Chwilio Deddfwriaeth

Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

1 [F1Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd] LL+C

(1)Bydd [F2bwrdd i’w alw’n Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd] (“y Bwrdd”).

(2)Aelodau'r Bwrdd yw'r Cadeirydd a phedwar aelod arall.

(3)Os bydd swydd y Cadeirydd yn wag, neu os na all y Cadeirydd weithredu, caiff aelodau eraill y Bwrdd benodi un o'u plith yn Gadeirydd Dros Dro.

(4)Cworwm y Bwrdd yw tri.

(5)Ni chaiff y Bwrdd wneud yr un penderfyniad o dan adran 20(6), 24(1) neu 53(7) o'r Ddeddf oni bai bod y cynnig i wneud hynny wedi'i gymeradwyo gan o leiaf dri o aelodau'r Bwrdd.

(6)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) a (5) ac i adran 2(2), mae'r Bwrdd i reoleiddio ei weithdrefn ei hun.

(7)Nid yw'r canlynol yn effeithio ar ddilysrwydd trafodion y Bwrdd—

(a)swydd wag ymhlith yr aelodau, neu

(b)diffyg wrth benodi aelod.

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn mhennawd a. 1 wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 4(2)

F2Geiriau yn a. 1(1) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), aau. 8, 42(2)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

2Annibyniaeth, bod yn agored ac yn gynhwysolLL+C

(1)Nid yw'r Bwrdd, wrth arfer ei swyddogaethau, i fod o dan gyfarwyddyd na rheolaeth y [F3Senedd] na Chomisiwn y [F3Senedd].

(2)Rhaid i'r Bwrdd—

(a)weithredu'n gyffredinol mewn modd agored a thryloyw, a

(b)cyhoeddi ar wefan y [F4Senedd] y cyfryw wybodaeth a fydd yn caniatáu i'r cyhoedd gael eu hysbysu am ei weithgareddau.

(3)Nid yw is-adran (2) yn atal y Bwrdd rhag ystyried mater yn breifat na rhag cadw ei ystyriaeth ar y mater hwnnw'n breifat os yw natur y mater hwnnw, ym marn y Bwrdd, yn golygu ei bod yn briodol gwneud hynny.

(4)Rhaid i'r Bwrdd, cyn arfer unrhyw rai o'i swyddogaethau, ymgynghori â'r personau a ganlyn y mae'n debyg yr effeithir arnynt, oni bai bod y Bwrdd yn credu bod amgylchiadau sy'n golygu ei bod yn amhriodol gwneud hynny—

(a)[F5Aelodau o’r Senedd],

(b)staff a gyflogir gan [F5Aelodau o’r Senedd] (neu gan [F5Aelodau o’r Senedd]),

(c)undebau llafur perthnasol, a

(d)unrhyw bersonau eraill y mae'n credu eu bod yn briodol.

(5)Rhaid i'r Bwrdd, wrth ymgynghori ag [F5Aelodau o’r Senedd], roi sylw i is-adran (1).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

3Swyddogaethau'r BwrddLL+C

(1)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), swyddogaethau'r Bwrdd yw'r rhai a roddir iddo gan adrannau 20, 22, 24, 53 a 54 o'r Ddeddf, fel y'i diwygir gan y Mesur hwn.

(2)Rhaid i'r Bwrdd arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar wireddu'r amcanion canlynol—

(a)darparu lefel taliadau ar gyfer [F5Aelodau o’r Senedd]

(i)sy'n adlewyrchiad teg o gymhlethdod a phwysigrwydd y swyddogaethau y disgwylir iddynt eu cyflawni, a

(ii)nad yw, ar sail ariannol, yn atal personau y mae ganddynt yr ymrwymiad a'r gallu angenrheidiol rhag ceisio cael eu hethol i'r [F3Senedd],

(b)darparu adnoddau ar gyfer [F5Aelodau o’r Senedd] sy'n ddigonol i'w galluogi i arfer eu swyddogaethau fel [F6Aelodau o’r Senedd], a

(c)sicrhau priodolder, atebolrwydd, gwerth am arian a thryloywder o ran gwariant cyllid cyhoeddus.

(3)Rhaid i'r Bwrdd adolygu'n barhaus i ba raddau y mae'n ymddangos bod y penderfyniadau hynny'n gwireddu'r amcanion a nodir yn is-adran (2), gan roi sylw i'r canlynol—

(a)y profiad a geir drwy roi penderfyniadau'r Bwrdd ar waith,

(b)newidiadau yn swyddogaethau [F5Aelodau o’r Senedd], a

(c)unrhyw newidiadau perthnasol eraill yn yr amgylchiadau.

(4)Caiff y Bwrdd, o dro i dro, ystyried unrhyw fater arall sy'n berthnasol i gyflawni ei swyddogaethau, naill ai o'i ben a'i bastwn ei hun neu ar ôl cael cais ysgrifenedig gan y Clerc.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

4Anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r BwrddLL+C

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch y personau sy'n cael eu hanghymwyso rhag bod yn aelodau o'r Bwrdd.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 4 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

5Pŵer i ddiwygio Atodlen 1LL+C

(1)Mae'r adran hon yn effeithiol os bydd y [F3Senedd] yn penderfynu y dylid diwygio Atodlen 1 er mwyn—

(a)ychwanegu swydd neu ddisgrifiad o berson a nodir ym mharagraff 1 o'r Atodlen honno,

(b)dileu swydd neu ddisgrifiad o berson o'r fath, neu

(c)newid disgrifiad swydd neu berson o'r fath.

(2)Caiff y Cwnsler Cyffredinol, drwy orchymyn, ddiwygio Atodlen 1 er mwyn rhoi ei effaith i benderfyniad o'r fath.

(3)Mae'r pŵer i wneud gorchymyn o dan is-adran (2) yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(4)Rhaid i'r Cwnsler Cyffredinol, pan y'i hysbysir yn ysgrifenedig gan y Llywydd bod y [F3Senedd] wedi gwneud penderfyniad o dan is-adran (1)—

(a)arfer y pŵer a roddir iddo gan is-adran (2), a

(b)gwneud hynny cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 5 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

6Penodi aelodau'r BwrddLL+C

(1)Mae Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd—

(a)i'w penodi gan Gomisiwn y [F3Senedd], a

(b)i ddal eu swydd am gyfnod penodedig o bum mlynedd o ddyddiad eu priod benodiadau.

(2)Ni chaniateir penodi neb yn aelod o'r Bwrdd os yw'r person hwnnw eisoes wedi'i benodi'n aelod o'r Bwrdd ddwy waith.

(3)Mae Atodlen 2 yn gwneud rhagor o ddarpariaeth ynghylch penodi aelodau'r Bwrdd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 6 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

7Terfynu aelodaeth o'r BwrddLL+C

Mae'r Cadeirydd neu unrhyw aelod arall o'r Bwrdd yn peidio â dal swydd—

(a)pan ddaw'r cyfnod y penodwyd y person hwnnw ar ei gyfer i ben,

(b)os bydd y person hwnnw'n ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Gomisiwn y [F3Senedd],

(c)os daw'r person hwnnw'n anghymwys i fod yn aelod o'r Bwrdd, neu

(d)os bydd y [F3Senedd] yn penderfynu felly drwy gynnig a gynigir ar ran Comisiwn y [F3Senedd] gan aelod o Gomisiwn y [F3Senedd], ar yr amod, os caiff y penderfyniad ei basio ar bleidlais, na fydd nifer y pleidleisiau sy'n cael eu bwrw o blaid y penderfyniad yn llai na dwy ran o dair o gyfanswm y pleidleisiau sy'n cael eu bwrw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 7 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

8Telerau ac amodauLL+C

(1)Mae Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd i ddal eu swydd yn unol â thelerau ac amodau eu penodiad.

(2)Comisiwn y [F3Senedd] sydd i bennu'r telerau a'r amodau hynny.

(3)Rhaid i Gomisiwn y [F3Senedd] dalu Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd unrhyw symiau y mae ganddynt hawl i'w cael o dan y telerau a'r amodau hynny.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 8 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

9Cymorth gweinyddolLL+C

Rhaid i Gomisiwn y [F3Senedd] ddarparu ar gyfer y Bwrdd unrhyw gymorth gweinyddol y mae'n rhesymol i'r Bwrdd ofyn amdano i'w alluogi i gyflawni ei swyddogaethau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 9 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

10Cyfarfodydd y BwrddLL+C

(1)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) a (3) ac i adran 13(7), (8) a (9), mater i'r Bwrdd yw penderfynu pa bryd y bydd yn cyfarfod.

(2)Rhaid i'r Bwrdd gyfarfod o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn galendr.

(3)Rhaid i'r Bwrdd, os bydd y Clerc yn gofyn iddo, gyfarfod er mwyn ystyried mater neu faterion penodol sy'n berthnasol i'w swyddogaethau.

(4)Rhaid i gais o dan is-adran (3) fod mewn ysgrifen a rhaid iddo bennu'r mater neu'r materion o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 10 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

11Adroddiad blynyddolLL+C

Rhaid i'r Bwrdd, cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, osod gerbron y [F3Senedd] adroddiad blynyddol ar ei weithgareddau, gan gynnwys sut mae wedi defnyddio adnoddau, yn ystod y flwyddyn ariannol honno.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 11 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

12PenderfyniadauLL+C

(1)Rhaid i bob penderfyniad a wneir gan y Bwrdd o dan adran 20(6), 24(1) neu 53(7) o'r Ddeddf fod mewn ysgrifen.

(2)Rhaid i'r Bwrdd gyfleu ei benderfyniadau i Gomisiwn y [F3Senedd].

(3)Rhaid i Gomisiwn y [F3Senedd], cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i unrhyw benderfyniad gael ei wneud gan y Bwrdd—

(a)ymgorffori'r penderfyniad hwnnw, ynghyd ag unrhyw benderfyniadau eraill sydd i barhau mewn grym, mewn un ddogfen, a

(b)cyhoeddi'r ddogfen honno.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 12 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

13Arfer swyddogaethau mewn perthynas â chyflogauLL+C

(1)Yn ddarostyngedig i is-adran (2), mae cyfeiriadau yn yr adran hon at dymor [F3Senedd] yn gyfeiriadau at y cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod y cynhelir pôl mewn etholiad cyffredinol cyffredin i'r [F3Senedd] ac sy'n diweddu ar y diwrnod cyn y diwrnod y cynhelir pôl yn yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf i'r [F3Senedd] .

(2)Os bydd—

(a)etholiad cyffredinol anghyffredin i'r [F3Senedd] yn cael ei gynnal, a

(b)bod adran 5(5) o'r Ddeddf yn gymwys,

wedyn, at ddibenion yr adran hon, mae tymor y [F3Senedd] yn diweddu ar y diwrnod cyn y diwrnod y cynhelir y pôl ar gyfer yr etholiad cyffredinol anghyffredin hwnnw ac mae tymor nesaf y [F3Senedd] yn dechrau ar y diwrnod y cynhelir y pôl hwnnw.

(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (4) ni chaiff y Bwrdd wneud mwy nag—

(a)un penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 20(1) o'r Ddeddf (talu cyflogau i [F5Aelodau o’r Senedd]), a

(b)un penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 53(1) o'r Ddeddf (talu cyflogau i Brif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Dirprwy Weinidogion Cymru),

sydd i fod yn effeithiol yn ystod pob un o dymhorau'r [F3Senedd] .

(4)Nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw'r Bwrdd o'r farn bod yna amgylchiadau eithriadol sy'n golygu ei bod yn gyfiawn ac yn rhesymol i'r cyfyngiadau a osodir gan is-adran (3) beidio â bod yn gymwys.

(5)Os bydd y Bwrdd yn ffurfio barn o'r math y cyfeirir ati yn is-adran (4) rhaid iddo ddatgan mewn ysgrifen ei resymau dros fod wedi gwneud hynny, gan gyfleu'r datganiad hwnnw i Gomisiwn y [F3Senedd] yr un pryd â'r penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

(6)Rhaid i Gomisiwn y [F3Senedd] osod gerbron y [F3Senedd] unrhyw ddatganiad a gyflëir iddo o dan is-adran (5) yr un pryd ag y bydd yn gosod gerbron y [F3Senedd] y penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

(7)Rhaid i'r Bwrdd, o ran pob tymor [F3Senedd], wneud penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 20(1) o'r Ddeddf ac sydd i fod yn effeithiol, pryd bynnag y'i gwnaed, o ddechrau'r tymor hwnnw.

(8)Rhaid i'r Bwrdd, o ran pob tymor [F3Senedd], wneud penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 53(1) o'r Ddeddf ac sydd i fod yn effeithiol, pryd bynnag y'i gwnaed, o ddechrau'r tymor hwnnw.

(9)Rhaid i'r Bwrdd, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, wneud y penderfyniadau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (7) ac (8) cyn diwedd y tymor [F3Senedd] cyn y tymor [F3Senedd] y maent i fod yn effeithiol mewn perthynas ag ef, ond os yw'n methu â gwneud hynny, rhaid i Gomisiwn y [F3Senedd]

(a)nes bod penderfyniadau o'r fath yn cael eu gwneud, barhau i wneud taliadau yn unol â'r penderfyniadau a gafodd effaith mewn perthynas â'r tymor blaenorol hwnnw o'r [F3Senedd], a

(b)pan gaiff penderfyniadau o'r fath eu gwneud, addasu unrhyw daliadau dilynol i wneud iawn am unrhyw dandaliadau neu adennill unrhyw ordaliadau, yn ôl fel y digwydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 13 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

14Arfer swyddogaethau mewn perthynas ag ad-dalu costau a ysgwyddwyd wrth gyflogi staffLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i unrhyw ddarpariaeth ar gyfer ad-dalu costau a ysgwyddwyd gan [F5Aelodau o’r Senedd] (neu gan grwpiau o [F5Aelodau o’r Senedd]) wrth gyflogi staff.

(2)Os yw'r Bwrdd wedi gwneud penderfyniad sy'n cynnwys unrhyw ddarpariaeth y mae'r adran hon yn gymwys iddi, ni chaiff y Bwrdd, drwy benderfyniad dilynol, wneud unrhyw addasiad i'r ddarpariaeth honno mewn perthynas ag unrhyw gyfnod cyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae'r ddarpariaeth honno'n effeithiol mewn perthynas â hi (neu â rhan ohoni) gyntaf.

(3)Nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw'r Bwrdd o'r farn bod yna amgylchiadau eithriadol sy'n golygu ei bod yn gyfiawn ac yn rhesymol i'r cyfyngiad a osodir gan isadran (2) beidio â bod yn gymwys.

(4)Os bydd y Bwrdd yn ffurfio barn o'r math y cyfeirir ati yn is-adran (3) rhaid iddo ddatgan mewn ysgrifen ei resymau dros fod wedi gwneud hynny, gan gyfleu'r datganiad hwnnw i Gomisiwn y [F3Senedd] yr un pryd â'r penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

(5)Rhaid i Gomisiwn y [F3Senedd] osod gerbron y [F3Senedd] unrhyw ddatganiad a gyflëir iddo o dan is-adran (4) yr un pryd ag y bydd yn gosod gerbron y [F3Senedd] y penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 14 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

15Arfer swyddogaethau: cyffredinolLL+C

(1)Rhaid i'r Bwrdd, y tro cyntaf y mae'n bwriadu gwneud penderfyniad mewn perthynas ag unrhyw fater, roi sylw i argymhellion Panel Adolygu Annibynnol [F3Senedd] Cenedlaethol Cymru ar drefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol i [F5Aelodau o’r Senedd] a gyhoeddwyd ar 6 Gorffennaf 2009, i'r graddau y mae'r argymhellion hynny'n berthnasol i'r mater hwnnw.

(2)Os bydd y Bwrdd, wrth wneud penderfyniad y mae is-adran (1) yn gymwys iddo, yn cynnwys yn y penderfyniad hwnnw ddarpariaeth sydd, mewn unrhyw fodd, yn wahanol i'r argymhellion hynny, rhaid i'r Bwrdd ddatgan mewn ysgrifen ei resymau dros wneud hynny gan gyfleu'r datganiad hwnnw i Gomisiwn y [F3Senedd] yr un pryd â'r penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

(3)Rhaid i Gomisiwn y [F3Senedd] osod gerbron y [F3Senedd] unrhyw ddatganiad a gyflëir iddo o dan is-adran (2) yr un pryd ag y bydd yn gosod gerbron y [F3Senedd] y penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

(4)Yn ddarostyngedig i is-adran (1) caiff y Bwrdd, pan fo'n bwriadu gwneud penderfyniad mewn perthynas ag unrhyw fater, roi sylw i'r argymhellion hynny i'r graddau y mae'n ymddangos i'r Bwrdd eu bod yn dal yn berthnasol i'r mater hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 15 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

16Diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006LL+C

Diwygir y Ddeddf yn unol ag Atodlen 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 16 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

F717Diwygio Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000LL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

18DehongliLL+C

Yn y Mesur hwn—

(a)ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32),

(b)mae i unrhyw ymadroddion eraill sydd heb eu diffinio fel arall yn y Mesur hwn yr un ystyr ag yn y Ddeddf.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 18 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

19Darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbedLL+C

(1)Nid yw'r ffaith bod adran 16 yn dod i rym yn effeithio ar unrhyw benderfyniad neu gyfarwyddyd sydd wedi'i wneud o dan ddarpariaethau'r canlynol—

(a)adrannau 20, 24 neu 53 o'r Ddeddf, neu

(b)adrannau 16, 18 neu 34A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38).

(2)Mae unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan benderfyniad neu gyfarwyddyd o'r fath yn parhau mewn grym fel pe bai wedi'i gwneud gan y Bwrdd o dan adrannau 20, 24 neu 53 (yn ôl fel y digwydd) o'r Ddeddf fel y'i diwygir gan y Mesur hwn a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriadau at y [F3Senedd] neu at Gomisiwn y [F3Senedd] mewn penderfyniad neu gyfarwyddyd o'r fath fel cyfeiriadau at y Bwrdd, i'r graddau bod angen gwneud hynny er mwyn rhoi effaith i'r is-adran hon.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 19 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

20Enw Byr a ChychwynLL+C

(1)Enw'r Mesur hwn yw Mesur [F3Senedd] Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010.

(2)Daw adrannau 1, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 12, 17, 18 a'r adran hon i rym drannoeth y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

(3)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym drannoeth y diwrnod y gosodir hysbysiad o dan is-adran (4) gerbron y [F3Senedd] .

(4)Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i benodiadau cyntaf Cadeirydd a phedwar aelod arall y Bwrdd i gyd gael eu gwneud, osod gerbron y [F3Senedd] hysbysiad—

(a)o'r ffaith bod y penodiadau o dan sylw wedi'u gwneud,

(b)o enwau'r personau a benodwyd, a

(c)o'r ffaith y daw holl ddarpariaethau'r Mesur hwn (heblaw'r rhai sydd eisoes mewn grym) i rym drannoeth y diwrnod y gosodir yr hysbysiad a hynny am fod yr hysbysiad yn cael ei osod.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 20 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd yn gyfrifol am destun y Mesur i esbonio beth mae’r Mesur yn ceisio ei wneud ac i wneud y Mesur yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill