Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 6

ATODLEN 1Gwybodaeth sydd i'w Chynnwys yn y Datganiad o Ddiben

1.  Nodau ac amcanion y sefydliad neu'r asiantaeth.

2.  Enw, cyfeiriad a manylion cyswllt teleffon, ffacs a phost electronig (os oes rai) y darparwr cofrestredig ac unrhyw reolwr cofrestredig.

3.  Cymwysterau perthnasol a phrofiad perthnasol y darparwr cofrestredig ac unrhyw reolwr cofrestredig.

4.  Yn achos corff, manylion swyddogaethau a chyfrifoldebau'r unigolyn cyfrifol o fewn y corff.

5.  Nifer, cymwysterau perthnasol a phrofiad y staff sy'n gweithio yn y sefydliad neu at ddibenion yr asiantaeth.

6.  Strwythur trefniadol y darparwr cofrestredig.

7.  Y mathau o driniaeth, cyfleusterau a'r holl wasanaethau eraill y darperir ar eu cyfer yn, neu at ddibenion y sefydliad neu'r asiantaeth, gan gynnwys manylion yr ystod o anghenion y bwriadwyd i'r gwasanaethau hynny eu bodloni ac sydd ar gael er budd y cleifion.

8.  The trefniadau a wnaed ar gyfer ceisio safbwyntiau'r cleifion ynglŷn ag ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan y sefydliad neu'r asiantaeth.

9.  Y trefniadau a wnaed ar gyfer cyswllt rhwng unrhyw gleifion mewnol a'u perthnasau, cyfeillion a chynrychiolwyr, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar oriau ymweld.

10.  Y trefniadau ar gyfer delio â chwynion, fel a bennir yn rheoliad 24.

11.  Y trefniadau ar gyfer parchu preifatrwydd ac urddas cleifion.

12.  Y dyddiad yr ysgrifennwyd y datganiad o ddiben, ac os diwygir ef yn unol â rheoliad 8(a), dyddiad y cyfryw ddiwygio.

Rheoliadau 10(3), 12(2) a 21(2)

ATODLEN 2Yr wybodaeth sy'n ofynnol ynglŷn â phersonau sy'n bwriadu rhedeg, rheoli neu weithio mewn sefydliad neu asiantaeth

1.  Prawf pendant o bwy yw'r person, gan gynnwys ffotograff diweddar.

2.  Naill ai—

(a)pan fo angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu pan fo'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanylach a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(1), sy'n cynnwys, fel y bo'n gymwys, gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) neu'r ddwy, a rhaid bod llai na thair blynedd wedi mynd heibio er pan ddyroddwyd y dystysgrif; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997, a rhaid bod llai na thair blynedd wedi mynd heibio er pan ddyroddwyd y dystysgrif,

ac mae cyfeiriadau at Ddeddf yr Heddlu 1997 yn cynnwys cyfeiriadau at y Ddeddf honno fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

3.  Naill ai—

(a)pan fo angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu pan fo'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanylach a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n cynnwys, fel y bo'n gymwys, gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno); neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997,

ac mae cyfeiriadau at Ddeddf yr Heddlu 1997 yn cynnwys cyfeiriadau at y Ddeddf honno fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

4.  Geirdaon ysgrifenedig oddi wrth y naill a'r llall o ddau gyflogwr diweddaraf y person.

5.  Os bu'r person yn gweithio'n flaenorol mewn swydd a oedd yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rhesymau pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben.

6.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

7.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

8.  Os yw'r person yn broffesiynolyn gofal iechyd, manylion cofrestriad y person gyda'r corff (os oes un) sy'n gyfrifol am reoleiddio aelodau o'r proffesiwn gofal iechyd hwnnw.

Rheoliad 23(1), (3)

ATODLEN 3

RHAN 1Y cyfnod y mae'n rhaid dal gafael ar Gofnodion Meddygol

Math o glafCyfnod dal gafael lleiaf

(a)Claf a oedd o dan 17 oed ar y dyddiad pan ddaeth y driniaeth y mae'r cofnodion yn cyfeirio ati i ben.

Hyd at ben-blwydd y claf yn 25

(b)Claf a oedd yn 17 oed ar y dyddiad pan ddaeth y driniaeth y mae'r cofnodion yn cyfeirio ati i ben.

Hyd at ben-blwydd y claf yn 26

(c)Claf a fu farw cyn cyrraedd 18 oed

Cyfnod o 8 mlynedd sy'n dechrau ar ddyddiad marwolaeth y claf

(ch)Claf a dderbyniodd driniaeth am anhwylder meddwl yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato yn y cofnodion

Cyfnod o 20 mlynedd sy'n dechrau ar ddyddiad yr eitem olaf yn y cofnod

(d)Claf a dderbyniodd driniaeth ar gyfer anhwylder meddwl yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato yn y cofnodion ac a fu farw tra'n derbyn y driniaeth honno

Cyfnod o 8 mlynedd sy'n dechrau ar ddyddiad marwolaeth y claf

(dd)Claf y mae ei gofnodion yn ymwneud â thriniaeth gan ymarferydd cyffredinol

Cyfnod o 10 mlynedd sy'n dechrau ar ddyddiad yr eitem olaf yn y cofnod

(e)Claf a gafodd drawsblaniad organ

Cyfnod o 11 mlynedd sy'n dechrau ar ddyddiad marwolaeth y claf neu ei ryddhau, pa un bynnag yw'r cynharaf

(f)Cleifion sy'n cymryd rhan mewn treialon clinigol

Cyfnod o 15 mlynedd sy'n dechrau ar ddyddiad cwblhau'r driniaeth

(ff)Pob achos arall

Cyfnod o 8 mlynedd sy'n dechrau ar ddyddiad yr eitem olaf yn y cofnod

RHAN 11Cofnodion sydd i'w cynnal ar gyfer Arolygu

1.  Cofrestr o'r cleifion, sy'n cynnwys—

(a)enw, cyfeiriad, rhif teleffon, dyddiad geni a statws priodasol neu bartneriaeth sifil pob claf;

(b)enw, cyfeiriad a rhif teleffon perthynas agosaf y claf neu unrhyw berson a awdurdodir gan y claf i weithredu ar ran y claf;

(c)enw, cyfeiriad a rhif teleffon ymarferydd cyffredinol y claf;

(ch)pan fo'r claf yn blentyn, enw a chyfeiriad yr ysgol lle mae'r plentyn yn ddisgybl, neu lle bu'n ddisgybl cyn ei dderbyn i sefydliad;

(d)pan fo claf wedi ei dderbyn i warcheidiaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, enw, cyfeiriad a rhif teleffon y gwarcheidwad;

(dd)enw a chyfeiriad unrhyw gorff a drefnodd bod y claf yn cael ei dderbyn neu a drefnodd ei driniaeth;

(e)y dyddiad y derbyniwyd y claf i sefydliad, neu y cafodd y driniaeth a ddarparwyd at ddibenion sefydliad neu at ddibenion asiantaeth am y tro cyntaf;

(f)natur y driniaeth a gafodd y claf, neu y'i derbyniwyd ar ei chyfer;

(ff)os bu'r claf yn glaf mewnol mewn ysbyty annibynnol, y dyddiad y'i rhyddhawyd;

(g)os trosglwyddwyd y claf i ysbyty (gan gynnwys ysbyty gwasanaeth iechyd), dyddiad y trosglwyddiad, y rhesymau dros y trosglwyddiad ac enw'r ysbyty y trosglwyddwyd y claf iddo;

(h)os bydd farw'r claf tra mewn sefydliad neu yn ystod triniaeth a ddarperir at ddibenion sefydliad neu asiantaeth, dyddiad, amser ac achos ei farwolaeth.

2.  Cofrestr o'r holl driniaethau llawfeddygol a gyflawnir mewn sefydliad, sy'n cynnwys—

(a)enw'r claf y cyflawnwyd y llawdriniaeth arno;

(b)natur y weithdrefn lawdriniaethol a'r dyddiad y digwyddodd;

(c)enw'r ymarferydd meddygol neu'r deintydd a gyflawnodd y llawdriniaeth;

(ch)enw'r anesthetydd a oedd yn bresennol;

(d)enw a llofnod y person a oedd yn gyfrifol am wirio bod pob nodwydd, swab a chyfarpar a ddefnyddiwyd yn y llawdriniaeth wedi'u cymryd yn ôl o'r claf;

(dd)manylion pob dyfais feddygol a fewnblannwyd yn y claf, ac eithrio pan olygai hynny ddatgelu gwybodaeth yn groes i ddarpariaethau adran 33A(1)(e), (f) ac (g) o Ddeddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 1990(2) (datgelu gwybodaeth).

3.  Cofrestr o bob cyfarpar mecanyddol a thechnegol a ddefnyddir at ddibenion triniaethau a ddarperir gan y sefydliad, sy'n cynnwys—

(a)dyddiad prynu'r cyfarpar;

(b)dyddiad gosod y cyfarpar;

(c)manylion cynnal a chadw'r cyfarpar a'r dyddiadau pan wnaed gwaith cynnal a chadw.

4.  Cofrestr o bob digwyddiad y mae'n rhaid hysbysu'r awdurdod cofrestru ohonynt yn unol â rheoliadau 29 a 30.

5.  Cofnod o'r shifftiau rota a drefnwyd ar gyfer pob cyflogai a chofnod o'r oriau a weithiodd bob person mewn gwirionedd.

6.  Cofnod o bob person a gyflogir yn y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad neu at ddiben yr asiantaeth, a rhaid i'r cofnod hwnnw gynnwys y materion canlynol mewn perthynas ag unigolyn a ddisgrifir yn rheoliad 21(1)—

(a)enw a dyddiad geni y person;

(b)manylion swydd y person yn y sefydliad;

(c)dyddiadau ei gyflogaeth; ac

(ch)yn achos proffesiynolyn gofal iechyd, manylion ei gymwysterau proffesiynol perthnasol a chofrestriad y person gyda'r corff rheoleiddiol proffesiynol perthnasol.

Rheoliad 43(5)

ATODLEN 4

RHAN 1Y manylion sydd i'w cofnodi mewn perthynas â chleifion sy'n cael gwasanaethau obstetrig

1.  Dyddiad ac amser geni plentyn pob claf, nifer y plant a anwyd i'r claf, rhyw pob plentyn, a pha un a oedd yr enedigaeth yn enedigaeth fyw neu'n farw-enedigaeth.

2.  Enw a chymwysterau'r person a fu'n colwyno'r claf.

3.  Dyddiad ac amser unrhyw gamesgor a ddigwyddodd yn yr ysbyty.

4.  Y dyddiad y mae unrhyw blentyn a enir i glaf yn gadael yr ysbyty.

5.  Os bu farw yn yr ysbyty unrhyw blentyn a aned i glaf, dyddiad ac amser ei farwolaeth.

RHAN IIY manylion sydd i'w cofnodi mewn perthynas â phlentyn a enir mewn ysbyty annibynnol

6.  Manylion pwysau a chyflwr y plentyn adeg yr enedigaeth.

7.  Datganiad dyddiol o iechyd y plentyn.

8.  Os cyflawnir unrhyw archwiliad pediatrig sy'n cynnwys unrhyw un o'r gweithdrefnau canlynol—

(a)archwilio am annormaledd cynhwynol gan gynnwys datgymaliad cynhwynol o'r glun;

(b)mesur cylchedd pen y plentyn;

(c)mesur hyd y plentyn;

(ch)sgrinio am ffenylcetonwria;

(d)sgrinio am hypothyroidedd cynhwynol;

(dd)sgrinio am ffibrosis systig;

(e)sgrinio am glefyd cryman-gell;

(f)sgrinio am y diffyg dehydrogenas acyl-CoA cadwyn-ganolig;

manylion y cyfryw archwiliad a'r canlyniad.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill