- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007. Maent yn gymwys o ran Cymru; ac maent yn dod i rym ar 24 Hydref 2007.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sy'n gyfrifol am anifeiliaid neu â gofal ohonynt, p'un ai ar sail barhaol neu dros dro;
ystyr “iâr ddodwy” (“laying hen”) yw iâr o'r rhywogaeth Gallus gallus sydd wedi cyrraedd aeddfedrwydd dodwy ac a gedwir ar gyfer cynhyrchu wyau na fwriedir iddynt ddeor;
ystyr “llaesodr” (“litter”), mewn perthynas â ieir dodwy, yw unrhyw ddefnydd hyfriw sy'n galluogi'r ieir i ddiwallu eu hanghenion etholegol;
ystyr “lle y gellir ei ddefnyddio” (“usable area”) yw lle a ddefnyddir gan ieir dodwy, nad yw'n cynnwys y lle a gymerir gan nyth, sydd â'i led yn 30 cm o leiaf a goleddf ei lawr heb fod yn fwy na 14% ac sy'n 45 cm o uchder o leiaf;
ystyr “llo” (“calf”) yw anifail buchol hyd at chwe mis oed;
ystyr “mochyn” (“pig”) yw anifail o'r rywogaeth y mochyn o unrhyw oedran a gedwir ar gyfer bridio neu besgi;
ystyr “nyth” (“nest”) yw lle ar wahân ar gyfer dodwy wyau, sef lle na chaiff cydrannau ei lawr gynnwys rhwyllau gwifrog a all ddod i gysylltiad â'r adar, ar gyfer iâr unigol neu grwp o ieir;
mae i'r ymadrodd “person sy'n gyfrifol” am anifail yr ystyr a roddir i “person responsible” yn adran 3 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.
(2) Mae i ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, nas diffinnir yn y Rheoliadau hyn ac a ddefnyddir yn y Cyfarwyddebau canlynol, yr ystyr sydd iddo yn y Cyfarwyddebau hynny—
(a)mewn perthynas â moch, Cyfarwyddebau 91/630/EEC(1), 2001/88/EC(2) a 2001/93/EC(3);
(b)mewn perthynas â ieir dodwy, Cyfarwyddeb 99/74/EC(4); ac
(c)mewn perthynas â lloi, Cyfarwyddebau 91/629/EEC(5), 97/2/EC(6) a 97/182/EC(7).
(3) Mae i ymadrodd a ddefnyddir yn rheoliad 4 neu Atodlen 1, nas diffinnir yn y Rheoliadau hyn ac sy'n ymddangos yng Nghyfarwyddeb 98/58/EC(8), yr un ystyr sydd iddo at ddibenion y Gyfarwyddeb honno.
3.—(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i anifeiliaid a ffermir yn unig.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “anifail a ffermir” (“farmed animal”) yw anifail a fridiwyd neu a gedwir ar gyfer cynhyrchu bwyd, gwlân neu grwyn neu at ddibenion ffermio eraill, ond heb gynnwys—
(a)pysgod, ymlusgiaid neu amffibiaid;
(b)unrhyw anifail tra bo mewn cystadleuaeth, sioe neu ddigwyddiad neu weithgaredd diwylliannol neu chwaraeol, neu anifail a fwriedir yn unig i'w ddefnyddio ar gyfer hynny;
(c)anifail arbrofol neu anifail labordy; neu
(ch)anifail sy'n byw yn y gwyllt.
4.—(1) Rhaid i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod yr amodau y mae'r anifail yn cael ei fridio neu ei gadw odanynt yn cydymffurfio ag Atodlen 1.
(2) Wrth gydymffurfio â'r ddyletswydd ym mharagraff (1), rhaid i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir roi sylw i'w—
(a)rhywogaeth;
(b)gradd ei datblygiad;
(c)ei addasiad a'i ddofiad; ac
(ch)ei anghenion seicolegol ac etholegol yn unol ag arferion da a gwybodaeth wyddonol.
5.—(1) Rhaid i berson sy'n gyfrifol am—
(a)dofednod (ac eithrio'r rheini a gedwir yn y systemau cyfeirir atynt yn Atodlenni 2 i 4) a gedwir mewn adeilad sicrhau y cânt eu cadw ar laesodr, neu y gallant bob amser fynd at laesodr sydd wedi ei gynnal yn dda, neu fan sydd wedi ei ddraenio'n dda ar gyfer gorffwys;
(b)ieir dodwy a gedwir mewn sefydliadau a chanddynt 350 neu fwy o ieir gydymffurfio ag Atodlenni 2, 3, 4 a 5, fel y bo'n gymwys;
(c)lloi a gaethiwir ar gyfer eu magu a'u pesgi gydymffurfio ag Atodlen 6;
(ch)gwartheg gydymffurfio ag Atodlen 7;
(d)moch, yn ddarostyngedig i baragraff (2), gydymffurfio â Rhan 2 o Atodlen 8 a phan fo'n gymwys, â gofynion Rhannau 3, 4, 5 a 6 o Atodlen 8; neu
(dd)cwningod gydymffurfio ag Atodlen 9.
(2) Mae paragraffau 12, 28, 29 a 30 o Atodlen 8 yn gymwys i bob daliad yr adeiledir o'r newydd, yr ailadeiledir neu y dechreuir ei ddefnyddio am y tro cyntaf ar neu ar ôl 1 Ionawr 2003, ond yn achos pob daliad arall nid yw'r paragraffau hynny yn gymwys tan 1 Ionawr 2013.
(3) Mae Rhan 1 o Atodlen 8 yn effeithiol.
6.—(1) Rhaid i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir —
(a)peidio â gofalu am yr anifail onid yw'n gyfarwydd â'r cod ymarfer perthnasol a bod y cod ar gael iddo tra'n gofalu am yr anifail; a
(b)cymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw person a gyflogir ganddo, neu a gymerir i weithio ganddo, yn gofalu am yr anifail oni bai bod y person arall hwnnw—
(i)yn gyfarwydd ag unrhyw god ymarfer perthnasol;
(ii)bod y cod ar gael iddo tra'n gofalu am yr anifail; a
(iii)ei fod wedi cael hyfforddiant ac arweiniad ar y cod hwnnw.
(2) Yn yr adran hon, ystyr “cod ymarfer perthnasol” (“relevant code of practice”) yw cod ymarfer a gyhoeddwyd o dan adran 14 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 neu god ymarfer statudol a gyhoeddwyd o dan adran 3 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968(9) mewn perthynas â'r rhywogaeth benodol o anifeiliaid a ffermir y mae'r person yn gofalu amdanynt.
7. Mae person yn cyflawni tramgwydd os yw, heb awdurdod neu esgus cyfreithlon —
(a)yn torri neu'n peidio â chydymffurfio â dyletswydd yn rheoliad 4, 5 neu 6;
(b)yn rhoi unrhyw eitem mewn cofnod neu'n rhoi unrhyw wybodaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn y mae'n gwybod ei bod yn anwir mewn unrhyw fanylyn o bwys neu, at y dibenion hynny, yn gwneud datganiad neu'n rhoi gwybodaeth yn ddi-hid a'r datganiad hwnnw neu'r wybodaeth honno'n anwir mewn unrhyw fanylyn o bwys; neu
(c)yn achosi neu'n caniatáu unrhyw un o'r uchod.
8.—(1) Caiff awdurdod lleol ddwyn achos i erlyn am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd mai hwy, ac nid yr awdurdod lleol, fydd yn dwyn achos i erlyn am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol.
9.—(1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 7 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod—
(a)i garchar am gyfnod heb fod yn hwy na 51 wythnos;
(b)i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol; neu
(c)i'r cyfnod o garchar y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn ogystal â'r ddirwy y cyfeirir ati yn is-baragraff (b).
(2) Mewn perthynas â thramgwydd a gyflawnwyd cyn cychwyn adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003(10), rhaid deall y cyfeiriad ym mharagraff (1)(a) at 51 wythnos fel cyfeiriad at 6 mis.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
23 Hydref 2007
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys