Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

(a gyflwynir gan adran 1)

ATODLEN 1Y COMISIWN ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL

This Atodlen has no associated Nodiadau Esboniadol

Statws

1Nid yw’r Comisiwn i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac ychwaith i’w ystyried yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

Aelodaeth

2(1)Aelodau’r Comisiwn yw—

(a)y person a benodir gan Weinidogion Cymru i gadeirio’r Comisiwn (“y cadeirydd”);

(b)y person a benodir gan Weinidogion Cymru yn gadeirydd y PYA o dan baragraff 12(1) sydd i fod yn ddirprwy gadeirydd y Comisiwn;

(c)o leiaf 4 a dim mwy na 14 o bersonau eraill a benodir gan Weinidogion Cymru o dan y paragraff hwn (“aelodau arferol”);

(d)y person a benodir o dan baragraff 10 yn brif weithredwr y Comisiwn (“y prif weithredwr”).

(2)Wrth benodi’r cadeirydd a’r aelodau arferol rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ddymunoldeb sicrhau bod gan aelodau’r Comisiwn (rhyngddynt) brofiad o’r canlynol, a’u bod wedi dangos gallu o ran y canlynol—

(a)darparu addysg neu hyfforddiant;

(b)gwneud neu weinyddu ymchwil;

(c)materion diwydiannol, masnachol neu ariannol neu arfer unrhyw broffesiwn;

(d)hybu anghenion dysgwyr mewn addysg drydyddol.

(e)darparu addysg neu hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg neu hybu addysg neu hyfforddiant o’r fath.

Y cadeirydd a’r aelodau arferol

3(1)Mae’r cadeirydd a’r aelodau arferol yn dal swydd ac yn ymadael â swydd yn unol â thelerau ac amodau eu penodiad.

(2)Mae’r telerau a’r amodau hynny i’w penderfynu gan Weinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Atodlen hon.

(3)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn gadeirydd neu’n aelod arferol os yw’r person—

(a)yn Aelod o’r Senedd;

(b)yn aelod o Dŷ’r Cyffredin;

(c)yn aelod o gorff llywodraethu darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg bellach;

(d)yn aelod o gorff llywodraethu darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg uwch.

(4)Mae person sy’n dod yn anghymwys yn peidio â dal swydd cadeirydd neu aelod arferol.

(5)Mae’r cadeirydd ac aelodau arferol i’w penodi am gyfnod o hyd at 5 mlynedd.

(6)Caniateir i berson sydd wedi dal swydd cadeirydd neu aelod arferol gael ei ailbenodi.

(7)Caiff y cadeirydd neu aelod arferol ymddiswyddo o’i swydd drwy roi hysbysiad i Weinidogion Cymru ac i’r Comisiwn.

(8)Caiff y Comisiwn, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, dalu neu wneud darpariaeth ar gyfer talu tâl, lwfansau a phensiwn i berson sy’n gadeirydd neu’n aelod arferol neu sydd wedi bod yn gadeirydd neu’n aelod arferol, neu mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

(9)Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad i’r cadeirydd, i’r dirprwy gadeirydd neu i aelod arferol ddiswyddo’r person hwnnw os ydynt wedi eu bodloni nad yw’r person yn gallu cyflawni swyddogaethau’r swydd, neu ei fod yn anaddas i’w cyflawni, neu ei fod fel arall yn methu â’u cyflawni.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad i’r cadeirydd, i’r dirprwy gadeirydd neu i aelod arferol atal y person hwnnw dros dro o’i swydd, os yw’n ymddangos iddynt y gall fod sail dros arfer y pŵer yn is-baragraff (9).

(11)Mae ataliad dros dro drwy hysbysiad o dan is-baragraff (10) yn cael effaith—

(a)am gyfnod a bennir yn yr hysbysiad, neu

(b)os na phennir cyfnod yn yr hysbysiad, hyd nes y rhoddir hysbysiad pellach gan Weinidogion Cymru i’r person sydd wedi ei atal dros dro.

(12)Mae person a ddiswyddwyd yn ddirprwy gadeirydd hefyd yn peidio â dal swydd cadeirydd y PYA.

(13)Mae person sydd wedi ei atal dros dro o’i swydd fel dirprwy gadeirydd hefyd wedi ei atal dros dro o’i swydd fel cadeirydd y PYA.

Aelodaeth gyswllt

4(1)Aelodau cyswllt y Comisiwn yw—

(a)o leiaf ddau berson a benodir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 5 i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol ehangach (“aelodau cyswllt y gweithlu”), pan fo o leiaf un wedi ei benodi i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol academaidd ac o leiaf un wedi ei benodi i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol anacademaidd;

(b)pan fo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan y Comisiwn, berson a benodir yn unol â pharagraff 6 i gynrychioli staff y Comisiwn (“aelod cyswllt staff y Comisiwn”);

(c)o leiaf un person a benodir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 7 i gynrychioli dysgwyr mewn addysg drydyddol (“aelod cyswllt y dysgwyr”).‍

(2)Yn y paragraff hwn a pharagraff 6, mae i “cydnabod”, mewn perthynas ag undeb llafur, yr ystyr a roddir i “recognised” gan Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992.

Penodi aelodau cyswllt y gweithlu

5(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—

(a)rhestr o un neu ragor o undebau llafur at ddiben penodi aelodau cyswllt y gweithlu i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol academaidd, a

(b)rhestr o un neu ragor o undebau llafur at ddiben penodi aelodau cyswllt y gweithlu i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol anacademaidd.

(2)Cyn cyhoeddi rhestr (gan gynnwys rhestr sy’n disodli rhestr arall) o dan is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—

(a)â’r Comisiwn, a

(b)ag unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(3)Mae is-baragraff (4) yn gymwys os nad oes neb yn dal swydd aelod cyswllt y gweithlu i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol academaidd.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru wahodd pob un o’r undebau llafur ar y rhestr a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan is-baragraff (1)(a) i enwebu ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y gweithlu i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol academaidd.

(5)Mae is-baragraff (6) yn gymwys os nad oes neb yn dal swydd aelod cyswllt y gweithlu i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol anacademaidd.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru wahodd pob un o’r undebau llafur ar y rhestr a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan is-baragraff (1)(b) i enwebu ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y gweithlu i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol anacademaidd.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r cyfnod y mae enwebiad o dan is-baragraff (4) neu (6) i’w wneud ynddo.

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi o leiaf un person, o blith yr ymgeiswyr cymwys a enwebir yn ystod y cyfnod a bennir o dan is-baragraff (7), yn aelod cyswllt y gweithlu i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol academaidd.

(9)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi o leiaf un person, o blith yr ymgeiswyr cymwys a enwebir yn ystod y cyfnod a bennir o dan is-baragraff (7), yn aelod cyswllt y gweithlu i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol anacademaidd.

(10)Nid yw person yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y gweithlu i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol academaidd ond os yw’r person—

(a)wedi ei gyflogi gan berson sy’n darparu addysg drydyddol yng Nghymru, a

(b)yn aelod o undeb llafur ar y rhestr a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan is-baragraff (1)(a).

(11)Nid yw person yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y gweithlu i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol anacademaidd ond os yw’r person—

(a)wedi ei gyflogi gan berson sy’n darparu addysg drydyddol yng Nghymru, a

(b)yn aelod o undeb llafur ar y rhestr a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan is-baragraff (1)(b).

Penodi aelod cyswllt staff y Comisiwn

6(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan—

(a)bo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan y Comisiwn, a

(b)bo swydd aelod cyswllt staff y Comisiwn yn wag.

(2)Rhaid i bwyllgor penodi aelod y staff (gweler paragraff 11(5)) wahodd pob un o’r undebau llafur a gydnabyddir gan y Comisiwn i enwebu ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt staff y Comisiwn.

(3)Rhaid i bwyllgor penodi aelod y staff bennu’r cyfnod y mae enwebiad i’w wneud ynddo.

(4)Rhaid i bwyllgor penodi aelod y staff benodi person, o blith yr ymgeiswyr cymwys a enwebir yn ystod y cyfnod a bennir o dan is-baragraff (3), yn aelod cyswllt staff y Comisiwn.

(5)Nid yw person yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt staff y Comisiwn ond os yw’r person—

(a)wedi ei gyflogi gan y Comisiwn, a

(b)yn aelod o undeb llafur a gydnabyddir gan y Comisiwn.

Penodi aelod cyswllt y dysgwyr

7(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi rhestr o un neu ragor o gyrff (pa un a ydynt yn gorfforedig neu’n anghorfforedig) y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau dysgwyr sy’n ymgymryd ag addysg drydyddol yng Nghymru at ddiben penodi aelod cyswllt y dysgwyr.

(2)Cyn cyhoeddi rhestr (gan gynnwys rhestr sy’n disodli rhestr arall) o dan is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—

(a)â’r Comisiwn, a

(b)ag unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(3)Mae is-baragraff (4) yn gymwys os nad oes neb yn dal swydd aelod cyswllt y dysgwyr.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru wahodd pob un o’r cyrff ar y rhestr a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan is-baragraff (1) i enwebu ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y dysgwyr.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r cyfnod y mae enwebiad o dan is-baragraff (4) i’w wneud ynddo.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi person, o blith yr ymgeiswyr cymwys a enwebir yn ystod y cyfnod a bennir o dan is-baragraff (5), yn aelod cyswllt y dysgwyr.

(7)Nid yw person yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y dysgwyr ond os yw’r person—

(a)wedi bod yn ddysgwr a oedd yn ymgymryd ag addysg drydyddol ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 3 blynedd sy’n dod i ben ar ddiwrnod y penodiad, a

(b)yn dal swydd neu unrhyw fath o aelodaeth o gorff ar y rhestr a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan is-baragraff (1).

Telerau aelodaeth gyswllt etc.

8(1)Nid yw aelod cyswllt yn gymwys i bleidleisio yn unrhyw drafodion gan y Comisiwn.

(2)Mae aelod cyswllt y gweithlu ac aelod cyswllt y dysgwyr yn dal swydd ac yn ymadael â swydd yn unol â thelerau ac amodau ei benodiad.

(3)Mae’r telerau a’r amodau hynny i’w penderfynu gan Weinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Atodlen hon.

(4)Mae aelod cyswllt staff y Comisiwn yn dal swydd ac yn ymadael â swydd yn unol â thelerau ac amodau ei benodiad.

(5)Mae’r telerau a’r amodau hynny i’w penderfynu gan bwyllgor penodi aelod y staff, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Atodlen hon.

(6)Ni chaiff cyfnod y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod cyswllt fod yn hwy na 4 blynedd.

(7)Caniateir i berson sydd wedi dal swydd fel aelod cyswllt gael ei ailbenodi’n aelod cyswllt (ac mae is-baragraff (6) yn gymwys mewn perthynas â’r penodiad).

(8)Caiff aelod cyswllt y gweithlu ac aelod cyswllt y dysgwyr ymddiswyddo drwy roi hysbysiad i Weinidogion Cymru ac i’r cadeirydd.

(9)Caiff aelod cyswllt staff y Comisiwn ymddiswyddo drwy roi hysbysiad i bwyllgor penodi aelod y staff.

(10)Caiff y Comisiwn, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, dalu treuliau a lwfansau i aelod cyswllt.

Diswyddo aelod cyswllt

9(1)Caiff y penderfynwr perthnasol drwy hysbysiad i aelod cyswllt ddiswyddo’r person hwnnw, os yw wedi ei fodloni nad yw’r person yn gallu cyflawni swyddogaethau’r swydd, neu ei fod yn anaddas i’w cyflawni, neu ei fod fel arall yn methu â’u cyflawni.

(2)Caiff y penderfynwr perthnasol drwy hysbysiad i aelod cyswllt atal y person hwnnw dros dro o’i swydd, os yw’n ymddangos i’r penderfynwr perthnasol y gall fod sail dros arfer y pŵer yn is-baragraff (1).

(3)Mae ataliad dros dro drwy hysbysiad o dan is-baragraff (2) yn cael effaith—

(a)am gyfnod a bennir yn yr hysbysiad, neu

(b)os na phennir cyfnod yn yr hysbysiad, hyd nes y rhoddir hysbysiad pellach gan y penderfynwr perthnasol i’r person sydd wedi ei atal dros dro.

(4)Yn y paragraff hwn, “y penderfynwr perthnasol” yw—

(a)Gweinidogion Cymru, pan fo’r aelod cyswllt yn aelod cyswllt y gweithlu neu’n aelod cyswllt y dysgwyr;

(b)pwyllgor penodi aelod y staff, pan fo’r aelod cyswllt yn aelod cyswllt staff y Comisiwn.

(5)Mae aelod cyswllt yn peidio â dal swydd os yw’r aelod yn peidio â bod yn ymgeisydd cymwys i’w benodi i’r math o aelodaeth gyswllt y’i penodwyd iddo (gweler paragraff 5(10) ac (11), paragraff 6(5) a pharagraff 7(7)).

Y prif weithredwr a staff eraill

10(1)Mae’r person cyntaf a benodir yn brif weithredwr y Comisiwn i’w benodi gan Weinidogion Cymru—

(a)ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys amodau o ran tâl, lwfansau a phensiwn) a benderfynir gan Weinidogion Cymru, a

(b)am gyfnod o hyd at 4 blynedd.

(2)Y Comisiwn sydd i benodi (neu ailbenodi) person yn brif weithredwr wedi hynny, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(3)Ni chaniateir i berson gael ei benodi yn brif weithredwr os yw’r person—

(a)yn Aelod o’r Senedd;

(b)yn aelod o Dŷ’r Cyffredin;

(c)yn aelod o gorff llywodraethu darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg bellach;

(d)yn aelod o gorff llywodraethu darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg uwch.

(4)Mae’r prif weithredwr yn aelod o staff y Comisiwn.

(5)Caiff y Comisiwn benodi aelodau eraill o staff.

(6)Ac eithrio mewn perthynas â’r person cyntaf a benodir yn brif weithredwr o dan is-baragraff (1), mae’r canlynol i’w benderfynu gan y Comisiwn, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru—

(a)telerau ac amodau ei staff (gan gynnwys tâl a lwfansau);

(b)talu neu wneud darpariaeth ar gyfer talu pensiwn i aelod o’i staff neu gyn-aelod o’i staff, neu mewn cysylltiad ag ef.

(7)Nid yw gwasanaeth fel aelod o staff y Comisiwn yn wasanaeth yng ngwasanaeth sifil y Wladwriaeth.

Y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi, y Pwyllgor Ansawdd a phwyllgorau eraill

11(1)Bydd gan y Comisiwn bwyllgor o’r enw y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi (“y PYA”) at ddiben cynghori’r Comisiwn ar‍ faterion sy’n ymwneud ag ymchwil ac arloesi.

(2)Am ddarpariaeth o ran cadeirydd y PYA, gweler paragraff 12.

(3)Rhaid i’r Comisiwn sefydlu pwyllgor (“y Pwyllgor Ansawdd”) at ddiben cynghori’r Comisiwn ar ansawdd yr holl addysg drydyddol a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo.

(4)Rhaid i’r Comisiwn benodi un o’i aelodau arferol i gadeirio cyfarfodydd y Pwyllgor Ansawdd.

(5)Rhaid i’r Comisiwn sefydlu pwyllgor sydd wedi ei gyfansoddi o’r cadeirydd a’r aelodau arferol i fod yn bwyllgor penodi aelod y staff.

(6)Caiff y Comisiwn sefydlu pwyllgorau eraill.

(7)Caiff y PYA, y Pwyllgor Ansawdd neu bwyllgor arall a sefydlir o dan is-baragraff (6)—

(a)sefydlu is-bwyllgorau;

(b)diddymu is-bwyllgorau a sefydlir ganddo.

(8)Caiff y Comisiwn hefyd ddiddymu is-bwyllgorau a sefydlir o dan is-baragraff (7).

(9)Caiff aelodau’r PYA, y Pwyllgor Ansawdd neu bwyllgor arall a sefydlir o dan is-baragraff (6) neu is-bwyllgor a sefydlir o dan is-baragraff (7) gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o’r Comisiwn.

(10)Caiff y Comisiwn dalu tâl a lwfansau i unrhyw berson—

(a)sy’n aelod o’r PYA, y Pwyllgor Ansawdd neu bwyllgor arall a sefydlir o dan is-baragraff (6) neu is-bwyllgor a sefydlir o dan is-baragraff (7), ond

(b)nad yw’n aelod o’r Comisiwn nac yn aelod o’i staff.

Cadeirydd y PYA

12(1)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi person i gadeirio’r PYA (“cadeirydd y PYA”).

(2)Mae cadeirydd y PYA yn dal swydd ac yn ymadael â swydd yn unol â thelerau ac amodau’r penodiad.

(3)Mae’r telerau a’r amodau hynny i’w penderfynu gan Weinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Atodlen hon.

(4)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn gadeirydd y PYA os yw’r person—

(a)yn Aelod o’r Senedd;

(b)yn aelod o Dŷ’r Cyffredin;

(c)yn aelod o gorff llywodraethu darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg bellach;

(d)yn aelod o gorff llywodraethu darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg uwch.

(5)Mae person sy’n dod yn anghymwys yn peidio â dal swydd cadeirydd y PYA.

(6)Mae cadeirydd y PYA i’w benodi am gyfnod o hyd at 5 mlynedd.

(7)Caniateir i berson sydd wedi dal swydd cadeirydd y PYA gael ei ailbenodi.

(8)Caiff cadeirydd y PYA ymddiswyddo o’i swydd ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad i Weinidogion Cymru ac i’r Comisiwn.

(9)Caiff y Comisiwn, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, dalu neu wneud darpariaeth ar gyfer talu tâl, lwfansau a phensiwn i berson sy’n gadeirydd y PYA neu sydd wedi bod yn gadeirydd y PYA, neu mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad i gadeirydd y PYA, ddiswyddo’r cadeirydd os ydynt wedi eu bodloni nad yw’r cadeirydd yn gallu cyflawni swyddogaethau’r swydd, neu ei fod yn anaddas i’w cyflawni, neu ei fod fel arall yn methu â’u cyflawni.

(11)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad i gadeirydd y PYA, atal y cadeirydd dros dro o’i swydd os yw’n ymddangos iddynt y gall fod sail dros arfer y pŵer yn is-baragraff (10).

(12)Mae ataliad dros dro drwy hysbysiad o dan is-baragraff (11) yn cael effaith—

(a)am gyfnod a bennir yn yr hysbysiad, neu

(b)os na phennir cyfnod yn yr hysbysiad, hyd nes y rhoddir hysbysiad pellach gan Weinidogion Cymru i’r cadeirydd.

(13)Mae person sy’n peidio â dal swydd cadeirydd y PYA hefyd yn peidio â dal swydd dirprwy gadeirydd y Comisiwn.

(14)Mae person sydd wedi ei atal dros dro o’i swydd fel cadeirydd y PYA hefyd wedi ei atal dros dro o’i swydd fel dirprwy gadeirydd y Comisiwn.

Cyd-bwyllgorau

13(1)Caiff y Comisiwn, mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau, sefydlu pwyllgor ar y cyd ag unrhyw berson.

(2)Yn yr Atodlen hon, cyfeirir at bwyllgor sydd wedi ei sefydlu o dan o baragraff hwn fel “cyd-bwyllgor”.

(3)Caiff y Comisiwn dalu tâl a lwfansau i unrhyw berson—

(a)sy’n aelod o gyd-bwyllgor, ond

(b)nad yw’n aelod o’r Comisiwn nac yn aelod o’i staff.

Dyletswydd i sicrhau gwerth da

14Rhaid i’r Comisiwn roi sylw i’r angen i sicrhau gwerth da mewn perthynas ag adnoddau ariannol a ddarperir o gronfeydd cyhoeddus.

Cyfrifon ac archwilio

15(1)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a

(b)llunio datganiad o gyfrifon mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff y cyfarwyddydau wneud darpariaeth o ran—

(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y datganiad;

(b)y modd y mae’r wybodaeth i’w chyflwyno;

(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i’w lunio yn unol â hwy;

(d)gwybodaeth ychwanegol sydd i fynd gyda’r datganiad.

(3)Heb fod yn hwyrach na 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon—

(a)i Archwilydd Cyffredinol Cymru, a

(b)i Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio’r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno.

(5)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, cyn i’r cyfnod o 4 mis ddod i ben, osod gerbron Senedd Cymru—

(a)copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad, neu

(b)os nad yw’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, ddatganiad i’r perwyl hwnnw, y mae rhaid iddo gynnwys rhesymau o ran pam y mae hyn yn wir.

(6)Pan fo datganiad wedi ei osod o dan is-baragraff (5)(b), rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol osod copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r cyfnod o 4 mis ddod i ben.

(7)Yn is-baragraffau (5) a (6), ystyr “y cyfnod o 4 mis” yw’r cyfnod o 4 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r datganiad o gyfrifon yn cael ei gyflwyno i Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan is-baragraff (3).

Adroddiadau blynyddol

16(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Comisiwn lunio adroddiad (“yr adroddiad blynyddol”) sy’n—

(a)rhoi manylion am sut y mae’r Comisiwn wedi arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn;

(b)esbonio’r cynnydd y mae’r Comisiwn wedi ei wneud yn ystod y flwyddyn tuag at weithredu ei gynllun strategol sydd wedi ei gymeradwyo o dan adran 15 a’r graddau y mae’r hyn y mae wedi ei wneud yn ystod y flwyddyn wedi ymdrin â blaenoriaethau strategol Gweinidogion Cymru a nodir yn y datganiad a gyhoeddir o dan adran 13;

(c)rhoi manylion am y materion a ganlyn ar gyfer y cyfnod adrodd am addysg Gymraeg, ac sy’n esbonio sut y maent yn cymharu â’r manylion am y materion hynny ar gyfer y 12 mis cyn y cyfnod hwnnw—

(i)y graddau y darparwyd addysg drydyddol yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg, a

(ii)y graddau yr addysgwyd y Gymraeg i bersonau a oedd dros yr oedran ysgol gorfodol yng Nghymru;

(d)rhoi asesiad o ansawdd addysg drydyddol y mae’n ofynnol i’r Comisiwn ei fonitro gan adran 51;

(e)cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol gan adran 80(3) (gwybodaeth am gynaliadwyedd ariannol);

(f)cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol gan adran 107(3) (monitro cyllid ar gyfer ymchwil ac arloesi);

(g)cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol gan adran 126(9) (effeithiolrwydd cynlluniau diogelu dysgwyr);

(h)cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol gan adran 129(8) (effeithiolrwydd y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr);

(i)rhoi manylion am sut y mae corff a ddynodir o dan Atodlen 3 wedi arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn academaidd.

(2)Yn is-baragraff (1)(c), ystyr “cyfnod adrodd am addysg Gymraeg” yw’r cyfnod diweddaraf o 12 mis sy’n gorffen ar 31 Awst y mae gwybodaeth am y materion a nodir yn is-baragraff (1)(c)(i) a (ii) ar gael i’r Comisiwn mewn cysylltiad ag ef.

(3)Caiff yr adroddiad blynyddol gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae’r Comisiwn yn ystyried ei bod yn briodol.

(4)Cyn gynted â phosibl ar ôl llunio’r adroddiad, rhaid i’r Comisiwn anfon copi at Weinidogion Cymru.

(5)Cyn gynted â phosibl ar ôl cael yr adroddiad blynyddol, rhaid i Weinidogion Cymru osod copi ohono gerbron Senedd Cymru.

Ystyr “blwyddyn ariannol” a “blwyddyn academaidd”

17(1)Ym mharagraffau 15 a 16, ystyr “blwyddyn ariannol” yw—

(a)y cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y daw adran 1 i rym ac sy’n gorffen ar y 31 Mawrth dilynol;

(b)wedi hynny, pob cyfnod dilynol o 12 mis.

(2)Ym mharagraff 16, ystyr “blwyddyn academaidd” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n gorffen ar 31 Awst yn y flwyddyn ariannol.

Dirprwyo gan y Comisiwn

18(1)Caiff y Comisiwn ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau—

(a)i aelod o’r Comisiwn neu aelod o’i staff;

(b)i’r PYA, y Pwyllgor Ansawdd neu bwyllgor arall a sefydlir gan y Comisiwn o dan baragraff 11(6), neu is-bwyllgor a sefydlir o dan baragraff 11(7);

(c)i gyd-bwyllgor.

(2)Mae swyddogaeth wedi ei dirprwyo o dan y paragraff hwn i’r graddau ac ar y telerau a benderfynir gan y Comisiwn.

(3)Nid yw dirprwyo swyddogaeth yn effeithio—

(a)ar allu’r Comisiwn i arfer y swyddogaeth;

(b)ar gyfrifoldeb y Comisiwn am arfer y swyddogaeth.

Dirprwyo gan bwyllgorau

19(1)Caiff y PYA, y Pwyllgor Ansawdd neu bwyllgor arall a sefydlir o dan baragraff 11(6) ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau i is-bwyllgor a sefydlir ganddo.

(2)Mae swyddogaeth wedi ei dirprwyo o dan y paragraff hwn i’r graddau ac ar y telerau a benderfynir gan y pwyllgor sy’n dirprwyo’r swyddogaeth.

Trafodion

20(1)Caiff y Comisiwn benderfynu ei weithdrefn ei hunan (gan gynnwys cworwm) a gweithdrefn ei bwyllgorau a’i is-bwyllgorau.

(2)Nid yw’r materion a ganlyn yn effeithio ar ddilysrwydd trafodion y Comisiwn, na thrafodion ei bwyllgorau neu ei is-bwyllgorau, na thrafodion cyd-bwyllgor—

(a)swydd wag nac ataliad dros dro;

(b)penodiad diffygiol.

(3)Ni chaiff person sydd wedi ei atal dros dro o’i swydd o dan yr Atodlen hon gymryd rhan yn nhrafodion y Comisiwn, na thrafodion ei bwyllgorau neu ei is-bwyllgorau, na thrafodion cyd-bwyllgor yn ystod y cyfnod y mae’r ataliad dros dro yn cael effaith.

Cofrestr buddiannau

21(1)Rhaid i’r Comisiwn sefydlu a chynnal cofrestr o fuddiannau ei aelodau.

(2)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi cofnodion a gofnodir yng nghofrestr buddiannau’r aelodau.

Pwerau atodol

22(1)Caiff y Comisiwn wneud unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod—

(a)yn briodol at ddibenion ei swyddogaethau neu mewn cysylltiad â hwy, neu

(b)yn gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol i’w harfer.

(2)Caiff yr Comisiwn (ymhlith pethau eraill)—

(a)caffael neu waredu tir neu eiddo arall;

(b)ymrwymo i gontractau;

(c)buddsoddi symiau;

(d)derbyn rhoddion o arian, tir neu eiddo arall.

(3)Ond ni chaiff y Comisiwn gael benthyg arian heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill