- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
18.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod arolygon swyddogol systemataidd ar gyfer Pydredd cylch tatws yn cael eu cynnal yng Nghymru ar gloron Solanum tuberosum L. a, pan fo’n briodol, ar blanhigion Solanum tuberosum L., yn unol ag Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC.
(2) Pan amheuir bod Pydredd cylch tatws yn bresennol mewn deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—
(a)bod profion swyddogol yn cael eu cynnal gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC ac yn unol â’r amodau a bennir ym mhwynt 1 o Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC i gadarnhau a yw’n bresennol ai peidio,
(b)bod y canlynol yn cael eu cadw a’u diogelu’n briodol tra disgwylir i’r profion swyddogol gael eu cwblhau—
(i)yr holl gloron a samplwyd, a lle bynnag y bo’n bosibl, yr holl blanhigion a samplwyd;
(ii)unrhyw echdyniad sy’n weddill a deunydd paratoi ychwanegol ar gyfer y profion sgrinio;
(iii)yr holl ddogfennaeth berthnasol, ac
(c)hyd nes y cadarnheir ei fod yn bresennol neu y gwrthbrofir yr amheuaeth ei fod yn bresennol, pan fo symptomau gweledol diagnostig sy’n peri amheuaeth ynghylch presenoldeb Pydredd cylch tatws wedi eu gweld, neu pan fo symptomau Pydredd cylch tatws wedi eu canfod gan brawf imiwnofflworoleuedd cadarnhaol neu brawf cadarnhaol priodol arall—
(i)bod symud yr holl lotiau neu lwythi y cymerwyd y samplau ohonynt, heblaw’r rhai sydd o dan reolaeth swyddogol, yn cael ei wahardd, ac eithrio pan gadarnhawyd nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd cylch tatws yn lledaenu,
(ii)bod camau’n cael eu cymryd i olrhain tarddiad yr achos a amheuir, a
(iii)bod camau rhagofalus priodol ychwanegol sy’n seiliedig ar lefel y risg a amcangyfrifir yn cael eu cymryd i atal y pla planhigion rhag lledaenu.
(3) Caiff hysbysiad gynnwys mesurau at ddibenion is-baragraff (2)(c)(i) i (iii).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys