Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Senedd Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 315 (Cy. 80)

Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Gorchymyn Senedd Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2021

Gwnaed

12 Mawrth 2021

Yn dod i rym

19 Mawrth 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan erthygl 23(1D), (2) a (6) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Senedd Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2021.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Mawrth 2021.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

mae “etholaethau’r Senedd” (“Senedd constituencies”) i’w ddehongli yn unol ag adran 2(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2);

mae “rhanbarthau etholiadol y Senedd” (“Senedd electoral regions”) i’w ddehongli yn unol ag adran 2(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Dirymu

3.  Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2016(3) wedi ei ddirymu.

Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy am etholiad etholaethol i’r Senedd a ymleddir

4.  Y cyfanswm cyffredinol mwyaf y caiff swyddog canlyniadau etholaethol ei adennill am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt ar gyfer etholiad etholaethol i’r Senedd a ymleddir, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath, yw’r swm a restrir yng ngholofn 4 o’r tabl yn Atodlen 1.

Y cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau a ddarperir mewn etholiad etholaethol i’r Senedd a ymleddir

5.—(1Ni chaiff y cyfanswm y caiff swyddog canlyniadau etholaethol ei adennill am wasanaethau a ddarperir ar gyfer etholiad etholaethol i’r Senedd a ymleddir, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath, fod yn fwy na’r swm a restrir ar gyfer pob etholaeth yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 1.

(2Rhaid i unrhyw wasanaethau a ddarperir fod ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)gwneud trefniadau ar gyfer yr etholiad;

(b)cynnal yr etholiad;

(c)cyflawni holl ddyletswyddau’r swyddog canlyniadau etholaethol a’r gweinyddwr etholiadol mewn cysylltiad â’r etholiad.

Y cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am dreuliau yr eir iddynt mewn etholiad etholaethol i’r Senedd a ymleddir

6.—(1Ni chaiff y cyfanswm y caiff swyddog canlyniadau etholaethol ei adennill am dreuliau yr eir iddynt ar gyfer etholiad etholaethol i’r Senedd a ymleddir, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath, fod yn fwy na’r canlynol—

(a)swm cyfanredol colofn 3(a) a (b) yn y tabl yn Atodlen 1;

(b)mewn cysylltiad â threuliau safonol yn unig, y cyfanswm yng ngholofn 3(a) yn y tabl yn Atodlen 1;

(c)mewn cysylltiad â threuliau’r coronafeirws yn unig, y cyfanswm yng ngholofn 3(b) yn y tabl yn Atodlen 1.

(2Caiff swyddog canlyniadau adennill treuliau safonol yr eir iddynt ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)penodi a thalu personau i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau etholaethol;

(b)treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos y swyddog canlyniadau etholaethol ac unrhyw berson a benodir i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau etholaethol;

(c)costau’r broses enwebu;

(d)argraffu neu gynhyrchu fel arall y papurau pleidleisio;

(e)argraffu neu gynhyrchu fel arall neu brynu deunyddiau pleidleisio drwy’r post;

(f)argraffu neu gynhyrchu fel arall gardiau pleidleisio, a threfnu i’w dosbarthu;

(g)argraffu neu gynhyrchu fel arall yr holl hysbysiadau a dogfennau etholiad, a’u cyhoeddi;

(h)rhentu, gwresogi, goleuo, glanhau, addasu neu adfer unrhyw adeilad neu ystafell;

(i)darparu a chludo cyfarpar;

(j)darparu cyfarpar a meddalwedd technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a chostau cysylltiedig;

(k)darparu diogelwch, gan gynnwys storio blychau pleidleisio, papurau pleidleisio a dogfennau gwirio yn ddiogel;

(l)cynnal y gwirio a’r cyfrif;

(m)darparu a chael hyfforddiant;

(n)darparu deunyddiau ysgrifennu a thalu costau postio, ffonio, argraffu, cyfieithu a bancio a chostau eitemau amrywiol eraill.

(3Caiff swyddog canlyniadau adennill treuliau yr eir iddynt o ganlyniad i’r angen i gydymffurfio â deddfiad sy’n ymwneud â’r coronafeirws neu i ddilyn canllawiau sy’n ymwneud â’r coronafeirws a ddyroddir gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys—

(a)penodi a thalu personau i gynorthwyo i orfodi rheoliadau’r coronafeirws;

(b)argraffu neu gynhyrchu fel arall arwyddion sy’n ymwneud â’r coronafeirws;

(c)cyfarpar diogelu personol ar gyfer personau sy’n cynorthwyo’r swyddog canlyniadau etholaethol a’r gweinyddwyr etholiadol;

(d)cynhyrchion glanhau ychwanegol yn yr orsaf bleidleisio a lleoliadau cyfrif;

(e)costau ychwanegol sy’n gysylltiedig ag angen i estyn y cyfnod dilysu a chyfrif oherwydd mesurau’r coronafeirws;

(f)hyfforddiant ar reoliadau’r coronafeirws.

Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy am etholiad rhanbarthol i’r Senedd a ymleddir

7.  Y cyfanswm cyffredinol mwyaf y caiff swyddog canlyniadau rhanbarthol ei adennill am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt ar gyfer etholiad rhanbarthol i’r Senedd a ymleddir, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath, yw’r swm a restrir yng ngholofn 4 o’r tabl yn Atodlen 2.

Y cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau a ddarperir mewn etholiad rhanbarthol i’r Senedd a ymleddir

8.—(1Ni chaiff y cyfanswm y caiff swyddog canlyniadau rhanbarthol ei adennill am wasanaethau a ddarperir ar gyfer etholiad rhanbarthol i’r Senedd a ymleddir, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath, fod yn fwy na’r swm a restrir ar gyfer pob rhanbarth yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 2.

(2Rhaid i unrhyw wasanaethau a ddarperir fod ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)gwneud trefniadau ar gyfer yr etholiad;

(b)cynnal yr etholiad;

(c)cyflawni holl ddyletswyddau’r swyddog canlyniadau rhanbarthol a’r gweinyddwr etholiadol mewn cysylltiad â’r etholiad.

Y cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am dreuliau yr eir iddynt mewn etholiad rhanbarthol i’r Senedd a ymleddir

9.—(1Ni chaiff y cyfanswm y caiff swyddog canlyniadau rhanbarthol ei adennill am dreuliau yr eir iddynt ar gyfer etholiad rhanbarthol i’r Senedd a ymleddir, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath, fod yn fwy na’r swm a restrir ar gyfer pob rhanbarth yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2.

(2Rhaid i unrhyw dreuliau yr eir iddynt fod ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)penodi a thalu personau i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau rhanbarthol;

(b)treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos y swyddog canlyniadau rhanbarthol ac unrhyw berson a benodir i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau rhanbarthol;

(c)costau’r broses enwebu;

(d)argraffu neu gynhyrchu fel arall hysbysiadau etholiad, a’u cyhoeddi;

(e)argraffu neu gynhyrchu fel arall y papurau pleidleisio;

(f)darparu deunyddiau ysgrifennu a thalu costau postio, ffonio, argraffu, cyfieithu a bancio a chostau eitemau amrywiol eraill.

Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy am etholiad etholaethol i’r Senedd nas ymleddir

10.  Y cyfanswm cyffredinol mwyaf y caiff swyddog canlyniadau etholaethol ei adennill am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt ar gyfer etholiad etholaethol i’r Senedd nas ymleddir, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath, yw £2,000.00 (dwy fil o bunnoedd).

Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy mewn etholiad rhanbarthol i’r Senedd nas ymleddir

11.  Y cyfanswm cyffredinol mwyaf y caiff swyddog canlyniadau rhanbarthol ei adennill am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt mewn etholiad rhanbarthol i’r Senedd nas ymleddir, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath, yw £500.00 (pum can punt).

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

12 Mawrth 2021

Erthyglau 4, 5 a 6

ATODLEN 1Y cyfansymiau sy’n adenilladwy am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt mewn etholiad etholaethol i’r Senedd a ymleddir

1.

Etholaeth y Senedd

2.

Y cyfanswm am wasanaethau a ddarperir gan weinyddwyr etholiadol

3.

Y cyfanswm am dreuliau yr eir iddynt

4.

Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy

(a)

Treuliau safonol

(b)

Treuliau sy’n ymwneud â’r coronafeirws

Aberafan£5,500£89,802£34,280£129,582
Aberconwy£5,500£84,494£25,469£115,463
Alun a Glannau Dyfrdwy£5,500£92,571£28,577£126,648
Arfon£5,500£72,411£30,241£108,152
Blaenau Gwent£8,500£96,844£43,264£148,608
Bro Morgannwg£8,500£179,906£57,551£245,957
Brycheiniog a Sir Faesyfed£5,500£115,649£54,345£175,494
Caerffili£5,500£90,619£40,342£136,461
Canol Caerdydd£4,000£104,942£32,114£141,056
Castell-nedd£5,500£95,552£38,075£139,127
Ceredigion£8,500£96,167£44,117£148,784
Cwm Cynon£4,500£69,232£29,003£102,735
De Caerdydd a Phenarth£4,000£133,772£46,037£183,809
De Clwyd£5,500£88,334£35,973£129,807
Delyn£5,500£94,692£34,769£134,961
Dwyfor Meirionnydd£5,500£85,181£47,618£138,299
Dwyrain Abertawe£4,500£82,483£29,868£116,851
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr£5,500£128,952£52,915£187,367
Dwyrain Casnewydd£5,500£76,472£31,567£113,539
Dyffryn Clwyd£8,500£100,859£27,566£136,925
Gogledd Caerdydd£4,000£116,467£36,027£156,494
Gorllewin Abertawe£4,500£89,047£28,685£122,232
Gorllewin Caerdydd£4,000£113,014£37,061£154,075
Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro£5,500£127,483£46,788£179,771
Gorllewin Casnewydd£5,500£85,721£34,332£125,553
Gorllewin Clwyd£5,500£108,212£39,801£153,513
Gŵyr£4,500£86,872£33,987£125,359
Islwyn£5,500£82,158£36,736£124,394
Llanelli£5,500£117,654£41,205£164,359
Merthyr Tudful a Rhymni£8,500£106,517£47,452£162,469
Mynwy£8,500£119,225£52,863£180,588
Ogwr£5,500£96,521£31,272£133,293
Pen-y-bont ar Ogwr£5,500£101,849£23,525£130,874
Pontypridd£4,500£81,640£33,924£120,064
Preseli Sir Benfro£5,500£127,309£48,611£181,420
Rhondda£4,500£78,287£34,049£116,836
Sir Drefaldwyn£5,500£75,890£38,869£120,259
Torfaen£8,500£103,341£44,374£156,215
Wrecsam£5,500£75,840£24,604£105,944
Ynys Môn£8,500£95,849£40,405£144,754

Erthyglau 7, 8 a 9

ATODLEN 2Y cyfanswm sy’n adenilladwy am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt mewn etholiad rhanbarthol i’r Senedd a ymleddir

1.

Rhanbarth Etholiadol y Senedd

2.

Y cyfanswm am wasanaethau a ddarperir gan weinyddwyr etholiadol

3.

Y cyfanswm am dreuliau yr eir iddynt

4.

Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy

Canol De Cymru£2,500£20,665£23,165
Canolbarth a Gorllewin Cymru£2,500£17,528£20,028
Dwyrain De Cymru£2,500£19,084£21,584
Gogledd Cymru£2,500£18,795£21,295
Gorllewin De Cymru£2,500£16,364£18,864

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn cynnwys y cyfansymiau mwyaf y caiff swyddog canlyniadau eu hadennill am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt ar gyfer cynnal etholiad Senedd Cymru neu mewn cysylltiad â hynny. Mae’r Gorchymyn hwn yn disodli ac yn dirymu Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2016 (O.S. 2016/417) (Cy. 133).

Mae etholiad Senedd Cymru i’w gynnal ar yr un diwrnod ag etholiad y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Felly, mae’r holl symiau wedi cymryd i ystyriaeth y darpariaethau a geir yn erthygl 16A o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (O.S. 2007/236) (fel y’i mewnosodwyd gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/272)), sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r symiau hyn gael eu rhannu’n gyfartal rhwng etholiad Senedd Cymru ac etholiad y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu.

Mae erthyglau 4, 5 a 6 o’r Gorchymyn hwn yn pennu’r cyfansymiau mwyaf am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt ar gyfer etholiad etholaethol a ymleddir neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath. Mae’r swm sy’n adenilladwy am wasanaethau a ddarperir yn ymwneud â gweinyddu etholiadol a chyflawni dyletswyddau mewn perthynas â’r etholiad gan swyddogion canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol. Mae’r treuliau yr eir iddynt yn gwahaniaethu rhwng treuliau safonol a threuliau sy’n ymwneud â’r coronafeirws. Mae’r symiau wedi eu rhestru yn y tabl yn Atodlen 1.

Mae erthyglau 7, 8 a 9 yn pennu’r cyfansymiau mwyaf am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt ar gyfer etholiad rhanbarthol a ymleddir neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath. Mae’r symiau wedi eu rhestru yn y tabl yn Atodlen 2.

Mae erthygl 10 yn pennu’r cyfanswm mwyaf am etholiad etholaethol nas ymleddir, tra bo erthygl 11 yn pennu’r cyfanswm mwyaf am etholiad rhanbarthol nas ymleddir.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cym.

(2)

2006 p. 32; diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf y System Bleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011 (p. 1) a Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill