Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1FFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL

Y Comisiwn

1Sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil

(1)Mae’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (“y Comisiwn”) wedi ei sefydlu fel corff corfforedig.

(2)Mae Atodlen 1 yn cynnwys darpariaeth bellach ynghylch y Comisiwn.

Dyletswyddau strategol y Comisiwn

2Hybu dysgu gydol oes

Rhaid i’r Comisiwn hybu addysg drydyddol ar gyfer pobl Cymru—

(a)sy’n darparu cyfleoedd i bobl i gymryd rhan mewn addysg drydyddol drwy gydol eu bywydau o 16 oed;

(b)sy’n cynnwys amrywiaeth o lefelau astudio a mathau o gymhwyster;

(c)sy’n cynnwys amrywiaeth o leoliadau addysgol a dulliau astudio;

(d)sydd wedi ei threfnu’n gydlynol i hwyluso symudiad dysgwyr drwy gamau gwahanol addysg drydyddol ac i gyflogaeth neu fusnes;

(e)sydd fel arall yn bodloni gofynion gwahanol y rheini a all ddymuno ymgymryd ag addysg drydyddol.

3Hybu cyfle cyfartal

(1)Rhaid i’r Comisiwn hybu—

(a)cynyddu cyfranogiad, gan bersonau sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn addysg drydyddol‍ Gymreig;

(b)cynyddu cyfranogiad, gan bersonau sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn gwaith ymchwil ac arloesi a wneir yng Nghymru;

(c)cadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol hyd at ddiwedd cyrsiau addysg drydyddol‍ Gymreig;

(d)lleihau unrhyw fylchau o ran cyrhaeddiad mewn addysg drydyddol‍ Gymreig rhwng grwpiau gwahanol o fyfyrwyr pan fo’r gwahaniaethau yn codi oherwydd ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol;

(e)darparu cymorth i fyfyrwyr sy’n gorffen cyrsiau addysg drydyddol‍ Gymreig sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i barhau â’u haddysg drydyddol, dod o hyd i gyflogaeth neu ddechrau busnes.

(2)Yn yr adran hon, “grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol” yw—

(a)mewn perthynas ag addysg drydyddol, grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg drydyddol‍ Gymreig o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol, a

(b)mewn perthynas ag ymchwil ac arloesi, grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol mewn gwaith ymchwil ac arloesi a wneir yng Nghymru o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol.

4Annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol

Rhaid i’r Comisiwn—

(a)annog unigolion sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, yn benodol y rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, i gymryd rhan mewn addysg drydyddol, a

(b)annog cyflogwyr yng Nghymru i gymryd rhan yn narpariaeth addysg drydyddol.

5Hybu gwelliant parhaus mewn addysg drydyddol

(1)Rhaid i’r Comisiwn hybu gwelliant parhaus yn ansawdd addysg drydyddol‍ Gymreig.

(2)Wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, rhaid i’r Comisiwn roi sylw (ymhlith pethau eraill)—

(a)i bwysigrwydd sicrhau bod aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol yn gallu darparu addysg drydyddol o ansawdd uchel;

(b)i ofynion rhesymol aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol am ddatblygiad proffesiynol parhaus;

(c)i bwysigrwydd barn dysgwyr ynghylch ansawdd yr addysg drydyddol a gânt.

(3)Yn yr adran hon, “aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol” yw—

(a)athrawon personau sy’n cael addysg drydyddo‍l,

(b)personau sy’n darparu cymorth i’r athrawon hynny, ac

(c)personau sy’n darparu cymorth i ddysgwyr i gymryd rhan mewn addysg drydyddol.

6Hybu gwaith ymchwil ac arloesi

(1)Rhaid i’r Comisiwn hybu—

(a)gwneud gwaith ymchwil ac arloesi yng Nghymru;

(b)gwelliant parhaus yn ansawdd gwaith ymchwil ac arloesi a wneir gan bersonau perthnasol, a chystadleurwydd y gwaith ymchwil ac arloesi hwnnw o’i gymharu â gwaith ymchwil ac arloesi a wneir gan bersonau eraill;

(c)cydlafurio ar waith ymchwil ac arloesi, yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y byd rhwng—

(i)personau perthnasol;

(ii)personau perthnasol ac eraill;

(d)gwneud gwaith ymchwil ac arloesi a gweithgareddau sy’n ymwneud â gwaith ymchwil ac arloesi gan bersonau perthnasol drwy gyfrwng y Gymraeg.

(2)Yn is-adran (1), ystyr “person perthnasol” yw—

(a)darparwr a bennir mewn rheoliadau o dan adran 105(4);

(b)corff sy’n cydlafurio o fewn yr ystyr a roddir gan adran 105(4) wrth wneud gwaith ymchwil ac arloesi y mae cydsyniad a roddir gan y Comisiwn o dan adran 105(5) mewn effaith mewn cysylltiad ag ef.

7Hybu cydlafurio a chydlynu mewn addysg drydyddol ac ymchwil

Rhaid i’r Comisiwn hybu—

(a)cydlafurio rhwng darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru, ysgolion yng Nghymru a chyflogwyr;

(b)cydlynu yn narpariaeth addysg drydyddol gan ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru a chysoni’r ddarpariaeth honno â blaenoriaethau ymchwil ac arloesi.

8Cyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesol

(1)Rhaid i’r Comisiwn hybu addysg drydyddol ac ymchwil mewn ffordd sy’n cyfrannu at ddatblygu economi gynaliadwy ac arloesol yng Nghymru.

(2)Wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, rhaid i’r Comisiwn roi sylw (ymhlith pethau eraill) i ofynion rhesymol diwydiant, masnach, cyllid, y proffesiynau, cyflogwyr eraill a gweithwyr.

(3)At ddiben is-adran (1), mae economi gynaliadwy yn economi lle y mae anghenion y presennol wedi eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

9Hybu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg

(1)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)annog‍ y galw am addysg drydyddol‍ Gymreig a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg a chyfranogiad ynddi;

(b)cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod digon o addysg drydyddol‍ Gymreig a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg i ateb‍ y galw;

(c)annog darparu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg—

(i)gan ddarparwyr cofrestredig yng Nghymru, a

(ii)gan bersonau eraill sy’n darparu addysg drydyddol a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ddynodi person i roi cyngor perthnasol i’r Comisiwn.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “cyngor perthnasol” yw cyngor a roddir at ddiben cynorthwyo’r Comisiwn i gyflawni ei ddyletswyddau o dan is-adran (1).

(4)Ni chaniateir i berson gael ei ddynodi o dan is-adran (2) ond os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y person yn addas i roi cyngor ar y canlynol—

(a)hybu, cynnal, datblygu a chynllunio addysg drydyddol a ddarperir yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg,

(b)hybu caffael a gwella sgiliau Cymraeg,

(c)cynnal, datblygu, cynllunio a darparu gweithgareddau i gefnogi caffael a gwella sgiliau Cymraeg, a

(d)cydlafurio rhwng darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru mewn perthynas â’r materion a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c).

(5)Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys—

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes unrhyw berson sy’n addas i roi cyngor ar y materion a grybwyllir yn is-adran (4), neu

(b)os nad oes unrhyw berson sy’n cydsynio i gael ei ddynodi.

(6)Rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddir iddo gan berson sydd wedi ei ddynodi o dan is-adran (2).

(7)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi dynodiad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (2).

(8)Caniateir i ddynodiad o dan is-adran (2) gael ei ddileu.

10Hybu cenhadaeth ddinesig

(1)Rhaid i’r Comisiwn hybu cyflawni cenhadaeth ddinesig gan ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliadau o fewn y sector addysg bellach a’r sector addysg uwch.

(2)Caiff y Comisiwn arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon i hybu cyflawni cenhadaeth ddinesig gan bersonau eraill (ac eithrio’r darparwyr addysg drydyddol a grybwyllir yn is-adran (1)) sydd wedi eu cyllido gan y Comisiwn o dan y Ddeddf hon.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “cenhadaeth ddinesig” yw gweithredu at ddiben hybu neu wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol Cymru (gan gynnwys gweithredu sydd wedi ei anelu at gyflawni unrhyw un neu ragor o’r nodau llesiant yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)).

(4)Yn is-adran (3) ac yn adran 11, mae “llesiant Cymru” yn cynnwys llesiant—

(a)Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni;

(b)pob un o’r personau sy’n preswylio neu’n bresennol yng Nghymru neu unrhyw un neu ragor o’r personau hynny.

11Hybu golwg fyd-eang

Rhaid i’r Comisiwn hybu—

(a)cyfleoedd mewn addysg drydyddol i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru i astudio neu addysgu mewn mannau eraill yn y byd;

(b)cyfleoedd i astudio neu addysgu mewn addysg drydyddol yng Nghymru ar gyfer personau sy’n preswylio fel arfer y tu allan i Gymru;

(c)cyfleoedd i’r buddiannau a geir yn sgil astudio ac addysgu o’r math a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) gael eu defnyddio ar gyfer llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol Cymru;

(d)cydlafurio mewn addysg drydyddol rhwng darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru a’r rheini mewn mannau eraill yn y byd;

(e)cyfleoedd i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru a darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru i wneud‍ gwaith ymchwil ac arloesi mewn mannau eraill yn y by‍d.

12Hybu cydlafurio rhwng darparwyr addysg drydyddol ac undebau llafur

(1)Rhaid i’r Comisiwn hybu cydlafurio rhwng darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru ac undebau llafur perthnasol.

(2)Mae undeb llafur yn undeb llafur perthnasol at ddiben yr adran hon os yw’r Comisiwn yn ystyried bod cydlafurio rhyngddo a darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru yn debygol o gynorthwyo i gyflawni dyletswyddau’r Comisiwn o dan adrannau 2 i 11, ac—

(a)y caiff ei gynrychioli gan y corff o’r enw Wales TUC Cymru, neu

(b)os na chaiff ei gynrychioli felly, fod y Comisiwn yn ystyried ei fod yn cynrychioli aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 5(3)) yng Nghymru.

Strategaeth ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil

13Datganiad o flaenoriaethau strategol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n nodi eu blaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi, ac mewn cysylltiad â hwy.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, ddiwygio’r datganiad a gyhoeddir o dan is-adran (1) (gan gynnwys drwy ei ddisodli’n gyfan gwbl).

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ddiwygiadau y maent yn eu gwneud i’r datganiad.

14Cynllun strategol ar gyfer y Comisiwn

(1)Rhaid i’r Comisiwn lunio cynllun strategol sy’n nodi sut y mae’n bwriadu—

(a)cyflawni ei ddyletswyddau strategol o dan adrannau 2 i 12, a

(b)ymdrin â’r blaenoriaethau yn natganiad Gweinidogion Cymru o dan adran 13.

(2)Wrth lunio’r cynllun, rhaid i’r Comisiwnymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

15Cymeradwyo, cyhoeddi a gweithredu’r cynllun strategol

(1)Rhaid i’r Comisiwn anfon cynllun strategol a lunnir o dan adran 14 at Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo cyn diwedd cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir y datganiad o dan adran 13(1).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cymeradwyo’r cynllun, neu

(b)cymeradwyo’r cynllun gydag addasiadau.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru‍ geisio cytundeb y Comisiwn i bob addasiad y maent yn bwriadu ei wneud i gynllun cyn iddynt ei addasu o dan is-adran (2)(b).

(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cynllun sy’n cynnwys addasiad nad yw’r Comisiwn yn cytuno iddo—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru roi rhesymau dros yr addasiad hwnnw i’r Comisiwn, a

(b)rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi’r rhesymau a roddir gan Weinidogion Cymru pan fydd yn cyhoeddi ei gynllun strategol cymeradwy.

(5)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi ei gynllun strategol cymeradwy.

(6)Caiff y Comisiwn gyhoeddi ei ddatganiad ynghylch amcanion llesiant o dan adran 7 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) drwy ei gynnwys yn ei gynllun strategol cymeradwy.

(7)Rhaid i’r Comisiwn gymryd pob cam rhesymol i weithredu ei gynllun strategol cymeradwy.

16Adolygu’r cynllun strategol

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn diwygio eu datganiad o dan adran 13(2) ar ôl i’r Comisiwn gyhoeddi ei gynllun strategol cymeradwy o dan adran 15(5), rhaid i’r Comisiwn adolygu ei gynllun strategol.

(2)Caiff y Comisiwn adolygu ei gynllun strategol ar unrhyw adeg arall.

(3)Caiff y Comisiwn ddiwygio ei gynllun strategol ar ôl adolygiad o dan is-adran (1) neu (2) os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(4)Os yw’r Comisiwn yn diwygio ei gynllun strategol, mae adran 14 yn gymwys mewn perthynas â diwygio’r cynllun fel y mae’n gymwys mewn perthynas â llunio cynllun.

(5)Rhaid i’r Comisiwn anfon ei gynllun strategol diwygiedig at Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo—

(a)pan fo’r diwygio o ganlyniad i adolygiad o dan is-adran (1), cyn diwedd cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi’r diwygiadau i’w datganiad, neu

(b)pan fo’r diwygio o ganlyniad i adolygiad o dan is-adran (2), cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(6)Mae is-adrannau (2) i (7) o adran 15 yn gymwys i gynllun a ddiwygir o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys i gynllun a lunnir o dan adran 14.

Rhyddid academaidd ac awtonomi sefydliadol

17Rhyddid academaidd darparwyr a staff addysg uwch

(1)Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, rhaid i Weinidogion Cymru a’r Comisiwn roi sylw i bwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n —

(a)darparu addysg uwch (i’r graddau y mae’r rhyddid yn ymwneud ag addysg uwch neu ymchwil ac arloesi), ‍a

(b)staff academaidd y darparwyr hynny.

(2)Yn yr adran hon, ystyr “rhyddid academaidd” yw—

(a)mewn perthynas â darparwyr addysg drydyddol, eu rhyddid i benderfynu—

(i)cynnwys cyrsiau addysg uwch pendool a’r modd y cânt eu haddysgu, eu goruchwylio neu eu hasesu,

(ii)y meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr ar gyrsiau addysg uwch ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol, a

(iii)y meini prawf ar gyfer dethol a phenodi staff academaidd ac i gymhwyso’r meini prawf hynny mewn achosion penodol;

(b)mewn perthynas â staff academaidd, eu rhyddid o fewn y gyfraith—

(i)i gwestiynu a phrofi doethineb cyffredin, a

(ii)i gyflwyno syniadau newydd a lleisio barn ddadleuol neu amhoblogaidd,

heb eu rhoi eu hunain mewn perygl o golli eu swyddi neu unrhyw freintiau a all fod ganddynt yn y darparwyr addysg drydyddol.

18Awtonomi sefydliadol darparwyr addysg drydyddol

Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, rhaid i Weinidogion Cymru a’r Comisiwn roi sylw i bwysigrwydd diogelu’r rhyddid o fewn y gyfraith i ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru i reoli o ddydd i dydd mewn ffordd effeithiol a medrus.

Cydnawsedd â chyfraith elusennau

19Cydnawsedd â chyfraith elusennau a dogfennau llywodraethu darparwyr addysg drydyddol

(1)Nid oes dim byd yn y Ddeddf hon sy’n rhoi pŵer i’r Comisiwn neu i Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu darparwr addysg drydyddol wneud unrhyw beth sy’n anghydnaws—

(a)ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol neu gyfyngiad cyfreithiol sy’n gymwys i’r corff llywodraethu yn rhinwedd bod y darparwr yn elusen, neu

(b)â dogfennau llywodraethu’r darparwr.

(2)At ddibenion is-adran (1), dogfennau llywodraethu darparwr addysg drydyddol yw—

(a)yn achos darparwr a sefydlwyd drwy Siarter Frenhinol—

(i)Siarter y darparwr, a

(ii)unrhyw offeryn sy’n ymwneud â rhedeg y darparwr, y mae’n ofynnol i’r Cyfrin Gyngor gymeradwyo ei wneud neu ei ddiwygio;

(b)yn achos darparwr sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg uwch (o fewn yr ystyr a roddir i “higher education corporation” gan adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13)), offeryn llywodraethu ac erthyglau llywodraethu’r gorfforaeth;

(c)yn achos darparwr sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg bellach (o fewn yr ystyr a roddir i “further education corporation” gan adran 17(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992), offeryn llywodraethu ac erthyglau llywodraethu’r gorfforaeth;

(d)yn achos darparwr sy’n sefydliad a ddynodir o dan adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40) neu adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, offeryn llywodraethu ac erthyglau llywodraethu’r darparwr;

(e)yn achos darparwr sy’n ysgol, offeryn llywodraethu’r ysgol (os oes un);

(f)yn achos darparwr‍ sy’n cael ei redeg gan gwmni, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu’r cwmni.

Canllawiau a chyfarwyddydau Gweinidogion Cymru

20Canllawiau

Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i’r Comisiwn roi sylw i ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.

21Pŵer Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau cyffredinol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddydau cyffredinol i’r Comisiwn ynghylch arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau.

(2)Caniateir i gyfarwyddydau o dan yr adran hon gael eu llunio drwy gyfeirio at gwrs astudio penodol, ond ni chânt ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn arfer swyddogaeth mewn ffordd sy’n gwahardd neu’n ei gwneud yn ofynnol darparu cwrs astudio penodol.

(3)Ni chaniateir i’r cyfarwyddydau gael eu llunio drwy gyfeirio—

(a)at ddarparwr cofrestredig penodol,

(b)at berson penodol ac eithrio darparwr cofrestredig sy’n cael adnoddau ariannol a ddarperir neu a sicrheir gan y Comisiwn o dan Ran 3,

(c)at rannau penodol o gyrsiau astudio,

(d)at raglenni ymchwil penodol neu brosiectau arloesi penodol,

(e)at gynnwys cyrsiau astudio, rhaglenni ymchwil neu brosiectau arloesi,

(f)at y modd y caiff y cyrsiau hynny, y rhaglenni hynny neu’r prosiectau hynny eu haddysgu, eu goruchwylio neu eu hasesu,

(g)at y meini prawf ar gyfer dethol, penodi neu ddiswyddo staff academaidd, neu sut y maent yn cael eu cymhwyso, neu

(h)at y meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr, neu sut y maent yn cael eu cymhwyso.

(4)Nid yw is-adrannau (2) a (3) yn atal cyfarwyddydau o dan yr adran hon rhag cael eu llunio drwy gyfeirio at ddarparu ac asesu cyrsiau astudio neu rannau o gyrsiau astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

(5)Caniateir i gyfarwyddydau o dan yr adran hon gael eu llunio drwy gyfeirio at faes ymchwil neu arloesi ond dim ond os yw’r maes hwnnw wedi ei bennu yng nghynllun strategol y Comisiwn a gymeradwyir o dan adran 15.

(6)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.

(7)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid iddynt—

(a)cyhoeddi’r cyfarwyddyd,

(b)adrodd i Senedd Cymru fod cyfarwyddyd wedi ei roi a gosod copi o’r cyfarwyddyd gerbron y Senedd, ac

(c)cadw’r cyfarwyddyd o dan adolygiad.

(8)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon.

Swyddogaethau ychwanegol

22Swyddogaethau ychwanegol y Comisiwn

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, roi swyddogaethau atodol i’r Comisiwn.

(2)Mae “swyddogaeth atodol” yn swyddogaeth—

(a)sy’n arferadwy at ddibenion swyddogaeth i Weinidogion Cymru, a

(b)sy’n ymwneud—

(i)â darparu, neu’r bwriad i ddarparu, addysg drydyddol, neu

(ii)â gwneud, neu’r bwriad i wneud, gwaith ymchwil ac arloesi.

(3)Mae is-adrannau (4) a (5) yn gymwys—

(a)pan fo tir neu eiddo arall yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal, neu pan oedd yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal, at ddibenion darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg uwch neu’r sector addysg bellach, a

(b)pan fo Gweinidogion Cymru â’r hawlogaeth i gael unrhyw hawl neu fuddiant mewn cysylltiad â’r eiddo, neu pan fyddent â hawlogaeth o’r fath pe bai digwyddiad yn digwydd.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod pob un neu unrhyw un neu ragor o swyddogaethau Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r eiddo yn arferadwy ar eu rhan gan y Comisiwn.

(5)Rhaid i’r Comisiwn arfer y swyddogaethau hynny yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru.

Diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

23Diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn peidio â bodoli.

24Cynlluniau trosglwyddo

Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynlluniau ar gyfer trosglwyddo staff ac eiddo, hawliau ac atebolrwyddau o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Gweinidogion Cymru i’r Comisiwn.

RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 1COFRESTRU DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

Y gofrestr a’r weithdrefn gofrestru

25Y gofrestr

(1)Rhaid i’r Comisiwn sefydlu a chynnal cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru (y cyfeirir ati yn y Ddeddf hon fel “y gofrestr”).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu un neu ragor o gategorïau cofrestru y mae rhaid i’r Comisiwn wneud darpariaeth ar eu cyfer yn y gofrestr.

(3)Rhaid i gategori cofrestru a bennir yn y rheoliadau ymwneud â darparu un neu ragor o fathau o addysg drydyddol.

(4)Rhaid i’r Comisiwn gofrestru darparwr addysg drydyddol mewn categori o’r gofrestr—

(a)os yw ei gorff llywodraethu yn gwneud cais iddo gael ei gofrestru yn y categori,

(b)os yw’n ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru,

(c)os yw’n darparu’r math o addysg drydyddol sy’n ymwneud â’r categori, neu os yw’r math hwnnw o addysg drydyddol yn cael ei ddarparu ar ei ran,

(d)os yw’n bodloni’r amodau cofrestru cychwynnol sy’n gymwys iddo mewn cysylltiad â’r cofrestriad a geisir (gweler adran 27),

(e)os nad yw cofrestru wedi ei wahardd gan ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan is-adran (5), ac

(f)os yw’r cais yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir o dan is-adran (7).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wahardd cofrestru darparwr addysg drydyddol mewn un categori o’r gofrestr ar yr un pryd ag y mae wedi ei gofrestru mewn un neu ragor o’r categorïau eraill.

(6)Ni chaiff y Comisiwn gofrestru darparwr addysg drydyddol yn y gofrestr ac eithrio—

(a)mewn categori cofrestru a bennir mewn rheoliadau o dan is-adran (2);

(b)yn unol ag is-adran (4), adran 44 (newid categori cofrestru heb gais) ac unrhyw reoliadau a wneir o dan is-adran (5).

(7)Caiff y Comisiwn benderfynu—

(a)ffurf cais i gofrestru,

(b)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cais neu sydd i’w darparu gydag ef, ac

(c)y ffordd y mae cais i’w gyflwyno.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch yr wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yng nghofnod darparwr addysg drydyddol yn y gofrestr.

(9)Unwaith y bydd wedi ei gofrestru, mae cofrestriad parhaus darparwr addysg drydyddol mewn categori o’r gofrestr yn ddarostyngedig i’r darparwr fodloni—

(a)yr amodau cofrestru parhaus cyffredinol sy’n gymwys i gofrestriad y darparwr yn y categori ac fel y gallant gael eu diwygio’n ddiweddarach (gweler adran 28), a

(b)yr amodau cofrestru parhaus penodol (os oes rhai) a osodir arno yn y categori cofrestru hwnnw ac fel y gallant gael eu hamrywio’n ddiweddarach (gweler adran 29).

(10)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at amodau cofrestru parhaus darparwr addysg drydyddol yn gyfeiriadau at yr amodau a grybwyllir yn is-adran (9)(a) a (b).

(11)Rhaid i’r Comisiwn roi’r wybodaeth a gynhwysir yn y gofrestr, a’r wybodaeth a gynhwyswyd ynddi yn flaenorol, ar gael i’r cyhoedd drwy’r cyfrwng y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol.

26Y weithdrefn gofrestru

(1)Cyn gwrthod cais i gofrestru darparwr addysg drydyddol mewn categori o’r gofrestr, rhaid i’r Comisiwn hysbysu corff llywodraethu’r darparwr ei fod yn bwriadu gwneud hynny.

(2)Rhaid i’r hysbysiad bennu—

(a)rhesymau’r Comisiwn dros fwriadu gwrthod cofrestru’r darparwr addysg drydyddol yn y categori,

(b)y cyfnod pan gaiff corff llywodraethu’r darparwr gyflwyno sylwadau ynghylch yr hyn y mae’r Comisiwn yn bwriadu ei wneud (“y cyfnod penodedig”), ac

(c)y ffordd y caniateir i’r sylwadau hynny gael eu cyflwyno.

(3)Ni chaiff y cyfnod penodedig fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir yr hysbysiad.

(4)Rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan gorff llywodraethu’r darparwr addysg drydyddol yn unol â’r hysbysiad wrth benderfynu pa un ai i’w gofrestru yn y categori.

(5)Ar ôl penderfynu pa un ai i gofrestru’r darparwr addysg drydyddol yn y categori ai peidio, rhaid i’r Comisiwn hysbysu corff llywodraethu’r darparwr am ei benderfyniad.

(6)Pan mai cofrestru’r darparwr addysg drydyddol yn y categori yw’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad bennu⁠—

(a)dyddiad y cofnod yn y gofrestr yn y categori, a

(b)yr amodau cofrestru parhaus sy’n gymwys i gofrestriad y darparwr yn y categori ar yr adeg honno.

(7)Pan mai gwrthod cofrestru’r darparwr yn y categori yw’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad bennu—

(a)y sail dros wrthod,

(b)gwybodaeth o ran yr hawl i gael adolygiad, ac

(c)y cyfnod a bennir mewn rheoliadau o dan adran 79(4)(c) y caniateir i gais am adolygiad gael ei wneud ynddo.

Amodau cofrestru

27Amodau cofrestru cychwynnol

(1)Mae’n amod cofrestru cychwynnol ym mhob categori o’r gofrestr fod y Comisiwn wedi ei fodloni o ran—

(a)ansawdd y math o addysg drydyddol a ddarperir gan, neu ar ran, y darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais, y mae’r categori o’r gofrestr yn ymwneud ag ef;

(b)effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu a rheoli’r darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais (gan gynnwys ei drefniadau rheoli ariannol);

(c)cynaliadwyedd ariannol y darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais;

(d)effeithiolrwydd trefniadau’r darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais ar gyfer cefnogi a hybu lles ei fyfyrwyr a’i staff;

(e)pan fo trefniadau dilysu yn eu lle, effeithiolrwydd y trefniadau hynny wrth alluogi’r darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais i’w fodloni ei hunan o ran ansawdd yr addysg sy’n arwain at ddyfarnu cymhwyster o dan y trefniadau.

(2)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi dogfen sy’n pennu’r gofynion y mae rhaid iddynt gael eu diwallu er mwyn iddo gael ei fodloni o ran y materion a grybwyllir yn is-adran (1).

(3)Caiff y Comisiwn ddiwygio’r gofynion.

(4)Os yw’r Comisiwn yn diwygio’r gofynion, rhaid iddo gyhoeddi dogfen ddiwygiedig sy’n pennu’r gofynion fel y’u diwygiwyd.

(5)Cyn cyhoeddi’r ddogfen neu ddogfen ddiwygiedig, rhaid i’r Comisiwn, os yw’n ymddangos iddo ei bod yn briodol gwneud hynny, ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu ar gyfer amodau cofrestru cychwynnol pellach ar gyfer unrhyw gategori cofrestru.

(7)Caiff rheoliadau o dan is-adran (6) (ymhlith pethau eraill)—

(a)rhoi swyddogaethau i’r Comisiwn mewn cysylltiad â gweithredu amodau cychwynnol pellach y darperir ar eu cyfer yn y rheoliadau;

(b)darparu ar gyfer amodau cofrestru cychwynnol pellach sy’n ymwneud—

(i)â statws elusennol neu statws arall darparwyr addysg drydyddol;

(ii)â’r wybodaeth a ddarperir i ddarpar fyfyrwyr am ddarparwr, ei gyrsiau, a thelerau ac amodau ei gontractau â myfyrwyr;

(iii)â gweithdrefnau cwyno darparwyr.

(8)Yn is-adran (1)(e), ystyr “trefniadau dilysu” yw trefniadau rhwng darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais a darparwr addysg arall y mae’r darparwr addysg drydyddol sy’n gwneud cais yn dyfarnu cymhwyster odanynt i fyfyriwr yn y darparwr arall neu’n awdurdodi’r darparwr arall i ddyfarnu cymhwyster odanynt ar ei ran.

28Amodau cofrestru parhaus cyffredinol

(1)Rhaid i’r Comisiwn benderfynu amodau cofrestru parhaus cyffredinol a’u cyhoeddi.

(2)Caniateir i amodau gwahanol gael eu penderfynu ar gyfer categorïau cofrestru gwahanol.

(3)Mewn perthynas â chategori cofrestru, caniateir i amodau gwahanol gael eu penderfynu ar gyfer disgrifiadau gwahanol o ddarparwr addysg drydyddol.

(4)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi’r amodau cofrestru parhaus cyffredinol mewn ffordd sy’n nodi’r categori cofrestru y mae’r amod yn gymwys iddo.

(5)Caiff y Comisiwn ddiwygio’r amodau.

(6)Os yw’r Comisiwn yn diwygio’r amodau, rhaid iddo gyhoeddi’r amodau fel y’u diwygiwyd.

(7)Cyn penderfynu’r amodau neu eu diwygio, rhaid i’r Comisiwn, os yw’n ymddangos iddo ei bod yn briodol gwneud hynny, ymgynghori‍ â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(8)Caiff y Comisiwn, ar adeg cofrestru darparwr addysg drydyddol mewn categori o’r gofrestr neu’n ddiweddarach, benderfynu nad yw unrhyw un neu ragor o’r amodau cofrestru parhaus cyffredinol sy’n gymwys i gofrestriad yn y categori hwnnw yn gymwys i’r darparwr, yn ddarostyngedig i’r gofynion o dan y Rhan hon sy’n ymwneud ag amodau cofrestru parhaus mandadol.

(9)Pan fo’r penderfyniad wedi ei wneud ar ôl cofrestru’r darparwr addysg drydyddol yn y categori hwnnw o’r gofrestr, rhaid i’r Comisiwn hysbysu corff llywodraethu’r darparwr am ei benderfyniad.

29Amodau cofrestru parhaus penodol

(1)Caiff y Comisiwn, ar adeg cofrestru darparwr addysg drydyddol mewn categori o’r gofrestr neu’n ddiweddarach, osod unrhyw amodau ar ei gofrestriad yn y categori y mae’r Comisiwn yn eu penderfynu (“yr amodau cofrestru parhaus penodol”).

(2)Caiff y Comisiwn ar unrhyw adeg amrywio neu ddileu amod cofrestru parhaus penodol.

(3)Cyn—

(a)gosod amod cofrestru parhaus penodol, neu

(b)amrywio neu ddileu amod cofrestru parhaus penodol,

rhaid i’r Comisiwn hysbysu corff llywodraethu’r darparwr addysg drydyddol ei fod yn bwriadu gwneud hynny.

(4)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)pennu rhesymau’r Comisiwn dros fwriadu cymryd y cam o dan sylw,

(b)pennu’r cyfnod pan gaiff corff llywodraethu’r darparwr addysg drydyddol gyflwyno sylwadau ynghylch yr hyn y mae’r Comisiwn yn bwriadu ei wneud (“y cyfnod penodedig”), ac

(c)pennu’r ffordd y caniateir i’r sylwadau hynny gael eu cyflwyno.

(5)Ni chaiff y cyfnod penodedig fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir yr hysbysiad.

(6)Rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan gorff llywodraethu’r darparwr addysg drydyddol yn unol â’r hysbysiad wrth benderfynu pa un ai i gymryd y cam o dan sylw.

(7)Ar ôl penderfynu pa un ai i gymryd y cam o dan sylw ai peidio, rhaid i’r Comisiwn—

(a)hysbysu corff llywodraethu’r darparwr addysg drydyddol am ei benderfyniad, a

(b)cyhoeddi’r hysbysiad.

(8)Os yw’r Comisiwn yn penderfynu gosod amod cofrestru parhaus penodol newydd neu amrywio neu ddileu amod cofrestru parhaus penodol, rhaid i’r hysbysiad—

(a)pennu’r amod newydd, yr amod fel y’i hamrywir neu’r amod sy’n cael ei ddileu (yn ôl y digwydd), a

(b)pennu’r dyddiad pan fydd y gosod, yr amrywio neu’r dileu yn cymryd effaith.

(9)Pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â gosod neu amrywio amod cofrestru parhaus penodol, rhaid i’r hysbysiad hefyd bennu—

(a)y sail dros osod neu amrywio’r amod,

(b)gwybodaeth o ran yr hawl i gael adolygiad, ac

(c)y cyfnod a bennir mewn rheoliadau o dan adran 79(4)(c) y caniateir i gais am adolygiad gael ei wneud ynddo.

(10)Ni chaiff amod cofrestru parhaus penodol, neu amrywiad i amod o’r fath, gymryd effaith ar unrhyw adeg—

(a)pan allai cais am adolygiad o dan adran 45(b) gael ei ddwyn mewn cysylltiad â’r penderfyniad i osod neu i amrywio’r amod, neu

(b)pan fo adolygiad neu benderfyniad gan y Comisiwn yn dilyn adolygiad o’r fath yn yr arfaeth.

(11)Ond nid yw hynny yn atal amod cofrestru parhaus penodol, neu amrywiad i amod o’r fath, rhag cymryd effaith os yw corff llywodraethu’r darparwr addysg drydyddol yn hysbysu’r Comisiwn nad yw’n bwriadu gwneud cais am adolygiad.

(12)Pan fo is-adran (10) yn peidio ag atal amod cofrestru parhaus penodol, neu amrywiad i amod o’r fath, rhag cymryd effaith ar y dyddiad a bennir o dan is-adran (8), rhaid i’r Comisiwn benderfynu dyddiad yn y dyfodol pan fydd yn cymryd effaith.

(13)Ond mae hynny yn ddarostyngedig i’r hyn sydd wedi cael ei benderfynu gan y Comisiwn yn dilyn unrhyw adolygiad o dan adran 45(b) mewn cysylltiad â’r penderfyniad i osod neu i amrywio’r amod.

30Amodau cymesur etc.

(1)Rhaid i’r Comisiwn sicrhau—

(a)bod y gofynion a bennir o dan adran 27(2), a

(b)bod yr holl amodau cofrestru parhaus,

yn gymesur ag asesiad y Comisiwn o’r risgiau a berir.

(2)Yng ngoleuni ei ddyletswydd o dan is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn gadw’r holl amodau cofrestru parhaus o dan adolygiad.

31Amodau cofrestru parhaus mandadol ar gyfer pob darparwr cofrestredig

(1)Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod amodau cofrestru parhaus pob darparwr addysg drydyddol sydd wedi ei gofrestru mewn categori yn cynnwys—

(a)amod sy’n ymwneud ag ansawdd y math o addysg drydyddol a ddarperir gan, neu ar ran, y darparwr y mae’r categori cofrestru yn ymwneud ag ef;

(b)amod sy’n ymwneud ag effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu a rheoli’r darparwr (gan gynnwys ei drefniadau rheoli ariannol);

(c)amod sy’n ymwneud â chynaliadwyedd ariannol y darparwr;

(d)amod sy’n ymwneud ag effeithiolrwydd trefniadau’r darparwr ar gyfer cefnogi a hybu lles ei fyfyrwyr a’i staff;

(e)amod sy’n ymwneud ag effeithiolrwydd unrhyw drefniadau dilysu sydd yn eu lle;

(f)amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu’r darparwr hysbysu’r Comisiwn am unrhyw newid y mae’n dod yn ymwybodol ohono sy’n effeithio ar gywirdeb yr wybodaeth a gynhwysir yng nghofnod y darparwr yn y gofrestr;

(g)amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu’r darparwr, os yw wedi cael hysbysiad o dan adran 126(1), gael cynllun diogelu dysgwyr yn ei le sydd wedi ei gymeradwyo gan y Comisiwn (o dan adran 126(3) neu (5)) ar neu cyn y dyddiad a bennir yn yr amod a rhoi effaith i’r cynllun;

(h)amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu’r darparwr gydymffurfio â’r gofynion sydd wedi eu cynnwys yn y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a gyhoeddir o dan adran 129(1) neu unrhyw god diwygiedig a gyhoeddir o dan adran 129(3);

(i)amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu’r darparwr roi sylw i gyngor neu ganllawiau a roddir gan y Comisiwn i’r corff (naill ai yn benodol neu i bersonau yn gyffredinol) wrth arfer swyddogaethau’r Comisiwn o dan y Ddeddf hon;

(j)amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu’r darparwr ddarparu i’r Comisiwn, neu i berson sydd wedi ei awdurdodi gan y Comisiwn, unrhyw wybodaeth, unrhyw gynhorthwy ac unrhyw fynediad i gyfleusterau, systemau ac offer y darparwr sy’n rhesymol ofynnol gan y Comisiwn at ddiben arfer swyddogaethau’r Comisiwn o dan y Rhan hon.

(2)Yn is-adran (1)(e), ystyr “trefniadau dilysu” yw trefniadau rhwng y darparwr cofrestredig a darparwr addysg arall y mae’r darparwr cofrestredig yn dyfarnu cymhwyster odanynt i fyfyriwr yn y darparwr arall neu’n awdurdodi’r darparwr arall i ddyfarnu cymhwyster odanynt ar ei ran.

32Amod cofrestru parhaus mandadol ar y terfynau ffioedd

(1)Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod amodau cofrestru parhaus pob darparwr cofrestredig—

(a)sy’n dod o fewn categori terfyn ffioedd, a

(b)sy’n darparu cyrsiau cymhwysol, neu y darperir cyrsiau cymhwysol ar ei ran,

yn cynnwys amod terfyn ffioedd.

(2)Categori terfyn ffioedd yw categori cofrestru—

(a)y mae rhaid i’r Comisiwn wneud darpariaeth ar ei gyfer yn y gofrestr, a

(b)sydd wedi ei bennu at ddiben yr adran hon mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Amod terfyn ffioedd yw amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu darparwr cofrestredig—

(a)meddu ar ddatganiad terfyn ffioedd sydd wedi ei gymeradwyo o dan adran 47, a

(b)sicrhau nad yw ffioedd cwrs rheoleiddiedig yn fwy na’r terfyn ffioedd cymwys.

(4)Cwrs cymhwysol yw cwrs o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru y mae is-adran (5)‍ yn gymwys iddo.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys i gwrs a ddarperir—

(a)mewn un neu ragor o leoedd yng Nghymru neu mewn mannau eraill,

(b)drwy gyfrwng gohebiaeth, offer neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle (pa un ai yng Nghymru neu mewn mannau eraill) i gymryd rhan mewn addysgu neu astudio’r cwrs, neu

(c)drwy gyfuniad o’r ffyrdd a ddisgrifir ym mharagraffau (a) a (b).

(6)Ni chaniateir i’r pŵer i bennu disgrifiad o gwrs o dan is-adran (4) gael ei arfer er mwyn gwahaniaethu—

(a)mewn perthynas â chyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon, rhwng cyrsiau gwahanol ar sail y pynciau y rhoddir yr hyfforddiant hwnnw ynddynt;

(b)mewn perthynas â chyrsiau eraill, rhwng cyrsiau gwahanol ar yr un lefel neu ar lefel gyffelyb ar sail y meysydd astudio neu ymchwil y maent yn ymwneud â hwy.

(7)Ffioedd cwrs rheoleiddiedig yw ffioedd sy’n daladwy i’r darparwr addysg drydyddol gan berson cymhwysol—

(a)mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â chwrs cymhwysol, a

(b)mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n gymwys i’r cwrs hwnnw, pan fo’r flwyddyn yn dechrau ar ddiwrnod pan yw’r darpariaethau cymwys yn y datganiad terfyn ffioedd yn cael effaith.

(8)Y terfyn ffioedd cymwys yw—

(a)mewn achos pan fo datganiad terfyn ffioedd y darparwr addysg drydyddol yn pennu terfyn ffioedd ar gyfer y cwrs a’r flwyddyn o dan sylw, y terfyn hwnnw;

(b)mewn achos pan fo datganiad terfyn ffioedd y darparwr yn darparu ar gyfer penderfynu terfyn ffioedd ar gyfer y cwrs a’r flwyddyn o dan sylw, y terfyn hwnnw fel y’i penderfynir yn unol â’r datganiad.

(9)Person cymhwysol yw person—

(a)nad yw’n fyfyriwr rhyngwladol, a

(b)sy’n dod o fewn unrhyw ddosbarth o bersonau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rhan hon.

(10)Mae myfyriwr rhyngwladol yn berson y caniateir codi ffioedd uwch arno neu y mae rhaid codi ffioedd uwch arno yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983 (p. 40) (codi ffioedd uwch yn achos myfyrwyr nad oes ganddynt gysylltiad rhagnodedig â’r Deyrnas Unedig).

(11)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau pan fo ffioedd sy’n daladwy i berson, mewn cysylltiad â pherson cymhwysol yn ymgymryd â chwrs, neu â rhan o gwrs, a ddarperir ar ran darparwr addysg drydyddol, i’w trin at ddibenion is-adran (7) ac adran 46 fel pe baent yn daladwy i’r darparwr hwnnw mewn cysylltiad â’r person cymhwysol yn ymgymryd â’r cwrs.

33Amodau cofrestru parhaus mandadol ar gyfle cyfartal

(1)Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod amodau cofrestru parhaus pob darparwr‍ cofrestredig yn cynnwys amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol cyflawni canlyniadau y gellir eu mesur i hyrwyddo pob un o’r nodau yn is-adran (2).

(2)Y nodau yw—

(a)cynyddu cyfranogiad, gan bersonau sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn addysg drydyddol berthnasol a ddarperir‍ gan, neu ar ran, y darparwr cofrestredig;

(b)cadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol hyd at ddiwedd cyrsiau addysg drydyddol berthnasol a ddarperir‍ gan, neu ar ran, y darparwr cofrestredig;

(c)lleihau unrhyw fylchau o ran cyrhaeddiad mewn addysg drydyddol berthnasol a ddarperir‍ gan, neu ar ran, y darparwr cofrestredig rhwng grwpiau gwahanol o fyfyrwyr a bennir yn yr amodau, pan fo’r gwahaniaethau yn codi oherwydd ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol;

(d)darparu cymorth i fyfyrwyr sy’n gorffen cyrsiau addysg drydyddol‍ berthnasol a ddarperir gan, neu ar ran, y darparwr cofrestredig sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i barhau â’u haddysg drydyddol, dod o hyd i gyflogaeth neu ddechrau busnes.

(3)Yn yr adran hon—

  • ystyr “addysg drydyddol berthnasol” (“relevant tertiary education”)‍ yw‍ cyrsiau addysg drydyddol a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru ac o fath sy’n ymwneud â chategori o’r gofrestr y mae’r darparwr o dan sylw wedi ei gofrestru ynddo;

  • grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol” (“under-represented groups”) yw grwpiau a bennir yn yr amodau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg drydyddol berthnaso‍l o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol.

34Pŵer i ddarparu ar gyfer amodau cofrestru parhaus mandadol pellach

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu ar gyfer amodau cofrestru parhaus mandadol pellach sy’n gymwys i un neu ragor o’r categorïau cofrestru.

35Dyletswydd y Comisiwn i roi canllawiau ynghylch amodau cofrestru parhaus

Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi canllawiau ar gyfer darparwyr cofrestredig ynghylch amodau cofrestru parhaus.

Monitro a gorfodi amodau cofrestru

36Dyletswydd y Comisiwn i fonitro cydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus

Rhaid i’r Comisiwn fonitro cydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus gan ddarparwyr cofrestredig.

37Cyngor a chynhorthwy mewn cysylltiad â chydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus

Caiff y Comisiwn ddarparu, neu wneud trefniadau ar gyfer darparu, cyngor neu gynhorthwy arall i ddarparwr cofrestredig at ddiben sicrhau cydymffurfedd gan y darparwr â’i amodau cofrestru parhaus.

38Adolygiadau sy’n berthnasol i gydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus

Caiff y Comisiwn gynnal, neu drefnu i berson arall gynnal, adolygiad o unrhyw faterion y mae’n ystyried eu bod yn berthnasol i gydymffurfedd gan ddarparwr cofrestredig â’i amodau cofrestru parhaus.

39Cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio ag amodau cofrestru parhaus

(1)Caiff y Comisiwn roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu darparwr addysg drydyddol o dan yr adran hon os yw wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio ag amod cofrestru parhaus.

(2)Yn achos methiant, neu fethiant tebygol, i gydymffurfio ag amod cofrestru parhaus, caiff y Comisiwn gyfarwyddo’r corff llywodraethu i gydymffurfio â’r amod.

(3)Yn achos methiant i gydymffurfio ag amod terfyn ffioedd, caiff y Comisiwn hefyd, fel dewis arall i gyfarwyddyd a ddisgrifir yn is-adran (2), neu’n ychwanegol ato, gyfarwyddo’r corff llywodraethu i ad-dalu ffioedd uwchlaw’r terfyn a dalwyd i’r darparwr addysg drydyddol.

(4)Caiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu camau sydd i’w cymryd (neu nad ydynt i’w cymryd) gan y corff llywodraethu at ddiben cydymffurfio â’r amod.

(5)Caiff cyfarwyddyd o’r math a ddisgrifir yn is-adran (3) bennu’r modd y mae ad-dalu’r ffioedd uwchlaw’r terfyn i fod i gael ei roi ar waith, neu y caniateir iddo gael ei roi ar waith.

(6)Os yw’r Comisiwn yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid iddo—

(a)rhoi copi o’r cyfarwyddyd i Weinidogion Cymru;

(b)cyhoeddi’r cyfarwyddyd.

(7)Mae “ffioedd uwchlaw’r terfyn” yn ffioedd cwrs rheoleiddiedig i’r graddau y mae’r ffioedd hynny yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys (fel y’i meintiolir at ddibenion y ddyletswydd o dan adran 32 y mae’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio â hi).

(8)Am ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau o dan yr adran hon, gweler adrannau 75 i 78.

40Darpariaeth atodol ynghylch cyfarwyddydau o dan adran 39

(1)Caiff y Comisiwn ddyroddi canllawiau ynghylch y camau sydd i’w cymryd at ddiben cydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 39.

(2)Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â chorff llywodraethu pob darparwr cofrestredig; a chaiff ymgynghori â chorff llywodraethu unrhyw ddarparwr addysg drydyddol arall yng Nghymru y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol.

Datgofrestru

41Datgofrestru

(1)Rhaid i’r Comisiwn ddileu darparwr addysg drydyddol o gategori o’r gofrestr os yw’r Comisiwn yn dod yn ymwybodol—

(a)nad yw’r darparwr yn ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru mwyach, neu

(b)nad yw’r darparwr yn darparu’r math o addysg drydyddol sy’n ymwneud â’r categori mwyach, neu na ddarperir y math hwnnw o addysg drydyddol ar ei ran mwyach.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu amgylchiadau eraill pan fo rhaid dileu darparwr cofrestredig o un neu ragor o gategorïau’r gofrestr neu o bob categori o’r gofrestr.

(3)Caiff y Comisiwn ddileu darparwr cofrestredig o gategori o’r gofrestr os yw amod A neu B wedi ei fodloni.

(4)Mae amod A wedi ei fodloni—

(a)os yw’r Comisiwn wedi arfer ei bwerau yn flaenorol o dan adran 39 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio ag amodau cofrestru parhaus) mewn perthynas â thorri un o amodau cofrestru parhaus y darparwr addysg drydyddol sy’n gymwys i’r categori cofrestru, a

(b)os yw’n ymddangos i’r Comisiwn—

(i)bod toriad unwaith eto, neu doriad parhaus, o’r amod hwnnw, neu

(ii)bod un gwahanol o amodau cofrestru parhaus y darparwr sy’n gymwys i’r categori cofrestru yn cael ei dorri neu wedi cael ei dorri.

(5)Mae amod B wedi ei fodloni os yw’n ymddangos i’r Comisiwn—

(a)bod un o amodau cofrestru parhaus y darparwr addysg drydyddol sy’n gymwys i’r categori cofrestru yn cael ei dorri neu wedi cael ei dorri, a

(b)bod ei bwerau o dan adran 39 yn annigonol i ymdrin â’r toriad (pa un a ydynt wedi cael eu harfer, yn cael eu harfer neu i’w harfer mewn perthynas ag ef ai peidio).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dileu darparwr addysg drydyddol o gategori o’r gofrestr o dan yr adran hon.

(7)Caiff rheoliadau o dan is-adran (6) gynnwys darpariaeth sy’n trin y darparwr addysg drydyddol fel darparwr cofrestredig at y dibenion hynny a bennir gan y rheoliadau.

(8)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)cynnal rhestr o ddarparwyr addysg drydyddol sydd wedi eu dileu o gategori o’r gofrestr o dan yr adran hon,

(b)cynnwys yn y rhestr honno gyfeiriad at unrhyw reoliadau a wneir o dan is-adran (6), ac

(c)rhoi’r rhestr ar gael i’r cyhoedd drwy’r cyfrwng y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol.

42Datgofrestru: y weithdrefn

(1)Cyn dileu darparwr cofrestredig o gategori o’r gofrestr o dan adran 41, rhaid i’r Comisiwn hysbysu corff llywodraethu’r darparwr ei fod yn bwriadu gwneud hynny.

(2)Rhaid i’r hysbysiad bennu—

(a)rhesymau’r Comisiwn dros fwriadu dileu’r darparwr o gategori o’r gofrestr,

(b)y cyfnod pan gaiff corff llywodraethu’r darparwr gyflwyno sylwadau ynghylch yr hyn y mae’r Comisiwn yn bwriadu ei wneud (“y cyfnod penodedig”), ac

(c)y ffordd y caniateir i’r sylwadau hynny gael eu cyflwyno.

(3)Ni chaiff y cyfnod penodedig fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir yr hysbysiad.

(4)Rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan gorff llywodraethu’r darparwr yn unol â’r hysbysiad wrth benderfynu pa un ai i’w ddileu o gategori o’r gofrestr.

(5)Ar ôl penderfynu pa un ai i ddileu’r darparwr o gategori o’r gofrestr ai peidio, rhaid i’r Comisiwn hysbysu corff llywodraethu’r darparwr am ei benderfyniad.

(6)Pan mai dileu’r darparwr o gategori o’r gofrestr yw’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad bennu’r dyddiad y mae’r dilead yn cymryd effaith.

(7)Rhaid i’r hysbysiad hefyd bennu—

(a)y sail dros ddileu,

(b)gwybodaeth o ran yr hawl i gael adolygiad, ac

(c)y cyfnod a bennir mewn rheoliadau o dan adran 79(4)(c) caniateir i gais am adolygiad gael ei wneud ynddo.

(8)Ni chaniateir i ddilead o dan adran 41 gymryd effaith ar unrhyw adeg—

(a)pan allai cais am adolygiad o dan adran 45(c) neu (d) gael ei ddwyn mewn cysylltiad â’r penderfyniad i ddileu, neu

(b)pan fo adolygiad neu benderfyniad gan y Comisiwn yn dilyn adolygiad o’r fath yn yr arfaeth.

(9)Ond nid yw hynny yn atal dilead rhag cymryd effaith os yw corff llywodraethu’r darparwr yn hysbysu’r Comisiwn nad yw’n bwriadu gwneud cais am adolygiad.

(10)Pan fo is-adran (8) yn peidio ag atal dilead rhag cymryd effaith ar y dyddiad a bennir o dan is-adran (6), rhaid i’r Comisiwn benderfynu dyddiad yn y dyfodol pan fydd y dilead yn cymryd effaith.

(11)Ond mae hynny yn ddarostyngedig i’r hyn sydd wedi cael ei benderfynu gan y Comisiwn yn dilyn unrhyw adolygiad o dan adran 45(c) neu (d) mewn cysylltiad â’r penderfyniad i ddileu.

43Datgofrestru’n wirfoddol a datgofrestru gyda chydsyniad

(1)Rhaid i’r Comisiwn ddileu darparwr cofrestredig o gategori o’r gofrestr—

(a)os yw corff llywodraethu’r darparwr yn gwneud cais i’r Comisiwn i’r darparwr gael ei ddileu o’r categori hwnnw o’r gofrestr, a

(b)os yw’r cais yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir o dan is-adran (6).

(2)Ond os yw’r cais o dan is-adran (1)(a) yn pennu ei fod wedi ei gyfuno â chais o dan adran 25(4)(a) i gofrestru mewn categori arall, nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys oni bai bod yr amod yn is-adran (3) yn gymwys neu fod y ddau amod yn is-adran (4) yn gymwys.

(3)Yr amod yn yr is-adran hon yw ei bod yn ofynnol i’r Comisiwn gofrestru’r darparwr yn y categori arall yn unol â’r cais o dan adran 25(4)(a).

(4)Yr amodau yn yr is-adran hon yw—

(a)y byddai’n ofynnol i’r Comisiwn gofrestru’r darparwr yn y categori arall yn unol â’r cais o dan adran 25(4)(a) pe na bai am effaith adran 25(4)(e) mewn perthynas â’r categorïau cofrestru sy’n destun y cais o dan is-adran (1)(a) ac adran 25(4)(a), a

(b)y byddai’n ofynnol i’r Comisiwn gofrestru’r darparwr yn y categori arall os yw’r darparwr yn cael ei ddileu o’r categori y mae’r cais o dan is-adran (1)(a) wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef.

(5)Caiff y Comisiwn ddileu darparwr cofrestredig o gategori o’r gofrestr os yw corff llywodraethu’r darparwr yn cydsynio i hynny.

(6)Caiff y Comisiwn benderfynu—

(a)ffurf cais o dan is-adran (1),

(b)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cais neu sydd i’w darparu gydag ef, ac

(c)y ffordd y mae cais i’w chyflwyno.

(7)Rhaid i’r Comisiwn hysbysu corff llywodraethu’r darparwr am y dyddiad pan fydd y darparwr yn cael ei ddileu o’r categori o’r gofrestr o dan yr adran hon (“y dyddiad dileu”).

(8)Caiff y Comisiwn amrywio’r dyddiad dileu ar unrhyw adeg cyn y dyddiad hwnnw drwy hysbysu corff llywodraethu’r darparwr.

(9)Ni chaniateir i ddilead o dan yr adran hon gymryd effaith ar unrhyw adeg—

(a)pan allai cais am adolygiad o dan adran 45(d) gael ei ddwyn mewn cysylltiad â’r penderfyniad i ddileu, neu

(b)pan fo adolygiad neu benderfyniad gan y Comisiwn yn dilyn adolygiad o’r fath yn yr arfaeth.

(10)Ond nid yw hynny yn atal dilead rhag cymryd effaith os yw corff llywodraethu’r darparwr yn hysbysu’r Comisiwn nad yw’n bwriadu gwneud cais am adolygiad.

(11)Pan fo is-adran (9) yn peidio ag atal dilead rhag cymryd effaith ar y dyddiad a bennir o dan is-adran (7), rhaid i’r Comisiwn benderfynu dyddiad yn y dyfodol pan fydd y dilead yn cymryd effaith.

(12)Ond mae hynny yn ddarostyngedig i’r hyn sydd wedi cael ei benderfynu gan y Comisiwn yn dilyn unrhyw adolygiad o dan adran 45(d) mewn cysylltiad â’r penderfyniad i ddileu.

(13)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dileu darparwr o gategori o’r gofrestr o dan yr adran hon.

(14)Caiff rheoliadau o dan is-adran (13) gynnwys darpariaeth sy’n trin y darparwr fel pe bai’n ddarparwr cofrestredig yn y categori hwnnw at y dibenion hynny a bennir gan y rheoliadau.

(15)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)cynnal rhestr o ddarparwyr addysg drydyddol sydd wedi eu dileu o gategorïau o’r gofrestr o dan yr adran hon,

(b)cynnwys yn y rhestr honno gyfeiriad at unrhyw reoliadau a wneir o dan is-adran (13), ac

(c)rhoi’r rhestr ar gael i’r cyhoedd drwy’r cyfrwng y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol.

44Newid categori cofrestru heb gais

Pan fo darparwr cofrestredig wedi ei ddileu o gategori o’r gofrestr o dan adran 41(3) neu 43(5), caiff y Comisiwn gofrestru’r darparwr mewn categori arall heb gais o dan adran 25(4)(a)—

(a)os yw corff llywodraethu’r darparwr yn cydsynio i hynny,

(b)os yw’n parhau i fod yn ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru,

(c)os yw’n darparu’r math o addysg drydyddol sy’n ymwneud â’r categori arall, neu os darperir yr addysg honno ar ei ran,

(d)os yw’n bodloni’r amodau cofrestru cychwynnol sy’n gymwys iddo mewn cysylltiad â’r cofrestriad yn y categori arall (gweler adran 27), ac

(e)os nad yw cofrestru yn y categori arall wedi ei wahardd gan ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 25(5).

Adolygiadau o benderfyniadau cofrestru

45Adolygiadau o benderfyniadau cofrestru

Caiff corff llywodraethu darparwr addysg drydyddol wneud cais am adolygiad gan yr adolygydd penderfyniadau o unrhyw un neu ragor o’r penderfyniadau a ganlyn—

(a)penderfyniad gan y Comisiwn i wrthod cofrestru’r darparwr mewn categori o’r gofrestr o dan adran 25;

(b)penderfyniad gan y Comisiwn i osod neu i amrywio amod cofrestru parhaus penodol ar y darparwr o dan adran 29;

(c)penderfyniad gan y Comisiwn i ddileu’r darparwr o gategori o’r gofrestr o dan adran 41;

(d)penderfyniad gan y Comisiwn o ran y dyddiad a bennir o dan adran 42(6) neu adran 43(7) neu (8) fel y dyddiad y mae dileu’r darparwr o gategori o’r gofrestr yn cymryd effaith.

Datganiadau terfyn ffioedd

46Gofynion ar gyfer datganiad terfyn ffioedd

(1)Mae datganiad terfyn ffioedd yn ddogfen sy’n cydymffurfio â’r adran hon.

(2)Rhaid i ddatganiad terfyn ffioedd—

(a)pennu terfyn ffioedd, neu

(b)darparu ar gyfer penderfynu terfyn ffioedd,

mewn perthynas â phob cwrs cymhwysol ac mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd berthnasol.

(3)Caiff datganiad terfyn ffioedd bennu, neu ddarparu ar gyfer penderfynu, terfynau ffioedd gwahanol mewn perthynas â chyrsiau gwahanol ac mewn cysylltiad â blynyddoedd academaidd perthnasol gwahanol.

(4)Rhaid i ddatganiad terfyn ffioedd bennu’r dyddiad y mae’n dechrau cael effaith a rhaid i unrhyw amrywiad i ddatganiad terfyn ffioedd bennu’r dyddiad y mae’r amrywiad yn dechrau cael effaith.

(5)Yn y Rhan hon—

(a)mae terfyn ffioedd, mewn perthynas â chwrs, yn derfyn na chaiff y ffioedd sy’n daladwy i’r darparwr addysg drydyddol gan berson cymhwysol, mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â’r cwrs, fynd uwch ei law;

(b)mae blwyddyn academaidd berthnasol, mewn perthynas â chwrs, yn flwyddyn academaidd sy’n gymwys i’r cwrs, ac y mae ffioedd yn daladwy i’r darparwr mewn cysylltiad â hi, ac sy’n dechrau ar ddiwrnod pan yw’r darpariaethau cymwys yn y datganiad terfyn ffioedd yn cael effaith.

(6)Pan fo datganiad terfyn ffioedd yn pennu terfyn ffioedd mewn perthynas â blwyddyn a chwrs, ni chaniateir i’r terfyn ffioedd a bennir fynd uwchlaw pa swm bynnag a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru at ddibenion yr adran hon (“yr uchafswm”).

(7)Pan fo datganiad terfyn ffioedd yn darparu ar gyfer penderfynu terfyn ffioedd mewn perthynas â blwyddyn a chwrs, rhaid i’r datganiad bennu nad yw’r terfyn ffioedd a benderfynir yn unol â’r datganiad i fynd uwchlaw’r uchafswm.

47Cymeradwyo datganiad terfyn ffioedd

(1)Caiff corff llywodraethu darparwr addysg drydyddol yng Nghymru wneud cais i’r Comisiwn iddo gymeradwyo datganiad terfyn ffioedd arfaethedig sy’n ymwneud â’r darparwr.

(2)Os gwneir cais i’r Comisiwn i gymeradwyo datganiad terfyn ffioedd, rhaid i’r Comisiwn drwy hysbysiad i’r corff llywodraethu o dan sylw naill ai—

(a)cymeradwyo’r datganiad, neu

(b)gwrthod y datganiad.

(3)Caiff corff llywodraethu darparwr a chanddo ddatganiad terfyn ffioedd cymeradwy wneud cais i’r Comisiwn iddo gymeradwyo amrywiad i’r datganiad neu gymeradwyo cael datganiad arall yn ei le.

(4)Os yw cais i gymeradwyo amrywiad neu i gymeradwyo cael datganiad arall yn ei le wedi ei wneud, rhaid i’r Comisiwn drwy hysbysiad i’r corff llywodraethu naill ai—

(a)cymeradwyo’r amrywiad neu’r datganiad arall yn ei le, neu

(b)gwrthod yr amrywiad neu’r datganiad arall yn ei le.

(5)Mae datganiad terfyn ffioedd cymeradwy yn peidio â bod yn gymeradwy os yw’r darparwr y mae’n ymwneud ag ef yn peidio â bod wedi ei gofrestru mewn categori cofrestru a bennir o ran adran 32(2)(b) y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef.

(6)Am ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiad o dan is-adrannau (2)(b) a (4)(b), gweler adrannau 75 i 78.

48Cyhoeddi datganiad terfyn ffioedd cymeradwy

(1)Pan fo’r Comisiwn wedi cymeradwyo datganiad terfyn ffioedd, rhaid i gorff llywodraethu’r darparwr y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef gyhoeddi’r datganiad (ac unrhyw amrywiad sydd wedi ei gymeradwy o’r datganiad neu unrhyw ddatganiad arall sydd wedi ei gymeradwyo yn ei le).

(2)Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1), rhaid i’r corff llywodraethu roi sylw i’r angen i sicrhau bod y datganiad ar gael yn hawdd i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr.

49Dilysrwydd contractau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i gontract sy’n darparu ar gyfer talu ffioedd cwrs rheoleiddiedig i ddarparwr addysg drydyddol, gan berson cymhwysol ac mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â chwrs cymhwysol, sydd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys.

(2)At ddibenion unrhyw hawliau ac atebolrwyddau sy’n codi o dan y contract, ac unrhyw drafodion mewn cysylltiad â’r hawliau a’r atebolrwyddau hynny, mae’r contract i’w drin fel pe bai’n darparu ar gyfer talu ffioedd mewn swm sy’n cyfateb i’r terfyn ffioedd cymwys.

(3)Ac eithrio fel y’i darperir yn is-adran (2), nid yw’r contract yn ddi-rym nac yn anorfodadwy o ganlyniad i ddarparu ar gyfer talu ffioedd sydd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys.

PENNOD 2SICRHAU ANSAWDD A GWELLA ANSAWDD

Swyddogaethau sicrhau ansawdd cyffredinol

50Fframweithiau sicrhau ansawdd

(1)Caiff y Comisiwn gyhoeddi fframweithiau sicrhau ansawdd.

(2)Mae fframwaith sicrhau ansawdd yn ddogfen sy’n nodi canllawiau a gwybodaeth am faterion polisi ac arfer ynghylch—

(a)meini prawf ar gyfer asesu ansawdd addysg drydyddol;

(b)prosesau ar gyfer asesu ansawdd addysg drydyddol;

(c)rolau a chyfrifoldebau—

(i)personau sy’n asesu ansawdd addysg drydyddol,

(ii)darparwyr addysg drydyddol o ran ansawdd addysg drydyddol, a

(iii)unrhyw bersonau eraill y mae’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol o ran ansawdd addysg drydyddol;

(d)ystyried barn dysgwyr ynghylch ansawdd yr addysg drydyddol a gânt;

(e)datblygiad proffesiynol aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol;

(f)unrhyw fater arall y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn berthnasol i sicrhau ansawdd addysg drydyddol.

(3)Caiff y Comisiwn ddiwygio, disodli neu dynnu’n ôl unrhyw fframwaith sicrhau ansawdd a gyhoeddir o dan yr adran hon.

(4)Cyn cyhoeddi fframwaith (neu unrhyw fframwaith diwygiedig) neu dynnu fframwaith yn ôl o dan yr adran hon, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori—

(a)â phob darparwr cofrestredig,

(b)â Phrif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (“y Prif Arolygydd”), ac

(c)ag unrhyw bersonau eraill y mae’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol.

(5)Rhaid i’r personau a grybwyllir yn is-adran (6), i’r graddau y mae’n berthnasol i arfer eu swyddogaethau, roi sylw i fframwaith sicrhau ansawdd a gyhoeddir o dan yr adran hon.

(6)Y personau yw—

(a)y Comisiwn;

(b)y Prif Arolygydd;

(c)corff dynodedig (gweler adran 56).

(7)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n effeithio ar bwerau eraill y Comisiwn i ddyroddi canllawiau.

(8)Mae i “aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol” yr un ystyr ag yn adran 5.

51Dyletswydd i fonitro ansawdd addysg drydyddol reoleiddiedig ac i hybu gwelliant yn ansawdd yr addysg honno

Rhaid i’r Comisiwn fonitro ansawdd addysg drydyddol a hybu gwelliant yn ansawdd yr addysg honno—

(a)a ddarperir gan, neu ar ran, darparwyr cofrestredig (i’r graddau y mae’r addysg drydyddol yn ymwneud â chategorïau cofrestru’r darparwyr);

(b)a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo.

52Cyngor a chynhorthwy mewn cysylltiad ag ansawdd addysg drydyddol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i addysg drydyddol, neu i gwrs penodol o addysg drydyddol—

(a)a ddarperir gan, neu ar ran, darparwr cofrestredig,

(b)a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo, neu

(c)a ddarperir yng Nghymru ac nad yw’n dod o fewn paragraff (a) na (b).

(2)Caiff y Comisiwn ddarparu, neu wneud trefniadau ar gyfer darparu, cyngor neu gynhorthwy arall i unrhyw berson at ddiben—

(a)gwella ansawdd yr addysg drydyddol neu’r cwrs, neu

(b)atal ansawdd yr addysg drydyddol neu’r cwrs rhag dod yn annigonol.

(3)At ddibenion yr adran hon, mae ansawdd addysg drydyddol, neu ansawdd cwrs addysg drydyddol, yn annigonol os nad yw’n ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol y rheini sy’n cael yr addysg neu sy’n ymgymryd â’r cwrs.

53Adolygiadau sy’n berthnasol i ansawdd addysg drydyddol

Caiff y Comisiwn gynnal, neu drefnu i berson arall gynnal, adolygiad o unrhyw faterion y mae’n ystyried eu bod yn berthnasol i ansawdd addysg drydyddol, neu i gwrs penodol o addysg drydyddol—

(a)a ddarperir gan, neu ar ran, darparwr cofrestredig,

(b)a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo, neu

(c)a ddarparir yng Nghymru ac nad yw’n dod o fewn paragraff (a) na (b).

Asesu ansawdd mewn addysg uwch

54Asesu ansawdd addysg uwch

(1)Rhaid i’r Comisiwn asesu, neu wneud trefniadau ar gyfer asesu, ansawdd addysg uwch a ddarperir—

(a)gan bob darparwr cofrestredig;

(b)ar ran pob darparwr cofrestredig (pa un ai gan ddarparwr cofrestredig arall neu gan ddarparwr allanol).

(2)Mae’r dyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys i asesu addysg uwch sy’n ymwneud â chategori cofrestru’r darparwr.

(3)Caiff y Comisiwn asesu, neu wneud trefniadau ar gyfer asesu, ansawdd addysg uwch a ddarperir yng Nghymru gan unrhyw ddarparwr addysg drydyddol.

(4)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi adroddiad ar bob asesiad a gynhelir o dan yr adran hon.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)ei gwneud yn ofynnol i asesiadau o dan is-adran (1) gael eu cynnal fesul ysbaid a bennir yn y rheoliadau;

(b)ei gwneud yn ofynnol i adroddiadau o dan is-adran (4) gael eu cyhoeddi cyn diwedd cyfnod a bennir yn y rheoliadau.

(6)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (5), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.

(7)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddarparwr allanol yn gyfeiriadau at berson—

(a)nad yw’n ddarparwr cofrestredig, ond

(b)sy’n gyfrifol am ddarparu cwrs addysg uwch cyfan, neu ran ohono, ar ran darparwr cofrestredig;

ac mae cyfeiriadau at gorff llywodraethu mewn perthynas â darparwr allanol nad yw’n sefydliad yn gyfeiriadau at y personau sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr.

(8)At ddibenion is-adran (7)(b), caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ynghylch yr amgylchiadau pan fo person i’w drin (neu nad yw i’w drin) fel pe bai’n gyfrifol am ddarparu cwrs (neu ran ohono).

55Cynlluniau gweithredu yn dilyn asesiadau o dan adran 54

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i asesiadau a gynhelir o dan adran 54(1)(a) a (b) ac a gyhoeddir yn unol ag adran 54(4).

(2)Rhaid i gorff llywodraethu darparwr cofrestredig sy’n darparu’r addysg uwch a asesir, neu y mae’r addysg uwch wedi ei darparu ar ei ran (yn ôl y digwydd)—

(a)llunio datganiad ysgrifenedig o’r camau gweithredu y mae’n bwriadu eu cymryd yng ngoleuni’r adroddiad ac o fewn pa gyfnod y mae’n bwriadu cymryd y camau hynny;

(b)anfon y datganiad i’r Comisiwn ac, os cynhaliwyd yr asesiad gan gorff dynodedig, i’r corff dynodedig.

(3)Rhaid i’r corff llywodraethu sy’n gwneud y datganiad ei gyhoeddi.

(4)Mae cydymffurfio â’r dyletswyddau o dan is-adrannau (2) a (3) i’w drin fel pe bai’n amod cofrestru parhaus sy’n gymwys i’r darparwr cofrestredig at ddibenion adran 39 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio ag amodau cofrestru parhaus) ac adran 41 (datgofrestru).

56Arfer swyddogaethau asesu addysg uwch gan gorff dynodedig

(1)Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth—

(a)ynghylch dynodi corff i arfer y swyddogaethau asesu;

(b)ynghylch goruchwylio’r corff dynodedig gan y Comisiwn;

(c)i’r corff godi ffioedd.

(2)At ddibenion y Bennod hon, “y swyddogaethau asesu” yw swyddogaethau’r Comisiwn o dan adran 54 (asesu ansawdd addysg uwch).

(3)Pan fo corff wedi ei ddynodi o dan Atodlen 3 i arfer y swyddogaethau asesu, nid yw’r swyddogaethau o dan adran 54 yn peidio â bod yn arferadwy gan y Comisiwn.

Arolygu addysg bellach neu hyfforddiant etc.

57Dyletswydd y Prif Arolygydd i arolygu ac adrodd

(1)Rhaid i’r Prif Arolygydd arolygu—

(a)addysg bellach neu hyfforddiant a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo;

(b)addysg bellach neu hyfforddiant a gyllidir gan Weinidogion Cymru neu a sicrheir fel arall ganddynt;

(c)addysg bellach neu hyfforddiant a gyllidir gan awdurdod lleol;

(d)addysg bellach neu hyfforddiant pan fo’r Comisiwn neu awdurdod lleol yn ystyried rhoi cyllid i ddarparwr yr addysg bellach neu’r hyfforddiant;

(e)addysg neu hyfforddiant a ddarperir i bersonau o’r oedran ysgol gorfodol gan ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg bellach neu’r sector addysg uwch;

(f)addysg neu hyfforddiant a ddarperir yng Nghymru ac a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau (os oes rhai).

(2)Nid yw paragraffau (a), (b) nac (c) o is-adran (1) yn gymwys—

(a)i addysg o fath y caniateir iddo gael ei arolygu neu y mae rhaid iddo gael ei arolygu o dan Ran 1 o Ddeddf Addysg 2005 (p. 18) (arolygiadau ysgolion), neu

(b)os yw’r cyllid a grybwyllir yn y paragraffau hynny wedi ei roi at ddiben penodol, i addysg neu hyfforddiant nad yw’r cymorth hwnnw wedi ei gyfeirio ati neu ato.

(3)Rhaid i’r Prif Arolygydd gyhoeddi adroddiad ar bob arolygiad a gynhelir o dan yr adran hon gan gynnwys barn—

(a)ar ansawdd yr addysg neu’r hyfforddiant a arolygir,

(b)ar y safonau a gyrhaeddir gan y rheini sy’n cael yr addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw, ac

(c)ar a yw’r adnoddau ariannol sy’n cael eu rhoi ar gael i ddarparwr yr addysg neu’r hyfforddiant yn cael eu rheoli’n effeithlon ac yn cael eu defnyddio mewn ffordd sy’n darparu gwerth am arian.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)ei gwneud yn ofynnol i arolygiadau o dan is-adran (1) (ac eithrio paragraff (d)) gael eu cynnal fesul ysbaid a bennir yn y rheoliadau;

(b)ei gwneud yn ofynnol i adroddiadau o dan is-adran (3) gael eu gwneud cyn diwedd cyfnod a bennir yn y rheoliadau.

(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori⁠—

(a)â’r Comisiwn;

(b)â’r Prif Arolygydd.

58Pŵer y Prif Arolygydd i arolygu ac adrodd

(1)Caiff y Prif Arolygydd arolygu unrhyw addysg neu hyfforddiant a ddisgrifir yn adran 57(1) ac adrodd arni neu arno.

(2)Caiff y Prif Arolygydd arolygu unrhyw addysg neu hyfforddiant—

(a)nad yw o fath a ddisgrifir yn adran 57(1), ond

(b)a allai gael ei chyllido neu ei gyllido yn un o’r ffyrdd a grybwyllir yn yr adran honno,

ac adrodd arni neu arno, os yw darparwr yr addysg neu’r hyfforddiant yn gofyn i’r Prif Arolygydd wneud hynny.

(3)Caiff y Prif Arolygydd godi ffi am gost arolygiad a gynhelir o dan is-adran (2).

(4)Mae is-adrannau (3) i (5) o adran 57 yn gymwys i adroddiad o dan is-adran (1) fel y maent yn gymwys i gynllun o dan yr adran honno.

(5)Caiff y Prif Arolygydd drefnu i adroddiad ar arolygiad a gynhelir o ganlyniad i gais o dan is-adran (2) gael ei gyhoeddi.

59Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth a chyngor i’r Comisiwn

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant a ddisgrifir yn adran 57(1) ac a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo.

(2)Rhaid i’r Prif Arolygydd sicrhau bod y Comisiwn yn cael gwybod yn rheolaidd—

(a)am ansawdd yr addysg neu’r hyfforddiant y mae’r adran hon yn gymwys iddi neu iddo,

(b)am y safonau a gyrhaeddir gan y rheini sy’n cael yr addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw, ac

(c)a yw’r adnoddau ariannol sy’n cael eu rhoi ar gael i’r rheini sy’n darparu’r addysg a’r hyfforddiant yn cael eu rheoli’n effeithlon ac yn cael eu defnyddio er mwyn darparu gwerth am arian.

(3)Pan fydd y Comisiwn yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i’r Prif Arolygydd—

(a)rhoi cyngor i’r Comisiwn ar y materion hynny a bennir gan y Comisiwn sy’n ymwneud ag addysg neu hyfforddiant y mae’r adran hon yn gymwys iddi neu iddo;

(b)arolygu’r addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw, neu’r dosbarth hwnnw o addysg neu hyfforddiant, y mae’r adran hon yn gymwys iddi neu iddo, a bennir gan y Comisiwn;

(c)adrodd ar ganlyniad arolygiad a gynhelir o dan yr adran hon.

60Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant a ddisgrifir yn adran 57(1) nas cyllidir gan y Comisiwn neu nas sicrheir fel arall ganddo.

(2)Rhaid i’r Prif Arolygydd sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael gwybod yn rheolaidd—

(a)am ansawdd yr addysg neu’r hyfforddiant y mae’r adran hon yn gymwys iddi neu iddo,

(b)am y safonau a gyrhaeddir gan y rheini sy’n cael yr addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw, ac

(c)a yw’r adnoddau ariannol sy’n cael eu rhoi ar gael i’r rheini sy’n darparu’r addysg a’r hyfforddiant yn cael eu rheoli’n effeithlon ac yn cael eu defnyddio er mwyn darparu gwerth am arian.

(3)Pan fydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i’r Prif Arolygydd—

(a)rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ar y materion hynny a bennir gan Weinidogion Cymru sy’n ymwneud ag addysg neu hyfforddiant y mae’r adran hon yn gymwys iddi neu iddo;

(b)arolygu’r addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw, neu’r dosbarth hwnnw o addysg neu hyfforddiant, y mae’r adran hon yn gymwys iddi neu iddo, a bennir gan Weinidogion Cymru;

(c)adrodd ar ganlyniad arolygiad a gynhelir o dan yr adran hon.

61Swyddogaethau ychwanegol y Prif Arolygydd

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, roi swyddogaethau eraill i’r Prif Arolygydd mewn cysylltiad â’r addysg neu’r hyfforddiant a ddisgrifir yn adran 57(1).

(2)Caiff y swyddogaethau a roddir gan y rheoliadau gynnwys (ymhlith pethau eraill) swyddogaethau mewn cysylltiad â hyfforddi athrawon, darlithwyr, hyfforddwyr neu bersonau eraill sy’n ymwneud â darparu’r addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw, neu mewn cysylltiad â hyfforddiant ar gyfer y personau hynny.

62Cynlluniau gweithredu yn dilyn arolygiadau gan y Prif Arolygydd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r Prif Arolygydd yn cyhoeddi adroddiad ar arolygiad.

(2)Ond nid yw’n gymwys i adroddiad ar arolygiad a gynhelir—

(a)o ganlyniad i gais o dan adran 58(2), neu

(b)o dan adran 63.

(3)Rhaid i’r person sy’n gyfrifol am reoli darparwr yr addysg neu’r hyfforddiant sy’n destun yr adroddiad lunio datganiad ysgrifenedig o’r camau gweithredu y mae’r person yn bwriadu eu cymryd yng ngoleuni’r adroddiad ac o fewn pa gyfnod y mae’n bwriadu cymryd y camau gweithredu hynny.

(4)Rhaid i’r person sy’n gwneud y datganiad ei gyhoeddi.

(5)Mae is-adran (6) yn gymwys—

(a)os yw person sy’n ddarostyngedig i’r dyletswyddau yn is-adrannau (3) a (4) yn gorff llywodraethu darparwr cofrestredig, a

(b)os yw’r addysg neu’r hyfforddiant sy’n destun yr adroddiad yn ymwneud â chategori cofrestru’r darparwr.

(6)Mae cydymffurfio â’r dyletswyddau yn is-adrannau (3) a (4) i’w drin fel pe bai’n amod cofrestru parhaus sy’n gymwys i’r darparwr cofrestredig at ddibenion adran 39 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio ag amodau cofrestru parhaus) ac adran 41 (datgofrestru).

(7)Mae is-adran (8) yn gymwys os yw’r addysg neu’r hyfforddiant sy’n destun yr adroddiad wedi ei chyllido neu wedi ei gyllido gan y Comisiwn neu Weinidogion Cymru o dan Ran 3 o’r Ddeddf hon.

(8)Mae cydymffurfio â’r dyletswyddau yn is-adrannau (3) a (4) i’w drin fel pe bai’n un o ofynion y telerau a’r amodau cyllido o dan y Ddeddf hon.

63Arolygiadau ardal

(1)Caiff y Prif Arolygydd arolygu—

(a)ansawdd ac argaeledd disgrifiad o addysg neu hyfforddiant, mewn ardal benodedig yng Nghymru, ar gyfer personau sy’n 15 oed neu’n hŷn,

(b)y safonau a gyrhaeddir gan y rheini sy’n cael yr addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw, ac

(c)a yw’r adnoddau ariannol sy’n cael eu rhoi ar gael i’r rheini sy’n darparu’r addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw yn cael eu rheoli’n effeithlon ac yn cael eu defnyddio mewn ffordd sy’n darparu gwerth am arian.

(2)Rhaid i’r Prif Arolygydd gynnal arolygiad o’r math a ddisgrifir yn is-adran (1) (“arolygiad ardal”) os gofynnir iddo wneud hynny—

(a)gan y Comisiwn;

(b)gan Weinidogion Cymru.

(3)Yr addysg neu’r hyfforddiant a gaiff fod yn destun arolygiad ardal yw unrhyw addysg neu hyfforddiant a ddisgrifir yn adran 57 neu sydd o fewn cylch gwaith y Prif Arolygydd o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad arall.

(4)Ond ni chaniateir i’r pŵer i’w gwneud yn ofynnol i’r Prif Arolygydd gynnal arolygiad ardal gael ei arfer ond—

(a)yn achos y Comisiwn, mewn cysylltiad â disgrifiad o addysg neu hyfforddiant a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo;

(b)yn achos Gweinidogion Cymru, mewn cysylltiad â disgrifiad o addysg neu hyfforddiant ac eithrio addysg neu hyfforddiant a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo.

(5)Caniateir i arolygiad ardal gael ei estyn er mwyn ystyried—

(a)y modd y mae unrhyw adnoddau ariannol wedi eu cymhwyso gan berson a ddisgrifir yn is-adran (6) mewn cysylltiad â’r addysg neu’r hyfforddiant a arolygir, a

(b)a yw unrhyw adnoddau ariannol o’r fath wedi eu cymhwyso mewn ffordd sy’n darparu gwerth am arian.

(6)Y personau a grybwyllir yn is-adran (5) yw—

(a)y Comisiwn;

(b)Gweinidogion Cymru;

(c)awdurdod lleol.

(7)Rhaid i’r personau a ganlyn ddarparu unrhyw wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol gan y Prif Arolygydd mewn cysylltiad â’r arolygiad—

(a)personau sy’n gyfrifol am reoli unrhyw ddarparwr addysg neu hyfforddiant sy’n destun arolygiad ardal;

(b)unrhyw awdurdod lleol o fewn yr ardal sy’n destun arolygiad ardal;

(c)y Comisiwn;

(d)Gweinidogion Cymru.

(8)Ar ôl cwblhau arolygiad ardal, rhaid i’r Prif Arolygydd gyhoeddi adroddiad.

(9)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â’r ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth a osodir gan yr adran hon;

(b)ei gwneud yn ofynnol i adroddiadau o dan is-adran (8) gael eu cyhoeddi cyn diwedd cyfnod a bennir yn y rheoliadau.

(10)Am ddarpariaeth ynghylch adrodd ar ddosbarthiadau chwech y canfuwyd eu bod yn peri pryder mewn arolygiad ardal, gweler adrannau 44C a 44E o Ddeddf Addysg 2005 (p. 18).

(11)Yn is-adran (1)—

  • ystyr “penodedig” (“specified”)—

    (a)

    yn achos arolygiad ardal y gofynnir amdano o dan is-adran (2), yw wedi ei bennu yn y cais;

    (b)

    yn achos arolygiad ardal a gynhelir gan y Prif Arolygydd ac eithrio drwy gais, yw wedi ei bennu gan y Prif Arolygydd;

  • mae “personau sy’n 15 oed” (“persons who are aged 15”) yn cynnwys personau, y darperir addysg ar eu cyfer mewn ysgol, a fydd yn cyrraedd yr oedran hwnnw yn y flwyddyn ysgol gyfredol.

64Hawl mynediad a throseddau

(1)Wrth gynnal arolygiad o dan y Bennod hon, mae gan y Prif Arolygydd, ar bob adeg resymol—

(a)hawl mynediad i fangre y darperir yr addysg sy’n cael ei harolygu neu’r hyfforddiant sy’n cael ei arolygu ynddi;

(b)hawl mynediad i fangre darparwr yr addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw sy’n cael ei defnyddio mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth honno;

(c)hawl i arolygu unrhyw gofnodion a gedwir gan y person hwnnw, ac unrhyw ddogfennau eraill sy’n cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r addysg neu’r hyfforddiant, sy’n ofynnol gan yr arolygydd at ddibenion yr arolygiad, ac i gymryd copïau ohonynt.

(2)Mewn cysylltiad ag addysg neu hyfforddiant a ddarperir gan gyflogwr yn y gweithle, ni chaniateir i’r hawl mynediad a roddir gan is-adran (1) gael ei harfer ond os yw’r cyflogwr wedi cael rhybudd rhesymol.

(3)Mae’r hawl i arolygu a roddir gan is-adran (1)(c) yn cynnwys yr hawl i gael mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy’n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r cofnodion neu’r dogfennau o dan sylw ac i arolygu a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur o’r fath ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig o’r fath.

(4)Mae’r hawl honno hefyd yn cynnwys yr hawl i gael unrhyw gynhorthwy—

(a)gan y person sy’n defnyddio neu sydd wedi bod yn defnyddio’r cyfrifiadur neu y mae’r cyfrifiadur yn cael ei ddefnyddio felly neu wedi cael ei ddefnyddio felly ar ei ran, neu

(b)gan unrhyw berson a chanddo ofal dros y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â gweithrediad y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd,

sy’n rhesymol ofynnol gan y Prif Arolygydd.

(5)Mae’n drosedd rhwystro’r Prif Arolygydd yn fwriadol wrth iddo arfer swyddogaethau mewn perthynas ag arolygiad o dan y Bennod hon.

(6)Mae person sy’n euog o drosedd o’r fath yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(7)Nid yw’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys y pŵer i fynd i annedd heb gytundeb y meddiannydd.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “mangre” yw mangre yng Nghymru neu Loegr.

65Arolygon ac astudiaethau

(1)Caiff y Comisiwn gyfarwyddo’r Prif Arolygydd i gynnal—

(a)arolwg o Gymru, neu o ardal o fewn Cymru a bennir yn y cyfarwyddyd, mewn cysylltiad â materion a bennir yn y cyfarwyddyd sy’n ymwneud â pholisi ynglŷn ag addysg bellach neu hyfforddiant;

(b)astudiaeth gymharol o’r ddarpariaeth a wneir y tu allan i Gymru mewn cysylltiad â materion a bennir yn y cyfarwyddyd sy’n ymwneud ag addysg bellach neu hyfforddiant.

(2)Caiff y Prif Arolygydd, heb gael ei gyfarwyddo i wneud hynny, gynnal arolwg neu astudiaeth o’r math hwnnw.

66Adroddiadau blynyddol

(1)Rhaid i adroddiad blynyddol y Prif Arolygydd sy’n ofynnol gan adran 21(1)(a) o Ddeddf Addysg 2005 (p. 18) gynnwys adroddiad ar arfer swyddogaethau’r Prif Arolygydd o dan y Bennod hon.

(2)Mae’r pŵer a roddir gan yr adran honno i wneud adroddiadau eraill yn cynnwys pŵer i wneud adroddiadau mewn cysylltiad â materion sy’n ymwneud ag addysg neu hyfforddiant a ddisgrifir yn adran 57(1).

67Cynllun blynyddol y Prif Arolygydd

(1)Rhaid i’r Prif Arolygydd, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, lunio cynllun sy’n nodi amcangyfrifon—

(a)o’r gwariant sy’n angenrheidiol, yn y flwyddyn ariannol y mae’r cynllun yn ymwneud â hi, er mwyn sicrhau bod swyddogaethau’r Prif Arolygydd yn cael eu harfer yn effeithiol, a

(b)o’r incwm y bydd y Prif Arolygydd yn ei gael yn y flwyddyn ariannol honno ac y caniateir iddo gael ei gymhwyso tuag at dalu treuliau’r Prif Arolygydd.

(2)Rhaid i’r cynllun gynnwys cynigion ar gyfer rheoli unrhyw gyllid a all gael ei ddarparu i’r Prif Arolygydd yn y flwyddyn ariannol honno—

(a)o dan adran 68 o’r Ddeddf hon (cyllido gan y Comisiwn), a

(b)o dan adran 104(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) (cyllido gan Weinidogion Cymru).

(3)Rhaid i’r cynllun gael ei gyflwyno, at ddibenion ymgynghori—

(a)i’r Comisiwn, a

(b)i Weinidogion Cymru,

erbyn yr adeg honno cyn dechrau’r flwyddyn ariannol y mae’r cynllun yn ymwneud â hi a gyfarwyddir ganddynt ar y cyd.

(4)Caiff y Prif Arolygydd gyhoeddi’r cynllun ar ôl i’r cynllun gael ei gymeradwyo—

(a)gan y Comisiwn, a

(b)gan Weinidogion Cymru.

68Cyllido arolygiadau ac adroddiadau ar addysg bellach a hyfforddiant etc.

(1)Rhaid i’r Comisiwn ddarparu unrhyw gyllid i’r Prif Arolygydd y mae’n ystyried ei fod yn briodol ar gyfer arfer swyddogaethau’r Prif Arolygydd, i’r graddau y mae’r swyddogaethau yn ymwneud ag addysg neu hyfforddiant a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo.

(2)Wrth benderfynu pa gyllid y mae’n ystyried ei fod yn briodol, rhaid i’r Comisiwn roi sylw yn benodol i’r hyn y mae’r Comisiwn yn ystyried bod angen i’r Prif Arolygydd ei wario er mwyn arfer y swyddogaethau.

(3)Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â’r Prif Arolygydd ynghylch y cyllid y mae i’w ddarparu i’r Prif Arolygydd yn y flwyddyn ariannol honno.

(4)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)cymeradwyo unrhyw ran (neu rannau) o’r cynllun a lunnir gan y Prif Arolygydd o dan adran 67 sy’n ymwneud â swyddogaethau y mae’n ofynnol i’r Comisiwn ddarparu cyllid o dan yr adran hon mewn cysylltiad â hwy, a

(b)penderfynu swm y cyllid y bydd yn ei ddarparu o dan yr adran hon yn unol â’r cynllun i’r graddau y mae wedi ei gymeradwyo gan y Comisiwn.

(5)Ond cyn iddo gymeradwyo’r cynllun o dan is-adran (4) caiff y Comisiwn ei gwneud yn ofynnol i’r Prif Arolygydd addasu’r cynllun.

(6)Mae adran 104 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(a)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)But the Welsh Ministers are not responsible for providing funding to the Chief Inspector for the discharge of the Chief Inspector’s functions under Chapter 2 of Part 2 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 so far as they relate to education or training that is funded or otherwise secured by the Commission for Tertiary Education and Research.;

(b)yn is-adran (4A), yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)approve such part (or parts) of the plan prepared by the Chief Inspector under section 67 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 as relate to functions in respect of which they are required to provide funding under this section, and.

PENNOD 3DARPARIAETHAU GORFODI A GWEITHDREFNOL PELLACH

Ymyrryd yn ymddygiad sefydliadau addysg bellach

69Y seiliau dros ymyrryd

At ddibenion adrannau 70 a 71, y seiliau dros ymyrryd yn ymddygiad darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg bellach yw fel a ganlyn—

(a)mae materion y darparwr wedi cael neu yn cael eu camreoli gan ei gorff llywodraethu;

(b)mae corff llywodraethu’r darparwr wedi methu â chydymffurfio â dyletswydd o dan unrhyw ddeddfiad;

(c)mae corff llywodraethu’r darparwr wedi gweithredu neu’n bwriadu gweithredu’n afresymol wrth arfer ei swyddogaethau o dan unrhyw ddeddfiad;

(d)mae’r darparwr yn perfformio’n sylweddol waeth nag y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddo berfformio o dan yr holl amgylchiadau, neu yn methu neu’n debygol o fethu â rhoi safon dderbyniol o addysg neu hyfforddiant.

70Pwerau i ymyrryd

(1)Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu ragor o’r seiliau dros ymyrryd yn bodoli mewn perthynas â darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg bellach, caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu’r darparwr.

(2)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon—

(a)cynnwys darpariaeth sy’n cael effaith i ddiswyddo pob un neu unrhyw un neu ragor o aelodau corff llywodraethu’r darparwr;

(b)cynnwys darpariaeth sy’n cael effaith i benodi aelodau newydd o’r corff hwnnw os oes swyddi gwag (sut bynnag y maent wedi codi);

(c)pennu camau sydd i’w cymryd (neu nad ydynt i’w cymryd) gan y corff llywodraethu at ddiben ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd.

(4)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (3)(c) (ymhlith pethau eraill) ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu—

(a)arfer pwerau o dan adran 5(2)(b) i (f) ac (h) o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (mccc 7) i gydlafurio â’r personau hynny ac ar y telerau hynny a bennir yn y cyfarwyddyd;

(b)pasio penderfyniad o dan adran 27A(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13) (“Deddf 1992”) i’r corff gael ei ddiddymu ar ddyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

(5)Cymerir at ddibenion adran 27A(1) o Ddeddf 1992 fod corff llywodraethu, y mae cyfarwyddyd fel y’i crybwyllir yn is-adran (4)(b) wedi ei roi iddo, wedi cydymffurfio ag adran 27 o’r Ddeddf honno cyn pasio’r penderfyniad sy’n ofynnol gan y cyfarwyddyd.

(6)Caniateir i gyfarwyddydau gael eu rhoi o dan yr adran hon er gwaethaf unrhyw ddeddfiad sy’n gwneud arfer pŵer neu gyflawni dyletswydd yn ddibynnol ar farn corff llywodraethu.

(7)Ni chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo corff llywodraethu o dan yr adran hon i ddiswyddo aelod o staff.

(8)Ond nid yw is-adran (7) yn atal Gweinidogion Cymru, pan fônt yn ystyried y gall fod yn briodol diswyddo aelod o staff y mae gan y corff llywodraethu bŵer i’w ddiswyddo o dan erthyglau llywodraethu’r darparwr, rhag rhoi unrhyw gyfarwyddydau i’r corff llywodraethu o dan yr adran hon sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau y rhoddir effaith i’r gweithdrefnau sy’n gymwys i ystyried yr achos dros ddiswyddo’r aelod hwnnw o staff mewn perthynas â’r aelod hwnnw o staff.

(9)Mae penodi aelod o gorff llywodraethu o dan yr adran hon yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud yn unol ag offeryn llywodraethu ac erthyglau llywodraethu’r darparwr o dan sylw.

71Hysbysu gan y Comisiwn am y seiliau dros ymyrryd

(1)Os yw’r Comisiwn o’r farn bod unrhyw un neu ragor o’r seiliau dros ymyrryd yn bodoli mewn perthynas â darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg bellach, rhaid i’r Comisiwn hysbysu Gweinidogion Cymru am y farn honno.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i farn y Comisiwn wrth benderfynu pa un ai i arfer y pwerau o dan adran 70.

72Datganiad Gweinidogion Cymru ar bwerau ymyrryd

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y maent yn bwriadu arfer eu pwerau o dan adran 70

(2)O ran Gweinidogion Cymru—

(a)rhaid iddynt gadw’r datganiad o dan adolygiad;

(b)cânt ddiwygio’r datganiad.

(3)Cyn cyhoeddi’r datganiad neu ddatganiad diwygiedig, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(4)Cyn gynted â phosibl ar ôl cyhoeddi’r datganiad neu ddatganiad diwygiedig, rhaid i Weinidogion Cymru osod copi ohono gerbron Senedd Cymru.

Mynediad i wybodaeth a chyfleusterau

73Dyletswydd i gydweithredu

(1)Rhaid i gorff llywodraethu darparwr allanol sicrhau y darperir i berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 51, 53 neu 54(1) unrhyw wybodaeth, unrhyw gynhorthwy ac unrhyw fynediad i gyfleusterau, systemau ac offer y darparwr allanol sy’n rhesymol ofynnol gan y person at ddiben arfer y swyddogaeth (gan gynnwys at ddiben arfer unrhyw bŵer o dan adran 74).

(2)Rhaid i gorff llywodraethu darparwr addysg bellach neu hyfforddiant a gyllidir o dan adran 97 sicrhau y darperir i berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 51 neu 53 unrhyw wybodaeth, unrhyw gynhorthwy ac unrhyw fynediad i gyfleusterau, systemau ac offer y darparwr sy’n rhesymol ofynnol gan y person at ddiben arfer y swyddogaeth (gan gynnwys at ddiben arfer unrhyw bŵer o dan adran 74).

(3)Yn is-adran (2)—

  • ystyr “y corff llywodraethu” (“the governing body”) yw’r person sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;

  • nid yw “darparwr addysg bellach neu hyfforddiant” (“provider of further education or training”) yn cynnwys darparwr cofrestredig.

(4)Os yw’r Comisiwn wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio ag is-adran (1) neu (2), caiff ei gyfarwyddo i gymryd (neu i beidio â chymryd) camau penodedig at ddiben sicrhau y darperir gwybodaeth, cynhorthwy neu fynediad fel y’i disgrifir yn is-adran (1) neu (2) (fel y bo’n briodol).

(5)Am ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddyd o dan is-adran (4), gweler adrannau 75 i 78.

74Pwerau mynd i mewn ac arolygu

(1)At ddiben arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 36, 38, 51, 53 neu 54(1), caiff person awdurdodedig—

(a)mynd i fangre darparwr cofrestredig;

(b)edrych ar ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd.

(2)At ddiben arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 51, 53 neu 54(1), caiff person awdurdodedig—

(a)mynd i fangre darparwr allanol;

(b)edrych ar ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd.

(3)Yn is-adrannau (1)(b) a (2)(b), mae cyfeiriadau—

(a)at ddogfennau yn cynnwys gwybodaeth wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf;

(b)at ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—

(i)dogfennau sydd wedi eu storio ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio electronig yn y fangre, a

(ii)dogfennau sydd wedi eu storio mewn man arall ond y gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron yn y fangre.

(4)Mae’r pŵer a roddir gan is-adrannau (1)(b) a (2)(b) yn cynnwys pŵer—

(a)i’w gwneud yn ofynnol i berson ddarparu dogfennau;

(b)i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau sydd wedi eu storio’n electronig);

(c)i edrych ar gyfrifiadur y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arno neu ar ddyfais storio electronig y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arni.

(5)Ni chaniateir i bŵer a roddir gan yr adran hon gael ei arfer ond ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol—

(a)i gorff llywodraethu’r darparwr cofrestredig neu’r darparwr allanol y mae’r person awdurdodedig yn bwriadu arfer y pŵer mewn perthynas â’i fangre, a

(b)i gorff llywodraethu unrhyw ddarparwr cofrestredig y mae’r darparwr hwnnw neu’r darparwr allanol hwnnw yn darparu ar ei ran yr addysg drydyddol y mae arfer y swyddogaeth berthnasol a grybwyllir yn is-adran (1) neu (2) yn ymwneud â hi.

(6)Nid yw is-adran (5) yn gymwys i arfer pŵer os yw’r person awdurdodedig wedi ei fodloni—

(a)bod yr achos yn achos brys, neu

(b)y byddai cydymffurfio â’r is-adran honno yn tanseilio diben arfer y pŵer.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan y Comisiwn (pa un ai’n gyffredinol neu’n benodol) i arfer y pwerau a roddir gan yr adran hon.

(8)Cyn arfer pŵer o dan yr adran hon, rhaid i berson awdurdodedig, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, ddangos copi o awdurdodiad y person o dan is-adran (7).

(9)O ran y pwerau a roddir gan yr adran hon—

(a)caniateir iddynt gael eu harfer ar adegau rhesymol yn unig;

(b)ni chaniateir iddynt gael eu harfer i’w gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth ac eithrio ar adeg resymol.

(10)Nid yw’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys pŵer i fynd i annedd heb gytundeb y meddiannydd.

(11)Yn yr adran hon, ystyr “mangre” yw mangre yng Nghymru neu Loegr.

Y weithdrefn rhybuddio ac adolygu

75Cymhwyso adrannau 76 i 78

(1)Mae adrannau 76 i 78 yn gymwys—

(a)i gyfarwyddyd o dan adran 39 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio ag amodau cofrestru parhaus);

(b)i hysbysiad o dan adran 47(2)(b) (gwrthod y datganiad terfyn ffioedd arfaethedig);

(c)i hysbysiad o dan adran 47(4)(b) (gwrthod yr amrywiad arfaethedig i ddatganiad terfyn ffioedd neu’r datganiad arfaethedig arall yn ei le);

(d)i gyfarwyddyd o dan adran 73(4) (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydweithredu).

(2)Ond nid yw’r adrannau hynny yn gymwys i gyfarwyddyd nad yw’n darparu ond ar gyfer dirymu cyfarwyddyd cynharach.

76Hysbysiadau a chyfarwyddydau arfaethedig: gofyniad i roi hysbysiad rhybuddio

(1)Cyn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, rhaid i’r Comisiwn roi hysbysiad rhybuddio i’r corff llywodraethu.

(2)Rhaid i’r hysbysiad rhybuddio—

(a)nodi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig,

(b)datgan y rhesymau dros fwriadu ei roi,

(c)pennu’r cyfnod pan gaiff y corff llywodraethu gyflwyno sylwadau ynghylch yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig (“y cyfnod penodedig”), a

(d)pennu’r ffordd y caniateir i’r sylwadau hynny gael eu cyflwyno.

(3)Ni chaiff y cyfnod penodedig fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir yr hysbysiad.

(4)Rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff llywodraethu yn unol â’r hysbysiad rhybuddio wrth benderfynu pa un ai i roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd.

(5)Ar ôl penderfynu pa un ai i roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd, rhaid i’r Comisiwn hysbysu’r corff llywodraethu am ei benderfyniad.

77Yr wybodaeth sydd i’w rhoi gyda hysbysiadau a chyfarwyddydau a’r effaith tra bo adolygiad yn yr arfaeth

(1)Os yw’r Comisiwn yn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, rhaid i’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd bennu’r dyddiad y mae’n cymryd effaith.

(2)Rhaid i’r Comisiwn, ar yr un pryd ag y mae’n rhoi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd, roi i’r corff llywodraethu ddatganiad sy’n pennu—

(a)y rhesymau dros roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd,

(b)gwybodaeth o ran yr hawl i gael adolygiad, ac

(c)y cyfnod a bennir mewn rheoliadau o dan adran 79(4)(c) y caniateir i gais am adolygiad gael ei wneud ynddo.

(3)Ni chaniateir i hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo gymryd effaith ar unrhyw adeg—

(a)pan allai cais am adolygiad o dan adran 78 gael ei ddwyn mewn cysylltiad â’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd, neu

(b)pan fo adolygiad neu benderfyniad gan y Comisiwn yn dilyn adolygiad o’r fath yn yr arfaeth.

(4)Ond nid yw hynny yn atal hysbysiad neu gyfarwyddyd rhag cymryd effaith os yw’r corff llywodraethu yn hysbysu’r Comisiwn nad yw’n bwriadu gwneud cais am adolygiad.

(5)Pan fo is-adran (3) yn peidio ag atal hysbysiad neu gyfarwyddyd rhag cymryd effaith ar y dyddiad a bennir o dan is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn benderfynu dyddiad yn y dyfodol y mae’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd yn cymryd effaith.

(6)Ond mae hynny yn ddarostyngedig i’r hyn sydd wedi cael ei benderfynu gan y Comisiwn yn dilyn unrhyw adolygiad o dan adran 78 mewn cysylltiad â’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd.

78Adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydau

Os yw’r Comisiwn yn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, caiff y corff llywodraethu wneud cais am adolygiad o’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd gan yr adolygydd penderfyniadau.

79Adolygydd penderfyniadau

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi person, neu banel o bersonau, i adolygu penderfyniadau o dan adrannau 45 ac 78.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl a lwfansau i bersonau a benodir o dan is-adran (1).

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth mewn cysylltiad ag adolygiadau gan yr adolygydd penderfyniadau o dan adrannau 45 ac 78.

(4)Caiff y rheoliadau, ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth—

(a)ynghylch y seiliau y caniateir i’r adolygydd penderfyniadau wneud argymhellion i’r Comisiwn arnynt;

(b)ynghylch y mathau o argymhellion y caniateir iddynt gael eu gwneud gan yr adolygydd penderfyniadau i’r Comisiwn;

(c)ynghylch y cyfnod y caniateir i gais gael ei wneud ynddo, a’r ffordd y mae rhaid gwneud hynny;

(d)ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn gan yr adolygydd penderfyniadau;

(e)ynghylch y camau sydd i’w cymryd gan y Comisiwn neu Weinidogion Cymru yn dilyn adolygiad.

(5)Yn y Rhan hon, ystyr “yr adolygydd penderfyniadau” yw’r person neu’r panel o bersonau a benodir o dan is-adran (1).

Dyletswyddau amrywiol

80Dyletswydd i fonitro cynaliadwyedd ariannol ac adrodd arno

(1)Rhaid i’r Comisiwn fonitro cynaliadwyedd ariannol—

(a)darparwyr cofrestredig;

(b)darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru—

(i)sy’n sefydliadau o fewn y sector addysg bellach,

(ii)a gyllidir gan y Comisiwn o dan adran 97, a

(iii)nad ydynt yn ddarparwyr cofrestredig;

(c)darparwyr addysg drydyddol eraill o fath a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu ar gyfer eithriadau i is-adran (1)(a) a (b).

(3)Rhaid i’r Comisiwn gynnwys yn ei adroddiad blynyddol wybodaeth am sefyllfa ariannol y personau sydd wedi eu monitro o dan is-adran (1) ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad blynyddol yn ymwneud â hi.

(4)Ar yr un pryd ag y mae’r Comisiwn yn anfon ei adroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru, rhaid i’r Comisiwn anfon adroddiad ar wahân at Weinidogion Cymru sy’n cynnwys crynodeb o’r rhagolwg ariannol ar gyfer y personau sydd wedi eu monitro o dan is-adran (1) am y blynyddoedd ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad blynyddol yn ymwneud â hi.

(5)“Crynodeb o’r rhagolwg ariannol” yw crynodeb o gasgliadau y mae’r Comisiwn wedi dod iddynt, o’i fonitro o dan is-adran (1), ynghylch patrymau perthnasol, tueddiadau perthnasol neu faterion perthnasol eraill y mae wedi eu nodi.

(6)Mae patrymau, tueddiadau neu faterion eraill yn “perthnasol”—

(a)os ydynt yn ymwneud â chynaliadwyedd ariannol rhai o’r personau neu’r holl bersonau sydd wedi eu monitro o dan is-adran (1), a

(b)os yw’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol i’w dwyn i sylw Gweinidogion Cymru.

(7)Yn yr adran hon—

  • ystyr “adroddiad blynyddol” (“annual report”) yw’r adroddiad blynyddol o dan baragraff 16 o Atodlen 1;

  • mae i “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yr un ystyr ag yn yr Atodlen honno (gweler paragraff 17).

81Datganiad y Comisiwn ar swyddogaethau ymyrryd

(1)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau ymyrryd.

(2)O ran y Comisiwn—

(a)rhaid iddo gadw’r datganiad o dan adolygiad;

(b)caiff ddiwygio’r datganiad.

(3)Cyn cyhoeddi’r datganiad neu ddatganiad diwygiedig, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori—

(a)â chorff llywodraethu pob darparwr cofrestredig, a

(b)ag unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(4)Swyddogaethau ymyrryd y Comisiwn yw ei swyddogaethau o dan y darpariaethau a ganlyn—

(a)adran 36 (dyletswydd i fonitro cydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus);

(b)adran 37 (cyngor a chynhorthwy mewn cysylltiad â chydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus);

(c)adran 38 (adolygiadau sy’n berthnasol i gydymffurfedd ag amodau);

(d)adran 39 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio ag amodau cofrestru parhaus);

(e)adran 41 (datgofrestru);

(f)adran 51 (dyletswydd i fonitro ansawdd addysg drydyddol reoleiddiedig ac i hybu gwelliant yn ansawdd yr addysg honno);

(g)adran 52 (cyngor a chynhorthwy mewn cysylltiad ag ansawdd addysg drydyddol);

(h)adran 53 (adolygiadau sy’n berthnasol i ansawdd addysg drydyddol);

(i)adran 73(4) (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â dyletswydd i gydweithredu).

Cyfarwyddydau

82Effaith cyfarwyddydau a’u gorfodi

(1)Os yw’r Comisiwn neu Weinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu o dan y Rhan hon, rhaid i’r corff llywodraethu gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.

(2)Mae’r cyfarwyddyd yn orfodadwy drwy waharddeb yn dilyn cais gan y person a roddodd y cyfarwyddyd.

(3)Os yw’r corff llywodraethu yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i’r person a roddodd y cyfarwyddyd roi hysbysiad i’r corff llywodraethu sy’n datgan a yw’r person wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cydymffurfio â’r cyfarwyddyd (neu â gofyniad penodol yn y cyfarwyddyd).

(4)Rhaid i gyfarwyddyd a roddir o dan y Rhan hon fod yn ysgrifenedig.

PENNOD 4CYFFREDINOL

83Dynodi darparwyr addysg drydyddol eraill

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, yn dilyn cais gan ddarparwr addysg drydyddol o fewn is-adran (2), ddynodi’r darparwr at ddibenion yr adran hon.

(2)Mae darparwr addysg drydyddol o fewn yr is-adran hon yn ddarparwr—

(a)sy’n darparu addysg drydyddol yng Nghymru, ond

(b)na fyddai (oni bai am y dynodiad) yn cael ei ystyried yn sefydliad at ddibenion y Ddeddf hon.

(3)Mae darparwr addysg drydyddol a ddynodir o dan yr adran hon, oni bai bod y dynodiad wedi ei dynnu’n ôl, i’w drin, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon neu odani, fel pe bai’n sefydliad.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)gwneud ceisiadau am ddynodiad;

(b)gwneud dynodiadau o dan yr adran hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i wneud dynodiad);

(c)tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i dynnu dynodiad yn ôl);

(d)effaith tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth i ddarparwr y mae ei ddynodiad wedi ei dynnu’n ôl barhau i gael ei drin fel pe bai’n sefydliad at ddibenion rhagnodedig er gwaethaf is-adran (3)).

84Dehongli Rhan 2

Yn y Rhan hon—

  • mae i “adolygydd penderfyniadau” (“decision reviewer”) yr ystyr a roddir gan adran 79(5);

  • mae i “amod cofrestru parhaus” (“ongoing registration condition”) yr ystyr a roddir gan adran 25(10);

  • mae i “amod terfyn ffioedd” (“fee limit condition”) yr ystyr a roddir gan adran 32(3);

  • ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw cyfnod o 12 mis;

  • mae i “blwyddyn academaidd berthnasol” (“relevant academic year”), mewn perthynas â darparwr addysg drydyddol y mae datganiad terfyn ffioedd yn ymwneud ag ef, yr ystyr a roddir yn adran 46(5);

  • mae i “corff llywodraethu” (“governing body”), mewn perthynas â darparwr allanol nad yw’n sefydliad, yr ystyr a roddir gan adran 54(7) (gweler adran 144 am ystyr “corff llywodraethu” yn gyffredinol);

  • ystyr “cwrs cymhwysol” (“qualifying course”) yw cwrs a bennir mewn rheoliadau o dan adran 32(4);

  • mae i “darparwr allanol” (“external provider”) yr ystyr a roddir gan adran 54(7);

  • mae i “datganiad terfyn ffioedd” (“fee limit statement”) yr ystyr a roddir gan adran 46(1);

  • ystyr “ffioedd” (“fees”) yw ffioedd mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs, neu mewn cysylltiad ag ymgymryd ag ef fel arall, gan gynnwys ffioedd derbyn, cofrestru, dysgu a graddio, a ffioedd sy’n daladwy i ddarparwr addysg drydyddol am ddyfarnu neu achredu unrhyw ran o’r cwrs, ond sy’n eithrio—

    (a)

    ffioedd sy’n daladwy am fwyd neu lety;

    (b)

    ffioedd sy’n daladwy am deithiau maes (gan gynnwys unrhyw elfen ddysgu o’r ffioedd hynny);

    (c)

    ffioedd sy’n daladwy am fod yn bresennol mewn unrhyw seremoni raddio neu seremoni arall;

    (d)

    unrhyw ffioedd eraill a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y diffiniad hwn;

  • mae i “ffioedd cwrs rheoleiddiedig“ (“regulated course fees”) yr ystyr a roddir gan adran 32(7);

  • mae i “ffioedd uwchlaw’r terfyn” (“excess fees”) yr ystyr a roddir gan adran 39(7);

  • mae i “person cymhwysol” (“qualifying person”) yr ystyr a roddir gan adran 32(9);

  • ystyr “Prif Arolygydd” (“Chief Inspector”) yw Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

  • mae i “terfyn ffioedd” (“fee limit”) yr ystyr a roddir gan adran 46(5);

  • mae i “terfyn ffioedd cymwys” (“applicable fee limit”) yr ystyr a roddir gan adran 32(8).

RHAN 3SICRHAU ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL A’U CYLLIDO

Cyllido’r Comisiwn

85Pŵer Gweinidogion Cymru i gyllido’r Comisiwn

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu unrhyw gyllid i’r Comisiwn y maent yn ystyried ei fod yn briodol er mwyn arfer swyddogaethau’r Comisiwn.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu bod cyllid o dan is-adran (1) yn ddarostyngedig i delerau ac amodau a gaiff (ymhlith pethau eraill)—

(a)galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, symiau a dalwyd ganddynt os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau y talwyd y symiau yn ddarostyngedig iddynt;

(b)ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd swm sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru yn unol ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau yn parhau i fod heb ei dalu;

(c)galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn ymrwymo i gytundeb canlyniadau â pherson y mae’r Comisiwn yn bwriadu darparu adnoddau ariannol iddo.

(3)Yn is-adran (2)(c), ystyr “cytundeb canlyniadau” yw cytundeb rhwng—

(a)y Comisiwn, a

(b)y person y mae’r Comisiwn yn bwriadu darparu adnoddau ariannol iddo,

sy’n nodi’r gweithgareddau i’w cyflawni gan y person hwnnw at ddibenion cyfrannu at weithredu cynllun strategol y Comisiwn a gymeradwyir o dan adran 15.

(4)Caiff cytundeb canlyniadau fod yn ofynnol o dan is-adran (2)(c)—

(a)ym mhob achos pan fo’r Comisiwn yn bwriadu darparu adnoddau ariannol;

(b)ym mhob achos pan fo’r Comisiwn yn bwriadu darparu adnoddau ariannol yn ddarostyngedig i eithriadau penodedig;

(c)yn yr achosion hynny pan fo’r Comisiwn yn bwriadu darparu adnoddau ariannol i bersonau penodedig neu i bersonau o ddisgrifiad penodedig;

(d)yn yr achosion hynny pan fo’r Comisiwn yn bwriadu darparu adnoddau ariannol at ddibenion penodedig neu at ddibenion o ddisgrifiad penodedig;

(e)yn yr achosion hynny pan fo’r Comisiwn yn bwriadu darparu adnoddau ariannol uwchlaw swm penodedig neu islaw’r swm hwnnw.

(5)Yn is-adran (4) , ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn y telerau a’r amodau.

86Cyllido’r Comisiwn: cyfyngiadau ar delerau ac amodau

(1)Ni chaiff telerau ac amodau o dan adran 85 sy’n ymwneud ag adnoddau ariannol a ddarperir gan y Comisiwn i berson o dan adran 88 neu 89 (addysg uwch), adran 97 (addysg bellach neu hyfforddiant) neu adran 105 (ymchwil ac arloesi) ymwneud â gweithgareddau a gynhelir gan berson penodol oni bai eu bod yn gosod gofynion y mae rhaid cydymffurfio â hwy—

(a)mewn cysylltiad â phob person, neu bob person o ddosbarth neu ddisgrifiad penodedig, a

(b)cyn bod adnoddau ariannol o swm penodedig neu ddisgrifiad penodedig yn cael eu darparu gan y Comisiwn mewn cysylltiad â gweithgareddau a gynhelir gan berson.

(2)Yn is-adran (1), ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn y telerau a’r amodau.

(3)Ni chaniateir i delerau ac amodau o dan adran 85 sy’n ymwneud â darparu adnoddau ariannol gan y Comisiwn gael eu llunio drwy gyfeirio—

(a)at y meini prawf ar gyfer dethol, penodi neu ddiswyddo staff academaidd, a sut y maent yn cael eu cymhwyso, neu

(b)at y meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr, neu sut y maent yn cael eu cymhwyso.

(4)Caniateir i delerau ac amodau o dan adran 85 sy’n ymwneud â darparu adnoddau ariannol gan y Comisiwn o dan adran 105 (ymchwil ac arloesi) gael eu llunio drwy gyfeirio at faes ymchwil neu arloesi ond dim ond os yw’r maes hwnnw wedi ei bennu yng nghynllun strategol y Comisiwn a gymeradwyir o dan adran 15.

(5)Caniateir i delerau ac amodau o dan adran 85 sy’n ymwneud â darparu adnoddau ariannol gan y Comisiwn o dan adran 88 neu 89 (addysg uwch) gael eu llunio drwy gyfeirio at gwrs astudio penodol, ond ni chânt ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn arfer swyddogaeth mewn ffordd sy’n gwahardd neu’n ei gwneud yn ofynnol darparu cwrs astudio penodol.

(6)Ni chaniateir i delerau ac amodau o dan adran 85 sy’n ymwneud â darparu adnoddau ariannol gan y Comisiwn o dan adran 88 neu 89 (addysg uwch) neu adran 105 (ymchwil ac arloesi) gael eu llunio drwy gyfeirio—

(a)at rannau penodol o gyrsiau astudio;

(b)at raglenni ymchwil penodol neu brosiectau arloesi penodol;

(c)at gynnwys cyrsiau astudio, rhaglenni ymchwil neu brosiectau arloesi;

(d)at y modd y caiff y cyrsiau hynny, y rhaglenni hynny neu’r prosiectau hynny eu haddysgu, eu goruchwylio neu eu hasesu.

(7)Nid yw is-adrannau (5) a (6) yn atal telerau ac amodau rhag cael eu llunio drwy gyfeirio at ddarparu ac asesu cyrsiau astudio neu rannau o gyrsiau astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Polisi cyllido’r Comisiwn

87Polisi ar bwerau cyllido

(1)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi datganiad o’i bolisi ar sut y mae’n bwriadu arfer ei bwerau cyllido.

(2)Wrth lunio’r datganiad, rhaid i’r Comisiwn roi sylw i’r egwyddor y dylai penderfyniadau am ddarparu neu sicrhau adnoddau ariannol gael eu gwneud mewn ffordd sy’n dryloyw.

(3)Rhaid i’r Comisiwn gadw’r datganiad o dan adolygiad a chaiff y Comisiwn ei ddiwygio.

(4)Cyn cyhoeddi’r datganiad neu ddatganiad diwygiedig, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(5)Pwerau cyllido’r Comisiwn yw ei bwerau i ddarparu neu sicrhau adnoddau ariannol o dan adrannau 88, 89, 97, 101, 103, 104 a 105

Cyllido addysg uwch

88Cymorth ariannol i ddarparwyr penodedig ar gyfer addysg uwch

(1)Caiff y Comisiwn ddarparu adnoddau ariannol i gorff llywodraethu darparwr penodedig mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo, gan y corff llywodraethu neu gan gorff sy’n cydlafurio at ddibenion—

(a)darparu addysg uwch gan, neu ar ran, y darparwr penodedig;

(b)darparu cyfleusterau, a chynnal gweithgareddau eraill, gan neu ar ran y darparwr penodedig y mae ei gorff llywodraethu yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n dymunol eu darparu neu eu cynnal at ddibenion addysg uwch y mae’n ei darparu neu sy’n cael ei darparu ar ei ran neu mewn cysylltiad â hi.

(2)Caiff y Comisiwn hefyd ddarparu adnoddau ariannol i unrhyw berson mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo, gan y person at ddiben darparu gwasanaethau gan unrhyw berson at ddibenion darparu addysg uwch gan, neu ar ran, darparwr penodedig neu mewn cysylltiad â hi.

(3)Yn yr adran hon—

  • ystyr “corff sy’n cydlafurio” (“collaborating body”), mewn perthynas â darparwr penodedig, yw person—

    (a)

    y mae corff llywodraethu’r darparwr penodedig yn bwriadu talu idd‍o yr holl adnoddau ariannol neu rai ohonynt a ddarperir iddo o dan is-adran (1), a

    (b)

    sy’n darparu, sy’n bwriadu darparu neu sydd wedi darparu addysg uwch ar ran y darparwr penodedig, neu sy’n cydlafurio, sy’n bwriadu cydlafurio neu sydd wedi cydlafurio â’r darparwr at y diben y darperir yr adnoddau ariannol ar ei gyfer;

  • ystyr “darparwr penodedig” (“specified provider”) yw darparwr cofrestredig sydd wedi ei gofrestru mewn categori a bennir at ddibenion yr adran hon mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i’r Comisiwn roi ei gydsyniad cyn i gorff llywodraethu’r darparwr penodedig wneud taliad i gorff sy’n cydlafurio (gweler adran 109 am ddarpariaeth bellach ynghylch cydsyniad y Comisiwn).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu na chaniateir i adnoddau ariannol gael eu darparu o dan yr adran hon mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo neu wariant yr eir iddo gan berson at ddibenion darparu cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon oni fydd y cwrs yn bodloni gofynion a nodir yn y rheoliadau.

89Cymorth ariannol ar gyfer cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu cwrs addysg uwch penodol neu ddisgrifiad o gwrs addysg uwch at ddibenion yr adran hon (“cwrs cymwys”).

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddisgrifio cwrs drwy gyfeirio at (ymhlith pethau eraill)—

(a)gofynion sydd i’w bodloni gan y cwrs;

(b)y disgrifiad o berson sy’n darparu’r cwrs;

(c)y cymhwyster y mae’r cwrs yn arwain ato.

(3)Caiff y Comisiwn ddarparu adnoddau ariannol i berson (“darparwr”) mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo, gan y darparwr neu gan gorff sy’n cydlafurio at ddiben—

(a)darparu cwrs cymwys yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;

(b)darparu cwrs cymwys i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru.

(4)Yn is-adran (3), ystyr “corff sy’n cydlafurio”, mewn perthynas â darparwr, yw person—

(a)y mae’r darparwr yn bwriadu talu idd‍o yr holl adnoddau ariannol, neu rai ohonynt, a ddarperir iddo o dan is-adran (3), a

(b)sy’n darparu, sy’n bwriadu darparu neu sydd wedi darparu cwrs cymwys (neu ran o’r cwrs hwnnw) ar ran y darparwr, neu sy’n cydlafurio, sy’n bwriadu cydlafurio neu sydd wedi cydlafurio â’r darparwr at y diben y darperir yr adnoddau ariannol ar ei gyfer.

(5)Rhaid i’r Comisiwn roi ei gydsyniad cyn i’r darparwr wneud taliad i gorff sy’n cydlafurio (gweler adran 109 am ddarpariaeth bellach ynghylch cydsyniad y Comisiwn).

90Cymorth ariannol o dan adrannau 88 a 89: telerau ac amodau

(1)Caiff y Comisiwn ddarparu adnoddau ariannol o dan adran 88 neu 89 ar y telerau a’r amodau y mae’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol.

(2)Caiff y telerau a’r amodau (ymhlith pethau eraill)—

(a)galluogi’r Comisiwn i’w gwneud yn ofynnol ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, symiau a dalwyd ganddo os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau y talwyd y symiau yn ddarostyngedig iddynt;

(b)ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd swm sy’n ddyledus i’r Comisiwn yn unol ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau yn parhau i fod heb ei dalu.

(3)Ni chaiff y telerau a’r amodau ymwneud â chymhwyso unrhyw symiau sy’n deillio ac eithrio o’r Comisiwn.

(4)Rhaid i’r telerau a’r amodau mewn perthynas ag adnoddau ariannol a ddarperir o dan adran 89(3)(a) i berson nad yw’n ddarparwr cofrestredig, gynnwys gofyniad i’r person—

(a)os yw wedi cael hysbysiad o dan adran 126(1), gael cynllun diogelu dysgwyr yn ei le sydd wedi ei gymeradwyo gan y Comisiwn (o dan adran 126(3) neu (5)) ar y dyddiad a bennir yn y telerau a’r amodau neu cyn y dyddiad hwnnw, a rhoi effaith i’r cynllun,

(b)os yw’r person yn ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru, gydymffurfio â’r gofynion sydd wedi eu cynnwys yn y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a gyhoeddir o dan adran 129(1) neu unrhyw god diwygiedig a gyhoeddir o dan adran 129(3), ac

(c)rhoi sylw i gyngor neu ganllawiau a roddir gan y Comisiwn i’r person (naill ai’n benodol neu i bersonau yn gyffredinol) wrth arfer swyddogaethau’r Comisiwn yn y Ddeddf hon.‍

91Cymorth ariannol o dan adrannau 88 ac 89: atodol

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 88 neu 89 i ddarparu adnoddau ariannol i berson, rhaid i’r Comisiwn roi sylw i ddymunoldeb peidio ag anghefnogi’r person hwnnw rhag cynnal neu ddatblygu cyllid o ffynonellau eraill.

(2)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 88 neu 89 i ddarparu adnoddau ariannol i berson, rhaid i’r Comisiwn roi sylw (i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny yng ngoleuni unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill) i ddymunoldeb cynnal unrhyw nodweddion arbennig i unrhyw ddarparwr addysg drydyddol y darperir adnoddau ariannol ar gyfer ei weithgareddau.

92Cymorth ariannol gan Weinidogion Cymru ar gyfer cyrsiau addysg uwch penodol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru‍ sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu i berson (“darparwr”) mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo, gan y darparwr neu gan gorff sy’n cydlafurio at ddiben—

(a)darparu cwrs addysg uwch perthnasol yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;

(b)darparu cwrs addysg uwch perthnasol i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan is-adran (1)—

(a)drwy ddarparu adnoddau eu hunain;

(b)drwy wneud trefniadau i berson arall ddarparu adnoddau;

(c)drwy wneud trefniadau i bersonau ddarparu adnoddau ar y cyd (pa un a yw hynny’n cynnwys Gweinidogion Cymru ai peidio).

(3)Os yw Gweinidogion Cymru eu hunain yn darparu adnoddau ariannol o dan yr adran hon, cânt osod y telerau a’r amodau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(4)Caiff y telerau a’r amodau (ymhlith pethau eraill)—

(a)galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, symiau a dalwyd ganddynt os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau y talwyd y symiau yn ddarostyngedig iddynt;

(b)ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd swm sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru yn unol ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau yn parhau i fod heb ei dalu.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “corff sy’n cydlafurio” (“collaborating body”), mewn perthynas â darparwr, yw person—

    (a)

    y mae’r darparwr yn bwriadu talu iddo, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, yr holl adnoddau ariannol, neu rai ohonynt, a ddarperir iddo o dan is-adran (1), a

    (b)

    sy’n darparu, sy’n bwriadu darparu neu sydd wedi darparu cwrs addysg uwch perthnasol (neu ran o’r cwrs hwnnw) ar ran y darparwr, neu sy’n cydlafurio, sy’n bwriadu cydlafurio neu sydd wedi cydlafurio â’r darparwr at y diben y darperir yr adnoddau ariannol ar ei gyfer;

  • ystyr “cwrs addysg uwch perthnasol” (“relevant higher education course”) yw cwrs o fewn paragraff 1(g) neu (h) o Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40) (cyrsiau er mwyn paratoi at arholiadau proffesiynol ar lefel uwch neu sy’n darparu addysg ar lefel uwch).

Addysg bellach a hyfforddiant

93Addysg a hyfforddiant ar gyfer personau 16 i 19 oed

(1)Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod cyfleusterau priodol yn cael eu darparu‍ i Gymru ar gyfer—

(a)addysg bellach sy’n addas i ofynion personau sydd dros yr oedran ysgol gorfodol ond nad ydynt wedi cyrraedd 19 oed, a

(b)hyfforddiant sy’n addas i ofynion personau o’r fath.

(2)Mae cyfleusterau yn briodol os ydynt—

(a)o nifer sy’n ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol unigolion,

(b)o ansawdd sy’n ddigonol i ddiwallu’r anghenion hynny, ac

(c)yn ddigonol i fodloni’r hawlogaethau a roddir o dan adran 33F o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21).

94Addysg a hyfforddiant ar gyfer personau cymwys dros 19 oed

(1)Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod cyfleusterau priodol yn cael eu darparu‍ i Gymru ar gyfer addysg berthnasol a hyfforddiant perthnasol i bersonau cymwys sy’n addas i’w gofynion hwy.

(2)Mae cyfleusterau yn briodol os ydynt—

(a)o nifer sy’n ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol unigolion, a

(b)o ansawdd sy’n ddigonol i ddiwallu’r anghenion hynny.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu fel addysg berthnasol a hyfforddiant perthnasol at ddibenion is-adran (1) ddisgrifiad o addysg bellach neu hyfforddiant.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) ddisgrifio addysg bellach neu hyfforddiant drwy gyfeirio at (ymhlith pethau eraill)—

(a)y pwnc;

(b)lefel yr astudio, gan gynnwys drwy gyfeiri‍o—

(i)at y lefel cyrhaeddiad sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi ei dangos gan gymhwyster sy’n dod o fewn lefel 1, 2 neu 3 o Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, neu

(ii)at ddogfen arall a bennir yn y rheoliadau sy’n nodi disgrifiadau o lefelau cymwysterau;

(c)y math o gymhwyster.

(5)Yn is-adran (4)‍,‍ ystyr ”Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru” yw’r ddogfen sy’n dwyn y teitl hwnnw a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (fel y mae’n cael ei diweddaru o bryd i’w gilydd) ac sy’n cynnwys disgrifiadau o lefelau cymwysterau.

(6)Wrth ffurfio barn at ddibenion is-adran‍ (4)(b)(i)‍ a chyn pennu dogfen o dan is-adran (4)(b)(ii)‍, caiff Gweinidogion Cymru roi sylw, yn benodol, i gyngor neu wybodaeth a ddarperir gan Gymwysterau Cymru sy’n ymwneud â chymwysterau.

(7)Mae person cymwys yn berson—

(a)sydd wedi cyrraedd 19 oed, a

(b)sy’n dod o fewn disgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru (os oes rhai).

(8)Caiff rheoliadau o dan is-adran (7)(b)—

(a)disgrifio person cymwys drwy gyfeirio at (ymhlith pethau eraill)—

(i)oedran;

(ii)cymwysterau neu gyrhaeddiad addysgol arall;

(iii)statws;

(iv)incwm;

(b)pennu disgrifiadau gwahanol o berson cymwys mewn perthynas â disgrifiadau gwahanol o addysg bellach neu hyfforddiant.

95Addysg a hyfforddiant ar gyfer personau dros 19 oed

(1)Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod cyfleusterau rhesymol yn cael eu darparu‍ i Gymru ar gyfer—

(a)addysg bellach sy’n addas i ofynion personau sydd wedi cyrraedd 19 oed, a

(b)hyfforddiant sy’n addas i ofynion personau o’r fath.

(2)Mae cyfleusterau yn rhesymol os ydynt (gan roi sylw i adnoddau’r Comisiwn) o’r nifer hwnnw a’r ansawdd hwnnw y gellir disgwyl yn rhesymol i’r Comisiwn sicrhau’r ddarpariaeth ohonynt.

96Gofynion ar y Comisiwn wrth sicrhau addysg bellach a hyfforddiant

(1)Wrth gyflawni’r dyletswyddau a osodir arno gan adrannau 93 i 95, rhaid i’r Comisiwn—

(a)rhoi sylw i’r mannau lle y darperir cyfleusterau, natur y cyfleusterau a’r ffordd y maent wedi eu cyfarparu;

(b)rhoi sylw i’r galluoedd gwahanol a’r doniau gwahanol sydd gan bersonau gwahanol;

(c)rhoi sylw i ofynion cyflogwyr, cyflogeion a chyflogeion posibl mewn perthynas â’r addysg a’r hyfforddiant sy’n ofynnol mewn sectorau cyflogaeth gwahanol;

(d)rhoi sylw i’r addysg a’r hyfforddiant sy’n ofynnol er mwyn sicrhau bod cyflogeion a chyflogeion posibl ar gael sy’n gallu cyflwyno darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg;

(e)rhoi sylw i’r addysg a’r hyfforddiant sy’n ofynnol er mwyn sicrhau bod cyfleusterau ar gael ar gyfer asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a oes gan bersonau anghenion dysgu ychwanegol;

(f)rhoi sylw i gyfleusterau y mae’r Comisiwn yn meddwl y gellid sicrhau’r ddarpariaeth ohonynt yn rhesymol gan bersonau eraill (gan gynnwys darpariaeth a sicrheir gan awdurdodau lleol o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2));

(g)gwneud y defnydd gorau o adnoddau’r Comisiwn ac, yn benodol, osgoi darpariaeth a allai beri gwariant anghymesur.

(2)Nid yw darpariaeth i’w hystyried yn un sy’n peri gwariant anghymesur dim ond oherwydd bod y ddarpariaeth honno yn ddrutach na darpariaeth gyffelyb.

97Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach neu hyfforddiant

(1)Caiff y Comisiwn neu Weinidogion Cymru sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu—

(a)i bersonau at ddiben darparu, neu’r bwriad i ddarparu, ganddynt hwy neu gan gorff sy’n cydlafurio (o fewn yr ystyr a roddir gan is-adran (3)), addysg bellach neu hyfforddiant yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;

(b)i bersonau at ddiben darparu, neu’r bwriad i ddarparu, ganddynt hwy neu gan gorff sy’n cydlafurio (o fewn yr ystyr a roddir gan is-adran (3)), addysg bellach neu hyfforddiant i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru;

(c)i bersonau at ddiben darparu, neu’r bwriad i ddarparu, nwyddau neu wasanaethau ganddynt hwy, mewn cysylltiad â darparu addysg bellach neu hyfforddiant ganddynt hwy neu gan eraill yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;

(d)i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n cael neu’n bwriadu cael addysg bellach neu hyfforddiant;

(e)i bersonau nad ydynt yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n cael neu’n bwriadu cael addysg bellach neu hyfforddiant yng Nghymru;

(f)i ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliadau o fewn y sector addysg bellach neu uwch at ddiben darparu, neu’r bwriad i ddarparu, addysg uwchradd ganddynt hwy, i bersonau o’r oedran ysgol gorfodol;

(g)i bersonau sy’n cynnal profion modd o dan drefniadau a wneir o dan adran 100.

(2)Caiff y Comisiwn neu Weinidogion Cymru sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan is-adran (1)—

(a)drwy ddarparu adnoddau ei hunan neu eu hunain;

(b)drwy wneud trefniadau i berson arall ddarparu adnoddau;

(c)drwy wneud trefniadau i bersonau ddarparu adnoddau ar y cyd (pa un a yw hynny’n cynnwys y Comisiwn neu Weinidogion Cymru ai peidio).

(3)Caiff person (“darparwr”) dalu’r holl adnoddau ariannol, neu rai ohonynt, a ddarperir i’r darparwr o dan is-adran (1)(a) neu (b) i berson arall (“corff sy’n cydlafurio”)‍⁠ os yw is-adran (4) yn gymwys.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r corff sy’n cydlafurio yn darparu, yn bwriadu darparu neu wedi darparu addysg bellach neu hyfforddiant ar ran y darparwr, neu os yw’n cydlafurio, yn bwriadu cydlafurio neu wedi cydlafurio â’r darparwr at y diben y sicrheir yr adnoddau ariannol ar ei gyfer.

(5)Rhaid i’r Comisiwn (yn achos adnoddau ariannol a sicrheir ganddo) neu Weinidogion Cymru (yn achos adnoddau ariannol a sicrheir ganddynt) roi ei gydsyniad neu eu cydsyniad cyn i’r darparwr wneud taliad i gorff sy’n cydlafurio (gweler adran 109 am ddarpariaeth bellach ynghylch cydsyniad y Comisiwn).

(6)Ni chaiff y Comisiwn ddarparu ei adnoddau ariannol o dan is-adran (1)(a) neu (1)(b), neu wneud trefniadau i awdurdod lleol ddarparu adnoddau o’r fath o dan is-adran (2)(b), i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru at ddiben darparu addysg gan yr ysgol sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol, neu at ddiben sy’n gysylltiedig â hynny (am ddarpariaeth o ran cyllido’r chweched dosbarth mewn ysgolion, gweler adran 101).

(7)Ond caiff y Comisiwn ddarparu ei adnoddau ariannol o dan yr is-adran hon, neu wneud trefniadau i awdurdod lleol ddarparu adnoddau o’r fath, i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru sy’n darparu addysg sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol at ddiben gweithgareddau arloesi.

(8)Mae gweithgaredd arloesi yn weithgaredd—

(a)a fydd, ym marn y Comisiwn, yn cyfrannu at godi safonau addysg drydyddol, a

(b)sydd wedi ei ddisgrifio mewn dogfen sydd wedi ei llunio gan y Comisiwn ac sydd wedi ei chymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

98Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach neu hyfforddiant: darpariaeth bellach

(1)Wrth arfer y pŵer o dan adran 97(1)(d) neu (e), caiff y Comisiwn neu Weinidogion Cymru sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu drwy gyfeirio at unrhyw ffioedd neu daliadau sy’n daladwy gan y person sy’n cael neu’n bwriadu cael yr addysg neu’r hyfforddiant neu drwy gyfeirio at unrhyw fater arall (megis trafnidiaeth neu ofal plant).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu na chaniateir i adnoddau ariannol at ddibenion penodedig gael eu sicrhau o dan adran 97(1)(a) neu (b) ond i ddarparwyr cofrestredig mewn categorïau penodedig.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) ddarparu ar gyfer eithriadau i gyrsiau addysg bellach neu hyfforddiant penodedig neu i ddisgrifiadau penodedig o gyrsiau o’r fath; a chaniateir i gwrs gael ei ddisgrifio drwy gyfeirio at (ymhlith pethau eraill)—

(a)gofynion sydd i’w bodloni gan y cwrs;

(b)y disgrifiad o berson sy’n darparu’r cwrs;

(c)y cymhwyster y mae’r cwrs yn arwain ato.

(4)Yn is-adrannau (2) a (3), ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn y rheoliadau.

99Adnoddau ariannol ar gyfer addysg bellach neu hyfforddiant: telerau ac amodau

(1)Os yw’r Comisiwn ei hunan, neu Weinidogion Cymru eu hunain, yn darparu adnoddau ariannol o dan adran 97, caniateir iddo neu iddynt osod y telerau a’r amodau hynny y mae’n ystyried, neu y maent yn ystyried, eu bod yn briodol.

(2)Caiff y telerau a’r amodau (ymhlith pethau eraill)—

(a)galluogi’r Comisiwn neu Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, symiau a dalwyd ganddo neu ganddynt os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau y talwyd y symiau yn ddarostyngedig iddynt;

(b)ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd swm sy’n ddyledus i’r Comisiwn neu i Weinidogion Cymru yn unol ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau yn parhau i fod heb ei dalu;

(c)ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n darparu neu’n bwriadu darparu addysg neu hyfforddiant (“y darparwr”) wneud trefniadau sy’n darparu ar gyfer pob un neu unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(i)i’r darparwr godi ffioedd drwy gyfeirio at feini prawf penodedig;

(ii)i’r darparwr wneud dyfarndaliadau drwy gyfeirio at feini prawf penodedig;

(iii)i’r darparwr adennill symiau oddi wrth bersonau sy’n cael addysg neu hyfforddiant neu oddi wrth gyflogwyr (neu oddi wrth y ddau);

(iv)i symiau gael eu penderfynu drwy gyfeirio at feini prawf penodedig pan fo darpariaeth wedi ei gwneud o dan is-baragraff (iii);

(v)i esemptiadau penodedig weithredu pan fo darpariaeth wedi ei gwneud o dan is-baragraff (iii).

(3)Yn is-adran (2), ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn y telerau a’r amodau.

(4)Rhaid i’r telerau a’r amodau wahardd person sy’n darparu, neu sy’n bwriadu darparu, addysg bellach neu hyfforddiant sy’n addas i ofynion personau sydd dros yr oedran ysgol gorfodol ond nad ydynt wedi cyrraedd 19 oed rhag codi ffi ar bersonau o’r oedran hwnnw sy’n cael yr addysg bellach neu’r hyfforddiant.

(5)Rhaid i’r telerau a’r amodau hefyd wahardd person sy’n darparu, neu sy’n bwriadu darparu, addysg berthnasol a hyfforddiant perthnasol sy’n addas i ofynion personau cymwys rhag codi ffi ar bersonau cymwys sy’n cael yr addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw; yn yr is-adran hon mae i “addysg berthnasol a hyfforddiant perthnasol” a “personau cymwys” yr un ystyr ag yn adran 94.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu ar gyfer esemptiadau i’r gofyniad yn is-adran (4) neu (5).

(7)Rhaid i’r telerau a’r amodau a osodir gan y Comisiwn mewn perthynas ag adnoddau ariannol a ddarperir o dan adran 97(1)(a) i berson nad yw’n ddarparwr cofrestredig—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r person, os rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 126(1), gael cynllun diogelu dysgwyr yn ei le sydd wedi ei gymeradwyo gan y Comisiwn (o dan adran 126(3) neu (5)) ar y dyddiad a bennir yn y telerau a’r amodau neu cyn y dyddiad hwnnw, a rhoi effaith i’r cynllun;

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r person, os yw’r person yn ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru, gydymffurfio â’r gofynion sydd wedi eu cynnwys yn y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a gyhoeddir o dan adran 129(1) neu unrhyw god diwygiedig a gyhoeddir o dan adran 129(3);

(c)ei gwneud yn ofynnol i’r person roi sylw i gyngor neu ganllawiau a roddir gan y Comisiwn (naill ai’n benodol neu i bersonau yn gyffredinol) wrth arfer swyddogaethau’r Comisiwn yn y Ddeddf hon.

(8)Os yw’r Comisiwn wedi gwneud trefniadau o dan adran 97(2)(b) i berson arall ddarparu adnoddau ariannol y Comisiwn, o ran y Comisiwn—

(a)caiff ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu’r adnoddau yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau y mae’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol (gan gynnwys telerau ac amodau o fath a allai gael eu gosod o dan is-adran (2)), a

(b)rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu’r adnoddau yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau a ddisgrifir yn is-adrannau (4) i (7).

100Profion modd

(1)Caiff y Comisiwn neu Weinidogion Cymru—

(a)cynnal profion modd;

(b)trefnu i bersonau eraill gynnal profion modd.

(2)Caiff y Comisiwn a Gweinidogion Cymru ystyried canlyniadau’r profion modd a gynhelir o dan is-adran (1) wrth arfer y pŵer o dan adran 97(1)(d) neu (e).

101Y chweched dosbarth mewn ysgolion

(1)Caiff y Comisiwn roi grant i awdurdod lleol—

(a)ar yr amod bod y grant yn cael ei gymhwyso fel rhan o gyllideb ysgolion yr awdurdod am gyfnod cyllido, a

(b)gyda golwg ar y grant yn cael ei ddefnyddio at ddibenion darparu addysg gan ysgolion sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol neu at ddibenion sy’n gysylltiedig â darparu addysg o’r fath.

(2)Caniateir i grant a wneir o dan yr adran hon gael ei roi ar delerau ac amodau yn ychwanegol at yr amod a grybwyllir yn is-adran (1)(a) (gan gynnwys telerau ac amodau o fath a allai gael eu gosod o dan adran 99(2)).

(3)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru sy’n darparu addysg sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol gydymffurfio â’r gofynion sydd wedi eu cynnwys yn y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a gyhoeddir o dan adran 129(1) neu unrhyw god diwygiedig a gyhoeddir o dan adran 129(3).

(4)Rhaid i’r canlynol roi sylw i gyngor neu ganllawiau a roddir gan y Comisiwn (naill ai yn benodol neu i bersonau yn gyffredinol) wrth arfer swyddogaethau’r Comisiwn yn y Ddeddf hon—

(a)awdurdod lleol sy’n cael grant o dan yr adran hon, a

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru sy’n darparu addysg sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “cyfnod cyllido” (“funding period”) yw blwyddyn ariannol neu, os yw rhyw gyfnod arall wedi ei ragnodi o ran Cymru o dan is-adran (1B) o adran 45 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) (ysgolion a gynhelir i gael cyfrannau cyllideb), y cyfnod arall hwnnw;

  • mae i “cyllideb ysgolion” yr un ystyr â “schools budget” yn adran 45A(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (penderfynu cyllidebau penodedig awdurdod lleol).

102Personau ag anghenion dysgu ychwanegol

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y darpariaethau a nodir yn is-adran (2), rhaid i’r Comisiwn roi sylw—

(a)i anghenion personau ag anghenion dysgu ychwanegol;

(b)i ddymunoldeb bod cyfleusterau ar gael a fyddai’n cynorthwyo i gyflawni dyletswyddau o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2).

(2)Y darpariaethau yw—

(a)adran 93 (addysg a hyfforddiant ar gyfer personau 16 i 19 oed);

(b)adran 94 (addysg a hyfforddiant ar gyfer personau cymwys dros 19 oed);

(c)adran 95 (addysg a hyfforddiant ar gyfer personau dros 19 oed);

(d)adran 97(1)(a) i (e) a (7) (cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach neu hyfforddiant);

(e)adran 103(1) (cymorth ariannol ar gyfer darparu gwybodaeth, cyngor, canllawiau ac i greu cysylltiadau â chyflogwyr);

(f)adran 103(2) (cymorth ariannol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ac addysgu Cymraeg) ac eithrio i’r graddau y mae darparu addysg drydyddol a’r addysgu y cyfeirir atynt yn yr is-adran honno yn cynnwys addysg uwch.

Cymorth ariannol ar gyfer gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig ag addysg drydyddol

103Cymorth ariannol ar gyfer gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig ag addysg drydyddol

(1)Caiff y Comisiwn neu Weinidogion Cymru sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu at ddiben, neu mewn cysylltiad ag—

(a)darparu neu’r bwriad i ddarparu gwybodaeth, cyngor neu ganllawiau ynghylch addysg‍ berthnasol neu faterion cysylltiedig;

(b)darparu neu’r bwriad i ddarparu gwybodaeth, cyngor neu ganllawiau i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ynghylch addysg neu hyfforddiant y tu allan i Gymru neu faterion cysylltiedig;

(c)darparu neu’r bwriad i ddarparu cyfleusterau sydd wedi eu dylunio i greu cysylltiadau rhwng (ar y naill law) cyflogwyr ac (ar y llaw arall) personau sy’n darparu neu’n cael addysg‍ berthnasol.

(2)Caiff y Comisiwn sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu—

(a)at ddiben darparu addysg‍ berthnasol sy’n addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg;

(b)at ddiben addysgu Cymraeg‍ drwy gyfrwng addysg berthnasol sy’n addysg drydyddol;

(c)at ddibenion eraill sy’n gysylltiedig â’r rheini ym mharagraffau (a) a (b).

(3)Yn is-adrannau (1) a (2), ystyr “addysg berthnasol” yw—

(a)addysg drydyddol Gymreig, neu

(b)addysg arall neu hyfforddiant arall a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru neu i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru.

(4)Caiff y Comisiwn neu Weinidogion Cymru sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan is-adran (1), a chaiff y Comisiwn sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan is-adran (2)—

(a)drwy ddarparu adnoddau ei hunan neu eu hunain;

(b)drwy wneud trefniadau ar gyfer darparu adnoddau gan berson arall;

(c)drwy wneud trefniadau ar gyfer darparu adnoddau gan bersonau ar y cyd (pa un a yw hynny’n cynnwys y Comisiwn neu Weinidogion Cymru ai peidio).

(5)Ni chaiff y Comisiwn ddarparu ei adnoddau ariannol o dan is-adran (2), neu wneud trefniadau i awdurdod lleol ddarparu adnoddau o’r fath o dan is-adran (4)(b), i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru at ddiben darparu addysg gan yr ysgol sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol, neu at ddiben sy’n gysylltiedig â hynny (am ddarpariaeth o ran cyllido’r chweched dosbarth mewn ysgolion, gweler adran 101.

(6)Os yw’r Comisiwn ei hunan, neu os yw Gweinidogion Cymru eu hunain, yn darparu adnoddau ariannol o dan is-adran (1) neu (2), caniateir iddo neu iddynt osod y telerau a’r amodau hynny y mae’n ystyried, neu y maent yn ystyried, eu bod yn briodol.

(7)Caiff y telerau a’r amodau (ymhlith pethau eraill)—

(a)galluogi’r Comisiwn neu Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, symiau a dalwyd ganddo neu ganddynt os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau y talwyd y symiau yn ddarostyngedig iddynt;

(b)ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd swm sy’n ddyledus i’r Comisiwn neu i Weinidogion Cymru yn unol ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau yn parhau i fod heb ei dalu.

(8)Os yw’r Comisiwn wedi gwneud trefniadau o dan is-adran (4) i berson arall ddarparu adnoddau ariannol y Comisiwn, caiff y Comisiwn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu’r adnoddau yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau y mae’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol (gan gynnwys telerau ac amodau o fath a allai gael eu gosod o dan is-adran (7)).

Cymorth ariannol ar gyfer prentisiaethau

104Cymorth ariannol ar gyfer prentisiaethau

(1)Caiff y Comisiwn ddarparu adnoddau ariannol i berson mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo—

(a)gan y person neu gan gorff sy’n cydlafurio (o fewn yr ystyr a roddir gan is-adran (2)) ar gyfer darparu prentisiaeth Cymreig gymeradwy neu mewn cysylltiad â hynny;

(b)gan y person ar gyfer llunio fframwaith prentisiaeth neu mewn cysylltiad â hynny.

(2)Caiff person (“darparwr”) dalu’r holl adnoddau ariannol, neu rai ohonynt, a ddarperir i’r darparwr o dan is-adran (1)(a), i berson arall (“corff sy’n cydlafurio”‍) os yw is-adran (3)‍ yn gymwys.‍

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r corff sy’n cydlafurio yn darparu, yn bwriadu darparu neu wedi darparu prentisiaeth Gymreig gymeradwy ar ran y darparwr, neu os yw’n cydlafurio, yn bwriadu cydlafurio neu wedi cydlafurio â’r darparwr at y diben y darperir yr adnoddau ariannol ar ei gyfer.

(4)Rhaid i’r Comisiwn roi ei gydsyniad cyn i’r darparwr wneud taliad i gorff sy’n cydlafurio (gweler adran 109 am ddarpariaeth bellach ynghylch cydsyniad y Comisiwn).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu na chaiff y Comisiwn ddarparu adnoddau ariannol o dan is-adran (1)(a) ond i ddarparwyr addysg drydyddol sydd wedi eu cofrestru mewn categorïau a bennir yn y rheoliadau.

(6)Caiff rheoliadau o dan is-adran (5) ddarparu ar gyfer eithriadau i’r gofyniad i fod yn gofrestredig; a chaniateir i eithriad gael ei lunio drwy gyfeirio at (ymhlith pethau eraill)—

(a)gofynion i’w bodloni gan brentisiaeth Gymreig gymeradwy;

(b)y disgrifiad o berson sy’n darparu prentisiaeth Gymreig gymeradwy;

(c)cymwysterau sy’n ffurfio rhan o brentisiaeth Gymreig gymeradwy.

(7)Caiff y Comisiwn ddarparu adnoddau ariannol o dan yr adran hon ar y telerau a’r amodau y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(8)Caiff y telerau a’r amodau (ymhlith pethau eraill)—

(a)galluogi’r Comisiwn i’w gwneud yn ofynnol ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, symiau a dalwyd ganddo os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau y talwyd y symiau yn ddarostyngedig iddynt;

(b)ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd swm sy’n ddyledus i’r Comisiwn yn unol ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau yn parhau i fod heb ei dalu.

(9)Rhaid i’r telerau a’r amodau a osodir gan y Comisiwn mewn perthynas ag adnoddau ariannol a ddarperir o dan is-adran (1)(a) i berson nad yw’n ddarparwr cofrestredig—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r person, os rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 126(1), gael cynllun diogelu dysgwyr yn ei le sydd wedi ei gymeradwyo gan y Comisiwn (o dan adran 126(3) neu (5)) ar y dyddiad a bennir yn y telerau a’r amodau neu cyn y dyddiad hwnnw, a rhoi effaith i’r cynllun;

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r person, os yw’r person yn ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru, gydymffurfio â’r gofynion sydd wedi eu cynnwys yn y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a gyhoeddir o dan adran 129(1) neu unrhyw god diwygiedig a gyhoeddir o dan adran 129(3);

(c)ei gwneud yn ofynnol i’r person roi sylw i gyngor neu ganllawiau a roddir gan y Comisiwn (naill ai’n benodol neu i bersonau yn gyffredinol) wrth arfer swyddogaethau’r Comisiwn yn y Ddeddf hon.

(10)Wrth ddarparu adnoddau ariannol i berson o dan is-adran (1)(a), rhaid i’r Comisiwn roi sylw—

(a)i ddymunoldeb peidio ag anghefnogi’r person hwnnw rhag cynnal neu ddatblygu cyllid o ffynonellau eraill, a

(b)(i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny yng ngoleuni unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill) i ddymunoldeb cynnal unrhyw nodweddion arbennig i unrhyw ddarparwr addysg drydyddol y darperir adnoddau ariannol ar gyfer ei weithgareddau.

(11)Yn yr adran hon—

  • mae i “fframwaith prentisiaeth” (“apprenticeship framework”) yr ystyr a roddir gan adran 114;

  • mae i “prentisiaeth Gymreig gymeradwy” (“approved Welsh apprenticeship”) yr ystyr a roddir gan adran 111.

Ymchwil ac arloesi

105Cymorth ariannol ar gyfer ymchwil ac arloesi

(1)Caiff y Comisiwn ddarparu adnoddau ariannol i gorff llywodraethu darparwr penodedig mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo, gan y corff llywodraethu neu gan gorff sy’n cydlafurio at ddibenion ymchwil neu arloesi, neu mewn cysylltiad ag ymchwil neu arloesi.

(2)Caiff y Comisiwn hefyd ddarparu adnoddau ariannol i unrhyw berson mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo, gan y person at ddiben darparu gwasanaethau gan unrhyw berson at ddibenion gwneud gwaith ymchwil neu arloesi gan ddarparwr penodedig, neu mewn cysylltiad â gwneud gwaith ymchwil neu arloesi ganddo.

(3)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon i ddarparu adnoddau ariannol i ddarparwr penodedig, rhaid i’r Comisiwn roi sylw—

(a)i ddymunoldeb peidio ag anghefnogi’r darparwr hwnnw rhag cynnal neu ddatblygu cyllid o ffynonellau eraill, a

(b)(i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny yng ngoleuni unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill) i ddymunoldeb cynnal unrhyw nodweddion arbennig i’r darparwr.

(4)Yn yr adran hon—

  • ystyr “corff sy’n cydlafurio” (“collaborating body”), mewn perthynas â darparwr penodedig, yw person—

    (a)

    y mae corff llywodraethu’r darparwr penodedig yn bwriadu talu idd‍o yr holl adnoddau ariannol neu rai ohonynt a roddir i’r corff llywodraethu o dan is-adran (1), a

    (b)

    sy’n‍ gwneud, sy’n bwriadu gwneud neu sydd wedi gwneud gwaith ymchwil neu arloesi ar ran y darparwr penodedig, neu sy’n cydlafurio, sy’n bwriadu cydlafurio neu sydd wedi cydlafurio, â’r darparwr at y diben y darperir yr adnoddau ariannol ar ei gyfer;

  • ystyr “darparwr penodedig” (“specified provider”) yw darparwr cofrestredig sydd wedi ei gofrestru mewn categori a bennir at ddibenion yr adran hon mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(5)Rhaid i’r Comisiwn roi ei gydsyniad cyn i gorff llywodraethu’r darparwr penodedig wneud taliad i gorff sy’n cydlafurio (gweler adran 109 am ddarpariaeth bellach ynghylch cydsyniad y Comisiwn).

106Cymorth ariannol ar gyfer ymchwil ac arloesi: telerau ac amodau

(1)Caiff y Comisiwn ddarparu adnoddau ariannol o dan adran 105 ar y telerau a’r amodau y mae’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol.

(2)Caiff y telerau a’r amodau (ymhlith pethau eraill)—

(a)galluogi’r Comisiwn i’w gwneud yn ofynnol ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, symiau a dalwyd ganddo os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau y talwyd y symiau yn ddarostyngedig iddynt;

(b)ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd swm sy’n ddyledus i’r Comisiwn yn unol ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau yn parhau i fod heb ei dalu.

(3)Ni chaiff y telerau a’r amodau ymwneud â chymhwyso unrhyw symiau sy’n deillio ac eithrio o’r Comisiwn.

(4)Wrth—

(a)penderfynu darparu adnoddau ariannol o dan adran 105, a

(b)penderfynu unrhyw delerau ac amodau ar gyfer adnoddau ariannol a ddarperir o dan yr adran honno,

rhaid i’r Comisiwn roi sylw i’r egwyddor ei bod yn well gwneud penderfyniadau ar gynigion ymchwil neu arloesi unigol yn dilyn gwerthusiad o ansawdd y cynigion a’u heffaith tebygol (megis proses adolygu gan gymheiriaid).

107Swyddogaethau eraill y Comisiwn mewn perthynas ag ymchwil ac arloesi

(1)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yng Nghymru o’r gweithgareddau ymchwil ac arloesi y mae’n eu cyllido;

(b)lledaenu yng Nghymru ganlyniadau’r gweithgareddau ymchwil ac arloesi y mae’n eu cyllido;

(c)hwyluso cymhwyso’n ymarferol yng Nghymru ganlyniadau’r gweithgareddau ymchwil ac arloesi y mae’n eu cyllido.‍

(2)Rhaid i’r Comisiwn fonitro sut y mae adnoddau ariannol a ddarperir o dan adran 105 yn cael eu defnyddio.

(3)Rhaid i’r Comisiwn gynnwys yn ei adroddiad blynyddol (a lunnir o dan baragraff 16 o Atodlen 1) y casgliadau y mae’n dod iddynt o’r monitro hwnnw o ran y graddau y mae’r gweithgareddau y mae’n eu cyllido, ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi—

(a)yn cyflawni canlyniadau llwyddiannus,

(b)yn cael eu cyflwyno’n effeithiol, ac

(c)yn cynrychioli gwerth am arian.

Telerau ac amodau: ansawdd, llywodraethu etc., lles a chyfle cyfartal

108Cymorth ariannol o dan adrannau 89, 97 a 104: darpariaeth bellach ynghylch telerau ac amodau

(1)Wrth benderfynu’r telerau a’r amodau i’w gosod mewn perthynas ag adnoddau ariannol a ddarperir o dan adran 89(3), 97(1)(a) neu (b) neu 104(1)(a) i ddarparwr nad yw’n ddarparwr cofrestredig, rhaid i’r Comisiwn ystyried pa un ai i osod telerac ac amodau sy’n ymwneud—

(a)ag ansawdd yr addysg berthnasol a ddarperir gan neu ar ran y darparwr;

(b)ag effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu a rheoli’r darparwr (gan gynnwys ei drefniadau rheoli ariannol);

(c)â chynaliadwyedd ariannol y darparwr;

(d)ag effeithiolrwydd trefniadau’r darparwr ar gyfer cefnogi a hybu lles ei fyfyrwyr a’i staff;

(e)â chyflawni canlyniadau y gellir eu mesur i hyrwyddo pob un o’r nodau yn is-adran (2).

(2)Y nodau yw—

(a)cynyddu cyfranogiad, gan bersonau sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn addysg berthnasol a ddarperir gan neu ar ran y darparwr;

(b)cadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol hyd at ddiwedd cyrsiau addysg berthnasol a ddarperir gan neu ar ran y darparwr;

(c)lleihau unrhyw fylchau o ran cyrhaeddiad mewn addysg berthnasol a ddarperir gan neu ar ran y darparwr rhwng grwpiau gwahanol o fyfyrwyr a bennir yn y telerau a’r amodau pan fo’r gwahaniaethau yn codi oherwydd ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol;

(d)darparu cymorth i fyfyrwyr sy’n gorffen cyrsiau addysg berthnasol a ddarperir gan neu ar ran y darparwr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i barhau â’u haddysg drydyddol, dod o hyd i gyflogaeth neu ddechrau busnes.

(3)Yn yr adran hon—

  • ystyr “addysg berthnasol” (“relevant education”) yw—

    (a)

    pan fo adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan adran 89(3)(a) neu (b), y cwrs cymwys (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 89(1)) y darperir yr adnoddau mewn cysylltiad ag ef;

    (b)

    pan fo adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan adran 97(1)(a) neu (b), yr addysg bellach neu’r hyfforddiant y darperir yr adnoddau mewn cysylltiad â hi neu ag ef;

    (c)

    pan fo adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan adran 104(1)(a), y brentisiaeth Gymreig gymeradwy (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 111) y darperir yr adnoddau mewn cysylltiad â hi;

  • grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol” (“under-represented groups”) yw grwpiau a bennir yn y telerau a’r amodau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg berthnasol o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol.

Cyrff sy’n cydlafurio: cydsyniad

109Cydsyniad i daliadau i gyrff sy’n cydlafurio‍

(1)Caiff y Comisiwn roi cydsyniad at ddiben adran 88(4)‍, 89(5)‍, 97(5)‍, 104(4)‍ neu 105(5)‍ yn gyffredinol neu mewn perthynas â thaliad penodol neu gorff penodol sy’n cydlafurio.

(2)Caiff y Comisiwn roi cydsyniad at ddiben unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hynny yn ddarostyngedig i amodau.

(3)Rhaid i’r amodau gynnwys gofyniad bod y person y mae adnoddau ariannol yn cael eu darparu neu eu sicrhau iddo o dan adran 88, 89, 97, 104 neu 105 (yn ôl y digwydd) yn gwneud trefniadau at ddiben sicrhau bod yr adnoddau a delir i gorff sy’n cydlafurio yn cael eu rheoli’n effeithlon ac yn cael eu defnyddio mewn ffordd sy’n darparu gwerth am arian.

(4)Caiff y Comisiwn dynnu’n ôl, atal dros dro neu amrywio cydsyniad a roddir at ddiben unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hynny, a phan fo cydsyniad wedi ei roi yn gyffredinol, caiff wneud hynny yn gyffredinol neu mewn perthynas â thaliad penodol neu gorff penodol sy’n cydlafurio.

(5)Cyn tynnu’n ôl, amrywio neu atal dros dro gydsyniad, rhaid i’r Comisiwn roi hysbysiad i’r person y mae adnoddau ariannol yn cael eu darparu neu eu sicrhau iddo o dan adran 88, 89, 97, 104 neu 105 (yn ôl y digwydd).

(6)Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—

(a)y rhesymau dros fwriadu tynnu’n ôl, amrywio neu atal dros dro gydsyniad,

(b)y cyfnod pan ganiateir i sylwadau ynghylch y camau gweithredu arfaethedig gael eu cyflwyno, ac

(c)y ffordd y caniateir i’r sylwadau hynny gael eu cyflwyno.

(7)Rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol â’r hysbysiad wrth benderfynu pa un ai i dynnu’n ôl, amrywio neu atal dros dro gydsyniad.

(8)Nid yw’r gofynion yn is-adrannau (5) i (7) yn gymwys os yw’r Comisiwn wedi ei fodloni ei bod yn angenrheidiol tynnu’n ôl, amrywio neu atal dros dro gydsyniad cyn y byddai’n ymarferol cydymffurfio â’r gofynion hynny.

(9)Rhaid i’r Comisiwn gadw cydsyniad a roddir at ddiben adran 88(4)‍, 89(5)‍, 97(5)‍, 104(4)‍ neu 105(5)‍ o dan adolygiad.

Cyfarwyddydau cymorth ariannol

110Cyfarwyddydau cymorth ariannol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddydau cymorth ariannol i’r Comisiwn mewn perthynas â pherson perthnasol.

(2)Ni chaniateir i gyfarwyddydau cymorth ariannol gael eu rhoi ond os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod materion ariannol y person perthnasol wedi cael eu camreoli neu’n cael eu camreoli.

(3)“Cyfarwyddydau cymorth ariannol” yw unrhyw gyfarwyddydau ynghylch darparu neu sicrhau adnoddau ariannol o dan adran 88, 89, 97, 101, 103, 104 neu 105 i berson perthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n hwylus oherwydd y camreoli.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol” yw—

(a)darparwr cofrestredig;

(b)person (ac eithrio darparwr cofrestredig neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir) sy’n cael adnoddau ariannol a ddarperir neu a sicrheir gan y Comisiwn o dan adran 88(2), 89, 97, 101, 103, 104, neu 105(2).

(5)Cyn rhoi cyfarwyddyd cymorth ariannol, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn a’r person perthnasol oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)ei bod yn angenrheidiol rhoi’r cyfarwyddyd cyn y byddai’n ymarferol ymgynghori â’r Comisiwn a’r person perthnasol, neu

(b)y byddai’r ymgynghori yn tanseilio diben rhoi’r cyfarwyddyd.

(6)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd cymorth ariannol, rhaid iddynt—

(a)cyhoeddi’r cyfarwyddyd,

(b)adrodd i Senedd Cymru fod cyfarwyddyd wedi ei roi a gosod copi o’r cyfarwyddyd gerbron y Senedd, ac

(c)cadw’r cyfarwyddyd o dan adolygiad.

(7)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â chyfarwyddyd cymorth ariannol a roddir o dan yr adran hon.

RHAN 4PRENTISIAETHAU

Rhagarweiniol

111Ystyr “prentisiaeth Gymreig gymeradwy”

(1)Mae prentisiaeth Gymreig gymeradwy yn drefniant sy’n dod o fewn is-adrannau (2), (3) a (4).

(2)Mae’r trefniant—

(a)yn digwydd o dan gytundeb prentisiaeth Gymreig gymeradwy, neu

(b)yn brentisiaeth Gymreig amgen.

(3)Mae’r gwaith a wneir yn rhinwedd y trefniant yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.

(4)Mae’r trefniant yn bodloni unrhyw amodau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(5)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

112Ystyr “cytundeb prentisiaeth Gymreig gymeradwy”

(1)Mae cytundeb prentisiaeth Gymreig gymeradwy yn gytundeb—

(a)sy’n darparu i berson (“y prentis”) weithio i berson arall am gydnabyddiaeth mewn galwedigaeth y mae fframwaith prentisiaeth a gyhoeddir o dan adran 117 mewn grym ar ei chyfer ar yr adeg y gwneir y cytundeb,

(b)sy’n darparu i’r prentis gael hyfforddiant er mwyn cynorthwyo’r prentis i fodloni’r gofynion a bennir yn y fframwaith prentisiaeth, ac

(c)sy’n bodloni unrhyw amodau eraill a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

113Ystyr “prentisiaeth Gymreig amgen”

(1)Mae prentisiaeth Gymreig amgen yn drefniant, y mae person yn gweithio odano, sydd o fath a ddisgrifir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft, ddisgrifio trefniadau sy’n ymwneud ag achosion pan fo person—

(a)yn gweithio ac eithrio i berson arall;

(b)yn gweithio ac eithrio am gydnabyddiaeth.

(3)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

114Ystyr “fframwaith prentisiaeth”

(1)Mae fframwaith prentisiaeth yn ddogfen sy’n pennu gofynion ar gyfer cwblhau prentisiaethau Cymreig cymeradwy mewn galwedigaeth neu grŵp o alwedigaethau, a all gynnwys (ond nad ydynt yn gyfyngedig i) gofynion sy’n ymwneud—

(a)â safonau cyrhaeddiad;

(b)â chymwysterau;

(c)â’r math o hyfforddiant neu faint o hyfforddiant yr ymgymerir ag ef.

(2)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.

Swyddogaethau Gweinidogion Cymru

115Pennu gofynion mewn perthynas â phrentisiaethau Cymreig cymeradwy

(1)Caiff Gweinidogion Cymru bennu gofynion mewn perthynas â phrentisiaethau Cymreig cymeradwy at ddibenion y Rhan hon.

(2)Caiff gofyniad ymwneud â chynnwys fframweithiau prentisiaethau, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i)—

(a)pennu’r sectorau galwedigaethol y mae rhaid i’r alwedigaeth neu’r grŵp o alwedigaethau a gwmpesir gan fframwaith prentisiaeth ymwneud â hwy;

(b)y safonau cyrhaeddiad cyffredinol sy’n angenrheidiol ar gyfer cwblhau prentisiaethau Cymreig cymeradwy;

(c)y math o gymwysterau sy’n angenrheidiol ar gyfer cwblhau prentisiaethau Cymreig cymeradwy;

(d)y math o hyfforddiant neu faint o hyfforddiant sy’n angenrheidiol ar gyfer cwblhau prentisiaethau Cymreig cymeradwy.

(3)Caiff gofyniad ymwneud â llunio, diwygio, tynnu’n ôl neu gyhoeddi fframwaith prentisiaeth, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i)—

(a)y ffordd y mae fframwaith prentisiaeth yn cael ei lunio, ei ddiwygio, ei dynnu’n ôl neu ei gyhoeddi;

(b)y materion y mae rhaid eu hystyried wrth lunio fframwaith prentisiaeth, ei ddiwygio neu ei dynnu’n ôl.

(4)Caiff gofyniad ymwneud â phrentisiaethau Cymreig cymeradwy yn gyffredinol neu â phrentisiaethau Cymreig cymeradwy mewn un neu ragor o alwedigaethau.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)diwygio gofyniad neu ei dynnu’n ôl drwy bennu gofyniad ymhellach;

(b)tynnu gofyniad yn ôl drwy gyhoeddi hysbysiad o’i dynnu’n ôl.

(6)Rhaid i ofyniad a bennir o dan yr adran hon (gan gynnwys diwygiad a phennu sy’n cynnwys tynnu’n ôl) gael ei gyhoeddi.

(7)Rhaid i ofyniad a bennir o dan yr adran hon (gan gynnwys diwygiad) a thynnu gofyniad yn ôl (pa un ai drwy hysbysiad neu drwy bennu gofyniad ymhellach) ddatgan y dyddiad y daw i rym.

116Ymgynghoriad gan Weinidogion Cymru ynghylch pennu

(1)Cyn cymryd unrhyw gamau gweithredu a grybwyllir yn is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—

(a)â’r Comisiwn, a

(b)ag unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(2)Y camau gweithredu yw—

(a)pennu gofyniad o dan adran 115 (gan gynnwys gofynion diwygiedig);

(b)tynnu gofyniad yn ôl o dan adran 115.

Swyddogaethau’r Comisiwn

117Llunio a chyhoeddi fframweithiau prentisiaethau

(1)Caiff y Comisiwn lunio fframweithiau prentisiaethau neu sicrhau eu bod yn cael eu llunio.

(2)Caiff y Comisiwn gyhoeddi fframweithiau prentisiaethau sydd wedi eu llunio gan y Comisiwn ei hunan neu gan bersonau eraill (pa un a yw’r Comisiwn wedi sicrhau eu bod yn cael eu llunio ai peidio).

(3)Rhaid i fframwaith prentisiaeth a gyhoeddir o dan yr adran hon gydymffurfio ag unrhyw ofynion a bennir o dan adran 115.

(4)Caiff fframwaith prentisiaeth bennu gofynion ar lefelau cyrhaeddiad gwahanol ar gyfer yr un alwedigaeth neu grŵp o alwedigaethau, naill ai o fewn yr un fframwaith prentisiaeth neu mewn fframweithiau ar wahân.

(5)Caiff fframwaith prentisiaeth gynnwys unrhyw ddeunydd sy’n berthnasol i brentisiaeth Gymreig gymeradwy yn yr alwedigaeth neu’r grŵp o alwedigaethau y mae’r fframwaith yn ymwneud â hi neu ag ef, neu sy’n berthnasol i brentisiaethau Cymreig cymeradwy yn gyffredinol.

(6)Rhaid i’r Comisiwn wneud trefniadau i gadw pob fframwaith prentisiaeth a gyhoeddir o dan adolygiad gyda golwg ar benderfynu a ddylai’r fframwaith gael ei ddiwygio neu ei dynnu’n ôl.

(7)Caiff y Comisiwn—

(a)cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o fframwaith prentisiaeth, neu

(b)tynnu fframwaith prentisiaeth yn ôl (gan gyhoeddi fframwaith arall yn ei le neu heb gyhoeddi un arall).

(8)Rhaid i fframwaith prentisiaeth a gyhoeddir o dan yr adran hon ddatgan y dyddiad y daw i rym.

(9)Mae cyfeiriadau at fframwaith prentisiaeth yn yr adran hon yn cynnwys fframwaith diwygiedig.

118Cofrestr o fframweithiau prentisiaethau

(1)Rhaid i’r Comisiwn gynnal cofrestr o’r fframweithiau prentisiaethau a gyhoeddir o dan adran 117.

(2)Mewn cysylltiad â phob fframwaith prentisiaeth (gan gynnwys unrhyw fframwaith diwygiedig), rhaid i’r gofrestr gynnwys manylion ynghylch pryd y daw i rym.

(3)Pan fo fframwaith diwygiedig wedi ei gynnwys yn y gofrestr, rhaid i’r gofrestr gynnwys disgrifiad cyffredinol o’r achosion y mae’r fframwaith diwygiedig yn gymwys iddynt.

(4)Pan fo fframwaith prentisiaeth wedi ei dynnu’n ôl, rhaid i’r gofrestr gynnwys manylion ynghylch pryd y daw’r tynnu’n ôl i rym a disgrifiad cyffredinol o’r achosion y mae’r tynnu’n ôl yn gymwys iddynt.

(5)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi’r gofrestr.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn gynnwys gwybodaeth arall yn y gofrestr sy’n ymwneud â phrentisiaethau Cymreig cymeradwy.

119Pŵer i ddyroddi tystysgrifau prentisiaethau

(1)Caiff y Comisiwn ddyroddi tystysgrif (“tystysgrif brentisiaeth”) mewn cysylltiad â pherson sy’n gwneud cais amdani, os yw’n ymddangos i’r Comisiwn fod y person wedi cwblhau prentisiaeth Gymreig gymeradwy.

(2)Caiff y Comisiwn, yn dilyn cais, gyflenwi copi o dystysgrif brentisiaeth i berson y dyroddwyd y dystysgrif mewn cysylltiad ag ef.

(3)Caiff y Comisiwn benderfynu—

(a)y ffordd y mae rhaid i geisiadau am dystysgrifau neu am gopïau o dystysgrifau gael eu gwneud;

(b)cynnwys tystysgrifau.

(4)Ni chaiff y Comisiwn godi ffi am ddyroddi tystysgrif brentisiaeth neu am gyflenwi copi ohoni ond os yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn awdurdodi codi’r ffi, a dim ond i’r graddau y mae’r rheoliadau yn awdurdodi hynny.

120Dirprwyo swyddogaethau’r Comisiwn

(1)Caniateir i swyddogaethau’r Comisiwn o dan adran 117(2) neu 119 gael eu harfer gan berson a ddynodir gan y Comisiwn.

(2)Caiff dynodiad o dan yr adran hon fod at rai dibenion y swyddogaeth neu at holl ddibenion y swyddogaeth.

(3)Rhaid i berson a ddynodir o dan yr adran hon—

(a)cydymffurfio â chyfarwyddydau a roddir gan y Comisiwn, a

(b)rhoi sylw i ganllawiau a roddir gan y Comisiwn.

(4)Caniateir i ddynodiad o dan yr adran hon gael ei ddirymu.

(5)Nid yw dirprwyo swyddogaeth yn effeithio—

(a)ar allu’r Comisiwn i arfer y swyddogaeth, neu

(b)ar gyfrifoldeb y Comisiwn am arfer y swyddogaeth.

(6)Caiff y Comisiwn dalu i unrhyw berson y mae unrhyw swyddogaeth yn arferadwy ganddo yn rhinwedd is-adran (1)—

(a)symiau y mae’n ystyried eu bod yn briodol at ddiben talu am wariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo, gan y person hwnnw wrth arfer y swyddogaeth honno neu mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaeth honno;

(b)unrhyw dâl y mae’n ei benderfynu.

Darpariaethau atodol ynghylch cytundebau prentisiaethau

121Darpariaethau aneffeithiol mewn cytundebau prentisiaethau Cymreig cymeradwy

(1)Os yw cytundeb—

(a)yn cynnwys darpariaeth sy’n bodloni’r amodau a grybwyllir yn adran 112(1)(a) i (c), ond

(b)hefyd yn cynnwys darpariaeth sy’n anghyson â’r amodau hynny,

mae’r ddarpariaeth arall i’w thrin fel pe na bai’n cael unrhyw effaith.

(2)Cyn amrywio cytundeb sy’n bodloni’r amodau a grybwyllir yn adran 112(1)(a) i (c)mewn ffordd fel nad yw’n bodloni un neu ragor o’r amodau hynny mwyach, rhaid i’r person y mae’r prentis yn gweithio iddo roi hysbysiad i’r prentis.

(3)Rhaid i’r hysbysiad esbonio, os yw’r amrywiad yn cymryd effaith, y bydd y cytundeb yn peidio â bod yn gytundeb prentisiaeth Gymreig gymeradwy.

(4)Os yw cytundeb yn cael ei amrywio gan dorri’r gofyniad yn is-adran (2), nid yw’r amrywiad yn cael unrhyw effaith.

122Statws cytundebau prentisiaethau Cymreig cymeradwy

(1)I’r graddau y byddai fel arall yn cael ei drin fel pe bai’n gontract prentisiaeth, mae cytundeb prentisiaeth Gymreig gymeradwy i’w drin fel pe na bai’n gontract prentisiaeth.

(2)I’r graddau na fyddai fel arall yn cael ei drin fel pe bai’n gontract gwasanaeth, mae cytundeb prentisiaeth Gymreig gymeradwy i’w drin fel pe bai’n gontract gwasanaeth.

(3)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol.

123Trosglwyddo hawlfraint mewn fframweithiau prentisiaethau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo fframwaith prentisiaeth—

(a)wedi ei lunio gan berson ac eithrio’r Comisiwn, a

(b)wedi ei gyhoeddi gan y Comisiwn o dan adran 117(2) gyda chytundeb y person sydd, yn union cyn cyhoeddi, â’r hawlogaeth i gael unrhyw hawl neu fuddiant mewn unrhyw hawlfraint yn y fframwaith.

(2)Trosglwyddir yr hawl neu’r buddiant, yn rhinwedd yr adran hon, o’r person hwnnw i’r Comisiwn pan gaiff y fframwaith prentisiaeth ei gyhoeddi.

124Gweision y Goron

(1)Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â chytundeb y mae person yn ymgymryd â chyflogaeth y Goron odano fel y mae’n gymwys mewn perthynas ag unrhyw gytundeb arall y mae person yn ymgymryd â gweithio i berson arall odano.

(2)Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i is-adran (3) ac i unrhyw addasiadau y caniateir darparu ar eu cyfer o dan is-adran (5).

(3)Nid yw adran 122(2) yn gymwys mewn perthynas â chytundeb prentisiaeth Gymreig gymeradwy sy’n gytundeb o fewn is-adran (1).

(4)Heb ragfarnu adran 143(2), caniateir i’r pŵer a roddir gan adran 112(1)(c) gael ei arfer, yn benodol, i wneud darpariaeth mewn perthynas â chytundeb prentisiaeth sy’n gytundeb o fewn is-adran (1) sy’n wahanol i ddarpariaeth a wneir mewn perthynas â chytundebau eraill y mae person i weithio i rywun arall odanynt.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu i unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon fod yn gymwys gydag addasiadau mewn perthynas—

(a)â chytundeb o fewn is-adran (1), neu

(b)â person sy’n gweithio, neu’n bwriadu gweithio, o dan gytundeb o’r fath.

(6)Yn is-adran (1), ystyr “cyflogaeth y Goron” yw cyflogaeth o dan neu at ddibenion Llywodraeth Cymru, un o adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig neu unrhyw swyddog neu gorff sy’n arfer, ar ran y Goron, swyddogaethau a roddir gan ddarpariaeth statudol (ond nid yw’n cynnwys gwasanaeth fel aelod o lynges, byddin neu lu awyr y Goron).

Cyffredinol

125Dehongli Rhan 4

Yn y Rhan hon—

  • mae i “cytundeb prentisiaeth Gymreig gymeradwy” (“approved Welsh apprenticeship agreement”) yr ystyr a roddir gan adran 112;

  • mae i “fframwaith prentisiaeth” (“apprenticeship framework”) yr ystyr a roddir gan adran 114;

  • mae i “prentisiaeth Gymreig gymeradwy” (“approved Welsh apprenticeship”) yr ystyr a roddir gan adran 111;

  • ystyr “tystysgrif brentisiaeth” (“apprenticeship certificate”) yw tystysgrif a ddyroddir o dan adran 119.

RHAN 5DIOGELU DYSGWYR, GWEITHDREFNAU CWYNO AC YMGYSYLLTU Â DYSGWYR

126Cynlluniau diogelu dysgwyr

(1)Caiff y Comisiwn roi hysbysiad i ddarparwr addysg drydyddol perthnasol sy’n gofyn iddo gyflwyno cynllun diogelu dysgwyr i’r Comisiwn ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu cyn y dyddiad hwnnw.

(2)Mae cynllun diogelu dysgwyr yn ddogfen sy’n nodi trefniadau’r darparwr addysg drydyddol perthnasol ar gyfer—

(a)diogelu buddiannau personau sy’n ymgymryd â chwrs perthnasol os bydd y cwrs yn peidio â chael ei ddarparu am unrhyw reswm, a

(b)cefnogi person sy’n ymgymryd â chwrs perthnasol ac sy’n dymuno trosglwyddo i gwrs addysg drydyddol arall (pa un a yw’r cwrs hwnnw yn cael ei ddarparu gan, neu ar ran, y darparwr addysg drydyddol neu berson arall).

(3)Caiff y Comisiwn gymeradwyo’r cynllun diogelu dysgwyr gydag addasiadau neu hebddynt.

(4)Os yw darparwr addysg drydyddol perthnasol yn dymuno diwygio ei gynllun diogelu dysgwyr cymeradwy, rhaid iddo anfon cynllun diwygiedig i’r Comisiwn.

(5)Caiff y Comisiwn gymeradwyo’r cynllun diogelu dysgwyr diwygiedig gydag addasiadau neu hebddynt.

(6)Rhaid i’r Comisiwn ddyroddi canllawiau ar lunio a diwygio cynlluniau diogelu dysgwyr.

(7)Cyn dyroddi canllawiau o dan is-adran (6), rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(8)Rhaid i’r Comisiwn fonitro effeithiolrwydd cynlluniau diogelu dysgwyr.

(9)Rhaid i’r Comisiwn gynnwys yn ei adroddiad blynyddol (a lunnir o dan baragraff 16 o Atodlen 1) y casgliadau y mae’n dod iddynt o’r monitro hwnnw o ran effeithiolrwydd y cynlluniau diogelu dysgwyr yn ystod y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(10)Yn yr adran hon ac yn adran 127—

  • cwrs perthnasol” (“relevant course”), mewn perthynas â darparwr addysg drydyddol perthnasol, yw—

    (a)

    pan fo’r darparwr yn ddarparwr cofrestredig, unrhyw gwrs addysg drydyddol a ddarperir ganddo neu ar ei ran;

    (b)

    pan na fo’r darparwr yn ddarparwr cofrestredig, gwrs addysg drydyddol a ddarperir ganddo neu ar ei ran ac a gyllidir gan y Comisiwn o dan—

    (i)

    adran 89(3)(a) (cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau),

    (ii)

    adran 97(1)(a) (addysg bellach neu hyfforddiant), neu

    (iii)

    adran 104(1)(a) (prentisiaethau);

  • darparwr addysg drydyddol perthnasol” (“relevant tertiary education provider”) yw—

    (a)

    darparwr cofrestredig;

    (b)

    person ac eithrio darparwr cofrestredig sy’n cael adnoddau ariannol a ddarperir neu a sicrheir gan y Comisiwn o dan—

    (i)

    adran 89(3)(a) (cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau),

    (ii)

    adran 97(1)(a) (addysg bellach neu hyfforddiant), neu

    (iii)

    adran 104(1)(a) (prentisiaethau).

127Gweithdrefnau cwyno

(1)Rhaid i’r Comisiwn gymryd unrhyw gamau y mae’n ymddangos iddo eu bod yn briodol er mwyn sicrhau—

(a)bod gan ddarparwr addysg drydyddol weithdrefn yn ei lle ar gyfer ymchwilio i gwynion am weithred neu anweithred gan y darparwr a wneir gan bersonau sy’n ymgymryd, neu sydd wedi ymgymryd, â chyrsiau perthnasol, a

(b)bod darparwr addysg drydyddol yn cymryd camau rhesymol i roi gwybod i bersonau sy’n ymgymryd â chyrsiau perthnasol am y weithdrefn.

(2)Am ystyr “cwrs perthnasol” a “darparwr addysg drydyddol”, gweler adran 126(10).

128Sefydliadau cymhwysol ar gyfer y cynllun cwynion myfyrwyr

(1)Mae Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 11 (sefydliadau cymhwysol)—

(a)daw’r testun presennol yn is-adran (1);

(b)ar ôl y is-adran honno mewnosoder—

(2)The Welsh Ministers may, by regulations, specify as a qualifying institution for the purposes of this Part, a person other than one within subsection (1) who is—

(a)a registered provider, or

(b)a tertiary education provider in Wales other than a registered provider in receipt of financial resources—

(i)provided by the Commission for Tertiary Education and Research under section 89(3)(a) of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 (higher education courses specified in regulations),

(ii)secured by the Commission for Tertiary Education and Research or the Welsh Ministers under section 97(1)(a) of that Act (further education or training), or

(iii)provided by the Commission for Tertiary Education and Research under section 104(1)(a) of that Act (apprenticeships).

(3)In subsection (2)—

  • registered provider” means a tertiary education provider registered in the register established and maintained by the Commission for Tertiary Education and Research under section 25 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022;

  • tertiary education provider in Wales” has the meaning given by section 144(1) of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022.

(4)The power to make regulations in subsection (2) is to be exercised by statutory instrument.

(5)A statutory instrument containing regulations made under subsection (2) is subject to annulment in pursuance of a resolution of Senedd Cymru.

(3)Yn adran 12 (cwynion cymhwysol)—

(a)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)A complaint within subsection (1) about an act or omission of a qualifying institution specified in regulations made under paragraph (b) of subsection (2) of section 11 is a qualifying complaint only if it is made by a person who is undertaking or has undertaken a course funded by the Commission for Tertiary Education and Research or the Welsh Ministers under—

(a)section 89(3)(a) of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 (higher education courses specified in regulations),

(b)section 97(1)(a) of that Act (further education or training), or

(c)section 104(1)(a) of that Act (apprenticeships).

(b)yn is-adran (3) yn lle “section 11” rhodder “subsection (1) of section 11, or of a qualifying institution specified in regulations made under subsection (2) of that section,”.

129Y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr

(1)Rhaid i’r Comisiwn lunio a chyhoeddi cod (“y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr”) ynghylch cynnwys personau sy’n cael addysg drydyddol a ddarperir gan, neu ar ran, darparwr perthnasol (“dysgwyr”) wrth i’r darparwr wneud penderfyniadau perthnasol.

(2)Caiff y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr gynnwys darpariaeth ynghylch y canlynol (ymhlith pethau eraill)—

(a)sut y gellir sicrhau bod buddiannau dysgwyr yn cael eu cynrychioli’n effeithiol wrth i’r darparwr perthnasol wneud penderfyniadau perthnasol,

(b)sut y gellir sicrhau bod dysgwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan wrth i’r darparwr perthnasol wneud penderfyniadau perthnasol, ac

(c)sut y gellir sicrhau bod dysgwyr yn cael y cyfle i roi eu barn i’r darparwr perthnasol ar yr addysg drydyddol y maent yn ei chael ac ar faterion eraill a all fod o ddiddordeb i ddysgwyr neu y gall fod ganddynt fuddiant ynddynt.

(3)Rhaid i’r Comisiwn gadw’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr o dan adolygiad ac os yw’n ystyried ei bod yn briodol, rhaid iddo lunio a chyhoeddi cod diwygiedig (ac mae cyfeiriadau yn yr adran hon at y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn cynnwys unrhyw god diwygiedig).

(4)Caiff darpariaeth yn y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr fod ar ffurf gofyniad neu ganllawiau.

(5)Wrth lunio’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr neu’r cod diwygiedig, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â’r personau hynny y mae’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol.

(6)Caiff y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol (gan gynnwys ar gyfer darparwyr perthnasol gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o ddarparwr perthnasol).

(7)Rhaid i’r Comisiwn fonitro cydymffurfedd gan ddarparwyr perthnasol â’r Cod Ymgysylltu â Dysgwyr.

(8)Rhaid i’r Comisiwn gynnwys yn ei adroddiad blynyddol (a lunnir o dan baragraff 16 o Atodlen 1) y casgliadau y mae’n dod iddynt o’r monitro hwnnw o ran effeithiolrwydd y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr yn ystod y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(9)Yn yr adran hon—

  • ystyr “darparwr perthnasol” (“relevant provider”) yw—

    (a)

    darparwr cofrestredig;

    (b)

    darparwr addysg drydyddol yng Nghymru ac eithrio darparwr cofrestredig sy’n cael adnoddau ariannol a ddarperir neu a sicrheir gan y Comisiwn o dan—

    (i)

    adran 89(3)(a) (cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau),

    (ii)

    adran 97(1)(a) (addysg bellach neu hyfforddiant), neu

    (iii)

    adran 104(1)(a) (prentisiaethau);

    (c)

    corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru sy’n darparu addysg sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol;

  • ystyr “penderfyniad perthnasol” (“relevant decision”) yw penderfyniad am faterion a all fod o ddiddordeb i ddysgwyr ar gyrsiau neu y gall fod buddiant ynddynt gan ddysgwyr ar gyrsiau—

    (a)

    a ddarperir gan, neu ar ran, darparwr cofrestredig,

    (b)

    pan fônt yn cael eu darparu gan, neu ar ran, darparwr addysg drydyddol ac eithrio darparwr cofrestredig, a gyllidir gan y Comisiwn o dan—

    (i)

    adran 89(3)(a) (cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau),

    (ii)

    adran 97(1)(a) (addysg bellach neu hyfforddiant), neu

    (iii)

    adran 104(1)(a) (prentisiaethau), neu

    (c)

    a ddarperir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru.

RHAN 6GWYBODAETH, CYNGOR A CHANLLAWIAU

130Gwybodaeth a chyngor oddi wrth y Comisiwn a gwybodaeth oddi wrth Weinidogion Cymru

(1)Rhaid i’r Comisiwn roi i Weinidogion Cymru—

(a)unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau neu unrhyw wybodaeth a geir wrth arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau y mae Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani, a

(b)unrhyw gyngor sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau y mae Gweinidogion Cymru yn gofyn amdano.

(2)Rhaid i wybodaeth a chyngor a roddir o dan is-adran (1) gael eu rhoi ar y ffurf ac yn y modd a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

(3)Caiff y Comisiwn roi i Weinidogion Cymru—

(a)gwybodaeth sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau neu wybodaeth a geir wrth arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu

(b)cyngor sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru roi gwybodaeth i’r Comisiwn at ddibenion arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau.

131Personau y mae’n ofynnol iddynt ddarparu gwybodaeth i’r Comisiwn

(1)Caiff y Comisiwn, drwy hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i berson o fewn is-adran (2) roi i’r Comisiwn unrhyw wybodaeth y mae’r Comisiwn yn gofyn amdani at ddibenion arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Comisiwn.

(2)Y personau o fewn yr is-adran hon yw—

(a)darparwr cofrestredig;

(b)person ac eithrio darparwr cofrestredig sy’n cael adnoddau ariannol a ddarperir o dan—

(i)adran 88(2) (gwasanaethau a ddarperir mewn cysylltiad ag addysg uwch),

(ii)adran 89 (cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau),

(iii)adran 92 (cymorth ariannol ar gyfer cyrsiau addysg uwch penodol),

(iv)adran 97 (addysg bellach neu hyfforddiant);

(v)adran 103 (gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig ag addysg drydyddol),

(vi)adran 104 (prentisiaethau),

(vii)adran 105(2) (gwasanaethau a ddarperir mewn cysylltiad ag ymchwil ac arloesi), neu

(viii)adran 136 (ymchwil gan y Comisiwn neu Weinidogion Cymru);

(c)awdurdod lleol;

(d)corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru sy’n darparu addysg uwch, neu sydd wedi trefnu i addysg uwch gael ei darparu, i ddisgyblion yn yr ysgol o dan adran 28A o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32);

(e)corff a ddynodir o dan Atodlen 3 i arfer swyddogaethau’r Comisiwn o dan adran 54 (asesu ansawdd addysg uwch);

(f)person a ddynodir gan y Comisiwn o dan adran 120 i arfer swyddogaethau’r Comisiwn o dan adran 117(2) (cyhoeddi fframweithiau prentisiaethau) neu adran 119 (dyroddi tystysgrifau prentisiaethau);

(g)unrhyw berson sy’n darparu addysg bellach neu hyfforddiant ac sy’n cael cymorth ariannol gan Weinidogion Cymru.

(3)Ni chaiff hysbysiad o dan is-adran (1) i berson a grybwyllir yn is-adran (2)(c) i (g) ei gwneud yn ofynnol i’r person roi gwybodaeth ac eithrio—

(a)yn achos person a grybwyllir yn is-adran (2)(c), (d) neu (g), wybodaeth a gedwir gan y person at ddiben darparu addysg drydyddol;

(b)yn achos corff a grybwyllir yn is-adran (2)(e) wybodaeth a gedwir gan y corff at ddiben arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Comisiwn o dan adran 54;

(c)yn achos person a grybwyllir yn is-adran (2)(f), wybodaeth a gedwir gan y person at ddiben arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Comisiwn o dan adran 117(2) neu 119.

(4)Caiff hysbysiad o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei rhoi—

(a)erbyn amser a bennir yn yr hysbysiad, a

(b)ar ffurf ac mewn modd a bennir yn yr hysbysiad.

(5)Os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad o dan is-adran (1) ac os nad yw’n bodloni’r Comisiwn na ellir rhoi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, mae’r ddyletswydd i gydymffurfio â’r hysbysiad yn orfodadwy drwy waharddeb yn dilyn cais gan y Comisiwn.

(6)Caiff y Comisiwn roi gwybodaeth i berson a restrir yn is-adran (2) am unrhyw fater y mae gan y Comisiwn swyddogaeth mewn perthynas ag ef.

132Pwerau i rannu gwybodaeth

(1)Caiff pob un o’r canlynol roi i’r Comisiwn wybodaeth at ddibenion arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Comisiwn—

(a)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

(b)Cyngor y Gweithlu Addysg;

(c)Cymwysterau Cymru;

(d)yr Ysgrifennydd Gwladol;

(e)y Swyddfa Fyfyrwyr;

(f)corff a ddynodir o dan Atodlen 3 i arfer swyddogaethau’r Comisiwn o dan adran 54 (asesu ansawdd addysg uwch);

(g)y person a ddynodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 13 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8) fel gweithredwr dynodedig cynllun ar gyfer adolygu cwynion myfyrwyr;

(h)person a bennir mewn trefniadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 23(4) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30) i arfer, ar eu rhan, swyddogaethau sy’n arferadwy yn rhinwedd rheoliadau o dan adran 22 o’r Ddeddf honno (trefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr);

(i)person a bennir mewn trefniadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 14 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) (cynhorthwy ariannol ar gyfer addysg a phlant etc.), sydd, yn unol ag adran 17 o’r Ddeddf honno, yn darparu i’r person roi cynhorthwy neu arfer swyddogaethau eraill sy’n ymwneud â chynhorthwy;

(j)person sy’n darparu gwasanaethau i un neu ragor o ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliadau o fewn y sector addysg uwch sy’n ymwneud â cheisiadau am le ar gyrsiau addysg uwch a ddarperir ganddynt;

(k)person a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff y Comisiwn roi i berson a restrir yn is-adran (1) ac i unrhyw berson arall y mae’n ystyried ei fod yn briodol wybodaeth am unrhyw fater y mae gan y Comisiwn swyddogaeth mewn perthynas ag ef.

133Pŵer i’w gwneud yn ofynnol rhoi gwybodaeth o gyflwyno’r cais i dderbyn y cynnig

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i berson o fewn is-adran (2) roi iddynt neu i’r Comisiwn yr wybodaeth honno o gyflwyno’r cais i dderbyn y cynnig a ddisgrifir yn yr hysbysiad, at ddefnydd ymchwil gymhwysol.

(2)Mae person o fewn yr is-adran hon yn un sy’n darparu gwasanaethau i un neu ragor o ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliadau o fewn y sector addysg uwch sy’n ymwneud â cheisiadau am le ar gyrsiau addysg uwch a ddarperir ganddynt.

(3)Ystyr “gwybodaeth o gyflwyno’r cais i dderbyn y cynnig” yw gwybodaeth sy’n ymwneud—

(a)â cheisiadau am le ar gyrsiau addysg uwch a ddarperir gan ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliadau o fewn y sector addysg uwch (gan gynnwys graddau a ragfynegir),

(b)â chynigion a gwrthodiadau a roddir i unigolion mewn cysylltiad â cheisiadau am le ar y cyrsiau hynny, neu

(c)â derbyn cynigion o’r fath.

(4)Ystyr “ymchwil gymhwysol” yw—

(a)ymchwil i’r dewisiadau sydd ar gael i unigolion—

(i)sy’n gwneud cais am le ar gyrsiau addysg uwch a ddarperir gan ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliadau o fewn y sector addysg uwch, neu

(ii)sy’n ystyried pa un ai i dderbyn cynnig o le ar gwrs o’r fath gan ddarparwr o’r fath;

(b)ymchwil i gyfle cyfartal mewn cysylltiad â mynediad i addysg uwch a ddarperir gan ddarparwyr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliadau o fewn y sector addysg uwch a chymryd rhan yn yr addysg uwch honno;

(c)ymchwil i unrhyw bwnc arall a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru.

(5)Caiff hysbysiad o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei rhoi—

(a)erbyn amser a bennir yn yr hysbysiad, a

(b)ar ffurf ac mewn modd a bennir yn yr hysbysiad.

(6)Os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad o dan is-adran (1) ac os nad yw’n bodloni Gweinidogion Cymru na ellir rhoi’r wybodaeth a ddisgrifir yn yr hysbysiad, mae’r ddyletswydd i gydymffurfio â’r hysbysiad yn orfodadwy drwy waharddeb yn dilyn cais gan Weinidogion Cymru.

134Defnyddio gwybodaeth o gyflwyno’r cais i dderbyn y cynnig at ddibenion ymchwil

(1)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)defnyddio gwybodaeth a geir o dan adran 133 ar gyfer ymchwil gymhwysol, a

(b)rhoi gwybodaeth a geir o dan adran 133 i’r Comisiwn neu i berson cymeradwy i’w defnyddio ar gyfer ymchwil gymhwysol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, y Comisiwn neu berson cymeradwy gyhoeddi cynnyrch ymchwil a wneir gan ddefnyddio gwybodaeth a geir o dan adran 133 cyhyd ag—

(a)mai darparu gwybodaeth ystadegol yw un o’r dibenion wrth ei gyhoeddi,

(b)na ellir adnabod unrhyw unigolyn y mae’r wybodaeth a geir o dan adran 133 yn ymwneud ag ef o’r cyhoeddiad, ac

(c)nad yw’r cyhoeddiad yn cynnwys gwybodaeth a geir o dan adran 133 a all gael ei hystyried yn fasnachol sensitif.

(3)Ystyr “person cymeradwy” yw—

(a)corff a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru at ddibenion yr adran hon sy’n defnyddio neu’n lledaenu gwybodaeth at ddiben ymchwil (“corff cymeradwy”), neu

(b)unigolyn a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru neu gorff cymeradwy at ddibenion yr adran hon (“ymchwilydd cymeradwy”).

(4)Caiff corff cymeradwy roi gwybodaeth a geir o dan adran 133 i ymchwilydd cymeradwy, ond ni chaiff ymchwilydd cymeradwy roi’r wybodaeth honno—

(a)i ymchwilydd cymeradwy arall, neu

(b)i gorff cymeradwy arall.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ynghylch ffactorau i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i gymeradwyo corff neu unigolyn at ddibenion yr adran hon.

(6)Mae i “ymchwil gymhwysol” yr un ystyr ag yn adran 133.

135Gwybodaeth arall, cyngor arall a chanllawiau eraill

(1)Caiff y Comisiwn roi cyngor a dyroddi canllawiau (pa un ai’n gyffredinol neu’n benodol) i unrhyw berson ynghylch darparu addysg drydyddol neu unrhyw fater sy’n gysylltiedig â swyddogaethau’r Comisiwn.

(2)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)nodi arferion da mewn perthynas â rhannu gwybodaeth gan y personau a bennir yn is-adran (3), a

(b)rhoi cyngor a dyroddi canllawiau ar arferion o’r fath i’r personau hynny.

(3)Y personau a bennir yn yr is-adran hon yw—

(a)darparwr cofrestredig,

(b)person ac eithrio darparwr cofrestredig sy’n darparu addysg drydyddol a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo.

(4)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi unrhyw ganllawiau y mae’n eu dyroddi o dan is-adrannau (1) a (2).

(5)Rhaid i’r Comisiwn sefydlu systemau ar gyfer casglu gwybodaeth sydd wedi eu dylunio i sicrhau bod ei benderfyniadau o ran addysg drydyddol yn cael eu gwneud ar sail gadarn.

136Ymchwil gan y Comisiwn neu Weinidogion Cymru

(1)Caiff y Comisiwn neu Weinidogion Cymru wneud ymchwil, neu sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu i bersonau sy’n gwneud neu’n bwriadu gwneud ymchwil, mewn perthynas—

(a)ag addysg drydyddol Gymreig;

(b)ag addysg arall neu hyfforddiant arall—

(i)a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, neu

(ii)i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru;

(c)ag unrhyw fater sy’n gysylltiedig ag addysg neu hyfforddiant‍ a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b);

(d)ag unrhyw fater arall sy’n berthnasol i swyddogaethau’r Comisiwn.

(2)Caiff y Comisiwn neu Weinidogion Cymru gyhoeddi, neu wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi, ganlyniadau’r ymchwil honno cyhyd ag na ellir adnabod unrhyw unigolyn y mae’r ymchwil yn ymwneud ag ef o’r cyhoeddiad.

(3)Caiff y Comisiwn neu Weinidogion Cymru sicrhau bod adnoddau ariannol yn cael eu darparu o dan is-adran (1)—

(a)drwy ddarparu adnoddau ei hunan neu eu hunain;

(b)drwy wneud trefniadau ar gyfer darparu adnoddau gan berson arall;

(c)drwy wneud trefniadau ar gyfer darparu adnoddau gan bersonau ar y cyd (pa un a yw hynny yn cynnwys y Comisiwn neu Weinidogion Cymru ai peidio).

(4)Os yw’r Comisiwn ei hunan, neu Weinidogion Cymru eu hunain, yn darparu adnoddau ariannol o dan is-adran (1), caniateir iddo neu iddynt osod y telerau a’r amodau hynny y mae neu y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(5)Caiff y telerau a’r amodau (ymhlith pethau eraill)—

(a)galluogi’r Comisiwn neu Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, symiau a dalwyd ganddynt os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau y talwyd y symiau yn ddarostyngedig iddynt;

(b)ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd swm sy’n ddyledus i’r Comisiwn neu i Weinidogion Cymru yn unol ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau yn parhau i fod heb ei dalu.

(6)Os yw’r Comisiwn wedi gwneud trefniadau o dan is-adran (3)(b) i berson arall ddarparu adnoddau ariannol y Comisiwn, caiff y Comisiwn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu’r adnoddau yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau y mae’r Comisiwn yn ystyried eu bod yn briodol (gan gynnwys telerau ac amodau o fath a allai gael eu gosod o dan is-adran (5)).

RHAN 7AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Corfforaethau addysg uwch

137Offerynnau llywodraethu corfforaethau addysg uwch yng Nghymru

(1)Mae adran 124A o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (9), yn lle’r geiriau “3 to 5 and” rhodder “2 to”.

(3)Ar ôl is-adran (9) mewnosoder—

(9A)Before making an order under subsection (9) the Welsh Ministers must consult—

(a)the Commission for Tertiary Education and Research, and

(b)any other persons they think appropriate.

(9B)An order made under subsection (9) may, where it is necessary in consequence of amendments made to Schedule 7A to this Act, repeal or amend the following provisions of this Act—

(a)subsection 122A(3);

(b)in subsection (4) of this section, the words “any provision authorised to be made by that Schedule and”;

(c)in section 124C—

(i)in subsection (1), the words beginning with “and, in determining” to the end;

(ii)subsection (2).

138Erthyglau llywodraethu corfforaethau addysg uwch yng Nghymru

(1)Mae Deddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 125, ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

(8)The Welsh Ministers may by order amend or repeal any of subsections (2) to (4) of this section.

(9)Before making an order under subsection (8) the Welsh Ministers must consult—

(a)the Commission for Tertiary Education and Research, and

(b)any other persons they think appropriate.

(3)Yn adran 232—

(a)yn is-adran (1), ar ôl y geiriau “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(b)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4ZA)A statutory instrument containing any order or regulations made by the Welsh Ministers under this Act, other than an order under section 124A, 125, 214 or 216, shall be subject to annulment in pursuance of a resolution of Senedd Cymru.

(4ZB)A statutory instrument containing an order made by the Welsh Ministers under section 124A or 125 of this Act may not be made unless a draft of the instrument has been laid before, and approved by resolution of, Senedd Cymru.

(4ZC)For the purposes of subsection (4ZA) above, any order or regulations made by the Welsh Ministers under this Act includes any order or regulations made under a power that is expressed as a power of the Secretary of State and has been transferred to the Welsh Ministers.;

(c)yn is-adran (5), yn lle’r gair “thinks” rhodder “or the Welsh Ministers think”.

139Diddymu corfforaethau addysg uwch yng Nghymru

(1)Mae adran 128 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1), yn is-baragraff (b)(iii), yn lle’r geiriau “the Higher Education Funding Council for Wales” rhodder “the Commission for Tertiary Education and Research (“the Commission”)”.

(3)Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)An order under this section may be made only if—

(a)the higher education corporation to be dissolved has requested that an order be made, or

(b)if there has been no such request, the higher education corporation consents to an order being made.

(1B)But an order may be made as if consent had been given under subsection (1A)(b) if the Welsh Ministers consider that the higher education corporation—

(a)has unreasonably withheld its consent, or

(b)has unreasonably delayed in giving or withholding its consent.

(1C)An order under subsection (1)(b)—

(a)may, in relation to any property or rights of the corporation transferred under the order, make provision about the effect of such transfer on any right of pre-emption, right of return or other similar right that may apply in respect of such property or rights (including provision about the calculation and payment of any just compensation);

(b)has effect in relation to property, rights or liabilities to which it applies in spite of any provision (of whatever nature) of any enactment or any rule of law, which would otherwise prevent, penalise or restrict the transfer of the property rights or liabilities.

(4)Yn is-adran (4), ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau “the Higher Education Funding Council for Wales” rhodder “the Commission”.

(5)Yn lle is-adran (5) rhodder—

(5)In this section—

  • charitable purposes” has the meaning given by section 11 of the Charities Act 2011 (c. 25);

  • “right of return means any right under a provision for the return or reversion of property in specified circumstances.

(6)Ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(7)The Welsh Ministers must publish a statement setting out the circumstances in which they propose to exercise the power under this section to make an order.

(8)The Welsh Ministers—

(a)must keep the statement under review;

(b)may revise it.

(9)Before publishing the statement or a revised statement, the Welsh Ministers must consult such persons as they consider appropriate.

(10)As soon as possible after publishing the statement or revised statement, the Welsh Ministers must lay a copy of it before Senedd Cymru.

Ymgynghoriad ynghylch gwasanaethau gyrfaoedd

140Dyletswydd i ymgynghori â’r Comisiwn ynghylch gwasanaethau gyrfaoedd

Yn Neddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 (p. 50), ar ôl adran 9 mewnosoder—

9ADuty of Welsh Ministers to consult the Commission for Tertiary Education and Research

(1)In each financial year the Welsh Ministers must consult the Commission for Tertiary Education and Research on strategic priorities in the next financial year for the performance of their duty in section 8 and the exercise of their power in section 9.

(2)In this section, “financial year means a period of 12 months ending on 31 March.

Cyffredinol

141Diogelu Data

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i ddyletswydd neu bŵer i ddatgelu neu ddefnyddio gwybodaeth pan osodir y ddyletswydd neu’r pŵer neu pan y’i rhoddir gan neu o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.

(2)Nid yw dyletswydd na phŵer y mae’r adran hon yn gymwys iddi neu iddo yn gweithredu i’w gwneud yn ofynnol, neu i awdurdodi, datgelu neu ddefnyddio gwybodaeth a fyddai’n torri’r ddeddfwriaeth diogelu data; ond mae’r ddyletswydd neu’r pŵer i’w hystyried neu ei ystyried wrth benderfynu a fyddai’r datgeliad neu’r defnydd yn torri’r ddeddfwriaeth honno.

(3)Yn yr adran hon, mae i “deddfwriaeth diogelu data” yr un ystyr ag a roddir i “data protection legislation” yn Neddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3 o’r Ddeddf honno).

142Cyhoeddi

(1)Pan fo’r Ddeddf hon yn gosod dyletswydd i gyhoeddi unrhyw beth, rhaid iddo gael ei gyhoeddi—

(a)yn electronig, a

(b)mewn unrhyw fodd arall y mae’r person sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn ystyried ei fod yn briodol.

(2)Mae’r ddyletswydd i gyhoeddi yn electronig—

(a)yn ddyletswydd i ddarparu mynediad yn rhad ac am ddim, a

(b)yn ddyletswydd i gyhoeddi ar wefan y person, os oes gan y person un.

(3)Caniateir i gopïau o unrhyw beth a gyhoeddir o dan is-adran (1)(b) gael eu cyflenwi yn rhad ac am ddim neu ar ôl talu unrhyw ffi, nad yw’n fwy na chost cyflenwi’r copi, a benderfynir gan y person sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd i gyhoeddi.

143Rheoliadau

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud—

(a)darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol;

(b)darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(4)Mae is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—

(a)o Ran 1, adran 22(1);

(b)o Ran 2, adrannau 25(2), 27(6), 32(2)(b),‍ 34, 41(2), 46(6), 80(1)(c) a (2) a 83(4);

(c)o Ran 3, adrannau 88(3), 94(4) a (7)(b), 98(2), 99(6), 104(5) a 105(4);

(d)o Ran 4, adrannau 111(4), 112(1)(c) a 113(1);

(e)o’r Rhan hon—

(i)adran 145;

(ii)adran 146, ond dim ond pan fo’r rheoliadau yn diwygio, yn diddymu neu fel arall yn addasu darpariaeth mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig, Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu Ddeddf gan Senedd Cymru.

(5)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon, nad yw is-adran (4) yn gymwys iddo,‍ yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

144Dehongli cyffredinol

(1)Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “adnoddau ariannol” (“financial resources”) yw adnoddau ariannol o unrhyw fath gan gynnwys grantiau, benthyciadau a thaliadau eraill;

  • ystyr “addysg drydyddol” (“tertiary education”) yw addysg uwch, addysg bellach neu hyfforddiant;

  • ystyr “addysg drydyddol Gymreig” (“Welsh tertiary education”) yw addysg drydyddol—

    (a)

    a ddarperir gan, neu ar ran, darparwr addysg drydyddol yng Nghymru, neu

    (b)

    a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo;

  • ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40);

  • mae i “addysg uwchradd” yr ystyr a roddir i “secondary education” gan adran 2 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56);

  • mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr ystyr a roddir gan adran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2);

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (gweler adran 1);

  • mae “corff llywodraethu” (“governing body”) i’w ddehongli fel a ganlyn—

    (a)

    mewn perthynas â darparwr hyfforddiant na fyddai, oni bai am yr adran hon, yn cael ei ystyried yn sefydliad, ei ystyr yw unrhyw bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;

    (b)

    mewn perthynas ag ysgol, ei ystyr yw perchennog yr ysgol o fewn yr ystyr a roddir i “proprietor” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56);

    (c)

    mewn perthynas â darparwr a ddynodir o dan adran 83, ei ystyr yw unrhyw bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;

    (d)

    mewn perthynas ag unrhyw sefydliad arall, mae iddo’r ystyr a roddir i “governing body” gan adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), ond yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 90(2) o’r Ddeddf honno;

  • mae “cyfleusterau i Gymru” (“facilities for Wales”) yn cynnwys—

    (a)

    cyfleusterau yng Nghymru, a

    (b)

    cyfleusterau eraill sydd ar gael i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru;

  • mae i “darpariaeth ddysgu ychwanegol” (“additional learning provision”) yr ystyr a roddir gan adran 3 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2);

  • ystyr “darparwr addysg drydyddol yng Nghymru” (“tertiary education provider in Wales”) yw sefydliad sy’n darparu addysg drydyddol, gan gynnwys addysg drydyddol a ddarperir ar ei ran, y cynhelir ei weithgareddau yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;

  • ystyr “darparwr cofrestredig” (“registered provider”) yw darparwr addysg drydyddol sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr; ac mae cyfeiriadau at “cofrestru” (“registration”) i’w darllen yn unol â hynny;

  • ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir o dan adran 25;

  • ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;

  • mae “sefydliad” (“institution”) yn cynnwys unrhyw ddarparwr hyfforddiant (pa un a fyddai’r darparwr hyfforddiant fel arall yn cael ei ystyried yn sefydliad ai peidio);

  • ystyr “swyddogaethau” (“functions”) yw pwerau a dyletswyddau;

  • mae i “undeb llafur” yr ystyr a roddir i “trade union” gan Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52);

  • mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56);

  • ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, neu ysgol arbennig gymunedol.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at addysg bellach yn gyfeiriadau at addysg (ac eithrio addysg uwch) sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol a gweithgaredd amser hamdden wedi ei drefnu sy’n gysylltiedig ag addysg o’r fath.

(3)Yn unol â hynny, at ddibenion y Ddeddf hon, mae addysg bellach yn cynnwys addysg sy’n addas i ofynion disgyblion dros yr oedran ysgol gorfodol ond o dan 19 oed a ddarperir mewn ysgol y darperir addysg uwchradd ynddi hefyd.

(4)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at hyfforddiant yn gyfeiriadau at hyfforddiant sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol a gweithgaredd amser hamdden wedi ei drefnu sy’n gysylltiedig â hyfforddiant o’r fath.

(5)At ddibenion is-adrannau (2) a (4)—

(a)mae addysg yn cynnwys addysg lawn-amser a rhan-amser;

(b)mae hyfforddiant yn cynnwys hyfforddiant llawn-amser a rhan-amser;

(c)mae hyfforddiant yn cynnwys hyfforddiant galwedigaethol, cymdeithasol, corfforol a hamdden.

(6)Yn y Ddeddf hon—

(a)mae cyfeiriadau at sefydliadau o fewn y sector addysg bellach yn gyfeiriadau at “institutions within the further education sector” sy’n dod o fewn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), a

(b)mae cyfeiriadau at sefydliadau o fewn y sector addysg uwch yn gyfeiriadau at “institutions within the higher education sector” sy’n dod o fewn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.

(7)Mae is-adrannau (2) a (3) o adran 8 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) yn gymwys i benderfynu, at ddibenion y Ddeddf hon, a yw person o’r oedran ysgol gorfodol, i’r graddau y mae’r adran honno yn gymwys o ran Cymru.

(8)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon (sut bynnag y’u mynegir) at ddarparu addysg drydyddol gan, neu ar ran, darparwr addysg drydyddol yng Nghymru (gan gynnwys darparwr cofrestredig neu ddarparwr penodedig) yn cynnwys cyrsiau addysg drydyddol a ddarperir—

(a)mewn un neu ragor o leoedd yng Nghymru neu mewn mannau eraill,

(b)drwy gyfrwng gohebiaeth, offer neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle (pa un ai yng Nghymru neu mewn mannau eraill) i gymryd rhan yn yr addysg drydyddol, neu

(c)drwy gyfuniad o’r ffyrdd a ddisgrifir ym mharagraffau (a) a (b).

(9)Yn is-adran (1), ystyr “darparwr hyfforddiant” yw person sy’n darparu hyfforddiant ar gyfer aelodau o weithlu’r ysgol (o fewn yr ystyr a roddir i “member of the school workforce” gan adran 100 o Ddeddf Addysg 2005 (p. 18)).

(10)At ddibenion y Ddeddf hon, mae addysg drydyddol a ddarperir y tu allan i Gymru i’w thrin fel pe bai wedi ei darparu yng Nghymru os y’i darperir fel rhan o gwrs a ddarperir yn bennaf yng Nghymru.

145Pŵer i ddarparu i’r Brifysgol Agored gael ei thrin fel darparwr addysg drydyddol yng Nghymru

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu i’r Brifysgol Agored gael ei thrin fel darparwr addysg drydyddol yng Nghymru at ddiben unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu unrhyw ddarpariaeth a wneir odani.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) addasu effaith darpariaeth yn y Ddeddf hon, neu ddarpariaeth a wneir odani, i’r graddau y mae’n gymwys i’r Brifysgol Agored, pa un ai fel darparwr addysg drydyddol yng Nghymru neu fel darparwr cofrestredig (os daw’n un).

146Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt, drwy reoliadau, wneud—

(a)darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf hon).

147Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Mae Atodlen 4 yn gwneud mân ddarpariaethau a darpariaethau o ganlyniad i’r Ddeddf hon.

148Dod i rym

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)adrannau 143 i 146;

(b)yr adran hon;

(c)adran 149.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth i rym a ddygir i rym drwy’r gorchymyn.

149Enw byr

(1)Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.

(2)Mae’r Ddeddf hon i’w chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill