- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
23 Ionawr 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
25 Ionawr 2024
Yn dod i rym
1 Mawrth 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 13(1), 28(1), 36(2) a 37(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2024.
2.—(1) Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y testun Saesneg, ym mhob lle y mae’n digwydd (gan gynnwys y penawdau) yn lle “Fitness to Practice”, rhodder “Fitness to Practise”.
(3) Yn y testun Cymraeg, yn rheoliad 3(1), yn lle’r diffiniad o “Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer” rhodder—
“ystyr “Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer” (“Fitness to Practise Committee”) yw pwyllgor a sefydlwyd o dan reoliad 22;”.
(4) Yn rheoliad 26, ym mharagraff (6)(b), yn lle paragraffau (i) a (ii) rhodder—
“(i)sy’n berson sydd wedi ei gofrestru mewn o leiaf un o’r categorïau cofrestru; a
(ii)sy’n gyflogedig, neu sydd wedi ei gymryd ymlaen ac eithrio o dan gontract cyflogaeth, mewn o leiaf un o’r swyddi a ddisgrifir yn y categorïau cofrestru ar y dyddiad y penodir yr aelod hwnnw sy’n berson cofrestredig i’r Pwyllgor.”
(5) Yn rheoliad 45, ym mharagraff (3)(b), yn lle “(1)” rhodder “(2)”.
(6) Ym mharagraff 21 o Ran 1 o Atodlen 2, ar ôl “142” mewnosoder “neu adran 167A”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
23 Ionawr 2024
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”). Mae adrannau 26 i 32 o Ddeddf 2014 yn rhoi swyddogaethau disgyblu i’r Cyngor mewn perthynas â phersonau sydd wedi eu cofrestru yn y gofrestr a gynhelir gan y Cyngor (“person cofrestredig”).
Mae Rhan 5 o Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 (“y Prif Reoliadau”) yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â swyddogaethau disgyblu’r Cyngor. Yn benodol, mae rheoliad 26 o Ran 5 o’r Prif Reoliadau yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag aelodaeth a gweithdrefn y Pwyllgor Ymchwilio a’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer a sefydlwyd gan y Cyngor. Yn benodol, mae paragraff (1) o reoliad 26 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor benodi aelod sy’n berson cofrestredig i bob un o’r pwyllgorau hynny (“aelod sy’n berson cofrestredig”). Diffinnir aelod sy’n berson cofrestredig ym mharagraff (6)(b) o reoliad 26 i’r Prif Reoliadau.
Mae rheoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio testun Saesneg y Prif Reoliadau er mwyn cywiro gwall gramadegol yn enw’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer. Diwygir enw’r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn y testun Saesneg o’r “Fitness to Practice Committee” i’r “Fitness to Practise Committee”. Mae rheoliad 2(3) o’r Rheoliadau hyn yn cywiro’r un gwall gramadegol yn yr unig gyfeiriad at y Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer yn Saesneg yn nhestun Cymraeg y Prif Reoliadau.
Mae rheoliad 2(4) o’r Rheoliadau hyn yn rhoi diffiniad newydd o aelod sy’n berson cofrestredig yn lle’r diffiniad presennol ym mharagraff (6)(b) o reoliad 26 o’r Prif Reoliadau. Effaith yr amnewidiad hwnnw yw na fydd yn ofyniad mwyach i’r aelod sy’n berson cofrestredig fod wedi ei gofrestru yn yr un categori â’r person cofrestredig sy’n destun yr achos disgyblu. Yn hytrach, dim ond mewn o leiaf un o’r categorïau cofrestru a nodir yn Nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 y mae angen i’r aelod sy’n berson cofrestredig fod wedi ei gofrestru.
Mae rheoliad 2(5) o’r Rheoliadau hyn yn cywiro gwall mewn croesgyfeiriad yn rheoliad 45(3)(b) o’r Prif Reoliadau.
Mae rheoliad 2(6) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio paragraff 21 o Ran 1 o Atodlen 2 i’r Prif Reoliadau er mwyn cynnwys cyfeiriad at adran 167A o Ddeddf Addysg 2002 (gwahardd cymryd rhan yng ngwaith rheoli ysgolion annibynnol).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Llywodraethiant, Trefniadaeth a Derbyniadau i Ysgolion, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu SMED2@llyw.cymru.
O.S. 2015/140 (Cy. 8), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/6 (Cy. 4); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys