad 6(6)(b) o Reoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu’r Cynulliad) (Cymru) 2002(7); ac

(e)Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005(8).

(2Mae penodiad unrhyw berson fel archwilydd o dan adran 145B(5)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9) yn parhau i gael effaith tan ddiwedd y cyfnod y gwnaed y penodiad ar ei gyfer (yn ddarostyngedig i derfynu’n gynnar).

(3Nid yw’r diwygiadau sydd wedi eu gwneud i erthygl 4(2)(c)(v) o Orchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998(10) gan y Gorchymyn hwn yn gymwys i gontractau yr ymrwymwyd iddynt ar 31 Mawrth 2014 neu cyn hynny.

Darpariaeth Arbed

5.  Mae paragraffau 13, 14 a 15 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi eu harbed at ddibenion cyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2013-2014.

Jane Hutt

Gweinidog dros Cyllid, un o Weinidogion Cymru

11 Mehefin 2013

Erthygl 3(2)

YR ATODLENDiwygiadau Canlyniadol

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997

1.  Yn rheoliad 2 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997 yn lle “the auditor appointed under section 13 of that Act to audit the accounts of the authority in accordance with Chapter 1 of Part 2 of that Act” rhodder “the Auditor General for Wales”.

Gorchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998

2.  Yn erthygl 4(2)(c)(v) o Orchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998 ar ôl “the Audit Commission or” mewnosoder “a local government body in Wales whose accounts are audited by”.

Rheoliadau Atebolrwydd Cyflogwyr (Yswiriant Gorfodol) 1998

3.  Ym mharagraff 16 o Atodlen 2 (Cyflogwyr sy’n esempt o yswiriant) i Reoliadau Atebolrwydd Cyflogwyr (Yswiriant Gorfodol) 1998(11) yn lle “The Auditor General for Wales” rhodder “The Wales Audit Office”.

Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002

4.  Yn rheoliad 6(5)(b) o Reoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002 hepgorer—

(a)“archwilydd a benodwyd gan”; a

(b)“i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.

Rheoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002

5.  Yn rheoliad 5(4)(b) o Reoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002 hepgorer—

(a)“archwilydd a benodwyd gan”; a

(b)“i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.

Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu’r Cynulliad) (Cymru) 2002

6.  Yn rheoliad 6(6)(b) o Reoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu’r Cynulliad) (Cymru) 2002 hepgorer—

(a)“archwilydd a benodir gan”; a

(b)“i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005

7.—(1Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle pob cyfeiriad at “yr archwilydd” rhodder “Archwilydd Cyffredinol Cymru”.

(3Yn lle rheoliad 15(2)(c) rhodder—

(c)yr archwilydd yw Archwilydd Cyffredinol Cymru a chynnwys cyfeiriad Archwilydd Cyffredinol Cymru;.

(4Yn rheoliad 20 yn lle “cyfarwyddo archwilydd i gynnal” rhodder “cynnal”.

Rheoliadau Enwau Cwmnïau, Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a Busnesau (Awdurdodau Cyhoeddus) 2009

8.—(1Mae Rheoliadau Enwau Cwmnïau, Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a Busnesau (Awdurdodau Cyhoeddus) 2009(12) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yng Ngholofn 1 o’r Atodlen (“awdurdodau cyhoeddus” penodedig a rhestr o adrannau eraill o’r Llywodraeth a chyrff eraill y mae rhaid ceisio eu barn) mewnosoder yn y man priodol—

Wales Audit Office (known in Welsh as “Swyddfa Archwilio Cymru”).

(3Yng Ngholofn 2 o’r Atodlen (“awdurdodau cyhoeddus” penodedig a rhestr o adrannau eraill o’r Llywodraeth a chyrff eraill y mae rhaid ceisio eu barn) mewnosoder yn y man priodol—

Wales Audit Office (known in Welsh as “Swyddfa Archwilio Cymru”).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o ganlyniad i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”), sy’n gwneud darpariaeth sy’n diwygio’r trefniadau archwilio cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn ymwneud ag Archwilydd Cyffredinol Cymru (“yr Archwilydd Cyffredinol”). Mae Rhan 2 yn sefydlu corff corfforaethol newydd, sef Swyddfa Archwilio Cymru (“SAC”), ac mae’n nodi ei berthynas â’r Archwilydd Cyffredinol.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf i rym ar 4 Gorffennaf 2013, i alluogi i benodiadau penodol i SAC gael eu gwneud ac er mwyn i waith paratoi gael ei wneud cyn i swyddogaethau SAC ddod yn gyfan gwbl arferadwy ar 1 Ebrill 2014.

Mae holl ddarpariaethau eraill y Ddeddf yn cael eu dwyn i rym ar 1 Ebrill 2014 drwy erthygl 3, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym ar y dyddiad hwnnw. Mae erthygl 3 hefyd yn dwyn i rym ddiwygiadau canlyniadol penodol i is-ddeddfwriaeth ar 1 Ebrill 2014 i ddileu cyfeiriadau at archwilwyr a benodwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol, ac i gynnwys cyfeiriadau at SAC pan fo hynny’n briodol.

Mae erthygl 4 yn darparu, pan fo archwilydd corff llywodraeth leol wedi ei benodi gan yr Archwilydd Cyffredinol, y bydd darpariaethau’r rheoliadau a bennir yn parhau i gael effaith tan i benodiad yr archwilydd hwnnw ddod i ben, fel petai’r addasiadau a wnaed gan y Gorchymyn hwn heb gael eu gwneud.

Mae’n darparu, pan fo person wedi ei benodi yn archwilydd o dan adran 145B(5)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, y bydd y penodiad hwnnw yn parhau i gael effaith (yn ddarostyngedig i derfynu’n gynnar).

Mae hefyd yn darparu, pan ymrwymwyd i gontract o dan erthygl 4(2)(c)(v) o Orchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998, ar 31 Mawrth 2014 neu cyn hynny, y bydd y contract hwnnw yn parhau i gael effaith fel petai’r erthygl honno heb gael ei diwygio gan y Gorchymyn hwn.

Mae erthygl 5 yn gwneud darpariaeth arbed mewn perthynas â’r cyfrifon blynyddol y mae rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol eu paratoi. Mae paragraffau 13, 14 a 15 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi eu harbed at ddibenion y flwyddyn ariannol 2013-2014.

(2)

2006 p.32 .

(4)

O.S. 1997/2862 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/761 (Cy. 65). Mae offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(5)

O.S. 2002/438 (Cy. 56) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/761 (Cy. 65).

(6)

O.S. 2002/679 (Cy. 76) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/761 (Cy. 65).

(7)

O.S. 2002/1857 (Cy. 181) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/761 (Cy. 65). Mae offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(8)

O.S. 2005/368 (Cy. 34) y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(10)

O.S. 1998/648 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/757 (Cy. 62). Mae offeryn diwygio arall nad yw’n berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(11)

O.S. 1998/2573 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/686. Mae offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(12)

O.S. 2009/2982 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources