Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 989 (Cy.98) (C.67)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2010

Gwnaed

24 Mawrth 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Mawrth 2010

Yn dod i rym

19 Ebrill 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 161(3) a (4), 167(2) ac adran 170(3) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008(1), ac ar ôl ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 172(4) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y gorchymyn a ganlyn:

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2010.

(2Yn y Gorchymyn hwn —

  • ystyr “Deddf 1948” (“1948 Act”) yw Deddf Cymorth Gwladol 1948 (2);

  • ystyr “Deddf 1970” (“1970 Act”) yw Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 (3);

  • ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008;

  • mae i “diwrnod penodedig” (“appointed day”) yr ystyr a roddir yn erthygl 2;

  • mae i “llety'r GIG” yr ystyr a roddir i “NHS accommodation” gan adran 24(6A) o Ddeddf 1948(4);

  • ystyr “llety'r GIG nad yw'n ysbyty” (“non-hospital NHS accommodation”) yw llety'r GIG nad yw mewn ysbyty wedi ei freinio—

    (a)

    yn yr Ysgrifennydd Gwladol,

    (b)

    yn un o Ymddiriedolaethau'r GIG a sefydlwyd o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(5), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(6), neu Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(7),

    (c)

    mewn Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; neu,

    (ch)

    mewn Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu un o ymddiriedolaethau sefydledig y GIG a sefydlwyd o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y diwrnod penodedig

2.  19 Ebrill 2010 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym adran 148 o'r Ddeddf.

Darpariaeth drosiannol

3.  Nid yw'r diwygiadau a wneir i adran 24 o Ddeddf 1948 (awdurdod sy'n atebol am ddarparu llety) gan adran 148(1) yn effeithiol mewn perthynas â pherson y darperir llety'r GIG nad yw'n ysbyty ar ei gyfer yn union cyn y diwrnod penodedig cyhyd â bod y cyfnod lletya hwnnw'n parhau.

4.  Nid yw'r diwygiadau a wneir i adran 2 o Ddeddf 1970 gan adran 148(3) o Ddeddf 2008 yn effeithiol mewn perthynas â chwestiwn sy'n codi o dan adran 2 o Ddeddf 1970 o ran preswylfa arferol person mewn achos lle y mae'r cwestiwn, ar y diwrnod penodedig, yn destun achos llys.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

24 Mawrth 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r gorchymyn hwn yn rhoi effaith i adran 148 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (“y Ddeddf”). Mae'r adran hon yn gwneud diwygiadau i adrannau 24 a 32 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (“Deddf 1948”) ac adran 2 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 (“ Deddf 1970”).

O dan Ran 3 o Ddeddf 1948 ac adran 2 o Ddeddf 1970, mae awdurdod lleol yn atebol am ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl sy'n preswylio fel arfer yn ei ardal. Pan fo preswylfa arferol person yn destun anghydfod rhwng dau awdurdod lleol neu ragor, mae adran 32 o Ddeddf 1948 yn darparu y gellir atgyfeirio'r anghydfod at yr Ysgrifennydd Gwladol neu at Weinidogion Cymru er mwyn iddo neu iddynt ddyfarnu arno.

O ran darparu llety preswyl, ceir yn adran 24 o Ddeddf 1948 ddarpariaethau ychwanegol ynghylch preswylfa arferol. Yn lle is-adrannau (6) a (7) o adran 24 rhoddir is-adrannau (6) a (6A) newydd. Mae'r is-adrannau newydd yn darparu y bernir bod person y darperir llety'r GIG ar ei gyfer yn cadw ei breswylfa arferol yn yr ardal lle'r oedd y person yn preswylio cyn i lety'r GIG gael ei ddarparu, ni waeth ai lleoliad mewn ysbyty neu leoliad o fath arall yw'r lleoliad. Mae erthygl 3(1) yn gwneud darpariaeth drosiannol i'w gwneud yn glir na fydd y diwygiad yn effeithio ar y rhai sydd eisoes mewn lleoliadau'r GIG nad ydynt yn lleoliadau mewn ysbyty yn union cyn i'r ddarpariaeth ddod i rym ond y bydd y diwygiad yn dod yn effeithiol ar gyfer cleifion mewn ysbytai sydd wedi eu breinio mewn Byrddau Iechyd Lleol ar yr adeg honno.

Mae adran 148(2) o'r Ddeddf yn diwygio adran 32 o Ddeddf 1948 er mwyn ei gwneud yn glir sut y bydd anghydfodau, gan gynnwys anghydfodau sy'n ymwneud ag awdurdod yng Nghymru ac awdurdod yn Lloegr yn cael eu datrys. Mae'r diwygiad yn rhoi dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru i wneud a chyhoeddi trefniadau mewn perthynas â hyn.

Mae adran 148(3) o'r Ddeddf yn diwygio adran 2 o Ddeddf 1970 er mwyn gwneud anghydfodau rhwng awdurdodau lleol ynghylch preswylfa arferol yn ddarostyngedig i ddyfarniad drwy gyfrwng y weithdrefn o dan adran 32 o Ddeddf 1948.

Mae'r ddarpariaeth drosiannol yn erthygl 3(2) yn darparu na fydd y diwygiad hwn yn weithredol mewn perthynas ag unrhyw achos sydd eisoes yn destun achos llys ar y diwrnod y daw'r diwygiad i rym.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

Nodyn am orchmynion cychwyn blaenorol

Cafodd darpariaethau canlynol y Ddeddf eu dwyn i rym o ran Cymru drwy gyfrwng gorchmynion cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru cyn dyddiad y gorchymyn hwn.

Y ddarpariaethDyddiad cychwynRhif yr O.S.
a.1476 Ebrill 20092009/631 (Cy.57)
a.166 (i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 5 o Atodlen 15)6 Ebrill 20092009/631 (Cy.57)
Atodlen 136 Ebrill 20092009/631 (Cy.57)
Rhan 5 o Atodlen 156 Ebrill 20092009/631 (Cy.57)
(4)

Mewnosodir adran 24(6A) gan adran 148(1) o Ddeddf 2008. Diffinnir “NHS accommodation” (“llety'r GIG”) fel “(a) accommodation (at a hospital or elsewhere) provided under the National Health Service Act 2006 or the National Health Service (Wales) Act 2006, or (b) accommodation provided under section 117 of the Mental Health Act 1983 by a Primary Care Trust or Local Health Board, other than accommodation so provided jointly with a local authority” ((a) llety (mewn ysbyty neu fan arall) a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, neu (b) llety a ddarperir o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 gan Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu Fwrdd Iechyd Lleol, ac eithrio llety a ddarperir felly ar y cyd ag awdurdod lleol”).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill