Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 1489 (Cy. 269)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019

Gwnaed

4 Rhagfyr 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Rhagfyr 2019

Yn dod i rym

1 Ionawr 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan reoliadau 84, 87 a 97 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2020.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori athro neu athrawes ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;

ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 6 oed;

ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 15 oed;

ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 5 oed;

ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy’n dod i ben â dechrau’r tymor cyntaf o’r fath i ddechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol;

ystyr “cynllun” (“plan”) yw cynllun strategol Cymraeg mewn addysg fel y’i disgrifir gan adran 84(1) o Ddeddf 2013;

ystyr “darparwr hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol” (“provider of initial school teacher training”) yw darparwr cwrs neu raglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol wedi ei achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg o dan erthygl 3(1)(a) o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017(2);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3);

ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013;

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014(4);

ystyr “fforwm cynllunio Cymraeg mewn addysg” (“Welsh in education planning forum”) yw corff a sefydlir gan awdurdod lleol at ddiben gwella darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, y mae ei aelodau yn swyddogion i’r awdurdod lleol ac unrhyw bersonau eraill y mae’r awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol;

ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;

ystyr “gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol” (“school learning support worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;

ystyr “SAB” (“FEI”) yw sefydliad o fewn y sector addysg bellach yng Nghymru fel y diffinnir “institutions within the further education sector” gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(5).

Ffurf a chynnwys

3.  Rhaid i bob cynllun gynnwys darpariaeth sy’n ymdrin â’r materion a nodir yn yr Atodlen.

Cyfnod para cynlluniau deng mlynedd

4.—(1Mae cynllun awdurdod lleol yn cael effaith am y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Medi 2021 ac sy’n dod i ben ar 31 Awst 2031 (“y cynllun deng mlynedd cyntaf”).

(2Mae pob cynllun deng mlynedd dilynol yn cael effaith am y cyfnod o ddeng mlynedd sy’n dechrau ar 1 Medi yn y flwyddyn pan fydd y cynllun deng mlynedd blaenorol yn dod i ben.

(3Mae paragraffau (1) a (2) yn ddarostyngedig i reoliadau 6 (cynlluniau deng mlynedd nad ydynt wedi eu cymeradwyo erbyn 1 Medi) ac 8 (diwygio cynlluniau).

Cyflwyno cynlluniau deng mlynedd i Weinidogion Cymru

5.—(1Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ei gynllun deng mlynedd cyntaf i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 31 Ionawr 2021.

(2Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno pob cynllun deng mlynedd dilynol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth yn y flwyddyn y bydd y cynllun yn cymryd effaith.

Cynlluniau deng mlynedd nad ydynt wedi eu cymeradwyo erbyn 1 Medi

6.—(1Os nad yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cynllun deng mlynedd erbyn 1 Medi yn y flwyddyn y mae’r cynllun hwnnw i gael effaith ynddi, yna mae’r cynllun hwnnw yn cael effaith un mis calendr ar ôl i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun.

(2Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar y dyddiad y bydd y cynllun deng mlynedd yn dod i ben arno (fel y’i hamlinellir o dan reoliad 4), oni bai bod y cynllun yn cael ei ddisodli gan gynllun diwygiedig yn unol â rheoliad 8.

Adroddiad adolygu blynyddol

7.—(1Rhaid i awdurdod lleol bob blwyddyn, gan ddechrau yn 2022, gyflwyno adroddiad adolygu i Weinidogion Cymru sy’n amlinellu’r cynnydd a wnaed i gyflawni’r targedau sydd wedi eu cynnwys yn ei gynllun a’r camau y mae wedi eu cymryd o ganlyniad i’r datganiadau yn ei gynllun.

(2Rhaid cyflwyno’r adroddiad adolygu cyntaf i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf 2022 a bydd yn amlinellu’r cynnydd a wnaed a’r camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol yn y cyfnod ers i’r cynllun deng mlynedd cyntaf gael effaith.

(3Rhaid cyflwyno adroddiadau adolygu dilynol i Weinidogion Cymru fesul ysbaid nad yw’n hwy na 12 mis ers cyflwyno yr adroddiad blaenorol a byddant yn amlinellu’r cynnydd a wnaed a’r camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol yn y cyfnod ers i’r adroddiad blaenorol gael ei gyflwyno.

Diwygio cynlluniau

8.—(1Wrth lunio’r adroddiad neu ar ôl llunio’r adroddiad adolygu o dan reoliad 7, os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu diwygio ei gynllun, rhaid iddo gyflwyno’r cynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 6 mis calendr ar ôl i’r adroddiad adolygu gael ei gyflwyno.

(2Mae’r cynllun sy’n cael ei ddisodli gan y cynllun diwygiedig yn peidio â chael effaith un mis calendr ar ôl cymeradwyo’r cynllun diwygiedig.

(3Mae’r cynllun diwygiedig yn cael effaith un mis calendr ar ôl cymeradwyo’r cynllun diwygiedig, ac yn cael effaith am weddill y cyfnod yr oedd y cynllun sy’n cael ei ddisodli ganddo yn cael effaith yn wreiddiol.

Llunio ac ymgynghori

9.  Y personau rhagnodedig at ddibenion adran 84(4)(f) o Ddeddf 2013 (personau y mae rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â hwy wrth lunio cynllun deng mlynedd neu gynllun diwygiedig(6)) yw—

(a)Comisiynydd y Gymraeg (o fewn ystyr adran 2 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(7));

(b)Partneriaeth Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (o fewn ystyr “Early Years Development and Childcare Partnership” yn adran 119 o Ddeddf 1998);

(c)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

(d)darparwyr hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol;

(e)unrhyw sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc y mae’r awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol; ac

(f)unrhyw bersonau neu gyrff eraill yr ymddengys i’r awdurdod lleol eu bod yn briodol.

Amseriad cyhoeddi

10.  Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun (neu ei gynllun diwygiedig) ar neu cyn y dyddiad y mae’r cynllun yn cymryd effaith.

Dull cyhoeddi

11.  Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun (neu ei gynllun diwygiedig) drwy—

(a)ei roi ar ei wefan; a

(b)rhoi copïau o’r cynllun ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt yn—

(i)pob un o’i swyddfeydd sydd ar agor i’r cyhoedd;

(ii)unrhyw le arall y mae’n ystyried ei fod yn briodol.

Dirymu ac arbedion

12.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013(8) wedi eu dirymu.

(2Bydd cynllun awdurdod lleol sy’n cael effaith yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd cynllun deng mlynedd cyntaf yr awdurdod lleol yn cael effaith.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

4 Rhagfyr 2019

Rheoliad 3

YR ATODLEN

1.—(1Targed sy’n amlinellu’r cynnydd disgwyliedig mewn plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod oes y cynllun.

(2Wrth gyfrifo’r targed, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 87(4) o Ddeddf 2013.

2.  Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cyflawni’r cynnydd disgwyliedig mewn plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod oes y cynllun.

3.  Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio data sy’n deillio o’i adolygiad o ddigonolrwydd darpariaeth gofal plant ar gyfer ei ardal (o dan ddyletswyddau a nodir yn rheoliad 3 o Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016(9)) er mwyn cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg.

4.—(1Targed sy’n amlinellu’r cynnydd disgwyliedig yn nifer y plant yn y flwyddyn derbyn a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod oes y cynllun.

(2Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cyflawni’r cynnydd disgwyliedig yn nifer y plant yn y flwyddyn derbyn a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod oes y cynllun.

5.  Datganiad sy’n nodi sut y bydd ceisiadau y mae’r awdurdod lleol yn eu gwneud am gyllid grant gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ysgolion a gynhelir ganddo yn ystyried y targed i gynyddu nifer y plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod oes y cynllun.

6.  Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cydweithio ag awdurdodau lleol eraill drwy arfer eu swyddogaethau ar y cyd er mwyn sicrhau parhad mewn trefniadau ar gyfer personau sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg y tu allan i’w ardal.

7.  Datganiad sy’n nodi trefniadau’r awdurdod lleol o ran ei ddarpariaeth ar gyfer hwyrddyfodiaid(10) i addysg cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys sut a phryd y mae gwybodaeth yn cael ei rhoi i rieni a gwarcheidwaid.

8.  Datganiad sy’n nodi sut y mae’r awdurdod lleol wedi gweithio mewn partneriaeth â’i fforwm cynllunio Cymraeg mewn addysg (os yw wedi ei sefydlu yn ardal yr awdurdod lleol) i lunio cynllun yr awdurdod a sut y bydd y fforwm yn goruchwylio ei weithredu a’i werthuso.

9.  Datganiad sy’n nodi—

(a)sut y bydd yr awdurdod lleol yn rhoi gwybodaeth i rieni a gwarcheidwaid o ran argaeledd addysg cyfrwng Cymraeg a’r math o addysg cyfrwng Cymraeg a gynigir;

(b)sut y bydd yn rhoi gwybodaeth i rieni a gwarcheidwaid sy’n datgan bod addysg cyfrwng Cymraeg yn opsiwn i bersonau ni waeth beth fo’u cefndir ieithyddol;

(c)sut y bydd yn gwneud y defnydd gorau o wybodaeth ynghylch y manteision a all ddod yn sgil dwyieithrwydd ac amlieithrwydd.

10.  Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn sicrhau bod personau a addysgir yn Gymraeg yn parhau i gael eu haddysgu felly wrth drosglwyddo o un grŵp blwyddyn i grŵp blwyddyn arall, a chynllunio yn unol â hynny os yw’r cyfraddau cadw yn destun pryder i’r awdurdod.

11.—(1Targed sy’n amlinellu’r cynnydd disgwyliedig yn ystod oes y cynllun yn yr addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir yn ei ysgolion a gynhelir sy’n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

(2Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cyflawni’r cynnydd disgwyliedig yn ystod oes y cynllun yn yr addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir yn ei ysgolion a gynhelir sy’n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

12.—(1Targed sy’n amlinellu’r cynnydd disgwyliedig yn ystod oes y cynllun yn nifer a chanran y personau ym mlwyddyn 10 ac uwch yn ei ysgolion uwchradd a gynhelir sy’n astudio am gymwysterau ac sy’n cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg.

(2Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cyflawni’r cynnydd disgwyliedig yn ystod oes y cynllun yn nifer a chanran y personau ym mlwyddyn 10 ac uwch yn ei ysgolion uwchradd a gynhelir sy’n astudio am gymwysterau ac sy’n cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg.

13.  Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn rhoi cymorth i barhau â’r addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir ar gyfer personau ym mlwyddyn 10 ac uwch drwy gydweithio ag ysgolion eraill a SABau eraill os bydd angen.

14.  Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cydweithio a’i ysgolion a SABau (os bydd angen) i gyd-drefnu darpariaeth Gymraeg fel pwnc i bersonau sydd ym mlwyddyn 10 ac uwch yn ei ysgolion uwchradd a gynhelir.

15.  Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn gwella sgiliau Cymraeg personau sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg mewn unrhyw ysgol a gynhelir ganddo er mwyn gwella safonau addysg cyfrwng Cymraeg.

16.  Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio canfyddiadau ei adolygiadau o dan adran 63 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(11) er mwyn gwella darpariaeth Gymraeg ar gyfer personau ag anghenion dysgu ychwanegol ac ar gyfer cynllunio’r gweithlu o fewn y sector anghenion dysgu ychwanegol.

17.  Datganiad sy’n nodi ymrwymiad yr awdurdod lleol i adnabod y gweithlu y mae ei angen arno er mwyn darparu addysg cyfrwng Cymraeg yn ystod oes y cynllun yn unol â thargedau’r cynllun, ac i gyfrifo unrhyw ddiffyg disgwyliedig yn ei weithlu.

18.  Datganiad sy’n nodi ymrwymiad yr awdurdod lleol i gydweithio ag awdurdodau lleol eraill drwy arfer eu swyddogaethau ar y cyd wrth gynllunio a darparu cymorth er mwyn gwella sgiliau Cymraeg athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion, mewn ysgolion a gynhelir yn ei ardal.

19.  Datganiad sy’n nodi ymrwymiad yr awdurdod lleol, gan gydweithio ag awdurdodau lleol eraill ac asiantaethau eraill, i sicrhau bod y cynllun yn cael ei ystyried yn ystod ystyriaethau ynghylch safonau addysgol cyfrwng Cymraeg ysgolion a gynhelir yn ei ardal.

20.  Datganiad sy’n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol, gan gydweithio ag awdurdodau lleol eraill fel y bo angen, yn hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg mewn perthynas â chludiant i ddysgwyr yn unol â’r ddyletswydd a nodir o dan adran 10 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008(12).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 84 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol lunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg (“cynllun”). Mae adran 85 o Ddeddf 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyflwyno ei gynllun i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo cyn i’r cynllun hwnnw gael ei gyhoeddi.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adrannau 84, 87 and 97 o Ddeddf 2013. Maent yn gwneud darpariaeth i awdurdod lleol lunio cynllun deng mlynedd, y cyntaf i gael effaith o 1 Medi 2021, yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer y materion a ganlyn:

(a)ffurf a chynnwys y cynllun (rheoliad 3);

(b)cyfnod para’r cynllun (rheoliad 4);

(c)y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid cyflwyno’r cynllun i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo (rheoliad 5);

(d)cymeradwyo cynllun (rheoliad 6);

(e)amserlenni ar gyfer cyflwyno adroddiad adolygu (rheoliad 7);

(f)trefniadau ar gyfer diwygio’r cynllun (rheoliad 8);

(g)y personau a’r cyrff y mae rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â hwy ynghylch y cynllun drafft (rheoliad 9);

(h)y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid cyhoeddi’r cynllun (rheoliad 10);

(i)dull cyhoeddi cynllun (rheoliad 11);

(j)dirymu, gydag arbedion, Reoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013 (rheoliad 12).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Lles Disgyblion, Yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2013 dccc 1. Gweler adran 98 am y diffiniad o “rhagnodedig”.

(2)

O.S. 2017/154 (Cy. 45), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2017/1023 (Cy. 261).

(6)

Mae’r personau hyn yn ychwanegol at y rheini a restrir yn adran 84(4) o Ddeddf 2013.

(10)

Plant (sy’n 7 oed neu drosodd) nad ydynt yn siarad Cymraeg ond sy’n dymuno cael addysg cyfrwng Cymraeg ar ôl diwedd y cyfnod sylfaen.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill