Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

(cyflwynwyd gan adran 13(1))

ATODLEN 1ADRODDIADAU BLYNYDDOL GAN GYRFF CYHOEDDUS ERAILL

Cyrff cyhoeddus: cyffredinol

1(1)Rhaid i gorff cyhoeddus (ac eithrio Gweinidogion Cymru neu gorff a grybwyllir yn is-baragraff (3)) gyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad am y cynnydd a wnaed ganddo tuag at gyflawni ei amcanion llesiant.

(2)Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan y paragraff hwn gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(3)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i—

(a)Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth y GIG (am hynny, gweler paragraff 2);

(b)Corff Adnoddau Naturiol Cymru (am hynny, gweler paragraff 3).

Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG

2(1)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth y GIG gyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn gyfrifyddu, adroddiad o’r cynnydd a wnaed ganddo tuag at gyflawni ei amcanion llesiant.

(2)Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan y paragraff hwn gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn gyfrifyddu y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(3)Yn y paragraff hwn, mae i “blwyddyn gyfrifyddu” mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG yr ystyr a roddir gan y gorchymyn—

(a)a wnaed o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, sy’n sefydlu’r Bwrdd, neu

(b)a wnaed o dan adran 18 o’r Ddeddf honno, sy’n sefydlu’r ymddiriedolaeth.

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

3(1)Yn yr Atodlen i Orchymyn Corff Adnoddau Dynol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903 (Cy.230)), ym mharagraff 22(1)(a), ar ôl “honno” mewnosoder “gan gynnwys adroddiad am y cynnydd sydd wedi ei wneud gan yr awdurdod tuag at gyflawni ei amcanion llesiant a gyhoeddir o dan Ran 2 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)”.

(2)Nid yw’r diwygiad a wnaed gan is-baragraff (1) yn effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn pellach o dan adrannau 13 a 15 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 (p. 24) i ddiwygio neu ddirymu darpariaeth a wnaed gan y diwygiad hwnnw.

(cyflwynwyd gan adran 17(4))

ATODLEN 2COMISIYNYDD CENEDLAETHAU’R DYFODOL CYMRU

Statws

1(1)Mae’r Comisiynydd yn gorfforaeth undyn.

(2)Nid yw’r Comisiynydd i gael ei ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac yn gorff sy’n mwynhau unrhyw statws, eithriad neu fraint perthynol i’r Goron.

(3)Nid yw eiddo’r Comisiynydd i’w ystyried yn eiddo’r Goron nac yn eiddo sy’n cael ei ddal ar ran y Goron.

Dilysrwydd gweithredoedd

2(1)Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred unigolyn fel Comisiynydd gan ddiffyg ym mhenodiad—

(a)yr unigolyn hwnnw;

(b)unrhyw aelod o’r panel cynghori.

(2)Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred person sy’n arfer swyddogaethau ar ran y Comisiynydd gan ddiffyg ym mhenodiad—

(a)y person hwnnw;

(b)y Comisiynydd;

(c)unrhyw aelod o’r panel cynghori.

Cyfnod y penodiad

3Mae unigolyn a benodir yn Gomisiynydd yn dal y swydd am gyfnod o 7 mlynedd.

Telerau penodi

4Mae’r Comisiynydd yn dal ei swydd yn ddarostyngedig i—

(a)darpariaethau’r Atodlen hon, a

(b)unrhyw delerau penodi ychwanegol y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu o dro i dro.

Taliadau cydnabyddiaeth, lwfansau a phensiynau

5(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i’r Comisiynydd.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth) ac arian rhodd i’r Comisiynydd.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

(a)pensiynau i unigolion, neu mewn cysylltiad ag unigolion, a fu’n Gomisiynydd, a

(b)symiau ar gyfer darparu neu tuag at ddarparu pensiynau i unigolion, neu mewn cysylltiad ag unigolion, a fu’n Gomisiynydd.

Anghymwyso

6(1)Ni chaiff unigolyn gael ei benodi’n Gomisiynydd os bydd yr unigolyn wedi ei anghymwyso ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a bennir yn is-baragraff (3).

(2)Bydd Comisiynydd yn peidio â bod yn Gomisiynydd os bydd yr unigolyn wedi ei anghymwyso ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a bennir yn is-baragraff (3).

(3)Mae unigolyn yn anghymwys i fod yn Gomisiynydd os yw’r unigolyn yn—

(a)Aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol;

(b)aelod o’r panel cynghori;

(c)deiliad unrhyw swydd arall y caiff person ei benodi iddi, neu ei argymell neu ei enwebu ar gyfer ei benodi iddi, gan neu ar ran—

(i)y Goron,

(ii)y Cynulliad Cenedlaethol, neu

(iii)Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

(d)Aelod o Dŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi;

(e)Aelod o Senedd yr Alban;

(f)Aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon;

(g)Aelod o Senedd Ewrop;

(h)aelod o gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru;

(i)aelod o staff y Comisiynydd.

Diwedd penodiad (ac eithrio drwy anghymwyso)

7(1)Caiff y Comisiynydd ymddiswyddo o’i swydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o ddim llai na 3 mis i Weinidogion Cymru o’i fwriad i wneud hynny.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo’r Comisiynydd os ydynt wedi eu bodloni—

(a)ei fod yn anaddas i barhau fel Comisiynydd, neu

(b)ei fod yn analluog neu’n amharod i arfer swyddogaethau’r Comisiynydd.

Pwerau

8(1)Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth y mae’n ei ystyried yn briodol mewn cysylltiad â swyddogaethau’r Comisiynydd, gan gynnwys—

(a)codi tâl am ddarparu cyngor neu wasanaethau eraill;

(b)talu i drydydd partïon am ddarparu cyngor neu wasanaethau eraill;

(c)derbyn rhoddion ar ffurf arian neu eiddo arall.

(2)Ni chaiff y Comisiynydd—

(a)darparu cymorth ariannol i unrhyw berson;

(b)caffael neu waredu unrhyw fuddiant mewn tir,

heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(3)Mae pŵer y Comisiynydd i godi tâl am ddarparu cyngor neu wasanaeth arall yn gyfyngedig i godi’r symiau hynny y mae’r Comisiynydd yn eu hystyried yn briodol i adennill y costau, gwirioneddol neu amcangyfrifedig, o ddarparu’r cyngor neu’r gwasanaeth hwnnw.

Staff

9(1)Caiff y Comisiynydd benodi unrhyw staff y mae’r Comisiynydd yn eu hystyried yn briodol o ran arfer swyddogaethau’r Comisiynydd a rhaid iddo benodi aelod o staff i fod yn Ddirprwy Gomisiynydd (gweler paragraff 11).

(2)Caiff y Comisiynydd dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau staff y Comisiynydd.

(3)Caiff y Comisiynydd dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth) ac arian rhodd i aelodau staff y Comisiynydd.

(4)Caiff y Comisiynydd dalu—

(a)pensiynau i bersonau, neu mewn cysylltiad â phersonau, sydd wedi bod yn aelodau o staff y Comisiynydd, a

(b)symiau ar gyfer darparu, neu tuag at ddarparu, pensiynau i bersonau, neu mewn cysylltiad â phersonau, sydd wedi bod yn aelodau o staff y Comisiynydd.

(5)Rhaid i’r Comisiynydd gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru o ran—

(a)nifer yr aelodau o staff y caniateir eu penodi;

(b)telerau ac amodau gwasanaeth y staff;

(c)unrhyw daliadau y bwriedir eu gwneud o dan is-baragraffau (2) i (4).

Dirprwyo

10Caiff swyddogaeth y Comisiynydd gael ei chyflawni ar ran y Comisiynydd gan unrhyw berson, gan gynnwys unrhyw aelod o staff y Comisiynydd, ond dim ond i’r graddau y caniateir hynny gan y Comisiynydd.

Dirprwy Gomisiynydd

11Mae swyddogaethau’r Comisiynydd yn arferadwy gan y Dirprwy Gomisiynydd—

(a)os yw swydd y Comisiynydd yn wag, neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn fodlon nad yw’r Comisiynydd yn gallu arfer swyddogaethau Comisiynydd am unrhyw reswm.

Y weithdrefn gwynion

12(1)Rhaid i’r comisiynydd sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion am arferiad swyddogaethau’r Comisiynydd (“y weithdrefn gwynion”).

(2)Rhaid i’r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)sut i wneud cwyn;

(b)y person y dylid gwneud cwyn iddo;

(c)y cyfnod ar gyfer dechrau ystyried cwyn a dirwyn cwyn i ben;

(d)y camau gweithredu y mae’n rhaid i’r Comisiynydd ystyried eu cymryd wrth ymateb i gŵyn.

(3)Caiff y Comisiynydd ddiwygio’r weithdrefn gwynion, ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r gofyniad i gynnwys darpariaethau yn unol ag is-baragraff (2).

(4)Rhaid i’r Comisiynydd—

(a)sicrhau bod copi o’r weithdrefn gwynion ar gael i’w harchwilio yn swyddfa’r Comisiynydd, a

(b)sicrhau y perir bod copïau o’r weithdrefn gwynion ar gael mewn unrhyw fannau eraill a thrwy unrhyw ddulliau eraill y mae’r Comisiynydd o’r farn eu bod yn briodol.

(5)Rhaid i’r Comisiynydd sicrhau y cyhoeddir y trefniadau ar gyfer archwilio a chyrchu copïau o’r weithdrefn gwynion mewn modd a fydd yn dwyn y trefniadau hynny i sylw personau y mae’r Comisiynydd o’r farn ei bod yn debygol fod ganddynt ddiddordeb yn y weithdrefn.

Cofrestr buddiannau

13(1)Rhaid i’r Comisiynydd greu a chynnal cofrestr sy’n cynnwys holl fuddiannau cofrestradwy’r Comisiynydd a’r Dirprwy Gomisiynydd.

(2)At ddibenion y paragraff hwn a pharagraffau 14 a 15—

(a)ystyr “buddiannau cofrestradwy” yw unrhyw fuddiannau y pennir eu bod yn fuddiannau cofrestradwy gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau (a gall hyn gynnwys buddiannau personau y mae gan y Comisiynydd neu’r Dirprwy Gomisiynydd gysylltiad â hwy, boed yn gysylltiad teuluol, ariannol neu’n unrhyw fath arall o gysylltiad);

(b)ystyr “buddiant” yw buddiant o unrhyw fath (gan gynnwys anrhegion, lletygarwch, rhoddion a dderbynnir, buddiannau ariannol eraill, a phob gweithgaredd a gorchwyl).

(3)Rhaid i’r Comisiynydd ddiweddaru ei gofrestr buddiannau yn barhaus.

14(1)Rhaid i’r Comisiynydd—

(a)sicrhau bod copi o’r gofrestr buddiannau ar gael i’w archwilio yn swyddfa’r Comisiynydd, a

(b)sicrhau y perir bod copïau o’r gofrestr ar gael mewn unrhyw fannau eraill a thrwy unrhyw ddulliau eraill y mae’r Comisiynydd o’r farn eu bod yn briodol.

(2)Rhaid i’r Comisiynydd sicrhau y cyhoeddir y trefniadau ar gyfer archwilio a chyrchu copïau o’r gofrestr buddiannau mewn modd a fydd yn dwyn y trefniadau hynny i sylw personau y mae’r Comisiynydd o’r farn ei bod yn debygol bod ganddynt ddiddordeb yn y gofrestr.

Gwrthdrawiadau buddiannau

15(1)Rhaid i’r Comisiynydd beidio ag arfer swyddogaeth os oes ganddo fuddiant cofrestradwy sy’n ymwneud ag arfer y swyddogaeth.

(2)Os bydd hyn yn atal y Comisiynydd rhag arfer swyddogaeth, rhaid iddo ddirprwyo’r swyddogaeth honno (i’r graddau y bo’n angenrheidiol i alluogi’r gwaith hwnnw o’i harfer i gael ei wneud) i aelod o staff y Comisiynydd.

(3)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r Dirprwy Gomisiynydd sy’n arfer un o swyddogaethau’r Comisiynydd o dan baragraff 11 fel y mae’n gymwys i’r Comisiynydd.

Taliadau gan Weinidogion Cymru

16Caiff Gweinidogion Cymru dalu i’r Comisiynydd y symiau, ar yr adegau ac ar y telerau (os oes telerau) sy’n briodol yn eu tyb hwy, mewn cysylltiad â gwariant yr eir iddo wrth gyflawni swyddogaethau’r Comisiynydd.

Adroddiadau blynyddol

17(1)Rhaid i’r Comisiynydd lunio adroddiad mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol (“adroddiad blynyddol”).

(2)Blwyddyn ariannol gyntaf y Comisiynydd yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gwneir y penodiad cyntaf i swydd y Comisiynydd o dan adran 17 ac sy’n dod i ben ar y 31 Mawrth canlynol.

(3)Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys—

(a)crynodeb o’r camau a gymerwyd wrth arfer swyddogaethau’r Comisiynydd yn y flwyddyn ariannol honno;

(b)dadansoddiad o effeithiolrwydd y camau hynny o ran galluogi gwireddu dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd (gweler adran 18);

(c)crynodeb o raglen waith y Comisiynydd ar gyfer y flwyddyn ariannol honno;

(d)cynigion y Comisiynydd ar gyfer rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol;

(e)crynodeb o’r cwynion a wnaed yn unol â’r weithdrefn a sefydlwyd o dan baragraff 12.

(4)Caiff adroddiad blynyddol gynnwys—

(a)asesiad y Comisiynydd o’r gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud er mwyn cyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;

(b)unrhyw wybodaeth arall y mae’r Comisiynydd yn ei hystyried yn briodol.

(5)Wrth baratoi adroddiad blynyddol, rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori â—

(a)y panel cynghori, a

(b)unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ei ystyried yn briodol.

(6)Rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol ganlynol.

(7)Rhaid i’r Comisiynydd anfon copi o bob adroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru.

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o bob adroddiad blynyddol a anfonir atynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Swyddog cyfrifyddu

18(1)Y Comisiynydd yw’r swyddog cyfrifyddu ar gyfer swyddfa’r Comisiynydd.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, o ran cyfrifon a chyllid y Comisiynydd, y cyfrifoldebau a bennir o bryd i’w gilydd gan y Trysorlys.

(3)Yn y paragraff hwn mae cyfeiriadau at gyfrifoldebau yn cynnwys—

(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;

(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiynydd;

(c)cyfrifoldeb am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau’r Comisiynydd.

(4)Mae’r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan y paragraff hwn yn cynnwys cyfrifoldebau sy’n ddyledus i’r canlynol—

(a)y Cynulliad Cenedlaethol, Gweinidogion Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)Tŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.

(5)Os gofynnir iddo wneud hynny gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin (“Pwyllgor Tŷ’r Cyffredin”), caiff Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol—

(a)cymryd tystiolaeth gan y swyddog cyfrifyddu ar ran Pwyllgor Tŷ’r Cyffredin,

(b)cyflwyno adroddiad i Bwyllgor Tŷ’r Cyffredin ar y dystiolaeth a gymerwyd, ac

(c)trosglwyddo’r dystiolaeth a gymerwyd i Bwyllgor Tŷ’r Cyffredin.

(6)Mae adran 13 o Ddeddf Archwilio Cenedlaethol 1983 (p.44) (dehongli cyfeiriadau at Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin) yn gymwys at ddibenion y paragraff hwn yn yr un modd ag y mae’n gymwys at ddibenion y Ddeddf honno.

Amcangyfrifon

19(1)Ar gyfer pob blwyddyn ariannol ac eithrio’r un gyntaf, rhaid i’r Comisiynydd lunio amcangyfrif o incwm a gwariant y Comisiynydd a’i staff.

(2)Rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno’r amcangyfrif i Weinidogion Cymru o leiaf bum mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru archwilio amcangyfrif a gyflwynir iddynt yn unol â’r paragraff hwn ac yna rhaid iddynt osod yr amcangyfrif gerbron y Cynulliad Cenedlaethol gydag unrhyw addasiadau sy’n briodol yn eu tyb hwy.

Cyfrifon

20(1)Rhaid i’r Comisiynydd—

(a)cadw cofnodion cyfrifyddu priodol;

(b)llunio cyfrifon mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol yn unol â chyfarwyddydau a roddir, gyda chydsyniad y Trysorlys, gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae’r cyfarwyddydau y caiff Gweinidogion Cymru eu rhoi o dan y paragraff hwn yn cynnwys cyfarwyddydau o ran—

(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cyfrifon a’r modd y mae’r cyfrifon i gael eu cyflwyno;

(b)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r cyfrifon i gael eu llunio yn unol â hwy;

(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd i fynd gyda’r cyfrifon.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd y maent wedi ei roi o dan y paragraff hwn.

Archwilio

21(1)Rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno’r cyfrifon a luniwyd ar gyfer blwyddyn ariannol i Archwilydd Cyffredinol Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddynariannol ganlynol.

(2)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol—

(a)archwilio ac ardystio pob set o gyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ac adrodd arnynt, a

(b)heb fod yn hwyrach na phedwar mis ar ôl i’r cyfrifon gael eu cyflwyno, osod copi ohonynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol fel y cawsant eu hardystio ganddo, ynghyd â’i adroddiad arnynt.

(3)Wrth archwilio cyfrifon a gyflwynir o dan y paragraff hwn, ni chaiff yr Archwilydd Cyffredinol ardystio’r cyfrifon cyn bodloni ei hun yr aethpwyd i’r gwariant y mae’r cyfrifon yn ymwneud ag ef yn gyfreithiol ac yn unol â’r awdurdod sy’n ei lywodraethu.

Archwilio’r defnydd o adnoddau

22(1)Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd a wnaed o adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau’r Comisiynydd.

(2)Ond nid oes gan yr Archwilydd Cyffredinol yr hawl i gwestiynu teilyngdod amcanion polisi’r Comisiynydd.

(3)Cyn cynnal archwiliad o dan y paragraff hwn, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol—

(a)ymgynghori â Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, a

(b)ystyried barn y Pwyllgor o ran a ddylid cynnal archwiliad ai peidio.

(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol—

(a)cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, gyhoeddi adroddiad ar ganlyniadau archwiliad a gyflawnir dan y paragraff hwn, a

(b)gosod copi gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Y sêl a dilysrwydd dogfennau

23(1)Caniateir i’r Comisiynydd gael sêl.

(2)Mae dogfen—

(a)yr honnir ei bod wedi ei chyflawni’n briodol o dan sêl y Comisiynydd, neu

(b)yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y Comisiynydd,

i gael ei derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir i’r gwrthwyneb, rhaid cymryd ei bod wedi ei chyflawni neu wedi ei llofnodi felly.

(cyflwynwyd gan adran 34)

ATODLEN 3BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS: DARPARIAETH BELLACH

Cworwm

1Cworwm bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yw pob un o’i aelodau.

Cyfarfod cyntaf

2(1)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gynnal cyfarfod heb fod yn hwyrach na 60 diwrnod ar ôl y dyddiad y sefydlwyd y bwrdd.

(2)Rhaid i awdurdod lleol gadeirio cyfarfod cyntaf bwrdd.

Cyfarfodydd gorfodol

3(1)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gynnal cyfarfod heb fod yn hwyrach na 60 diwrnod ar ôl dyddiad pob etholiad cyffredin a gynhelir o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) (ethol cynghorwyr).

(2)Rhaid i awdurdod lleol gadeirio cyfarfod a gynhelir o dan is-baragraff (1).

Cylch gorchwyl

4(1)Yn y cyfarfod cyntaf, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gytuno ar ei gylch gorchwyl.

(2)Rhaid i’r cylch gorchwyl gynnwys—

(a)y weithdrefn i’w dilyn mewn cyfarfodydd dilynol i’r graddau nad yw wedi ei phennu yn y Ddeddf hon;

(b)amserlen arfaethedig ar gyfer cyfarfodydd dilynol;

(c)y weithdrefn ar gyfer gwahodd personau i gyfranogi o dan adran 30 i’r graddau nad yw wedi ei phennu yn y Ddeddf hon;

(d)cynigion mewn perthynas â’r ffordd y mae’r bwrdd yn bwriadu cynnwys cyfranogwyr gwadd a’i bartneriaid eraill;

(e)cynigion ar gyfer cynnwys personau sydd, ym marn y bwrdd, â diddordeb mewn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal (yn ogystal ag ymgynghori â phersonau o’r fath yn unol ag adrannau 38(1)(k) a 43(1)(k));

(f)cynigion ar gyfer sefydlu un is-grŵp neu fwy gan gynnwys manylion y swyddogaethau i’w harfer gan unrhyw is-grŵp ar ran y bwrdd (ond gweler paragraff 6);

(g)y weithdrefn ar gyfer datrys anghytuno rhwng aelodau mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r bwrdd;

(h)unrhyw delerau eraill mewn perthynas â gweithrediad y bwrdd sy’n briodol yn nhyb yr aelodau.

(3)O ran bwrdd gwasanaethau cyhoeddus—

(a)rhaid iddo adolygu ei gylch gorchwyl ym mhob cyfarfod a gynhelir o dan baragraff 3(1), a

(b)caiff ei adolygu mewn unrhyw gyfarfod arall.

(4)Yn dilyn adolygiad, caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ddiwygio ei gylch gorchwyl.

Cymorth gweinyddol

5Rhaid i’r awdurdod lleol beri bod cymorth gweinyddol ar gael i’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus.

Is-grwpiau a dirprwyo

6(1)O ran is-grŵp o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus—

(a)rhaid iddo gynnwys o leiaf un aelod o’r bwrdd, a

(b)caiff gynnwys unrhyw gyfranogwr a wahoddir neu bartner arall.

(2)Caiff is-grŵp arfer unrhyw rai o swyddogaethau’r bwrdd ag y mae’r bwrdd yn ei awdurdodi yn ei gylch gorchwyl.

(3)Ond ni chaiff y cylch gorchwyl hwnnw awdurdodi is-grŵp i—

(a)gwahodd personau i gyfranogi o dan adran 30;

(b)gosod, adolygu neu ddiwygio amcanion lleol y bwrdd;

(c)paratoi a chyhoeddi asesiad llesiant o dan adran 37;

(d)ymgynghori o dan adran 38 neu baratoi drafft o asesiad o dan adran 37 at ddiben ymgynghori;

(e)paratoi neu gyhoeddi cynllun llesiant lleol;

(f)ymgynghori o dan adran 43 neu paratoi drafft o gynllun llesiant lleol at ddiben ymgynghori;

(g)adolygu neu ddiwygio cynllun llesiant lleol neu gyhoeddi cynllun llesiant lleol diwygiedig;

(h)ymgynghori o dan adran 44;

(i)cytuno i’r bwrdd—

(i)uno â bwrdd gwasanaethau cyhoeddus arall o dan adran 47(1), neu

(ii)cydlafurio â bwrdd arall o dan adran 48(1).

Cynrychiolaeth mewn cyfarfodydd

7(1)Rhaid i bob aelod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gael ei gynrychioli mewn cyfarfod gan—

(a)yr unigolyn a bennir mewn perthynas â’r aelod hwnnw yn y Tabl canlynol, neu

(b)unrhyw unigolyn arall y mae’r unigolyn y cyfeirir ato ym mharagraff (a) yn ei ddynodi (ond ni chaiff maer etholedig neu arweinydd gweithredol awdurdod lleol ond ddynodi aelod arall o weithrediaeth yr awdurdod).

TABL 2

AelodCynrychiolydd
Awdurdod lleolMaer etholedig yr awdurdod neu’r cynghorydd sydd wedi ei ethol fel arweinydd gweithredol yr awdurdod, a pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod a ddynodir o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42).
Bwrdd Iechyd Lleol

Pa rai bynnag o’r canlynol y mae’r bwrdd yn eu dynodi—

(a)

y cadeirydd;

(b)

y prif swyddog;

(c)

y ddau.

Awdurdod tân ac achub yng Nghymru

Pa rai bynnag o’r canlynol y mae’r bwrdd yn eu dynodi—

(a)

y cadeirydd;

(b)

y prif swyddog;

(c)

y ddau.

Corff Adnoddau Naturiol CymruY prif weithredwr

(2)Mae i “maer etholedig” ac “arweinydd gweithredol” yr un ystyr ag a roddir i “elected mayor” ac “executive leader” yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).

(3)Mae cyfranogwr gwadd i gael ei gynrychioli mewn cyfarfod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gan yr unigolyn a ddynodir gan y cyfranogwr.

(4)Caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus wahodd unrhyw rai o’i bartneriaid eraill i fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r bwrdd (neu unrhyw ran o gyfarfod o’r fath).

(5)Mae partner arall o’r fath i gael ei gynrychioli yn y cyfarfod gan yr unigolyn a bennir gan y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn y gwahoddiad.

(cyflwynwyd gan adran 46)

ATODLEN 4BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS: DIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIDDYMU

Deddf Addysg 1997 (p.44)

1Yn adran 38(2A)(b) o Ddeddf Addysg 1997, yn lle “sections 25 and 26” rhodder “section 25”.

Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22)

2Mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

3Yn adran 2 (hyrwyddo lles), yn is-adran (3B), yn lle’r geiriau sy’n dechrau â “community strategy” hyd at ddiwedd yr is-adran, rhodder “local well-being plan for its area published under section 39 or 44(5) of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2).”

4Yn lle is-adran (3C) o’r adran honno, rhodder—

(3C)The local well-being plan for the area of a community council is the plan referred to in subsection (3B) that is published by the public services board that includes as a member the county council or county borough council in whose area lies the community or communities for which the community council is established..

5Yn adran 21 (pwyllgorau trosolwg a chraffu), yn is-adran (4), ar y diwedd, mewnosoder “or Part 4 of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2)”.

6Yn adran 21B o’r Ddeddf honno (dyletswydd awdurdod i ymateb i’r pwyllgor trosolwg a chraffu), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)A report or recommendation to a public services board by virtue of section 35(1)(c) of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2) is not to be regarded for the purposes of this section as a report or recommendation to the local authority that is a member of the board..

Deddf Addysg 2002 (p.32)

7Yn adran 21(9) o Ddeddf Addysg 2002 (cyfrifoldeb cyffredinol am weithrediad yr ysgol: diffiniad o “cynllun plant a phobl ifanc perthnasol”), yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)in relation to a school in Wales, a local well-being plan published under section 39 or 44(5) of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2) by a public services board of which the local authority is a member..

Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5)

8Mae adran 62 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (cynllun datblygu lleol) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

9Yn is-adran (5)(d), yn lle “community strategy” rhodder “local well-being plan”.

10Yn lle is-adran (7) rhodder—

(7)A local well-being plan is relevant if it has been published under section 39 or 44(5) of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2) by—

(a)in the case of an authority which is a county council or county borough council, the public services board of which that authority is a member;

(b)in the case of an authority which is a National Park Authority, the public services board for an area that includes any part of that authority’s area..

Deddf Plant 2004 (p.31)

11Mae Deddf Plant 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

12Yn adran 25 (cydweithredu i wella lles: Cymru), ar ôl is-adran (9) mewnosoder—

(9A)Information about the arrangements a local authority in Wales makes under this section may be included in the local well-being plan published under section 39 or 44(5) of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2) by the public services board of which the local authority is a member..

13Mae adran 26 (cynlluniau plant a phobl ifanc: Cymru) wedi ei diddymu.

14Yn adran 27—

(a)yn is-adran (1)(a), yn lle’r geiriau “sections 25 and 26” rhodder “section 25”;

(b)yn is-adran (1)(b), yn lle’r geiriau “those sections” rhodder “that section”;

(c)“Responsibility for functions under section 25” fydd pennawd yr adran.

15Yn adran 30(2)(a) (archwilio swyddogaethau o dan Ran 3), mae’r geiriau “or 26” wedi eu diddymu.

16Yn adran 50A(2)(c) (ymyriad - Cymru), mae’r geiriau “, 26” wedi eu diddymu.

17Mae adran 66(7) (y weithdrefn ar gyfer rheoliadau o dan adran 26) wedi ei diddymu.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32)

18Ym mharagraff 35(4) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (gweithdrefnau’n ymwneud â phwerau penodol cyn cychwyn i wneud is-ddeddfwriaeth), yn Nhabl 2 mae’r eitemau sy’n ymwneud ag adran 26(2)(f) a (4) o Ddeddf Plant 2004 wedi eu diddymu.

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42)

19Mae adran 40 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (strategaethau iechyd a llesiant yng Nghymru) wedi ei diddymu.

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (mccc 2)

20Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

21Mae Rhan 2 (Strategaethau cymunedol a chynllunio cymunedol) wedi ei diddymu.

22Mae adrannau 48(2)(b), 50(5)(c) a 51(3) wedi eu diddymu.

23Mae Atodlen 3 wedi ei diddymu.

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1)

24Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

25Yn adran 2(8), mae’r geiriau “ac adran 26 o Ddeddf Plant 2004 (p. 31)” wedi eu diddymu.

26Yn adran 4 (strategaethau a lunnir gan awdurdodau lleol)—

(a)yn is-adran (1), yn lle’r geiriau “fydd yr awdurdod yn cyhoeddi cynllun o dan adran 26 o Ddeddf Plant 2004 (p. 31)” rhodder “gaiff cynllun llesiant lleol ei gyhoeddi o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r awdurdod yn aelod ohono, ond dim ond os yw strategaeth yr awdurdod yn yn rhan gyfannol o’r cynllun hwnnw”; a

(b)mae is-adrannau (2) a (3) wedi eu diddymu.

27Yn adran 5 (strategaethau a lunnir gan awdurdodau Cymreig eraill)—

(a)mae is-adran (4) wedi ei diddymu; a

(b)yn is-adran (5), yn lle’r geiriau sy’n dechrau â “gynllun” hyd at ddiwedd yr isadran, rhodder “gynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardal awdurdod lleol y mae’r awdurdod Cymreig yn arfer swyddogaethau ynddi.”.

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (mccc 7)

28Mae Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

29Yn adran 2 (Cynlluniau ar y cyd ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Caiff cynllun ei gofnodi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae pob un o’r partneriaid yn aelodau ohono..

30Mae adran 11 (diwygio Deddf Plant 2004) wedi ei diddymu.

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4)

31Mae adran 128 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (darpariaeth drosiannol mewn perthynas â phwerau cynghorau cymunedol i hyrwyddo llesiant) wedi ei diddymu.

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3)

32Yn adran 23 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â ffioedd), ar ôl is-adran (3)(c) mewnosoder—

(ca)ymchwiliad o dan adran 15 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) (ymchwiliadau o gyrff cyhoeddus at ddibenion asesu i ba raddau y mae corff wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy);.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)

33Yn adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (asesu anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol), mae is-adrannau (3) a (4) wedi eu diddymu.

34Ar ôl yr adran honno mewnosoder—

14ACynlluniau yn dilyn asesiadau o anghenion o dan adran 14

(1)Yn yr adran hon, ystyr “corff perthnasol” yw awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol sydd wedi cynnal asesiad ar y cyd o dan adran 14(1).

(2)Rhaid i bob corff perthnasol baratoi a chyhoeddi cynllun sy’n nodi—

(a)ystod a lefel y gwasanaethau y mae’r corff yn bwriadu eu darparu, neu drefnu i’w darparu, mewn ymateb i’r asesiad o anghenion o dan baragraffau (a) i (c) o adran 14(1);

(b)yn achos awdurdod lleol, ystod a lefel y gwasanaethau y mae’r awdurdod yn bwriadu eu darparu, neu drefnu i’w darparu, wrth geisio sicrhau’r dibenion yn adran 15(2) (gwasanaethau ataliol);

(c)yn achos Bwrdd Iechyd Lleol, unrhyw beth y mae’r Bwrdd yn bwriadu ei wneud mewn cysylltiad â’i ddyletswydd o dan adran 15(5) (Byrddau Iechyd Lleol i roi sylw i bwysigrwydd camau ataliol wrth arfer swyddogaethau);

(d)sut y mae’r gwasanaethau a nodir yn y cynllun i gael eu darparu, gan gynnwys y gweithredoedd y mae’r corff yn bwriadu eu cymryd i ddarparu, neu drefnu i ddarparu, y gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg;

(e)unrhyw weithredoedd eraill y mae’r corff yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r asesiad o dan adran 14(1);

(f)manylion unrhyw beth y mae’r corff yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i’r asesiad ar y cyd â chorff perthnasol arall;

(g)yr adnoddau sydd i’w neilltuo wrth wneud y pethau a nodir yn y cynllun.

(3)Caniateir i gynllun corff perthnasol gael ei gyhoeddi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r corff yn aelod ohono.

(4)Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol sydd wedi cynnal asesiad ar y cyd gyda’i gilydd o dan adran 14(1) baratoi a chyhoeddi cynllun ar y cyd o dan is-adran (2).

(5)Caiff dau awdurdod lleol neu ragor baratoi a chyhoeddi cynllun ar y cyd o dan is-adran (2); ond ni chaniateir i gynllun ar y cyd o’r fath gael ei gyhoeddi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol onid yw pob awdurdod lleol yn aelod o’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (gweler adrannau 47 a 49 o Ddeddf 2015 (uno byrddau gwasanaethau cyhoeddus)).

(6)Rhaid i gorff perthnasol gyflwyno’r canlynol i Weinidogion Cymru—

(a)unrhyw ran o gynllun a baratowyd ganddo o dan is-adran (2) sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant gofalwyr;

(b)unrhyw ran arall o gynllun o’r fath y caniateir ei ragnodi drwy reoliadau.

(7)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cynlluniau a baratoir ac a gyhoeddir o dan is-adran (2), gan gynnwys darpariaeth—

(a)sy’n pennu pryd y mae cynllun i gael ei gyhoeddi;

(b)ynghylch adolygu cynllun;

(c)ynghylch ymgynghori â phersonau wrth baratoi neu adolygu cynllun;

(d)ynghylch monitro a gwerthuso gwasanaethau a gweithredoedd eraill a nodir mewn cynllun..

Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (dccc x)

35Yn adran 5 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (cyhoeddi ac adolygu strategaethau lleol), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A)Caniateir cyhoeddi strategaeth leol neu strategaeth ddiwygiedig drwy ei chynnwys o fewn cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol ill dau yn aelodau ohono..

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Dangos Nodiadau Eglurhaol ar gyfer Adrannau: Yn arddangos rhannau perthnasol o’r nodiadau esboniadol wedi eu cydblethu â chynnwys y ddeddfwriaeth.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill