- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
26.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio mangre at ddibenion sefydliad neu asiantaeth oni fydd y fangre honno mewn lleoliad, ac o ddyluniad a chynllun ffisegol, sy'n addas at y diben o gyflawni'r nodau ac amcanion a bennir yn y datganiad o ddiben.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
(a)bod y fangre'n darparu amgylchedd glân, diogel a diddos yn unol â'r ddeddfwriaeth a'r arferion gorau cyfredol;
(b)bod y fangre o adeiladwaith cadarn ac y'i cedwir mewn cyflwr da yn allanol ac yn fewnol;
(c)bod maint a chynllun y sefydliad yn addas at y dibenion y maent i'w defnyddio ar eu cyfer a'u bod wedi'u cyfarparu a'u dodrefnu'n addas;
(ch)os ymgymerir â gweithdrefnau llawfeddygol, os defnyddir systemau cynnal bywyd, neu os darperir gwasanaethau obstetrig a gwasanaethau meddygol mewn cysylltiad â geni plant yn y sefydliad, y darperir pa bynnag gyflenwad trydan y byddai ei angen i ddiogelu bywydau'r cleifion.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu'r canlynol i gyflogeion ac i ymarferwyr meddygol sydd â breintiau ymarfer—
(a)cyfleusterau a llety addas, ac eithrio llety cysgu, gan gynnwys—
(i)cyfleusterau ar gyfer newid; a
(ii)cyfleusterau storio; a
(b)pan fo angen darparu llety o'r fath ar gyflogeion mewn cysylltiad â'u gwaith, llety cysgu.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff 5, rhaid i'r person cofrestredig—
(a)cymryd rhagofalon digonol yn erbyn y risg o dân, gan gynnwys darparu a chynnal cyfarpar digonol i atal a chanfod tân;
(b)darparu moddion dianc digonol, i'w defnyddio pe digwyddai tân;
(c)gwneud trefniadau i bersonau a gyflogir yn y sefydliad, ac i ymarferwyr meddygol y rhoddwyd breintiau ymarfer iddynt, gael hyfforddiant addas mewn atal tân;
(ch)sicrhau, drwy gyfrwng driliau ac ymarferion tân a gynhelir o bryd i'w gilydd fel y bo'n addas, fod y personau a gyflogir yn y sefydliad, ac i'r graddau y bo'n ymarferol, y cleifion a'r ymarferwyr meddygol y rhoddwyd breintiau ymarfer iddynt, yn gyfarwydd â'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân;
(d)adolygu, fesul cyfnod o ddim mwy na deuddeng mis, y rhagofalon tân, addasrwydd y cyfarpar tân a'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân; ac
(dd)paratoi asesiad risg ysgrifenedig ar gyfer diogelwch tân.
(5) Pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005(1) yn gymwys i'r fangre—
(a)nid yw paragraff (4) yn gymwys; a
(b)rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y cydymffurfir, mewn perthynas â'r fangre honno, â gofynion y Gorchymyn hwnnw ac unrhyw reoliadau a wnaed odano ac eithrio erthygl 23 (dyletswyddau cyflogeion).
27.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 53—
(a)rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na chaiff ysbyty annibynnol sy'n darparu neu'n bwriadu darparu llety dros nos —
(i)am gyfnod o 12 mis yn olynol neu gyfnod hwy i gleifion sydd wedi eu diagnosio ag anableddau dysgu ynghyd ag i gleifion ag afiechyd meddwl; neu
(ii)am gyfnod o 12 mis yn olynol neu gyfnod hwy i glaf sydd wedi ei ddiagnosio fel un sydd ag anabledd dysgu yn ogystal ag afiechyd meddwl,
gynnwys mwy na 15 o leoedd cymeradwy.
(b)rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na chaiff ysbyty annibynnol sy'n darparu, neu'n bwriadu darparu, llety dros nos i glaf sydd wedi ei ddiagnosio ag anableddau dysgu nad yw'n dod o fewn is-baragraff (1)(a), am 12 mis yn olynol neu fwy, gynnwys mwy na 10 lle cymeradwy.
(c)rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, pan fo'n rhesymol ymarferol, y darperir y lleoedd cymeradwy y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) mewn dwy neu ragor o unedau o'r ysbyty annibynnol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys