Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaethau Ychwanegol) (Cymru) 2007

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 3229 (Cy.281)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaethau Ychwanegol) (Cymru) 2007

Gwnaed

12 Tachwedd 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Tachwedd 2007

Yn dod i rym

5 Rhagfyr 2007

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 63(5) a (6), 65(3) a (4), 87(5) a (6), 232(3) a (7) a 234 o Ddeddf Tai 2004(1) ac sydd bellach wedi'u breinio(2) yng Ngweinidogion Cymru, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaethau Ychwanegol) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 5 Rhagfyr 2007.

(2Mae rheoliadau 2 i 11 yn gymwys i unrhyw HMO(3) yng Nghymru sy'n HMO y mae adran 257 o Ddeddf Tai 2004 yn gymwys iddo ac mae rheoliad 12 yn gymwys i unrhyw HMO yng Nghymru y mae Rhan 2 o'r Ddeddf honno (trwyddedu tai amlfeddiannaeth) yn gymwys iddo.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 2004;

(b)gosodion, ffitiadau neu gyfarpar” (“fixtures, fittings or appliances”) yw—

(i)cyfarpar goleuo, gwresogi gofod neu wresogi dŵr;

(ii)toiledau, baddonau, cawodydd, sinciau, neu fasnau ymolchi neu unrhyw gypyrddau, silffoedd neu ffitiadau a ddarparwyd mewn ystafell ymolchi neu doiled;

(iii)cypyrddau, silffoedd neu gyfarpar a ddefnyddir i storio, paratoi neu i goginio bwyd; a

(iv)peiriannau golchi dillad neu gyfarpar golchi dillad arall; ac

(c)ystyr “y rheolwr” (“the manager”), o ran HMO, yw'r person sy'n rheoli(4) yr HMO.

Dyletswyddau rheolwr: cyffredinol

3.—(1Mae rheoliadau 4 i 10 yn gymwys yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau canlynol—

(a)nid yw dyletswydd y rheolwr yn gymwys ond mewn perthynas â'r rhannau hynny o'r HMO y byddai'n rhesymol disgwyl i ddeiliad y drwydded, o dan yr holl amgylchiadau, arfer rheolaeth drostynt; a

(b)mae dyletswydd y rheolwr i gynnal a chadw neu drwsio i'w dehongli fel dyletswydd sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y safon cynnal a chadw neu drwsio yn un sy'n rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, o gymryd i ystyriaeth oed, cymeriad ac oes ragolygol y ty a'r ardal lle y mae'r ty.

(2Nid oes dim yn rheoliadau 4 i 10—

(a)a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw beth gael ei wneud mewn cysylltiad â'r cyflenwad dwr neu'r draenio neu'r cyflenwad nwy neu drydan neu'n ei awdurdodi i gael ei wneud onid yw'n unol ag unrhyw ddeddfiad; neu

(b)a fydd yn gorfodi'r rheolwr, mewn cysylltiad â'r materion hynny, i gymryd unrhyw gamau y mae awdurdod lleol neu unrhyw berson arall yn gyfrifol am eu cymryd, ac eithrio'r camau hynny a all fod yn angenrheidiol i ddwyn y mater yn ddiymdroi i sylw'r awdurdod neu'r person o dan sylw.

Dyletswydd rheolwr i roi gwybodaeth i feddiannydd

4.  Rhaid i'r rheolwr sicrhau bod ei enw, ei gyfeiriad ac unrhyw rif ffôn cyswllt yn cael eu harddangos mewn man amlwg yn rhannau cyffredin yr HMO fel y gall pob meddiannwr eu gweld.

Dyletswydd rheolwr i gymryd camau diogelu

5.—(1Rhaid i'r rheolwr sicrhau bod pob modd i ddianc rhag tân yn yr HMO—

(a)yn cael ei gadw'n rhydd rhag rhwystr; a

(b)yn cael ei gynnal a'i gadw mewn cyflwr da a'i drwsio.

(2Rhaid i'r rheolwr sicrhau bod unrhyw gyfarpar diffodd tân a larymau tân yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da a'u bod yn gweithio.

(3Rhaid i'r rheolwr sicrhau bod pob hysbysiad sy'n dangos lleoliad y modd i ddianc rhag tân yn cael ei arddangos mewn llefydd ym mannau cyffredin yr HMO sy'n sicrhau bod pob meddiannwr yn gallu eu gweld yn glir.

(4Rhaid i'r rheolwr gymryd y camau hynny sy'n rhesymol ofynnol i ddiogelu meddianwyr yr HMO rhag niwed, gan roi sylw i—

(a)dyluniad yr HMO;

(b)cyflyrau yn yr HMO o ran ei strwythur; a

(c)nifer y fflatiau neu nifer y meddianwyr yn yr HMO.

(5Wrth gyflawni'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (4) rhaid i'r rheolwr yn benodol—

(a)o ran unrhyw do neu falconi nad yw'n ddiogel, naill ai sicrhau ei fod yn cael ei wneud yn ddiogel neu gymryd pob cam rhesymol i rwystro mynediad ato cyhyd ag y bydd yn anniogel; a

(b)o ran unrhyw ffenestr y mae ei sil ar lefel y llawr neu'n agos at lefel y llawr, sicrhau bod bariau neu'r cyfryw amddiffyniadau eraill ag y gall fod eu hangen yn cael eu darparu i amddiffyn y meddianwyr rhag y perygl o ddamweiniau a allai gael eu hachosi mewn cysylltiad â ffenestri o'r fath.

Dyletswydd y rheolwr i gynnal a chadw cyflenwad dŵr a draenio

6.—(1Rhaid i'r rheolwr sicrhau bod y cyflenwad dŵr a'r system ddraenio sy'n gwasanaethu'r HMO yn cael eu cynnal mewn cyflwr da a glân a'u bod yn gweithio a rhaid i'r Rheolwr sicrhau yn benodol—

(a)bod unrhyw danc, seston neu gynhwysydd tebyg arall a ddefnyddir i storio dŵr yfed neu ddwr at ddibenion domestig eraill yn cael ei gadw neu ei chadw mewn cyflwr da a glân a'i fod neu ei bod yn gweithio, a bod clawr yn cael ei gadw arno neu arni i gadw'r dŵr mewn cyflwr glân a phriodol; a

(b)bod unrhyw ffitiad dwr sy'n agored i niwed gan rew yn cael ei ddiogelu rhag niwed gan rew.

(2Rhaid i'r rheolwr beidio yn afresymol â pheri neu ganiatáu unrhyw doriad yn y cyflenwad dŵr neu'r draenio a gaiff ei ddefnyddio gan unrhyw feddiannydd yn yr HMO.

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “ffitiad dŵr” (“water fitting”) yw pibell, tap, dwsel, falf, amgarn, meter, seston, baddon, toiled dŵr neu bowlen garthion a ddefnyddir mewn cysylltiad â chyflenwi neu ddefnyddio dŵr, ond nid yw'r cyfeiriad at bibell yn y diffiniad hwn yn cynnwys pipell orlifo neu bibell ddŵr o'r prif gyflenwad.

Dyletswydd rheolwr i gyflenwi a chynnal a chadw nwy a thrydan

7.—(1Rhaid i'r rheolwr roi i'r awdurdod tai lleol o fewn 7 niwrnod ar ôl cael cais ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw y dystysgrif profi cyfarpar nwy ddiweddaraf y mae'r rheolwr wedi ei chael o ran profi unrhyw gyfarpar nwy yn yr HMO gan beiriannydd cydnabyddedig.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “peiriannydd cydnabyddedig” (“recognised engineer”) yw peiriannydd y cydnabyddir gan y Cyngor Gosodwyr Nwy Cofrestredig ei fod yn gymwys i ymgymryd â phrofion o'r fath.

(3Rhaid i'r rheolwr—

(a)sicrhau bod pob gosodiad trydan sydd wedi'i osod yn cael ei arolygu a'i brofi ac nad yw'r cyfnodau rhwng bob tro y gwneir hynny'n fwy na phum mlynedd ac y gwneir hynny gan berson sy'n gymwysedig i ymgymryd ag arolygu a phrofi o'r fath;

(b)cael tystysgrif gan y person sy'n cynnal y prawf hwnnw, yn dweud yn benodol beth yw canlyniadau'r prawf; ac

(c)rhoi'r dystysgrif honno i'r awdurdod tai lleol o fewn 7 niwrnod ar ôl cael cais ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw yn gofyn amdani.

(4Rhaid i'r rheolwr beidio yn afresymol â pheri neu ganiatáu toriad yn y cyflenwad nwy neu drydan a gaiff ei ddefnyddio gan unrhyw feddiannydd yn yr HMO.

Dyletswydd rheolwr i gynnal a chadw rhannau cyffredin, gosodion, ffitiadau a chyfarpar

8.—(1Rhaid i'r rheolwr sicrhau bod holl rannau cyffredin yr HMO—

(a)yn cael eu cynnal a'u cadw o ran eu haddurno mewn cyflwr da a glân;

(b)yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr diogel a'u bod yn gweithio; ac

(c)yn cael eu cadw'n rhesymol glir rhag rhwystr.

(2Wrth gyflawni'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (1), rhaid i'r rheolwr sicrhau'n benodol—

(a)bod pob canllaw a banister yn cael eu cadw mewn cyflwr da bob amser;

(b)bod y cyfryw ganllawiau neu fanisters ychwanegol ag sy'n angenrheidiol ar gyfer diogelwch meddianwyr yr HMO yn cael eu darparu;

(c)bod unrhyw orchuddion grisiau yn cael eu gosod yn ddiogel a'u bod yn cael eu cadw mewn cyflwr da;

(ch)bod pob ffenestr a dull arall o awyru yn y rhannau cyffredin yn cael eu cadw mewn cyflwr da;

(d)bod ffitiadau goleuo digonol yn cael eu gosod yn y rhannau cyffredin a'u bod ar gael bob amser i'w defnyddio gan bob un o feddianwyr yr HMO; ac

(dd)yn ddarostyngedig i baragraff (3), bod gosodion, ffitiadau neu gyfarpar a ddefnyddir ar y cyd gan ddwy aelwyd neu fwy yn yr HMO yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da a diogel a'u bod yn lân ac yn gweithio.

(3Nid yw'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (2)(dd) yn gymwys o ran gosodion, ffitiadau neu gyfarpar y mae gan y meddiannydd yr hawl i'w symud o'r HMO neu sydd fel arall y tu allan i reolaeth y rheolwr.

(4Rhaid i'r rheolwr sicrhau—

(a)bod adeiladau y tu allan, buarthau a chyrtiau blaen a ddefnyddir ar y cyd gan ddwy aelwyd neu fwy sy'n byw yn yr HMO yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da, glân a threfnus;

(b)y cedwir unrhyw ardd sy'n perthyn i'r HMO mewn cyflwr diogel a thaclus; ac

(c)bod y waliau terfyn, ffensys a rheiliau (gan gynnwys unrhyw reiliau yn ardal yr islawr), i'r graddau y maent yn perthyn i'r HMO, yn cael eu cadw a'u cynnal mewn cyflwr da a diogel fel na fyddant yn beryglus i feddianwyr.

(5Os oes unrhyw ran o'r HMO nad yw'n cael ei defnyddio rhaid i'r rheolwr sicrhau bod y rhan honno, gan gynnwys unrhyw gyntedd a grisiau sy'n rhoi mynediad uniongyrchol iddi, yn cael ei chadw'n rhesymol lân ac yn rhydd o sbwriel a sorod.

(6Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “rhannau cyffredin” (“common parts”) yw—

(i)y drws mynediad i'r HMO a'r drysau mynediad sy'n arwain at bob uned lety i fyw ynddi yn yr HMO; a

(ii)pob un o'r rhannau hynny o'r HMO sy'n risiau, lifftiau, cynteddau, coridorau, neuaddau, lobïau, mynedfeydd, balconïau, portshys ac yn stepiau a ddefnyddir gan feddianwyr yr unedau llety i fyw ynddynt yn yr HMO i allu mynd at ddrysau mynediad eu huned lety berthnasol i fyw ynddi.

Dyletswydd y rheolwr i gynnal a chadw llety i fyw ynddo

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r rheolwr sicrhau bod pob uned lety i fyw ynddi yn yr HMO ac unrhyw ddodrefn a gyflenwir gyda'r uned mewn cyflwr glân pan fydd person yn dechrau meddiannu'r lle.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), rhaid i'r rheolwr sicrhau, mewn perthynas â phob rhan o'r HMO a ddefnyddir fel llety i fyw ynddi—

(a)bod y strwythur mewnol yn cael ei gynnal a'i gadw mewn cyflwr da;

(b)bod unrhyw osodion, ffitiadau neu gyfarpar sydd yn y rhan yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da a glân a'u bod yn gweithio; ac

(c)bod pob ffenestr a dulliau eraill o awyru yn cael eu cadw mewn cyflwr da.

(3Nid yw'r dyletswyddau a osodir o dan baragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i'r rheolwr wneud unrhyw waith trwsio y cododd yr angen amdano o ganlyniad i ddefnyddio llety i fyw ynddo gan y meddiannydd mewn modd nad yw'n ddisgwyliedig gan denant.

(4Nid yw'r dyletswyddau a osodir o dan baragraffau (1) a (2) yn gymwys mewn perthynas â dodrefn, gosodion, ffitiadau neu gyfarpar y mae gan y meddiannydd yr hawl i'w symud o'r HMO neu sydd fel arall y tu allan i reolaeth y rheolwr.

(5At ddibenion y rheoliad hwn bernir bod person yn defnyddio'r llety i fyw ynddo mewn modd nad yw'n ddisgwyliedig gan denant os bydd y person yn methu â thrin yr eiddo yn unol â'r cyfamodau neu'r amodau a geir yn y les neu'r drwydded neu fel arall os yw'n methu ag ymddwyn fel tenant neu drwyddedai rhesymol.

Dyletswydd i ddarparu cyfleusterau gwaredu gwastraff

10.  Rhaid i'r rheolwr—

(a)sicrhau bod digon o finiau neu gynwysyddion addas eraill yn cael eu darparu sy'n ddigonol i ofynion pob aelwyd sy'n meddiannu'r HMO ar gyfer storio sbwriel a sorod cyn iddynt gael eu gwaredu; a

(b)gwneud y cyfryw drefniadau pellach ar gyfer gwaredu sbwriel a sorod o'r HMO ag y gall fod angen amdanynt, gan gofio am unrhyw wasanaeth ar gyfer gwaredu o'r fath a ddarperir gan yr awdurdod lleol.

Dyletswyddau meddianwyr HMOs

11.  Rhaid i bob meddiannydd HMO—

(a)ymddwyn mewn modd na fydd yn rhwystro neu'n llesteirio'r rheolwr wrth iddo gyflawni dyletswyddau rheolwr;

(b)caniatáu i'r rheolwr fynd i mewn, at unrhyw ddiben sy'n gysylltiedig â chyflawni unrhyw ddyletswydd a osodir ar y rheolwr gan y Rheoliadau hyn ac ar bob adeg resymol, i unrhyw lety ar gyfer byw ynddo neu le arall a feddiannir gan y person hwnnw;

(c)rhoi i'r rheolwr, ar gais y rheolwr, y cyfryw wybodaeth ag y gall fod yn rhesymol i'r rheolwr ei mynnu at ddibenion cyflawni unrhyw ddyletswydd o'r fath;

(ch)cymryd camau rhesymol i osgoi peri niwed i unrhyw beth y mae'n ddyletswydd ar y rheolwr i'w gyflenwi, ei gynnal a'i gadw neu i'w drwsio o dan y Rheoliadau hyn;

(d)storio a gwaredu sorod yn unol â'r trefniadau a wneir gan y rheolwr o dan reoliad 10; ac

(dd)cydymffurfio â chyfarwyddiadau rhesymol y rheolwr mewn cysylltiad ag unrhyw fodd i ddianc rhag tân, ag atal tân ac â defnyddio cyfarpar tân.

Diwygiadau i Reoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006

12.—(1Mae Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006(5) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(2) (cymhwyso) hepgorer y geiriau “ac eithrio bloc o fflatiau a gafodd ei drosi y mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys iddo, ”.

(3Yn rheoliad 2 (dehongli) ar ôl “2004” mewnosoder—

  • ; ac

  • ystyr “HMO adran 257” (“section 257 HMO”) yw HMO sy'n floc o fflatiau a droswyd ac y mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys iddo.

(4Yn lle rheoliad 8 (safonau rhagnodedig ar gyfer penderfynu ar addasrwydd ty ar gyfer amlfeddiannaeth gan uchafswm nifer penodol o aelwydydd neu o bersonau) rhodder—

Safonau rhagnodedig ar gyfer penderfynu pa mor addas yw ty ar gyfer amlfeddiannaeth gan uchafswm nifer penodol o aelwydydd neu o bersonau

8.(1) Y safonau a ragnodwyd ar gyfer HMOs ac eithrio HMOs adran 257 at ddiben adran 65 o'r Ddeddf (profion o ran pa mor addas yw HMO ar gyfer amlfeddiannaeth) yw'r rhai a geir yn Atodlen 3.

(2) Mae'r safonau a ragnodir ar gyfer HMOs adran 257 at ddiben adran 65 o'r Ddeddf fel a ganlyn—

(a)bod pob ystafell ymolchi a thoiled sydd ym mhob fflat yn ddigonol o ran maint a dyluniad, a bod pob basn golchi dwylo wedi'i leoli mewn man addas ac yn addas ar gyfer y diben, o ystyried oedran a chymeriad yr HMO, maint a dyluniad pob fflat a'r ddarpariaeth bresennol sydd ynddo ar gyfer basnau golchi dwylo, toiledau ac ystafelloedd ymolchi;

(b)y safonau hynny a geir ym mharagraff 4(1) o Atodlen 3, i'r graddau y mae cydymffurfio â hwy'n rhesymol ymarferol; ac

(c)y safonau hynny a geir ym mharagraff 5 o Atodlen 3.

(5Yn rheoliad 11 (cofrestrau o drwyddedau)—

(a)ym mharagraff (2) yn lle “Mae'r” rhodder y “Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r”; a

(b)ar ôl paragraff (2), mewnosoder—

(3) Ni ragnodir y manylion a grybwyllir yn is-baragraffau (b), (c)(ii), (ch) a (d) o baragraff (2) ar gyfer unrhyw gofnod mewn cofrestr y cyfeirir ati yn y paragraff hwnnw mewn cysylltiad â thrwydded a roddwyd mewn perthynas ag HMO adran 257.

(6Yn rheoliad 13 (cofrestrau o orchmynion rheoli)—

(a)ym mharagraff (2) yn lle “Mae'r” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'r”; a

(b)ar ôl paragraff (3) ychwaneger—

(4) Ni ragnodir y manylion a grybwyllir yn is-baragraffau (b) ac (c)(ii) i (v) o baragraff (2) ar gyfer unrhyw gofnod y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw mewn cysylltiad â gorchymyn rheoli a wnaed mewn perthynas ag HMO adran 257..

(7Yn Atodlen 2 (cynnwys ceisiadau o dan adrannau 63 ac 87 o'r Ddeddf)—

(a)ym mharagraff 2(1)(dd)—

(i)ar ôl “y gwneir y cais amdano” mewnosoder “, ac eithrio mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad ag HMO adran 257”;

(ii)ym mharagraff (dd)(xi) yn lle “hyfforddiant arall diogelu” rhodder “gwybodaeth arall am ddiogelu”;

(b)ar ôl paragraff 2(1)(dd) mewnosoder—

(e)os mewn cysylltiad ag HMO adran 257 y gwneir y cais, yr wybodaeth a ganlyn—

(i) nifer y lloriau sydd yn yr HMO a'r lefelau y mae'r lloriau hynny wedi'u lleoli arnynt;

(ii)nifer y fflatiau hunangynhaliol ac, o blith y rheini, y nifer—

(aa)y mae'r ceisydd o'r farn eu bod yn ddarostyngedig i les o fwy na 21 o flynyddoedd; a

(bb)nad yw'n rhesymol i'r ceisydd allu arfer rheolaeth drostynt;

(iii)mewn perthynas â phob fflat hunangynhaliol nad yw'n cael ei berchen-feddiannu ac sydd o dan reolaeth y deiliad trwydded arfaethedig neu sy'n cael ei reoli ganddo, ac mewn perthynas â rhannau cyffredin yr HMO—

(aa)manylion cyfarpar rhagofalon tân, gan gynnwys nifer a lleoliad y larymau mwg;

(bb)manylion llwybrau dianc rhag tân a gwybodaeth arall am ddiogelu rhag tân a ddarperir ar gyfer meddianwyr; ac

(cc)datganiad bod y dodrefn yn yr HMO neu'r ty a ddarperir o dan delerau unrhyw denantiaeth neu drwydded yn bodloni unrhyw ofynion diogelwch a geir mewn unrhyw ddeddfiad; a

(iv)datganiad bod unrhyw gyfarpar nwy mewn unrhyw rannau o'r HMO y gellir yn rhesymol ddisgwyl i'r deiliad trwydded arfaethedig arfer rheolaeth drostynt yn bodloni unrhyw ofynion diogelwch a geir mewn unrhyw ddeddfiad.

(8Yn Atodlen 3 (safonau rhagnodedig ar gyfer penderfynu ar addasrwydd HMO i'w feddiannu gan uchafswm nifer penodol o aelwydydd neu o bersonau)—

(a)yn lle paragraff 2(1) a (2) rhodder—

2.(1) Pan fo pob un o'r unedau llety i fyw ynddynt mewn HMO neu rai ohonynt heb gyfleusterau cael bath neu heb doiled i'w defnyddio gan bob un aelwyd unigol a neb arall, rhaid cael nifer digonol o ystafelloedd ymolchi, toiledau a basnau golchi dwylo sy'n addas at ddiben ymolchi ar gyfer nifer y personau sy'n rhannu'r cyfleusterau hynny, o ystyried oedran a chymeriad yr HMO, maint a dyluniad pob fflat a'r ddarpariaeth sydd ynddo eisoes o ran basnau golchi dwylo, toiledau ac ystafelloedd ymolchi.; a

(b)ar ôl paragraff 4(1), mewnosoder—

(1A) Nid yw'r safonau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) ac (dd) o is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag uned lety—

(a)pan nad yw'r landlord yn rhwym drwy gontract i ddarparu offer neu gyfarpar o'r fath;

(b)pan fod gan feddiannydd yr uned lety yr hawl i symud offer neu gyfarpar o'r fath o'r HMO; neu

(c)pan fo'r offer neu'r cyfarpar fel arall y tu hwnt i reolaeth y landlord.

Jocelyn Davies

O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

12 Tachwedd 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae rheoliadau 3 i 11 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys i dai amlfeddiannaeth (“HMOs”) yng Nghymru sydd wedi'u trosi'n flociau o fflatiau y mae adran 257 o Ddeddf Tai 2004 (“y Ddeddf”) yn gymwys iddynt (“HMOs adran 257”). Adeiladau yw'r rhain a droswyd yn fflatiau hunangynhaliol sydd wedi'u ffurfio o'r fflatiau hynny ac lle nad oedd y gwaith adeiladu a wnaed mewn cysylltiad â'r trosiad yn cydymffurfio â'r safonau adeiladu priodol ac nad yw eto'n cydymffurfio â hwy, a bod llai na dwy ran o dair o'r fflatiau hunangynhaliol yn cael eu perchen-feddiannu.

Mae'r Rheoliadau'n gosod dyletswyddau ar berson sy'n rheoli'r cyfryw HMOs adran 257 o ran—

rhoi gwybodaeth i feddianwyr (rheoliad 4);

  • cymryd camau diogelu, gan gynnwys camau diogelu rhag tân (rheoliad 5);

  • cynnal y cyflenwad dŵr a'r draenio (rheoliad 6);

  • cyflenwi a chynnal nwy a thrydan, gan gynnwys trefnu i'w harolygu'n rheolaidd (rheoliad 7);

  • cynnal a chadw rhannau cyffredin (a ddiffinnir yn rheoliad 7(6)), gosodion, ffitiadau a chyfarpar (rheoliad 8);

  • cynnal a chadw llety i fyw ynddo (rheoliad 9); a

  • darparu cyfleusterau gwaredu gwastraff (rheoliad 10).

Nid yw dyletswyddau'r rheolwr yn rhychwantu'r rhannau o'r HMO na ellir yn rhesymol ddisgwyl i'r rheolwr fod â rheolaeth drostynt (rheoliad 3).

Mae rheoliad 11 yn gosod dyletswyddau ar feddianwyr HMO at ddiben sicrhau bod y person sy'n rheoli HMO yn gallu cyflawni'n effeithiol y dyletswyddau a osodir arno.

O dan adran 234(3) o'r Ddeddf, mae person sy'n methu â chydymffurfio â rheoliadau 3 i 11 o'r Rheoliadau hyn yn cyflawni tramgwydd, a gellir ei gosbi ar gollfarn ddiannod â dirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Mae rheoliad 12 yn diwygio Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1715 (Cy. 177)), fel bod y Rheoliadau hynny, gyda rhai eithriadau, yn gymwys bellach i bob HMO y mae Rhan 2 o'r Ddeddf yn gymwys iddo, gan gynnwys HMOs adran 257. Dim ond i HMOs adran 257 y mae rhai darpariaethau ychwanegol yn berthnasol. Mae rheoliad 12 hefyd yn diwygio'r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â'r safonau sy'n berthnasol i gyfleusterau ymolchi a chael bath ac a ragnodwyd ar gyfer penderfynu pa mor addas yw ty i'w amlfeddiannu gan uchafswm nifer penodol o aelwydydd neu o bersonau. Mae hefyd yn gwneud mân ddiwygiad i'r wybodaeth ynghylch diogelu rhag tân yn yr HMO neu'r ty y mae angen ei darparu mewn cais am drwydded.

Ym mis Chwefror 2006 paratowyd asesiad effaith reoleiddiol llawn o'r offerynnau statudol sy'n ychwanegu at ddarpariaethau Deddf Tai 2004 mewn perthynas â thrwyddedu HMOs a thrwyddedu dethol lletyau preifat eraill a rentir, a'r gorchmynion rheoli (Rhannau 2, 3 a Phennod 1 o Ran 4 o Ddeddf Tai 2004), ac mae ar gael gan Uned y Sector Preifat, Y Gyfarwyddiaeth Dai, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfa Merthyr Tudful, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ, ffôn 01685 729193, neu drwy anfon e-bost at huw.mclean@wales.gsi.gov.uk.

(1)

2004 p. 34. Mae'r pwerau a roddwyd gan adrannau 63(5) a (6), 65(3) a (4), 87(5) a (6), 232(3) a (7) a 234 o'r Ddeddf yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o'r “appropriate national authority” yn adran 261(1) o Ddeddf 2004.

(2)

O ran Cymru, yn rhinwedd paragraff 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) mae swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(3)

I gael ystyr “HMO” gweler adrannau 254 i 259 o'r Ddeddf.

(4)

I gael ystyr “person managing” gweler adran 263(3) o'r Ddeddf.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill