Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 1764 (Cy. 179)

Cartrefi Symudol, Cymru

Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014

Gwnaed

2 Gorffennaf 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Gorffennaf 2014

Coming into force

1 Hydref 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 52 ac is-adrannau (1), (6), (8) a (9) o adran 63 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Hydref 2014.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cynnig” (“proposal”) yw cynnig i wneud, i amrywio neu i ddileu rheol safle;

ystyr “Deddf 2013(“the 2013 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013;

ystyr “dogfen ymateb i’r ymgynghoriad” (“consultation response document”) yw dogfen a anfonir at bob ymgynghorai yn ei hysbysu am benderfyniad y perchennog ynghylch pa un ai i weithredu cynnig, sy’n bodloni gofynion rheoliad 9 o’r Rheoliadau hyn;

ystyr “hysbysiad dileu” (“deletion notice”) yw hysbysiad y mae’n ofynnol i berchennog ei adneuo gydag awdurdod lleol yn unol â rheoliad 12, yn hysbysu am ddileu rheol safle neu fwy nag un rheol safle;

ystyr “hysbysiad o gynnig” (“proposal notice”) yw’r hysbysiad sy’n ofynnol gan reoliad 8;

ystyr “rheolau cyn cychwyn” (“pre-commencement rules”), mewn perthynas â safle, yw rheolau a wnaed gan y perchennog cyn i adran 52 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 gychwyn, sy’n ymwneud â mater a grybwyllir yn adran 52(2) o’r Ddeddf honno;

ystyr “ymgynghorai” (“consultee”) yw person neu gymdeithas trigolion gymwys (fel y’i diffinnir yn adran 61 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013), y mae’n ofynnol ymgynghori â hwy o dan reoliad 7.

Cyflwyno dogfennau

3.—(1Rhaid i’r dogfennau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 8, 9, 10, 13 ac 17—

(a)cael eu hanfon drwy’r post; neu

(b)eu danfon â llaw.

(2Rhaid ystyried bod unrhyw ddogfen a gyflwynir yn unol â’r Rheoliadau hyn, oni bai y profir bod y gwrthwyneb yn wir, yn cael ei chyflwyno—

(a)pan gaiff y ddogfen ei hanfon drwy’r post, ar yr ail ddiwrnod ar ôl iddi gael ei hanfon;

(b)pan gaiff y ddogfen ei danfon â llaw—

(i)cyn 4.30pm, ar y diwrnod hwnnw; neu

(ii)am 4.30pm neu ar ôl hynny, ar y diwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw.

Materion a ragnodir at ddibenion adran 52(2)(b) o Ddeddf 2013

4.—(1Y materion a ragnodir at ddibenion adran 52(2)(b) o Ddeddf 2013 yw’r materion a nodir ym mharagraff (2).

(2Rhaid i reol safle fod yn angenrheidiol—

(a)er mwyn sicrhau bod safonau derbyniol yn cael eu cynnal ar y safle, y byddant o les cyffredinol i’r meddianwyr; neu

(b)er mwyn hybu a chynnal cydlyniad cymunedol ar y safle.

Materion a ragnodir at ddibenion adran 52(8) o Ddeddf 2013

5.  Nid oes gan reol safle unrhyw effaith i’r graddau ei bod yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r materion a ragnodir yn Atodlen 5 i’r Rheoliadau hyn.

Gweithdrefn ragnodedig

6.  Mae rheoliadau 7 i 9 yn rhagnodi’r weithdrefn ar gyfer gwneud, amrywio neu ddileu rheolau safle(2) at ddibenion is-adrannau (2), (5), (6) a (7) o adran 52 o Ddeddf 2013.

Gofyniad i ymgynghori ar gynnig

7.  Rhaid i berchennog, mewn perthynas â’r safle gwarchodedig dan sylw, ymgynghori â’r canlynol—

(a)pob meddiannydd; a

(b)unrhyw gymdeithas trigolion gymwys,

ar gynnig yn unol â rheoliadau 8 a 9.

Hysbysiad o gynnig

8.—(1Rhaid i’r perchennog hysbysu pob ymgynghorai am gynnig, drwy ddyroddi hysbysiad o gynnig (“yr hysbysiad o gynnig”).

(2Rhaid i’r hysbysiad o gynnig—

(a)amlinellu cynnig yn glir;

(b)cynnwys datganiad o resymau’r perchennog dros wneud cynnig;

(c)cynnwys datganiad yn nodi y caiff y ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad ei hanfon at bob ymgynghorai;

(d)cynnwys rhestr o’r materion a ragnodir gan reoliadau 4 a 5 a datganiad yn cadarnhau bod cynnig yn cydymffurfio â gofynion y darpariaethau hyn;

(e)pennu—

(i)y dyddiad pryd yr ystyrir bod yr hysbysiad wedi ei gyflwyno i bob ymgynghorai, yn unol â rheoliad 3 (“y diwrnod ymgynghori cyntaf”);

(ii)erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid i unrhyw sylwadau a wneir mewn ymateb i’r cynnig ddod i law’r perchennog (“y diwrnod ymgynghori olaf”) y mae’n rhaid iddo fod o leiaf 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod ymgynghori cyntaf;

(iii)enw’r perchennog a’r cyfeiriad y mae’n rhaid anfon unrhyw sylwadau o’r fath iddo;

(f)cael ei lofnodi a’i ddyddio gan y perchennog; ac

(g)bod ar y ffurf briodol a nodir yn Atodlen 1 neu ar ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.

(3Ystyrir bod cynnig yn hysbys i’r ymgyngoreion ar y diwrnod ymgynghori cyntaf.

(4Caiff yr hysbysiad o gynnig gynnwys mwy nag un cynnig, ac yn yr achosion hynny, mae’r rheoliad hwn a rheoliadau 9 i 17 yn gymwys mewn perthynas â’r cynigion hynny ar y cyd fel pe baent yn gynnig unigol.

Ymateb y perchennog i’r ymgynghoriad

9.—(1Rhaid i’r perchennog, o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod ymgynghori olaf, ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a ddaeth i law gan yr ymgyngoreion—

(a)penderfynu pa un ai i weithredu’r cynnig (gydag addasiadau neu hebddynt) (“y penderfyniad”); a

(b)anfon dogfen, o’r enw “y ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad”, i bob ymgynghorai, yn eu hysbysu am y penderfyniad hwnnw.

(2Rhaid i’r ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad hefyd—

(a)rhoi manylion yr ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan reoliadau 7 ac 8, gan gynnwys y diwrnod ymgynghori cyntaf;

(b)rhoi manylion y sylwadau a ddaeth i law, ymateb y perchennog i’r sylwadau a’r addasiadau hynny a wnaed i’r cynnig (os o gwbl) o ganlyniad i’r ymgynghoriad;

(c)cynnwys copi o unrhyw reolau safle ar y ffurflen y mae’r perchennog yn cynnig eu hadneuo gyda’r awdurdod lleol;

(d)pan fo’n berthnasol, cynnwys eglurhad bod y perchennog yn bwriadu adneuo hysbysiad dileu gyda’r awdurdod lleol a rhestr o’r rheolau safle sydd i’w dileu;

(e)cynnwys datganiad y bydd unrhyw reolau safle neu ddileadau yn dod i rym yn unol â rheoliad 14, cyhyd â bod adneuad wedi cael ei wneud yn unol â rheoliad 12 a’i hysbysu yn unol â rheoliad 13;

(f)egluro’r hawliau i apelio sydd ar gael i ymgyngoreion o dan reoliad 10; ac

(g)bod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2 neu ar ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.

(3Pan gaiff cynnig ei addasu o ganlyniad i’r ymgynghoriad, dylid darllen y cyfeiriad at “y cynnig” yn rheoliad 10 fel cyfeiriad at y cynnig fel y’i addaswyd.

Hawl i apelio i dribiwnlys mewn perthynas â phenderfyniad y perchennog

10.—(1Caiff ymgynghorai apelio i dribiwnlys(3) ar un neu ragor o’r seiliau a bennir ym mharagraff (2) o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl i’r ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad ddod i law.

(2Dyma’r seiliau—

(a)mae rheol safle yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r materion rhagnodedig a nodir yn Atodlen 5;

(b)nid yw’r perchennog wedi cydymffurfio â gofyniad gweithdrefnol a osodir gan reoliad 7 i 9 o’r Rheoliadau hyn;

(c)roedd penderfyniad y perchennog yn afresymol gan roi sylw, yn arbennig i—

(i)y cynnig neu’r sylwadau a ddaeth i law mewn ymateb i’r ymgynghoriad;

(ii)maint, cynllun, cymeriad, gwasanaethau neu amwynderau’r safle; neu

(iii)telerau unrhyw ganiatâd cynllunio neu amodau trwydded y safle.

(3Pan fo ymgynghorai yn gwneud apêl o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r ymgynghorai hysbysu’r perchennog am yr apêl yn ysgrifenedig a darparu copi o’r cais a wnaed i’r perchennog, o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

Gweithdrefn apelio

11.  Wrth benderfynu ar apêl o dan reoliad 10, caiff y tribiwnlys—

(a)cadarnhau penderfyniad y perchennog;

(b)diddymu neu addasu penderfyniad y perchennog;

(c)gwneud ei benderfyniad ei hun yn lle penderfyniad y perchennog; neu

(d)pan fo’r perchennog wedi methu â chydymffurfio â’r weithdrefn a nodir yn rheoliadau 7 i 9, gorchymyn y perchennog i gydymffurfio â rheoliadau 7 i 9 (fel y bo’n briodol), o fewn cyfnod a bennir gan y tribiwnlys.

Adneuo rheolau safle neu hysbysiad dileu

12.—(1Pan fo perchennog wedi penderfynu gweithredu rheolau safle newydd neu amrywio neu ddileu rheolau safle, yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r perchennog adneuo’r rheolau safle neu hysbysiad dileu gyda’r awdurdod lleol yn ddim cynt na 28 o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno’r ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad, ond yn ddim hwyrach na 42 o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno’r ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad.

(2Pan fo hysbysiad o apêl i’r tribiwnlys yn unol â rheoliad 10 wedi dod i law’r perchennog, rhaid i’r perchennog beidio â gwneud adneuad hyd nes i’r apêl gael ei gwaredu, y penderfynir arni neu y rhoddir y gorau iddi.

(3Pan fydd apêl i’r tribiwnlys yn cael ei gwaredu, y penderfynir arni neu y rhoddir y gorau iddi, rhaid i’r perchennog adneuo’r rheolau safle neu’r hysbysiad dileu—

(a)yn ddim hwyrach na 14 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad penderfyniad y tribiwnlys;

(b)yn ddim hwyrach na 14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad pan fo’r tribiwnlys yn hysbysu’r perchennog bod yr apêl wedi ei gollwng; neu

(c)unrhyw ddyddiad diweddarach a bennir gan y tribiwnlys.

(4Rhaid i ffi am swm a bennir gan yr awdurdod lleol fynd gydag adneuad y mae’n ofynnol ei wneud yn rhinwedd y rheoliad hwn.

Hysbysiad adneuo

13.—(1Rhaid i’r perchennog hysbysu pob meddiannydd ac unrhyw gymdeithas trigolion gymwys yn ysgrifenedig am adneuad o fewn 7 niwrnod ar ôl i’r adneuad gael ei wneud.

(2Rhaid i’r hysbysiad—

(a)pennu ar ba ddyddiad y cafodd yr adneuad ei wneud;

(b)rhoi manylion cyswllt yr awdurdod lleol lle cafodd yr adneuad ei wneud;

(c)egluro pryd y daw unrhyw reolau safle, amrywiadau neu ddileadau i rym;

(d)dod gyda chopi o’r rheolau safle, os o gwbl, fel y’u hadneuwyd; ac

(e)bod ar y ffurf briodol a nodir yn Atodlen 3 neu 4 fel sy’n briodol, neu ar ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.

Y dyddiad pan ddaw rheol newydd, rheol a amrywiwyd neu ddilead i rym

14.—(1Daw’r rheolau safle a adneuwyd ac unrhyw ddileadau i rym ar ddiwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau yn dechrau ar y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad adneuo o dan reoliad 13.

(2Pan gynigir bod rheol safle yn cael ei hamrywio neu ei dileu yn unol ag is-adran 52(5) a (6) o Ddeddf 2013, bydd y rheolau safle sydd mewn grym cyn yr ymgynghoriad o dan reoliadau 7 i 9 yn parhau i gael effaith hyd nes y daw’r rheolau safle newydd neu’r dileadau i rym yn unol â pharagraff (1).

Rheolau a wnaed gan y perchennog cyn i Ran 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 gychwyn

15.  Bydd unrhyw reolau a wnaed gan y perchennog cyn i Ran 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 gychwyn yn peidio â chael effaith ar ôl y cyfnod canlynol—

(a)ac eithrio mewn achos sy’n dod o fewn is-baragraff (b) neu (c), y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau pan fydd y Rheoliadau hyn yn cychwyn;

(b)pan ddaw rheolau safle i rym yn unol â rheoliad 14 o’r Rheoliadau hyn, cyn diwedd y cyfnod a ragnodir yn is-baragraff (a), y cyfnod sy’n dod i ben pan ddaw’r rheolau safle i rym; neu

(c)pan nad oes penderfyniad wedi ei wneud am apêl o dan reoliad 10 ar ddiwedd y cyfnod a ragnodir yn is-baragraff (a), y cyfnod sy’n dod i ben pan ddaw rheolau safle i rym yn unol â rheoliad 14, ar ôl i’r apêl gael ei gwaredu, y penderfynir arni neu y rhoddir y gorau iddi.

Cofrestrau awdurdodau lleol o reolau safle

16.—(1Rhaid i awdurdod lleol—

(a)llunio cofrestr o reolau safle mewn perthynas â safleoedd gwarchodedig yn ei ardal a’i chadw’n gyfredol; a

(b)cyhoeddi’r gofrestr gyfredol ar-lein.

(2Rhaid i’r gofrestr fod yn agored i’r cyhoedd gael edrych arni yn swyddfa’r awdurdod lleol yn ystod oriau gwaith arferol.

Hawl i apelio i dribiwnlys ynghylch adneuad

17.—(1Caiff meddiannydd ac unrhyw gymdeithas trigolion gymwys apelio i’r tribiwnlys ynghylch adneuad, ar y sail a bennir ym mharagraff (2).

(2Y sail yw nad yw adneuad fel sy’n ofynnol gan reoliad 12 wedi cael ei wneud cyn diwedd y cyfnod a ragnodir gan y rheoliad hwnnw.

(3Pan gaiff apêl ei gwneud o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r apelai hysbysu’r perchennog yn ysgrifenedig, o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl gwneud yr apêl i’r tribiwnlys.

(4Wrth benderfynu ar apêl o dan y rheoliad hwn, caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol wneud adneuad erbyn dyddiad penodedig, ynghyd â ffi am swm a bennir gan yr awdurdod lleol.

(5Pan gaiff adneuad ei wneud o dan is-baragraff (4), rhaid i’r perchennog hysbysu pob meddiannydd ac unrhyw gymdeithas trigolion gymwys yn ysgrifenedig am yr adneuad yn unol â rheoliad 13, a daw’r rheolau safle fel y’u hadneuwyd ac unrhyw ddileadau i rym ar ddiwedd y cyfnod a ragnodir yn unol â rheoliad 14.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru

2 Gorffennaf 2014

Rheoliad 8

ATODLEN 1Ffurf hysbysiad o gynnig

Rheoliad 9

ATODLEN 2Ffurf dogfen ymateb i’r ymgynghoriad

Rheoliad 13

ATODLEN 3Ffurf hysbysiad adneuo rheolau safle

Rheoliad 13

ATODLEN 4Ffurf hysbysiad adneuo hysbysiad dileu

Rheoliad 5

ATODLEN 5Materion rhagnodedig at ddibenion adran 52(8) o Ddeddf 2013

Mae’r materion a nodir ym mharagraffau 1 a 2 yn faterion rhagnodedig at ddibenion adran 52(8) (Nid yw rheolau safle neu’r reolau hynny a grybwyllir yn adran 52(3) o Ddeddf 2013 yn cael unrhyw effaith i’r graddau eu bod yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r materion rhagnodedig).

Materion sy’n ymwneud â gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg

1.—(1dyma’r materion—

(a)pa un ai a ddylid atal y meddiannydd rhag gwerthu’r cartref symudol neu ei roi yn anrheg i unrhyw un heblaw am y perchennog;

(b)pa un ai a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd hysbysu’r perchennog am fwriad y meddiannydd i werthu’r cartref symudol neu ei roi yn anrheg;

(c)pa un ai a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd ddefnyddio gwasanaethau’r perchennog neu berson a bennir gan y perchennog at ddibenion gwerthu’r cartref symudol neu ei roi yn anrheg;

(d)pa un ai a ddylid atal y meddiannydd rhag defnyddio gwasanaethau asiant tai at ddibenion gwerthu’r cartref symudol;

(e)pa un ai a ddylid atal y meddiannydd rhag defnyddio gwasanaethau a ddarperir gan gyfreithiwr at ddibenion gwerthu’r cartref symudol neu ei roi yn anrheg ac aseinio’r cytundeb;

(f)pa un ai a ddylid atal y meddiannydd rhag defnyddio unrhyw wasanaethau a fyddai ar gael fel arall i’r meddiannydd at ddibenion gwerthu’r cartref symudol neu ei roi yn anrheg;

(g)pa un ai a ddylid atal y meddiannydd rhag hysbysebu bod y cartref symudol ar werth drwy hysbysiad, bwrdd neu hysbyslen a osodir ar y cartref symudol neu ar y llain;

(h)pa un ai a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd—

(i)trefnu bod arolwg o’r cartref symudol neu’r llain yn cael ei gynnal; neu

(ii)caniatáu i’r perchennog neu ei asiant(au) gynnal arolwg o’r cartref symudol neu’r llain

cyn gwerthu’r cartref symudol neu ei roi yn anrheg;

(i)pa un ai a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd werthu’r cartref symudol neu ei roi yn anrheg neu aseinio’r cytundeb ym mhresenoldeb y perchennog;

(j)pa un ai a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd neu’r meddiannydd arfaethedig ddarparu manylion personol y meddiannydd arfaethedig i berchennog y safle neu fanylion unrhyw berson arall sy’n bwriadu byw yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig;

(k)pa un ai a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd arfaethedig fynd i gyfarfod â’r perchennog.

(2Mae’r canlynol yn enghreifftiau o “manylion personol”—

(a)cyfeiriad cartref, manylion cyswllt eraill neu rif cofrestru cerbyd y person o dan sylw;

(b)unrhyw wybodaeth ariannol sy’n ymwneud â’r person o dan sylw;

(c)tystysgrif geni neu dystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil y person o dan sylw; a

(d)manylion am oedran, tarddiad ethnig, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol y person o dan sylw.

(3Yn is-baragraffau (c), (d), (e), (f) ac (h) o baragraff 1(1), mae’r cyfeiriadau at werthu cartref symudol yn cynnwys cyfeiriad at farchnata, hysbysebu neu gynnig cartref symudol i’w werthu.

Materion eraill

2.  Dyma’r materion—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff 3, unrhyw fater a fynegir i roi hawl i feddiannydd yn ddarostyngedig i arfer disgresiwn gan y perchennog, ac eithrio mewn perthynas â gwelliannau i blot meddiannydd;

(b)unrhyw fater a fynegir i fod yn gymwys yn ôl-weithredol;

(c)unrhyw fater sy’n mynd yn groes i delerau ymhlyg y cytundeb, fel y’u diffinnir gan adrannau 48 a 49 o Ddeddf 2013;

(d)unrhyw fater a fynegir i fod yn gymwys i bersonau penodol neu bersonau o ddisgrifiad penodol yn unig, ac eithrio pan fo rheol yn gwneud eithriad ar gyfer y perchennog, teulu’r perchennog neu gyflogai i’r perchennog (pan nad yw cyflogai i’r perchennog yn meddiannu’r safle o dan gytundeb y mae Deddf 2013 yn gymwys iddo);

(e)pa un ai a ddylid atal y meddiannydd yn llwyr rhag gwneud gwelliannau i’r cartref neu’r llain;

(f)pa un ai a ddylai fod yn ofynnol i bobl sy’n ymweld â’r safle roi gwybod i’r perchennog pan fyddant yn cyrraedd;

(g)pa un ai a ddylid cyfyngu ar unrhyw gategori o berson rhag ymweld â’r safle, ni waeth a oes gan y safle gyfyngiad oedran ai peidio;

(h)pa un ai a ddylai fod hawl gan y perchennog i ostwng maint y llain neu eu ailgyfeirio;

(i)pa un ai a ddylai’r perchennog ei gwneud yn ofynnol i flaendaliadau gael eu casglu neu i dâl gael ei godi am wasanaethau neu ganiatadau eraill yn ogystal â thaliadau am y ffi am y llain, taliadau cyfleustodau, parcio neu siediau, pan nad oes hawl gwneud y tâl o dan y cytundeb (fel y’i diffinnir gan adrannau 48 a 49 o Ddeddf 2013) neu gan ddeddfwriaeth arall;

(j)pa un ai a ddylid cyfyngu ar fynediad i gerbydau i’r safle mewn unrhyw ffordd;

(k)pa un ai a ganiateir i’r meddiannydd gael ymwelwyr am gyfnodau byr, pa un ai a yw’r meddiannydd yn bresennol ar y pryd ai peidio;

(l)pa un ai a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd brynu nwyddau neu wasanaethau yn unig gan y perchennog neu unrhyw berson arall a bennir gan y perchennog;

(m)pa un ai a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd ddefnyddio gweithwyr a bennir gan y perchennog yn unig, gan gynnwys y perchennog ei hun;

(n)pa un ai a gaiff y rheolau safle eu newid ac eithrio gan yr weithdrefn a nodir yn rheoliadau 7 i 13 o’r Rheoliadau hyn;

(o)pa un ai a yw’r rheolau safle yn awgrymu bygwth taflu allan am fethu â chydymffurfio â’r rheolau safle.

3.  Nid yw is-baragraff 2(a) o’r Atodlen hon yn atal perchennog rhag arfer disgresiwn i roi hawl i feddiannydd er mwyn darparu ar gyfer anabledd y meddiannydd hwnnw.

4.—(1Pan fo—

(a)meddiannydd safle wedi cael buddiant, cyn i reol safle gael ei adneuo; a

(b)effaith y rheol safle a adneuwyd yn dod i rym yw bod y meddiannydd sy’n cael buddiant yn torri’r rheol safle a adneuwyd;

ni fydd y meddiannydd yn torri’r rheol safle a adneuwyd ar gyfer y cyfnod y mae’r buddiant yn parhau.

(2Ar ôl i’r buddiant ddod i ben, bydd y rheol safle a adneuwyd yn rhwymo’r meddiannydd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r weithdrefn ar gyfer gwneud, amrywio a dileu rheolau safle, yn rhagnodi’r materion y caiff rheolau safle fod yn berthnasol iddynt neu beidio ac yn rhoi hawliau i apelio mewn perthynas â’r materion hyn, o dan adran 52 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.

Mae Rheoliad 3 yn nodi’r rheolau cyflwyno ar gyfer dogfennau penodol y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliad 4 yn rhagnodi’r materion y caiff rheolau safle fod yn berthnasol iddynt, yn ogystal â rheoli a chynnal y safle.

Mae Rheoliad 5 yn rhagnodi’r materion nad yw rheol safle yn cael unrhyw effaith i’r graddau ei fod yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â hwy; a cheir rhestr o’r materion hyn yn Atodlen 5.

Mae Rheoliad 6 yn nodi’r weithdrefn ragnodedig ar gyfer gwneud, amrywio neu ddileu rheolau safle.

Mae Rheoliad 7 yn nodi pwy y mae’n rhaid ymgynghori â hwy ynghylch cynnig i wneud, i amrywio neu i ddileu rheol safle.

Mae Rheoliad 8 yn rhagnodi’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad o gynnig a ddyroddir gan berchennog y safle, ac mae Atodlen 1 yn rhagnodi ar ba ffurf y mae’n rhaid darparu’r wybodaeth honno.

Mae Rheoliad 9 yn nodi sut y mae’n ofynnol i berchennog y safle ymateb i’r ymgynghoriad ac yn rhagnodi’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys yn y ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad; ac mae Atodlen 2 yn rhagnodi ar ba ffurf y mae’n rhaid darparu’r wybodaeth honno.

Mae Rheoliad 10 yn rhagnodi ar ba seiliau y caiff ymgynghorai apelio i’r tribiwnlys yn erbyn penderfyniad perchennog y safle a’r cyfnod o amser ar gyfer gwneud hyn.

Mae Rheoliad 11 yn nodi sut y caiff y tribiwnlys benderfynu ar yr apêl.

Mae Rheoliad 12 yn nodi’r gofynion ar gyfer adneuo rheolau safle neu hysbysiad dileu gyda’r awdurdod lleol.

Mae Rheoliad 13 yn darparu ar gyfer hysbysu’r meddianwyr am yr adneuad, gan gynnwys yr wybodaeth sydd i’w darparu gyda’r hysbysiad hwnnw.

Mae Rheoliad 14 yn rhagnodi pryd y daw rheol safle newydd neu amrywiad neu ddilead i reol safle i rym.

Mae Rheoliad 15 yn rhagnodi pryd y mae unrhyw reolau a wnaed gan berchennog y safle cyn i Ran 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 gychwyn, yn peidio â chael effaith.

Mae Rheoliad 16 yn nodi’r gofynion a osodir ar awdurdodau lleol ynghylch cadw cofrestr o reolau safle.

Mae Rheoliad 17 yn rhagnodi ar ba seiliau y caiff meddiannydd apelio i’r tribiwnlys mewn perthynas ag adneuad gyda’r awdurdod lleol, fel sy’n ofynnol gan reoliad 12.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.

(2)

Rheolau safle yw’r rheolau fel y cyfeirir atynt yn adran 52(2) o Ddeddf 2013, a wneir gan y perchennog yn unol â’r weithdrefn a ragnodir gan y Rheoliadau hyn, sy’n ymwneud â rheoli a chynnal y safle, neu unrhyw faterion eraill a ragnodir (gweler rheoliad 4).

(3)

Fel y’i diffinnir gan adran 55(1) o Ddeddf 2013.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill