- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Cartrefi Symudol, Cymru
Gwnaed
2 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym
1 Hydref 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 52(3) ac (8), 63(1), (8) a (9) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013(1), a pharagraffau 9(4) a (6), 10(5), (7), (8) a (10), 11(2) a (4), 12(2) a (5) a 13(5), (7) a (9) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 iddi.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Symudol (Gwerthu a Rhoi yn Anrheg) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Hydref 2014.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cytundeb” (“agreement”) yw cytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf 2013 yn gymwys iddo;
ystyr “datganiad ysgrifenedig” (“written statement”) yw’r datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 49(1) o Ddeddf 2013;
ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013;
mae i “ffi am y llain” (“pitch fee”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 62 o Ddeddf 2013;
mae i “llain” (“pitch”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 55(1) o Ddeddf 2013;
mae i “meddiannydd” (“occupier”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 55 o Ddeddf 2013;
ystyr “meddiannydd arfaethedig” (“proposed occupier”) yw person y mae’r meddiannydd yn bwriadu gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg iddo ac aseinio’r cytundeb sy’n ymwneud â’r cartref symudol iddo;
ystyr “rheolau cyn cychwyn” (“pre-commencement rules”), mewn perthynas â safle, yw rheolau a wneir gan y perchennog cyn i adran 52 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 gychwyn, sy’n ymwneud â mater a grybwyllir yn adran 52(2) o Ddeddf 2013;
mae i “rheolau safle” (“site rules”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 52(2) o Ddeddf 2013;
ystyr “safle” (“site”) yw safle gwarchodedig fel y’i diffinnir yn adran 2(2) o Ddeddf 2013; ac
mae i “Sipsiwn a Theithwyr” (“Gypsies and Travellers”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 62 o Ddeddf 2013.
3.—(1) Dyma’r dogfennau a ragnodir at ddibenion paragraff 11(2)(a) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013—
(a)copi o’r cytundeb a’r datganiad ysgrifenedig;
(b)pan gafodd y cytundeb ei aseinio i’r meddiannydd, copi o’r offeryn sy’n rhoi effaith i’r aseiniad hwnnw;
(c)copi o unrhyw reolau cyn cychwyn ar gyfer y safle sydd mewn grym;
(d)copi o unrhyw reolau safle ar gyfer y safle sydd mewn grym;
(e)tystiolaeth ddogfennol o unrhyw daliadau sy’n ymwneud â’r cartref symudol neu’r safle sy’n daladwy i’r perchennog neu i drydydd parti ar gyfer nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill, gan gynnwys manylion pryd y mae angen talu’r taliadau hyn a phryd y mae angen eu hadolygu nesaf;
(f)tystiolaeth ddogfennol o unrhyw daliadau eraill sy’n ymwneud â’r cartref symudol neu’r safle sy’n daladwy i’r perchennog neu i drydydd parti, gan gynnwys taliadau ar gyfer defnyddio garej, lle parcio neu dŷ allan;
(g)copi o unrhyw warant ar gyfer y cartref symudol sy’n parhau yn ddilys ac sydd ym meddiant y meddiannydd; ac
(h)copi o unrhyw arolwg strwythurol o’r cartref symudol, sylfaen neu lain sydd wedi ei gomisiynu gan y meddiannydd a’i gynnal gan berson cymwys addas yn y 12 mis cyn y dyddiad pan gaiff y dogfennau eu darparu i’r meddiannydd arfaethedig.
(2) Pan nad yw’r meddiannydd yn gallu darparu unrhyw un neu ragor o’r dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1), rhaid darparu eglurhad ysgrifenedig i’r meddiannydd arfaethedig yn egluro pam.
(3) Dyma’r wybodaeth a ragnodir at ddibenion paragraff 11(2)(b) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013—
(a)y pris arfaethedig ar gyfer gwerthu’r cartref symudol;
(b)manylion y comisiwn a fyddai’n daladwy gan y meddiannydd arfaethedig yn rhinwedd paragraff 9(4) neu 10(8) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (yn ôl y digwydd);
(c)manylion y ffi am y llain sy’n daladwy i’r perchennog, gan gynnwys pryd y mae’n daladwy a’r dyddiad adolygu nesaf (mae i “dyddiad yr adolygiad” yr ystyr a roddir iddo ym mharagraff 1 o Bennod 1 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013);
(d)manylion unrhyw ôl-ddyledion ffioedd am y llain neu unrhyw daliadau eraill sy’n daladwy o dan y cytundeb sydd heb eu talu ar yr adeg pan gaiff y dogfennau a’r wybodaeth sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn eu darparu i’r meddiannydd arfaethedig, a manylion unrhyw drefniadau yr ymrwymir iddynt gyda’r perchennog ynghylch clirio unrhyw ôl-ddyledion o’r fath;
(e)band prisio’r dreth gyngor sy’n berthnasol i’r cartref symudol;
(f)enw’r perchennog a’r cyfeiriad lle gellir cyflwyno hysbysiadau i’r perchennog, ar yr amod bod yr wybodaeth hon wedi ei darparu i’r meddiannydd yn unol â pharagraff 24 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 neu, pan nad yw’r cyfeiriad hwn wedi cael ei ddarparu, unrhyw gyfeiriad hysbys arall ar gyfer y perchennog;
(g)enw a chyfeiriad yr awdurdod lleol y mae’r cartref symudol wedi ei leoli yn ei ardal;
(h)eglurhad o’r gofynion gweithdrefnol a ragnodir yn rheoliadau 9 a 10;
(i)y dyddiad pan gafodd y cytundeb ei wneud a, pan nad oedd y meddiannydd yn un o bartïon gwreiddiol y cytundeb, y dyddiad pan gafodd y cytundeb ei aseinio i’r meddiannydd;
(j)pan nad yw’r cytundeb yn gytundeb newydd, eglurhad o effaith paragraff 10(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (ac mae i “cytundeb newydd” yr ystyr a roddir iddo ym mharagraff 9(2) o’r Bennod honno);
(k)datganiad yn cadarnhau mai’r meddiannydd yw perchennog cyfreithiol y cartref symudol a’i fod yn gwerthu’r cartref symudol gyda meddiant gwag ac nad oes unrhyw fenthyciadau sydd heb eu talu mewn perthynas â’r cartref symudol; ac
(l)manylion unrhyw achosion cyfreithiol mewn perthynas ag unrhyw faterion sy’n ymwneud â’r cartref symudol, y cytundeb neu’r safle y mae’r meddiannydd yn barti iddo ac sydd wedi eu cyhoeddi neu eu cychwyn, ond nad ydynt wedi cael eu gwaredu neu eu tynnu’n ôl, ar yr adeg y caiff yr wybodaeth ei danfon neu ei hanfon at y meddiannydd arfaethedig.
(4) Rhaid i’r wybodaeth gael ei darparu yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 1, neu mewn ffurf sy’n cael yr un effaith yn sylweddol.
4.—(1) Yr wybodaeth a ragnodir at ddibenion paragraff 10(5) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 yw’r wybodaeth a bennir ym mharagraffau (2) i (6).
(2) Ym mhob achos mae’r wybodaeth yn cynnwys—
(a)enw’r meddiannydd arfaethedig;
(b)eglurhad o effaith is-baragraffau (1) i (4) o baragraff 10 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013; ac
(c)ar ba seiliau a ragnodir yn rheoliad 7 y caiff y perchennog wneud cais i’r tribiwnlys am orchymyn gwrthod.
(3) Mewn achosion pan fo gan y safle reolau cyn cychwyn neu reolau safle, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys datganiad yn cadarnhau—
(a)bod y meddiannydd wedi darparu copi o’r rheolau hynny i’r meddiannydd arfaethedig; a
(b)bod y meddiannydd arfaethedig wedi darllen ac wedi deall y rheolau (neu fod rhywun wedi eu hegluro iddo) a bod y meddiannydd arfaethedig yn gallu cydymffurfio â hwy.
(4) Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud ag oedran y meddianwyr, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys oedran y meddiannydd arfaethedig ac unrhyw berson sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig.
(5) Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud â chadw anifeiliaid, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys manylion unrhyw anifeiliaid y mae’r meddiannydd arfaethedig neu unrhyw berson arall sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig, yn bwriadu eu cadw ar y safle (gan gynnwys, pan mai ci yw’r anifail, frîd y ci).
(6) Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud â pharcio cerbydau ar y safle, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys manylion unrhyw gerbydau y mae’r meddiannydd arfaethedig neu unrhyw berson sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig, yn bwriadu eu parcio ar y safle.
(7) Rhaid i’r wybodaeth gael ei darparu ar y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
5.—(1) Yr wybodaeth a ragnodir at ddibenion paragraff 13(5) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 yw’r wybodaeth a bennir ym mharagraffau (2) i (6) o’r rheoliad hwn.
(2) Ym mhob achos, mae’r wybodaeth yn cynnwys—
(a)enw’r meddiannydd arfaethedig ;
(b)eglurhad o effaith is-baragraffau (1) i (4) o baragraff 13 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013; ac
(c)ar ba seiliau a ragnodir yn rheoliad 7 y caiff y perchennog wneud cais i’r tribiwnlys am orchymyn gwrthod.
(3) Mewn achosion pan fo gan y safle gwarchodedig reolau cyn cychwyn neu reolau safle, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys datganiad yn cadarnhau—
(a)bod y meddiannydd wedi rhoi copi o’r rheolau hynny i’r meddiannydd arfaethedig; a
(b)bod y meddiannydd arfaethedig wedi darllen ac wedi deall y rheolau hynny (neu fod rhywun wedi eu hegluro iddo) a’i fod yn gallu cydymffurfio â hwy.
(4) Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud ag oedran meddianwyr, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys oedran y meddiannydd arfaethedig ac unrhyw berson sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig.
(5) Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud â chadw anifeiliaid, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys manylion unrhyw anifeiliaid y mae’r meddiannydd arfaethedig neu unrhyw berson arall sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig, yn bwriadu eu cadw ar y safle (gan gynnwys, pan mai ci yw’r anifail, brîd y ci).
(6) Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud â pharcio cerbydau ar y safle, mae’r wybodaeth hefyd yn cynnwys manylion unrhyw gerbydau y mae’r meddiannydd arfaethedig neu unrhyw berson sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig, yn bwriadu ei barcio ar y safle.
(7) Rhaid i’r wybodaeth—
(a)cael ei darparu ar y ffurf a ragnodir yn Atodlen 3 neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi; a
(b)mynd gyda’r dystiolaeth berthnasol (fel y’i diffinnir ym mharagraff 12(2) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013).
6. Y dystiolaeth a ragnodir at ddibenion paragraff 12(2)(a) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013, yw’r dystiolaeth a ddarperir gan un neu ragor o’r canlynol—
(a)gwybodaeth ysgrifenedig ar lw a roddir gan y meddiannydd a’r meddiannydd arfaethedig sy’n egluro perthynas y meddiannydd arfaethedig â’r meddiannydd;
(b)tystysgrif geni neu dystysgrif mabwysiadu;
(c)tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil.
7.—(1) Y seiliau a ragnodir at ddibenion paragraff 10(7) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (gwerthu cartref symudol: cytundebau presennol) yw, pe bai’r meddiannydd arfaethedig yn dod yn feddiannydd, y byddai’r meddiannydd arfaethedig neu berson sy’n bwriadu preswylio gyda’r meddiannydd arfaethedig yn torri rheol cyn cychwyn neu reol safle—
(a)oherwydd oedran;
(b)drwy gadw anifeiliaid y caiff disgrifiad ohonynt ei bennu yn y rheol;
(c)drwy barcio cerbydau ar y safle y caiff disgrifiad ohonynt ei bennu yn y rheol; neu
(d)drwy barcio nifer o gerbydau ar y safle sy’n fwy na’r nifer a bennir yn y rheol.
(2) Y seiliau a ragnodir at ddibenion paragraff 13(7) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (rhoi cartref symudol yn anrheg: cytundebau presennol) yw—
(a)y seiliau a grybwyllir ym mharagraff (1); neu
(b)bod y meddiannydd arfaethedig wedi methu â darparu’r dystiolaeth berthnasol i’r perchennog (fel y’i diffinnir ym mharagraff 12(2) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013).
(3) Pan fo safle yn eiddo i landlord cymdeithasol cofrestredig o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 1996(2), ceir sail ragnodedig ychwanegol at ddibenion paragraffau 10(7) a 13(7) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013, pan fo gan y landlord bolisi ar waith ar gyfer dyrannu lleiniau i Sipsiwn a Theithwyr, y byddai gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg i’r meddiannydd arfaethedig yn mynd yn groes iddo.
8. Y gyfradd a ragnodir at ddibenion paragraffau 9(4) a 10(8) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 yw 10% o bris prynu’r cartref symudol.
9.—(1) Rhaid i aseiniad cytundeb yn unol â pharagraff 9(1), 10(1), 12(1) neu 13(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (yn ôl y digwydd) gael ei wneud—
(a)yn ysgrifenedig; a
(b)ar y ffurf a ragnodir yn Atodlen 4 (neu ar ffurf y mae ei heffaith yn effaith yn sylweddol debyg iddi).
(2) O fewn 7 niwrnod i’r aseiniad, rhaid i’r aseinai gyflwyno hysbysiad o’r aseiniad i’r perchennog sy’n cydymffurfio â gofynion paragraffau (3) i (8) (“hysbysiad o aseiniad”).
(3) Ym mhob achos, rhaid i’r hysbysiad o aseiniad bennu—
(a)enw’r aseiniwr;
(b)enw’r aseinai ac unrhyw berson arall sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r aseinai;
(c)cyfeiriad y cartref symudol;
(d)dyddiad aseinio’r cytundeb; ac
(e)cyfeiriad yr aseinwr ar gyfer anfon ymlaen.
(4) Yn achos gwerthu cartref symudol, rhaid i’r hysbysiad o aseiniad hefyd—
(a)pennu pris prynu’r cartref symudol a swm y comisiwn y mae’n ofynnol i’r aseinai ei dalu i’r perchennog o dan baragraff 9(4) neu 10(8) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (yn ôl y digwydd); a
(b)cynnwys eglurhad o’r gofynion a ragnodir gan reoliad 10 (talu comisiwn).
(5) Mewn achosion pan fo gan y safle reolau cyn cychwyn neu reolau safle, rhaid i’r hysbysiad o aseiniad hefyd gynnwys datganiad yn cadarnhau bod yr aseinai wedi darllen ac wedi deall y rheolau hynny (neu fod rhywun wedi eu hegluro iddo) a’i fod yn cytuno i gydymffurfio â hwy.
(6) Mewn achosion pan fo gan y safle reol cyn cychwyn neu reol safle sy’n ymwneud ag oedran meddianwyr, rhaid i’r hysbysiad o aseiniad hefyd bennu oedran yr aseinai ac unrhyw berson sy’n bwriadu preswylio yn y cartref symudol gyda’r aseinai.
(7) Rhaid i’r hysbysiad o aseiniad—
(a)cael ei ddarparu ar y ffurf a ragnodir yn Atodlen 5, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi; a
(b)mynd gyda’r dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (8).
(8) Dyma’r dogfennau—
(a)copi o’r offeryn sy’n rhoi effaith i’r aseiniad;
(b)yn achos gwerthiant, tystiolaeth ddogfennol o’r pris a delir gan yr aseinai am y cartref symudol;
(c)copi o unrhyw reolau cyn cychwyn neu reolau safle y derbyniodd yr aseinai hwy yn unol â rheoliad 3(1)(c) neu (d) (yn ôl y digwydd); a
(d)copi o’r cytundeb a’r datganiad ysgrifenedig y derbyniodd yr aseinai hwy yn unol â rheoliad 3(1)(a).
(9) Caniateir i’r hysbysiad o aseiniad a dogfennau eraill y mae’n ofynnol eu darparu i’r perchennog o dan y rheoliad hwn naill ai gael eu danfon at y perchennog yn bersonol neu eu hanfon drwy’r post.
10.—(1) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl derbyn yr hysbysiad o aseiniad, rhaid i’r perchennog ddarparu manylion y cyfrif banc y mae’r perchennog yn dymuno i’r aseinai dalu’r comisiwn iddo, sef y comisiwn y mae’n ofynnol i’r aseinai ei dalu i’r perchennog o dan baragraff 9(4) neu 10(8) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 (yn ôl y digwydd).
(2) O fewn 7 niwrnod ar ôl derbyn y manylion hynny, rhaid i’r aseinai dalu’r comisiwn i’r cyfrif banc.
11.—(1) Nid oes gan reol cyn cychwyn sy’n ymwneud â gwerthu cartref symudol unrhyw effaith i’r graddau ei bod yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r materion a grybwyllir ym mharagraff (2) o’r rheoliad hwn.
(2) Dyma’r materion—
(a)a ddylid atal y meddiannydd rhag gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg i unrhyw un heblaw am y perchennog;
(b)a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd hysbysu’r perchennog am fwriad y meddiannydd i werthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg;
(c)a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd ddefnyddio gwasanaethau’r perchennog neu berson a bennir gan y perchennog at ddibenion gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg;
(d)a ddylid atal y meddiannydd rhag defnyddio gwasanaethau asiant tai at ddibenion gwerthu’r cartref symudol;
(e)a ddylid atal y meddiannydd rhag defnyddio gwasanaethau a ddarperir gan gyfreithiwr at ddibenion gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg ac aseinio’r cytundeb;
(f)a ddylid atal y meddiannydd rhag defnyddio unrhyw wasanaethau a fyddai fel arall ar gael i’r meddiannydd at ddibenion gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg;
(g)a ddylid atal y meddiannydd rhag hysbysebu bod y cartref symudol ar werth drwy hysbysiad, bwrdd neu hysbyslen a osodir ar y cartref symudol neu ar y llain;
(h)a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd—
(i)trefnu bod arolwg o’r cartref symudol neu’r llain yn cael ei gynnal; neu
(ii)caniatáu i’r perchennog neu ei asiant gynnal arolwg o’r cartref symudol neu’r llain
cyn gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg;
(i)a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd werthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg neu aseinio’r cytundeb ym mhresenoldeb y perchennog;
(j)a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd neu’r meddiannydd arfaethedig ddarparu manylion personol y meddiannydd arfaethedig i berchennog y safle neu fanylion unrhyw berson arall sy’n bwriadu byw yn y cartref symudol gyda’r meddiannydd arfaethedig;
(k)a ddylai fod yn ofynnol i’r meddiannydd arfaethedig fynd i gyfarfod â’r perchennog.
(3) Mae’r canlynol yn enghreifftiau o “manylion personol”—
(a)cyfeiriad cartref neu fanylion cyswllt eraill y person o dan sylw;
(b)unrhyw wybodaeth ariannol sy’n ymwneud â’r person o dan sylw; ac
(c)manylion am oedran, tarddiad ethnig, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol y person dan sylw.
(4) Yn is-baragraffau (c), (d), (e), (f) ac (h) o baragraff (2) mae cyfeiriadau at werthu cartref symudol yn cynnwys cyfeiriad at farchnata, hysbysebu neu gynnig cartref symudol i’w werthu.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
2 Gorffennaf 2014
Rheoliad 3
Rheoliad 4
Rheoliad 5
Rheoliad 9(1)
Rheoliad 9(7)
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth fanwl ynghylch gwerthu a rhoi cartrefi symudol yn anrheg ac aseinio cytundebau o dan ddarpariaethau yn Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”).
Mae Rheoliad 3 yn rhagnodi’r wybodaeth a’r dogfennau y mae’n rhaid i feddiannwr cartref symudol eu darparu i brynwr arfaethedig (y cyfeirir ato fel “y meddiannydd arfaethedig”) cyn y gellir cwblhau gwerthiant. Mae Atodlen 1 yn rhagnodi ar ba ffurf y mae’n rhaid i’r wybodaeth honno gael ei darparu.
Mae Rheoliadau 4 (mewn perthynas â gwerthiannau) a 5 (mewn perthynas â rhoi yn anrheg) yn rhagnodi’r wybodaeth y mae’n rhaid i feddiannwr ei darparu i berchennog y safle mewn achosion pan nad yw’r cytundeb y mae’r meddiannydd yn bwriadu ei aseinio yn gytundeb newydd (diffinnir “cytundeb newydd” ym mharagraff 9(2) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013). Mae Atodlenni 2 a 3 yn rhagnodi’r ffurfiau i’w defnyddio wrth ddarparu’r wybodaeth honno i berchennog y safle.
Pan fo meddiannydd cartref symudol yn bwriadu rhoi’r cartref symudol yn anrheg ac aseinio’r cytundeb i aelod o’i deulu (fel y’i diffinnir yn adran 55(3) o Ddeddf 2013), rhaid iddo roi’r ‘tystiolaeth berthnasol’ (fel y’i diffinnir ym mharagraff 12(2) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013) i berchennog y safle. Yn unol â’r pŵer ym mharagraff 12(2)(a), mae rheoliad 6 yn rhagnodi mathau penodol o dystiolaeth a fydd yn cyfrif yn ‘tystiolaeth berthnasol’. Yn unol â pharagraff 12(2)(b) mae’r ‘tystiolaeth berthnasol’ hefyd yn golygu unrhyw dystiolaeth foddhaol arall fod y person o dan sylw yn aelod o deulu’r meddiannydd.
Mae Rheoliad 7 yn rhagnodi ar ba seiliau y caiff perchennog y safle wneud cais i’r tribiwnlys am orchymyn yn atal y meddiannydd rhag gwerthu cartref symudol neu ei roi yn anrheg (yn ôl y digwydd), ac aseinio’r cytundeb, i’r meddiannydd arfaethedig (“gorchymyn gwrthod”). Dim ond mewn achosion pan nad yw’r cytundeb yn gytundeb newydd y mae hawl i wneud cais am orchymyn gwrthod.
Mae Rheoliad 8 yn rhagnodi uchafswm y comisiwn sy’n daladwy i berchennog y safle gan y meddiannydd newydd ar werthiant cartref symudol.
Mae Rheoliad 9 (ac Atodlenni 4 a 5) yn cynnwys y gofynion gweithdrefnol y mae’r partïon i gydymffurfio â hwy mewn cysylltiad ag aseinio’r cytundeb, ac mae rheoliad 10 yn pennu’r gofynion gweithdrefnol i gydymffurfio â hwy mewn cysylltiad â thalu comisiwn.
Mae Rheoliad 11 yn darparu pan fo rheol a wnaed gan y perchennog cyn 1 Hydref 2014 yn ymwneud â gwerthu cartref symudol, na fydd yn cael unrhyw effaith i’r graddau ei fod yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag unrhyw un o’r materion a bennir yn y rheoliad hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru o ran cynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Mae’r Asesiad Effaith a luniwyd ar gyfer Bil Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn berthnasol a gellir cael copi gan yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys