Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot a Phowys (Cwm-twrch) 2004

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot a Phowys (Cwm-twrch) 2004.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2005, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, gyda'r eithriad bod rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2004.

Dehongli

2.  Ystyr “y map ffiniau” (“the boundary map”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac sydd wedi'i farcio “Map Ffiniau Gorchymyn Castell-nedd Port Talbot a Phowys (Cwm-twrch) 2004” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 fel y'i diwygiwyd(1).

Newidiadau i'r Ffiniau Sirol

3.  Mae'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwm-twrch wedi'i newid yn unol ag Erthygl 4.

Ffin Sirol newydd

4.  Mae'r ffin rhwng y rhannau hynny o Fwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys yn ardal Cwm-twrch, a ddangosir ar y map ffiniau, i gynnwys yr hyn a ddangosir ar y map ffiniau fel “Ffin Sirol Newydd/Ffin Newydd Sir wedi'i Chadw”, gyda'r canlyniad bod yr ardal o dir a ddangosir gyda llinellau rhesog du ar y map ffiniau i'w chynnwys yn Sir Powys yn lle ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Newid canlyniadol i adrannau etholiadol

5.  Newidir ffiniau ward Ystalyfera yng nghymuned Ystalyfera (sy'n ffurfio rhan o ardal etholiadol Ystalyfera), a ward Cwm-twrch yng nghymuned Ystradgynlais (yn ardal etholiadol Cwm-twrch) fel eu bod yn cyd-fynd â'r ffin fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4.

Newid canlyniadol i Ffin Siroedd Wedi'u Cadw

6.  Mae ffiniau siroedd Gorllewin Morgannwg a Phowys, sef y siroedd sydd wedi'u cadw, wedi'u newid er mwyn iddynt gyd-fynd â'r ffin rhwng Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Powys fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Sue Essex

Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

13 Hydref 2004

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill