- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 15(1)
1. Enw, rhyw, dyddiad a man geni a chyfeiriad gan gynnwys ardal yr awdurdod lleol.
2. Llun a disgrifiad corfforol.
3. Cenedl(1).
4. Tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol.
5. Cred grefyddol, os oes un, (gan gynnwys manylion bedydd, gwasanaeth derbyn neu seremonïau cyfatebol).
6. A yw'r plentyn yn derbyn gofal neu a ddarperir llety iddo o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989.
7. Manylion unrhyw orchymyn llys a wnaed ynglŷn â'r plentyn o dan Ddeddf 1989 gan gynnwys enw'r llys, y gorchymyn a wnaed a'r dyddiad y gwnaed y gorchymyn.
8. A oes gan y plentyn unrhyw hawl i eiddo neu unrhyw fuddiant ynddynt neu unrhyw hawliad am iawndal o dan Ddeddf Damweiniau Angheuol 1976 neu fel arall y gall eu cadw neu eu colli os mabwysiadir ef.
9. Cronoleg o ofal y plentyn ers ei enedigaeth.
10. Asesiad o bersonoliaeth y plentyn, ei ddatblygiad cymdeithasol a'i ddatblygiad emosiynol a datblygiad ei ymddygiad.
11. A oes gan y plentyn unrhyw anawsterau gyda gweithgareddau megis bwydo, ymolchi ac ymwisgo.
12. Hanes addysgol y plentyn gan gynnwys—
(a)enwau, cyfeiriadau a'r mathau o feithrinfeydd neu ysgolion a fynychwyd gyda dyddiadau;
(b)crynodeb o'i gynnydd a'i gyraeddiadau;
(c)a yw'n ddarostyngedig i ddatganiad o dan Ddeddf Addysg 1996;
(ch)unrhyw anghenion arbennig sydd ganddo o ran dysgu; a
(d)os yw'n derbyn gofal, manylion ei gynllun addysg personol a baratowyd gan yr awdurdod lleol.
13. Gwybodaeth am—
(a)perthynas y plentyn gyda —
(i)ei riant neu ei warcheidwad ac, os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, ei dad;
(ii)unrhyw frodyr neu chwiorydd neu berthnasau eraill; a
(iii)unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn barnu ei fod yn berthnasol;
(b)y tebygolrwydd y gall y berthynas honno barhau a gwerth hynny i'r plentyn; a
(c)gallu a pharodrwydd unrhyw un o berthnasau'r plentyn, neu unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol, i roi amgylchedd diogel i'r plentyn y gall ddatblygu ynddo, a bodloni ei anghenion fel arall.
14. Y trefniadau ar hyn o bryd a'r math o gyswllt rhwng rhiant y plentyn neu ei warcheidwad neu berson arall â chyfrifoldeb rhiant amdano ac, os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, ei dad, ac unrhyw berthynas, cyfaill neu berson arall.
15. Disgrifiad o ddiddordebau'r plentyn, ei hoff bethau a'i gas bethau.
16. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall a allai fod o gymorth i'r panel mabwysiadu neu'r asiantaeth fabwysiadu.
Rheoliad 15(2)
1. Enw, dyddiad geni, rhyw, pwysau a thaldra.
2. Adroddiad newyddenedigol ar y plentyn, gan gynnwys—
(a)manylion am ei enedigaeth, ac unrhyw gymhlethdodau;
(b)canlyniadau archwiliad corfforol a phrofion sgrinio;
(c)manylion unrhyw driniaeth a roddwyd;
(ch)manylion unrhyw broblemau mewn rheoli a bwydo;
(d)unrhyw wybodaeth berthnasol arall a allai fod o gymorth i'r panel;
(dd)enw a chyfeiriad unrhyw feddyg a allai roi gwybodaeth bellach am unrhyw un o'r materion uchod.
3. Hanes iechyd y plentyn yn llawn, gan gynnwys—
(a)manylion o unrhyw salwch difrifol, anabledd, damwain, derbyn i ysbyty neu fynychu adran cleifion allanol, ac ym mhob achos unrhyw driniaeth a roddwyd;
(b)manylion a dyddiadau imwneiddio;
(c)asesiad corfforol ac asesiad o ddatblygiad yn ôl oedran, gan gynnwys asesiad o'r llygaid a'r clyw a datblygiad niwrolegol, llafaredd ac iaith ac unrhyw dystiolaeth o anhwylder emosiynol;
(ch)hanes ei iechyd gan yr ysgol (os yw ar gael);
(d)sut y mae iechyd corfforol a iechyd meddwl y plentyn a'i hanes meddygol wedi effeithio ar ddatblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol neu ddatblygiad ei ymddygiad;
(dd)unrhyw wybodaeth berthnasol arall a all gynorthwyo'r panel mabwysiadu.
4. Llofnod, enw, cyfeiriad, Rhif ffôn a chymwysterau'r ymarferydd meddygol cofrestredig a baratôdd yr adroddiad, dyddiad yr adroddiad a'r archwiliadau a wnaed ynghyd ag enw a chyfeiriad unrhyw feddyg arall a all roi gwybodaeth bellach am unrhyw rai o'r materion uchod.
Rheoliad 16(1)
1. Enw, rhyw, dyddiad a man geni a chyfeiriad gan gynnwys ardal yr awdurdod lleol.
2. Llun, os oes un ar gael, a disgrifiad corfforol.
3. Cenedl(2).
4. Tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol.
5. Cred grefyddol, os oes un.
6. Disgrifiad o'u personoliaeth a'u diddordebau.
7. Enw, rhyw a dyddiad a man geni.
8. Llun, os oes un ar gael, a disgrifiad corfforol.
9. Cenedl(3).
10. Cyfeiriad, os yw'n briodol.
11. Os unrhyw frawd neu chwaer o dan 18 oed—
(a)ym mha le a gyda phwy y mae ef neu hi yn byw;
(b)a yw'n derbyn gofal neu a ddarperir llety iddo neu iddi o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989;
(c)manylion unrhyw orchymyn llys a wnaed ynglyn ag ef neu hi o dan Ddeddf 1989 gan gynnwys enw'r llys, y gorchymyn a wnaed a'r dyddiad y gwnaed y gorchymyn; ac
(ch)a ydyw ef neu hi hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer eu mabwysiadu.
12. Enw, rhyw a dyddiad a man geni.
13. Cenedl(4).
14. Cyfeiriad, os yw'n briodol.
15. A oedd mam a thad y plentyn yn briod â'i gilydd adeg geni'r plentyn (neu a ydynt wedi priodi ar ôl hynny) ac os felly, dyddiad a man y briodas ac a yw'r rhieni wedi ysgaru neu wedi gwahanu.
16. Os nad oedd rhieni'r plentyn yn briod a'i gilydd ar adeg geni'r plentyn, a oes gan dad y plentyn gyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac os felly sut y cafwyd ef.
17. Os na wyddys pwy yw tad y plentyn na ble y mae, yr wybodaeth amdano sy'n hysbys a phwy a'i rhoes, a'r camau a gymrwyd i ddarganfod tadolaeth.
18. Os bu rhieni'r plentyn yn briod neu wedi ffurfio partneriaeth sifil, dyddiad y briodas neu yn ôl y digwydd, dyddiad a man cofrestru'r bartneriaeth sifil.
19. I'r graddau y mae'n bosibl, coeden deulu a manylion teidiau a neiniau'r plentyn, ei fodrybedd a'i ewythredd a'u hoedran (neu eu hoedran pan fuont farw).
20. Os yw'n rhesymol ymarferol, cronoleg dau riant y plentyn ers eu genedigaeth.
21. Sylwadau rhieni'r plentyn am eu profiadau hwy am y rhiant a gawsant yn eu plentyndod a sut y dylanwadodd hyn arnynt.
22. Y berthynas a fu a'r berthynas bresennol rhwng rhieni'r plentyn.
23. Manylion am y teulu ehangach a'u rôl a'u pwysigrwydd —
(a)i rieni'r plentyn; a
(b)i unrhyw frodyr neu chwiorydd y plentyn.
24. Gwybodaeth am eu cartref a'r gymdogaeth y maent yn byw ynddi.
25. Manylion hanes eu haddysg.
26. Manylion hanes eu cyflogaeth.
27. Gwybodaeth am gynneddf rianta mam a thad y plentyn, yn enwedig eu gallu a'u parodrwydd i rianta'r plentyn.
28. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall a allai fod o gymorth i'r panel mabwysiadu neu'r asiantaeth fabwysiadu.
Rheoliad 16(1)
1.—(a) Enw, rhyw a dyddiad a man geni.
(b)Cenedl(5).
(c)Cyfeiriad a Rhif ffôn.
2. Y berthynas a fu a'r berthynas bresennol â'r plentyn.
3. Crefydd.
4. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r asiantaeth yn ystyried a all gynorthwyo'r panel mabwysiadu.
Rheoliad 16(2)
1. Enw, dyddiad geni, rhyw, pwysau a thaldra'r ddau riant naturiol.
2. Hanes iechyd y teulu, sy'n ymwneud â dau riant naturiol y plentyn, brodyr a chwiorydd y plentyn (os oes rhai) a'r plant arall (os oes rhai) gan bob rhiant gyda manylion unrhyw salwch corfforol difrifol neu salwch meddwl difrifol a chlefyd neu anhwylder etifeddol.
3. Hanes iechyd dau riant naturiol y plentyn, gan gynnwys manylion unrhyw salwch corfforol difrifol neu salwch meddwl difrifol, camddefnyddio cyffuriau neu alcohol, anabledd, damwain neu dderbyn i ysbyty, ac ym mhob achos unrhyw driniaeth a gafwyd y mae'r asiantaeth o'r farn ei bod yn berthnasol.
4. Crynodeb o hanes obstetrig y fam, gan gynnwys unrhyw broblemau yn y cyfnod cyn geni, esgor ac ar ôl geni, gyda chanlyniadau unrhyw brofion a wnaed yn ystod neu'n syth ar ôl beichiogrwydd.
5. Manylion unrhyw salwch presennol, gan gynnwys y driniaeth a'r prognosis.
6. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r asiantaeth yn ystyried a all gynorthwyo'r panel.
7. Llofnod, enw, cyfeiriad, Rhif ffôn a chymwysterau unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig a roddodd unrhyw wybodaeth sydd yn y Rhan hon ynghyd ag enw a chyfeiriad unrhyw feddyg arall a allai roi gwybodaeth bellach am unrhyw rai o'r materion uchod.
Rheoliad 20(1)
1. Copi o dystysgrif geni'r plentyn.
2. Enw a chyfeiriad rhiant neu warcheidwad y plentyn.
3. Cronoleg o'r camau a'r penderfyniadau a gymerwyd gan yr asiantaeth o ran y plentyn.
4. Cadarnhad gan yr asiantaeth ei bod wedi cwnsela, ac wedi esbonio i'r rhiant neu'r gwarcheidwad oblygiadau cyfreithiol y cydsyniad i leoli o dan adran 19 o'r Ddeddf a hefyd, yn ôl y digwydd, o ran gwneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf, a'i bod wedi rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i'r rhiant neu'r gwarcheidwad ynghylch y mater hwn ynghyd â chopi o'r wybodaeth a roddwyd i'r rhiant neu'r gwarcheidwad.
5. Unrhyw wybodaeth am y rhiant neu'r gwarcheidwad neu wybodaeth arall y mae'r asiantaeth fabwysiadu o'r farn y gall y swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog CAFCASS fod angen ei gwybod.
Rheoliad 23(3)(b)
1. Tramgwydd treisio oedolyn o dan adran 1 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 —
(a)tramgwydd trais o dan adran 1 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003(6);
(b)tramgwydd ymosodiad drwy dreiddiad o dan adran 2 o'r Ddeddf honno;
(c)tramgwydd peri i berson gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol heb gydsyniad o dan adran 4 o'r Ddeddf honno os oedd y gweithgaredd yn dod o fewn is-adran (3);
(ch)tramgwydd gweithgaredd rhywiol gyda pherson ag anhwylder meddwl sy'n llesteirio dewis o dan adran 30 o'r Ddeddf honno os oedd y cyffwrdd yn dod o fewn is-adran (3);
(d)tramgwydd peri neu ysgogi person ag anhwylder meddwl sy'n llesteirio dewis, i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol o dan adran 31 o'r Ddeddf honno, os oedd y gweithgaredd a barwyd neu a ysgogwyd yn dod o fewn is-adran (3);
(dd)tramgwydd cymell, bygwth neu ddichell i ddenu gweithgaredd rhywiol gyda pherson ag anhwylder meddwl o dan adran 34 o'r Ddeddf honno, os oedd y cyffwrdd yn dod o fewn is-adran (2); ac
(e)tramgwydd o beri i berson ag anhwylder meddwl gymryd rhan neu gytuno i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol drwy gymell, bygwth neu ddichell os oedd y gweithgaredd yn dod o fewn is-adran (2).
2. Tramgwydd trais.
3. Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf y Weithdrefn Droseddol (yr Alban) 1995(7) ac eithrio mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd, tramgwydd sy'n groes i adran 5 o Ddeddf Cyfraith Trosedd (Cydgrynhoi) (yr Alban) 1995 (cyfathrach rywiol â merch o dan 16 oed)(8), tramgwydd o anwedduster digywilydd rhwng dynion neu dramgwydd sodomiaeth.
4. Tramgwydd plagiwm (lladrata plentyn o dan oed blaenaeddfedrwydd).
5. Tramgwydd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Sifil (yr Alban) 1982 (lluniau anweddus o blant)(9).
6. Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (cam-drin ymddiriedaeth)(10).
7. Tramgwydd trais.
8. Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(11), ac eithrio mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd, tramgwydd sy'n groes i adrannau 5 neu 11 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Trosedd 1885 (cyfathrach gnawdol anghyfreithlon â merch o dan 17 oed ac anwedduster garw rhwng gwrywod)(12), neu dramgwydd yn groes i adran 61 o Ddeddf Tramgwyddau Corfforol 1861 (sodomiaeth).
9. Tramgwydd o dan Erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978 (lluniau anweddus)(13).
10. Tramgwydd o dan Erthygl 9 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth etc.) (Gogledd Iwerddon) 1980 (ysgogi merch o dan 16 i gael cyfathrach rywiol losgachol)(14).
11. Tramgwydd yn groes i Erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth, etc.) (Gogledd Iwerddon) 1988 (meddu ar lun anweddus o blant)(15).
12. Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (cam-drin ymddiriedaeth).
Rheoliad 23(4)
1.—(1) Tramgwydd o dan unrhyw un o adrannau canlynol Deddf Tramgwyddau Rhywiol 1956—
(a)adran 1 (trais);
(b)adran 5 (cyfathrach rywiol â merch o dan 13 oed);
(c)onid yw paragraff 4 yn gymwys, adran 6 (cyfathrach rywiol â merch o dan 16 oed);
(ch)adran 19 neu 20 (herwgydio merch o dan 18 neu 16 oed);
(d)adran 25 neu 26 o'r Ddeddf honno (caniatáu i ferch o dan 13 oed, neu rhwng 13 a 16 oed, i ddefnyddio mangre i gael cyfathrach rywiol);
(dd)adran 28 o'r Ddeddf honno (peri neu annog puteinio merch o dan 16 oed neu gyfathrach rywiol â hi neu ymosodiad anweddus arni).
(2) Tramgwydd o dan adran 1 o Ddeddf Anwedduster â Phlant 1960 (ymddygiad anweddus tuag at blentyn ifanc).
(3) Tramgwydd o dan adran 54 o Ddeddf Cyfraith Troseddau 1977 (ysgogi merch o dan 16 oed i gyflawni llosgach).
(4) Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (cam-drin ymddiriedaeth).
2. Daw person o fewn y paragraff hwn os cafodd ei gollfarnu o unrhyw un o'r tramgwyddau canlynol yn erbyn plentyn a gyflawnwyd pan oedd yn 18 neu drosodd neu os cafodd rybuddiad gan gwnstabl o ran unrhyw dramgwydd o'r fath, y cyfaddefodd y person i'r tramgwydd pan roddwyd y rhybuddiad —
(a)tramgwydd o dan adran 2 neu 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956 (caffael menyw drwy fygwth neu haeru anwir);
(b)tramgwydd o dan adran 4 o'r Ddeddf honno (rhoi cyffuriau i gael neu hwyluso cyfathrach rywiol);
(c)tramgwydd o dan adran 14 neu 15 o'r Ddeddf honno (ymosodiad anweddus);
(ch)tramgwydd o dan adran 16 o'r Ddeddf honno (ymosodiad gyda'r bwriad o gyflawni sodomiaeth);
(d)tramgwydd o dan adran 17 o'r Ddeddf honno (herwgydio menyw drwy rym neu oherwydd ei heiddo);
(dd)tramgwydd o dan adran 24 o'r Ddeddf honno (dal menyw mewn puteindy neu mewn mangre arall).
3. Daw person o fewn y paragraff hwn os cafodd ei gollfarnu o unrhyw un o'r tramgwyddau canlynol yn erbyn plentyn a gyflawnwyd pan oedd yn 18 neu drosodd neu os cafodd rybuddiad gan gwnstabl o ran unrhyw dramgwydd o'r fath, y cyfaddefodd y person i'r tramgwydd pan roddwyd y rhybuddiad.
(a)tramgwydd o dan adran 7 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956 (cyfathrach rywiol â pherson diffygiol) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn;
(b)tramgwydd o dan adran 9 o'r Ddeddf honno (caffael person diffygiol) drwy gaffael plentyn i gael cyfathrach rywiol;
(c)tramgwydd o dan adran 10 o'r Ddeddf honno (llosgach gan ddyn) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn;
(ch)tramgwydd o dan adran 11 o'r Ddeddf honno (llosgach gan fenyw) drwy ganiatáu i blentyn gael cyfathrach rywiol â hi;
(d)onid yw paragraff 4 yn gymwys, tramgwydd o dan adran 12 o'r Ddeddf honno drwy gyflawni sodomiaeth â phlentyn o dan 16 oed;
(dd)onid yw paragraff 4 yn gymwys, tramgwydd o dan adran 13 o'r Ddeddf honno drwy gyflawni gweithred o anwedduster garw â phlentyn;
(e)tramgwydd o dan adran 21 o'r Ddeddf honno (herwgydio person diffygiol oddi wrth riant neu warcheidwad) drwy ddwyn y plentyn o feddiant ei riant neu warcheidwad;
(f)tramgwydd o dan adran 22 o'r Ddeddf honno (peri puteinio menywod) o ran plentyn;
(ff)tramgwydd o dan adran 23 o'r Ddeddf honno (caffael merch o dan 21 oed) drwy gaffael plentyn i gael cyfathrach rywiol â thrydydd person;
(g)tramgwydd o dan adran 27 o'r Ddeddf honno (caniatáu i berson diffygiol ddefnyddio mangre ar gyfer cyfathrach rywiol) drwy gymell neu ganiatáu i blentyn droi at fangre neu fod mewn mangre at ddibenion cael cyfathrach rywiol;
(ng)tramgwydd o dan adran 29 o'r Ddeddf honno (peri neu annog puteinio person diffygiol) drwy beri neu annog puteinio plentyn;
(h)tramgwydd o dan adran 30 o'r Ddeddf honno (dyn yn byw ar enillion puteindra) mewn achos lle bo'r butain yn blentyn;
(i)tramgwydd o dan adran 31 o'r Ddeddf honno (menyw yn gweithredu rheolaeth dros butain) mewn achos lle bo'r butain yn blentyn;
(j)tramgwydd o dan adran 128 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1959 (cyfathrach rywiol â chleifion) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn;
(l)tramgwydd o dan adran 4 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1967 (caffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrhywiol) drwy—
(i)caffael plentyn i gyflawni gweithred o sodomiaeth gydag unrhyw berson; neu
(ii)caffael unrhyw berson i gyflawni gweithred o sodomiaeth â phlentyn;
(ll)tramgwydd o dan adran 5 o'r Ddeddf honno (byw ar enillion puteinio gwrywaidd) drwy fyw yn gyfan gwbl neu'n rhannol ar enillion puteinio plentyn;
(m)tramgwydd o dan adran 9(1)(a) o Ddeddf Dwyn 1968 (bwrgleriaeth), drwy fynd i mewn i adeilad neu ran o adeilad gyda'r bwriad o dreisio plentyn.
4. Nid yw paragraffau 1(c) a 3(d) a (dd) yn cynnwys tramgwyddau mewn achos os oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed pan gyflawnwyd y tramgwydd.
Rheoliad 26(2)
1. Enw, rhyw, dyddiad a man geni a chyfeiriad gan gynnwys ardal yr awdurdod lleol.
2. Llun a disgrifiad corfforol.
3. A yw domisil neu gartref arferol y darpar fabwysiadydd mewn rhan o Ynysoedd Prydain ac os yw cartref arferol y darpar fabwysiadydd yno, ers pa bryd.
4. Tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol.
5. Cred grefyddol, os oes un.
6. Y berthynas â'r plentyn (os oes un).
7. Asesiad o bersonoliaeth a diddordebau'r darpar fabwysiadydd.
8. Os yw'r darpar fabwysiadydd yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac os yw'n gwneud y cais ar ei ben ei hun, asesiad o addasrwydd y darpar fabwysiadydd ar gyfer mabwysiadu a'r rhesymau dros hynny.
9. Manylion o unrhyw achosion blaenorol mewn llys teulu y bu'r darpar fabwysiadydd yn cymryd rhan ynddynt.
10. Enwau a chyfeiriadau tri chanolwr a fydd yn rhoi geirda personol am y darpar fabwysiadydd, na chaiff mwy nag un ohonynt fod yn berthynas iddo.
11. Enw a chyfeiriad ymarferydd meddygol cofrestredig y darpar fabwysiadydd, os oes un.
12. O ran y darpar fabwysiadydd —
(a)os yw'n briod, dyddiad a man y briodas;
(b)os yw wedi ffurfio partneriaeth sifil, dyddiad a man cofrestru'r bartneriaeth honno; neu
(c)os oes partner gan y darpar fabwysiadydd, manylion y berthynas honno.
13. Manylion unrhyw briodas, partneriaeth sifil neu berthynas flaenorol.
14. Coeden deulu gyda manylion y darpar fabwysiadydd, ei blant ac unrhyw frodyr a chwiorydd, gyda'u hoedran (neu eu hoedran pan fuont farw).
15. Cronoleg o'r darpar fabwysiadydd ers ei eni.
16. Sylwadau darpar fabwysiadydd am ei brofiad am y rhianta a gafodd yn ei blentyndod a sut y dylanwadodd hyn arno.
17. Manylion unrhyw brofiad sydd gan y darpar fabwysiadydd o ofalu am blant (gan gynnwys fel rhiant, llys-riant, rhiant maeth, gwarchodwr plant neu ddarpar fabwysiadydd) ac asesiad o'i allu yn y cyswllt hwnnw.
18. Unrhyw wybodaeth arall sy'n dangos sut y mae'r darpar fabwysiadydd ac unrhyw un arall sy'n byw ar ei aelwyd yn debygol o ymwneud â'r plentyn a leolir ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.
19. Disgrifiad o deulu ehangach y darpar fabwysiadydd a'i rôl a'i bwysigrwydd i'r darpar fabwysiadydd a'i rôl a'i bwysigrwydd tebygol i'r plentyn a leolir ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.
20. Asesiad o gartref a chymdogaeth y darpar fabwysiadydd.
21. Manylion aelodau eraill o aelwyd y darpar fabwysiadydd (gan gynnwys unrhyw blant i'r darpar fabwysiadydd p'un a ydynt yn preswylio ar yr aelwyd ai peidio).
22. Cymuned leol y darpar fabwysiadydd, gan gynnwys i ba raddau yr integreiddiodd y teulu, grwpiau o gymheiriaid, cyfeillgarwch a rhwydweithiau cymdeithasol y teulu.
23. Manylion hanes addysg a chyraeddiadau'r darpar fabwysiadydd a sylwadau'r darpar fabwysiadydd ar sut y cafodd hyn ddylanwad.
24. Manylion hanes cyflogaeth y darpar fabwysiadydd a sylwadau'r darpar fabwysiadydd ar sut y cafodd hyn ddylanwad.
25. Cyflogaeth bresennol y darpar fabwysiadydd a'i farn am gyflawni cydbwysedd rhwng cyflogaeth a gofal plant.
26. Manylion incwm a gwariant y darpar fabwysiadydd.
27. Gallu'r darpar fabwysiadydd —
(a)i rannu hanes geni'r plentyn a materion emosiynol cysylltiedig;
(b)deall a chefnogi'r plentyn drwy deimladau posibl o golled a thrawma.
28. O ran y darpar fabwysiadydd —
(a)ei resymau dros ddymuno mabwysiadu plentyn;
(b)ei farn a'i deimladau am fabwysiadu a'i arwyddocâd;
(c)ei farn am ei gynneddf i rianta;
(ch)ei farn am ei gyfrifoldeb rhiant a'r hyn y mae'n ei olygu;
(d)ei farn am amgylchedd cartref addas i blentyn;
(dd)ei farn am bwysigrwydd a gwerth addysg;
(e)ei farn a'i deimladau ynghylch pwysigrwydd magwraeth grefyddol a diwylliannol plentyn;
(f)ei farn a'i deimladau am gyswllt o ran plentyn.
29. Barn aelodau eraill o aelwyd y darpar fabwysiadydd a'r teulu ehangach o ran mabwysiadu.
30. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall a allai fod o gymorth i'r panel mabwysiadu neu'r asiantaeth fabwysiadu.
Rheoliad 26(3)(a)
1. Enw, dyddiad geni, rhyw, pwysau a thaldra.
2. Hanes iechyd y teulu, sy'n ymwneud â'r rhieni, brodyr a chwiorydd (os oes rhai) a phlant (os oes rhai) y darpar fabwysiadydd, gyda manylion unrhyw salwch corfforol difrifol neu salwch meddwl difrifol a chlefyd neu anhwylder etifeddol.
3. Anffrwythlondeb neu resymau dros beidio â chael plant (os yw'n gymwys).
4. Hanes iechyd yn y gorffennol, gan gynnwys manylion unrhyw salwch corfforol difrifol neu salwch meddwl difrifol, anabledd, damwain, derbyn i ysbyty neu fynd i adran cleifion allanol, ac ym mhob achos y driniaeth a gafwyd.
5. Hanes obstetrig (os yw'n gymwys).
6. Manylion unrhyw salwch presennol, gan gynnwys y driniaeth a'r prognosis.
7. Archwiliad meddygol llawn.
8. Manylion o unrhyw yfed alcohol a all beri pryder neu a yw'r darpar fabwysiadydd yn ysmygu neu'n defnyddio cyffuriau sy'n creu caethiwed.
9. Unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r asiantaeth yn ystyried a all gynorthwyo'r panel.
10. Llofnod, enw, cyfeiriad, a chymwysterau'r ymarferydd meddygol cofrestredig a baratôdd yr adroddiad, dyddiad yr adroddiad a'r archwiliadau a wnaed ynghyd ag enw a chyfeiriad unrhyw feddyg arall a all roi gwybodaeth bellach am unrhyw rai o'r materion uchod.
Rheoliad 32(1)
1. Manylion am y plentyn.
2. Llun a disgrifiad corfforol.
3. Manylion am amgylchiadau teuluol y plentyn ac amgylchedd y cartref, gan gynnwys manylion am deulu'r plentyn (rhieni, brodyr a chwiorydd ac eraill sy'n arwyddocaol).
4. Cronoleg o ofal y plentyn.
5. Ymddygiad y plentyn, sut y mae'r plentyn yn rhyngweithio â phlant eraill ac yn dod ymlaen gydag oedolion.
6. A yw'r plentyn yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol ac, os felly, y rheswm pam y mae'r plentyn i'w leoli ar gyfer mabwysiadu.
7. Manylion hanes lleoli'r plentyn gan gynnwys y rhesymau pam os na lwyddodd unrhyw leoliad.
8. Manylion cyflwr iechyd y plentyn, hanes ei iechyd ac unrhyw angen am ofal iechyd a all godi yn y dyfodol.
9. Manylion hanes addysgol y plentyn, a chrynodeb o gynnydd y plentyn hyd yn hyn ac os cafodd ei asesu neu os yw'n debygol o gael ei asesu ar gyfer anghenion addysgol arbennig o dan Ddeddf Addysg 1996.
10. Dymuniadau a theimladau'r plentyn hyd y gellir eu canfod mewn perthynas â mabwysiadu, a chyswllt â rhiant y plentyn, ei warcheidwad, perthynas iddo neu berson arall arwyddocaol.
11. Dymuniadau a theimladau rhiant y plentyn, ei warcheidwad, perthynas iddo neu berson arall arwyddocaol o ran mabwysiadu a chyswllt.
12. Sylwadau'r person y mae'r plentyn yn byw gydag ef ynghylch mabwysiadu.
13. Asesiad o anghenion y plentyn ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu a chynigion yr asiantaeth i ddiwallu'r anghenion hynny.
14. Cynigion yr asiantaeth i ganiatáu cyswllt rhwng unrhyw berson â'r plentyn.
15. Yr amserlen arfaethedig ar gyfer lleoli.
16. Unrhyw wybodaeth arall y mae'r asiantaeth yn ystyried sy'n berthnasol.
Rheoliad 36(2)
1. Statws y plentyn a ph'un a leolwyd ef o dan orchymyn lleoliad neu gyda chydsyniad ei rieni gwaed.
2. Y trefniadau ar gyfer paratoi'r plentyn a'r darpar fabwysiadydd ar gyfer y lleoliad.
3. Y dyddiad y bwriedir lleoli'r plentyn i'w fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.
4. Y trefniadau ar gyfer adolygu'r lleoliad.
5. A fwriedir cyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant y darpar fabwysiadydd ac os felly i ba raddau y bydd y cyfyngu.
6. Y gwasanaethau cymorth mabwysiadu y mae'r awdurdod lleol wedi penderfynu eu darparu ar gyfer y plentyn a'r teulu mabwysiadol, sut y darperir hwy a chan bwy (os yw'n gymwys).
7. Y trefniadau a wnaeth yr asiantaeth fabwysiadu er mwyn caniatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson, ffurf y cyswllt a'r trefniadau ar gyfer cefnogi cyswllt ac enw a manylion cyswllt y person sy'n gyfrifol am hwyluso'r trefniadau cyswllt (os yw'n gymwys).
8. Y dyddiad pan roddir llyfr stori bywyd a llythyr am fywyd yn nes ymlaen i'r darpar fabwysiadydd neu i'r plentyn.
9. Manylion unrhyw drefniadau y mae angen eu gwneud.
10. Manylion cyswllt gweithiwr cymdeithasol y plentyn, gweithiwr cymdeithasol y darpar fabwysiadydd a chysylltiadau y tu allan i oriau.
Yn y cyd-destun hwn ni wahaniaethir rhwng gwahanol rannau o'r D.U.
Yn y cyd-destun hwn ni wahaniaethir rhwng gwahanol rannau o'r D.U.
Yn y cyd-destun hwn ni wahaniaethir rhwng gwahanol rannau o'r D.U.
Gweler (1) uchod.
Yn y cyd-destun hwn ni wahaniaethir rhwng gwahanol rannau o'r D.U.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys