- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), ni chaiff unrhyw berson fod yn bresennol mewn tŷ annedd at ddiben—
(a)gweithredu gwrit neu warant meddiant,
(b)gweithredu gwrit neu warant adfer, neu
(c)danfon hysbysiad troi allan.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo’r llys wedi ei fodloni bod y writ, y warant neu’r hysbysiad yn ymwneud â gorchymyn meddiant a wneir—
(a)yn erbyn tresmaswyr yn unol â hawliad y mae rheol 55.6 (cyflwyno hawliadau yn erbyn tresmaswyr) o Reolau’r Drefniadaeth Sifil 1998(1) yn gymwys iddo,
(b)yn llwyr neu’n rhannol o dan adran 84A (sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol) o Ddeddf Tai 1985(2),
(c)yn llwyr neu’n rhannol ar Sail 2 neu Sail 2A yn Atodlen 2 (seiliau ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau diogel) i Ddeddf Tai 1985(3),
(d)yn llwyr neu’n rhannol ar Sail 7A, Sail 14 neu Sail 14A yn Atodlen 2 (seiliau ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau sicr) i Ddeddf Tai 1988(4),
(e)yn llwyr neu’n rhannol ar Sail 7 (sail ar gyfer meddiannu pan fo tenant yn marw ac na cheir hawl olyniaeth) yn Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988(5), neu
(f)yn llwyr neu’n rhannol o dan Achos 2 o Atodlen 15 (sail ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau gwarchodedig neu statudol, neu sy’n ddarostyngedig iddynt) i Ddeddf Rhenti 1977.
(3) Pan fo paragraff (2)(e) yn gymwys, rhaid i’r person sy’n bresennol yn y tŷ annedd gymryd camau rhesymol i’w fodloni ei hun nad yw’r tŷ annedd wedi ei feddiannu cyn cyflawni’r materion hynny a nodir ym mharagraff (1)(a), (b) neu (c).
O.S. 1998/3132 (Cyfr. 17). Mewnosodwyd rheol 55.6 gan Atodlen 1 i O.S. 2001/256 (Cyfr. 7).
Mewnosodwyd adran 84A gan adran 94(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) (“Deddf 2014”) ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 84 o Atodlen 24 i Ddeddf Dedfrydu 2020 (p. 17) (“Deddf 2020”).
Amnewidiwyd Sail 2 gan adran 144 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (“Deddf 1996”) ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 45 o Atodlen 7 i Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15) (“Deddf 2005”) ac adran 98(1) o Ddeddf 2014. Mewnosodwyd Sail 2A gan adran 145 o Ddeddf 1996 ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 33 o Atodlen 8 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) (“Deddf 2004”) a chan O.S. 2019/1458.
Mewnosodwyd Sail 7A gan adran 97(1) o Ddeddf 2014 ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 97 o Atodlen 24 i Ddeddf 2020. Amnewidiwyd Sail 14 gan adran 148 o Ddeddf 1996 ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 46 o Atodlen 7 i Ddeddf 2005 ac adran 98(2) o Ddeddf 2014. Mewnosodwyd Sail 14A gan adran 149 o Ddeddf 1996 ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 43(3) o Atodlen 8 i Ddeddf 2004, O.S. 2010/866, O.S. 2011/1396 ac O.S. 2019/1458.
Mae diwygiadau i Sail 7 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys