Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau’r Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu (Taliadau) (Cymru) 2023

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1303 (Cy. 233)

Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru

Rheoliadau’r Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu (Taliadau) (Cymru) 2023

Gwnaed

1 Rhagfyr 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

5 Rhagfyr 2023

Yn dod i rym

1 Ionawr 2024

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 105B(1), (2)(b) a (3) a 120A(2)(a) a (b) o Ddeddf Adeiladu 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 120C(1)(2) o Ddeddf Adeiladu 1984, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Enwi, cymhwyso a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu (Taliadau) (Cymru) 2023.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2024.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cynllun codi tâl” (“charging scheme”) yw cynllun a wneir o dan reoliad 4(1);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Adeiladu 1984;

ystyr “swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt” (“chargeable functions”) yw’r swyddogaethau a nodir yn rheoliad 3(2).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (1), mae i eiriau ac ymadroddion Cymraeg yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i eiriau ac ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Neddf Adeiladu 1984 yr un ystyr â’r geiriau a’r ymadroddion hynny yn y Ddeddf honno.

Swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt

3.—(1Caiff Gweinidogion Cymru adennill taliadau am gyflawni neu mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt.

(2Mae’r canlynol yn swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt—

(a)penderfynu ar gais i gofrestru person yn arolygydd adeiladu a wneir o dan adran 58D o’r Ddeddf a chynnal y gofrestr o dan adran 58C o’r Ddeddf, gan gynnwys amrywio neu ganslo cofrestriad o dan adran 58E o’r Ddeddf;

(b)penderfynu ar gais i gofrestru person yn gymeradwywr rheolaeth adeiladu a wneir o dan adran 58P o’r Ddeddf a chynnal y gofrestr o dan adran 58O o’r Ddeddf, gan gynnwys amrywio neu ganslo cofrestriad a dan adran 58Q o’r Ddeddf;

(c)camau a gymerir o dan adran 58H(1) (ymchwiliadau camymddwyn proffesiynol) o’r Ddeddf;

(d)camau a gymerir o dan adran 58T(1) (ymchwiliadau i achosion o dorri rheolau ymddygiad proffesiynol) o’r Ddeddf;

(e)camau a gymerir o dan adran 58Z3(1) (ymchwiliadau i achosion o dorri rheolau safonau gweithredol) o’r Ddeddf;

(f)unrhyw gam a gymerir sydd â’r bwriad o wneud y canlynol neu sydd mewn cysylltiad â gwneud y canlynol—

(i)sicrhau cydymffurfedd â Rhan 2A o’r Ddeddf neu ofyniad a osodir oddi tani, neu

(ii)gosod sancsiwn mewn cysylltiad ag achos o dorri Rhan 2A o’r Ddeddf neu ofyniad a osodir oddi tani;

(g)unrhyw gam a gymerir er mwyn ymateb i apêl yn erbyn penderfyniad gan Weinidogion Cymru a wneir o dan Ran 2A o’r Ddeddf;

(h)arolygu awdurdod lleol neu gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu o dan adran 58Z8(1) o’r Ddeddf.

Cynllun codi tâl

4.—(1Rhaid i swm unrhyw dâl sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hyn gael ei bennu gan Weinidogion Cymru yn unol â chynllun a wneir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau, gan gymryd un flwyddyn gydag un arall, fod y taliadau sy’n daladwy o dan y cynllun codi tâl i’r graddau y bo’n bosibl yn cyfateb i’r costau y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddynt wrth gyflawni’r swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt.

(3Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r cynllun codi tâl o bryd i’w gilydd.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r cynllun codi tâl neu unrhyw ddiwygiadau i’r cynllun ar wefan Llywodraeth Cymru o leiaf 7 niwrnod cyn y dyddiad y mae’r cynllun neu’r diwygiad i gael effaith.

Taliadau ar gyfer awdurdodau lleol a’r proffesiwn rheolaeth adeiladu

5.—(1Rhaid i’r person sy’n gwneud y cais dalu’r tâl am gyflawni’r swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt o dan reoliad 3(2)(a) a (b), fel y bo’n gymwys.

(2Rhaid i awdurdod lleol neu gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu, sy’n destun arolygiad o dan adran 58Z8 o’r Ddeddf, dalu’r taliadau sy’n deillio o gyflawni’r swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt o dan reoliad 3(2)(h).

Taliadau am fonitro ac ymyrraeth reoleiddiol i sicrhau cydymffurfedd

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), rhaid i berson dalu’r taliadau sy’n deillio o gyflawni’r swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt o dan reoliad 3(2)(c) i (f) os bydd gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu y gall y person fod yn torri Rhan 2A o’r Ddeddf neu ofyniad a osodir yn rhinwedd Rhan 2A, neu fod y person yn gwneud hynny neu wedi gwneud hynny.

(2Ni chaiff taliadau am gyflawni swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt o dan reoliad 3(2)(c) i (f) gynnwys unrhyw gostau sy’n gysylltiedig ag ymchwiliad troseddol neu erlyniad ac yr eir iddynt, yn y naill achos na’r llall, o’r dyddiad y caiff unrhyw wybodaeth ei gosod gan Weinidogion Cymru.

(3Pan fo taliadau yn daladwy o dan baragraff (1) gan berson sy’n gweithredu yn rhinwedd y ffaith ei fod yn gyflogai, rhaid i gyflogwr y person hwnnw dalu’r taliadau.

(4Nid oes tâl yn daladwy o dan baragraff (1) mewn perthynas ag ymchwiliad o dan adran 58H, 58T neu 58Z3 o’r Ddeddf gan—

(a)arolygydd cofrestredig adeiladu os yw ymchwiliad Gweinidogion Cymru yn casglu nad yw wedi torri’r cod ymddygiad(3) nac wedi bod yn euog o gamymddwyn proffesiynol(4), na

(b)cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu os yw ymchwiliad Gweinidogion Cymru yn casglu nad yw wedi torri’r rheolau ymddygiad proffesiynol(5) na’r rheolau safonau gweithredol(6).

Taliadau am apelau

7.  Rhaid i’r person sy’n gwneud yr apêl dalu’r taliadau am gyflawni’r swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt o dan reoliad 3(2)(g)—

(a)os bydd yn tynnu’r apêl yn ôl, neu

(b)os bydd y llys ynadon yn cadarnhau penderfyniad Gweinidogion Cymru.

Talu taliadau

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i berson dalu’r tâl am gyflawni neu mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth y gellir codi tâl amdani y mae’n atebol amdani o fewn 30 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn dyroddi iddynt y cais i dalu’r taliad hwnnw.

(2Rhaid i unrhyw gais i dalu taliadau o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)datganiad o’r gwaith a wnaed a’r costau y mae Gweinidogion Cymru wedi mynd iddynt,

(b)datganiad o unrhyw waith a wnaed a’r costau y mae unrhyw berson wedi mynd iddynt am gyflawni neu mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth y gellir codi tâl amdani,

(c)y cyfnod y mae’r datganiad gwaith o dan is-baragraff (a) yn berthnasol iddo, a

(d)y ddarpariaeth yn y cynllun codi tâl y mae’r tâl wedi ei bennu oddi tani.

(3Pan fo—

(a)cais yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru, a bod y cynllun codi tâl yn darparu ar gyfer talu tâl mewn perthynas â’r cais hwnnw ymlaen llaw, rhaid i’r person sy’n cyflwyno’r cais dalu’r tâl hwnnw pan fyddant yn cyflwyno’r cais;

(b)hysbysiad neu gais yn cael ei anfon at Weinidogion Cymru, a bod y cynllun codi tâl yn darparu ar gyfer talu tâl ymlaen llaw mewn perthynas ag ef, rhaid i’r person sy’n anfon yr hysbysiad neu’r cais dalu’r tâl hwnnw pan fyddant yn anfon yr hysbysiad neu’r cais.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod cyfanswm y taliadau am gyflawni swyddogaeth y gellir codi tâl amdani yn cael ei dalu cyn i Weinidogion Cymru gyflawni’r swyddogaeth y gellir codi tâl amdani neu ddyroddi hysbysiad o ganlyniad ei benderfyniad neu dystysgrif, fel y bo’n gymwys.

(5Caiff Gweinidogion Cymru ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, unrhyw dâl a delir.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

1 Rhagfyr 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer adennill taliadau am gyflawni swyddogaethau ac mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Ran 2A o Ddeddf Adeiladu 1984 (“Rhan 2A”). Mae Rhan 2A, sydd wedi ei mewnosod gan adran 42 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022, yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â rheoleiddio’r proffesiwn rheolaeth adeiladu a goruchwylio’r rheini sy’n arfer swyddogaethau rheolaeth adeiladu.

Mae rheoliad 3 yn awdurdodi Gweinidogion Cymru i adennill taliadau am y swyddogaethau neu mewn cysylltiad â’r swyddogaethau a restrir yn y rheoliad hwnnw (“swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt”).

Mae rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i swm unrhyw dâl gael ei bennu yn unol â chynllun codi tâl a wneir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru. O dan y cynllun, rhaid i’r taliadau sy’n daladwy, i’r graddau y bo’n bosibl a chan gymryd un flwyddyn gydag un arall, adlewyrchu’r costau yr eir iddynt wrth ymgymryd â’r swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt. Mae darpariaeth wedi ei gwneud ar gyfer diwygio’r cynllun codi tâl ac ar gyfer cyhoeddi’r cynllun ac unrhyw ddiwygiadau.

Mae rheoliadau 5 i 7 yn pennu’r amgylchiadau y mae person penodol yn gyfrifol am dalu’r taliadau a bennir yn y rheoliadau hynny oddi tanynt.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â thalu ac adennill taliadau, gan gynnwys darpariaeth mewn perthynas ag amserlenni a datganiadau gwaith.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.

(1)

1984 p. 55. Mewnosodwyd adrannau 105B a 120A gan adran 57 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (p. 30) a pharagraff 77 o Atodlen 5 iddi yn eu trefn. Mae adran 105B(1) yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau i’r “appropriate national authority”, sydd wedi ei ddiffinio yn adran 126 o Ddeddf Adeiladu 1984 yn Weinidogion Cymru, o ran Cymru.

(2)

Mewnosodwyd adran 120C gan baragraff 77 o Atodlen 5 i Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022.

(3)

A lunnir ac a gyhoeddir o dan adran 58F o Ddeddf Adeiladu 1984.

(4)

Gweler y diffiniad o “professional misconduct” yn adran 58H o Ddeddf Adeiladu 1984.

(5)

A lunnir ac a gyhoeddir o dan adran 58R o Ddeddf Adeiladu 1984.

(6)

A wneir ac a gyhoeddir o dan adran 58Z o Ddeddf Adeiladu 1984.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill