Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1Rhagymadrodd

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 27 Mawrth 2020.

Dehongli: cyffredinol

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “arolygydd iechyd planhigion” (“plant health inspector”) yw swyddog iechyd planhigion swyddogol a benodir gan Weinidogion Cymru;

ystyr “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) yw Gweinidogion Cymru, ac mae i’w ddehongli yn unol â rheoliad 6;

ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC” (“Council Directive 2000/29/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ynghylch mesurau i ddiogelu rhag cyflwyno i’r Gymuned organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion a rhag eu lledaenu yn y Gymuned(1);

ystyr “Cymru” (“Wales”) yw ardal gyfunol y siroedd a’r bwrdeistrefi sirol yng Nghymru (gweler Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(2));

ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym;

ystyr “eitem a reoleiddir” (“regulated item”) yw—

(a)

unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y mae un o reolau iechyd planhigion yr UE yn gymwys iddynt, heblaw unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall sy’n rhan o lwyth a reolir, neu

(b)

pla planhigion a reolir;

ystyr “Gorchymyn 2005” (“the 2005 Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005(3);

ystyr “Gorchymyn 2018” (“the 2018 Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018(4);

ystyr “llwyth a reolir” (“controlled consignment”) yw llwyth sy’n cynnwys unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall—

(a)

na chaniateir dod â hwy i diriogaeth yr Undeb heb dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn unol â’r canlynol—

(i)

Erthygl 72 neu 74 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE,

(ii)

penderfyniad brys gan yr UE, neu

(iii)

unrhyw un arall o reolau iechyd planhigion yr UE, heblaw Erthygl 73 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, neu

(b)

a allforiwyd o diriogaeth yr Undeb i drydedd wlad ac sy’n dychwelyd i diriogaeth yr Undeb ar ôl i’r drydedd wlad honno wrthod mynediad i’r wlad iddynt;

ystyr “penderfyniad brys gan yr UE” (“EU emergency decision”) yw offeryn y cyfeirir ato yn rheoliad 3(1);

ystyr “pla planhigion” (“plant pest”) yw pla a fewn yr ystyr a roddir yn Erthygl 1(1) a (2) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;

ystyr “pla planhigion a reolir” (“controlled plant pest”) yw—

(a)

pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodiad 2, 3 neu 4 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol,

(b)

pla planhigion o ddisgrifiad a bennir mewn penderfyniad brys gan yr UE, neu

(c)

pla planhigion sy’n destun unrhyw un arall o reolau iechyd planhigion yr UE;

ystyr “Rheoliad Amodau Ffytoiechydol” (“Phytosanitary Conditions Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 yn sefydlu amodau unffurf i weithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion(5);

ystyr “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” (“EU Plant Health Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion(6);

ystyr “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol” (“Official Controls Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion i ddiogelu planhigion, i’r graddau y mae’n gymwys i reolau iechyd planhigion yr UE(7);

ystyr “SRFFf 15” (“ISPM 15”) yw’r Safon Ryngwladol ar Fesurau Ffytoiechydol Rhif 15 dyddiedig Mawrth 2002 ynghylch Canllawiau ynglŷn â rheoleiddio deunydd pecynnu pren mewn masnach ryngwladol, a baratowyd gan Ysgrifenyddiaeth y Confensiwn Rhyngwladol ar Warchod Planhigion a sefydlwyd gan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig(8);

ystyr “un o reolau iechyd planhigion yr UE” (“EU plant health rule”) yw rheol o fewn yr ystyr a roddir yn Erthygl 1(2)(g) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.

(2Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i eiriau ac ymadroddion sydd heb eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r geiriau ac ymadroddion Saesneg cyfatebol yn ymddangos yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd gan y geiriau ac ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol (yn ôl y digwydd).

Dehongli: offerynnau’r UE ynglŷn ag iechyd planhigion

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Penderfyniad y Comisiwn 98/109/EC” (“Commission Decision 98/109/EC”) yw Penderfyniad y Comisiwn 98/109/EC yn awdurdodi’r Aelod-wladwriaethau dros dro i gymryd mesurau brys rhag lledaenu Thrips palmi Karny o ran Gwlad Thai(9);

ystyr “Penderfyniad y Comisiwn 2002/757/EC” (“Commission Decision 2002/757/EC”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2002/757/EC ynghylch mesurau ffytoiechydol brys dros dro i atal Phytophthora ramorum Werres, De Cock & Man in ‘t Veld sp. nov.(10) rhag cael ei gyflwyno i’r Gymuned a lledaenu ynddi;

ystyr “Penderfyniad y Comisiwn 2004/200/EC” (“Commission Decision 2004/200/EC”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2004/200/EC ynghylch mesurau i atal Firws amryliw pepino(11) rhag cael ei gyflwyno i’r Gymuned a lledaenu ynddi;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EU” (“Commission Implementing Decision 2011/787/EU”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EU yn awdurdodi’r Aelod-wladwriaethau dros dro i gymryd mesurau brys rhag lledaenu Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. o ran yr Aifft(12);

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/138/EU” (“Commission Implementing Decision 2012/138/EU”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/138/EU o ran mesurau brys i atal Anoplophora chinensis (Forster)(13) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/270/EU” (“Commission Implementing Decision 2012/270/EU”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/270/EU o ran mesurau brys i atal Epitrix cucumeris (Harris), Epitrix papa sp.n., Epitrix subcrinita (Lec.) ac Epitrix tuberis (Gentner)(14) rhag cael eu cyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/535/EU” (“Commission Implementing Decision 2012/535/EU”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/535/EU ynghylch mesurau brys i atal Bursaphelenchus xylophilus (Steiner et Buhrer) Nickle et al. (llyngyr coed pin)(15) rhag cael ei ledaenu yn yr Undeb;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/697/EU” (“Commission Implementing Decision 2012/697/EU”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/697/EU o ran mesurau i atal y genws Pomacea (Perry)(16) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/789” (“Commission Implementing Decision (EU) 2015/789”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/789 o ran mesurau i atal Xylella fastidiosa (Wells et al.)(17) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/893” (“Commission Implementing Decision (EU) 2015/893”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/893 o ran mesurau i atal Anoplophora glabripennis (Motschulsky)(18) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/715” (“Commission Implementing Decision (EU) 2016/715”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/715 yn nodi mesurau o ran ffrwythau penodol sy’n tarddu o drydydd gwledydd penodol i atal yr organeb niweidiol Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa.(19) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/198” (“Commission Implementing Decision (EU) 2017/198”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/198 o ran mesurau i atal Pseudomonas syringae pv. actinidiae Takikawa, Serizawa, Ichikawa, Tsuyuma & Goto(20) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/638” (“Commission Implementing Decision (EU) 2018/638”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/638 yn sefydlu mesurau brys i atal yr organedd niweidiol Spodoptera frugiperda (Smith)(21) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/1503” (“Commission Implementing Decision (EU) 2018/1503”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/1503 yn sefydlu mesurau i atal Aromia bungii (Faldermann)(22) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1615” (“Commission Implementing Decision (EU) 2019/1615”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1615 yn sefydlu mesurau brys i atal Firws ffrwythau crychlyd coch tomatos (ToBRFV)(23) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1739” (“Commission Implementing Decision (EU) 2019/1739”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1739 yn sefydlu mesurau brys i atal Firws Rhoséd Rhosynnau(24) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;

ystyr “Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2032” (“Commission Implementing Decision (EU) 2019/2032”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2032 yn sefydlu mesurau i atal Fusarium circinatum Nirenberg & O’Donnell (Gibberella circinata gynt)(25) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo.

(2Mae cyfeiriadau at y Rheoliad Amodau Ffytoiechydol ac at offerynnau’r Undeb Ewropeaidd y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) i’w dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE

4.  Mae unrhyw gyfeiriad yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE at bla sy’n destun y mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) yn cynnwys y plâu planhigion a ganlyn—

(a)Epitrix cucumeris (Harris), Epitrix papa. (Orlova-Bienkowskaja), Epitrix subcrinita (Lec.) neu Epitrix tuberis (Gentner);

(b)Pseudomonas syringae pv. actinidiae Takikawa, Serizawa, Ichikawa, Tsuyuma & Goto;

(c)Firws rhoséd rhosynnau;

(d)Firws ffrwythau crychlyd coch tomatos.

Erthygl 82 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE: ystyr “close proximity”

5.—(1At ddibenion Erthygl 82 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, bernir bod mangre gweithredwr cofrestredig yn un sy’n agos at fangreoedd eraill i’r gweithredwr hwnnw, yn yr ystyr a roddir i “close proximity”, os oes unrhyw bwynt ar ffin ei man gweithredol, neu ar ffin unrhyw un neu ragor o’i fannau gweithredol, o fewn deng milltir i unrhyw bwynt ar ffin y man gweithredol, neu ar ffin unrhyw un neu ragor o’r mannau gweithredol, o’r fangre arall

(2Ym mharagraff (1), ystyr “man gweithredol”, mewn perthynas â mangre gweithredwr cofrestredig, yw—

(a)yn achos mangre a ddefnyddir yn llwyr gan y gweithredwr cofrestredig i gyflawni un neu ragor o’r gweithgareddau a grybwyllir yn Erthygl 65(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, y man sy’n ffurfio’r fangre honno;

(b)yn achos unrhyw fangre arall a ddefnyddir gan y gweithredwr cofrestredig i gyflawni un neu ragor o’r gweithgareddau a grybwyllir yn Erthygl 65(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, man o fewn y fangre a ddefnyddir gan y gweithredwr cofrestredig i gyflawni unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau hynny.

(1)

OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/523 (OJ Rhif L 86, 28.3.2019, t. 41).

(3)

O.S. 2005/2517, a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/755 (Cy. 90). Ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.

(4)

O.S. 2018/1064; ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.

(5)

OJ Rhif L 319, 10.12.2019, t. 1.

(6)

OJ Rhif L 317, 23.11.2016, t. 4, a ddiwygiwyd gan Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1).

(7)

OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, a ddiwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.3.2019, t. 4).

(8)

Ar gael oddi wrth Ysgrifenyddiaeth y Confensiwn Rhyngwladol ar Warchod Planhigion, AGPP-FAO, Viale Delle Terme di Caracalla, 00153, Rhufain, Yr Eidal ac yn https://www.ippc.int/int.

(9)

OJ Rhif L 27, 3.2.1998, t. 47.

(10)

OJ Rhif L 252, 20.9.2002, t. 37, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1967 (OJ Rhif L 303, 10.11.2016, t. 21).

(11)

OJ Rhif L 64, 2.3.2004, t. 43.

(12)

OJ Rhif L 319, 2.12.2011, t. 112.

(13)

OJ Rhif L 64, 3.3.2012, t. 38, fel y’i diwygiwyd gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2014/356/EU (OJ Rhif L 175, 14.6.2014, t. 38).

(14)

OJ Rhif L 132, 23.5.2012, t. 18, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/5 (OJ Rhif L 2, 5.1.2018, t. 11).

(15)

OJ Rhif L 266, 2.10.2012, t. 42, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/618 (OJ Rhif L 102, 23.4.2018, t. 17).

(16)

OJ Rhif L 311, 10.11.2012, t. 14.

(17)

OJ Rhif L 125, 21.5.2015, t. 36, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/1511 (OJ Rhif L 255, 11.10.2018, t. 16).

(18)

OJ Rhif L 146, 11.6.2015, t. 16.

(19)

OJ Rhif L 125, 13.5.2016, t. 16, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/449 (OJ Rhif L 77, 20.3.2019, t. 76).

(20)

OJ Rhif L 31, 4.2.2017, t. 29.

(21)

OJ Rhif L 105, 25.4.2018, t. 31, fel y’i diwygiwyd gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1598 (OJ Rhif L 248, 27.9.2019, t. 86).

(22)

OJ Rhif L 254, 10.10.2018, t. 9.

(23)

OJ Rhif L 250, 30.9.2019, t. 91.

(24)

OJ Rhif L 265, 18.10.2019, t. 12.

(25)

OJ Rhif L 313, 4.12.2019, t. 94.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill