- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
26.—(1) Os bydd presenoldeb Pydredd coch tatws yn cael ei gadarnhau yn dilyn profion swyddogol a gynhelir yn unol â pharagraff 25(2)(a), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cymerir y camau a bennir yn is-baragraffau (2) i (4) yn unol ag egwyddorion gwyddonol cadarn, bioleg Pydredd coch tatws a systemau cynhyrchu, marchnata a phrosesu perthnasol planhigion sy’n cynnal Pydredd coch tatws.
(2) Yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y camau yw—
(a)ymchwiliad gan arolygydd iechyd planhigion i ganfod graddau’r halogiad a phrif ffynonellau’r halogiad yn unol ag Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 98/57/EC;
(b)profion swyddogol pellach, gan gynnwys profion ar yr holl stociau tatws hadyd sy’n perthyn drwy glonio;
(c)dynodi gan arolygydd iechyd planhigion bod y pethau a ganlyn yn halogedig—
(i)y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a’r llwyth neu’r lot y cymerwyd y sampl ohono neu ohoni;
(ii)unrhyw wrthrychau sydd wedi dod i gysylltiad â’r sampl honno;
(iii)unrhyw uned cynhyrchu cnwd dan orchudd neu gae cynhyrchu cnwd dan orchudd ac unrhyw fan cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y cymerwyd y sampl ohoni neu ohono;
(d)penderfyniad gan arolygydd iechyd planhigion ynghylch graddau’r halogiad tebygol drwy ddod i gysylltiad cyn neu ar ôl cynaeafu, drwy gysylltau cynhyrchu, dyfrhau neu chwistrellu neu drwy berthynas drwy glonio;
(e)darnodi parth gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad o dan baragraff (c), y penderfyniad a wneir o dan baragraff (d) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws yn unol â phwynt 2(i) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC.
(3) Yn achos planhigion cynhaliol, heblaw deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, pan fo arolygydd iechyd planhigion yn nodi bod cynhyrchu deunydd o’r fath yn wynebu risg, y camau yw—
(a)ymchwiliad gan arolygydd iechyd planhigion i ganfod graddau’r halogiad a phrif ffynonellau’r halogiad yn unol ag Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 98/57/EC;
(b)dynodi gan arolygydd iechyd planhigion fod planhigion cynhaliol y cymerwyd y sampl ohonynt yn halogedig;
(c)penderfyniad gan arolygydd iechyd planhigion o ran yr halogiad tebygol;
(d)darnodi parth gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad o dan baragraff (b), y penderfyniad a wnaed o dan baragraff (c) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws yn unol â phwynt 2(i) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC.
(4) Yn achos dŵr wyneb a phlanhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt cysylltiedig, pan fo arolygydd iechyd planhigion yn nodi bod cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn wynebu risg oherwydd dyfrhau, chwistrellu neu lifogydd dŵr wyneb, y camau yw—
(a)ymchwiliad gan arolygydd iechyd planhigion i ganfod graddau’r halogiad, sy’n cynnwys cynnal arolwg swyddogol, ar adegau priodol, ar samplau o ddŵr wyneb ac, os ydynt yn bresennol, planhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt;
(b)dynodi dŵr wyneb y cymerwyd y sampl ohono gan arolygydd iechyd planhigion, i’r graddau sy’n briodol ac ar sail yr ymchwiliad o dan baragraff (a);
(c)penderfyniad gan arolygydd iechyd planhigion o ran yr halogiad tebygol ar sail y dynodiad a wnaed o dan baragraff (b);
(d)darnodi parth gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad o dan baragraff (b), y penderfyniad a wnaed o dan baragraff (c) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws yn unol â phwynt 2(ii) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys