Search Legislation

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007. Maent yn gymwys o ran Cymru; ac maent yn dod i rym ar 24 Hydref 2007.

Diffiniadau a dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sy'n gyfrifol am anifeiliaid neu â gofal ohonynt, p'un ai ar sail barhaol neu dros dro;

ystyr “iâr ddodwy” (“laying hen”) yw iâr o'r rhywogaeth Gallus gallus sydd wedi cyrraedd aeddfedrwydd dodwy ac a gedwir ar gyfer cynhyrchu wyau na fwriedir iddynt ddeor;

ystyr “llaesodr” (“litter”), mewn perthynas â ieir dodwy, yw unrhyw ddefnydd hyfriw sy'n galluogi'r ieir i ddiwallu eu hanghenion etholegol;

ystyr “lle y gellir ei ddefnyddio” (“usable area”) yw lle a ddefnyddir gan ieir dodwy, nad yw'n cynnwys y lle a gymerir gan nyth, sydd â'i led yn 30 cm o leiaf a goleddf ei lawr heb fod yn fwy na 14% ac sy'n 45 cm o uchder o leiaf;

ystyr “llo” (“calf”) yw anifail buchol hyd at chwe mis oed;

ystyr “mochyn” (“pig”) yw anifail o'r rywogaeth y mochyn o unrhyw oedran a gedwir ar gyfer bridio neu besgi;

ystyr “nyth” (“nest”) yw lle ar wahân ar gyfer dodwy wyau, sef lle na chaiff cydrannau ei lawr gynnwys rhwyllau gwifrog a all ddod i gysylltiad â'r adar, ar gyfer iâr unigol neu grwp o ieir;

mae i'r ymadrodd “person sy'n gyfrifol” am anifail yr ystyr a roddir i “person responsible” yn adran 3 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.

(2Mae i ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, nas diffinnir yn y Rheoliadau hyn ac a ddefnyddir yn y Cyfarwyddebau canlynol, yr ystyr sydd iddo yn y Cyfarwyddebau hynny—

(a)mewn perthynas â moch, Cyfarwyddebau 91/630/EEC(1), 2001/88/EC(2) a 2001/93/EC(3);

(b)mewn perthynas â ieir dodwy, Cyfarwyddeb 99/74/EC(4); ac

(c)mewn perthynas â lloi, Cyfarwyddebau 91/629/EEC(5), 97/2/EC(6) a 97/182/EC(7).

(3Mae i ymadrodd a ddefnyddir yn rheoliad 4 neu Atodlen 1, nas diffinnir yn y Rheoliadau hyn ac sy'n ymddangos yng Nghyfarwyddeb 98/58/EC(8), yr un ystyr sydd iddo at ddibenion y Gyfarwyddeb honno.

Anifeiliaid y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt

3.—(1Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i anifeiliaid a ffermir yn unig.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “anifail a ffermir” (“farmed animal”) yw anifail a fridiwyd neu a gedwir ar gyfer cynhyrchu bwyd, gwlân neu grwyn neu at ddibenion ffermio eraill, ond heb gynnwys—

(a)pysgod, ymlusgiaid neu amffibiaid;

(b)unrhyw anifail tra bo mewn cystadleuaeth, sioe neu ddigwyddiad neu weithgaredd diwylliannol neu chwaraeol, neu anifail a fwriedir yn unig i'w ddefnyddio ar gyfer hynny;

(c)anifail arbrofol neu anifail labordy; neu

(ch)anifail sy'n byw yn y gwyllt.

Dyletswyddau ar bersonau sy'n gyfrifol am anifeiliaid a ffermir

4.—(1Rhaid i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod yr amodau y mae'r anifail yn cael ei fridio neu ei gadw odanynt yn cydymffurfio ag Atodlen 1.

(2Wrth gydymffurfio â'r ddyletswydd ym mharagraff (1), rhaid i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir roi sylw i'w—

(a)rhywogaeth;

(b)gradd ei datblygiad;

(c)ei addasiad a'i ddofiad; ac

(ch)ei anghenion seicolegol ac etholegol yn unol ag arferion da a gwybodaeth wyddonol.

Dyletswyddau ychwanegol ar bersonau sy'n gyfrifol am ddofednod, ieir dodwy, lloi, gwartheg, moch neu gwningod

5.—(1Rhaid i berson sy'n gyfrifol am—

(a)dofednod (ac eithrio'r rheini a gedwir yn y systemau cyfeirir atynt yn Atodlenni 2 i 4) a gedwir mewn adeilad sicrhau y cânt eu cadw ar laesodr, neu y gallant bob amser fynd at laesodr sydd wedi ei gynnal yn dda, neu fan sydd wedi ei ddraenio'n dda ar gyfer gorffwys;

(b)ieir dodwy a gedwir mewn sefydliadau a chanddynt 350 neu fwy o ieir gydymffurfio ag Atodlenni 2, 3, 4 a 5, fel y bo'n gymwys;

(c)lloi a gaethiwir ar gyfer eu magu a'u pesgi gydymffurfio ag Atodlen 6;

(ch)gwartheg gydymffurfio ag Atodlen 7;

(d)moch, yn ddarostyngedig i baragraff (2), gydymffurfio â Rhan 2 o Atodlen 8 a phan fo'n gymwys, â gofynion Rhannau 3, 4, 5 a 6 o Atodlen 8; neu

(dd)cwningod gydymffurfio ag Atodlen 9.

(2Mae paragraffau 12, 28, 29 a 30 o Atodlen 8 yn gymwys i bob daliad yr adeiledir o'r newydd, yr ailadeiledir neu y dechreuir ei ddefnyddio am y tro cyntaf ar neu ar ôl 1 Ionawr 2003, ond yn achos pob daliad arall nid yw'r paragraffau hynny yn gymwys tan 1 Ionawr 2013.

(3Mae Rhan 1 o Atodlen 8 yn effeithiol.

Codau Ymarfer

6.—(1Rhaid i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir —

(a)peidio â gofalu am yr anifail onid yw'n gyfarwydd â'r cod ymarfer perthnasol a bod y cod ar gael iddo tra'n gofalu am yr anifail; a

(b)cymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw person a gyflogir ganddo, neu a gymerir i weithio ganddo, yn gofalu am yr anifail oni bai bod y person arall hwnnw—

(i)yn gyfarwydd ag unrhyw god ymarfer perthnasol;

(ii)bod y cod ar gael iddo tra'n gofalu am yr anifail; a

(iii)ei fod wedi cael hyfforddiant ac arweiniad ar y cod hwnnw.

(2Yn yr adran hon, ystyr “cod ymarfer perthnasol” (“relevant code of practice”) yw cod ymarfer a gyhoeddwyd o dan adran 14 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 neu god ymarfer statudol a gyhoeddwyd o dan adran 3 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968(9) mewn perthynas â'r rhywogaeth benodol o anifeiliaid a ffermir y mae'r person yn gofalu amdanynt.

Tramgwyddau

7.  Mae person yn cyflawni tramgwydd os yw, heb awdurdod neu esgus cyfreithlon —

(a)yn torri neu'n peidio â chydymffurfio â dyletswydd yn rheoliad 4, 5 neu 6;

(b)yn rhoi unrhyw eitem mewn cofnod neu'n rhoi unrhyw wybodaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn y mae'n gwybod ei bod yn anwir mewn unrhyw fanylyn o bwys neu, at y dibenion hynny, yn gwneud datganiad neu'n rhoi gwybodaeth yn ddi-hid a'r datganiad hwnnw neu'r wybodaeth honno'n anwir mewn unrhyw fanylyn o bwys; neu

(c)yn achosi neu'n caniatáu unrhyw un o'r uchod.

Erlyniadau

8.—(1Caiff awdurdod lleol ddwyn achos i erlyn am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.

(2Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd mai hwy, ac nid yr awdurdod lleol, fydd yn dwyn achos i erlyn am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol.

Cosbau

9.—(1Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 7 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod—

(a)i garchar am gyfnod heb fod yn hwy na 51 wythnos;

(b)i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol; neu

(c)i'r cyfnod o garchar y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn ogystal â'r ddirwy y cyfeirir ati yn is-baragraff (b).

(2Mewn perthynas â thramgwydd a gyflawnwyd cyn cychwyn adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003(10), rhaid deall y cyfeiriad ym mharagraff (1)(a) at 51 wythnos fel cyfeiriad at 6 mis.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

23 Hydref 2007

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources