- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gwnaed
15 Ionawr 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
17 Ionawr 2024
Yn dod i rym
1 Ebrill 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraff 6(1)(b) a (2) o Atodlen 4ZA i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Rhwydweithiau Gwresogi) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2024.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
2. At ddibenion paragraff 6 o Atodlen 4ZA i’r Ddeddf, ac at ddibenion rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn, ystyr “rhwydwaith gwresogi” yw cyfleuster sy’n cyflenwi ynni thermol o ffynhonnell ganolog at ddibenion—
(a)gwresogi gofod,
(b)oeri gofod, neu
(c)gwresogi dŵr domestig.
3.—(1) Yr amodau sydd i’w bodloni at ddibenion paragraff 6(1)(b) o Atodlen 4ZA i’r Ddeddf yw, am y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef sydd o dan sylw, ei bod yn ymddangos i’r awdurdod bilio y mae’r rhwydwaith gwresogi yn ei ardal y bydd yr ynni thermol a gyflenwir gan y rhwydwaith gwresogi yn cael ei gynhyrchu o ffynhonnell garbon isel.
(2) Caiff y ffynhonnell garbon isel fod ar yr hereditament o dan sylw neu ar hereditament gwahanol.
(3) Yn y rheoliad hwn—
mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” gan adran 144(2) o’r Ddeddf;
mae i “diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef” yr ystyr a roddir i “chargeable day” gan adran 43(3) o’r Ddeddf;
ystyr “ffynhonnell garbon isel” (“low-carbon source”) yw ffynhonnell sy’n cynhyrchu ynni thermol y mae’r canlynol yn wir amdano—
mae o leiaf 75% ohono yn wres a gydgynhyrchir,
mae o leiaf 50% ohono yn wres adnewyddadwy,
mae o leiaf 50% ohono yn wres gwastraff, neu
mae o leiaf 75% ohono yn gyfuniad o wres adnewyddadwy, gwres gwastraff neu wres a gydgynhyrchir;
ystyr “gwres adnewyddadwy” (“renewable heat”) yw ynni thermol a gynhyrchir gan beiriannau a pheirianwaith ynni adnewyddadwy a eithrir, fel y’u diffinnir ym mharagraff (d) yn Nosbarth 1 o’r Atodlen i Reoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000(2);
ystyr “gwres a gydgynhyrchir” (“cogenerated heat”) yw ynni thermol a gynhyrchir yn yr un broses ac ar yr un pryd ag ynni trydanol neu ynni mecanyddol;
ystyr “gwres gwastraff” (“waste heat”) yw ynni thermol a gynhyrchir yn anochel fel sgil-gynnyrch proses arall ac na fyddai unrhyw ddefnydd iddo heblaw at ddibenion rhwydwaith gwresogi.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
15 Ionawr 2024
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru yn unig, yn rhagnodi amodau sydd i’w bodloni i fod yn gymwys i gael rhyddhad rhwydweithiau gwresogi rhag atebolrwydd am ardrethu annomestig.
Mae rheoliad 2 yn nodi ystyr “rhwydwaith gwresogi” o ran cymhwystra ar gyfer rhyddhad rhwydweithiau gwresogi.
Mae rheoliad 3 yn rhagnodi’r amodau sydd i’w bodloni o dan baragraff 6(1)(b) o Atodlen 4ZA i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1988 p. 41. Mewnosodwyd Atodlen 4ZA gan adran 1 o Ddeddf Ardrethu Annomestig 2023 (p. 53). Gweler paragraff 11 o Atodlen 4ZA am y diffiniad o “the appropriate national authority”. Gweler adran 146(6) am y diffiniad o “prescribed”.
O.S. 2000/1097 (Cy. 75), a ddiwygiwyd gan O.S. 2023/1229 (Cy. 217); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys