Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 1029 (Cy.96)

ANIFEILIAID, CYMRU

LLES ANIFEILIAID

Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

27 Mawrth 2007

Yn dod i rym

28 Mawrth 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sef o ran Cymru, yr awdurdod cenedlaethol priodol at ddibenion arfer y pwerau a roddwyd gan 5(4) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau hynny.

Yn unol ag adran 5(5) o'r Ddeddf honno, mae'r Cynulliad wedi ymgynghori â'r personau hynny sydd yn ei farn ef yn briodol am eu bod yn cynrychioli buddiannnau y mae a wnelo'r Rheoliadau hyn â hwy.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007. Maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 28 Mawrth 2007.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “a ffermir” (“farmed”) yw, o ran anifail, a fegir neu a gedwir at gynhyrchu bwyd, gwlân neu groen neu at ddibenion ffermio eraill;

mae “ceffylau” (“horses”) yn cynnwys merlod, asynnod, a mulod;

ystyr “dadimpio” (“disbudding”) yw tynnu impiadau cyrn gwartheg, geifr neu ddefaid;

ystyr “dofednod” (“poultry”) yw ffowls domestig, tyrcwn, gwyddau, hwyaid, ieir gini, soflieir, ffesantod a phetrisod;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Lles Anifeiliaid 2006;

ystyr “ffowlyn domestig” (“domestic fowl”) yw aelod dof o'r rhywogaeth Gallus gallus;

ystyr “gwartheg” (“cattle”) yw pob anifail o'r rhywogaeth fuchol gan gynnwys bison a byfflo;

ystyr “triniaeth waharddedig” (“prohibited procedure”) yw triniaeth sy'n cynnwys ymyrryd â meinweoedd sensitif neu strwythur esgyrn yr anifail heblaw at ddibenion ei drin yn feddygol;

ystyr “iâr ddodwy” (“laying hen”) yw iâr o'r rhywogaeth Gallus gallus sydd wedi cyrraedd aeddfedrwydd dodwy ac sy'n cael ei chadw i gynhyrchu wyau na fwriedir iddynt ddeor;

ystyr “offeryn addas” (“suitable instrument”) yw, o ran unrhyw driniaeth, offeryn sydd mewn cyflwr da ac sydd wedi'i ddylunio at roi'r driniaeth honno neu a ddefnyddir yn gyffredin at roi'r driniaeth honno;

ystyr “torri crib” (“dubbing”) yw tynnu crib ffowlyn domestig;

ystyr “torri crogrib” (“desnooding”) yw tynnu crogrib twrci;

ystyr “yn bwrw eu melfed” (“in velvet”) yw o ran cyrn carw, y broses sy'n cynnwys y melfed yn raflio hyd nes i'r rhan fwyaf ohono gael ei fwrw.

Eithriadau i'r gwaharddiad ar anffurfio

3.  Nid yw adran 5(1) a (2) o'r Ddeddf yn gymwys i driniaeth a restrir yn Atodlen 1, ar yr amod y rhoddir y driniaeth—

(a)yn unol ag unrhyw ofyniad perthnasol yn Atodlenni 2 i 9;

(b)mewn dull sy'n cadw lefel y boen a'r dioddefaint i'r anifail i leiafswm;

(c)mewn amgylchiadau hylan; ac

(ch)yn unol ag arferion da.

Cyfalwni triniaethau gwaharddedig mewn argyfwng

4.—(1Nid yw adran 5(1) a (2) o'r Ddeddf yn gymwys pan fo triniaeth waharddedig yn cael ei rhoi mewn argyfwng er mwyn arbed bywyd yr anifail a warchodir(2) neu er mwyn lledfu ei boen.

(2Rhaid i unrhyw driniaeth a roddir o dan baragraff (1) gael ei rhoi yn unol â rheoliad 3, i'r graddau y mae'n ymarferol o dan yr holl amgylchiadau.

Personau sy'n cael rhoi triniaethau a ganiateir

5.—(1Nid oes caniatâd i unrhyw driniaeth a ganiateir o dan reoliad 3 gael ei rhoi ond gan filfeddyg neu gan unrhyw berson arall y mae caniatâd iddo roi'r driniaeth honno o dan Ddeddf Milfeddygon 1996(3) neu Orchymyn Milfeddygon (Esemptiadau) 1962(4).

(2Nid yw'r cyfyngiad ym mharagraff (1) yn gymwys i—

(a)tocio cynffonnau, neu

(b)ysbaddu

moch nad ydynt yn hyn na 7 niwrnod oed.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2007

Rheoliad 3

ATODLEN 1TRINIAETHAU A GANIATEIR

Gwartheg

Triniaethau Adnabod:

  • Clipio clustiau.

  • Bylchu clustiau.

  • Tagio clustiau.

  • Rhewfrandio.

  • Microsglodynnu.

  • Tatwio.

  • Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.

Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.

  • Ysbaddu.

  • Caglu embryonau neu'u trosglwyddo drwy ddull llawfeddygol.

  • Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.

  • Trosglwyddo ofa, gan gynnwys casglu ofa drwy ddull llawfeddygol.

  • Fasdoriad.

Triniaethau Rheoli Eraill:

  • Digornio.

  • Dadimpio.

  • Modrwyo trwynau .

  • Tynnu tethi ychwanegol.

Moch

Triniaethau Adnabod:

  • Clipio clustiau.

  • Bylchu clustiau.

  • Tagio clustiau.

  • Microsglodynnu.

  • Tatwio.

  • Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.

Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.

  • Ysbaddu.

  • Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.

  • Fasdoriad.

Triniaethau Rheoli Eraill:

  • Modrwyo trwynau (cwirso).

  • Tocio cynffonnau.

  • Lleihau dannedd.

  • Tocio ysgithrau.

Adar

Triniaethau Adnabod:

  • Microsglodynnu.

  • Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.

Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.

  • Ysbaddu.

  • Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.

  • Ofidectomi.

  • Fasdoriad.

Triniaethau Rheoli Eraill:

  • Tocio pig dofednod.

  • Torri crogrib.

  • Tynnu bysedd traed ffowls domestig a thyrcwn.

  • Torri crib.

  • Laparosgopi.

  • Tocio blaenau adennydd.

Defaid

Triniaethau Adnabod:

  • Clipio clustiau.

  • Bylchu clustiau.

  • Tagio clustiau.

  • Microsglodynnu.

  • Tatwio.

  • Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.

Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.

  • Ysbaddu.

  • Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.

  • Fasdoriad.

Triniaethau Rheoli Eraill:

  • Digornio.

  • Dadimpio.

  • Tynnu blaen ansensitif y corn.

  • Tocio cynffonnau.

Geifr

Triniaethau Adnabod:

  • Clipio clustiau.

  • Bylchu clustiau.

  • Tagio clustiau.

  • Microsglodynnu.

  • Tatwio.

  • Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.

Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.

  • Ysbaddu.

  • Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.

  • Fasdoriad.

Triniaethau Rheoli Eraill:

  • Digornio.

  • Dadimpio.

  • Tynnu blaen ansensitif y corn.

Ceffylau

Triniaethau Adnabod:

  • Rhewfrandio.

  • Poethfrandio.

  • Microsglodynnu.

  • Tatwio.

  • Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.

Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.

  • Ysbaddu.

  • Fasdoriad.

Ceirw

Triniaethau Adnabod:

  • Clipio clustiau.

  • Bylchu clustiau.

  • Tagio clustiau.

  • Microsglodynnu.

  • Tatwio.

  • Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.

Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.

  • Ysbaddu.

  • Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.

  • Fasdoriad.

Triniaethau Rheoli Eraill:

  • Tynnu cyrn pan na fydd ceirw yn bwrw eu melfed.

Rhywogaethau eraill

Triniaethau Adnabod:

  • Clipio clustiau.

  • Bylchu clustiau.

  • Torri blaen clust chwith cathod lledwyllt.

  • Gosod dyfeisiau olrhain o dan y croen.

  • Tagio.

  • Brandio pysgod yn gemegol.

  • Rhewfrandio pysgod.

  • Microsglodynnu.

  • Tynnu neu dyllu rhannau o adennydd psygod, adennydd brasterog pysgod neu belydrau adennydd pysgod.

  • Tatwio.

  • Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.

Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.

  • Ysbaddu.

  • Caglu embryonau neu'u trosglwyddo drwy ddull llawfeddygol.

  • Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.

  • Trosglwyddo ofa, gan gynnwys casglu ofa drwy ddull llawfeddygol.

  • Disbaddu.

  • Fasdoriad.

Triniaethau Rheoli Eraill:

  • Laparosgopi.

  • Tynnu corewinedd cŵn.

Tynnu cen pysgod.

Rheoliad 3

ATODLEN 2GWARTHEG: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR

Pan roddir triniaeth i wartheg, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.

Ysbaddu

1.  Os y dull a ddefnyddir yw defnyddio modrwy rwber i gyfyngu ar rediad y gwaed i'r ceillgwd, ni ellir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.

Pan ddefnyddir dull arall, rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 2 fis oed neu'n hyn na hynny.

Caglu embryonau neu'u trosglwyddo drwy ddull llawfeddygol

2.  Rhaid rhoi anesthetig.

Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen

3.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i anifail a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Trosglwyddo ofa, gan gynnwys casglu ofa drwy ddull llawfeddygol

4.  Rhaid rhoi anesthetig.

Fasdoriad

5.  Rhaid rhoi anesthetig.

Digornio

6.  Rhaid rhoi anesthetig.

Dadimpio

7.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 6 mis oed.

  • Os serio cemegol yw'r dull a ddefnyddir, ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.

  • Pan ddefnyddir dull arall rhaid rhoi anesthetig.

Tynnu tethi ychwanegol.

8.  Rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 3 fis oed neu'n hyn na hynny.

Rheoliad 3

ATODLEN 3MOCH: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR

Pan roddir triniaeth i fochyn, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.

Ysbaddu

1.  Rhaid i'r dull a ddefnyddir beidio â chynnwys rhwygo meinweoedd.

Rhaid rhoi anesthetig ac analgesia estynedig ychwanegol pan fo'r anifail yn 7 niwrnod oed neu'n hŷn na hynny.

Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen

2.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i anifail a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Fasdoriad

3.  Rhaid rhoi anesthetig.

Modrwyo trwynau (cwirso)

4.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond i anifal nas cedwir yn barhaus mewn system hwsmona dan do.

Tocio cynffonnau

5.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond os cymerwyd camau yn gyntaf i wella amgylchiadau amgylcheddol neu systemau rheoli er mwyn atal brathu cynffonnau, ond y mae tystiolaeth o hyd i ddangos bod y moch wedi'u hanafu gan frathu cynffonnau.

  • Rhaid i'r dull a ddefnyddir gynnwys torri'r gynffon yn gyflym ac yn llwyr.

  • Rhaid rhoi anesthetig ac analgesia estynedig ychwanegol pan fo'r anifail yn 7 niwrnod oed neu'n hŷn na hynny.

Lleihau dannedd

6.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.

  • Rhaid i'r driniaeth gynnwys y canlynol yn unig, sef lleihau'r dannedd cornel drwy naill ai eu rhygnu neu eu clipio gan adael arwyneb llyfn cyfan.

  • Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond os cymerwyd camau yn gyntaf i wella amgylchiadau amgylcheddol neu systemau rheoli er mwyn atal brathu cynffonnau ac arferion drwg eraill, ond y mae tystiolaeth o hyd i ddangos bod tethi hychod neu glustiau neu gynffonnau moch eraill wedi'u hanafu drwy frathu.

Tocio ysgithrau

7.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth hon ond pan fo tystiolaeth i ddangos ei bod yn angenrheidiol er mwyn atal anifeiliaid eraill rhag cael eu hanafu neu am resymau diogelwch.

Rheoliad 3

ATODLEN 4ADAR: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR

Pan roddir triniaeth i aderyn, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.

Ysbaddu

1.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i adar a ffermir.

  • Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

  • Rhaid rhoi anesthetig.

Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen

2.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i adar a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Ofidectomi.

3.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i adar a ffermir.

  • Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

  • Rhaid rhoi anesthetig.

Fasdoriad

4.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i adar a ffermir.

  • Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

  • Rhaid rhoi anesthetig.

Tocio pig dofednod

5.  Rhaid rhoi'r driniaeth gan ddefnyddio offeryn addas, ac ar—

(a)y big isaf a'r big uchaf fel ei gilydd, heb fwy na thraean wedi'i dynnu, neu

(b)y big uchaf yn unig, heb fwy na thraean wedi'i dynnu.

Rhaid atal unrhyw waedlif sy'n dod o'r big yn sgil hynny drwy ei serio.

  • Ar ddofednod y bwriedir iddynt fod yn ieir dodwy ac a gedwir mewn sefydliadau gyda 350 neu ragor o ieir dodwy, ni chaniateir i'r driniaeth—

    (i)

    ond gael ei rhoi er mwyn atal pigo plu neu ganibaliaeth;

    (ii)

    ond gael ei rhoi cyn 1 Ionawr 2011;

    (iii)

    gael ei rhoi i ddofednod y bwriedir iddynt fod yn ieir dodwy (neu sy'n ieir dodwy) ac sy'n 10 niwrnod oed neu'n hyn.

Torri crogrib

6.  Pan na fo'r twrci yn hŷn na 21 o ddiwrnodau oed, caniateir rhoi'r driniaeth naill ai drwy ei phinsio allan â llaw neu drwy ddefnyddio offeryn addas.

Tynnu bysedd traed ffowls domestig a thyrcwn

7.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i aderyn sy'n 3 diwrnod oed neu'n hyn onibai bod llawfeddyg yn barnu ei bod yn angenrheidiol ei rhoi.

Rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 3 diwrnod oed neu'n hyn na hynny.

Torri crib

8.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i aderyn sy'n 3 diwrnod oed neu'n hŷn onibai bod llawfeddyg yn barnu ei bod yn angenrheidiol ei rhoi.

Rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 3 diwrrnod oed neu'n hŷn na hynny.

Laparosgopi

9.  Rhaid rhoi anesthetig.

Tocio blaenau adennydd

10.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i adar a ffermir.

Rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 10 niwrrnod oed neu'n hŷn na hynny.

Rheoliad 3

ATODLEN 5DEFAID: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR

Pan roddir triniaeth i ddafad, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.

Ysbaddu

1.  Os y dull a ddefnyddir yw defnyddio modrwy rwber i gyfyngu ar rediad y gwaed i'r ceillgwd, ni ellir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.

Pan ddefnyddir dull arall, rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 3 mis oed neu'n hŷn na hynny.

Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen

2.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i anifail a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Fasdoriad

3.  Rhaid rhoi anesthetig.

Digornio

4.  Rhaid rhoi anesthetig.

Tocio cynffonnau

5.  Ym mhob achos, rhaid cadw digon o'r gynffon i guddio llawes goch dafad fenyw neu anws dafad wryw.

Os y dull a ddefnyddir yw defnyddio modrwy rwber neu ddyfais arall i gyfyngu ar rediad y gwaed i'r gynffon, ni ellir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.

Pan ddefnyddir dull arall rhaid rhoi anesthetig.

Rheoliad 3

ATODLEN 6GEIFR: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR

Pan roddir triniaeth i afr, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.

Ysbaddu

1.  Os y dull a ddefnyddir yw defnyddio modrwy rwber i gyfyngu ar rediad y gwaed i'r ceillgwd, ni ellir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.

Pan ddefnyddir dull arall, rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 2 fis oed neu'n hŷn na hynny.

Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen

2.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i anifail a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Fasdoriad

3.  Rhaid rhoi anesthetig.

Digornio

4.  Rhaid rhoi anesthetig.

Rheoliad 3

ATODLEN 7CEFFYLAU: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR

Pan roddir triniaeth i geffyl, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.

Ysbaddu

1.  Rhaid rhoi anesthetig.

Fasdoriad

2.  Rhaid rhoi anesthetig.

Rheoliad 3

ATODLEN 8CEIRW: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR

Pan roddir triniaeth i garw, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.

Ysbaddu

1.  Rhaid rhoi anesthetig.

Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen

2.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i geirw a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Fasdoriad

3.  Rhaid rhoi anesthetig.

Tynnu cyrn pan na fydd ceirw yn bwrw eu melfed

4.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond i geirw a ffermir neu ar geirw a gedwir ar dir yn yr un dull ag fel petaent yn geirw a ffermir.

Ni chaniateir tynnu ond y rhan ansensitif o'r cyrn.

Rheoliad 3

ATODLEN 9RHYWOGAETHAU ERAILL: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR

Pan roddir triniaeth i anifail heblaw un yr ymdrinnir ag ef yn unrhyw un o Atodlenni 2 i 8, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.

Torri blaen clust chwith cathod lledwyllt

1.  Rhaid rhoi anesthetig.

Ysbaddu

2.  Rhaid rhoi anesthetig.

Caglu embryonau neu'u trosglwyddo drwy ddull llawfeddygol

3.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Rhaid rhoi anesthetig.

Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen

4.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i anifail a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Trosglwyddo ofa, gan gynnwys casglu ofa drwy ddull llawfeddygol

5.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Rhaid rhoi anesthetig.

Disbaddu

6.  Rhaid rhoi anesthetig.

Fasdoriad

7.  Rhaid rhoi anesthetig.

Laparosgopi

8.  Pan na fo'r anifail y mae'r driniaeth i'w rhoi iddo yn ymlusgiad, ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Yn y naill achos neu'r llall, rhaid rhoi anesthetig.

Tynnu corewinedd cŵn

9.  Rhaid rhoi anesthetig ac eithrio pan fo'r ci yn gi bach nad yw ei lygaid wedi agor eto.

Tynnu cen pysgod

10.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond at ddibenion canfod oed.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Yn ôl adrannau 5 (1) a (2) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (p.45) (“y Ddeddf”) tramgwydd yw gwneud y canlynol i anfeiliaid sy'n cael eu gwarchod o dan y Ddeddf honno:

(a)rhoi triniaeth waharddedig;

(b)peri rhoi triniaeth waharddedig; neu

(c)o dan amgylchiadau penodedig, ganiatáu i berson arall roi triniaeth waharddedig.

Ystyr “rhoi triniaeth waharddedig” yw gwneud rhywbeth sy'n cynnwys ymyrryd â meinweoedd sensitif (e.e. croen) neu strwythur esgyrn yr anifail heblaw at ei drin yn feddygol (gweler adran 5(3) o'r Ddeddf).

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r triniaethau nad ydynt yn dramgwyddau yn ôl adran 5(1) a 5(2). Gan ddibynnu ar yr anifeiliaid y mae'r triniaethau i'w rhoi iddynt, caiff y triniaethau hynny gynnwys triniaethau at:

(a)adnabod yr anifeiliaid (fel tagiau clust);

(b)rheoli atghenhedlu (fel ysbaddu, cyweirio neu dorri ar anifail, a fasdoriad (hynny yw, fasectomi)); ac

(c)triniaethau at ddibenion eraill (fel laparosgopi) (Atodlen 1).

Am rai o'r triniaethau hyn, ac unwaith eto gan ddibynnu ar yr anifeiliaid y mae caniatâd i'w rhoi iddynt, mae Atodlenni 2 i 9 yn gosod cyfyngiadau ar roi'r driniaeth (fel pennu oedran y mae'n rhaid i'r anifail fod ynddo, neu bennu bod rhaid rhoi anesthetig).

O ran triniaethau penodol y caniateir eu rhoi i foch, mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu paragraff 8 o Bennod I o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/630/EEC sy'n gosod y safonau gofynnol ar gyfer gwarchod moch (OJ Rhif L340, 11.12.1991, t.33), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/88/EC, OJ Rhif L316, 1.12.2001, t.1), Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/93/EC (OJ Rhif L316, 1.12.2001, t.36) a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t.1). O ran tocio pig ieir dodwy, mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu paragraff 8 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC sy'n gosod y safonau gofynnol ar gyfer gwarchod ieir dodwy (OJ Rhif L203, 3.8.1999, p.53, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t.1).

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau ohono oddi wrth Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

2006 p.45. Diffinnir yr awdurdod cenedlaethol priodol yn adran 62(1) o'r Ddeddf.

(2)

2006 p.45 Mae i “anifail a warchodir” yr ystyr a rhoddir I “protected animal” yn adran 2 o'r Ddeddf

(3)

1966 p.36; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1988/526, 1991/1412, 2002/1479.

(4)

O.S. 1962/2557; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1982/1627, 2002/1646.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill