Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) 2018

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) 2018 a deuant i rym ar 22 Hydref 2018.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr awdurdod” (“the authority”) yw’r awdurdod cofrestru tiroedd comin;

ystyr “cofrestr” (“register”) yw’r gofrestr y mae’n ofynnol i’r awdurdod ei chadw o dan adran 15B(1) o Ddeddf 2006 mewn cysylltiad â mapiau a datganiadau a adneuir o dan adran 15A o’r Ddeddf honno;

ystyr “datganiad” (“statement”) yw datganiad o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006;

ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006;

mae i “hysbysiad adneuo” (“notice of deposit”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6(3)(b);

ystyr “perchennog perthnasol” (“relevant owner”) yw’r perchennog sy’n adneuo datganiad;

ystyr “tir perthnasol” (“relevant land”) yw’r tir y mae’r datganiad o dan sylw yn ymwneud ag ef.

Ffurfiau rhagnodedig y datganiad a’r map

3.—(1Rhaid i ddatganiad o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006—

(a)bod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 1, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi, gyda’r mewnosodiadau neu’r hepgoriadau hynny sy’n angenrheidiol mewn achos penodol; a

(b)cael ei lofnodi—

(i)gan bob un o berchnogion y tir perthnasol sy’n unigolyn, neu gan gynrychiolydd iddo a awdurdodwyd yn briodol; a

(ii)gan ysgrifennydd neu ryw swyddog arall a awdurdodwyd yn briodol pob un o berchnogion y tir perthnasol sy’n gorff corfforaethol neu’n gymdeithas anghorfforedig.

(2Rhaid i’r map y mae’n rhaid iddo fynd gyda’r datganiad yn unol ag adran 15A(3) o Ddeddf 2006 fod yn Fap Ordnans, ar raddfa o ddim llai nag 1:10,560, sy’n dangos ffin y tir perthnasol ag ymyl lliwiedig.

Ffioedd

4.—(1Caiff yr awdurdod bennu ffi resymol am adneuo datganiad.

(2Rhaid i’r perchennog perthnasol dalu unrhyw ffi a bennir yn unol â pharagraff (1) i’r awdurdod.

Amseru adneuo

5.  Mae datganiad i’w ystyried fel pe bai wedi ei adneuo o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006 ar y diwrnod pan fydd y canlynol wedi dod i law’r awdurdod—

(a)datganiad sy’n cydymffurfio â rheoliad 3(1);

(b)map sy’n cydymffurfio â rheoliad 3(2); ac

(c)unrhyw ffi sy’n daladwy yn unol â rheoliad 4.

Rheoli’r datganiad a rhoi cyhoeddusrwydd iddo

6.—(1Pan fo’r awdurdod yn ystyried na chydymffurfiwyd ag unrhyw un neu ragor o’r gofynion y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 neu 4(2), rhaid iddo roi hysbysiad i’r perchennog perthnasol i’r perwyl hwnnw.

(2Rhaid i hysbysiad o’r fath—

(a)nodi’r gofyniad o dan sylw; a

(b)nodi’r rhesymau pam y mae’r awdurdod yn ystyried na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad.

(3Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael datganiad yn unol â rheoliad 3(1), map yn unol â rheoliad 3(2) ac unrhyw ffi sy’n ofynnol gan reoliad 4, rhaid i’r awdurdod—

(a)anfon cydnabyddiaeth eu bod wedi dod i law at y perchennog perthnasol; a

(b)rhoi hysbysiad bod datganiad wedi ei adneuo (“hysbysiad adneuo”) yn unol â pharagraff (4).

(4Rhaid i’r awdurdod—

(a)cyhoeddi hysbysiad adneuo ar ei wefan;

(b)cyflwyno hysbysiad adneuo i unrhyw berson sydd wedi gofyn yn flaenorol am gael ei hysbysu am bob datganiad sydd wedi ei adneuo gyda’r awdurdod ac sydd wedi rhoi cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post i’r awdurdod at y diben hwnnw;

(c)arddangos hysbysiad adneuo am 60 o ddiwrnodau o leiaf—

(i)wrth o leiaf un fynedfa amlwg i’r tir perthnasol, neu yn ei hymyl; neu

(ii)mewn unrhyw achos lle na cheir lleoedd o’r fath, mewn o leiaf un lle amlwg ar ffin neu yn ymyl ffin tir o’r fath.

(5Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (4) fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi, gyda’r mewnosodiadau neu’r hepgoriadau hynny sy’n angenrheidiol mewn lle penodol.

(6Pan fo hysbysiad sy’n cael ei arddangos o dan baragraff (4)(c), heb unrhyw fai na bwriad ar ran yr awdurdod, yn cael ei dynnu, ei guddio neu ei ddifwyno cyn i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, mae’r awdurdod i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff hwnnw.

Yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y gofrestr

7.—(1Rhaid i’r gofrestr gynnwys—

(a)manylion cyswllt y person yn yr awdurdod y caniateir gwneud ymholiadau iddo ynghylch y gofrestr;

(b)mynegai i’r gofrestr; ac

(c)unrhyw wybodaeth arall y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn briodol.

(2Rhaid i’r gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn mewn cysylltiad â phob map a datganiad a adneuir gyda’r awdurdod—

(a)copi o’r map ac unrhyw allwedd sy’n mynd gyda’r map neu’n ffurfio rhan ohono;

(b)copi o’r datganiad;

(c)enw a chyfeiriad y perchennog perthnasol, gan gynnwys ei god post;

(d)y dyddiad y cafodd y datganiad a’r map eu hadneuo gyda’r awdurdod;

(e)manylion y tir a amlinellir ar y map, gan gynnwys—

(i)cyfeirnod grid chwe ffigur yr Arolwg Ordnans o bwynt o fewn yr ardal a amlinellir;

(ii)enw’r ward etholiadol, y dosbarth neu’r gymuned y mae’r tir ynddo neu ynddi;

(iii)cyfeiriad a chod post yr adeiladau hynny ar y tir y neilltuwyd cod post iddynt; a

(iv)enw’r dref neu’r ddinas sydd agosaf at y pwynt y cyfeirir ato ym mharagraff (i).

Y modd y cedwir y gofrestr

8.—(1Rhaid i’r gofrestr—

(a)cael ei chadw ar ffurf electronig ac ar bapur;

(b)cael ei chadw mewn rhannau fel bod pob rhan—

(i)yn ymwneud â thir o fewn ward etholiadol benodol, dosbarth penodol neu gymuned benodol; a

(ii)yn cynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 7.

(2Rhaid i’r awdurdod gadw’r gofrestr mewn modd sy’n addas i alluogi i gopi o unrhyw fanylion sydd wedi eu cynnwys ar y gofrestr gael ei gymryd gan unrhyw berson, neu ar gyfer unrhyw berson, sy’n gofyn am gopi yn bersonol yn y swyddfa berthnasol.

(3Rhaid i fersiwn bapur y gofrestr gael ei chadw yn y swyddfa berthnasol.

(4Yn y rheoliad hwn ystyr “swyddfa berthnasol” (“relevant office”) yw—

(a)pan fo’r awdurdod wedi pennu swyddfa at ddiben y Rheoliadau hyn ar ei wefan, y swyddfa a bennwyd felly;

(b)fel arall, prif swyddfa’r awdurdod.

Tynnu cofnodion o’r gofrestr

9.—(1Caiff yr awdurdod dynnu cofnod, neu unrhyw ran o gofnod, o’r gofrestr os yw wedi ei fodloni bod y map neu’r datganiad o dan sylw yn cynnwys camgymeriad perthnasol.

(2Cyn tynnu cofnod o’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod roi rhybudd o ddim llai na 28 o ddiwrnodau i’r perchennog perthnasol o’i fwriad i wneud hynny.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

19 Medi 2018

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill