Chwilio Deddfwriaeth

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Legislation Crest

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

2010 mccc 7

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynghylch gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol; cydlynu gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd a chynllunio ar eu cyfer; asesiadau o anghenion defnyddwyr blaenorol gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd; eiriolaeth annibynnol ar gyfer personau a gedwir yn gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a phersonau eraill sy'n cael triniaeth iechyd meddwl fel claf mewn ysbyty; ac at ddibenion cysylltiedig.

Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 2 Tachwedd 2010 ac a gymeradwywd gan Ei Mawrhydi an Ei Chyngor ar 15 Rhagfyr 2010, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:–

RHAN 1GWASANAETHAU CYMORTH IECHYD MEDDWL SYLFAENOL LLEOL

Ystyr “partneriaid iechyd meddwl lleol”

1Ystyr “partneriaid iechyd meddwl lleol”

At ddibenion y Mesur hwn, y partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol yw–

(a)y Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ar gyfer ardal sy'n cynnwys ardal yr awdurdod lleol; a

(b)yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal honno.

Gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol

2Cynlluniau ar y cyd ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol

(1)Rhaid i'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i gytuno ar gynllun–

(a)sy'n dynodi'r driniaeth sydd i fod ar gael ar gyfer yr ardal honno at ddibenion y Rhan hon (“triniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol”); a

(b)i sicrhau darpariaeth ar gyfer yr ardal honno o wasanaethau, gan gynnwys triniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol, a ddisgrifir yn adran 5 (“gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol”).

(2)Os cytunir ar gynllun, rhaid i'r partneriaid sicrhau ei fod yn cael ei gofnodi'n ysgrifenedig.

(3)Rhaid i gynllun ddynodi i ba raddau y mae pob un o'r partneriaid i fod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol.

(4)Caiff cynllun ddarparu–

(a)bod un o'r partneriaid i fod yn gyfrifol am ddarparu'r holl wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol;

(b)bod asesiadau iechyd meddwl sylfaenol i fod ar gael mewn cysylltiad â'r holl unigolion a ddisgrifir yn adran 8(1) neu â disgrifiadau neilltuol ohonynt;

(c)mae asesiadau iechyd meddwl sylfaenol i'w cynnal mewn cysylltiad â chategorïau neilltuol o unigolyn na fyddai ganddynt fel arall hawl i asesiad.

(5)Os yw cynllun yn gwneud darpariaeth o dan is-adran (4)(b), rhaid iddo hefyd ddarparu i staff o ddisgrifiadau neilltuol sy'n gweithio ar wasanaethau iechyd meddwl eilaidd allu atgyfeirio unigolyn y cyfeirir ato yn yr is-adran honno am asesiad iechyd meddwl sylfaenol.

(6)Caiff y partneriaid wneud newidiadau i gynllun (gan gynnwys cynllun a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 4 a chynllun y gwnaed newidiadau iddo eisoes) os ydynt yn cytuno ar y newidiadau.

(7)Os gwneir newidiadau i gynllun o dan is-adran (6), rhaid i'r partneriaid sicrhau bod y newidiadau'n cael eu cofnodi'n ysgrifenedig.

3Dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol

(1)Onid yw adran 4(1)(a) yn gymwys, rhaid i'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn unol â'r canlynol–

(a)cynllun ar gyfer eu hardal a gytunwyd o dan adran 2; neu

(b)cynllun ar gyfer eu hardal a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 4.

(2)Os gwnaed newidiadau i gynllun o dan adran 2(6) neu 4(2) rhaid i'r gwasanaethau gael eu darparu yn unol â'r cynllun y gwnaed newidiadau iddo.

4Methiannau i gytuno ar gynlluniau

(1)Os na fydd y partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal yn gallu cytuno ar gynllun o dan adran 2–

(a)tra nad oes cytundeb, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu pa driniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol sydd i fod ar gael yn ardal yr awdurdod lleol o dan sylw a bod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol ar gyfer yr ardal honno;

(b)rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu Gweinidogion Cymru na ellir dod i gytundeb;

(c)caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar gynllun ac, os ydynt yn gwneud hynny, rhaid iddynt ei gofnodi'n ysgrifenedig.

(2)Os bydd un partner yn dymuno gwneud newidiadau i gynllun, ond nad yw'r llall yn dymuno hynny, caiff Gweinidogion Cymru, os gwneir cais iddynt gan y naill bartner neu'r llall, wneud newidiadau i'r cynllun i'r graddau y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda eu gwneud.

(3)Os bydd Gweinidogion Cymru'n gwneud newidiadau i gynllun o dan is-adran (2), rhaid iddynt gofnodi'r newidiadau'n ysgrifenedig.

5Ystyr “gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol”

(1)Dyma yw gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol–

(a)cynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol yn unol â darpariaethau canlynol y Rhan hon;

(b)darparu ar gyfer unigolyn, yn dilyn asesiad iechyd meddwl sylfaenol, driniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol a ddynodir gan yr asesiad yn driniaeth a allai wella iechyd meddwl yr unigolyn neu atal dirywiad ynddo;

(c)gwneud atgyfeiriadau fel a ddisgrifir yn adran 10, yn dilyn asesiad iechyd meddwl sylfaenol, ynghylch gwasanaethau eraill y gallai eu darparu wella iechyd meddwl yr unigolyn a aseswyd neu atal dirywiad ynddo;

(d)darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth arall i ddarparwyr iechyd sylfaenol i fodloni gofynion rhesymol y darparwyr am y cyfryw wybodaeth, cyngor a chymorth arall at ddibenion gwella'r gwasanaethau mewn perthynas ag iechyd meddwl y maent yn eu darparu neu'n eu trefnu;

(e)darparu gwybodaeth a chyngor ar gyfer cleifion a'u gofalwyr ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael iddynt i fodloni eu gofynion rhesymol am y cyfryw wybodaeth a chyngor.

(2)Yn is-adran (1)(e)–

  • ystyr “cleifion” (“patients”) yw unigolion y mae ganddynt, neu y gall fod ganddynt, anhwylder meddwl;

  • ystyr “gofalwyr” (“carers”) yw aelodau o deuluoedd cleifion, a ffrindiau cleifion, sy'n ymwneud â'u gofal ac yn achos claf sy'n blentyn mae'n cynnwys rhiant maeth awdurdod lleol y plentyn (o fewn ystyr adran 22C(12) o Ddeddf Plant 1989);

  • ystyr “gwasanaethau” (“services”) yw–

    (a)

    gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd;

    (b)

    gwasanaethau gofal cymunedol (nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd);

    (c)

    gwasanaethau a ddarperir o dan Ran III o Ddeddf Plant 1989 (nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd);

    (d)

    gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant; a

    (e)

    addysg neu hyfforddiant a all fod yn llesol i iechyd meddwl claf.

Asesiadau iechyd meddwl sylfaenol

6Dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau ar gyfer cleifion cofrestredig mewn gofal sylfaenol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i unigolyn–

(a)nad yw'n dod o fewn unrhyw un o'r disgrifiadau yn adran 8(1); a

(b)y gwneir atgyfeiriad perthnasol at ddibenion yr adran hon mewn cysylltiad ag ef.

(2)Rhaid i asesiad iechyd meddwl sylfaenol gael ei gynnal mewn cysylltiad â'r unigolyn yn unol ag adran 9.

(3)Ystyr atgyfeiriad perthnasol at ddibenion yr adran hon yw cais am i unigolyn gael asesiad iechyd meddwl sylfaenol sy'n bodloni'r amodau canlynol.

(4)Yr amod cyntaf yw bod y cais yn cael ei wneud–

(a)gan gontractiwr yr ymrwymwyd mewn contract gwasanaethau meddygol cyffredinol gydag ef o dan adran 42 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006–

(i)gan y Bwrdd Iechyd Lleol y gwnaed y cais iddo, neu

(ii)os gwneir y cais i awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n bartner iechyd meddwl lleol i'r awdurdod;

(b)gan berson y gwnaed trefniadau gydag ef o dan adran 50 o'r Ddeddf honno–

(i)gan y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo, neu

(ii)os gwneir y cais i awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n bartner iechyd meddwl lleol i'r awdurdod; neu

(c)gan ymarferydd meddygol cofrestredig a gyflogir at ddibenion adran 41 o'r Ddeddf honno–

(i)gan y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo, neu

(ii)os gwneir y cais i awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n bartner iechyd meddwl lleol i'r awdurdod.

(5)Yr ail amod yw bod yr unigolyn y gwneir y cais mewn cysylltiad ag ef yn un o gleifion cofrestredig y contractiwr, y person neu'r ymarferydd sy'n gwneud yr atgyfeiriad.

(6)Y trydydd amod yw bod y cais yn cael ei wneud i bartner iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol lle y mae'r unigolyn fel arfer yn preswylio.

(7)At ddibenion yr adran hon ac adrannau 7 ac 8 mae cais i'w drin fel pe bai wedi ei wneud gan contractiwr o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol yr ymrwymwyd ynddo o dan adran 42 o Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, gan berson y mae trefniadau wedi eu gwneud gydag ef o dan adran 50 o'r Ddeddf honno, neu gan gontractiwr sy'n cael ei gyflogi at ddibenion adran 41 o'r Ddeddf honno, os gwneir y cais gydag awdurdodaeth y contractiwr, y person neu'r ymarferydd.

7Dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal sylfaenol eraill

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i unigolyn–

(a)nad yw'n dod o fewn unrhyw un o'r disgrifiadau yn adran 8(1); a

(b)y gwneir atgyfeiriad perthnasol mewn cysylltiad ag ef at ddibenion yr adran hon.

(2)Rhaid cynnal asesiad iechyd meddwl sylfaenol mewn cysylltiad â'r unigolyn yn unol ag adran 9.

(3)Ystyr atgyfeiriad perthnasol at ddibenion yr adran hon yw cais am i unigolyn gael asesiad iechyd meddwl sylfaenol sy'n bodloni'r amodau canlynol.

(4)Yr amod cyntaf yw bod cais yn cael ei wneud–

(a)gan gontractiwr yr ymrwymwyd mewn contract gwasanaethau meddygol cyffredinol gydag ef o dan adran 42 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006–

(i)gan y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo, neu

(ii)os gwneir y cais i awdurdod lleol, gan y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n bartner iechyd meddwl lleol i'r awdurdod;

(b)gan berson y mae trefniadau wedi eu gwneud o dan adran 50 o'r Ddeddf honno–

(i)gan y Bwrdd Iechyd lleol y gwneir y cais iddo, neu

(ii)os gwneir y cais i awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n bartner iechyd meddwl lleol i'r awdurdod;

(c)gan ymarferydd meddygol cofrestredig a gyflogir at ddibenion adran 41 o'r Ddeddf honno–

(i)gan y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo, neu

(ii)os gwneir y cais i awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n bartner iechyd meddwl lleol i'r awdurdod; neu

(d)gan ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n darparu gwasanaethau i garcharorion o dan drefniadau a wnaed rhwng yr ymarferydd meddygol cofrestredig a pherson sy'n gyfrifol am ddarparu neu redeg carchar sydd wedi ei gontractio allan (o fewn ystyr adran 84(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991) yng Nghymru.

(5)Yr ail amod yw bod y cais yn cael ei wneud i bartner iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol lle y mae'r contractiwr, y person neu'r ymarferydd yn ymgymryd â'r rhan fwyaf o fusnes neu weithgareddau'r contractiwr, y person neu'r ymarferydd.

(6)Y trydydd amod yw bod yr unigolyn y gwneir y cais mewn cysylltiad ag ef yn dod o fewn categori a bennir–

(a)mewn rheoliadau a wneir gan Weinigogion Cymru; neu

(b)yn y cynllun ar gyfer yr ardal awdurdod lleol honno o dan adran 2(4)(c).

8Dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal iechyd meddwl eilaidd

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i unigolyn sy'n dod o fewn unrhyw un neu ragor o'r disgrifiadau canlynol–

(a)unigolyn sy'n agored i gael ei gadw'n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983;

(b)unigolyn sy'n ddarostyngedig i warcheidiaeth o dan y Ddeddf honno;

(c)unigolyn sy'n glaf cymunedol o fewn yr ystyr a roddir gan adran 17A o'r Ddeddf honno;

(d)unigolyn sy'n cael gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.

(2)Rhaid i asesiad iechyd meddwl sylfaenol gael ei gynnal mewn cysylltiad â'r unigolyn yn unol ag adran 9–

(a)os bydd y cynllun perthnasol yn darparu o dan adran 2(4)(b) fod asesiadau iechyd meddwl sylfaenol i fod ar gael mewn cysylltiad â'r holl gategorïau neu â chategorïau penodedig o unigolion y cyfeirir atynt yn is-adran (1);

(b)os bydd yr unigolyn yn dod o fewn y disgrifiad yn y cynllun o'r unigolion hynny y mae asesiadau iechyd meddwl sylfaenol i fod ar gael mewn cysylltiad â hwy; a

(c)os gwneir atgyfeiriad perthnasol at ddibenion yr adran hon.

(3)Ystyr atgyfeiriad perthnasol at ddibenion yr adran hon yw cais am i unigolyn gael asesiad iechyd meddwl sylfaenol sy'n bodloni'r amodau canlynol.

(4)Yr amod cyntaf yw bod y cais yn cael ei wneud i bartner iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol lle y mae'r unigolyn fel arfer yn preswylio.

(5)Yr ail amod yw bod y cais yn cael ei wneud gan aelod o staff sy'n dod o fewn categori a bennir yn y cynllun ar gyfer yr ardal awdurdod lleol honno o dan adran 2(5).

9Cynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol

(1)Mae asesiad iechyd meddwl sylfaenol yn ddadansoddiad o iechyd meddwl unigolyn sy'n dynodi–

(a)y driniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol (os oes un) a allai wella iechyd meddwl yr unigolyn neu atal dirywiad ynddo (rhaid darparu unrhyw driniaeth a ddynodir felly: gweler adrannau 3 a 5); a

(b)y gwasanaethau eraill (os oes rhai) a allai wella iechyd meddwl yr unigolyn neu atal dirywiad ynddo.

(2)Rhaid i'r partneriaid iechyd meddwl lleol sicrhau bod yr asesiad yn cael ei gynnal gan unigolyn sy'n gymwys i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol o dan reoliadau a wneir o dan adran 47.

(3)Mae'r cyfeiriad at wasanaethau eraill yn is-adran (1)(b) yn gyfeiriad at–

(a)gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd;

(b)gwasanaethau o fath a ddarperir fel arfer gan ddarparwyr gofal sylfaenol;

(c)gwasanaethau gofal cymunedol (nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd);

(d)gwasanaethau a ddarperir o dan Ran III o Ddeddf Plant 1989 (nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd);

(e)gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant; ac

(f)addysg neu hyfforddiant a all fod o fudd i iechyd meddwl unigolyn.

10Camau i'w cymryd yn sgil asesiad iechyd meddwl sylfaenol

(1)Pan fo asesiad iechyd meddwl sylfaenol yn dynodi gwasanaethau o dan adran 9(1)(b) a allai wella iechyd meddwl unigolyn neu atal dirywiad ynddo, rhaid i'r partner iechyd meddwl lleol a gynhaliodd yr asesiad–

(a)os yw'r partner o'r farn mai ef fyddai'r awdurdod cyfrifol dros ddarparu unrhyw un neu ragor o'r gwasanaethau, benderfynu p'un a oes galw am unrhyw un neu ragor o'r gwasanaethau hynny ai peidio; a

(b)os yw'r partner o'r farn nad ef fyddai'r awdurdod cyfrifol dros ddarparu unrhyw un neu ragor o'r gwasanaethau, atgyfeirio at y person y mae'r partner o'r farn mai hwnnw fyddai'r awdurdod cyfrifol dros ddarparu'r gwasanaethau hynny.

(2)Rhaid i atgyfeiriad o dan is-adran (1)(b) hysbysu'r derbynnydd–

(a)bod y partner iechyd meddwl lleol sy'n gwneud yr atgyfeiriad wedi dynodi gwasanaethau y mae o'r farn a allai wella iechyd meddwl yr unigolyn neu atal dirywiad ynddo; a

(b)bod y partner o'r farn mai'r derbynnydd fyddai'r awdurdod cyfrifol dros ddarparu'r gwasanaethau hynny.

(3)Rhaid i berson y gwnaed yr atgyfeiriad iddo benderfynu p'un a oes galw am ddarparu unrhyw un neu ragor o'r gwasanaethau y mae'r atgyfeiriad yn berthnasol iddynt ai peidio.

(4)Yn yr adran hon ystyr “awdurdod cyfrifol” yw'r person a fyddai'n gyfrifol dros ddarparu gwasanaethau pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i ddarparu'r gwasanaethau.

(5)Nid oes dim yn yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol neu'n awdurdodi gwneud atgyfeiriad i awdurdod cyfrifol, wedi ei gyfansoddi ar gyfer ardal sy'n gyfan gwbl o fewn Lloegr neu'n gweithredu ar gyfer y cyfryw ardal yn unig.

Diwygio Deddf Plant 2004

11Cynnwys cynlluniau o dan y Rhan hon mewn cynlluniau Plant a Phobl Ifanc

Ar ôl adran 26(1B)(b) o Ddeddf Plant 2004 rhowch y canlynol–

(c)the scheme for the authority’s area under Part 1 of the Mental Health (Wales) Measure 2010.

RHAN 2CYDGYSYLLTU A CHYNLLUNIO GOFAL AR GYFER DEFNYDDWYR GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL EILAIDD

Diffiniadau

12Ystyr “claf perthnasol”

(1)At ddibenion y Rhan hon, mae unigolyn yn glaf perthnasol os yw darparydd gwasanaeth iechyd meddwl yn gyfrifol am ddarparu unrhyw wasanaeth iechyd meddwl eilaidd i'r unigolyn.

(2)Mae unigolyn nad yw'n dod o fewn is-adran (1) hefyd yn glaf perthnasol os–

(a)yw'r unigolyn o dan warcheidiaeth awdurdod lleol yng Nghymru; neu

(b)mae darparydd gwasanaeth iechyd meddwl wedi penderfynu y byddai gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd yn cael ei ddarparu i'r unigolyn pe byddai'r unigolyn yn cydweithredu â'r ddarpariaeth honno.

13Ystyr “darparydd gwasanaeth iechyd meddwl”

(1)At ddibenion y Rhan hon, dyma'r darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl–

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)Bwrdd Iechyd Lleol;

(c)awdurdod lleol yng Nghymru.

(2)Ond nid yw Gweinidogion Cymru i'w trin fel rhai sy'n gyfrifol am ddarparu unrhyw wasanaeth a gaiff ei ddarparu wrth arfer swyddogaeth y mae cyfarwyddyd a roddir o dan adran 12(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn ymwneud â hi.

Penodi cydgysylltwyr gofal

14Dyletswydd i benodi cydgysylltydd gofal ar gyfer claf perthnasol

(1)Rhaid i'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol ar gyfer claf perthnasol benodi unigolyn yn gydgysylltydd gofal ar gyfer y claf i weithredu swyddogaethau ynglŵn â'r claf a roddir i gydgysylltwyr gofal gan ac o dan y Rhan hon.

(2)Mae'r ddyletswydd o dan is-adran (1) i'w chyflawni cyn gynted ag y bydd yn rhesymol ymarferol–

(a)ar ôl i unigolyn ddod yn glaf perthnasol; neu

(b)mewn achos pan fydd unigolyn yn peidio â bod wedi ei benodi'n gydgysylltydd gofal claf perthnasol yn barhaol, ar ôl terfynu'r penodiad hwnnw yn barhaol.

(3)Pan fo'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol o'r farn bod cydgysylltydd gofal claf am ba reswm bynnag yn analluog dros dro i weithredu felly, caiff y darparydd benodi unigolyn yn gydgysylltydd gofal dros dro ar gyfer y claf i gyflawni mewn perthynas â'r claf y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-adran (1).

(4)Mae penodiad dros dro o dan is-adran (3) yn terfynu pan fo'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol o'r farn bod yr unigolyn a benodwyd yn flaenorol yn gydgysylltydd gofal wedi adennill y gallu i weithredu felly, ac yn yr achos hwnnw adferir penodiad yr unigolyn hwnnw.

(5)Caniateir i drefniadau gael eu gwneud rhwng dau Fwrdd Iechyd Lleol er mwyn i swyddogaethau'r naill o dan is-adran (1) neu (3) gael eu harfer gan y llall.

(6)Ni fydd unrhyw drefniadau a wneir o dan is-adran (5) yn effeithio ar gyfrifoldeb Bwrdd Iechyd Lleol fel darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol o dan is-adrannau (1) neu (3).

(7)Mae adran 15 yn gwneud darpariaeth ynghylch dynodi'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol ar gyfer claf perthnasol.

15Dynodi'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol ar gyfer claf perthnasol

(1)Mae'r is-adran hon yn gymwys–

(a)pan fydd Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd ar gyfer claf perthnasol; a

(b)pan na fydd awdurdod lleol yn gyfrifol am ddarparu cyfryw wasanaeth.

(2)Pan fydd is-adran (1) yn gymwys, y Bwrdd yw'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol.

(3)Mae'r is-adran hon yn gymwys–

(a)pan fydd Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd ar gyfer claf perthnasol; a

(b)pan fydd awdurdod lleol hefyd yn gyfrifol am ddarparu'r cyfryw wasanaeth.

(4)Pan fydd is-adran (3) yn gymwys, mae dynodi mai un o'r personau y cyfeirir atynt yn yr is-adran honno yw'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol i'w wneud yn unol â darpariaeth mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (4)–

(a)darparu i Weinidogion Cymru ddyfarnu ar anghydfodau o ran gweithredu'r rheoliadau;

(b)darparu i Weinidogion Cymru wneud y cyfryw ddyfarniad ag y gwelant yn dda ei wneud sy'n ddyfarniad sy'n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud gan un o'r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (3) i'r person arall yn sgil dyfarniad y cyfeirir ato ym mharagraff (a);

(c)dynodi mai darparydd yw'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol tra disgwylir dyfarniad o dan baragraff (a).

(6)Os nad yw nac is-adran (1) nac is-adran (3) yn gymwys, dyma yw'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol–

(a)os yw awdurdod lleol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd ar gyfer y claf, yr awdurdod;

(b)os yw'r claf o dan warcheidiaeth awdurdod lleol, yr awdurdod;

(c)os nad yw na pharagraff (a) na pharagraff (b) yn gymwys ond bod Gweinidogion Cymru'n gyfriol am ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd i'r claf, Gweinidogion Cymru.

16Darpariaeth bellach ynghylch penodi cydgysylltwyr gofal

(1)Rhaid i ddarparydd beidio â phenodi unigolyn yn gydgysylltydd gofal o dan adran 14(1) onid yw'r unigolyn yn gymwys i'w benodi'n gydgysylltydd gofal o dan reoliadau a wneir o dan adran 47.

(2)Rhaid i ddarparydd beidio â phenodi unigolyn yn gydgysylltydd gofal o dan adran 14(1) o blith staff person arall heb gydsyniad y person hwnnw.

(3)Onid yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru'n darparu fel arall, nid yw penodiad unigolyn yn gydgysylltydd gofal yn dod i ben o ganlyniad i newid darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol claf perthnasol fel y'i dynodir o dan adran 15.

(4)Caiff darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol derfynu penodiad unigolyn a benodwyd yn gydgysylltydd gofal o dan adran 14(1).

Cydgysylltu gwasanaethau iechyd meddwl

17Dyletswydd i gydgysylltu darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl

(1)At ddibenion gwella effeithiolrwydd gwasanaethau iechyd meddwl a ddarperir i glaf perthnasol, rhaid i ddarparydd gwasanaeth iechyd meddwl gymryd pob cam rhesymol i sicrhau–

(a)bod gwahanol wasanaethau iechyd meddwl y mae'n gyfrifol am eu darparu i glaf yn cael eu cydgysylltu â'i gilydd; a

(b)bod y gwasanaethau iechyd meddwl y mae'n gyfrifol am eu darparu i'r claf yn cael eu cydgysylltu ag unrhyw wasanaethau eraill y mae unrhyw ddarparydd gwasanaeth iechyd meddwl arall yn gyfrifol am eu darparu;

(c)bod y gwasanaethau iechyd meddwl y mae'n gyfrifol am eu darparu yn cael eu cydgysylltu ag unrhyw wasanaethau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl ac sy'n cael eu darparu ar gyfer y claf gan gorff gwirfoddol.

(2)Caiff darparydd gwasanaeth iechyd meddwl geisio cyngor cydgysylltydd gofal claf o ran sut y dylai'r darparydd gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1).

(3)Caiff cydgysylltydd gofal ar unrhyw adeg roi cyngor i ddarparydd gwasanaeth iechyd meddwl o ran sut y dylai'r darparydd gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1).

(4)Rhaid i ddarparydd gwasanaeth iechyd meddwl roi sylw i unrhyw gyngor a roddir o dan is-adran (2) neu (3) wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1).

(5)Yn yr adran hon gwasanaethau iechyd meddwl yw–

(a)gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd;

(b)gwasanaethau o dan Ran 1 o'r Mesur hwn;

(c)pethau a wneir wrth arfer pwerau awdurdod lleol yn adran 8 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 mewn cysylltiad â pherson sy'n destun gwarcheidiaeth yr awdurdod.

(6)Yn yr adran hon ystyr “corff gwirfoddol” yw corff y mae ei weithgareddau'n cael eu cyflawni mewn modd ac eithrio ar gyfer gwneud elw.

18Swyddogaethau'r cydgysylltydd gofal

(1)Rhaid i gydgysylltydd gofal i glaf perthnasol weithio gyda'r claf perthnasol a chyda darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl y claf–

(a)gyda'r bwriad o gytuno ar y canlyniadau y mae'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl wedi eu llunio i'w cyflawni, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) cyflawniadau yn un neu fwy o'r meysydd canlynol–

(i)cyllid ac arian;

(ii)llety;

(iii)gofal personol a llesiant corfforol;

(iv)addysg a hyfforddiant;

(v)gwaith a galwedigaeth;

(vi)perthnasau gofalu a rhianta;

(vii)cymdeithasol, diwylliannol ac ysbrydol;

(viii)triniaeth feddygol a mathau eraill o driniaeth gan gynnwys ymyriadau seicolegol;

(b)gyda'r bwriad o gytuno ar gynllun (“cynllun gofal a thriniaeth”) i gyflawni'r canlyniadau hynny;

(c)mewn cysylltiad ag adolygu a diwygio'r cynllun gofal a thriniaeth yn unol â darpariaeth mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Pan fo cynllun gofal a thriniaeth wedi'i gytuno, rhaid i'r cydgysylltydd gofal gofnodi'r cynllun yn ysgrifenedig.

(3)Mae is-adrannau (4) a (5) yn gymwys os na all y personau a grybwyllir yn is-adran (1) gytuno ar y canlyniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(a) neu'r cynllun y cyfeirir ato yn is-adran (1)(b).

(4)Os un darparydd gwasanaeth iechyd meddwl sydd gan y claf perthnasol, rhaid i'r darparydd, gan roi sylw i unrhyw safbwyntiau a fynegir gan y claf perthnasol, benderfynu pa ganlyniadau y mae darparu gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer y claf wedi ei lunio i gyflawni a phenderfynu ar gynllun ar gyfer cyflawni'r canlyniadau hynny.

(5)Os oes gan y claf perthnasol ragor nag un darparydd gwasanaeth iechyd meddwl, rhaid i bob darparydd, gan roi sylw i unrhyw safbwyntiau a fynegir gan y claf, benderfynu pa ganlyniadau y mae darparu gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer y claf gan y darparydd wedi ei lunio i gyflawni a phenderfynu ar gynllun ar gyfer cyflawni'r canlyniadau hynny.

(6)Rhaid i'r cydgysylltydd gofal–

(a)os penderfynwyd ar gynllun o dan is-adran (4), gofnodi'r cynllun yn ysgrifenedig;

(b)os penderfynwyd ar gynlluniau o dan is-adran (5), eu cofnodi i gyd yn ysgrifenedig mewn un ddogfen.

(7)Cynlluniau gofal a thriniaeth at ddibenion is-adran (1)(c) ac (8) i (10) yw'r cofnodion a wneir o dan is-adran (6).

(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu o ran–

(a)ffurf a chynnwys y cynlluniau gofal a thriniaeth;

(b)unrhyw berson y mae'r cydgysylltydd gofal i ymgynghori ag ef mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau'r cydgysylltydd o dan is-adran (1)(a) neu (b);

(c)rhwymedigaethau personau a bennir yn y rheoliadau mewn cysylltiad â chytuno neu benderfynu ar gynlluniau gofal a thriniaeth;

(d)personau y mae copïau ysgrifenedig o'r cynllun gofal a thriniaeth i'w rhoi iddynt (gan gynnwys mewn achosion penodedig roi copïau heb gydsyniad y claf perthnasol y mae'r cynllun yn ymwneud ag ef);

(e)yr wybodaeth i'w darparu gan ddarparwyr gwasanaethau iechyd meddwl i unigolyn sydd wedi peidio â bod yn glaf perthnasol.

(9)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan is-adran (1)(c) yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) darpariaeth–

(a)bod cynlluniau gofal a thriniaeth i'w hadolygu a'u diwygio mewn amgylchiadau penodedig;

(b)sy'n rhoi disgresiwn i'r cydgysylltydd gofal p'un a oes adolygiad neu ddiwygiad i gael ei gynnal;

(c)o ran unrhyw bersonau y mae'r cydgysylltydd gofal i ymgynghori ag ef mewn cysylltiad ag adolygiad neu ddiwygiad;

(d)gosod rhwymedigaethau ar bersonau a bennir yn y rheoliadau mewn cysylltiad ag adolygiad neu ddiwygiad;

(e)o ran darparu copïau o'r cynlluniau diwygiedig i bersonau a bennir (gan gynnwys mewn achosion penodedig darparu copïau heb gydsyniad y claf perthnasol y mae'r cynllun yn ymwneud ag ef).

(10)I'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol i wneud hynny, rhaid i ddarparydd gwasanaeth iechyd meddwl sicrhau bod gwasanaeth iechyd meddwl yn cael eu darparu i'r claf perthnasol yn unol â chynllun gofal a thriniaeth cyfredol y claf.

(11)Yn yr adran hon mae i “gwasanaethau iechyd meddwl” yr un ystyr ag a roddir yn adran 17(5).

RHAN 3ASESIADAU AR DDEFNYDDWYR BLAENOROL O WASANAETHAU IECHYD MEDDWL EILAIDD

Trefniadau asesiad

19Trefniadau ar gyfer asesu defnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd

(1)Rhaid i bartneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i gytuno ar drefniadau ar gyfer–

(a)cynnal asesiadau yn unol ag adrannau 25 a 26 ar gyfer oedolion sydd fel arfer yn preswylio yn yr ardal honno a chanddynt hawl i asesiadau o'r fath o dan adran 22; a

(b)gwneud atgyfeiriadau a ddisgrifir yn adran 28(1) yn dilyn asesiadau o'r fath.

(2)Os cytunwyd ar drefniadau, rhaid i'r partneriaid sicrhau bod y trefniadau'n cael eu cofnodi'n ysgrifenedig.

(3)Rhaid i'r trefniadau ddynodi i ba raddau y mae pob partner i gynnal yr asesiadau hynny a gwneud yr atgyfeiriadau hynny.

(4)Caiff y trefniadau ddarparu–

(a)bod un o'r partneriaid i ddarparu pob asesiad a gwneud pob atgyfeiriad;

(b)bod partneriaid gwahanol yn ymgymryd â gwahanol agweddau ar asesiad, a gwahanol atgyfeiriadau yn dilyn asesiad.

(5)Caiff y partneriaid newid eu trefniadau (gan gynnwys trefniadau a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 21 a threfniadau sydd eisoes wedi eu newid) os ydynt yn cytuno ar y newidiadau.

(6)Os newidir trefniadau o dan is-adran (5), rhaid i'r partneriaid sicrhau bod y newidiadau'n cael eu cofnodi'n ysgrifenedig.

20Dyletswydd i gynnal asesiadau

(1)Oni fydd adran 21(1)(a) yn gymwys, rhaid i'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol gynnal asesiadau a gwneud atgyfeiriadau yn unol â'r trefniadau a–

(a)gytunwyd ar gyfer eu hardal o dan adran 19; neu

(b)benderfynwyd ar gyfer eu hardal gan Weinidogion Cymru o dan adran 21.

(2)Os yw'r trefniadau wedi eu newid o dan adran 19(5) neu 21(2), rhaid cynnal asesiadau a gwneud atgyfeiriadau yn unol â'r trefniadau fel y'u newidiwyd.

21Methiant i gytuno ar drefniadau

(1)Os na fydd y partneriaid yn gallu cytuno ar drefniadau o dan adran 19–

(a)tra na bo cytundeb, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol gynnal yr asesiadau y cyfeirir atynt yn adran 19(1)(a) a gwneud yr atgyfeiriadau y cyfeirir atynt yn adran 19(1)(b);

(b)rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu Gweinidogion Cymru na ellir dod i gytundeb;

(c)caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar y trefniadau ac, os byddant yn gwneud hynny, rhaid iddynt eu cofnodi'n ysgrifenedig.

(2)Os bydd un partner yn dymuno newid y trefniadau, ond nad yw'r llall yn dymuno gwneud, caiff Gweinidogion Cymru, os gwneir cais i Weinidogion Cymru gan y naill bartner neu'r llall, newid y trefniadau i'r graddau y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.

(3)Os bydd Gweinidogion Cymru'n newid trefniadau o dan is-adran (2), rhaid iddynt gofnodi'r newidiadau'n ysgrifenedig.

Hawliau asesu

22Hawl i asesiad

(1)Mae gan oedolyn hawl i asesiad fel a ddisgrifir yn adran 25–

(a)os yw'r oedolyn yn gwneud cais i'r naill neu'r llall o'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol y mae'r oedolyn fel arfer yn preswylio ynddi i gynnal asesiad o'r fath;

(b)os yw'r oedolyn wedi'i ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd (p'un a oedd y gwasanaethau yn gyfrifoldeb partner iechyd meddwl lleol y gwnaed y cais am asesiad iddo ai peidio);

(c)os gwneir y cais o fewn y cyfnod rhyddhau perthnasol (gweler adran 23); a

(d)os nad yw'r partner iechyd meddwl lleol y gwneir y cais iddo yn ystyried y cais yn flinderus neu'n wacsaw.

(2)At ddibenion is-adran (1)(b), mae oedolyn wedi'i ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd os darparwyd gwasanaeth neu wasanaethau iechyd meddwl eilaidd i'r oedolyn ond na ddarperir iddo bellach, am ba reswm bynnag, unrhyw wasanaeth iechyd meddwl eilaidd.

(3)Mae'r cyfeiriad at ryddhau oedolyn o wasanaeth iechyd meddwl eilaidd yn cynnwys rhyddhau a ddigwyddodd pan oedd yr oedolyn yn blentyn.

23Asesiadau: y cyfnod rhyddhau perthnasol

(1)Mae'r cyfnod rhyddhau perthnasol mewn perthynas ag oedolyn–

(a)yn dechrau ar y dyddiad pan gafodd yr oedolyn ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd (o fewn ystyr adran 22(2)); a

(b)yn gorffen pan fo'r cyfnod o amser a bennir mewn rheoliadau a wneir at ddibenion yr adran hon gan Weinidogion Cymru wedi dod i ben.

(2)Mae'r cyfnod rhyddhau perthnasol hefyd yn dod i ben, cyn i'r cyfnod o amser y cyfeirir ati yn is-adran (1)(b) ddod i ben, os bydd achlysur a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn digwydd.

24Darparu gwybodaeth am asesiadau

(1)Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn rhyddhau oedolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, rhaid i'r Bwrdd roi gwybodaeth ysgrifenedig i'r oedolyn ynghylch hawl i asesiad o dan y Rhan hon os nad yw unrhyw awdurdod lleol, ar ddyddiad rhyddhau'r oedolyn, yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd iddo.

(2)Pan fo awdurdod lleol yn rhyddhau oedolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, rhaid i'r awdurdod roi gwybodaeth ysgrifenedig i'r oedolyn ynghylch hawl i asesiad o dan y Rhan hon os nad oes unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol, ar ddyddiad yr asesiad, yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd ar gyfer yr oedolyn.

(3)Pan fo'r cyfnod rhyddhau perthnasol yn cychwyn pan fo unigolyn yn blentyn ac yn dod i ben pan fo'r unigolyn hwnnw'n dod yn oedolyn, mae'r Bwrdd neu'r awdurdod o dan yr un ddyletswydd i roi gwybodaeth i'r unigolyn hwnnw ynghylch ei hawl i asesiad ag y mae i roi'r cyfryw wybodaeth i oedolyn o dan is-adrannau (1) a (2).

(4)At ddibenion yr adran hon, mae Bwrdd neu awdurdod yn rhyddhau unigolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd pan fydd yn gweithredu penderfyniad nad oes angen i'r Bwrdd neu'r awdurdod ddarparu mwyach unrhyw wasanaeth o'r fath ar gyfer yr unigolyn.

Y broses asesu

25Diben asesu

Mae asesiad o dan y Rhan hon yn ddadansoddiad o iechyd meddwl oedolyn sy'n dynodi–

(a)y gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd (os oes rhai) a allai wella iechyd meddwl y person sy'n cael ei asesu neu atal dirywiad ynddo;

(b)y gwasanaethau gofal cymunedol, nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, (os oes rhai) a allai wella iechyd meddwl y person sy'n cael ei asesu neu atal dirywiad ynddo; ac

(c)y gwasanaethau tai neu'r gwasanaethau llesiant (os oes rhai) a allai wella iechyd meddwl y person sy'n cael ei asesu neu atal dirywiad ynddo.

26Asesiadau: darpariaeth bellach

(1)Rhaid cynnal asesiad o dan y Rhan hon cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cais y cyfeirir ato yn adran 22(1) gael ei wneud.

(2)Rhaid i bartneriaid iechyd meddwl lleol sicrhau–

(a)bod asesiad yn arwain at un adroddiad ysgrifenedig sy'n cofnodi a yw'r asesiad wedi dynodi unrhyw wasanaethau'n unol ag adran 25; a

(b)bod copi o'r adroddiad hwnnw yn cael ei roi i'r oedolyn a gafodd ei asesu o fewn y cyfryw gyfnod yn dilyn cwblhau'r asesiad ag a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Os un partner iechyd meddwl lleol sydd wedi cynnal asesiad o dan y Rhan hon, rhaid i'r partner, os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny, roi copi o'r adroddiad i'r partner arall cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol iddo wneud hynny.

27Camau yn dilyn asesiad

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw asesiad o dan adran 25(a) neu (b) wedi dynodi gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd neu wasanaethau gofal cymunedol (nad ydynt yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd) a allai helpu i wella iechyd meddwl oedolyn neu atal dirywiad ynddo.

(2)Os un o'r partneriaid iechyd meddwl lleol fyddai'r awdurdod cyfrifol mewn perthynas ag unrhyw wasanaeth o'r fath, rhaid i'r partner hwnnw benderfynu p'un a oes galw am ddarparu'r gwasanaeth hwnnw ai peidio.

(3)Yn yr adran hon ystyr “awdurdod cyfrifol” yw'r awdurdod a fyddai'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i'w darparu.

28Atgyfeiriadau sy'n ymwneud â gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant

(1)Onid yw is-adran (2) yn gymwys, pan fo asesiad iechyd meddwl eilaidd o dan adran 25(c) wedi dynodi gwasanaeth tai neu wasanaeth llesiant a allai helpu i wella iechyd meddwl oedolyn neu atal dirywiad ynddo, rhaid i'r partner ofyn i'r darparydd gwasanaeth cyfrifol ystyried a fydd yn darparu'r gwasanaeth i'r oedolyn neu, os nad yw hynny'n briodol, a fydd yn gwahodd yr oedolyn i wneud cais am y gwasanaeth.

(2)Os y partner iechyd meddwl awdurdod lleol fyddai'r darparydd gwasanaeth cyfrifol mewn perthynas â'r gwasanaeth tai hwnnw neu'r gwasanaeth llesiant hwnnw, rhaid i'r awdurdod benderfynu a oes galw am ddarparu'r gwasanaeth neu, os nad yw hynny'n briodol, benderfynu a fydd yn gwahodd yr oedolyn i wneud cais am y gwasanaeth.

(3)Yn is-adrannau (1) a (2), ystyr “darparydd gwasanaeth cyfrifol” yw person sy'n ymgymryd â gweithgareddau yng Nghymru a fyddai'n darparu'r gwasanaeth pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i'w ddarparu.

Atodol

29Penderfynu man preswylio arferol

(1)At ddibenion y Rhan hon, mae unrhyw gwestiwn o ran ardal yr awdurdod lleol y mae oedolyn fel arfer yn preswylio ynddi i'w benderfynu yn unol â darpariaeth mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir iddi gael ei gwneud mewn rheoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys darpariaeth (ond nid yw wedi ei chyfyngu iddi)–

(a)sy'n rhoi pŵer i benderfynu ar ardal yr awdurdod lleol y mae oedolyn fel arfer yn preswylio ynddi;

(b)ar gyfer tybio bod oedolyn fel arfer yn preswylio mewn ardal.

30Cymhwysiad y Rhan hon i bersonau o dan warcheidiaeth awdurdod lleol

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i unigolyn–

(a)sydd wedi peidio â bod o dan warcheidiaeth awdurdod lleol, a

(b)wrth beidio â bod felly, na ddarparwyd iddo wasanaeth iechyd meddwl eilaidd.

(2)At ddibenion y Rhan hon, mae'r unigolyn i'w drin fel un a gafodd ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd ar y dyddiad pan beidiodd yr unigolyn â bod o dan warcheidiaeth yr awdurdod lleol.

RHAN 4EIRIOLAETH IECHYD MEDDWL

31Eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol: Cymru

Ar ôl adran 130D o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 mewnosoder–

130EIndependent mental health advocates: Wales

(1)The Welsh Ministers shall make such arrangements as they consider reasonable to enable persons (“independent mental health advocates”) to be available to help–

(a)Welsh qualifying compulsory patients; and

(b)Welsh qualifying informal patients.

(2)The Welsh Ministers may by regulations make provision as to the appointment of persons as independent mental health advocates.

(3)The regulations may, in particular, provide–

(a)that a person may act as an independent mental health advocate only in such circumstances, or only subject to such conditions, as may be specified in the regulations;

(b)for the appointment of a person as an independent mental health advocate to be subject to approval in accordance with the regulations.

(4)In making arrangements under this section, the Welsh Ministers shall have regard to the principle that any help available to a patient under the arrangements should, so far as practicable, be provided by a person who is independent of any person who–

(a)is professionally concerned with the patient’s medical treatment; or

(b)falls within a description specified in regulations made by the Welsh Ministers.

(5)For the purposes of subsection (4) above, a person is not to be regarded as professionally concerned with a patient’s medical treatment merely because he is representing him in accordance with arrangements–

(a)under section 35 of the Mental Capacity Act 2005; or

(b)of a description specified in regulations under this section.

(6)Arrangements under this section may include provision for payments to be made to, or in relation to, persons carrying out functions in accordance with the arrangements.

(7)Regulations under this section and sections 130F to 130H–

(a)may make different provision for different cases;

(b)may make provision which applies subject to specified exceptions;

(c)may include transitional, consequential, incidental or supplemental provision.

32Darpariaeth bellach ynghylch eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol ar gyfer cleifion cymwys Cymru dan orfodaeth

Ar ôl adran 130E o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 mewnosoder–

130FArrangements under section 130E for Welsh qualifying compulsory patients

(1)The help available to a Welsh qualifying compulsory patient under arrangements under section 130E shall include help in obtaining information about and understanding–

(a)the provisions of this Act by virtue of which he is a qualifying compulsory patient;

(b)any conditions or restrictions to which he is subject by virtue of this Act;

(c)what (if any) medical treatment is given to him or is proposed or discussed in his case;

(d)why it is given, proposed or discussed;

(e)the authority under which it is, or would be, given; and

(f)the requirements of this Act which apply, or would apply, in connection with the giving of the treatment to him.

(2)The help available under the arrangements to a Welsh qualifying compulsory patient shall also include–

(a)help in obtaining information about and understanding any rights which may be exercised under this Act by or in relation to him;

(b)help (by way of representation or otherwise)–

(i)in exercising the rights referred to in paragraph (a);

(ii)for patients who wish to become involved, or more involved, in decisions made about their care or treatment, or care or treatment generally;

(iii)for patients who wish to complain about their care or treatment;

(c)the provision of information about other services which are or may be available to the patient;

(d)other help specified in regulations made by the Welsh Ministers.

33Darpariaeth bellach ynghylch eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol ar gyfer cleifion anffurfiol cymwys Cymru

Ar ôl adran 130F o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 mewnosoder–

130GArrangements under section 130E for Welsh qualifying informal patients

(1)The help available to a Welsh qualifying informal patient under arrangements under section 130E shall include help in obtaining information about and understanding–

(a)what (if any) medical treatment is given to him or is proposed or discussed in his case;

(b)why it is given, proposed or discussed;

(c)the authority under which it is, or would be, given.

(2)The help available under the arrangements to a Welsh qualifying informal patient shall also include–

(a)help (by way of representation or otherwise)–

(i)for patients who wish to become involved, or more involved, in decisions made about their care or treatment, or care or treatment generally;

(ii)for patients who wish to complain about their care or treatment;

(b)the provision of information about other services which are or may be available to the patient;

(c)other help specified in regulations made by the Welsh Ministers.

34Eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol: pwerau a dyletswyddau atodol

Ar ôl adran 130G o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 mewnosoder–

130HIndependent mental health advocates for Wales: supplementary powers and duties

(1)For the purpose of providing help to a patient in accordance with arrangements made under section 130E, an independent mental health advocate may–

(a)visit and interview the patient in private;

(b)visit and interview–

(i)any person who is professionally concerned with his medical treatment;

(ii)any other person who falls within a description specified in regulations made by the Welsh Ministers;

(c)require the production of and inspect any records relating to his detention, treatment or assessment in any hospital or registered establishment or to any after-care services provided for him under section 117 above;

(d)require the production of and inspect any records of, or held by, a local social services authority which relate to him.

(2)But an independent mental health advocate is not entitled to the production of, or to inspect, records in reliance on subsection (1)(c) or (d) above unless–

(a)in a case where the patient has capacity or is competent to consent, he does consent; or

(b)in any other case, the production or inspection would not conflict with a decision made by a donee or deputy or the Court of Protection and the person holding the records, having regard to such matters as may be prescribed in regulations under section 130E above, considers that–

(i)the records may be relevant to the help to be provided by the advocate;

(ii)the production or inspection is appropriate.

(3)For the purpose of providing help to a Welsh qualifying compulsory patient in accordance with the arrangements, an independent mental health advocate shall comply with any reasonable request made to him by any of the following for him to visit and interview the patient–

(a)the patient;

(b)the person (if any) appearing to the advocate to be the patient’s nearest relative;

(c)the responsible clinician for the purposes of this Act;

(d)an approved mental health professional;

(e)a registered social worker who is professionally concerned with the patient’s care, treatment or assessment;

(f)where the patient is liable to be detained in a hospital or registered establishment, the managers of the hospital or establishment or a person duly authorised on their behalf;

(g)the patient’s donee or deputy.

(4)For the purpose of providing help to a Welsh qualifying informal patient in accordance with the arrangements, an independent mental health advocate shall comply with any reasonable request made to him by any of the following for him to visit and interview the patient–

(a)the patient;

(b)the managers of the hospital or establishment in which the patient is an in-patient or a person duly authorised on their behalf;

(c)any person appearing to the advocate to whom the request is made to be the patient’s carer;

(d)the patient’s donee or deputy;

(e)a registered social worker who is professionally concerned with the patient’s care, treatment or assessment.

(5)But nothing in this Act prevents the patient from declining to be provided with help under the arrangements.

(6)In subsection (2) above the reference to a patient who has capacity is to be read in accordance with the Mental Capacity Act 2005.

(7)In subsection (4) above–

(a)“carer”, in relation to a Welsh qualifying informal patient, means an individual who provides or intends to provide a substantial amount of care on a regular basis for the patient, but does not include any individual who provides, or intends to provide care by virtue of a contract of employment or other contract with any person or as a volunteer for a body (whether or not incorporated);

(b)“registered social worker” means a person included in the principal part or the visiting European part of a register maintained under section 56(1) of the Care Standards Act 2000.

(8)In subsections (2) to (4) above–

(a)the reference to a donee is to a donee of a lasting power of attorney (within the meaning of section 9 of the Mental Capacity Act 2005) created by the patient, where the donee, in making the decision referred to in subsection (2) or the request referred to in subsection (3) or (4), is acting within the scope of his authority and in accordance with that Act;

(b)the reference to a deputy is to a deputy appointed for the patient by the Court of Protection under section 16 of that Act, where the deputy, in making the decision referred to in subsection (2) or the request referred to in subsection (3) or (4), is acting within the scope of his authority and in accordance with that Act.

35Cleifion cymwys Cymru dan orfodaeth

Ar ôl adran 130H o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 mewnosoder–

130IWelsh qualifying compulsory patients

(1)This section applies for the purposes of section 130E above.

(2)A patient is a Welsh qualifying compulsory patient if he is–

(a)liable to be detained under this Act (other than under section 135 or 136 below) and the hospital or registered establishment in which he is liable to be detained is situated in Wales;

(b)subject to guardianship under this Act and the area of the responsible local social services authority within the meaning of section 34(3) above is situated in Wales; or

(c)a community patient and the responsible hospital is situated in Wales.

(3)A patient is also a Welsh qualifying compulsory patient if the patient is to be regarded as being in Wales for the purposes of this subsection and–

(a)not being a qualifying patient falling within subsection (2) above, he discusses with a registered medical practitioner or approved clinician the possibility of being given a form of treatment to which section 57 above applies; or

(b)not having attained the age of 18 years and not being a qualifying patient falling within subsection (2) above, he discusses with a registered medical practitioner or approved clinician the possibility of being given a form of treatment to which section 58A above applies.

(4)For the purposes of subsection (3), a patient is to be regarded as being in Wales if that has been determined in accordance with arrangements made for the purposes of that subsection and section 130C(3), and published, by the Secretary of State and the Welsh Ministers.

(5)Where a patient who is a Welsh qualifying compulsory patient falling within subsection (3) above is informed that the treatment concerned is proposed in his case, he remains a qualifying patient falling within that subsection until–

(a)the proposal is withdrawn; or

(b)the treatment is completed or discontinued.

36Cleifion anffurfiol cymwys Cymru

Ar ôl adran 130I o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 mewnosoder–

130JWelsh qualifying informal patients

(1)This section applies for the purposes of section 130E above.

(2)A patient is a Welsh qualifying informal patient if–

(a)the patient is an in-patient at a hospital or registered establishment situated in Wales;

(b)the patient is receiving treatment for, or assessment in relation to, mental disorder at the hospital or registered establishment; and

(c)no application, order, direction or report renders the patient liable to be detained under this Act.

37Dyletswydd i roi gwybodaeth am eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol i gleifion cymwys Cymru dan orfodaeth

Ar ôl adran 130J o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 mewnosoder–

130KDuty to give information about independent mental health advocates to Welsh qualifying compulsory patients

(1)The responsible person in relation to a Welsh qualifying compulsory patient (within the meaning given by section 130I above) shall take such steps as are practicable to ensure that the patient understands–

(a)that help is available to him from an independent mental health advocate; and

(b)how he can obtain that help.

(2)In subsection (1) above, the “responsible person” means–

(a)in relation to a Welsh qualifying compulsory patient falling within section 130I(2)(a) above (other than one also falling within paragraph (b) below), the managers of the hospital or registered establishment in which he is liable to be detained; or

(b)in relation to a Welsh qualifying compulsory patient falling within section 130I(2)(a) above and conditionally discharged by virtue of section 42(2), 73 or 74 above, the responsible clinician;

(c)in relation to a Welsh qualifying compulsory patient falling within section 130I(2)(b) above, the responsible local social services authority within the meaning of section 34(3) above;

(d)in relation to a Welsh qualifying compulsory patient falling within section 130I(2)(c) above, the managers of the responsible hospital;

(e)in relation to a Welsh qualifying compulsory patient falling within section 130I(3) above, the registered medical practitioner or approved clinician with whom the patient first discusses the possibility of being given the treatment concerned.

(3)The steps to be taken under subsection (1) above shall be taken–

(a)where the responsible person falls within subsection (2)(a) above, as soon as practicable after the patient becomes liable to be detained;

(b)where the responsible person falls within subsection (2)(b) above, as soon as practicable after the conditional discharge;

(c)where the responsible person falls within subsection (2)(c) above, as soon as practicable after the patient becomes subject to guardianship;

(d)where the responsible person falls within subsection (2)(d) above, as soon as practicable after the patient becomes a community patient;

(e)where the responsible person falls within subsection (2)(e) above, while the discussion with the patient is taking place or as soon as practicable thereafter.

(4)The steps to be taken under subsection (1) above shall include giving the requisite information both orally and in writing.

(5)The responsible person in relation to a Welsh qualifying compulsory patient falling within section 130I(2) above (other than a patient liable to be detained by virtue of Part 3 of this Act) shall, except where the patient otherwise requests, take such steps as are practicable to furnish any person falling within subsection (6) with a copy of any information given to the patient in writing under subsection (1) above.

(6)A person falls within this subsection if–

(a)the person appears to the responsible person to be the patient’s nearest relative;

(b)the person is a donee of a lasting power of attorney (within the meaning of section 9 of the Mental Capacity Act 2005) created by the patient and the scope of the donee’s authority includes matters related to the care and treatment of the patient;

(c)the person is a deputy appointed for the patient by the Court of Protection under section 16 of that Act and the scope of the deputy’s authority includes matters related to the care and treatment of the patient.

(7)The steps to be taken under subsection (5) above shall be taken when the information concerned is given to the patient or within a reasonable time thereafter.

38Dyletswydd i roi gwybodaeth am eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol i gleifion anffurfiol cymwys Cymru

Ar ôl adran 130K o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 mewnosoder–

130LDuty to give information about independent mental health advocates to Welsh qualifying informal patients

(1)The responsible person in relation to a Welsh qualifying informal patient (within the meaning given by section 130J above) shall take such steps as are practicable to ensure that the patient understands–

(a)that help is available to him from an independent mental health advocate; and

(b)how he can obtain that help.

(2)In subsection (1) above, the “responsible person” means the managers of the hospital or registered establishment to which the patient is admitted as an in-patient.

(3)The steps to be taken under subsection (1) above shall be taken as soon as practicable after the patient becomes an in-patient.

(4)The steps to be taken under subsection (1) above shall include giving the requisite information both orally and in writing.

(5)The responsible person in relation to a Welsh qualifying informal patient shall, except where the patient otherwise requests, take such steps as are practicable to furnish any person falling within subsection (6) with a copy of any information given to the patient in writing under subsection (1) above.

(6)A person falls within this subsection if–

(a)the person appears to the responsible person to be a carer of the patient;

(b)the person is a donee of a lasting power of attorney (within the meaning of section 9 of the Mental Capacity Act 2005) created by the patient and the scope of the donee’s authority includes matters related to the care and treatment of the patient;

(c)the person is a deputy appointed for the patient by the Court of Protection under section 16 of that Act and the scope of the deputy’s authority includes matters related to the care and treatment of the patient.

(7)In subsection (6), “carer”, in relation to a Welsh qualifying informal patient, means an individual who provides or intends to provide a substantial amount of care on a regular basis for the patient, but does not include any individual who provides, or intends to provide care by virtue of a contract of employment or other contract with any person or as a volunteer for a body (whether or not incorporated);

(8)The steps to be taken under subsection (5) above shall be taken when the information concerned is given to the patient or within a reasonable time thereafter.

39Cymhwyso cod ymarfer Deddf Iechyd Meddwl 1983 i eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol Cymru

(1)Diwygir adran 118 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 fel a ganlyn.

(2)Ar ôl is-adran (1) mewnosoder–

(1A)The Code which must be prepared, and from time to time revised, in relation to Wales shall also be for the guidance of independent mental health advocates appointed under arrangements made under section 130E below.

(3)Yn is-adran (2D), ar ôl “subsection (1)(a) or (b)” mewnosoder “and subsection (1A)”.

40Gweithdrefnau ar gyfer gwneud rheoliadau o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983

(1)Diwygir Adran 143 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (3A), yn lle “(3D)” rhodder “(3DB)”.

(3)Ar ôl is-adran (3D) mewnosoder–

(3DA)Subsection (3C) does not apply to regulations to which subsection (3DB) applies

(3DB)A statutory instrument which contains (alone or with other provisions) the first regulations to be made under any of the following provisions–

(a)section 130E(2),

(b)section 130E(4)(b),

(c)section 130E(5)(b),

(d)section 130F(2)(d),

(e)section 130G(2)(c), or

(f)section 130H(1)(b)(ii),

must not be made unless a draft of the instrument containing the regulations has been laid before, and approved by resolution of, the National Assembly for Wales.

RHAN 5CYFFREDINOL

41Cydweithio a gweithio ar y cyd rhwng Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol

(1)Caiff y partneriaid iechyd meddwl lleol at ddibenion eu swyddogaethau o dan Rannau 1 a 3 o'r Mesur hwn–

(a)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau, adeiladau neu adnoddau eraill i'w gilydd;

(b)sefydlu a chynnal cronfa gyfun.

(2)Caiff Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol at ddibenion eu swyddogaethau o dan Ran 2 o'r Mesur hwn–

(a)roi staff, nwyddau, gwasanaethau, adeiladau neu adnoddau eraill i'w gilydd;

(b)sefydlu a chadw cronfa gyfun.

(3)At ddibenion is-adrannau (1) a (2) cronfa gyfun yw cronfa–

(a)sy'n cael ei ffurfio o gyfraniadau gan bersonau a grybwyllir yn is-adrannau (1) a (2); a

(b)y caniateir gwneud taliadau allan ohoni tuag at wariant a dynnir wrth gyflawni swyddogaethau o dan Rannau 1 i 3.

(4)Caiff partneriaid iechyd meddwl lleol, os gwelant yn dda, arfer unrhyw un neu ragor o'u swyddogaethau o dan Rannau 1 a 3 ar y cyd.

42Rhannu gwybodaeth

(1)Caiff partner iechyd meddwl lleol (partner 1) roi i bartner arall (partner 2)–

(a)gwybodaeth a gafodd partner 1 wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan Ran 1 neu 3 o'r Mesur hwn; a

(b)gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn y darperir neu y gellid bod yn darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol iddo gan bartner 2 neu oedolyn y mae partner 2 yn arfer swyddogaethau o dan Ran 3 o'r Mesur hwn mewn perthynas ag ef.

(2)Caiff awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru roi i'w gilydd wybodaeth–

(a)y mae unrhyw un neu ragor ohonynt wedi ei chael wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan Ran 2 o'r Mesur hwn; a

(b)sy'n ymwneud â chlaf perthnasol at ddibenion y Rhan honno.

(3)Nid oes dim yn is-adran (1) neu (2) sy'n awdurdodi datgelu unrhyw wybodaeth yn groes i unrhyw ddarpariaeth, neu a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth, yn y Mesur hwn neu yn unrhyw Fesur arall neu yn unrhyw Ddeddf Seneddol neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (pryd bynnag y cawsant eu pasio neu eu gwneud) sy'n atal datgelu'r wybodaeth.

(4)Nid yw'r adran hon yn rhagfarnu unrhyw bŵer arall sydd gan awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Lleol neu Weinidogion Cymru i roi gwybodaeth.

43Diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970

(1)Diwygir Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 fel a ddisgrifir yn is-adran (2).

(2)Ar ddiwedd y tabl yn Atodlen 1 i'r Ddeddf mewnosoder–

Mental Health (Wales) Measure 2010Local primary mental health support services, coordination of and care planning for secondary mental health service users, assessments of former users of secondary mental health services.
Parts 1 to 3

44Codau ymarfer

(1)Caiff Gweinidogion Cymru baratoi, ac o bryd i'w gilydd adolygu, un neu ragor o godau ymarfer at y dibenion canlynol–

(a)er mwyn rhoi canllawiau i awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol, cydgysylltwyr gofal neu unrhyw bersonau eraill mewn perthynas â'u swyddogaethau o dan y Mesur hwn;

(b)er mwyn rhoi canllawiau i unrhyw bersonau mewn cysylltiad â gweithrediad darpariaethau'r Mesur hwn.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru drefnu bod unrhyw god o'r fath, neu unrhyw god o'r fath sydd wedi ei adolygu, yn cael ei gyhoeddi.

(3)Wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan y Mesur hwn, rhaid i'r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(a) roi sylw i unrhyw god ymarfer a gyhoeddir o dan yr adran hon.

(4)Cyn paratoi neu adolygu unrhyw god o'r fath, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae Gweinidogion Cymru'n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copïau o unrhyw god o'r fath neu unrhyw god o'r fath sydd wedi ei adolygu gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac os bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pasio penderfyniad yn ei gwneud yn ofynnol i'r cod gael ei dynnu'n ôl, rhaid i Weinidogion Cymru dynnu'r cod yn ôl.

(6)Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru basio penderfyniad ynghylch cod neu god wedi ei adolygu o dan is-adran (5) ar ôl i gyfnod o 40 o ddiwrnodau yn dechrau ar y diwrnod y gosodwyd copi o'r cod gerbron y Cynulliad ddod i ben.

(7)At ddibenion is-adran (6), ni chymerir i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddiddymu neu wedi cymryd saib am fwy na phedwar diwrnod.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu unrhyw god ymarfer drwy gyfarwyddyd.

(9)Rhaid i unrhyw gyfarwyddyd o dan is-adran (8) gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

45Rhan 1: y pŵer i sicrhau darpariaeth ranbarthol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer y canlynol ac mewn cysylltiad â hwy–

(a)datgymhwyso Rhan 1 (cyhyd ag y bo'r rheoliadau mewn grym) mewn perthynas â dwy neu ragor o ardaloedd awdurdodau lleol; a

(b)yn lle cymhwyso'r Rhan honno ac, i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol y Rhan hon a Rhan 6, mewn perthynas ag ardaloedd cyfun yr awdurdodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) (cyfeirir at yr ardal gyfun honno yn yr adran hon fel “rhanbarth”).

(2)Rhaid i'r ddarpariaeth a wneir gan reoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth yn pennu o leiaf un Bwrdd Iechyd Lleol ac un awdurdod lleol yn bartneriaid iechyd meddwl ar gyfer y rhanbarth (ac nid oes ots os nad yw unrhyw ran o'r ardal y cyfansoddwyd y cyfryw Fwrdd neu awdurdod ar ei chyfer yn dod o fewn y rhanbarth).

(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) darpariaeth–

(a)sy'n pennu mwy nag un Bwrdd neu awdurdod o'r fath ymhlith y partneriaid iechyd meddwl ar gyfer y rhanbarth;

(b)sy'n gwneud yr addasiadau hynny i Ran 1 yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus.

46Rhan 3: y pŵer i sicrhau darpariaeth ranbarthol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer y canlynol ac mewn cysylltiad â hwy–

(a)datgymhwyso Rhan 3 (cyhyd ag y bo'r rheoliadau mewn grym) mewn perthynas â dwy neu ragor o ardaloedd awdurdodau lleol; a

(b)yn lle cymhwyso'r Rhan honno ac, i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol y Rhan hon a Rhan 6, mewn perthynas ag ardaloedd cyfun yr awdurdodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) (cyfeirir at yr ardal gyfun honno yn yr adran hon fel “rhanbarth”).

(2)Rhaid i'r ddarpariaeth a wneir gan reoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth yn pennu o leiaf un Bwrdd Iechyd Lleol ac un awdurdod lleol yn bartneriaid iechyd meddwl ar gyfer y rhanbarth (ac nid oes ots os nad yw unrhyw ran o'r ardal y cyfansoddwyd y cyfryw Fwrdd neu awdurdod ar ei chyfer yn dod o fewn y rhanbarth).

(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) darpariaeth –

(a)sy'n pennu mwy nag un Bwrdd neu awdurdod o'r fath ymhlith y partneriaid iechyd meddwl ar gyfer y rhanbarth;

(b)sy'n gwneud yr addasiadau hynny i Ran 1 yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus.

47Rheoliadau o ran yr unigolion y caniateir iddynt gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol a gweithredu fel cydgysylltwyr gofal

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ynghylch cymhwystra unigolion–

(a)i arfer swyddogaethau partner iechyd meddwl lleol er mwyn cynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol o dan adran 9;

(b)i gael eu penodi'n gydgysylltwyr gofal o dan adran 14.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu ynghylch y materion canlynol o ran person–

(a)cymwysterau;

(b)sgiliau;

(c)hyfforddiant; neu

(d)profiad.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth wahanol mewn perthynas â chymhwystra unigolion i gynnal y cyfnod dadansoddi o ran asesiad iechyd meddwl sylfaenol o'i chymharu â'r ddarpariaeth a wneir o ran cymhwystra unigolion i gael eu penodi'n gydgysylltwyr gofal.

48Dyletswydd i adolygu'r Mesur

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu gweithrediad y Mesur hwn at ddibenion cyhoeddi adroddiad neu adroddiadau yn unol ag is-adrannau (3) i (6).

(2)Cyn ymgymryd ag adolygiad o weithrediad unrhyw ran neu ddarpariaeth o'r Mesur, rhaid i Weinidogion Cymru eu bodloni eu hunain bod amser digonol wedi mynd heibio i'r rhan honno neu'r ddarpariaeth honno fod ar waith; ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) i (6).

(3)Rhaid cyhoeddi adroddiad ar adolygiad o weithrediad Rhan 1 o fewn pedair blynedd ar ôl cychwyn yr holl ddyletswyddau a geir yn y darpariaethau canlynol: adrannau 2(1), 3(1), 4(1), 6(2), 7(2), 8(2), 9(2) a 10(1) i (3).

(4)Rhaid cyhoeddi adroddiad ar adolygiad o weithrediad Rhan 2 o fewn pedair blynedd ar ôl cychwyn yr holl ddyletswyddau a geir yn y darpariaethau canlynol: adrannau 13(1), 16(1) ac 17(1) a (10).

(5)Rhaid cyhoeddi adroddiad ar adolygiad o weithrediad Rhan 3 o fewn pedair blynedd ar ôl cychwyn yr holl ddyletswyddau a geir yn y darpariaethau canlynol: adrannau 18(1) a (3), 19, 23(1) a (2), 25, 26(2) a 27(1) a (2).

(6)Rhaid cyhoeddi adroddiad ar adolygiad o weithrediad Rhan 4 o fewn pedair blynedd ar ôl cychwyn yr holl ddyletswyddau a geir yn adran 130E(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, fel y'i mewnosodwyd gan adran 31 o'r Mesur hwn.

(7)Caniateir cyhoeddi unrhyw ddau adroddiad neu ragor yn yr un ddogfen.

(8)At ddibenion yr adran hon, ystyr “cychwyn” yw cychwyn ar gyfer unrhyw achos, dosbarth o achos, ardal neu ddiben.

(9)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o unrhyw adroddiad y mae'n ofynnol ei gyhoeddi o dan is-adrannau (3) i (6) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

RHAN 6AMRYWIOL AC ATODOL

49Ystyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd

(1)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr adran hon, at ddibenion y Mesur hwn, gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd yw–

(a)gwasanaeth ar ffurf triniaeth i anhwylder meddwl unigolyn a ddarperir o dan Ran 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

(b)gwasanaeth a ddarperir o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983;

(c)gwasanaeth gofal cymunedol ei brif ddiben yw diwallu angen sy'n ymwneud ag iechyd meddwl oedolyn;

(d)gwasanaeth a ddarperir i blentyn o dan Ran III o Ddeddf Plant 1989 a'i brif ddiben yw bodloni angen sy'n ymwneud ag iechyd meddwl y plentyn hwnnw.

(2)At ddibenion is-adran (1), nid yw gwasanaeth i'w ystyried fel un a ddarperir o dan Ran 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 os darperir ef–

(a)o dan adran 41 o'r Ddeddf honno;

(b)o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol yr ymrwymwyd ynddo gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan adran 42 o'r Ddeddf honno;

(c)o dan drefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol yr ymrwymwyd ynddynt gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan adran 50 o'r Ddeddf honno;

(d)o dan Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.

(3)Mae gwasanaeth ar ffurf triniaeth ar gyfer anhwylder meddwl unigolyn yn cynnwys gwasanaeth sydd, ym marn y person sy'n darparu neu sy'n gwneud trefniadau ar gyfer darparu'r gwasanaeth, yn wasanaeth y bwriedir iddo drin yr anhwylder meddwl yr amheuir ei fod gan yr unigolyn sy'n cael y gwasanaeth.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn–

(a)pennu gwasanaethau eraill sydd i'w hystyried yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd at ddibenion unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau'r Mesur hwn;

(b)darparu bod gwasanaethau a fyddai fel arall yn cael eu hystyried yn wasanaethau iechyd meddwl eilaidd i beidio a chael eu hystyried felly at ddibenion unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau'r Mesur hwn.

50Ystyr gwasanaethau tai a gwasanaethau llesiant

(1)At ddibenion y Mesur hwn, ystyr “gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant” yw–

(a)dyroddi llety gan awdurdod tai lleol o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (dyroddi tai'n llety) neu sicrhau llety gan y cyfryw awdurdod o dan Ran 7 o'r Ddeddf honno (digartrefedd);

(b)unrhyw wasanaethau yn ymwneud â llesiant (gan gynnwys tai) a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru (p'un a ddarperir hwy gan neu o dan drefniadau a wneir gydag awdurdod cyhoeddus);

(c)darparu gwybodaeth neu gyngor ynghylch unrhyw wasanaeth sy'n dod o fewn paragraff (a) neu (b) uchod (p'un ai wedi ei ddarparu gan neu o dan drefniadau a wneir gydag awdurdod cyhoeddus).

(2)Mae'r cyfeiriadau i wasanaethau yn is-adran (1)(b) yn cynnwys taliadau, grantiau a benthyciadau.

51Dehongli'n gyffredinol

(1)Yn y Mesur hwn–

  • ystyr “ardal awdurdod lleol” (“local authority area”) yw prif ardal yng Nghymru o fewn ystyr adran 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972;

  • “asesiad iechyd meddwl sylfaenol” (“primary mental health assessment”) yw asesiad o dan adran 9;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd a sefydlir o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “claf cofrestredig” (“registered patient”)–

    (a)

    mewn perthynas â chontractiwr o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol yr ymrwymwyd ynddo o dan adran 42 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, yw unigolyn–

    (i)

    y mae'r contractiwr wedi ei dderbyn yn glaf o dan reoliadau a wneir o dan adran 47(3)(a) o'r Ddeddf honno, a

    (ii)

    nad yw'r contractiwr wedi terfynu cyfrifoldeb mewn cysylltiad ag ef o dan reoliadau a wneir o dan adran 47(3)(c) o'r Ddeddf honno;

    (b)

    mewn perthynas â pherson y mae trefniadau wedi eu gwneud gydag ef o dan adran 50 o'r Ddeddf honno, yw unigolyn–

    (i)

    y mae'r person wedi ei dderbyn yn glaf o dan reoliadau a wneir o dan adran 52(8)(a) o'r Ddeddf honno, a

    (ii)

    nad yw'r contractiwr wedi terfynu cyfrifoldeb mewn cysylltiad ag ef o dan reoliadau a wneir o dan adran 52(8)(c) o'r Ddeddf honno;

    (c)

    mewn perthynas ag ymarferydd meddygol cofrestredig a gyflogir gan Fwrdd Iechyd Lleol at ddibenion adran 41 o'r Ddeddf honno, yw unigolyn sy'n dod o fewn categori a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “darparydd gofal sylfaenol” (“primary care provider”) yw contractiwr o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol yr ymrwymwyd ynddo o dan adran 42 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, person y mae trefniadau wedi eu gwneud gydag ef o dan adran 50 o'r Ddeddf honno ymarferydd meddygol cofrestredig a gyflogir gan Fwrdd Iechyd Lleol at ddibenion adran 41 o'r Ddeddf honno, ac ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n darparu gwasanaethau i garcharorion o dan drefniadau a wnaed rhwng yr ymarferydd meddygol cofrestredig a pherson sy'n gyfrifol am ddarparu neu redeg carchar wedi ei gontractio allan (o fewn ystyr adran 84(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991) yng Nghymru;

  • mae i “gwasanaethau gofal cymunedol” yr ystyr a roddir i “community care services” yn adran 46 o Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990;

  • mae i “gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd” (“secondary mental health services”) yr ystyr a roddir gan adran 49;

  • rhaid dehongli “gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant” (“housing or well-being”) yn unol ag adran 50;

  • ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person 18 oed neu hŵn;

  • rhaid dehongli “partneriaid iechyd meddwl lleol” (“local mental health partners”), ac ymadroddion cysylltiedig, yn unol ag adran 1;

  • ystyr “plentyn”(“child”) yw person nad yw wedi cyrraedd 18 mlwydd oed;

  • mae “swyddogaethau” (“functions”) yn cynnwys pwerau a dyletswyddau;

  • ystyr “triniaeth” (“treatment”) yw triniaeth ar gyfer anhwylder meddwl o fewn ystyr maes 9 o Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

  • ystyr “triniaeth iechyd meddwl sylfaenol leol” (“local primary mental health treatment”), mewn perthynas ag ardal awdurdod lleol, yw'r driniaeth y cyfeirir ati yn y cynllun ar gyfer yr ardal y cytunwyd arno o dan adran 2 neu a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 4(1)(c) neu, os nad oes cynllun, y driniaeth y mae Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu sicrhau ei bod ar gael ar gyfer yr ardal o dan adran 4(1)(a).

(2)At ddibenion y Mesur hwn, mae unigolyn dan warcheidiaeth awdurdod lleol yng Nghymru os oes gan awdurdod lleol, mewn perthynas â'r unigolyn, y pwerau sydd yn adran 8(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

(3)Yn y Mesur hwn mae unrhyw gyfeiriad (sut bynnag y'i mynegir) at wasanaeth a ddarperir gan berson yn cynnwys cyfeiriad at wasanaeth a ddarperir o dan drefniadau a wnaed gan y person.

(4)Hyd nes y daw adran 8(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 i rym, mae pob cyfeiriad at adran 22C(12) o Ddeddf Plant 1989 i'w ddarllen fel cyfeiriad at adran 23(3) o Ddeddf Plant 1989.

(5)Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at gydgysylltydd gofal i'w dehongli fel cyfeiriadau at gydgysylltydd gofal sy'n gweithredu ar ran y darparydd gwasanaeth iechyd meddwl a oedd yn gyfrifol am benodi'r unigolyn fel cydgysylltydd gofal o dan adran 14(1) neu (3), oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall.

52Gorchmynion a rheoliadau

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer–

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion neu ddosbarthau o achosion gwahanol, ardaloedd gwahanol neu at ddibenion gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu'n ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodol neu'n unig mewn perthynas ag achosion neu ddosbarthau penodol o achos;

(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, darfodol, canlyniadol, trosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn neu orchymyn o dan adran 53(3)(b) yn ddarostyngedig i'w ddirymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Nid yw is-adran (3) yn gymwys i reoliadau a gorchmynion y mae is-adrannau (5) a (6) yn gymwys iddynt.

(5)Rhaid peidio â gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys (yn unigol neu ynghyd a darpariaeth arall)–

(a)gorchymyn o dan adran 49(4) neu adran 53(3)(a); neu

(b)rheoliadau o dan adran 7(6)(a), 23(1)(b), 23(2), 45 neu 46,

onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(6)Rhaid peidio a gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys (yn unigol neu ynghyd â darpariaethau eraill) y rheoliadau cyntaf i gael eu gwneud o dan adran 18(1)(c) neu 18(8) onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

53Diwygiadau canlyniadol etc

(1)Mae gan Atodlen 1 effaith i wneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn cysylltiad â Rhan 4.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud y darpariaethau hynny sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru at ddibenion cyffredinol y Mesur hwn, neu at unrhyw ddibenion neilltuol yn y Mesur hwn, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Mesur hwn neu gan reoliadau o dan adrannau 45 a 46 neu er mwyn rhoi llawn effaith i'r darpariaethau hynny.

(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn gorchymyn o dan is-adran (2) yn cynnwys darpariaeth i ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu cymhwyso unrhyw ddarpariaeth mewn–

(a)unrhyw Deddf Seneddol neu unrhyw un o Ddeddfau neu Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys y Mesur hwn); a

(b)is-ddeddfwriaeth.

(4)Yn yr adran hon mae i'r term “is-ddeddfwriaeth” yr ystyr sydd i “subordinate legislation” yn Neddf Dehongli 1978.

54Diddymiadau

Mae gan Atodlen 2 effaith i wneud diddymiadau mewn cysylltiad â Rhan 4.

55Cychwyn

(1)Mae'r darpariaethau yn is-adran (2) yn dod i rym ar ddiwedd cyfnod o ddau fis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

(2)Dyma'r darpariaethau–

(a)y rhai sydd wedi eu cynnwys yn y Rhan hon (ac eithrio yn adrannau 53(1) a 54); a

(b)unrhyw ddarpariaeth sy'n rhoi pŵer i wneud rheoliadau neu orchymyn, i'r graddau y mae'r ddarpariaeth yn rhoi'r cyfryw bŵer.

(3)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

56Enw byr

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

(a gyflwynwyd gan adran 53(1))

ATODLEN 1DIWYGIADAU CANLYNIADOL I DDEDDF IECHYD MEDDWL 1983

1Diwygier Deddf Iechyd Meddwl 1983 fel a ganlyn.

2Ar ddiwedd teitl adran 130A mewnosoder “: England”.

3Yn adran 130A(1), (2) a (4) yn lle “appropriate national authority” mewnosoder “Secretary of State”.

4Yn lle adran 130C(2) rhodder–

(2)A patient is a qualifying patient if he is–

(a)liable to be detained under this Act (otherwise than by virtue of section 4 or 5(2) or (4) above or section 135 or 136 below) and the hospital or registered establishment in which he is liable to be detained is situated in England;

(b)subject to guardianship under this Act and the area of the responsible local social services authority within the meaning of section 34(3) above is situated in England;

(c)a community patient and the responsible hospital is situated in England.

5Yn adran 130C(3) ar ôl “qualifying patient if” mewnosoder “the patient is to be regarded as being in England for the purposes of this subsection and”.

6Ar ôl adran 130C(3) mewnosoder–

(3A)For the purposes of subsection (3), a patient is to be regarded as being in England if that has been determined in accordance with arrangements made for the purposes of that subsection and section 130I(4), and published, by the Secretary of State and the Welsh Ministers.

7Hepgorer adran 130C(5) a (6).

8Yn adran 134(3A)(b)(i) ar ôl “130A” mewnosoder “or section 130E”.

(a gyflwynwyd gan adran 54)

ATODLEN 2DIDDYMIADAU

Teitl byr a phennodGraddau'r diddymiad
Deddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20)Yn adran 130C, is-adrannau (5) a (6).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Dangos Nodiadau Eglurhaol ar gyfer Adrannau: Yn arddangos rhannau perthnasol o’r nodiadau esboniadol wedi eu cydblethu â chynnwys y ddeddfwriaeth.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn gyfrifol am destun y Mesur i esbonio beth mae’r Mesur yn ceisio ei wneud ac i wneud y Mesur yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill