Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

(Rheoliad 4)

ATODLEN 1Ethol a phenodi rhiant-lywodraethwyr

1.  Yn yr Atodlen hon ystyr “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) yw—

(a)mewn perthynas ag ysgol gymunedol, ysgol arbennig gymunedol, ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol wirfoddol a reolir, yr awdurdod addysg lleol; a

(b)yn ddarostyngedig i baragraff 3, mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig, y corff llywodraethu.

2.  Os yr awdurdod addysg lleol yw'r awdurdod priodol mewn perthynas ag ysgol, caiff yr awdurdod hwnnw ddirprwyo i bennaeth yr ysgol unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan yr Atodlen hon.

3.  Yr awdurdod addysg lleol fydd yr awdurdod priodol mewn perthynas ag ysgol o fewn paragraff 1(b) os bydd y corff llywodraethu a'r awdurdod addysg lleol yn cytuno ynghylch hynny.

4.  Yn ddarostyngedig i baragraffau 5 i 9 rhaid i'r awdurdod priodol wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i ethol rhiant-lywodraethwyr.

5.  Yr awdurdod priodol sydd i benderfynu, at ddibenion ethol rhiant-lywodraethwyr, unrhyw gwestiwn ynghylch a yw person yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol.

6.  Yn achos y pŵer a osodir gan baragraff 4—

(a)nid yw'n cynnwys pŵer i osod unrhyw ofynion ynghylch yr isafswm o bleidleisiau y mae angen eu bwrw i ymgeisydd gael ei ethol, ond

(b)mae'n cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ynghylch dyddiadau cymhwyso.

7.  Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir drwy bleidlais gudd.

8.—(1Rhaid i'r trefniadau a wneir o dan baragraff 4 ddarparu bod pawb sydd â'r hawl i bleidleisio yn cael cyfle i wneud hynny drwy'r post.

(2At ddibenion is-baragraff (1), mae “post” (“post”) yn cynnwys danfon drwy law.

(3Caiff y trefniadau a wneir o dan baragraff 4 ddarparu i bawb y mae ganddo neu ganddi hawl i bleidleisio gael cyfle i wneud hynny drwy gyfrwng electronig.

9.  Pan ddaw lle'n wag i riant-lywodraethwr, rhaid i'r awdurdod priodol gymryd y camau hynny sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod pob un y mae'n gwybod ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol—

(a)yn cael gwybod am y lle gwag a'i bod yn ofynnol ei lenwi drwy etholiad;

(b)yn cael gwybod bod ganddo hawl i sefyll fel ymgeisydd a phleidleisio yn yr etholiad; ac

(c)yn cael cyfle i wneud hynny.

10.  Rhaid sicrhau'r nifer o riant-lywodraethwyr sy'n ofynnol drwy ychwanegu rhiant-lywodraethwyr a benodir gan y corff llywodraethu, os daw un neu ragor o lefydd ar gyfer rhiant-lywodraethwyr yn wag a naill ai—

(a)bod y nifer o rieni sy'n sefyll i'w hethol yn llai na nifer y lleoedd gwag;

(b)bod o leiaf 50 y cant o'r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol yn lletywyr ac y byddai, ym marn yr awdurdod priodol, yn anymarferol ethol rhiant-lywodraethwyr; neu

(c)yn achos ysgol sy'n ysgol arbennig gymunedol neu'n ysgol arbennig a sefydlwyd mewn ysbyty, y byddai, ym marn yr awdurdod priodol, yn anymarferol ethol rhiant-lywodraethwyr.

11.—(1Ac eithrio pan fo paragraff 12 yn gymwys, rhaid i'r corff llywodraethu benodi'n rhiant-lywodraethwr—

(a)rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol; neu

(b)pan nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, rhiant plentyn sydd o oedran ysgol gorfodol, neu yn achos ysgol feithrin a gynhelir, sydd o oedran neu o dan oedran ysgol gorfodol.

12.—(1Pan fo'r ysgol yn ysgol arbennig gymunedol neu'n ysgol arbennig sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu benodi—

(a)rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol; neu

(b)rhiant plentyn sydd o oedran ysgol gorfodol ac sydd ag anghenion addysgol arbennig; neu

(c)rhiant person o unrhyw oedran sydd ag anghenion addysgol arbennig; neu

(ch)rhiant plentyn o oedran ysgol gorfodol.

(2Dim ond os nad yw'n rhesymol ymarferol penodi person y cyfeirir ato yn yr is-baragraff sy'n union o'i flaen y caiff y corff llywodraethu benodi person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) (b), (c) neu (ch).

(Rheoliadau 5 a 6)

ATODLEN 2Ethol athro-lywodraethwyr a staff-lywodraethwyr

1.  Yn yr Atodlen hon mae'r un ystyr i “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) ag yn Atodlen 1.

2.  Os bydd awdurdod addysg lleol yn awdurdod priodol mewn perthynas ag ysgol, caiff yr awdurdod hwnnw ddirprwyo i bennaeth yr ysgol unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan yr Atodlen hon.

3.  Yn ddarostyngedig i baragraffau 4 i 6 rhaid i'r awdurdod priodol wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i ethol athro-lywodraethwyr a staff-lywodraethwyr.

4.  Yr awdurdod priodol sydd i benderfynu at ddibenion ethol athro-lywodraethwyr neu staff-lywodraethwyr a yw person yn athro neu athrawes ysgol neu'n cael ei gyflogi fel arall i weithio yn yr ysgol.

5.  Yn achos y pŵer a roddir gan baragraff 3—

(a)nid yw'n cynnwys pŵer i osod unrhyw ofynion ynghylch yr isafswm o bleidleisiau y mae angen eu bwrw i ymgeisydd gael ei ethol ond

(b)mae'n cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ynghylch dyddiadau cymhwyso, mae'n cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ynghylch dyddiadau cymhwyso.

6.  Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir drwy bleidlais gudd.

(Rheoliad 10)

ATODLEN 3Penodi llywodraethwyr partneriaeth

1.  Pan fo angen llywodraethwr partneriaeth, rhaid i'r corff llywodraethu geisio enwebiadau gan rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol, a chan bersonau eraill yn y gymuned a wasanaethir gan yr ysgol y credant eu bod yn briodol.

2.  Ni chaiff unrhyw berson enwebu i'w benodi, na phenodi, person yn llywodraethwr partneriaeth oni fyddai'r person hwnnw'n gymwys i'w benodi gan y corff llywodraethu yn llywodraethwr cymunedol.

3.—(1Yn achos ysgol arbennig sefydledig heb sefydliad, rhaid i'r corff llywodraethu benodi o leiaf un person sydd â phrofiad o addysg i blant ag anghenion addysgol arbennig yn llywodraethwr partneriaeth, onid oes diffyg enwebai cymwys sydd â phrofiad o'r fath.

(2Wrth geisio enwebiadau ar gyfer llywodraethwr partneriaeth mewn ysgolion arbennig sefydledig, rhaid i'r corff llywodraethu gymryd camau i sicrhau bod personau sy'n gwneud enwebiadau yn ymwybodol o'r gofyniad ym mharagraff (1).

4.  Yn ddarostyngedig i baragraff 5(2), ni chaiff unrhyw lywodraethwr enwebu person i'w benodi'n llywodraethwr partneriaeth.

5.—(1Rhaid i'r corff llywodraethu benodi'r nifer o lywodraethwyr partneriaeth sydd eu hangen yn ôl yr offeryn llywodraethu o blith enwebeion cymwys.

(2Os yw'r nifer o enwebeion cymwys yn llai na'r nifer o leoedd gwag, ceir cwblhau'r nifer o lywodraethwyr partneriaeth sydd eu hangen â phobl a ddetholir gan y corff llywodraethu.

6.  Pan fo'r corff llywodraethu yn gwneud penodiad o dan baragraff 5(2), ar ôl gwrthod unrhyw berson a enwebwyd o dan baragraff 1, rhaid iddo roi rhesymau ysgrifenedig dros ei benderfyniad i'r awdurdod addysg lleol ac i'r person a wrthodwyd.

7.  Rhaid i'r corff llywodraethu wneud pob trefniant angenrheidiol ar gyfer enwebu a phenodi llywodraethwyr partneriaeth a phenderfynu ynghylch pob mater arall yn ymwneud â'u henwebu a'u penodi.

(Rheoliad 11)

ATODLEN 4Penodi Noddwr-lywodraethwyr

1.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “noddwr” (“sponsor”) mewn perthynas ag ysgol yw—

(a)person sy'n rhoi neu sydd wedi rhoi cymorth ariannol sylweddol (sydd at y dibenion hyn yn cynnwys buddiant mewn da) i'r ysgol ar wahân i gymorth sy'n unol â rhwymedigaeth statudol; neu

(b)unrhyw berson arall (nad yw wedi ei gynrychioli fel arall ar y corff llywodraethu) sy'n darparu neu sydd wedi darparu gwasanaethau sylweddol i'r ysgol.

2.  Pan fo gan yr ysgol un neu ragor o noddwyr, caiff y corff llywodraethu benderfynu y bydd yr offeryn llywodraethu yn darparu i'r corff llywodraethu benodi'r nifer hwnnw o noddwr-lywodraethwyr, heb fod yn fwy na dau, a enwebir yn unol â pharagraff 3.

3.  Rhaid i'r corff llywodraethu geisio enwebiadau ar gyfer penodiadau o'r fath gan y noddwr neu (yn ôl fel y digwydd) gan unrhyw un neu ragor o'r noddwyr.

(Rheoliad 24)

ATODLEN 5Cymwysterau ac anghymwysiadau

Cyffredinol

1.  Nid yw unrhyw berson yn gymwys i fod yn llywodraethwr onid yw'n 18 oed neu drosodd ar ddyddiad ei ethol neu ei benodi.

2.  Ni chaiff unrhyw berson ar unrhyw adeg ddal mwy nag un swydd llywodraethwr yn yr un ysgol.

3.  Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y rheoliadau hyn, nid yw'r ffaith bod person yn gymwys i'w ethol neu ei benodi'n llywodraethwr o gategori arbennig mewn ysgol yn ei anghymhwyso rhag cael ei ethol neu ei benodi neu rhag parhau'n llywodraethwr o unrhyw gategori arall yn yr ysgol honno.

Anhwylder meddyliol

4.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr ysgol ar unrhyw adeg pan fo'n agored i gael ei gadw'n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(1) neu o dan unrhyw ail-ddeddfiad neu addasiad deddfwriaethol o'r Ddeddf honno sydd mewn grym o bryd i'w gilydd.

Diffyg mynychu cyfarfodydd

5.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw lywodraethwr nad yw'n llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd.

(2Os bydd llywodraethwr heb ganiatâd y corff llywodraethu, wedi methu â mynychu cyfarfodydd y corff am gyfnod di-dor o chwe mis yn cychwyn ar ddyddiad y cyfarfod cyntaf o'i fath y methodd â'i fynychu, bydd y llywodraethwr hwnnw, pan ddaw'r cyfnod hwnnw i ben, wedi ei anghymwyso rhag parhau i ddal swydd llywodraethwr yn yr ysgol honno.

(3Pan fo llywodraethwr wedi anfon ymddiheuriad at glerc y corff llywodraethu cyn cyfarfod nad yw'n bwriadu ei fynychu, rhaid i gofnodion y cyfarfod gofnodi a oedd y corff llywodraethu wedi cytuno i'r absenoldeb ai beidio, a rhaid anfon copi o'r cofnodion at y llywodraethwr dan sylw i'w breswylfa arferol.

(4Nid yw llywodraethwr a anghymhwyswyd rhag bod yn llywodraethwr ysgol o dan is-baragraff (2) yn gymwys i'w enwebu, i'w ethol neu i'w benodi yn llywodraethwr o unrhyw gategori yn yr ysgol honno yn ystod y deuddeg mis cyntaf ar ôl ei anghymwyso o dan is-baragraff (2).

Methdalu

6.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ysgol—

(a)os yw wedi ei ddyfarnu'n fethdalwr neu os yw ei stad wedi ei hatafaelu ac yntau (yn y naill achos neu'r llall) heb ei ryddhau o fethdaliad ac os nad yw'r gorchymyn methdalu wedi ei ddirymu neu ei ddad-wneud; neu

(b)os yw wedi gwneud compownd neu drefniant â'i gredydwyr, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedaeth i'w gredydwyr, ac yntau heb ei ryddhau mewn perthynas â hynny.

Anghymwyso cyfarwyddwyr cwmnïau

7.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ysgol ar unrhyw adeg pan fydd yn destun—

(a)gorchymyn anghymwyso neu ymgymeriad anghymwyso o dan Ddeddf Anghymwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986(2),

(b)gorchymyn anghymwyso o dan Rhan 2 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1989(3),

(c)ymgymeriad anghymwyso a dderbyniwyd o dan Orchymyn Anghymwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 2002(4),

(ch)gorchymyn a wnaed o dan adran 429(2)(b) o Ddeddf Methdaliad 1986(5) (methu â thalu o dan orchymyn gweinyddu llys sirol).

Anghymwyso ymddiriedolwyr elusennau

8.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ysgol os yw—

(a)wedi ei ddiswyddo fel ymddiriedolwr elusen drwy orchymyn a wnaed gan y Comisiynwyr Elusennau neu'r Uchel Lys ar sail unrhyw gamymddygiad neu gamreoli yr oedd yn gyfrifol amdano neu'n ymwybodol ohono wrth weinyddu'r elusen, neu y cyfrannodd ato neu a hwylusodd drwy ei ymddygiad; neu

(b)os yw wedi ei ddiswyddo, o dan adran 7 o Ddeddf Diwygio'r Gyfraith (Darpariaethau Amrywiol) (Yr Alban) 1990(6) (pwerau'r Llys Sesiwn i ymdrin â rheoli elusennau), rhag ymwneud â rheoli neu reolaeth ar unrhyw gorff.

Personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi

9.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ysgol ar unrhyw adeg pan fydd—

(a)wedi ei gynnwys yn y rhestr o athrawon a'r sawl sy'n gweithio gyda phlant neu bersonau ifanc y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir arnynt o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(7);

(b)yn destun cyfarwyddyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf 2002;

(c)wedi ei anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan adrannau 28 a 29 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000(8); neu

(ch)yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 470 neu adran 471 o Ddeddf 1996(9), wedi ei anghymhwyso rhag bod yn berchennog unrhyw ysgol annibynnol neu rhag bod yn athro neu'n weithiwr cyflog mewn unrhyw ysgol.

Collfarnau troseddol

10.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6) isod, anghymhwysir person rhag dal swydd, neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ysgol pan fydd unrhyw un o is-baragraffau (2) i (4) neu (6) isod yn gymwys iddo.

(2Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw—

(a)o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr fel arall wedi dod i rym neu, yn ôl fel y digwydd, y dyddiad y byddai fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd, neu

(b)ers ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr neu, yn ôl fel y digwydd, ers iddo ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd,

wedi ei gael yn euog, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar (pa un a yw'r ddedfryd yn ataliedig ai peidio) am gyfnod nad yw'n llai na thri mis heb fod dewis talu dirwy.

(3Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os cafwyd ef, o fewn cyfnod o 20 mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr fel arall wedi dod i rym neu, yn ôl fel y digwydd, y dyddiad y byddai fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd, yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd a'i ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw'n llai na dwy flynedd a hanner.

(4Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw ar unrhyw adeg wedi ei gael yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw'n llai na phum mlynedd.

(5At ddibenion is-baragraffau (2) i (4) uchod, rhaid diystyru unrhyw gollfarn gan lys y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu gerbron llys o'r fath, am drosedd na fyddai, pe bai'r ffeithiau a arweiniodd at y drosedd wedi digwydd yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, yn cael ei hystyried yn drosedd yn ôl y gyfraith sydd mewn grym yn y rhan honno o'r Deyrnas Unedig.

(6Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw—

(a)o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr fel arall wedi dod i rym neu, yn ôl fel y digwydd, y dyddiad y byddai fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd, neu

(b)ers ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr neu, yn ôl fel y digwydd, ers iddo ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd ei swydd,

wedi ei gael yn euog o dan adran 547 o Ddeddf 1996(10) neu o dan adran 85A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(11) (niwsans neu aflonyddwch ar safle addysgol) o drosedd ac wedi ei ddedfrydu i dalu dirwy.

Llywodraethwyr mwy na dwy ysgol

11.—(1Ni chaiff unrhyw berson ddal swydd llywodraethwr mewn mwy na dwy ysgol ar unrhyw adeg.

(2At ddibenion is-baragraff (1) nid ystyrir swyddi llywodraethwyr ex officio, swyddi llywodraethwyr y mae Rheoliadau Ysgolion Newydd a Gynhelir (Cymru) 2005(12) yn gymwys iddynt nac unrhyw benodiad o dan adrannau 16, 16A, 18 neu 18A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Gwrthod gwneud cais am dystysgrif cofnodion troseddol

12.  Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ar unrhyw adeg pan fydd yn gwrthod cais gan y corff llywodraethu i wneud cais o dan adran 113 o Ddeddf yr Heddlu 1997(13) am dystysgrif cofnodion troseddol.

Hysbysu'r clerc

13.  Os—

(a)yw person, yn rhinwedd unrhyw un o'r paragraffau 6 i 11, wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr ysgol; a

(b)mae'n llywodraethwr neu bwriedir ei fod yn llywodraethwr,

rhaid iddo roi gwybod i glerc y corff llywodraethu am y ffaith honno.

(Rheoliad 38)

ATODLEN 6Darpariaethau Trosiannol

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “corff llywodraethu cyfredol” (“current governing body”) yw corff llywodraethu a gyfansoddwyd o dan offeryn llywodraethu sydd yn effeithiol cyn 31 Hydref 2005; ac

ystyr “llywodraethwr cyfredol” (“current governor”) yw unrhyw berson a benodir neu a etholir i swydd fel aelod o gorff llywodraethu cyfredol ar 31 Hydref 2005 neu cyn hynny, ond nid unrhyw un a ailbenodir neu a ailetholir i swydd o'r fath wedi'r dyddiad hwnnw.

2.  Ar y dyddiad y daw offeryn llywodraethu a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn yn effeithiol, neu ar ôl y dyddiad hwnnw, bydd llywodraethwr cyfredol yn parhau'n llywodraethwr yn y categori cyfatebol o lywodraethwr sy'n ofynnol o dan yr offeryn llywodraethu, fel pe bai wedi'i benodi neu ei ethol i gategori o'r fath yn unol â'r Rheoliadau hyn, hyd yn oed os nad yw'n cydymffurfio â'r gofynion perthnasol a osodir gan y Rheoliadau hyn ar gyfer llywodraethwr yn y categori hwnnw.

3.  At ddibenion paragraff 2, y canlynol fydd y categorïau cyfatebol—

Categori'r llywodraethwr cyfredolCategori'r llywodraethwr o dan y Rheoliadau hyn
Llywodraethwr cyfetholedigLlywodraethwr cymunedol
Llywodraethwr cyfetholedig ychwanegol a benodwyd o dan baragraff 15(4) o Atodlen 9 i Ddeddf 1998Llywodraethwr Cymunedol Ychwanegol
Llywodraethwr cyfetholedig ychwanegol a benodwyd o dan baragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 1999Noddwr-lywodraethwr
Llywodraethwr cynrychioliadolLlywodraethwr cynrychioliadol
Llywodraethwr sefydledig (gan gynnwys llywodraethwr sefydledig ex officio a dirprwy lywodraethwr)Llywodraethwr sefydledig (gan gynnwys llywodraethwr sefydledig ex officio a dirprwy lywodraethwr)
Llywodraethwr AALlLlywodraethwr AALl
Rhiant-lywodraethwrRhiant-lywodraethwr
Llywodraethwr partneriaethLlywodraethwr partneriaeth
Staff-lywodraethwrStaff-lywodraethwr
Athro-lywodraethwrAthro-lywodraethwr
Pennaeth (llywodraethwr ex officio)Pennaeth (ex officio)

4.  Bydd llywodraethwr cyfredol yn dal swydd llywodraethwr yn y categori cyfatebol o lywodraethwr o dan y Rheoliadau hyn hyd nes—

(a)y byddai cyfnod y swydd a oedd yn gymwys ar y dyddiad y'i hetholwyd neu y'i penodwyd yn llywodraethwr cyfredol wedi dod i ben,

(b)y bydd yn ymddiswyddo,

(c)y caiff ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr o dan y Rheoliadau hyn, neu

(ch)31 Awst 2008

pa un bynnag yw'r cynharaf.

5.  Nid yw'r Atodlen hon yn atal llywodraethwr cyfredol rhag—

(a)cael ei ethol neu ei benodi'n llywodraethwr yn unrhyw gategori sy'n ofynnol o dan yr offeryn llywodraethu am gyfnod pellach, ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn; neu

(b)cael ei ddiswyddo o dan reoliadau 27 i 29.

6.  Wrth gyfrifo'r nifer o lywodraethwyr sy'n ofynnol ym mhob categori o dan yr offeryn llywodraethu, rhaid cynnwys llywodraethwr cyfredol a fydd yn parhau'n llywodraethwr wedi i offeryn llywodraethu a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(Rheoliad 63)

ATODLEN 7Cyfyngiadau ar bersonau rhag cymryd rhan yn nhrafodion y corff llywodraethu neu ei bwyllgorau

Buddiannau ariannol

1.—(1At ddibenion rheoliad 63(2), mae buddiant ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall yn cynnwys achos—

(a)pan fo person perthnasol wedi ei enwebu neu ei benodi i swydd gan berson y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir gwneud y contract ag ef; neu

(b)pan fo person perthnasol yn bartner i berson y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir gwneud y contract ag ef; neu

(c)pan fo gan berthynas i berson perthnasol (gan gynnwys ei briod, ei bartner sifil o fewn ystyr “civil partner” yn Neddf Partneriaethau Sifil 2004(14) neu rywun sy'n byw gyda'r person hwnnw fel petai'n briod neu'n bartner sifil iddo), a'r person hwnnw'n gwybod hynny, fuddiant o'r fath neu y câi ei drin fel petai ganddo fuddiant o'r fath.

(2At ddibenion rheoliad 63(2) ni chaiff person perthnasol ei drin fel petai iddo fuddiant ariannol mewn unrhyw fater—

(a)ar yr amod nad yw ei fuddiant yn y mater yn fwy na buddiant cyffredinol y rhai hynny y telir iddynt am weithio yn yr ysgol;

(b)yn unig oherwydd iddo gael ei enwebu neu ei benodi i'r swydd gan unrhyw gorff cyhoeddus, neu ei fod yn aelod o gorff o'r fath, neu'n cael ei gyflogi gan gorff o'r fath; neu

(c)yn unig oherwydd ei fod yn aelod o gorfforaeth neu gorff arall os nad oes iddo unrhyw fuddiant ariannol mewn unrhyw warantau o eiddo'r gorfforaeth honno neu gorff arall.

(3Ni rwystrir llywodraethwr, oherwydd ei fuddiant ariannol yn y mater, rhag ystyried a phleidleisio ynghylch cynigion i'r corff llywodraethu gymryd yswiriant i ddiogelu'r aelodau rhag rhwymedigaethau yr ânt iddynt sy'n deillio o'u swydd, ac ni rwystrir y corff llywodraethu, oherwydd buddiannau ariannol ei aelodau, rhag sicrhau yswiriant o'r fath a thalu'r premiymau.

(4Ni rwystrir llywodraethwr rhag ystyried neu bleidleisio ynghylch unrhyw gynnig sy'n ymwneud â lwfansau sydd i'w talu'n unol â Rheoliadau Lwfansau Llywodraethwyr (Cymru) 2005(15) oherwydd bod iddo fuddiant mewn taliadau o lwfansau o'r fath i aelodau'r corff llywodraethu'n gyffredinol, ond rhaid i aelod o gorff llywodraethu neu o unrhyw bwyllgor o gorff llywodraethu fynd allan o gyfarfod pan ystyrir neu trafodir a ddylai ef gael lwfans arbennig, swm unrhyw daliad neu unrhyw gwestiwn ynghylch lwfans sydd wedi cael ei dalu iddo, a rhaid iddo beidio â phleidleisio arno.

Swydd llywodraethwr, cadeirydd, is-gadeirydd neu glerc

2.—(1Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol yn bresennol mewn cyfarfod o'r corff llywodraethu ac un o'r canlynol yn fater i'w ystyried—

(a)ei benodiad, ei ailbenodiad, ei ataliad dros dro neu ei ddiswyddiad ei hun fel aelod o'r corff llywodraethu neu bwyllgor;

(b)ei benodiad neu ei ddiswyddiad ei hun fel clerc, cadeirydd neu is-gadeirydd y corff llywodraethu neu fel clerc neu gadeirydd pwyllgor;

(c)os yw'n noddwr-lywodraethwr, unrhyw benderfyniad o dan baragraff 2 o Atodlen 4 ynghylch y ddarpariaeth yn yr offeryn llywodraethu ar gyfer noddwr-lywodraethwyr.

(2Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, ymdrinir â buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 63(2) fel pe baent yn gwrthdaro â buddiannau'r corff llywodraethu.

Arfarnu neu dalu i bersonau sy'n gweithio yn yr ysgol

3.—(1Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol y telir iddo am weithio yn yr ysgol ac eithrio fel pennaeth yn bresennol mewn cyfarfod o'r ysgol lle bo talu neu werthuso perfformiad unrhyw berson penodol a gyflogir i weithio yn yr ysgol dan ystyriaeth.

(2Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo pennaeth ysgol yn bresennol mewn cyfarfod o'r ysgol lle bo talu iddo neu werthuso ei berfformiad ei hun dan ystyriaeth.

(3Mewn unrhyw achos lle bo is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys, ymdrinir â buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 63(2) fel pe baent yn gwrthdaro â buddiannau'r corff llywodraethu.

Penodi Staff

4.  Pan fo person perthnasol a gyflogir i weithio mewn ysgol yn bresennol mewn cyfarfod o'r ysgol a phenodi olynydd i'r person hwnnw dan ystyriaeth, rhaid iddo adael y cyfarfod pan ystyrir neu pan drafodir y mater dan sylw, a rhaid iddo beidio â phleidleisio ar unrhyw gwestiwn yn ymwneud â'r mater hwnnw.

Personau sy'n aelodau o fwy nag un corff llywodraethu

5.  Nid ystyrir dan unrhyw amgylchiadau y ffaith bod person yn llywodraethwr neu'n aelod o bwyllgor corff llywodraethu mewn mwy nag un ysgol yn achos o wrthdaro rhwng buddiannau at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(6)

1990 p.40; trosglwyddwyd swyddogaethau'r Arglwydd Adfocad o dan yr adran hon i'r Ysgrifennydd Gwladol drwy Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (yr Arglwydd Adfocad a'r Ysgrifennydd Gwladol) 1999 (O.S. 1999/678).

(7)

1999 p.14; fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (2000 p.14).

(9)

Wedi'i diddymu gan Ddeddf 2002.

(10)

Fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1998 a chan adran 206 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 20 iddi.

(11)

1992 p.13; a roddwyd i mewn gan adran 206 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 20 iddi.

(13)

1997 c. 50; fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Amddiffyn Plant 1999, Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf 2002.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill