Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 1944 (Cy.211)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011

Gwnaed

29 Gorffennaf 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Awst 2011

Yn dod i rym

1 Medi 2011

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(5), 408, 537(1) i (8), a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi ac adrannau 92 a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(2) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt(3), ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd yn ymddangos iddynt bod ymgynghori â hwy yn beth dymunol, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 ac maent yn dod i rym ar 1 Medi 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Mae'r rheoliadau a osodir yn Atodlen 1 wedi eu dirymu.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —

ystyr “absenoldeb anawdurdodedig” (“unauthorised absence”) yw achlysur pan gofnodir bod disgybl yn absennol heb awdurdod yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010(4) a bydd “absenoldeb awdurdodedig” (“authorised absence”) yn cael ei ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “arholiadau cyhoeddus” (“public examinations”) yw arholiadau cyhoeddus a ragnodir am y tro gan reoliadau a wnaed o dan adran 408, 451, 453 neu 454 o Ddeddf 1996(5);

ystyr “blwyddyn adrodd ysgol” (“reporting school year”) yw'r flwyddyn ysgol yn union o flaen blwyddyn gyhoeddi'r ysgol;

ystyr “blwyddyn dderbyn ysgol” (“admission school year”) yw blwyddyn ysgol y caiff disgyblion, ar ddechrau'r flwyddyn ysgol honno, eu derbyn i unrhyw ysgol o ganlyniad i drefniadau derbyn a gafodd eu penderfynu ar gyfer y flwyddyn honno;

ystyr “blwyddyn gyhoeddi ysgol” (“publication school year”) yw'r flwyddyn ysgol yn union o flaen blwyddyn dderbyn yr ysgol;

ystyr “blwyddyn ysgol flaenorol” (“previous school year”) yw'r flwyddyn ysgol yn union o flaen blwyddyn adrodd yr ysgol;

ystyr “capasiti” (“capacity”) yw nifer y disgyblion y caniateir eu derbyn i ysgol yn unol â'r dull asesu capasiti a osodir yn y ddogfen gyfarwyddyd “Mesur Capasiti Ysgolion yng Nghymru” a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru(6);

ystyr “categori iaith” (“language category) yw'r categori a ddefnyddir i ddiffinio math a rhychwant yr addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir gan ysgol a gynhelir fel a osodir yn y ddogfen “Diffinio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg” a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru fel Cylchlythyr 023/2007(7);

ystyr “cyfnod allweddol” (“key stage”) yw unrhyw un neu ragor o'r cyfnodau a nodir ym mharagraffau (a) i (d) yn eu trefn o adran 103(1) o Ddeddf 2002;

mae “cyfnod sylfaen” i'w ddehongli yn unol â “foundation phase” yn adran 102 o Ddeddf 2002;

ystyr “datganiad CYBLD” (“PLASC return”) yw cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion a gwblheir gan gyrff llywodraethu ysgolion a'i gyflwyno i Weinidogion Cymru ar sail flynyddol(8);

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning”) yw proses o weithgareddau cynlluniedig a gyflenwir yn y gweithle ac a luniwyd yn arbennig i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a chymwyseddau sy'n berthnasol i alwedigaeth benodol yn y farchnad lafur, neu sy'n gyffredinol yn berthnasol er mwyn cyfranogi'n effeithiol yn y farchnad lafur;

ystyr “DEWi” (“DEWi”) yw cronfa ddata menter cyfnewid data Cymru a gynhelir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru(9);

ystyr “nifer derbyn” (“admission number”) yw nifer y disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn perthnasol y bwriedir eu derbyn mewn unrhyw flwyddyn ysgol fel a benderfynir gan awdurdod derbyn yn unol ag adran 89(1) ac 89A(1) o Ddeddf 1998 (10);

mae i “plant sy'n derbyn gofal” yr ystyr a roddir i “looked after children” yn adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989(11);

ystyr “prosbectws cyfansawdd” (“composite prospectus”) yw dogfen a gyhoeddir yn unol â rheoliad 4;

ystyr “prosbectws ysgol” (“school prospectus”) yw'r ddogfen a ddisgrifir yn rheoliad 8;

ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig na chafodd ei sefydlu mewn ysbyty ac eithrio unrhyw ysgol feithrin ond gan gynnwys, ac eithrio yn Rhannau 3 a 4 neu os dywedwyd fel arall, unrhyw uned cyfeirio disgyblion; ac

ystyr “ysgol arbennig nas cynhelir” (“non-maintained special school”) yw ysgol arbennig nas cynhelir gan awdurdod lleol ac nas sefydlwyd mewn ysbyty.

(2Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at ddyddiad erbyn pryd y caiff rhieni fynegi eu dewis o ysgol yn gyfeiriad at y dyddiad y dylai rhiant, ar neu cyn y dyddiad hwnnw, yn unol â threfniadau a wnaed gan yr awdurdod lleol perthnasol o dan adran 86(1) o Ddeddf 1998(12), sy'n dymuno bod addysg yn cael ei darparu i'w blentyn wrth i'r awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau fynegi'r cyfryw ddewis.

(3Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at ddyddiad erbyn pryd y caiff plentyn fynegi ei ddewis o ysgol y darperir addysg chweched dosbarth ynddi ar gyfer y plentyn hwnnw yn gyfeiriad at y dyddiad y dylai plentyn, ar neu cyn y dyddiad hwnnw, yn unol â threfniadau a wnaed gan yr awdurdod lleol perthnasol o dan adran 86A(1) o Ddeddf 1998(13), sy'n dymuno bod addysg yn cael ei darparu iddo wrth i'r awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau fynegi'r cyfryw ddewis.

(4Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriadau at ddisgyblion mewn oedran penodol yn gyfeiriad at ddisgyblion sydd wedi cyrraedd yr oedran hwnnw yn ystod y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Awst yn union cyn dechrau blwyddyn adrodd yr ysgol ac a oedd yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar y trydydd dydd Iau yn Ionawr ym mlwyddyn adrodd yr ysgol.

(5Yn y Rheoliadau hyn, oni nodir fel arall, pan na fo canran y mae'n ofynnol ei chyfrifo yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn rhif cyfan, caiff ei dalgrynnu i'r rhif cyfan agosaf, a bydd ffracsiwn o hanner yn cael ei dalgrynnu i fyny i'r rhif cyflawn nesaf.

Gosod amod ar y dyletswyddau

3.  Dim ond i'r graddau bod yr wybodaeth ar gael i'r corff llywodraethu, yr awdurdod lleol neu'r pennaeth (yn ôl y digwydd) mewn da bryd iddi fod yn rhesymol ymarferol i'r wybodaeth gael ei darparu neu gael ei chyhoeddi cyn yr achlysur olaf y mae'n ofynnol bod yr wybodaeth yn cael ei darparu neu'n cael ei chyhoeddi arno, yn ôl y digwydd, y mae'r dyletswyddau a osodir ar benaethiaid, cyrff llywodraethu, ac awdurdodau lleol gan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â darparu neu gyhoeddi gwybodaeth, yn gymwys.

RHAN 2Prosbectws cyfansawdd i'w gyhoeddi gan awdurdodau lleol

Awdurdodau lleol i gyhoeddi prosbectws cyfansawdd

4.—(1Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi mewn dogfen gyfansawdd yr wybodaeth sy'n ofynnol gan y rheoliad hwn ynglŷn â phob ysgol a gynhelir yn ardal y prosbectws cyfansawdd.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, cwmpesir “ardal y prosbectws cyfansawdd” fel a ganlyn—

(a)ardal yr awdurdod lleol sy'n cyhoeddi'r ddogfen; a

(b)yr holl rannau hynny o'r ardaloedd perthnasol priodol sy'n ymestyn y tu hwnt i ardal yr awdurdod lleol.

(3At ddibenion paragraff (2)(b), ystyr “ardal berthnasol briodol” yw unrhyw ardal berthnasol (o fewn ystyr adran 89(3) o Ddeddf 1998(14)) sy'n gymwys ar gyfer ymgynghori ynghylch y trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol sy'n cyhoeddi'r ddogfen.

(4Caiff awdurdod lleol, os yw'n dymuno hynny, gyflawni ei rwymedigaeth o dan baragraff (1) drwy gyhoeddi prosbectysau cyfansawdd ar wahân sy'n cwmpasu yn eu trefn ysgolion cynradd, ysgolion canol ac ysgolion uwchradd(15).

(5Rhaid i'r prosbectws cyfansawdd gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 2.

(6Rhaid i amser a dull cyhoeddi gwybodaeth a manylion o'r fath fod yn unol â rheoliad 5.

Amser a dull cyhoeddi prosbectws cyfansawdd

5.—(1Rhaid cyhoeddi prosbectws cyfansawdd cyn 1 Hydref ym mlwyddyn gyhoeddi'r ysgol a heb fod yn hwyrach na chwe wythnos cyn y dyddiad erbyn pryd y caiff rhieni fynegi eu dewis o ysgol mewn perthynas â blwyddyn dderbyn yr ysgol.

(2Rhaid cyhoeddi prosbectws cyfansawdd—

(a)drwy drefnu bod copïau ar gael i'w dosbarthu'n ddi-dâl i rieni pan ofynnir amdanynt—

(i)yn swyddfeydd yr awdurdod lleol sy'n ei gyhoeddi, a

(ii)ym mhob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol hwnnw; a

(b)drwy drefnu bod copïau ar gael y gall rhieni a phersonau eraill gyfeirio atynt yn y llyfrgelloedd cyhoeddus yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw;

(c)drwy fod copïau'n cael eu dosbarthu'n ddi-dâl i rieni a disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, heblaw ysgolion arbennig neu unedau cyfeirio disgyblion, sydd ym mlwyddyn gyhoeddi'r ysgol, yn y flwyddyn olaf yn yr ysgolion hynny ac a allent drosglwyddo i ysgolion eraill o'r fath a gynhelir; ac

(ch)drwy arddangos copi ar wefan yr awdurdod lleol.

(3Rhaid i brosbectws cyfansawdd a gyhoeddir o dan baragraff (2)(ch) mewn perthynas â blwyddyn ysgol gael ei arddangos ar y wefan nes iddo gael ei ddisodli gan brosbectws cyfansawdd ar gyfer y flwyddyn ysgol sy'n dilyn.

RHAN 3Gwybodaeth y mae'n rhaid i gyrff llywodraethu drefnu iddi fod ar gael i'r awdurdodau lleol

Darparu gwybodaeth ar gyfer prosbectws cyfansawdd

6.—(1At ddibenion galluogi'r awdurdod lleol i gydymffurfio â'i rwymedigaeth o dan reoliad 4, rhaid i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir sydd i'w chynnwys mewn dogfen o dan y rheoliad hwnnw, o ran pob blwyddyn dderbyn ysgol, drefnu bod yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 2 ar gael i'r awdurdod lleol o dan sylw.

(2Rhaid trefnu bod yr wybodaeth honno ar gael heb fod yn hwyrach na'r amser hwnnw cyn yr amser sy'n ofynnol ar gyfer cyhoeddi'r ddogfen y bo'r awdurdod lleol yn rhesymol ofyn amdano.

(3O ran ysgol y mae'r awdurdod lleol yn awdurdod derbyn(16) iddi, dim ond yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 2 ac y mae'r awdurdod lleol yn gofyn amdani y mae angen i'r corff llywodraethu ei darparu.

RHAN 4Gwybodaeth sydd i'w chyhoeddi gan gyrff llywodraethu

Gwybodaeth gyffredinol sydd i'w chyhoeddi gan gyrff llywodraethu am eu hysgolion

7.—(1Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gyhoeddi mewn perthynas â'r ysgol honno yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 3.

(2Rhaid cyhoeddi'r wybodaeth fel a ddarperir yn rheoliad 8.

Amser a dull cyhoeddi gwybodaeth gan gyrff llywodraethu am eu hysgolion

8.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chyhoeddi gan gorff llywodraethu (neu gan awdurdod lleol ar ei ran yn unol ag adran 92(c) o Ddeddf 1998) yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 3.

(2O ran yr wybodaeth honno—

(a)rhaid ei chyhoeddi yn gyfunol ar ffurf dogfen unigol a elwir y prosbectws ysgol; a

(b)rhaid dosbarthu copïau o'r prosbectws ysgol yn ddi-dâl i rieni pan ofynnir amdanynt a rhaid trefnu eu bod ar gael yn yr ysgol fel y gall rhieni a phersonau eraill gyfeirio atynt.

(3Rhaid cyhoeddi'r wybodaeth honno a'r manylion hynny yn ystod blwyddyn gyhoeddi'r ysgol, ac eithrio yn achos ysgol gynradd (heblaw ysgol ganol y bernir ei bod yn ysgol gynradd) neu ysgol arbennig, heb fod yn hwyrach na chwe wythnos cyn y cynharaf o'r dyddiadau a ganlyn—

(a)y dyddiad erbyn pryd y dylid gwneud cais i ddisgybl gael ei dderbyn i'r ysgol honno ynglŷn â blwyddyn dderbyn yr ysgol yn unol â threfniadau derbyn yr ysgol honno; neu

(b)y dyddiad erbyn pryd y caiff rhieni fynegi eu dewis ar gyfer ysgol mewn perthynas â blwyddyn dderbyn yr ysgol.

(4Yn achos ysgol arbennig rhaid cyhoeddi'r wybodaeth hefyd drwy fod copïau ar gael i'w dosbarthu yn ddi-dâl i rieni pan ofynnir amdanynt ac ar gael fel y gall rhieni a phersonau eraill gyfeirio atynt yn swyddfeydd yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol.

(5Yn achos unrhyw ysgol uwchradd a gynhelir, rhaid darparu copi o brosbectws yr ysgol yn ddi-dâl i swyddfeydd y personau yn yr ardal y mae'r ysgol yn ei gwasanaethu sy'n darparu gwasanaethau gyrfaol yn unol â threfniadau a wnaed, neu gyfarwyddiadau a roddwyd, o dan adran 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(17).

RHAN 5Atodol

Darpariaethau atodol sy'n ymwneud â dogfennau a gyhoeddwyd

9.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddogfen sy'n cynnwys yr wybodaeth honno neu'r manylion hynny a grybwyllir yn y darpariaethau blaenorol yn y Rheoliadau hyn ac a gyhoeddir yn unol â'r darpariaethau hynny.

(2Rhaid i ddogfen o'r fath ddatgan y flwyddyn ysgol y mae'r wybodaeth neu'r manylion a geir ynddi yn berthnasol ar ei chyfer a rhaid i'r ddogfen gynnwys rhybudd, er eu bod yn gywir mewn perthynas â'r flwyddyn honno ar ddyddiad a bennir yn y ddogfen (heb fod yn gynharach na chwe mis cyn dyddiad ei chyhoeddi), na ddylid tybio na fydd unrhyw newid yn effeithio ar y trefniadau perthnasol neu ryw fater y manylir arno—

(a)cyn dechrau, neu yn ystod, y flwyddyn ysgol o dan sylw; neu

(b)mewn perthynas â blynyddoedd ysgol ar ôl hynny.

Cyfieithu dogfennau

10.—(1Os cyhoeddir unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei chyhoeddi neu drefnu ei bod ar gael i'w harchwilio o dan y Rheoliadau hyn yn y Gymraeg, yna os yw'n ymddangos ei bod yn angenrheidiol i awdurdod lleol neu, yn ôl y digwydd, i gorff llywodraethu, y dylid cyfieithu'r ddogfen i Saesneg, rhaid ei chyfieithu a bydd y ddogfen a gyfieithwyd yn cael ei chyhoeddi yn y dull y mae'n ymddangos i'r awdurdod lleol neu i'r corff llywodraethu ei fod yn briodol.

(2Os cyhoeddir unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei chyhoeddi neu drefnu ei bod ar gael i'w harchwilio o dan y Rheoliadau hyn yn Saesneg, yna os yw'n ymddangos ei bod yn angenrheidiol i awdurdod lleol neu, yn ôl y digwydd, i gorff llywodraethu, y dylid cyfieithu'r ddogfen i'r Gymraeg, rhaid ei chyfieithu a bydd y ddogfen a gyfieithwyd yn cael ei chyhoeddi yn y dull y mae'n ymddangos i'r awdurdod lleol neu i'r corff llywodraethu ei fod yn briodol.

(3Os yw'n ymddangos i awdurdod lleol, neu yn ôl y digwydd, i gorff llywodraethu bod angen cyfieithu unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei chyhoeddi neu drefnu ei bod ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd o dan y Rheoliadau hyn i iaith ac eithrio'r Gymraeg neu Saesneg, neu os dylai fod fersiwn Braille neu dâp sain o'r ddogfen honno ar gael, bydd yn cael ei chyfieithu i'r iaith honno neu ei chynhyrchu mewn Braille neu dâp sain, yn ôl y digwydd, a rhaid i'r ddogfen a gyfieithwyd neu a gynhyrchwyd mewn Braille neu dâp sain gael ei chyhoeddi yn y dull y mae'n ymddangos i'r awdurdod lleol neu i'r corff llywodraethu ei fod yn briodol.

(4Ni chaniateir codi tâl ar rieni am gopi o unrhyw ddogfen a gyfieithwyd neu a gynhyrchwyd mewn fersiwn Braille neu dâp sain yn unol â pharagraffau (1) i (3) os oes ganddynt hawl, yn ddi-dâl, i gopi o'r ddogfen wreiddiol.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

29 Gorffennaf 2011

Rheoliad 1

ATODLEN 1Rheoliadau a ddirymwyd

Rheoliadau a ddirymwydCyfeirnodauRhychwant y dirymiad
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999O.S. 1999/1812Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2001O.S. 2001/1111 (Cy.55)Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (Diwygiadau Canlyniadol) (Ysgolion) (Cymru) 2001O.S. 2001/3710 (Cy.306)Rheoliad 9
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2002O.S. 2002/1400 (Cy.139)Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2004O.S. 2004/1736 (Cy.179)Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004O.S. 2004/2914 (Cy.253)Rheoliad 3
Rheoliadau Trefniadau Asesu y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2005O.S. 2005/1396 (Cy.110)Rheoliad 3
Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005O.S. 2005/3238 (Cy.243)Paragraff 15 o Atodlen 2
Gorchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005O.S. 2005/3239 (Cy.244)Paragraff 3 o Atodlen 2
Rheoliadau Gwybodaeth am Deithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2009O.S. 2009/569 (Cy.53)Rheoliad 2
Rheoliadau Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2010O.S. 2010/2431 (Cy.209)Rheoliad 4

Rheoliad 4

ATODLEN 2GWYBODAETH GYFFREDINOL I'W CHYHOEDDI GAN AWDURDODAU LLEOL YN Y PROSBECTWS CYFANSAWDD

RHAN 1Materion amrywiol

1.  Cyfeiriadau post a gwefannau a rhifau ffôn swyddfeydd yr awdurdod lleol y dylid cyfeirio ymholiadau atynt, o ran addysg gynradd ac uwchradd yn ardal yr awdurdod lleol.

2.  O ran pob ysgol (heblaw uned cyfeirio disgyblion) a grybwyllir yn y prosbectws cyfansawdd—

(a)enw, cyfeiriad a rhif ffôn yr ysgol ynghyd ag enw'r person y dylid anfon ymholiadau ato;

(b)ystod oedran y disgyblion yn yr ysgol;

(c)nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar 31 Ionawr yn y flwyddyn yn union o flaen blwyddyn gyhoeddi'r ysgol;

(ch)capasiti'r ysgol (heblaw ysgol arbennig) ar 31 Ionawr yn y flwyddyn yn union o flaen blwyddyn gyhoeddi'r ysgol;

(d)y nifer derbyn ar gyfer pob grŵp oedran perthnasol yn yr ysgol (heblaw ysgol arbennig);

(dd)y nifer derbyn ar ddechrau'r flwyddyn ysgol yn union ar ôl blwyddyn adrodd yr ysgol;

(e)nifer y ceisiadau ysgrifenedig am leoedd ar ddechrau'r flwyddyn honno neu (fel y bo'n briodol) y dewisiadau a fynegwyd ar gyfer lleoedd yn yr ysgol yn unol â threfniadau a wnaed gan yr awdurdod lleol perthnasol o dan adrannau 86(1) neu 86A(1) o Ddeddf 1998; ac

(f)nifer yr apelau a wnaed yn unol ag adran 94 o Ddeddf 1998(18) cyn dechrau'r flwyddyn ysgol ddiweddaraf a nifer yr apelau hynny a fu'n llwyddiannus.

3.  Dosbarthiad pob ysgol o'r fath (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) fel—

(a)ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol wirfoddol a reolir, ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig(19);

(b)ysgol gynradd, ysgol ganol neu ysgol uwchradd;

(c)ysgol gyfun, ysgol ramadeg neu ysgol sy'n dethol yn rhannol;

(ch)ysgol gydaddysgol neu ysgol un rhyw;

(d)ysgol ddydd neu ysgol fyrddio neu ysgol sy'n derbyn disgyblion dydd a disgyblion byrddio,

ac eithrio at ddibenion is-baragraffau (b) a (c) caniateir defnyddio terminoleg arall.

4.  Y categori iaith a ddefnyddiwyd gan y corff llywodraethu yn y datganiad CYBLD diweddaraf a oedd yn disgrifio'r ysgol yn fwyaf cywir.

5.  Y trefniadau derbyn a benderfynir ar gyfer yr ysgol mewn perthynas â phob oedran pan gaiff disgyblion eu derbyn i'r ysgol (gan gynnwys oedrannau dros ac o dan oedran ysgol gorfodol), gan gynnwys datganiad o'r polisïau a'r gweithdrefnau a fabwysiadwyd i alluogi rhieni neu ddisgyblion i fynegi eu dewis yn unol â threfniadau a wnaed gan awdurdod lleol o dan adran 86(1) ac 86A(1), yn eu trefn, o Ddeddf 1998 neu i apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod lle.

6.  Cysylltiadau, os oes rhai, pob ysgol o'r fath ag enwad crefyddol penodol.

7.  Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol o ran defnyddio'r Gymraeg mewn ysgolion a gynhelir ganddo ac eithrio ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir—

(a)yn ardal gyfan yr awdurdod lleol neu mewn rhannau gwahanol ohoni;

(b)ym mhob ysgol o'r fath neu mewn mathau gwahanol o ysgolion; ac

(c)gan ddisgyblion o bob oedran neu grwpiau oedran penodol.

8.  Manylion unrhyw esemptiadau o'r Cwricwlwm Cenedlaethol ynglŷn â'r Gymraeg o dan adrannau 112, 113 neu 114(20) o Ddeddf 2002 sy'n effeithio ar ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, gan bennu natur yr esemptiad a'r ysgolion yr effeithir arnynt (ond heb fod modd adnabod disgyblion unigol yr effeithir arnynt).

9.  Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol o ran darparu bwyd a diod drwy gydol y diwrnod ysgol gan gynnwys, yn benodol, peidio â chodi tâl am y cyfan neu am ran o'r ddarpariaeth.

10.  Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol o ran darparu dillad ysgol (gan gynnwys gwisg ysgol a dillad hyfforddiant corfforol) a rhoi grantiau i dalu treuliau ynglŷn â dillad o'r fath ac, yn benodol, y cyfeiriad y gall rhieni gael gwybodaeth fanwl ohono o ran y cymorth sydd ar gael a'r cymhwystra ar ei gyfer.

11.  Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol o ran—

(a)rhoi grantiau i dalu treuliau (ac eithrio'r rheini a grybwyllir ym mharagraffau 9 a 10); a

(b)rhoi lwfansau yn achos disgyblion sydd dros oedran ysgol gorfodol;

ac, yn benodol, y cyfeiriad y gall rhieni gael gwybodaeth fanwl ohono o ran y cymorth sydd ar gael a'r cymhwystra ar ei gyfer.

12.  Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol o ran cofnodi enwau disgyblion ar gyfer arholiadau cyhoeddus.

13.  Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol o ran darparu addysg arbennig i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig gan gynnwys, yn benodol, y trefniadau ar gyfer rhieni i gael gwybodaeth am y materion a grybwyllir yn Rhan 2 o'r Atodlen hon.

14.  Y trefniadau ar gyfer rhieni ac eraill i gael copïau o'r polisïau ar godi tâl a pheidio â chodi tâl a benderfynir gan yr awdurdod lleol o dan adran 457 o Ddeddf 1996 a chyfeirio at fanylion y polisïau hynny(21).

RHAN 2Darpariaeth addysgol arbennig

15.  Trefniadau a pholisïau manwl yr awdurdod lleol o ran—

(a)adnabod ac asesu plant ag anghenion addysgol arbennig a chyfranogiad rhieni yn y broses honno;

(b)y ddarpariaeth a wneir mewn ysgolion arbennig a gynhelir ganddo a'r defnydd a wneir ganddo o ysgolion arbennig a gynhelir gan awdurdodau lleol eraill;

(c)darparu addysg arbennig ar wahân i ddarpariaeth mewn ysgol;

(ch)y defnydd o ysgolion arbennig nas cynhelir ac ysgolion annibynnol wrth ddarparu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig; a

(d)galluogi rhieni sy'n ystyried y gallai fod gan eu plentyn anghenion addysgol arbennig i gael cyngor a gwybodaeth bellach.

16.  Y trefniadau ar gyfer rhieni i gael yr wybodaeth a osodir yn Atodlen 3 yn achos ysgolion arbennig a ddefnyddir gan yr awdurdod lleol sy'n ysgolion a gynhelir ganddo neu gan awdurdodau leol eraill.

RHAN 3Darpariaeth eithriadol o addysg mewn ysgol neu yn rhywle arall

17.  Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol o ran y ddarpariaeth addysg y mae adran 19 o Ddeddf 1996(22) yn gymwys iddi.

18.  Bydd newidiadau i unrhyw fater yn yr Atodlen hon y penderfynwyd arnynt yn cael eu gwneud ar ôl dechrau'r flwyddyn ysgol y mae'r wybodaeth yn berthnasol iddi.

Rheoliad 7

ATODLEN 3YR WYBODAETH SYDD I'W CHYHOEDDI GAN GYRFF LLYWODRAETHU

1.  Enw, cyfeiriad a rhif ffôn yr ysgol ac enwau'r pennaeth a chadeirydd y corff llywodraethu.

2.  Dosbarthiad yr ysgol yn un o'r canlynol—

(a)ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a reolir, ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig;

(b)ysgol gynradd, ysgol ganol neu ysgol uwchradd;

(c)ysgol gyfun, ysgol ramadeg(23) neu ysgol sy'n dethol yn rhannol;

(ch)ysgol gydaddysgol neu ysgol un rhyw;

(d)ysgol ddydd neu ysgol fyrddio neu ysgol sy'n derbyn disgyblion dydd a disgyblion byrddio;

ac eithrio at ddibenion is-baragraff (b) neu (c) caniateir defnyddio terminoleg arall.

3.  Y categori iaith yn y datganiad CYBLD diweddaraf i Weinidogion Cymru a oedd yn disgrifio'r ysgol yn fwyaf cywir.

4.  O ran ysgolion heblaw ysgolion arbennig, manylion y polisi derbyn a fabwysiadwyd ar gyfer yr ysgol mewn perthynas â phob oedran pan gaiff disgyblion eu derbyn i'r ysgol (gan gynnwys oedrannau dros ac o dan oedran ysgol gorfodol).

5.  Pan fo trefniadau penodedig ar i rieni sy'n ystyried anfon eu plentyn i'r ysgol, i ymweld â'r ysgol, honno, manylion y trefniadau hynny.

6.  Yn achos ysgol uwchradd neu ysgol (ac eithrio ysgol arbennig) sy'n darparu addysg uwchradd, pan fo gwybodaeth ar gael—

(a)nifer y lleoedd ar gyfer pob grŵp oedran perthnasol yn yr ysgol a oedd ar gael ar ddechrau'r flwyddyn ysgol yn union cyn blwyddyn dderbyn yr ysgol;

(b)nifer y ceisiadau ysgrifenedig am leoedd o'r fath o ddechrau'r flwyddyn honno neu (fel y bo'n briodol) dewisiadau a fynegwyd am leoedd o'r fath yn yr ysgol yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 86(1) o Ddeddf 1998;

(c)nifer yr apelau a wnaed yn unol ag adran 94 o Ddeddf 1998 cyn dechrau'r flwyddyn ysgol ddiweddaraf a nifer yr apelau hynny a fu'n llwyddiannus.

7.  Datganiad ar y cwricwlwm ac ar drefn yr addysg a'r dulliau addysgu yn yr ysgol, gan gynnwys manylion unrhyw drefniadau arbennig yn y cwricwlwm neu fel arall ar gyfer categorïau penodol o ddisgyblion, gan gynnwys y rheini â datganiadau anghenion addysgol arbennig a wnaed yn unol ag adran 324 o Ddeddf 1996(24).

8.  Crynodeb o'r polisi a fabwysiadwyd ar gyfer yr ysgol gan y corff llywodraethu mewn perthynas â phlant ag anghenion addysgol arbennig fel y mae'n ymddangos o'r wybodaeth a gyhoeddwyd gan y corff llywodraethu o dan reoliadau 3 i 4 o Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Gwybodaeth) (Cymru) 1999(25).

9.  Datganiad byr ar ethos a gwerthoedd yr ysgol.

10.  Datganiad byr ar bwy a gafodd ei ddynodi yn aelod o'r staff yn yr ysgol a chanddo gyfrifoldeb am hybu cyflawniad addysgol y plant sy'n derbyn gofal a rôl y person hwnnw a datganiad byr ar y polisïau a fabwysiadwyd ar gyfer yr ysgol i gefnogi a hybu cyflawniad addysgol plant sy'n derbyn gofal.

11.  Gwybodaeth am y dull y mae cwynion i'w gwneud o dan drefniadau a wnaed yn unol ag adran 409 o Ddeddf 1996(26).

12.  Crynodeb o gynnwys a threfn y rhan honno o'r cwricwlwm sy'n ymwneud ag addysg rhyw (pan fo addysg o'r fath yn ffurfio rhan o gwricwlwm seciwlar yr ysgol).

13.  Crynodeb o unrhyw addysg gyrfaoedd a ddarperir ac unrhyw drefniadau a wnaed ar gyfer profiadau sy'n canolbwyntio ar waith i ddisgyblion.

14.  Crynodeb o unrhyw nodau chwaraeon gan yr ysgol a'r darpariaethau a wnaed i ddisgyblion yn yr ysgol i gymryd rhan mewn chwaraeon gan gynnwys crynodeb o'r ddarpariaeth a wnaed ar gyfer gweithgareddau chwaraeon allgwricwlaidd.

15.  Cysylltiadau'r ysgol, os oes rhai, â chrefydd benodol neu ag enwad crefyddol penodol.

16.  Heb ragfarnu paragraff 15, crynodeb byr o'r addysg grefyddol a ddarperir yn yr ysgol.

17.  Gwybodaeth am unrhyw drefniadau i riant neu i ddisgybl chweched dosbarth i arfer eu hawliau o dan adran 71 o Ddeddf 1998(27) mewn perthynas â phresenoldeb disgybl mewn addoliad crefyddol neu addysg grefyddol, ac o unrhyw ddarpariaeth amgen a wnaed i'r disgyblion o dan sylw.

18.  Gwybodaeth am unrhyw benderfyniad a wnaed gan gyngor ymgynghorol sefydlog mewn perthynas â'r ysgol o dan adran 394 o Ddeddf 1996(28).

19.  Crynodeb o'r polisïau ar godi tâl a pheidio â chodi tâl a benderfynwyd gan gorff llywodraethu'r ysgol o dan adran 457 o Ddeddf 1996.

20.  Ar gyfer blwyddyn dderbyn yr ysgol—

(a)yr amserau y mae pob sesiwn ysgol yn dechrau ac yn gorffen ar ddiwrnod ysgol; a

(b)dyddiadau gwyliau'r ysgol (gan gynnwys gwyliau hanner tymor) yn ystod blwyddyn dderbyn yr ysgol.

21.  Crynodeb o unrhyw drefniadau arbennig ar gyfer derbyn disgyblion anabl i'r ysgol ac ar gyfer galluogi'r disgyblion hynny i gael mynediad i unrhyw ran o fangreoedd yr ysgol, ynghyd â manylion o unrhyw gamau a gymrwyd i atal disgyblion anabl rhag cael eu trin yn llai ffafriol na disgyblion nad ydynt yn anabl.

22.  Crynodeb o unrhyw bolisïau a fabwysiadwyd gan gorff llywodraethu'r ysgol ynghylch cyfleoedd cyfartal.

23.  Crynodeb o'r trefniadau a wnaed ar gyfer diogelwch disgyblion a staff yn yr ysgol a mangreoedd yr ysgol.

24.  Crynodeb o'r darpariaethau a geir yn y cytundeb cartref-ysgol a fabwysiadwyd gan gorff llywodraethu'r ysgol o dan adran 110(1)(a) o Ddeddf 1998(29).

25.  Newidiadau ynghylch unrhyw fater a grybwyllir yn y paragraffau blaenorol y penderfynwyd y byddant yn cael eu gwneud ar ôl dechrau'r flwyddyn ysgol y mae'r manylion yn berthnasol iddi.

26.—(1Datganiad byr ar y defnydd o'r Gymraeg yn yr ysgol gan ddisgyblion o bob grŵp oedran neu o grwpiau oedran gwahanol gan gynnwys, yn benodol—

(a)y defnydd o'r Gymraeg ym mhob cyfnod allweddol fel yr iaith y rhoddir hyfforddiant ynddi ym mhob pwnc neu yn unrhyw bwnc sy'n ffurfio rhan o'r cwricwlwm a, phan roddir hyfforddiant ym mhob pwnc o'r fath yn y Gymraeg i ba raddau, os yw hyn yn berthnasol, mae hyfforddiant amgen ar gael yn Saesneg yn y pwnc hwnnw;

(b)i ba raddau, os yw hyn yn berthnasol, y Gymraeg yw iaith arferol cyfathrebu yn yr ysgol;

(c)unrhyw gyfyngiad sy'n gymwys i allu rhiant i ddewis yr iaith y rhoddir hyfforddiant ynddi; ac

(ch)disgrifiad byr o'r trefniadau yn yr ysgol i hyrwyddo parhad yn y rhychwant o hyfforddiant yn y Gymraeg ar gyfer disgyblion—

(i)yn ystod y cyfnod y maent wedi eu cofrestru yn yr ysgol; a

(ii)wrth drosglwyddo o'r ysgol, pan fo'r ysgol honno yn ysgol gynradd, i ysgol uwchradd.

(2Manylion unrhyw esemptiadau o'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn Gymraeg o dan adrannau 112, 113 neu 114 o Ddeddf 2002 ond heb fod modd adnabod unrhyw ddisgybl unigol yr effeithir arno.

27.  Yr wybodaeth ysgol gymharol ddiweddaraf mewn perthynas â pherfformiad yr ysgol ar ddiwedd asesiadau'r cyfnod sylfaen ac ar ddiwedd asesiadau'r cyfnod allweddol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ym Menter Cyfnewid Data Cymru

28.  Yn achos ysgol a chanddi ddisgyblion cofrestredig a oedd yn 15 oed neu'n 16 oed ar 1 Medi ar ddechrau'r flwyddyn ysgol flaenorol, nifer y disgyblion hynny a chanran y nifer hwnnw sy'n dod o fewn y categorïau a ganlyn—

(a)personau mewn addysg lawnamser, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith;

(b)personau mewn cyflogaeth;

(c)personau y mae'n hysbys i'r corff llywodraethu nad ydynt yn dod o fewn telerau (a) neu (b) uchod; ac

(ch)personau nad yw'r corff llywodraethu yn gwybod a ydynt yn dod o fewn unrhyw un neu rai o'r categorïau uchod.

29.  Yr wybodaeth yn y ddogfen ddiweddaraf o “Crynodeb o Berfformiad Ysgolion Uwchradd” a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r ysgol ar Menter Cyfnewid Data Cymru.

30.—(1Nifer yr absenoldebau anawdurdodedig a nifer yr absenoldebau awdurdodedig yn ystod blwyddyn adrodd yr ysgol fel canran o gyfanswm y presenoldebau posibl yn ystod y flwyddyn honno.

(2At ddibenion y paragraff hwn ystyr “cyfanswm y presenoldebau posibl” yw'r rhif a geir drwy luosogi nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar ddechrau'r flwyddyn adrodd â nifer y sesiynau ysgol yn y flwyddyn honno.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 29(5), 408, 537(1) i (8) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi, ac adrannau 92 a 138(7) a (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Maent yn rhagnodi gwybodaeth ysgolion y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ac ysgolion ei chyhoeddi mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd 2011-2012 a'r blynyddoedd ar ôl hynny.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddeddfu Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999, gyda rhai newidiadau.

Mae Rhan 2 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gyhoeddi prosbectws cyfansawdd bob blwyddyn sy'n cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â phob ysgol a gynhelir yn ardal y prosbectws (rheoliad 4). Dyma'r wybodaeth: materion amrywiol (manylir arnynt yn Rhan 1 o Atodlen 2), materion mewn perthynas ag awdurdod lleol yn darparu addysg arbennig (manylir arnynt yn Rhan 2 o Atodlen 2), a gwybodaeth sy'n ymwneud â darpariaeth eithriadol o addysg mewn ysgolion neu yn rhywle arall a roddir gan yr awdurdod lleol (manylir arno yn Rhan 2 o Atodlen 2).

Rhaid cyhoeddi'r prosbectws cyfansawdd heb fod yn hwyrach na 1 Hydref ym mhob blwyddyn neu heb fod yn hwyrach na 6 wythnos cyn y caiff rhieni fynegi eu dewis o ysgol (i) drwy fod copïau ar gael i rieni yn ddi-dâl pan wneir cais amdanynt (ii) drwy fod copïau ar gael y gall rhieni gyfeirio atynt yn y llyfrgelloedd cyhoeddus yn ardal yr awdurdod lleol, a (iii) ar wefan yr awdurdod lleol (rheoliad 5).

Mae Rhan 3 yn ei gwneud yn ofynnol bod cyrff llywodraethu yn trefnu bod gwybodaeth benodol ar gael i awdurdodau lleol.

Mae Rhan 4 yn ei gwneud yn ofynnol bod cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn cyhoeddi prosbectws ysgol.

Mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaethau atodol sy'n ymwneud â dogfennau a gyhoeddir gan gynnwys y gofyniad, pan fo angen, bod yn rhaid darparu gwybodaeth drwy gyfieithiad yn Saesneg neu yn y Gymraeg yn ddi-dâl.

(1)

1996 p.56. Diwygiwyd adran 29(5) gan O.S. 2010/1158. Diwygiwyd adran 408 gan baragraff 30 o Atodlen 7 ac Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), paragraffau 57 a 106 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, a pharagraff 57 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21), Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002, Atodlen 12 a Rhan 7 o Atodlen 16 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22) a chan O.S. 2010/1158. Diwygiwyd adran 537 gan baragraff 37 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997, paragraffau 57 a 152 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, a pharagraff 60 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 a chan O.S. 2010/1158.

(2)

1998 p.31. Amnewidiwyd adran 92 gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32) a diwygiwyd hi ymhellach gan baragraffau 53 a 65 o Ran 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p.25) a chan O.S. 2010/1158. Diwygiwyd is-adran (7) o adran 138 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 gan baragraff 3(1) a (4) o Atodlen 17 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40).

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol yn adrannau 29(5), 408, 537(1) i (8) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 a'r pŵer i wneud rheoliadau o ran Cymru yn adran 138 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(5)

Fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2010/1158.

(6)

Cylchlythyr 9/2006.

(7)

ISBN rhif 9780750443753.

(8)

Gofynnir am yr wybodaeth sydd yn y cyfrifiad CYBLD gan Weinidogion Cymru yn unol â phwerau a geir yn adran 537A o Ddeddf Addysg 1996 a Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3562 (Cy.312)).

(9)

Y wefan ar gyfer Menter Cyfnewid Data Cymru yw www.dataexchangewales.org.uk.

(10)

Mewnosodwyd adran 89(A) gan adran 47(2) o Ddeddf Addysg 2002. Diwygiwyd is-adran (1) gan baragraffau 53 a 58(1) a (2) o Ran 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008.

(11)

1989 p.41. Diwygiwyd adran 1 gan baragraff 19 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), gan adran 2(1) a (2) o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35) a chan adran 116(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38).

(12)

Fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2010/1158.

(13)

Mewnosodwyd gan adran 150 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p.25) a diwygiwyd gan O.S. 2010/1158.

(14)

Fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2010/1158.

(15)

Diffinnir “primary schools”, “middle schools” a “secondary schools” yn adran 5 o Ddeddf 1996.

(16)

Diffinnir “admission authority” yn adran 88(1) o Ddeddf 1998.

(17)

Fel a amnewidiwyd gan adran 45 o Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1973, ac a ddiwygiwyd ymhellach gan O.S. 2010/1158.

(18)

Fel y'i diwygiwyd gan adran 50 o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraff 8 o Atodlen 4 iddi, adrannau 43(4) a 51(1) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), adran 152 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 a pharagraffau 53 a 66 o Ran 2 o Atodlen 1 iddi a chan Atodlen 2 iddi, a chan O.S. 2010/1158.

(19)

Gweler adran 20 o Ddeddf 1998.

(20)

Fel y'i diwygiwyd gan baragraffau 11 i 13 ac 18 o'r Atodlen i Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1),

(21)

Fel y'i diwygiwyd gan baragraffau 122(a) a (b) o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adran 200 o Ddeddf Addysg 2002, paragraff 16(1) a (2) o Atodlen 3 i Ddeddf Diwygio Lles 2007 (p.5) ac O.S. 2010/1158.

(22)

Fel y'i diwygiwyd gan adrannau 47(2) a (3), a 57(4) o Ddeddf Addysg 1996 ac Atodlen 8 iddi, a chan O.S. 2010/1158.

(23)

Diffinnir “grammar school” gan adran 104(7) o Ddeddf 1998.

(24)

Fel y'i diwygiwyd gan baragraff 77(a) a (b) o Atodlen 30 i y Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adran 9 o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10) a chan O.S. 2010/1151.

(25)

O.S. 1999/1442 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2010/1142.

(26)

Fel y'i diwygiwyd gan baragraff 107(b), (c) a (d) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Atodlen 21 a chan baragraff 47 o Ran 3 o Atodlen 22 i Ddeddf Addysg 2002, adran 223(1)(b) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu a Rhan 7 o Atodlen 16 iddi a chan O.S. 2010/1152.

(27)

Fel y'i diwygiwyd gan adran 55 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006, paragraff 105 o Atodlen 2 i Ddeddf Addysg 2002 a chan O.S. 2010/1158.

(28)

Fel y'i diwygiwyd gan baragraff 97(2), (3) a (4) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, paragraff 9(1) a (2) o Atodlen 3 i Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006, a chan O.S. 2010/1158.

(29)

Mae diwygiadau iddi nad ydynt yn gymwys i Gymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill