Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) (Diwygio) 2024

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 400 (Cy. 72)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) (Diwygio) 2024

Gwnaed

20 Mawrth 2024

Yn dod i rym

1 Ebrill 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(1) i (3) o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (“Deddf 1999”)(1) a pharagraffau 2, 11, 17 ac 20(1)(b) o Atodlen 1 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru, yn unol ag adran 2(4) o Ddeddf 1999, wedi ymgynghori ag—

(a)Cyfoeth Naturiol Cymru,

(b)y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol, diwydiant, amaethyddiaeth a busnesau bach, yn eu trefn, y maent yn ystyried eu bod yn briodol, ac

(c)y cyrff neu’r personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Yn unol ag adran 2(8) o Ddeddf 1999, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) (Diwygio) 2024.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2024.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023(3).

Darpariaeth drosiannol

3.—(1Rhaid i gynhyrchydd sy’n gynhyrchydd mawr at ddibenion y prif Reoliadau sicrhau bod unrhyw adroddiad am ddata ailgylchu a gyflwynir am y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2024 a 1Mehefin 2024 yn cydymffurfio â rhwymedigaethau adrodd am ddata y cynhyrchydd o dan reoliad 17 o’r prif Reoliadau fel y maent wedi eu diwygio gan y Rheoliadau hyn.

(2Pan na fo gan gynhyrchydd mawr ddigon o ddata i adrodd am y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2024 a 1 Ebrill 2024—

(a)nid yw’n ofynnol iddo gyflwyno adroddiad am y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2024 a 1 Ebrill 2024, ond

(b)rhaid iddo gyflwyno adroddiad am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 30 Mehefin 2024 sy’n cydymffurfio â’i rwymedigaethau adrodd am ddata o dan reoliad 17 o’r prif Reoliadau fel y maent wedi eu diwygio gan y Rheoliadau hyn.

Diwygio’r prif Reoliadau

4.  Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 5 i 21.

Diwygio rheoliad 2 (dehongli)

5.  Yn rheoliad 2(1)—

(a)hepgorer y diffiniad o “gwaredu”;

(b)yn y lleoedd priodol, yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—

ystyr “cynhwysydd diod” (“drink container”) yw potel neu gan—

(a)

sy’n cynnwys diod neu a oedd yn cynnwys diod,

(b)

sydd wedi ei gwneud neu wedi ei wneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf o blastig polyethylen tereffthalad (PET), gwydr, dur neu alwminiwm,

(c)

sydd â chynhwysedd o 50 o fililitrau o leiaf ond dim mwy na thri litr o hylif,

(d)

sydd wedi ei chynllunio neu ei gynllunio, neu wedi ei bwriadu neu ei fwriadu, i gael ei selio mewn cyflwr aerglos a dwrglos yn y man cyflenwi i dreuliwr yn y Deyrnas Unedig, ac

(e)

nad yw wedi ei chreu neu ei greu, wedi ei chynllunio neu ei gynllunio nac wedi ei marchnata neu ei farchnata i gael ei hail-lenwi neu ei ail-lenwi na’i hailddefnyddio neu ei ailddefnyddio mewn unrhyw ffordd arall gan unrhyw berson;;

mae i “grŵp o gwmnïau” (“group of companies”) yr ystyr a roddir gan reoliad 11(9)(d);;

ystyr “perchennog cyntaf yn y DU” (“first UK owner”), mewn perthynas â phecynwaith nad yw’n cael ei fewnforio, yw’r person cyntaf sydd wedi ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig sy’n cymryd perchnogaeth o’r pecynwaith hwnnw yn y Deyrnas Unedig;;

(c)yn y diffiniad o “mewnforiwr”—

(i)ym mharagraff (a), hepgorer “wedi ei lenwi”;

(ii)ym mharagraff (b)—

(aa)yn lle “yn bresennol” rhodder “wedi ymsefydlu”;

(bb)ar ôl “person cyntaf” mewnosoder “sydd wedi ymsefydlu”.

Diwygio rheoliad 5 (diod)

6.  Yn rheoliad 5(1), hepgorer “ac eithrio yn rheoliad 12(4),”.

Diwygio rheoliad 6 (pecynwaith a chategorïau o becynwaith)

7.  Yn rheoliad 6—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn is-baragraff (c), yn lle “cynwysyddion” rhodder “pecynwaith cludo na chynwysyddion”;

(ii)yn is-baragraff (d), hepgorer “a ychwanegir”;

(b)ar ôl paragraff (6), mewnosoder—

(7) Pan fo cynhwysydd diod yn cynnwys nifer o gydrannau sydd wedi eu gwneud o wahanol ddeunyddiau—

(a)mae’r cynhwysydd diod i’w drin fel pe bai wedi ei wneud o’r un deunydd â’r gydran sy’n pwyso fwyaf (“y gydran fwyaf”), oni bai bod y gydran fwyaf wedi ei gwneud o wydr;

(b)pan fo’r gydran fwyaf wedi ei gwneud o wydr, mae pob cydran o’r cynhwysydd diod i’w thrin ar wahân at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Amnewid rheoliad 7 (pecynwaith cartref)

8.  Yn lle rheoliad 7 rhodder—

Pecynwaith cartref

7.(1)  Yn y Rheoliadau hyn, “pecynwaith cartref” yw pecynwaith cynradd neu becynwaith cludo nad yw’n becynwaith cynradd nac yn becynwaith cludo sy’n dod o fewn paragraff (2).

(2) Nid yw’r pecynwaith cynradd na’r pecynwaith cludo a ganlyn i’w trin fel pecynwaith cartref—

(a)pecynwaith a gyflenwir i fusnes neu sefydliad cyhoeddus sy’n ddefnyddiwr terfynol y pecynwaith hwnnw;

(b)pecynwaith ar gyfer cynnyrch—

(i)pan fo’r cynnyrch wedi ei gynllunio i’w ddefnyddio gan fusnes neu sefydliad cyhoeddus yn unig, a

(ii)pan nad yw’n rhesymol debygol y bydd y pecynwaith ar gyfer y cynnyrch hwnnw yn cael ei waredu mewn bin cartref na bin cyhoeddus;

(c)pecynwaith a fewnforir i’r Deyrnas Unedig gan fewnforiwr a’i daflu yn y Deyrnas Unedig gan y mewnforiwr hwnnw.

(3) Nid yw pecynwaith i’w drin fel pe bai’n dod o fewn paragraff (2)(a) neu (b) oni bai bod y cynhyrchydd sy’n cyflenwi’r pecynwaith hwnnw yn gallu darparu tystiolaeth—

(a)yn achos paragraff (2)(a), y cyflenwir y pecynwaith i fusnes neu sefydliad cyhoeddus nad yw’n cyflenwi i unrhyw berson arall—

(i)y pecynwaith, neu

(ii)y cynnyrch y mae’r pecynwaith yn ei gynnwys ar ei ffurf becynedig;

(b)yn achos paragraff (2)(b)—

(i)bod y cynnyrch o dan sylw yn bodloni’r gofyniad ym mharagraff (2)(b)(i), a

(ii)bod y pecynwaith ar gyfer y cynnyrch hwnnw yn bodloni’r gofyniad ym mharagraff (2)(b)(ii).

(4) At ddibenion paragraff (2)(b), ystyr “pecynwaith ar gyfer cynnyrch” yw—

(a)pecynwaith a gyflenwir gyda chynnyrch sy’n bodloni’r amodau ym mharagraff (2)(b) (“cynnyrch busnes”), a

(b)pecynwaith nas llanwyd sydd wedi ei wneud i’w ddefnyddio gyda chynnyrch busnes, ar yr amod bod gan gyflenwr y pecynwaith hwnnw dystiolaeth y bydd y pecynwaith yn cael ei ddefnyddio gyda chynnyrch busnes.

(5) At ddibenion paragraff (3)(a)(ii), mae cynnyrch i’w drin fel pe bai’n cael ei gyflenwi ar ei ffurf becynedig oni bai bod yr holl becynwaith wedi ei dynnu ymaith o’r cynnyrch cyn ei gyflenwi i ddefnyddiwr terfynol y cynnyrch hwnnw.

(6) At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 7A, mae’r sefydliadau a’r personau a ganlyn i’w trin fel sefydliadau cyhoeddus—

(a)ysgol, prifysgol, neu sefydliad addysgol arall;

(b)ysbyty neu bractis ymarferydd meddygol cyffredinol neu ddeintydd;

(c)cartref nyrsio neu gartref preswyl arall;

(d)adran o’r llywodraeth;

(e)awdurdod perthnasol;

(f)llys neu dribiwnlys;

(g)person sydd wedi ei sefydlu neu ei benodi gan neu o dan unrhyw ddeddfiad sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus;

(h)elusen neu gorff nid-er-elw arall;

(i)sefydliad cosbi.

(7) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “corff nid-er-elw” (“not for profit body”) yw corff—

(a)

y mae’n ofynnol iddo (ar ôl iddo dalu alldaliadau), yn rhinwedd ei gyfansoddiad neu unrhyw ddeddfiad, gymhwyso’r cyfan o’i incwm, ac unrhyw gyfalaf y mae’n ei wario, at ddibenion elusennol neu gyhoeddus, a

(b)

sydd wedi ei wahardd, yn rhinwedd ei gyfansoddiad neu unrhyw ddeddfiad, rhag dosbarthu unrhyw ran o’i asedau yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ymhlith ei aelodau ac eithrio at ddibenion elusennol neu gyhoeddus;

ystyr “deintydd” (“dentist”) yw person sydd wedi ei gofrestru ar y gofrestr o ddeintyddion a gedwir o dan adran 14(1) o Ddeddf Deintyddion 1984(4);

ystyr “ymarferydd meddygol cyffredinol” (“general medical practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestru ar y Gofrestr Ymarferwyr Cyffredinol a gedwir gan y Cyngor Cyffredinol o dan adran 34C o Ddeddf Meddygaeth 1983(5).

(8) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 7A—

(a)ystyr “bin cartref” yw cynhwysydd sydd wedi ei gynllunio i gasglu deunydd gwastraff o gartref nad yw’n fusnes nac yn sefydliad cyhoeddus;

(b)ystyr “bin cyhoeddus” yw cynhwysydd—

(i)a gynhelir gan awdurdod perthnasol mewn stryd neu fan cyhoeddus, a

(ii)sydd wedi ei gynllunio i gasglu deunydd gwastraff.

Mewnosod rheoliad newydd 7A (canllawiau CNC)

9.  Ar ôl rheoliad 7 (pecynwaith cartref), mewnosoder—

Canllawiau CNC

7A.(1)  Rhaid i CNC ddarparu canllawiau at ddibenion rheoliad 7 (pecynwaith cartref)—

(a)ar y dystiolaeth y caiff cynhyrchydd ei defnyddio i ddangos bod pecynwaith cynradd neu becynwaith cludo yn cael ei gyflenwi i fusnes neu sefydliad cyhoeddus sydd, yn y naill achos neu’r llall, yn ddefnyddiwr terfynol y pecynwaith;

(b)ynghylch pan fydd—

(i)cynnyrch i’w drin fel pe bai wedi ei gynllunio i’w ddefnyddio gan fusnes neu sefydliad cyhoeddus yn unig, a

(ii)pecynwaith ar gyfer y cynnyrch hwnnw i’w drin fel pecynwaith nad yw’n rhesymol debygol o gael ei waredu mewn bin cartref neu fin cyhoeddus.

(2) Caiff CNC ystyried y ffactorau a ganlyn wrth lunio canllawiau o dan baragraff (1)(b)—

(a)maint y pecynwaith;

(b)pwysau’r pecynwaith;

(c)a yw cyflenwi cynnyrch yn ddarostyngedig i gyfyngiadau a osodir gan neu o dan ddeddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth;

(d)pa mor hawdd yw hi i dreuliwr gael gafael ar gynnyrch neu ei becynwaith;

(e)a yw cynnyrch yn debygol o gael ei ddefnyddio gan fusnes mewn cartref;

(f)unrhyw ffactor arall y mae CNC yn ystyried ei fod yn berthnasol.

Diwygio rheoliad 8 (cynhyrchwyr)

10.  Yn rheoliad 8—

(a)yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Mae person yn gynhyrchydd mewn perthynas â’r pecynwaith a bennir yn y rheoliad hwn os yw’n cyflawni yn unrhyw un neu ragor o wledydd y Deyrnas Unedig swyddogaethau un neu ragor o’r canlynol mewn perthynas â phecynwaith, naill ai ar ei ran ei hun, neu drwy asiant yn gweithredu ar ei ran, ac yng nghwrs busnes—

(a)perchennog brand,

(b)paciwr/llanwr,

(c)mewnforiwr neu berchennog cyntaf yn y DU,

(d)dosbarthwr,

(e)gweithredwr marchnadle ar-lein,

(f)darparwr gwasanaeth, neu

(g)gwerthwr.

(1A) Ni chaniateir trin unrhyw berson fel ei fod yn cyflawni un o’r swyddogaethau a restrir ym mharagraff (1) at ddibenion y rheoliad hwn oni bai ei fod wedi ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig.;

(b)ym mharagraff (2)—

(i)yn lle “paragraff (6)”, rhodder “paragraff (5)(b)(iii), (6) neu (7)”;

(ii)yn lle “baragraff (4)”, rhodder “baragraffau (3) a (12A)”;

(c)ym mharagraff (3)—

(i)yn lle “Yn ddarostyngedig i ” rhodder “Oni bai bod paragraff (6) neu (7) yn gymwys, ac yn ddarostyngedig i”;

(ii)yn lle “baragraff (4)” rhodder “baragraff (12A)”;

(iii)ar y diwedd mewnosoder “ac unrhyw becynwaith a gynhwysir yn y pecynwaith hwnnw neu sy’n ffurfio rhan ohono (pa un a yw’r rhan honno o’r pecynwaith wedi ei brandio ai peidio).”;

(d)hepgorer paragraff (4);

(e)ym mharagraff (5), yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)pan fo un (neu ragor) o’r canlynol yn gymwys—

(i)nid oes perchennog brand sydd wedi ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig,

(ii)nid yw’r perchennog brand yn gynhyrchydd mawr, neu

(iii)mae’r unig frand ar y pecynwaith yn ymwneud â’r pecynwaith ac nid â’r cynnyrch sydd wedi ei gynnwys yn y pecynwaith hwnnw.;

(f)yn lle paragraffau (7) ac (8) rhodder—

(7) Mae mewnforiwr (“ME”) yn gynhyrchydd mewn perthynas ag unrhyw becynwaith a fewnforir i’r Deyrnas Unedig y mae paragraff (8) yn gymwys iddo—

(a)y mae’r ME wedi ei fewnforio, a

(b)sydd—

(i)yn becynwaith wedi ei lenwi, neu

(ii)yn becynwaith a daflwyd gan ME yn y Deyrnas Unedig.

(8) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i becynwaith—

(a)nad oes perchennog brand sydd wedi ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig ar ei gyfer,

(b)pan na fo’r perchennog brand yn gyfrifol am fewnforio’r pecynwaith, neu

(c)pan fo’r perchennog brand yn gyfrifol am fewnforio’r pecynwaith, ond nid yw’n gynhyrchydd mawr.;

(g)ar ôl paragraff (8), mewnosoder—

(8A) Mae perchennog cyntaf yn y DU yn gynhyrchydd mewn perthynas ag unrhyw becynwaith—

(a)pan fo’r pecynwaith wedi ei becynnu neu ei lenwi yn y Deyrnas Unedig ar ran person nad yw wedi ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig,

(b)pan, ar yr adeg y mae’n cael ei bacio neu ei lenwi, nad oes unrhyw berson sydd wedi ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig yn berchennog ar y pecynwaith nac wedi bod yn berchennog arno, ac

(c)pan fo’r pecynwaith wedi ei lenwi yn cael ei gyflenwi i’r perchennog cyntaf yn y DU.;

(h)ym mharagraff (9)—

(i)yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)yn cael ei gyflenwi i unrhyw berson, ac eithrio cynhyrchydd mawr sy’n llenwi neu’n pacio’r pecynwaith cyn ei gyflenwi i unrhyw berson arall,;

(ii)yn lle’r geiriau cloi rhodder—

ac eithrio pan mai cynhyrchydd mawr sy’n berchennog brand neu’n baciwr/llanwr yw’r cynhyrchydd mewn perthynas â’r pecynwaith hwnnw o dan baragraff (2), (3), (5) neu (6) ar ôl i’r pecynwaith gael ei lenwi.;

(i)ym mharagraff (12), yn lle “dreuliwr” rhodder “ddefnyddiwr terfynol” ac yn lle “treuliwr” rhodder “defnyddiwr terfynol”;

(j)ar ôl paragraff (12), mewnosoder—

(12A) Pan fo cynhyrchion unigol gwahanol wedi eu grwpio gyda’i gilydd i’w gwerthu fel un uned werthu, rhaid cymhwyso’r rheoliad hwn ar wahân er mwyn pennu cynhyrchydd—

(a)y pecynwaith ar gyfer pob cynnyrch unigol o fewn yr uned werthu, a

(b)y pecynwaith ar gyfer yr uned werthu yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys unrhyw becynwaith o fewn yr uned werthu nad yw’n rhan o becynwaith unrhyw gynnyrch unigol o fewn yr uned werthu honno.

Diwygio rheoliad 10 (cyflenwi)

11.  Yn rheoliad 10—

(a)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Yn y Rheoliadau hyn—

(a)mae perchennog cyntaf yn y DU i’w drin fel pe bai’n “cyflenwi” unrhyw becynwaith—

(i)nad yw wedi ei gyflenwi, o fewn ystyr y Rheoliadau hyn, cyn dod i berchnogaeth y perchennog cyntaf yn y DU, a

(ii)sy’n cael ei daflu gan y perchennog cyntaf yn y DU yn y Deyrnas Unedig;

(b)mae mewnforiwr i’w drin fel pe bai’n “cyflenwi” pecynwaith neu ddeunyddiau pecynwaith y mae’r mewnforiwr yn ei fewnforio neu’n eu mewnforio i’r Deyrnas Unedig ac yn ei daflu neu’n eu taflu yno.;

(b)hepgorer paragraff (3).

Diwygio rheoliad 11 (y meini prawf trothwy ar gyfer cynhyrchwyr mawr a bach)

12.  Yn rheoliad 11(12), yn y diffiniad o “blwyddyn rwymedigaeth”, yn lle “ofynion casglu data neu ofynion casglu ac adrodd am ddata” rhodder “rwymedigaethau casglu data yn unig, neu rwymedigaethau casglu data a rhwymedigaethau adrodd am ddata fel ei gilydd”.

Diwygio rheoliad 12 (pecynwaith esempt)

13.  Yn rheoliad 12—

(a)ym mharagraff (2), yn lle is-baragraff (e) rhodder—

(e)pecynwaith sy’n eitem ernes at ddibenion cynllun ernes perthnasol, ac at y dibenion hyn, mae “eitem ernes” yn cynnwys pecynwaith sy’n eitem cynllun o dan Reoliadau Cynllun Ernes a Dychwelyd yr Alban 2020(6), neu becynwaith y gellir ei ddychwelyd fel y darperir ar ei gyfer mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 84 o Ddeddf Newid Hinsawdd (Yr Alban) 2009(7).;

(b)yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Ym mharagraff (2)(e), ystyr “cynllun ernes perthnasol” yw cynllun ernes sydd—

(a)wedi ei sefydlu—

(i)yn Rheoliadau Cynllun Ernes a Dychwelyd yr Alban 2020, neu

(ii)mewn rheoliadau a wnaed o dan Atodlen 8 i Ddeddf yr Amgylchedd 2021(8), neu o dan adran 84 o Ddeddf Newid Hinsawdd (Yr Alban) 2009, a

(b)yn weithredol mewn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig.;

(c)hepgorer paragraff (5).

Diwygio rheoliad 15 (rhwymedigaethau cynhyrchwyr)

14.  Yn rheoliad 15(1), yn lle “fel y’i diffinnir o dan reoliad 8(1)” rhodder “sydd wedi ymsefydlu yng Nghymru”.

Diwygio rheoliad 16 (rhwymedigaethau casglu data)

15.  Yn rheoliad 16—

(a)ym mharagraff (2)(b)(ii), yn lle “22(1) a (3)” rhodder “22(1) i (4)”;

(b)ym mharagraff (3)(b)(ii), yn lle “22(1) a (3)” rhodder “22(1) i (4)”.

Diwygio rheoliad 17 (rhwymedigaethau adrodd am ddata)

16.  Yn rheoliad 17(1)—

(a)yn is-baragraff (b)—

(i)ar ôl “fewnforiwr” mewnosoder “, yn berchennog cyntaf yn y DU”;

(ii)yn lle “mharagraffau 10(3) a 22” rhodder “mharagraffau 11 i 13, 15, 16 a 22”;

(b)yn is-baragraff (c), yn lle “10 i 16 a 22” rhodder “11 i 13, 15, 16 a 22”.

Mewnosod rheoliad newydd 17A (data ailgylchu)

17.  Ar ôl rheoliad 17 (rhwymedigaethau adrodd am ddata), mewnosoder—

Data ailgylchu

17A.(1) Pan fo gwybodaeth mewn adroddiad a gyflwynir gan gynhyrchydd mawr (“CM”) o dan reoliad 17 mewn perthynas â chyfnod o chwe mis sy’n dod i ben ar neu ar ôl 30 Mehefin 2024 (“adroddiad rheoliad 17”) yn ymwneud â phecynwaith sydd eisoes wedi bod yn ddarostyngedig i rwymedigaeth ailgylchu o dan reoliad 4(4)(b) o Reoliadau 2007 ac Atodlen 2 iddynt (“pecynwaith perthnasol”), caiff CM ddewis cyflwyno adroddiad o dan baragraff (2) o’r rheoliad hwn (“adroddiad rheoliad 17A”).

(2) Rhaid i adroddiad rheoliad 17A ddatgan cyfran y pecynwaith perthnasol y bu’n ofynnol i CM ei ailgylchu o dan Reoliadau 2007 (“P”), a gyfrifir fel a ganlyn—

fformiwla

pan—

(a)

“CP” yw’r swm mewn cilogramau o becynwaith perthnasol sydd wedi ei ystyried yn flaenorol i gyfrifo rhwymedigaethau ailgylchu cynhyrchydd o dan Reoliadau 2007;

(b)

“SP” yw swm canrannau’r pecynwaith hwnnw y mae wedi bod yn ofynnol i unrhyw ddosbarth o gynhyrchydd ei ailgylchu o dan Reoliadau 2007, fel y’i nodir ym mharagraff 4 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny.

(3) Pan fo CM yn dewis cyflwyno adroddiad rheoliad 17A, rhaid i CM gyflwyno’r adroddiad—

(a)ar unrhyw ffurf a gyfarwyddir gan CNC;

(b)ar y dyddiad y mae CM yn cyflwyno adroddiad rheoliad 17 neu unrhyw ddyddiad arall y caiff CNC ei gyfarwyddo.

(4) Pan na chyflwynir adroddiad rheoliad 17A ar yr un dyddiad â’r adroddiad rheoliad 17, rhaid i’r adroddiad rheoliad 17A nodi hefyd y cyfnod casglu data y mae’n ymwneud ag ef.

(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “Rheoliadau 2007” yw Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Pecynwaith) 2007(9).

Diwygio rheoliad 20 (cynlluniau: darpariaethau cyffredinol)

18.  Yn rheoliad 20, ar ôl paragraff (2), mewnosoder—

(3) Rhaid i GC fonitro cywirdeb gwybodaeth a ddarperir gan gynhyrchydd i’r cynllun at ddibenion y rheoliad hwn er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth yn cydymffurfio â’r gofynion yn rheoliad 19(2)(b)(iii).

Mewnosod rheoliad newydd 22A (cyhoeddi rhestr o gynhyrchwyr mawr)

19.  Ar ôl rheoliad 22 (cyhoeddi eitemau a ailgylchir gan awdurdodau perthnasol), mewnosoder—

Cyhoeddi rhestr o gynhyrchwyr mawr

22A.(1)  Rhaid i CNC gyhoeddi ar wefan restr o’r holl gynhyrchwyr mawr (“y rhestr”) sydd wedi adrodd am wybodaeth i CNC o dan reoliad 17 (rhwymedigaethau adrodd am ddata).

(2) Rhaid i gofnod ar gyfer cynhyrchydd mawr ar y rhestr gynnwys—

(a)enw’r cynhyrchydd mawr;

(b)enw busnes y cynhyrchydd mawr os yw’n wahanol i’r enw y cyfeirir ato yn is-baragraff (a);

(c)enw a chyfeiriad swyddfa gofrestredig y cynhyrchydd mawr, neu os nad cwmni ydyw, ei brif swyddfa neu ei brif fan busnes.

(3) Rhaid i’r rhestr gael ei threfnu a’i mynegeio fel y gall aelod o’r cyhoedd chwilio ynddi.

(4) Rhaid i CNC roi gwybodaeth ar y rhestr cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i CNC gael yr wybodaeth.

Diwygio Atodlen 1 (casglu ac adrodd am wybodaeth)

20.  Yn Atodlen 1 (casglu ac adrodd am wybodaeth)—

(a)ym mhennawd Rhan 3 (yr wybodaeth sy’n ofynnol gan berchnogion brand, mewnforwyr, dosbarthwyr a darparwyr gwasanaethau)—

(i)ar ôl “berchnogion brand,” mewnosoder “pacwyr/llanwyr,”;

(ii)ar ôl “mewnforwyr”, mewnosoder “neu berchnogion cyntaf yn y DU”;

(b)ym mharagraff 10—

(i)yn is-baragraff (1)—

(aa)ym mharagraff (a), hepgorer y geiriau o “neu, ar gyfer” hyd at y diwedd;

(bb)ar ôl paragraff (a), mewnosoder—

(aa)pacwyr/llanwyr,;

(cc)ym mharagraff (b), ar ôl “fewnforwyr” mewnosoder “neu’n berchnogion cyntaf yn y DU”;

(ii)ar ôl is-baragraff (1), mewnosoder—

(1A) Ni chaiff cynhyrchydd y mae’n ofynnol gan reoliad 17 (rhwymedigaethau adrodd am ddata) iddo adrodd am wybodaeth yn y Rhan hon—

(a)ond adrodd am yr wybodaeth honno mewn perthynas â phecynwaith y mae’r person hwnnw’n gynhyrchydd ar ei gyfer o ddosbarth a restrir yn is-baragraff (1);

(b)adrodd am unrhyw wybodaeth mewn perthynas ag unrhyw becynwaith nad yw’r cynhyrchydd ond yn cyflawni swyddogaeth gwerthwr neu weithredwr marchnadle ar-lein mewn perthynas ag ef.;

(iii)yn is-baragraff (3)(b), yn lle “yr wybodaeth honno” rhodder “yr wybodaeth a nodir ym mharagraffau 11 i 13, 15, 16 a 22”;

(c)ym mharagraff 13—

(i)hepgorer is-baragraff (2);

(ii)yn lle is-baragraff (3) rhodder—

(3) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â phecynwaith y trinnir mewnforiwr neu berchennog cyntaf yn y DU fel pe bai’n ei gyflenwi o fewn ystyr rheoliad 10(2);;

(d)ym mharagraff 16(2)(a), yn lle “, papur a gwellt” rhodder “a phapur”;

(e)ym mharagraff 17, yn is-baragraffau (a) a (b), ar ôl “a 19” mewnosoder “ar gyfer yr holl becynwaith y maent yn gynhyrchydd mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 8(10)”;

(f)ym mharagraffau 18 a 19, yn lle “gan y cynhyrchydd” rhodder “drwy farchnadle ar-lein a weithredir gan y cynhyrchydd”;

(g)ym mharagraff 20—

(i)ar ddiwedd y geiriau agoriadol mewnosoder “ar gyfer yr holl becynwaith y maent yn gynhyrchydd mewn cysylltiad ag ef, neu, ar gyfer yr wybodaeth ym mharagraff 21, yn gynhyrchydd o ddosbarth a bennir yn y paragraff hwnnw”;

(ii)ar ddiwedd is-baragraff (a) mewnosoder “pan fo’n gymwys”;

(iii)yn lle is-baragraffau (b) ac (c) rhodder—

(b)i gynhyrchwyr mawr, yr wybodaeth ym mharagraffau 21 a 22, pan fo’n gymwys;;

(iv)yn is-baragraff (d), yn lle “22(3)” rhodder “22(2) a (3)”;

(h)ym mharagraff 21—

(i)yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “becynwaith a” mewnosoder “fewnforir ac yna a”;

(ii)ar ôl is-baragraff (1)(b), mewnosoder—

(c)yr holl becynwaith y mae’r perchennog yn cymryd perchnogaeth ohono ac wedyn yn ei waredu, pan fydd y cynhyrchydd yn gynhyrchydd cyntaf yn y DU;;

(iii)yn is-baragraff (2)(b), ar ôl “becynwaith trydyddol” mewnosoder “ac sy’n berchnogion cyntaf yn y DU sy’n cael eu trin fel pe baent yn cyflenwi pecynwaith eilaidd neu becynwaith trydyddol”.

Diwygio Atodlen 2 (trwyddedwyr a busnesau gweithredu tafarn)

21.  Ym mharagraff 2(2)(b) o Atodlen 2, yn lle “3 a 4” rhodder “5 a 7”.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

20 Mawrth 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 (“y prif Reoliadau”). Diben y Rheoliadau hyn yw egluro’r rhaniad cyfrifoldebau rhwng perchnogion brand, pacwyr/llanwyr, mewnforwyr a pherchnogion cyntaf yn y DU a dosbarthwyr, a gosod gofyniad ar Gyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) i lunio canllawiau mewn cysylltiad â phecynwaith cartref a chyhoeddi rhestr o gynhyrchwyr mawr. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu nifer o ddiwygiadau amrywiol, gan gynnwys egluro brawddegau a diwygio gwallau teipograffyddol.

Mae rheoliad 2 yn darparu diffiniad o “y prif Reoliadau” at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 3 yn ddarpariaeth drosiannol i ymdrin â’r sefyllfa pan, o ganlyniad i ddiwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn i’r prif Reoliadau, na fydd gan gynhyrchydd mawr ddigon o ddata o bosibl i adrodd ar y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2024 a 1 Ebrill 2024.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 2 (dehongli) o’r prif Reoliadau drwy ddileu’r diffiniad o “gwaredu”, diwygio’r diffiniad o “mewnforiwr”, a chynnwys diffiniadau newydd ar gyfer “cynhwysydd diod”, “perchennog cyntaf yn y DU” a “grŵp o gwmnïau”.

Mae rheoliad 6 yn gwneud mân ddiwygiad i reoliad 5 (diod) o’r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 7 yn gwneud diwygiadau i reoliad 6 (pecynwaith a chategorïau o becynwaith) o’r prif Reoliadau, gan gynnwys mewnosod paragraff newydd (7).

Mae rheoliad 8 yn rhoi rheoliad newydd yn lle rheoliad 7 (pecynwaith cartref) yn y prif Reoliadau.

Mae rheoliad 9 yn mewnosod rheoliad newydd 7A (canllawiau CNC) yn y prif Reoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i CNC ddarparu canllawiau at ddibenion rheoliad 7 (pecynwaith cartref) o’r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 10 yn diwygio’r diffiniad o “cynhyrchydd” yn rheoliad 8 (cynhyrchwyr) o’r prif Reoliadau i estyn ystyr cynhyrchydd i berson sydd wedi ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn cyflwyno’r cysyniad o “perchennog cyntaf yn y DU” ac yn gwneud diwygiadau mewn cysylltiad â pherchnogion brand a phecynwaith wedi ei lenwi, sy’n gysylltiedig ag ystyr cynhyrchwyr at ddibenion y prif Reoliadau.

Mae rheoliad 11 yn diwygio rheoliad 10 (cyflenwi) o’r prif Reoliadau i amnewid y geiriad mewn perthynas â chyflenwi pecynwaith gan berchennog cyntaf yn y DU a mewnforiwr.

Mae rheoliad 12 yn gwneud mân ddiwygiad i reoliad 11 (y meini prawf trothwy ar gyfer cynhyrchwyr mawr a bach) yn y prif Reoliadau.

Mae rheoliad 13 yn diwygio rheoliad 12 (pecynwaith esempt) o’r prif Reoliadau mewn perthynas â rhai cynlluniau dychwelyd ernes.

Mae rheoliad 14 yn gwneud diwygiad canlyniadol i reoliad 15 (rhwymedigaethau cynhyrchwyr) o’r prif Reoliadau yn sgil amnewid paragraffau (1) ac (1A) newydd yn rheoliad 8 o’r prif Reoliadau.

Mae rheoliadau 15 ac 16 yn gwneud mân ddiwygiadau i reoliad 16 (rhwymedigaethau casglu data) a rheoliad 17 (rhwymedigaethau adrodd am ddata), yn y drefn honno, o’r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 17 yn mewnosod rheoliad newydd 17A (data ailgylchu) yn y prif Reoliadau. Mae’r rheoliad newydd hwn yn cyflwyno’r cysyniad o “adroddiad rheoliad 17A” ac yn darparu bod cynhyrchwyr mawr sy’n bodloni meini prawf penodol yn cael dewis cyflwyno naill ai adroddiad “rheoliad 17” neu adroddiad “rheoliad 17A” er mwyn cyflawni eu rhwymedigaethau adrodd am ddata.

Mae rheoliad 18 yn gwneud mân ddiwygiad i reoliad 20 (cynlluniau: darpariaethau cyffredinol) o’r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 19 yn mewnosod rheoliad newydd 22A (cyhoeddi rhestr o gynhyrchwyr mawr) yn y prif Reoliadau. Mae hwn yn gosod dyletswydd ar CNC i gyhoeddi rhestr o’r holl gynhyrchwyr mawr sydd wedi adrodd am wybodaeth o dan reoliad 17 (rhwymedigaethau adrodd am ddata).

Mae rheoliadau 20 ac 21 yn gwneud mân ddiwygiadau i Atodlenni 1 a 2 i’r prif Reoliadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1999 p. 24. Diwygiwyd adran 2 gan O.S. 2013/755 (Cy. 90); mae offeryn diwygio arall nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Diwygiwyd Atodlen 1 gan O.S. 2019/458; mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac eithrio mewn perthynas â chwilio am olew a nwy alltraeth ac elwa arnynt, gan erthygl 3(1) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2005 (O.S. 2005/1958). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(2)

Mae’r cyfeiriad yn adran 2(8) at gymeradwyaeth gan ddau Dŷ Senedd y DU yn cael effaith mewn perthynas ag arfer swyddogaethau gan Weinidogion Cymru fel pe bai’n gyfeiriad at gymeradwyaeth gan Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 33 o Atodlen 11 iddi.

(4)

1984 p. 24; diwygiwyd adran 14(1) gan O.S. 2005/2011; mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(5)

1983 p. 54. Mewnosodwyd adran 34C gan baragraff 10 o Atodlen 1 i O.S. 2010/234.

(6)

O.S.A. 2020/154, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2022/76, 2023/201 a 2023/334. Mae i “eitem cynllun” yr ystyr a roddir i “scheme article” gan reoliad 3(2) o O.S.A. 2020/154.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill