Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol) (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 880 (Cy.111)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol) (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

25 Mawrth 2003

Yn dod i rym

1 Ebrill 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 512(3) a 568 o Ddeddf Addysg 1996(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2).

Enw, cychwyn a chymwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol) (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Ebrill 2003.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg lawnamser neu ran-amser sydd yn addas ar gyfer plant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol orfodol;

a

mae'r cyfeiriad at ysgol a gynhelir yn gyfeiriad at ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol o fewn ystyr adran 512(6) o Ddeddf 1996.

Gofyniad rhagnodedig ar gyfer ciniawau ysgol

3.—(1Rhagnodir y gofyniad canlynol at ddiben adran 512(3)(a) o Ddeddf 1996.

(2Rhaid bod disgybl cofrestredig sydd yn derbyn addysg feithrin yn derbyn addysg lawnamser.

Darpariaeth drosiannol

4.  Bydd disgybl sydd yn derbyn addysg feithrin mewn ysgol a gynhelir y mae cinio ysgol yn cael ei ddarparu iddo neu iddi hi yn union cyn 1 Ebrill 2003, yn cael ei drin fel pe na bai unrhyw ofynion rhagnodedig yn gymwys i'r plentyn hwnnw dan adran 512(3)(a) o Ddeddf 1996; hyd nes y bydd yn gorffen derbyn addysg feithrin.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Mawrth 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 512(3)(a) o Ddeddf Addysg 1996 yn rhoi dylestswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol i ddarparu ciniawau ysgol i ddisgyblion sydd yn gymwys i giniawau ysgol yn rhad ac am ddim, ar yr amod bod unrhyw ofynion rhagndoedig yn cael eu bodloni. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi gofyniad o'r fath.

Mae'r gofyniad yn cael ei osod allan yn Erthygl 3. Mae'n gymwys yn unig i ddisgyblion cofrestredig sydd yn derbyn addysg feithrin; rhaid eu bod yn derbyn addysg feithrin lawnamser.

Mae Erthygl 4 yn cynnwys darpariaeth drosiannol i atal disgyblion sydd yn derbyn addysg feithrin ran-amser mewn ysgolion a gynhelir, sydd yn derbyn ciniawau ysgol yn rhad ac am ddim, rhag colli yr hawl i giniawau o'r fath.

(1)

1996 p.56; mewnosodir adran 512 yn rhagolygol gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). Mae'r rhannau perthnasol o adran 201 i ddod i rym ar 31 Mawrth 2003 yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/3185 (Cy.301) (C.107)). Am ddiffiniad o “prescibed”, gweler adran 512(6).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill