Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliad 4

ATODLEN 1Yr wybodaeth sydd iʼw chynnwys mewn asesiadau o anghenion fferyllol

Darpariaeth gyfredol gwasanaethau fferyllol

1.  Datganiad oʼr gwasanaethau fferyllol y maeʼr Bwrdd Iechyd Lleol wedi eu nodi yn wasanaethau a ddarperir—

(a)yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ac syʼn angenrheidiol i ddiwalluʼr angen am wasanaethau fferyllol yn ei ardal,

(b)y tu allan i ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ond sydd, er hynny, yn cyfrannu at ddiwalluʼr angen am wasanaethau fferyllol yn ei ardal (os ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol wedi nodi gwasanaethau oʼr fath), neu

(c)yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol neu y tu allan iddi ac sydd, er nad ydynt yn wasanaethau oʼr mathau a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (b), yn effeithio ar asesiad y Bwrdd Iechyd Lleol oʼr angen am wasanaethau fferyllol yn ei ardal.

Gwasanaethau GIG eraill

2.  Datganiad o unrhyw wasanaethau GIG a ddarperir neu a drefnir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, Bwrdd Iechyd Lleol arall, meddyg fferyllol neu Ymddiriedolaeth GIG y maeʼr Bwrdd Iechyd Lleol wedi rhoi sylw iddynt yn ei asesiad, syʼn effeithio ar yr angen am wasanaethau fferyllol, neu wasanaethau fferyllol o fath penodedig, yn ei ardal.

Bylchau yn y gwasanaethau fferyllol a ddarperir

3.  Datganiad oʼr gwasanaethau fferyllol y maeʼr Bwrdd Iechyd Lleol wedi eu nodi (os yw wedi eu nodi) yn wasanaethau nas darperir yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ond y maeʼr Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni—

(a)bod angen eu darparu (pa un a ydynt yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ai peidio) er mwyn diwallu angen am wasanaethau fferyllol, neu wasanaethau fferyllol o fath penodedig, yn ei ardal ar hyn o bryd;

(b)y bydd angen eu darparu o dan amgylchiadau penodedig yn y dyfodol (pa un a ydynt yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ai peidio) er mwyn diwallu angen am wasanaethau fferyllol, neu wasanaethau fferyllol o fath penodedig, yn ei ardal yn y dyfodol.

Sut y cynhaliwyd yr asesiad

4.  Esboniad o sut y cynhaliwyd yr asesiad, ac yn benodol—

(a)sut y mae wedi penderfynu beth ywʼr ardaloedd lleol yn ei ardal,

(b)sut y mae wedi ystyried (pan foʼn gymwys)—

(i)anghenion gwahanol ardaloedd lleol gwahanol yn ei ardal, a

(ii)anghenion gwahanol aelodau o grwpiau gwahanol yn ei ardal syʼn rhannu priodoledd gyffredin mewn cysylltiad ag un, neu fwy nag un, oʼr nodweddion a ganlyn—

(aa)oed,

(bb)rhywedd,

(cc)ailbennu rhywedd arfaethedig, a gychwynnwyd neu a gwblhawyd,

(dd)anabledd,

(ee)hil,

(ff)crefydd neu gred, ac

(gg)cyfeiriadedd rhywiol;

(c)adroddiad ar yr ymgynghoriad y mae wedi ymgymryd ag ef.

Map o ddarpariaeth

5.  Map syʼn nodiʼr mangreoedd y darperir gwasanaethau fferyllol a gwasanaethau gweinyddu ynddynt yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol.

Rheoliadau 15, 18, 23, 30, 33 a 34

ATODLEN 2Yr wybodaeth sydd iʼw chynnwys mewn ceisiadau i ddarparu gwasanaethau fferyllol

RHAN 1Cais i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol

Yr wybodaeth syʼn ofynnol gan bob ceisydd

Manylion y cais

1.  Enwʼr Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo.

2.  Y math o gydsyniad y gwneir cais amdano (llawn neu ragarweiniol).

3.  Y math o gais (er enghraifft: cynnwys oʼr newydd; adleoli o fewn ardal Bwrdd Iechyd Lleol; adleoli rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos; adleoli; newid perchnogaeth; cydsyniad rhagarweiniol).

Manylion y ceisydd

4.  Enw a chyfeiriad y ceisydd.

5.  Os ywʼr ceisydd yn unigolyn neuʼn bartneriaeth syʼn cynnal busnes fferyllfa fanwerthu, rhif cofrestruʼr ceisydd neu rif cofrestru pob partner yng nghofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.

6.  Os ywʼr ceisydd yn gorff corfforedig syʼn cynnal busnes fferyllfa fanwerthu, enw a rhif cofrestru uwcharolygydd y ceisydd yng nghofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.

Manylion y fangre aʼr oriau agor

7.  Cyfeiriad y fangre y maeʼr ceisydd yn gwneud cais i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni; neu leoliad y fangre y maeʼr ceisydd yn bwriadu darparu gwasanaethau fferyllol ohoni os ywʼr cais yn gais am gydsyniad rhagarweiniol.

8.  A ywʼr fangre ym meddiant y ceisydd ar hyn o bryd neu, er enghraifft, a ywʼr fangre yn cael ei hadeiladu neuʼn destun negodi.

9.  Ar ba ddiwrnodau y bydd y fferyllfa ar agor ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol, aʼr oriau agor ar y diwrnodau hynny.

Y gwasanaethau fferyllol sydd iʼw darparu

10.  Cadarnhad y bydd yr holl wasanaethau hanfodol yn cael eu darparu ac, os yw’n gymwys, pa gyfarpar y mae’r ceisydd yn ymgymryd â’i gyflenwi.

11.  Manylion y gwasanaethau cyfeiriedig y maeʼr ceisydd yn gwneud cais i’w darparu.

12.  Os ywʼr cais i ddarparu gwasanaethau fferyllol o ddisgrifiad gwahanol iʼr rheini a ddarperir ar hyn o bryd yn y fangre restredig, manylion y gwasanaethau hynny.

Gwybodaeth mewn perthynas â cheisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol

13.  Pan fo rheoliad 16 yn gymwys i benderfynu cais, rhaid iʼr ceisydd ddatgan y rhesymau pam y maeʼr ceisydd yn ystyried y bydd y cais yn diwallu angen a nodir yn yr asesiad perthnasol o anghenion fferyllol gan y Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fangre a bennir yn y cais ynddo.

Gwybodaeth mewn perthynas âʼr prawf niweidio

14.  Pan foʼr prawf niweidio yn rheoliad 16 yn gymwys i benderfynu cais, rhaid iʼr ceisydd ddatgan y rhesymau pam y maeʼn ystyried na fydd caniatáuʼr cais yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol yn yr ardal reoledig y mae’r fangre a bennir yn y cais ynddi.

Gwybodaeth mewn perthynas â cheisiadau syʼn ymwneud ag adleoliadau

15.  Pan foʼr ceisydd yn gwneud cais i adleoli (pa un ai o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 19, rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos o dan reoliad 20 neu dros dro o dan reoliad 21), rhaid iʼr ceisydd ddarparu manylion yr adleoliad arfaethedig, gan gynnwys cyfeiriad mangre restredig bresennol y ceisydd.

16.  Pan foʼr cais yn ymwneud ag adleoliad rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos o dan reoliad 20, rhaid iʼr ceisydd ddatgan—

(a)enwʼr Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fangre bresennol ynddo,

(b)bod y ceisydd yn cydsynio i’w enw gael ei ddileu o’r rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fangre bresennol yn ei ardal, ac mewn cysylltiad âʼr fangre restredig bresennol honno, gydag effaith oʼr dyddiad y bydd darpariaeth gwasanaethau fferyllol oʼr fangre newydd yn dechrau, ac

(c)sut y maeʼr ceisydd yn bwriadu diwallu angen a nodir yn yr asesiad o anghenion fferyllol gan y Bwrdd Iechyd Lleol cyfagos, os ywʼr cais yn ymwneud ag adleoliad i ddiwallu angen oʼr fath.

17.  Rhaid iʼr ceisydd ddarparu manylion fel a ganlyn—

(a)a yw lleoliad y fangre newydd yn llai hygyrch i raddau sylweddol, ar gyfer y cleifion syʼn gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol,

(b)a ddarperir yr un gwasanaethau fferyllol yn y fangre newydd ag a ddarperir yn y fangre restredig, ac

(c)a barheir i ddarparuʼr gwasanaethau fferyllol yn ddi-dor, ynteu a fydd toriad, aʼr rhesymau dros unrhyw doriad.

18.  Os ywʼr cais yn gais am adleoliad dros dro, rhaid iʼr ceisydd ddatgan yr amgylchiadau syʼn gwneud adleoli dros dro yn ofynnol.

Gwybodaeth mewn perthynas â cheisiadau syʼn ymwneud â newid perchnogaeth

19.  Enwʼr person sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol ac sydd, ar hyn o bryd, yn darparu gwasanaethau fferyllol oʼr fangre.

20.  Rhaid iʼr ceisydd ddarparu manylion fel a ganlyn—

(a)a barheir i ddarparuʼr un gwasanaethau fferyllol oʼr fangre, a

(b)a barheir i ddarparuʼr gwasanaethau fferyllol yn ddi-dor, ynteu a fydd toriad, aʼr rhesymau dros unrhyw doriad.

Ymgymeriad y ceisydd

21.  Rhaid iʼr ceisydd roi ymgymeriad y bydd y ceisydd, os caniateir y cais, yn darparuʼr gwasanaethau fferyllol, ac yn darparu’r cyfarpar os yw’n gymwys, yn y fangre y caniateir y cais mewn cysylltiad â hi, yn unol âʼr telerau gwasanaethu sy’n gymwys.

RHAN 2Gwybodaeth ac ymgymeriadau ar gyfer ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol

Manylion y ceisydd

22.—(1Rhaid i geisydd (ac eithrio ceisydd syʼn gorff corfforedig) ddarparuʼr wybodaeth a ganlyn—

(a)enw llawn,

(b)rhywedd,

(c)dyddiad geni,

(d)cyfeiriad a rhif ffôn,

(e)datganiad ei fod yn fferyllydd cofrestredig, ac

(f)rhif cofrestru proffesiynol aʼr dyddiad yʼi cofrestrwyd gyntaf yn y gofrestr.

(2Rhaid i geisydd syʼn gorff corfforedig ddarparuʼr wybodaeth a ganlyn—

(a)enw llawn,

(b)rhif cofrestru cwmni,

(c)swyddfa gofrestredig a rhif ffôn y swyddfa honno,

(d)datganiad ei fod yn berson sydd, neu a fydd, yn cynnal busnes fferyllfa fanwerthu yn gyfreithlon yn unol ag adran 69 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968,

(e)rhif cofrestru yn y Gofrestr o Fangreoedd a gynhelir gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, ac

(f)manylion unrhyw restr berthnasol y dilëwyd ei enw ohoni, neu yʼi dilëwyd yn ddigwyddiadol ohoni, neu y gwrthodwyd ei dderbyn iddi, neu yʼi cynhwyswyd yn amodol ynddi, ar sail addasrwydd, ynghyd ag esboniad oʼr rhesymau dros hynny.

Ymchwiliad, achosion llys ac euogfarnau

23.  Rhaid i geisydd gyflenwi gwybodaeth ysgrifenedig o ran pa un a yw, neu pan foʼr ceisydd yn gorff corfforedig, a yw unrhyw un neu ragor oʼi gyfarwyddwyr neu ei uwcharolygydd—

(a)wedi ei euogfarnu o unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig,

(b)wedi ei rwymo yn dilyn euogfarn droseddol yn y Deyrnas Unedig,

(c)wedi derbyn rhybuddiad gan yr heddlu yn y Deyrnas Unedig,

(d)mewn achos diannod yn yr Alban mewn cysylltiad â throsedd, wedi bod yn destun gorchymyn iʼw ryddhauʼn ddiamod (heb fynd ymlaen at euogfarn),

(e)wedi derbyn cynnig amodol o dan adran 302 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995 (cosb benodedig: cynnig amodol gan y procuradur ffisgal) neu wedi cytuno i dalu cosb o dan adran 115A o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 (cosb fel dewis arall yn lle erlyn),

(f)wedi ei euogfarnu yn rhywle arall o drosedd, neuʼr hyn a fyddaiʼn drosedd pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr, neuʼn ddarostyngedig i gosb a fyddaiʼn cyfateb i rwymo neu rybuddiad,

(g)ar hyn o bryd yn destun unrhyw achos a allai arwain at euogfarn oʼr fath, ac nad yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei hysbysu amdano eto,

(h)wedi bod yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ymddygiad proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall, gyda chanlyniad a oedd yn anffafriol,

(i)ar hyn o bryd yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ymddygiad proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall,

(j)ar hyn o bryd, neu wedi bod, gyda chanlyniad anffafriol, yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ymddygiad proffesiynol mewn cysylltiad ag unrhyw gyflogaeth gyfredol neu flaenorol,

(k)yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a allai arwain at ddileu ei enw o unrhyw restr berthnasol,

(l)ar hyn o bryd, neu wedi bod, gyda chanlyniad anffafriol, yn destun unrhyw ymchwiliad gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG mewn perthynas â thwyll,

(m)wedi ei ddileu neu ei ddileu yn ddigwyddiadol o unrhyw restr berthnasol a gedwir gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, neu y gwrthodwyd ei dderbyn iddi neu y’i cynhwyswyd yn amodol ynddi, neu a yw wedi ei atal dros dro, ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, o restr oʼr fath ar sail addasrwydd ac os felly, pam ac enwʼr Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw neuʼr corff cyfatebol hwnnw, neu

(n)ar hyn o bryd neu erioed wedi bod yn ddarostyngedig i anghymhwysiad cenedlaethol ac os felly, rhaid iʼr ceisydd roi manylion, gan gynnwys y dyddiadau yn fras, neu os cynhaliwyd neu os cynhelir unrhyw ymchwiliad neu achos cyfreithiol, natur yr ymchwiliad hwnnw neuʼr achos hwnnw ac unrhyw ganlyniad.

24.  Os ywʼr ceisydd (a phan foʼr ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd), neu os bu, yn y 6 mis blaenorol, neu os oedd ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, yn gyfarwyddwr neuʼn uwcharolygydd i gorff corfforedig, rhaid iddo, yn ychwanegol, gyflenwi gwybodaeth ysgrifenedig iʼr Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch pa un a ywʼr corff corfforedig—

(a)wedi ei euogfarnu o unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig,

(b)wedi ei euogfarnu yn rhywle arall o drosedd, neuʼr hyn a fyddaiʼn drosedd pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr,

(c)ar hyn o bryd yn destun unrhyw achos a allai arwain at euogfarn oʼr fath, ac nad yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei hysbysu amdano eto,

(d)wedi bod yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall, gyda chanlyniad a oedd yn anffafriol,

(e)ar hyn o bryd yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall,

(f)yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a allai arwain at ddileu o unrhyw restr berthnasol,

(g)ar hyn o bryd, neu wedi bod, gyda chanlyniad anffafriol, yn destun unrhyw ymchwiliad gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG mewn perthynas â thwyll,

(h)wedi ei ddileu neu ei ddileu yn ddigwyddiadol o unrhyw restr berthnasol, neu y gwrthodwyd ei dderbyn iddi neu y’i cynhwyswyd yn amodol ynddi, neu a yw wedi ei atal dros dro, ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, o restr oʼr fath ar sail addasrwydd, neu

(i)ar hyn o bryd neu erioed wedi bod yn ddarostyngedig i anghymhwysiad cenedlaethol ac os felly, rhaid iʼr ceisydd roi enw a swyddfa gofrestredig y corff corfforedig a manylion, gan gynnwys y dyddiadau yn fras, neu os cynhaliwyd neu os cynhelir unrhyw ymchwiliad neu achos cyfreithiol, natur yr ymchwiliad hwnnw neuʼr achos hwnnw ac unrhyw ganlyniad.

Cymwysterau fferyllol, canolwyr etc.

25.  Pan foʼr ceisydd (neu pan foʼr ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) yn fferyllydd cofrestredig, rhaid iʼr ceisydd gyflenwi manylion ei gymwysterau fferyllol (gan gynnwys lle yʼu cafwyd) a manylion cronolegol ei brofiad proffesiynol (gan gynnwys dyddiadau dechrau a gorffen pob penodiad), ynghyd ag esboniad am unrhyw fylchau rhwng y penodiadau a pham yʼi diswyddwyd o unrhyw swydd.

26.  Pan foʼr ceisydd (neu pan foʼr ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd) yn fferyllydd cofrestredig, rhaid iʼr ceisydd gyflenwi enwau a chyfeiriadau dau ganolwr syʼn fodlon darparu geirdaon mewn cysylltiad â dwy swydd ddiweddar (caniateir cynnwys unrhyw swydd gyfredol) fel fferyllydd, a barhaodd am 3 mis o leiaf heb doriad sylweddol, neu, pan na fo hynnyʼn bosibl, esboniad llawn a chanolwyr eraill.

27.  Pan foʼr ceisydd yn gorff corfforedig, rhaid cyflenwi enw a chyfeiriad pob cyfarwyddwr ac uwcharolygydd i’r corff corfforedig.

28.  Rhaid iʼr ceisydd gyflenwi enw unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol (neu gorff cyfatebol) y mae’r ceisydd, a phan foʼr ceisydd yn gorff corfforedig, unrhyw gyfarwyddwr neu uwcharolygydd i’r ceisydd, wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, a manylion unrhyw geisiadau yn yr arfaeth (gan gynnwys ceisiadau gohiriedig) i gynnwys ceisydd mewn unrhyw restr fferyllol sydd gan Fwrdd Iechyd Lleol (neu gorff cyfatebol), neu am gydsyniad rhagarweiniol ar gyfer cynnwys ceisydd mewn unrhyw restr oʼr fath, ynghyd ag enwʼr Bwrdd Iechyd Lleol (neuʼr corff) o dan sylw.

29.  Os ywʼr ceisydd yn gyfarwyddwr neuʼn uwcharolygydd i gorff corfforedig sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw restr berthnasol, neu sydd â chais yn yr arfaeth (gan gynnwys cais gohiriedig) i’w gynnwys mewn unrhyw restr berthnasol, rhaid iʼr ceisydd gyflenwi enwʼr Bwrdd Iechyd Lleol neuʼr corff cyfatebol o dan sylw, ac enw a swyddfa gofrestredig unrhyw gorff corfforedig oʼr fath.

Ymgymeriadau

30.—(1Rhaid iʼr ceisydd roi ymgymeriad ysgrifenedig i hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 7 niwrnod i unrhyw newidiadau perthnasol yn yr wybodaeth a ddarparwyd yn y cais—

(a)hyd nes y cofnodir ei enw ar y rhestr fferyllol;

(b)hyd nes y bydd y cyfnod wedi dod i ben, a bennir yn rheoliad 23(2) iddo hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol y bydd yn cychwyn darparuʼr gwasanaethau fferyllol y gwnaed y cais mewn cysylltiad â hwy,

(c)hyd nes y bydd yn tynnuʼr cais yn ôl, neu

(d)yn achos ceisydd y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo o dan reoliad 18, hyd nes y bydd y cyfnod pan foʼr cydsyniad rhagarweiniol yn cael effaith yn unol â rheoliad 18(5) wedi dod i ben.

(2Rhaid iʼr ceisydd roi ymgymeriad ysgrifenedig i hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol os caiff ei gynnwys, neu os bydd yn gwneud cais i gael ei gynnwys, mewn rhestr berthnasol.

RHAN 3Hysbysiad oʼr dyddiad cychwyn

Gwybodaeth sydd iʼw darparu cyn cychwyn darparu gwasanaethau fferyllol

31.  Rhaid iʼr ceisydd ddarparuʼr wybodaeth a ganlyn—

(a)enwʼr ceisydd,

(b)dyddiad caniatáu’r cais,

(c)y fangre a bennir yn y cais ac y darperir y gwasanaethau fferyllol ohoni,

(d)cadarnhad bod y fangre wedi ei chofrestru âʼr Cyngor Fferyllol Cyffredinol (gan gynnwys y cyfeirnod),

(e)manylion y gwasanaethau fferyllol sydd iʼw darparu,

(f)y dyddiad y bydd darparu gwasanaethau fferyllol yn cychwyn,

(g)enw a rhif cofrestruʼr fferyllydd cofrestredig a chanddo gyfrifoldeb yn y fangre, ac

(h)ymgymeriad y bydd y ceisydd, yn unol âʼr cais a ganiatawyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol, yn darparuʼr gwasanaethau fferyllol oʼr fangre yn unol âʼr telerau gwasanaethu.

RHAN 4Ceisiadau am gydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre

Manylion y cais

32.  Enwʼr Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo.

33.  Y math o gais (cydsyniad amlinellol, cymeradwyaeth mangre neuʼr ddau).

Manylion y ceisydd

34.  Enw a chyfeiriad y ceisydd.

35.  Cyfeirnod y Cyngor Meddygol Cyffredinol y maeʼr ceisydd wedi ei gynnwys odano yn y Rhestr o Ymarferwyr Meddygol Cofrestredig a gynhelir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Cais am gydsyniad amlinellol

36.  Disgrifiad a map oʼr ardal y maeʼr ceisydd yn dymuno darparu gwasanaethau fferyllol ynddi.

37.  Cyfeiriad unrhyw fferyllfa yn yr ardal a ddisgrifir ac a amlinellir o dan baragraff 36.

Cais am gymeradwyaeth mangre

38.  Cyfeiriad y fangre practis y maeʼr ceisydd yn gwneud cais i ddarparu gwasanaethau fferyllol ohoni, ac a ywʼr fangre practis honno yn fangre restredig mewn perthynas ag ardal wahanol.

39.  Y pellter rhwng y fangre honno aʼr fferyllfa agosaf (a chyfeiriad y fferyllfa honno).

40.  A ywʼr cais yn gais am gymeradwyaeth mangre ar gyfer mangre ychwanegol ynteu i adleoli i fangre newydd (ac os yr olaf, y pellter oʼr fangre newydd iʼr fangre y mae gan y ceisydd gymeradwyaeth mangre mewn cysylltiad â hi ar hyn o bryd).

41.  A ywʼr cais yn codi oherwydd bod cyfuno practisiau wedi digwydd neu y bydd yn digwydd, ac os felly, enwauʼr meddygon neuʼr contractwyr syʼn cymryd rhan yn y cyfuno.

42.  Os oes cydsyniad amlinellol wedi ei roi eisoes, disgrifiad a map oʼr ardal y rhoddwyd y cydsyniad mewn cysylltiad â hi.

43.  Manylion unrhyw fangre practis meddygol arall y rhoddwyd cymeradwyaeth mangre iddi, neu y mae cais wedi ei wneud mewn cysylltiad â hi eisoes ond nad ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei benderfynu eto.

Y gwasanaethau fferyllol sydd iʼw darparu

44.  Y gwasanaethau fferyllol sydd iʼw darparu aʼr oriau agor aʼr diwrnodau y darperir y gwasanaethau hynny.

Y prawf niweidio

45.  Y rhesymau pam y maeʼr ceisydd yn ystyried na fydd caniatáuʼr cais yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol yn yr ardal reoledig y maeʼr fangre a bennir yn y cais ynddi.

Diwallu anghenion a nodir

46.  Y rhesymau pam y maeʼr ceisydd yn ystyried bod angen caniatáuʼr cais er mwyn diwallu angen a nodir mewn asesiad perthnasol o anghenion fferyllol.

Ymgymeriad y ceisydd

47.  Rhaid iʼr ceisydd roi ymgymeriad, os caniateir y cais a bod cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre mewn effaith, y bydd y ceisydd yn darparuʼr gwasanaethau fferyllol oʼr fangre practis y caniateir y cais mewn cysylltiad â hi, yn unol âʼr telerau gwasanaeth.

Rheoliadau 13, 15 a 30

ATODLEN 3Y gweithdrefnau sydd iʼw dilyn gan Fyrddau Iechyd Lleol i benderfynu ceisiadau o dan y Rheoliadau

RHAN 1Materion rhagarweiniol

Egwyddorion cyffredinol

1.—(1Ac eithrio iʼr graddau y maeʼr Rheoliadau hyn yn darparu iʼr gwrthwyneb, caiff Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu cais a gyflwynir iddo yn y modd y maeʼn meddwl ei fod yn addas.

(2Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddilyn y weithdrefn yn rheoliad 15(4) mewn cysylltiad â chais a gyflwynir iddo nad ywʼn cynnwys yr holl wybodaeth y maeʼn ofynnol i geisydd ei darparu yn unol ag Atodlen 2.

(3Caiff Bwrdd Iechyd Lleol, os ywʼn meddwl ei bod yn addas, ystyried dau neu ragor o geisiadau ar y cyd ac mewn perthynas âʼi gilydd, ond pan foʼn bwriadu gwneud hynny rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig oʼr bwriad hwnnw iʼr canlynol—

(a)pob ceisydd unigol, a

(b)pan foʼr cais yn un y mae rhaid rhoi hysbysiad mewn cysylltiad ag ef o dan baragraff 8, unrhyw berson arall y mae rhaid rhoi hysbysiad oʼr cais hwnnw iddo.

(4Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol, yn unol ag is-baragraff (3), yn ystyried dau neu ragor o geisiadau y mae rheoliad 16(2) yn gymwys iddynt ar y cyd ac mewn perthynas âʼi gilydd, caiff wrthod cais (er y byddai, pe baiʼn penderfynu’r cais fel cais unigol ar ei ben ei hunan, yn ei ganiatáu) pan fo nifer y ceisiadau, neuʼr amgylchiadau yʼu gwneir odanynt, yn peri y byddai caniatáu pob un, neu fwy nag un, ohonynt yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu yn yr ardal reoledig y maeʼr fangre a bennir yn y cais ynddi.

Yr amserlen ar gyfer penderfynu ceisiadau

2.  Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ymdrechu i benderfynu cais cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl ei gael.

Personau a waherddir rhag cymryd rhan mewn penderfyniadau ar geisiadau

3.—(1Nid yw unrhyw berson i gymryd rhan mewn penderfynu cais os yw—

(a)yn berson sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr fferyllol neu restr meddygon fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol neuʼn gyflogai i berson oʼr fath,

(b)yn gyfranddaliwr, yn gyfarwyddwr neuʼn ysgrifennydd i gwmni syʼn cynnal busnes fferyllfa fanwerthu yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol,

(c)yn ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol,

(d)yn gontractwr GMDdA yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, neuʼn swyddog, yn ymddiriedolwr neu’n berson arall syʼn ymwneud â rheoli cwmni, cymdeithas neu sefydliad gwirfoddol neu gorff arall syʼn gontractwr GMDdA, neu sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen ymlaen gan gontractwr GMDdA oʼr fath, neu

(e)yn gyflogedig, neu wedi ei gymryd ymlaen, gan y Bwrdd Iechyd Lleol at ddibenion darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol o fewn practis GMBILl.

(2Nid yw unrhyw berson arall i gymryd rhan mewn penderfynu cais pe bai ei gyfranogiad, oherwydd buddiant neu gysylltiad sydd ganddo, neu oherwydd pwysau y gellid ei roi arno, yn peri amheuaeth resymol o ragfarn.

RHAN 2Penderfynu ardaloedd lleol rheoledig

Hysbysu ynghylch bwriad i wneud penderfyniad mewn cysylltiad ag ardaloedd rheoledig

4.—(1Os yw Bwrdd Iechyd Lleol, yn rhinwedd rheoliad 13(3) (ardaloedd syʼn ardaloedd rheoledig), yn penderfynu na ellir ystyried cais gan Bwyllgor Meddygol Lleol neu Bwyllgor Fferyllol Lleol, rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol beidio â chymryd unrhyw gam gweithredu mewn perthynas âʼr cais hwnnw, ac eithrio hysbysuʼr ceisydd am y ffaith honno ac am ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw o dan reoliad 14 (apelau).

(2Ym mhob achos arall, cyn gwneud penderfyniad o dan reoliad 13(2), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi fwriad i wneud penderfyniad iʼr canlynol—

(a)y Pwyllgor Meddygol Lleol yn ei ardal,

(b)y Pwyllgor Fferyllol Lleol yn ei ardal,

(c)y Cyngor Iechyd Cymuned ar gyfer yr ardal, a

(d)unrhyw berson sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ac unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot neu unrhyw ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer, y gall y penderfyniad effeithio arno ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol.

(3Rhaid i hysbysiad o fwriad i wneud penderfyniad roi gwybod iʼr person a hysbysir fod hawl ganddo i gyflwyno sylwadau (neu, os hysbysir Pwyllgor Meddygol Lleol neu Bwyllgor Fferyllol Lleol a wnaeth gais am y penderfyniad, unrhyw sylwadau pellach) yn ysgrifenedig ynglŷn âʼr penderfyniad arfaethedig, o fewn 30 o ddiwrnodau i’r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad ato.

Gohirio ceisiadau

5.  Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi dyroddi hysbysiad o fwriad i wneud penderfyniad, rhaid iddo ohirio ystyried unrhyw gais a gyflwynwyd o dan Ran 5 neu Ran 6 oʼr Rheoliadau hyn ond nas penderfynwyd ganddo, os ywʼr cais yn un y gallaiʼr bwriad i wneud penderfyniad effeithio arno—

(a)hyd nes iddo benderfynu a ywʼr ardal leol yn ardal reoledig neuʼn rhan o ardal reoledig ai peidio, a bod y cyfnod ar gyfer dwyn apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw wedi dod i ben, neu

(b)dyddiad penderfynu unrhyw apêl oʼr fath.

Gosod amodau

6.  Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu a yw unrhyw ardal benodol, o fewn yr ardal yʼi sefydlwyd ar ei chyfer, oherwydd ei chymeriad gwledig, yn ardal reoledig neuʼn rhan o ardal reoledig ai peidio—

(a)rhaid iddo ystyried a ywʼn debygol yr effeithir yn andwyol ar ddarpariaeth—

(i)gwasanaethau meddygol sylfaenol gan ddarparwr gwasanaethau oʼr fath (ac eithrioʼr Bwrdd Iechyd Lleol ei hunan),

(ii)gwasanaethau fferyllol gan fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG,

(iii)gwasanaethau fferyllol lleol a ddarperir o dan gynllun peilot, neu

(iv)gwasanaethau fferyllol gan feddyg,

o ganlyniad iʼr penderfyniad hwnnw, a

(b)caiff, pan fo oʼr farn ei bod yn debygol yr effeithir yn andwyol ar unrhyw un neu ragor oʼr gwasanaethau hynny, osod amodau i ohirio, am unrhyw gyfnod y maeʼn meddwl ei fod yn addas, wneud neu derfynu trefniadau o dan reoliad 26 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon), neu ddarpariaeth gyfatebol o dan y Rheoliadau GMC ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu gan feddyg neu gontractwr GMC i gleifion ar y rhestr cleifion berthnasol.

Hysbysu ynghylch penderfyniadau a gweithredu yn dilyn penderfyniadau

7.—(1Unwaith y bydd Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynuʼr cwestiwn o ran pa un a yw unrhyw ardal benodol, o fewn yr ardal yʼi sefydlwyd ar ei chyfer, oherwydd ei chymeriad gwledig, yn ardal reoledig neuʼn rhan o ardal reoledig ai peidio, rhaid iddo—

(a)cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad, roi hysbysiad ysgrifenedig iʼr rheini a hysbyswyd o dan baragraff 4(2) i roi gwybod iddynt am y canlynol—

(i)y penderfyniad aʼr rhesymau drosto,

(ii)unrhyw amodau a osodwyd ganddo o dan baragraff 6, a

(iii)unrhyw hawliau i apelio o dan Atodlen 4, a

(b)cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl y dyddiad perthnasol—

(i)amlinellu ffiniauʼr ardal reoledig yn fanwl gywir ar fap, neu ddileu’r amlinelliad o ffin ardal leol sydd wedi peidio â bod yn ardal reoledig,

(ii)rhoi cyfnod rhesymol o rybudd i feddyg yr effeithir arno ynghylch unrhyw amodau sydd wedi eu gosod o dan baragraff 6 o ganlyniad iʼr penderfyniad, a

(iii)mynd ymlaen i benderfynu unrhyw geisiadau sydd wedi eu gohirio o dan baragraff 5.

(2At ddibenion y paragraff hwn, “y dyddiad perthnasol” ywʼr diweddaraf oʼr canlynol—

(a)y dyddiad y maeʼr cyfnod ar gyfer dwyn apêl yn erbyn y penderfyniad yn dod i ben, neu

(b)dyddiad penderfynu unrhyw apêl oʼr fath.

RHAN 3Ceisiadau i gynnwys person mewn rhestrau fferyllol a rhestrau meddygon fferyllol, neu i ddiwygio rhestrau oʼr fath

Hysbysu ynghylch ceisiadau penodol

8.—(1Maeʼr paragraff hwn yn gymwys i geisiadau i—

(a)cynnwys person yn y canlynol, neu ddiwygio’r canlynol—

(i)rhestr fferyllol a wnaed o dan Ran 5 oʼr Rheoliadau hyn, ac eithrio ceisiadau o dan reoliad 22 (ceisiadau syʼn ymwneud â newid perchnogaeth), a

(ii)rhestr meddygon fferyllol a wnaed o dan Ran 6 oʼr Rheoliadau hyn;

(b)estyn y cyfnod perthnasol o dan reoliad 24, ac

(c)penderfyniad pellach o ran a yw mangre neu leoliad perthnasol mewn lleoliad neilltuedig o dan reoliad 17(2).

(2Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol y cyflwynwyd y cais iddo roi hysbysiad ysgrifenedig oʼr cais yn unol â pharagraff 9.

(3Caiff y rheini a hysbyswyd am gais, o fewn 30 o ddiwrnodau iʼr dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad atynt, gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y cais iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y cyflwynwyd y cais iddo, ac eithrio ceisiadau a wnaed yn unol â rheoliad 21 (ceisiadau syʼn ymwneud ag adleoli dros dro).

Personau a chyrff sydd iʼw hysbysu

9.—(1Y personau aʼr cyrff y mae rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol eu hysbysu yw—

(a)y Pwyllgor Fferyllol Lleol,

(b)y Pwyllgor Meddygol Lleol,

(c)unrhyw berson—

(i)sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir ganddo, neu

(ii)y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo iʼw gynnwys mewn rhestr fferyllol, y gallai caniatáuʼr cais, ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol, effeithioʼn sylweddol ar ei fuddiannau,

(d)unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer, y gallai caniatáuʼr cais, ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol, effeithioʼn sylweddol ar ei fuddiannau,

(e)unrhyw Gyngor Iechyd Cymuned syʼn gwasanaethu ardal y Bwrdd Iechyd Lleol,

(f)unrhyw grŵp cleifion, grŵp defnyddwyr neu grŵp cymunedol yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼn ystyried ei fod â buddiant sylweddol yn narpariaeth gwasanaethau fferyllol yn yr ardal,

(g)pan foʼr fangre a bennir yn y cais mewn ardal reoledig, unrhyw berson (ac eithrioʼr Bwrdd Iechyd Lleol ei hunan) syʼn ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol, neu sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr meddygon fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, ac y gallai caniatáuʼr cais, ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol, effeithioʼn sylweddol ar ei fuddiannau,

(h)unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol neu gorff cyfatebol sydd ag unrhyw ran oʼi ardal o fewn 2 gilometr iʼr fangre, neu i leoliad y fangre, a bennir yn y cais, ac

(i)yn achos cais a wnaed o dan reoliad 20 (ceisiadau syʼn ymwneud ag adleoli rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos), y Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr ceisydd yn dymuno adleoli oʼi ardal.

(2Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol a ddarparodd yr hysbysiad o dan is-baragraff (1)(h)—

(a)o fewn 14 o ddiwrnodau i gael yr hysbysiad, roi hysbysiad ysgrifenedig iʼr personau aʼr cyrff a bennir yn is-baragraff (1)(a) i (g) sydd o fewn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer, neu syʼn gwasanaethu’r ardal honno, a

(b)hysbysuʼr Bwrdd Iechyd lleol a ddarparodd yr hysbysiad o dan is-baragraff (1) ei fod wedi darparuʼr hysbysiad syʼn ofynnol gan is-baragraff (2)(a).

(3Caiff corff cyfatebol a hysbysir o dan is-baragraff (1)(h) ofyn iʼr Bwrdd Iechyd Lleol roi hysbysiad iʼr personau hynny, yn yr ardal y sefydlwyd y corff cyfatebol ar ei chyfer, y gallai caniatáuʼr cais, ym marn y corff cyfatebol, effeithioʼn sylweddol ar eu buddiannau, a rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol gydymffurfio ag unrhyw ofyniad oʼr fath.

Cynnwys hysbysiad

10.  Rhaid i hysbysiad o gais o dan baragraff 8—

(a)rhoi gwybod iʼr person neuʼr corff a hysbysir—

(i)am ei hawl i gyflwyno sylwadau ar y cais o dan baragraff 8(3),

(ii)am yr amgylchiadau y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad llafar gael ei gynnal odanynt o dan baragraff 11, a

(iii)os ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu ystyried y cais ar y cyd ag unrhyw gais arall ac mewn perthynas ag unrhyw gais arall, am y bwriad hwnnw,

(b)darparu copi oʼr cais a gyflwynwyd gan y ceisydd, i alluogiʼr person neuʼr corff a hysbysir i gyflwyno sylwadau gwybodus o ran pa un a ddylid caniatáuʼr cais ai peidio, ac

(c)pan fo rheoliad 17(1) yn gymwys i gais o dan baragraff 8(1)(a), roi gwybod iʼr person neuʼr corff a hysbysir y bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu a ywʼr fangre neuʼr lleoliad perthnasol, a bennwyd yn y cais ac sydd mewn ardal reoledig, hefyd mewn lleoliad neilltuedig.

Gwrandawiadau llafar

11.—(1Yn achos cais syʼn dod o fewn paragraff 8, caiff Bwrdd Iechyd Lleol ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad llafar gael ei gynnal os ywʼn ystyried bod angen clywed sylwadau llafar cyn penderfynu cais oʼr fath.

(2Os ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu cynnal gwrandawiad llafar, rhaid iddo—

(a)rhoi dim llai na 14 o ddiwrnodau o rybudd o amser a lleoliad y gwrandawiad iʼr canlynol—

(i)y ceisydd, a

(ii)unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylwadau ar y cais o dan baragraff 8(3),

(b)rhoi gwybod iʼr ceisydd pwy y rhoddwyd hysbysiad iddo oʼr gwrandawiad, ac

(c)rhoi gwybod iʼr rheini a hysbysir y cânt gyflwyno sylwadau llafar yn y gwrandawiad, ynglŷn âʼr cais.

(3Caniateir i unrhyw berson a grybwyllir yn is-baragraff (2), syʼn dymuno cyflwyno sylwadau llafar yn y gwrandawiad, gael ei gynorthwyo i gyflwyno ei sylwadau gan berson arall a chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad gan y person arall hwnnw, gan gynnwys pan na foʼr person a hysbysir o dan is-baragraff (2) yn gallu bod yn bresennol ei hunan yn y gwrandawiad.

(4Caiff Bwrdd Iechyd Lleol benderfynuʼr weithdrefn sydd iʼw dilyn yn y gwrandawiad llafar.

(5Nid yw Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei rwymo gan unrhyw argymhellion syʼn codi o wrandawiad llafar.

Gwybodaeth y mae rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol roi sylw iddi

12.  Wrth benderfynu cais syʼn dod o fewn paragraff 8, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol roi sylw, yn benodol, iʼr canlynol—

(a)unrhyw sylwadau a gaiff y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 8(3),

(b)unrhyw argymhellion syʼn codi o wrandawiad llafar, os cynhelir un o dan baragraff 11,

(c)yr asesiad perthnasol o anghenion fferyllol aʼr ardal leol berthnasol, a

(d)unrhyw wybodaeth arall sydd ar gael iʼr Bwrdd Iechyd Lleol ac sydd, yn ei farn, yn berthnasol iʼr ystyriaeth oʼr cais.

Gosod amodau

13.—(1Maeʼr is-baragraff hwn yn gymwys pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu caniatáu cais syʼn dod o fewn—

(a)paragraff 8(1)(a)(i) pan foʼr fangre a bennir yn y cais mewn ardal reoledig, neu

(b)paragraff 8(1)(a)(ii).

(2Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys—

(a)rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ystyried a ywʼn debygol yr effeithir yn andwyol ar ddarpariaeth—

(i)gwasanaethau meddygol sylfaenol gan ddarparwr gwasanaethau oʼr fath (ac eithrioʼr Bwrdd Iechyd Lleol ei hunan),

(ii)gwasanaethau fferyllol gan fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG,

(iii)gwasanaethau fferyllol lleol a ddarperir o dan gynllun peilot, neu

(iv)gwasanaethau fferyllol gan feddyg,

o ganlyniad iʼw benderfyniad i ganiatáuʼr cais, a

(b)pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol oʼr farn ei bod yn debygol yr effeithir yn andwyol ar ddarpariaeth unrhyw un neu ragor oʼr gwasanaethau hynny a restrir yn is-baragraff (2)(a), caiff osod amodau i ohirio, am unrhyw gyfnod y maeʼn meddwl ei fod yn addas, wneud neu derfynu trefniadau o dan reoliad 26 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon) neu ddarpariaeth gyfatebol gan feddyg neu gontractwr GMC o wasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu i gleifion ar y rhestr berthnasol.

Hysbysu ynghylch penderfyniadau: ceisiadau i gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu i ddiwygio rhestr fferyllol

14.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad ar gais syʼn dod o fewn paragraff 8(1)(a)(i), roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad (gan gynnwys y cwestiynau o ran gosod amodau o dan baragraff 13 aʼr penderfyniad ynghylch lleoliad neilltuedig o dan reoliad 17(1))—

(a)i’r ceisydd, a

(b)i unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau ar y cais iʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff 8(3).

(2Yn achos cais a benderfynir o dan reoliad 22 (ceisiadau syʼn ymwneud â newid perchnogaeth), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad, roi hysbysiad ysgrifenedig yn unol â pharagraff 9.

(3Rhaid i hysbysiad o benderfyniad o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad oʼr rhesymau dros y penderfyniad ac o unrhyw hawliau i apelio.

Hysbysu ynghylch penderfyniadau: ceisiadau i gynnwys person mewn rhestrau meddygon fferyllol neu i ddiwygio rhestrau meddygon fferyllol

15.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad ar gais syʼn dod o fewn paragraff 8(1)(a)(ii), roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad (gan gynnwys y cwestiwn o ran gosod amodau o dan baragraff 13)—

(a)iʼr ceisydd, a

(b)i unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau ar y cais iʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff 8(3).

(2Rhaid i hysbysiad o benderfyniad o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad oʼr rhesymau dros y penderfyniad ac o unrhyw hawliau i apelio.

Hysbysu ynghylch penderfyniadau: ceisiadau o dan reoliad 24 i estyn y cyfnod perthnasol

16.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad ar gais syʼn dod o fewn paragraff 8(1)(b), roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad—

(a)i’r ceisydd, a

(b)i unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau ar y cais iʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff 8(3).

(2Rhaid i unrhyw hysbysiad o benderfyniad o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad oʼr rhesymau dros y penderfyniad.

Hysbysu ynghylch penderfyniadau: ceisiadau o dan reoliad 17(2)

17.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad ar gais syʼn dod o fewn paragraff 8(1)(c), roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad—

(a)i’r ceisydd, a

(b)i unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau ar y cais iʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff 8(3).

(2Rhaid i hysbysiad o benderfyniad o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad oʼr rhesymau dros y penderfyniad ac o unrhyw hawliau i apelio.

Gweithredu yn dilyn penderfyniad mewn cysylltiad â lleoliadau neilltuedig

18.—(1Ar ôl penderfynu cais o dan reoliad 17(2) neu wneud penderfyniad yn unol â rheoliad 17(1), cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol amlinellu yn fanwl gywir ar fap ffiniau unrhyw leoliad neilltuedig a benderfynwyd ganddo, neu ddileu’r amlinelliad o ffin lleoliad sydd wedi peidio â bod yn lleoliad neilltuedig, yn ôl y digwydd.

(2At ddibenion y paragraff hwn, “y dyddiad perthnasol” ywʼr diweddaraf oʼr canlynol—

(a)y dyddiad y maeʼr cyfnod ar gyfer dwyn apêl yn erbyn y penderfyniad yn dod i ben, neu

(b)dyddiad penderfynu unrhyw apêl oʼr fath.

Rheoliadau 14, 25, 35 a 54

ATODLEN 4Apelau i Weinidogion Cymru

RHAN 1Materion rhagarweiniol

Egwyddorion cyffredinol

1.  Ac eithrio iʼr graddau y maeʼr Rheoliadau hyn yn darparu iʼr gwrthwyneb, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu apêl a gyflwynir iddynt yn y modd y maent yn meddwl ei fod yn addas, ac yn benodol, cânt—

(a)ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael iddynt ac sydd, yn eu barn hwy, yn berthnasol i benderfynu apêl;

(b)ystyried dwy neu ragor o apelau ar y cyd ac mewn perthynas âʼi gilydd (ond nid oes rhwymedigaeth arnynt i wneud hynny pan foʼr Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu dau neu ragor o geisiadau ar y cyd ac mewn perthynas âʼi gilydd), ond pan fônt yn bwriadu gwneud hynny, rhaid iddynt roi hysbysiad oʼr bwriad hwnnw i bob apelydd ac iʼr rheini y rhoddir hysbysiad iddynt o bob apêl yn unol âʼr Atodlen hon;

(c)pan fo Gweinidogion Cymru, yn unol ag is-baragraff (b), yn ystyried dwy neu ragor o apelau y mae rheoliad 15(2) yn gymwys iddynt ar y cyd ac mewn perthynas âʼi gilydd, cânt wrthod apêl (er y byddent, pe baent yn penderfynuʼr apêl fel apêl unigol ar ei phen ei hun, yn ei chaniatáu) pan fo nifer yr apelau, neuʼr amgylchiadau yʼu gwneir odanynt, yn peri y byddai caniatáu pob un, neu fwy nag un ohonynt, yn niweidio darpariaeth briodol gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu yn yr ardal reoledig y maeʼr fangre a bennir yn yr apêl ynddi;

(d)anfon yn ôl apêl a gyflwynwyd iddynt i Fwrdd Iechyd Lleol iʼw ailbenderfynu, mewn achosion pan oedd yr wybodaeth y maeʼn ofynnol iʼr ceisydd ei darparu yn unol ag Atodlen 2 yn anghyflawn;

(e)gwrthod apêl os ydynt oʼr farn o ran yr hysbysiad o apêl—

(i)nad yw’n ddilys oherwydd nad ywʼn cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon,

(ii)nad yw’n datgelu unrhyw sail resymol dros apelio, neu

(iii)ei fod fel arall yn flinderus neuʼn wacsaw.

Gwrandawiadau llafar

2.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad llafar gael ei gynnal os ydynt yn ystyried bod angen clywed sylwadau llafar cyn penderfynu apêl a gyflwynwyd iddynt.

(2Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu cynnal gwrandawiad llafar, rhaid iddynt—

(a)penodi un neu ragor o bersonau i wrando’r apêl ac i adrodd wrthynt ar yr apêl,

(b)rhoi dim llai na 14 o ddiwrnodau o rybudd o amser a lleoliad y gwrandawiad iʼr apelydd ac i unrhyw berson yr anfonwyd copi oʼr hysbysiad o apêl ato o dan baragraff 4 neu 7,

(c)rhoi gwybod iʼr apelydd i bwy y rhoddwyd hysbysiad oʼr gwrandawiad, a

(d)rhoi gwybod iʼr rheini a hysbysir y cânt gyflwyno sylwadau llafar yn y gwrandawiad, ynglŷn âʼr apêl.

(3Caniateir i unrhyw berson a grybwyllir yn is-baragraff (2), syʼn dymuno cyflwyno sylwadau llafar yn y gwrandawiad, gael ei gynorthwyo i gyflwyno ei sylwadau gan berson arall a chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad gan y person arall hwnnw, gan gynnwys pan na foʼr person a hysbysir o dan is-baragraff (2) yn gallu bod yn bresennol ei hunan yn y gwrandawiad.

(4Caiff y person neuʼr personau a benodir gan Weinidogion Cymru i wrando’r apêl benderfynuʼr weithdrefn sydd iʼw dilyn yn y gwrandawiad.

(5Nid yw Gweinidogion Cymru wedi eu rhwymo gan unrhyw argymhellion syʼn codi o wrandawiad llafar.

RHAN 2Apelau yn erbyn penderfyniadau syʼn penderfynu ardaloedd rheoledig

Hawl i apelio i Weinidogion Cymru

3.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu, yn rhinwedd rheoliad 13(3) (ardaloedd syʼn ardaloedd rheoledig), na ellir ystyried cais gan Bwyllgor Meddygol Lleol neu Bwyllgor Fferyllol Lleol, caiff y ceisydd gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

(2Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu, o dan reoliad 13(2), pa un a yw unrhyw ardal benodol o fewn yr ardal yʼi sefydlwyd ar ei chyfer, oherwydd ei chymeriad gwledig, yn ardal leol reoledig neuʼn rhan o ardal reoledig ai peidio, y personau sydd â hawlogaeth i gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn y penderfyniad hwnnw yw—

(a)y Pwyllgor Meddygol Lleol,

(b)y Pwyllgor Fferyllol Lleol, ac

(c)unrhyw berson sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot neu unrhyw ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer ac y rhoddwyd hysbysiad oʼr penderfyniad iddynt gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3.

(3Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu y dylai neu na ddylai ohirio gwneud neu derfynu trefniadau, fel yʼi crybwyllir ym mharagraff 6(b) o Atodlen 3, y rheini a gaiff gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn y penderfyniad hwnnw yw—

(a)y Pwyllgor Meddygol Lleol,

(b)y Pwyllgor Fferyllol Lleol, ac

(c)unrhyw berson sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot neu unrhyw ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer ac y rhoddwyd hysbysiad oʼr penderfyniad iddynt gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3.

(4Mae hysbysiad o apêl yn ddilys—

(a)os y’i cyflwynir gan berson a chanddo’r hawl i apelio o dan is-baragraff (1), (2) neu (3),

(b)os y’i hanfonir at Weinidogion Cymru o fewn 30 o ddiwrnodau iʼr dyddiad yr anfonodd y Bwrdd Iechyd Lleol yr hysbysiad oʼr penderfyniad yr apelir yn ei erbyn at y person syʼn gwneud yr apêl, ac

(c)os yw’n cynnwys datganiad o’r sail dros yr apêl.

Hysbysu ynghylch apelau

4.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael hysbysiad o apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 3(1), anfon copi oʼr hysbysiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael hysbysiad o apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 3(2) neu 3(3), anfon copi oʼr hysbysiad i—

(a)y Bwrdd Iechyd Lleol, a

(b)y personau hynny y rhoddodd y Bwrdd Iechyd Lleol hysbysiad oʼi benderfyniad iddynt o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3.

(3Ar yr un pryd, rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod iʼr rheini yr anfonwyd copi oʼr hysbysiad o apêl atynt o dan is-baragraffau (1) i (3)—

(a)y cânt gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ynglŷn âʼr apêl, o fewn 30 o ddiwrnodau iʼr dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad o apêl atynt, a

(b)am yr amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad llafar gael ei gynnal odanynt.

Penderfynu apelau

5.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl gwneud penderfyniad ar apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 3, roi hysbysiad ysgrifenedig oʼu penderfyniad, ynghyd âʼr rhesymau drosto, iʼr personau yr anfonwyd copi oʼr hysbysiad o apêl atynt o dan baragraff 4.

(2O ran Gweinidogion Cymru—

(a)rhaid iddynt, pan fônt yn caniatáu apêl yn erbyn penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol na ellir ystyried cais yn rhinwedd rheoliad 13(3), naill ai—

(i)penderfynu eu hunain y cwestiwn o ran pa un a ywʼr ardal leol benodol yn ardal reoledig neuʼn rhan o ardal reoledig ai peidio, neu

(ii)anfon y cwestiwn yn ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ei benderfynu,

(b)pan foʼr Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynuʼr cais, wedi ystyried gosod amodau o dan baragraff 6 o Atodlen 3, cânt ystyried eu hunain pa un ai i osod amodau,

(c)pan na foʼr Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynuʼr cais, wedi ystyried gosod amodau o dan baragraff 6 o Atodlen 3, cânt naill ai—

(i)ystyried eu hunain pa un ai i osod amodau, neu

(ii)anfon y cwestiwn yn ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ei benderfynu,

(d)pan foʼr Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynuʼr cais, wedi ystyried y cwestiwn o ran pa un ai i ohirio gwneud neu ohirio terfynu trefniadau o dan reoliad 26 (neu ddarpariaeth gyfatebol o dan y Rheoliadau GMC) ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu i gleifion gan feddyg neu gontractwr GMC, cânt eu hunain ohirio gwneud neu ohirio terfynu trefniadau oʼr fath am unrhyw gyfnod y maent yn meddwl ei fod yn addas, neu

(e)pan na foʼr Bwrdd Iechyd Lleol wedi ystyried y cwestiwn o ran pa un ai i ohirio gwneud neu ohirio terfynu trefniadau o dan reoliad 26 (neu ddarpariaeth gyfatebol o dan y Rheoliadau GMC) ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu i gleifion gan feddyg neu gontractwr GMC, rhaid iddynt anfon y cwestiwn yn ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ei benderfynu.

RHAN 3Apelau yn erbyn penderfyniadau i gynnwys person mewn rhestrau fferyllol a rhestrau meddygon fferyllol, neu i ddiwygio rhestrau oʼr fath

Hawl i apelio i Weinidogion Cymru

6.—(1Ar gyfer ceisiadau y mae paragraff 8(1)(a) ac (c) o Atodlen 3 yn gymwys iddynt, y personau a chanddynt hawlogaeth i gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol yw—

(a)y ceisydd;

(b)unrhyw un neu ragor oʼr canlynol a gyflwynodd sylwadau ar y cais iʼr Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 8(3) o Atodlen 3—

(i)unrhyw berson sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol,

(ii)unrhyw berson y rhoddwyd iddo gydsyniad rhagarweiniol ar gyfer ei gynnwys mewn rhestr fferyllol,

(iii)unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot, a

(iv)pan foʼr fangre a bennir mewn cais mewn ardal reoledig, unrhyw berson syʼn ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol neu sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr meddygon fferyllol.

(2Yn achos cais a benderfynwyd o dan reoliad 22 (ceisiadau syʼn ymwneud â newid perchnogaeth), y personau a chanddynt hawlogaeth i gyflwyno hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru yw—

(a)y ceisydd, a

(b)unrhyw un neu ragor oʼr canlynol, y rhoddwyd iddo hysbysiad, o dan baragraff 14(2) o Atodlen 3, o benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ar y cais—

(i)unrhyw berson sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol,

(ii)unrhyw berson y rhoddwyd iddo gydsyniad rhagarweiniol ar gyfer ei gynnwys mewn rhestr fferyllol,

(iii)unrhyw ddarparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot, a

(iv)pan foʼr fangre a bennir yn y cais mewn ardal reoledig, unrhyw berson syʼn ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol neu sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr meddygon fferyllol.

(3Mae hysbysiad o apêl yn ddilys—

(a)os y’i cyflwynir gan berson a chanddo’r hawl i apelio o dan is-baragraff (1) neu (2),

(b)os y’i hanfonir at Weinidogion Cymru o fewn 30 o ddiwrnodau iʼr dyddiad yr anfonodd y Bwrdd Iechyd Lleol yr hysbysiad oʼr penderfyniad yr apelir yn ei erbyn at y person syʼn gwneud yr apêl, ac

(c)os yw’n cynnwys datganiad oʼr sail dros apelio nad yw’n golygu herio cyfreithlondeb na rhesymoldeb asesiad o anghenion fferyllol, na thegwch y broses a ddefnyddiodd y Bwrdd Iechyd Lleol i ymgymryd âʼr asesiad hwnnw.

Hysbysu ynghylch apelau

7.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael hysbysiad o apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 6(1), anfon copi oʼr hysbysiad—

(a)at y ceisydd, os nad y ceisydd a gyflwynodd yr hysbysiad o apêl,

(b)i’r Bwrdd Iechyd Lleol, ac

(c)at y rheini a hysbyswyd am y cais ac a gyflwynodd sylwadau arno o dan baragraff 8(3) o Atodlen 3.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael hysbysiad o apêl a gyflwynwyd o dan baragraff 6(2), anfon copi oʼr hysbysiad—

(a)at y ceisydd, os nad y ceisydd a gyflwynodd yr hysbysiad o apêl,

(b)i’r Bwrdd Iechyd Lleol, ac

(c)at y rheini y rhoddwyd iddynt hysbysiad o benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 14(2) o Atodlen 3.

(3Ar yr un pryd, rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod iʼr personau yr anfonwyd copi oʼr hysbysiad o apêl atynt o dan y paragraff hwn—

(a)y cânt, o fewn 30 o ddiwrnodau iʼr dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad o apêl atynt, gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ynglŷn âʼr apêl,

(b)am yr amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i wrandawiad llafar gael ei gynnal odanynt, ac

(c)pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu ystyried dwy neu ragor o apelau ar y cyd ac mewn perthynas âʼi gilydd, am y bwriad hwnnw.

Penderfynu apelau

8.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth benderfynu apêl a wnaed o dan baragraff 6, naill ai—

(a)caniatáuʼr apêl, neu

(b)cadarnhau penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Mewn achos pan foʼr fangre a bennir mewn cais, sydd yn destun apêl, mewn ardal reoledig—

(a)pan foʼr Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynuʼr cais, wedi ystyried pa un ai i osod amodau o dan baragraff 13 o Atodlen 3 neu reoliad 17(6)(b), caiff Gweinidogion Cymru eu hunain ystyried pa un ai i osod amodau i ohirio gwneud neu i ohirio terfynu trefniadau oʼr fath, am unrhyw gyfnod y maent yn meddwl ei fod yn addas, neu

(b)pan na foʼr Bwrdd Iechyd Lleol, wrth benderfynuʼr cais, wedi ystyried pa un ai i osod amodau o dan baragraff 13 o Atodlen 2 neu reoliad 17(6)(b), rhaid i Weinidogion Cymru naill ai—

(i)ystyried eu hunain pa un ai i osod amodau, neu

(ii)anfon y cwestiwn yn ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ei benderfynu.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl gwneud penderfyniad ar apêl, gan gynnwys gosod amodau o dan is-baragraff (2), roi hysbysiad ysgrifenedig oʼu penderfyniad ynghyd âʼr rhesymau drosto iʼr personau hynny yr anfonwyd copi oʼr hysbysiad o apêl atynt o dan baragraff 7.

Effaith penderfyniadau gan Weinidogion Cymru

9.  At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae penderfyniad Gweinidogion Cymru yn dod yn benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ar y mater (ond nid yw apêl bellach i Weinidogion Cymru ar y penderfyniad hwnnw yn bosibl, oni chaiff penderfyniad Gweinidogion Cymru ei wrthdroi gan lys).

Rheoliad 12

ATODLEN 5Telerau gwasanaeth ar gyfer fferyllwyr GIG syʼn darparu gwasanaethau fferyllol, yn benodol drwy ddarparu cyffuriau

RHAN 1Cyffredinol

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon, mae cyffuriau neu gyfarpar iʼw hystyried fel pe bai person wedi gofyn amdanynt, neu fel pe baent wedi eu darparu, yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy, hyd yn oed os nad ywʼr person syʼn dymuno cael gwasanaethau fferyllol yn cyflwynoʼr presgripsiwn hwnnw, cyhyd ag—

(a)bod y presgripsiwn hwnnw gan y fferyllydd GIG yn ei feddiant, a

(b)bod y person hwnnw yn cyflwyno swp-ddyroddiad cysylltiedig, neu fod gan y fferyllydd GIG swp-ddyroddiad cysylltiedig yn ei feddiant.

Corffori darpariaethau

2.  Mae unrhyw ddarpariaethau oʼr canlynol syʼn effeithio ar hawliau a rhwymedigaethau fferyllwyr GIG syʼn darparu gwasanaethau fferyllol yn ffurfio rhan oʼr telerau gwasanaeth—

(a)y Rheoliadau,

(b)y Tariff Cyffuriau iʼr graddau y maeʼn rhestru cyffuriau a chyfarpar at ddibenion adran 80 o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol),

(c)cymaint o Ran 2 o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992 ag syʼn ymwneud â’r canlynol—

(i)ymchwiliadau a wneir gan y pwyllgor disgyblu fferyllol aʼr cyd-bwyllgor disgyblu a chamau gweithredu y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol eu cymryd o ganlyniad i ymchwiliadau oʼr fath, a

(ii)apelau i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniadauʼr Bwrdd Iechyd Lleol, a

(d)cymaint o reoliad 29 o Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010(1) (mynd i mewn i fangreoedd aʼu harchwilio) ag syʼn ymwneud â mynd i mewn i fangreoedd y maeʼr fferyllydd GIG naill aiʼn berchen arnynt neuʼn eu rheoli neuʼn darparu gwasanaethau fferyllol ynddynt, ac archwilioʼr mangreoedd hynny.

RHAN 2Gwasanaethau hanfodol

Gwasanaethau hanfodol

3.  At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “gwasanaethau hanfodol” yw—

(a)y gwasanaethau a ddisgrifir yn y Rhan hon, a

(b)y gweithgareddau a ddisgrifir yn y Rhan hon sydd iʼw cyflawni mewn cysylltiad âʼr gwasanaethau hynny.

Gwasanaethau gweinyddu

4.  Rhaid i fferyllydd GIG, iʼr graddau syʼn ofynnol gan baragraffau 5 i 9 ac yn y modd a ddisgrifir yn y paragraffau hynny, ddarparu cyffuriau a chyfarpar priodol a digonol i bersonau syʼn cyflwyno presgripsiwn am y cyffur hwnnw neuʼr cyfarpar hwnnw, wedi ei lofnodi gan ragnodydd yn unol âʼi swyddogaethau yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Gweinyddu cyffuriau a chyfarpar

5.—(1Yn ddarostyngedig iʼr darpariaethau a ganlyn oʼr Rhan hon, pan fo person yn cyflwyno ar ffurflen bresgripsiwn—

(a)archeb am gyffuriau nad ydynt yn gyffuriau Atodlen, neu am gyfarpar nad ywʼn gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi gan ragnodydd,

(b)archeb am gyffur a bennir yn Atodlen 2 iʼr Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau (cyffuriau neu feddyginiaethau sydd iʼw harchebu o dan amgylchiadau penodol yn unig), wedi ei llofnodi aʼi harnodi ar ei hwyneb gydaʼr cyfeirnod “SLS” gan ragnodydd, neu

(c)archeb am gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi aʼi harnodi ar ei hwyneb gydaʼr cyfeirnod “SLS” gan ragnodydd,

rhaid i fferyllydd GIG, yn rhesymol brydlon ac yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan y rhagnodydd ar y ffurflen bresgripsiwn, ddarparuʼr cyffuriau a archebir felly, aʼr cyfarpar hwnnw a archebir felly y mae’n ei gyflenwi yng nghwrs arferol ei fusnes.

(2Yn ddarostyngedig iʼr darpariaethau a ganlyn oʼr Rhan hon, pan fo unrhyw berson—

(a)yn cyflwyno presgripsiwn amlroddadwy anelectronig syʼn cynnwys—

(i)archeb am gyffuriau nad ydynt yn gyffuriau Atodlen, nac yn gyffuriau rheoledig o fewn ystyr “controlled drug” yn Neddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971(2), ac eithrio cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 4 neu 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001(3) (syʼn ymwneud â chyffuriau rheoledig a eithriwyd o waharddiadau penodol o dan y Rheoliadau), wedi ei llofnodi gan ragnodydd amlroddadwy,

(ii)archeb am gyfarpar nad yw’n gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi gan ragnodydd amlroddadwy, neu

(iii)archeb am gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi aʼi harnodi ar ei hwyneb gydaʼr cyfeirnod “SLS” gan ragnodydd amlroddadwy,

a hefyd yn cyflwyno swp-ddyroddiad cysylltiedig; neu

(b)yn gofyn i gyffuriau gael eu darparu neu i gyfarpar gael ei ddarparu yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy electronig syʼn cynnwys archeb o fath a bennir ym mharagraff (a)(i) i (iii),

rhaid i fferyllydd GIG, yn rhesymol brydlon ac yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan y rhagnodydd amlroddadwy yn y presgripsiwn amlroddadwy, ddarparuʼr cyffuriau a archebir felly, aʼr cyfarpar hwnnw a archebir felly y mae’n ei gyflenwi yng nghwrs arferol ei fusnes.

(3At ddibenion y paragraff hwn, mae presgripsiwn amlroddadwy anelectronig am gyffuriau neu gyfarpar iʼw ystyried fel pe bai wedi ei gyflwyno, hyd yn oed os nad ywʼr person syʼn dymuno cael y cyffuriau neuʼr cyfarpar yn cyflwynoʼr presgripsiwn hwnnw—

(a)pan foʼr presgripsiwn hwnnw gan y fferyllydd GIG yn ei feddiant, a

(b)pan foʼr person hwnnw yn cyflwyno swp-ddyroddiad cysylltiedig, neu pan fo gan y fferyllydd GIG swp-ddyroddiad cysylltiedig yn ei feddiant.

Cyflenwi yn unol â PPD

6.—(1Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan—

(a)bo person yn gofyn i fferyllydd GIG am gyffur neu gyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy a

(b)bo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—

(i)y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano, neu

(ii)cyffuriau neu gyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw.

(2Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid i’r fferyllydd GIG ystyried a yw’n rhesymol ac yn briodol cyflenwi yn unol â’r PPD yn hytrach nag yn unol â’r ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy.

(3Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, caiff y fferyllydd GIG ddarparu cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r cynnyrch neu swm y cynnyrch a archebwyd ar y ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy, pan—

(a)bo’r fferyllydd GIG yn gallu gwneud hynny yn rhesymol brydlon,

(b)bo gwneud hynny yn unol â’r PPD, ac

(c)bo cyflenwi cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd wedi ei wneud gan fferyllydd cofrestredig neu o dan oruchwyliaeth uniongyrchol fferyllydd cofrestredig sydd o’r farn, wrth arfer ei sgìl proffesiynol a’i farn broffesiynol, fod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn rhesymol ac yn briodol.

(4Pan fo fferyllydd GIG, yn unol ag is-baragraff (3), yn darparu cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd—

(a)rhaid i’r fferyllydd cofrestredig a grybwyllir yn is-baragraff (3)(c) arnodi’r presgripsiwn neu’r swp-ddyroddiad cysylltiedig yn unol â hynny (os yw’r Tariff Cyffuriau yn darparu ar gyfer y modd arnodi, yn y modd hwnnw y darperir ar ei gyfer yn y Tariff Cyffuriau), ac mae’r presgripsiwn neu’r swp-ddyroddiad cysylltiedig fel y’i harnodir felly yn cael ei drin fel y presgripsiwn at ddibenion ad-dalu cost y cynnyrch (er nad yw’r cyflenwi yn unol â’r presgripsiwn hwnnw), a

(b)os yw’r claf y mae’r cynnyrch wedi ei ddarparu iddo neu ar ei gyfer ar restr cleifion, ac—

(i)yn rhinwedd rheoliad 226A(5)(c)(iii) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (gwerthiant etc. gan fferyllydd yn unol â phrotocol prinder difrifol), os meddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig sy’n wahanol i’r cynnyrch a archebwyd gan y rhagnodydd ond sy’n cael effaith therapiwtig debyg iddo sy’n cael ei chyflenwi, neu

(ii)os yw unrhyw fath arall o gynnyrch yn cael ei gyflenwi, a bod Gweinidogion Cymru a’r person sydd, am y tro, yn berson yr ymgynghorir ag ef o dan adran 89(1)(a) o Ddeddf 2006 mewn cysylltiad â thâl fferyllol ar gyfer fferyllwyr GIG, gan weithredu ar y cyd, wedi dyroddi argymhelliad ac wedi rhoi cyhoeddusrwydd i’r argymhelliad hwnnw, yn y modd y gwelant ei fod yn addas, i’r perwyl, am resymau clinigol, yn achos cyflenwi cynnyrch o’r math hwnnw, y dylid hysbysu darparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol bod cynnyrch wedi ei gyflenwi i glaf ar eu rhestr cleifion yn unol â PPD yn hytrach nag yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy,

rhaid i’r fferyllydd GIG hysbysu’r darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’r claf ar ei restr cleifion, am y cyflenwi yn unol â’r PPD yn hytrach nag yn unol â’r ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy.

(5Pan—

(a)bo is-baragraff (1) yn gymwys,

(b)bo fferyllydd cofrestredig o’r farn, wrth arfer ei sgìl proffesiynol a’i farn broffesiynol, fod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn afresymol neu’n amhriodol, ac

(c)bo’r fferyllydd GIG yn gallu cyflenwi’r cynnyrch neu swm y cynnyrch a archebwyd gan y rhagnodydd o fewn amserlen resymol ond nid yn rhesymol brydlon,

mae’r gofynion i weithredu’n rhesymol brydlon ym mharagraff 5(1) a (2) i’w darllen fel pe baent yn ofynion i weithredu o fewn amserlen resymol.

Cyflenwi ar frys heb bresgripsiwn

7.—(1Maeʼr paragraff hwn yn gymwys pan fo rhagnodydd, mewn achos brys, yn gofyn i fferyllydd GIG ddarparu cyffur neu gyfarpar.

(2Caiff y fferyllydd GIG ddarparuʼr cyffur neuʼr cyfarpar y gofynnir amdano cyn cael ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy mewn cysylltiad âʼr cyffur hwnnw neuʼr cyfarpar hwnnw, ar yr amod—

(a)yn achos cais am gyffur, nad ywʼr cyffur—

(i)yn gyffur Atodlen, na

(ii)yn gyffur rheoledig o fewn ystyr “controlled drug” yn Neddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, ac eithrio cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 4 neu 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001, a

(b)yn achos cais am gyffur neu am gyfarpar, fod y rhagnodydd yn ymgymryd ag—

(i)rhoi iʼr fferyllydd GIG ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig mewn cysylltiad âʼr cyffur neuʼr cyfarpar o fewn 72 o oriau ar ôl i’r cais gael ei wneud, neu

(ii)rhoi iʼr fferyllydd GIG ffurflen bresgripsiwn electronig neu bresgripsiwn amlroddadwy electronig syʼn cydymffurfio âʼr gwasanaeth TPE o fewn 72 o oriau ar ôl i’r cais gael ei wneud.

Materion rhagarweiniol cyn darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwyd

8.—(1Os ywʼr person syʼn cyflwynoʼr ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy, neu syʼn gofyn i gyffuriau gael eu darparu neu i gyfarpar gael ei ddarparu yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy, yn gofyn iʼr fferyllydd GIG wneud hynny—

(a)rhaid iʼr fferyllydd GIG roi amcangyfrif oʼr amser pan fydd y cyffuriau neuʼr cyfarpar yn barod, a

(b)os na fyddant yn barod erbyn hynny, rhaid iʼr fferyllydd GIG roi amcangyfrif diwygiedig oʼr amser pan fyddant yn barod (ac ati).

(2Cyn darparu unrhyw gyffuriau neu gyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)rhaid iʼr fferyllydd GIG ofyn i unrhyw berson syʼn gwneud datganiad nad oes rhaid iʼr person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy daluʼr ffioedd a bennir yn rheoliad 3(1) oʼr Rheoliadau Ffioedd (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr), yn rhinwedd naill ai—

(i)hawlogaeth i gael esemptiad o dan reoliad 8(1) (esemptiadau) oʼr Rheoliadau Ffioedd, neu

(ii)hawlogaeth i beidio â thalu ffioedd oʼr fath o dan reoliad 5 oʼr Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl (ffioedd GIG y gellir peidio âʼu codi),

gyflwyno tystiolaeth foddhaol o’r hawlogaeth honno, oni bai bod y datganiad mewn cysylltiad â hawlogaeth i gael esemptiad gan reoliad 8(1) oʼr Rheoliadau Ffioedd neu mewn cysylltiad â hawlogaeth i beidio â thalu yn rhinwedd is-baragraffau (a) i (dd) o reoliad 5(2) oʼr Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl, a bod tystiolaeth oʼr fath eisoes ar gael iʼr fferyllydd GIG ar yr adeg gwneud y datganiad, a

(b)os na chyflwynir tystiolaeth foddhaol iʼr fferyllydd GIG, fel syʼn ofynnol gan baragraff (a), rhaid iʼr fferyllydd GIG arnodiʼr ffurflen y gwneir y datganiad arni iʼr perwyl hwnnw.

(3Mae is-baragraff (2) yn gymwys i ddarparu cyffur neu gyfarpar yn unol â PPD fel y mae’n gymwys i ddarparu cyffur neu gyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy (neu swp-ddyroddiad cysylltiedig), ac at y dibenion hyn, mae’r presgripsiwn at ddibenion ad-dalu cost y cynnyrch, fel y’i crybwyllir ym mharagraff 6(4)(a), yn cael ei drin fel y presgripsiwn y darperir y cyffur neu’r cyfarpar yn unol ag ef (er nad yw’r cyflenwi yn unol â’r presgripsiwn hwnnw).

Darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwyd

9.—(1Pan fo ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy yn cael ei chyflwyno neu ei gyflwyno i fferyllydd GIG, ni chaiff y fferyllfa GIG ddarparuʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar a archebir felly ond—

(a)os ywʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy wedi ei llofnodi neu ei lofnodi aʼi harnodi neu ei arnodi yn briodol, fel yʼi disgrifir ym mharagraff 5(1) neu (2), a

(b)yn unol âʼr archeb ac unrhyw gyfarwyddydau a roddwyd gan y rhagnodydd ar y ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy,

yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau sydd mewn grym o dan Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985(4) aʼr darpariaethau a ganlyn o’r Rhan hon.

(2Rhaid i gyffuriau neu gyfarpar a archebir felly gael eu darparu naill ai gan fferyllydd cofrestredig neu o dan oruchwyliaeth uniongyrchol fferyllydd cofrestredig.

(3Pan foʼr fferyllydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) wedi ei gyflogi gan fferyllydd GIG, ni chaniateir iʼr fferyllydd cofrestredig fod yn rhywun—

(a)sydd wedi ei anghymhwyso rhag ei gynnwys mewn rhestr berthnasol, neu

(b)sydd wedi ei atal dros dro o Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.

(4Os ywʼr archeb yn archeb am fath o gyfarpar y maeʼn ofynnol ei fesur aʼi ffitio (er enghraifft, gwasgrwym) neu os yw cynnyrch sydd i’w ddarparu yn unol â PPD yn fath o’r cyfarpar hwnnw, rhaid iʼr fferyllydd GIG wneud yr holl drefniadau angenrheidiol—

(a)ar gyfer mesur y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy ar gyfer y cyfarpar, a

(b)ar gyfer ffitioʼr cyfarpar.

(5Os ywʼr archeb yn archeb am gyffur neu gyfarpar sydd wedi ei gynnwys yn y Tariff Cyffuriau, Fformiwlari Cenedlaethol Prydain (gan gynnwys unrhyw Atodiad a gyhoeddwyd fel rhan oʼr Fformiwlari hwnnw), Fformiwlari’r Ymarferydd Deintyddol, y Cyffurlyfr Ewropeaidd neu Godecs Fferyllol Prydain neu os yw cynnyrch sydd i’w ddarparu yn unol â PPD yn gyffur neu gyfarpar o’r fath, rhaid iʼr cyffur neuʼr cyfarpar a ddarperir gydymffurfio âʼr safon neuʼr fformiwla a bennir yno.

(6Os ywʼr archeb—

(a)yn archeb am gyffur, ond

(b)nad yw’n archeb am gyffur rheoledig o fewn ystyr “controlled drug” yn Neddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, ac eithrio cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 4 neu 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001,

ac nad ywʼn rhagnodi ei swm, ei gryfder naʼr dogn, caiff fferyllydd GIG ddarparuʼr cyffur yn y cryfder a’r dogn y maeʼn ystyried eu bod yn briodol drwy arfer ei sgìl, ei wybodaeth aʼi ofal proffesiynol ac, yn ddarostyngedig i is-baragraff (7), yn y swm y maeʼn ystyried ei fod yn briodol ar gyfer cwrs o driniaeth am gyfnod nad yw’n hwy na 5 niwrnod.

(7Pan fo archeb y mae is-baragraff (6) yn gymwys iddi yn archeb am—

(a)sylwedd atal cenhedlu geneuol,

(b)cyffur nad yw ar gael iʼw gyflenwi fel rhan o wasanaethau fferyllol ac eithrio ar y cyd ag un neu ragor o gyffuriau eraill, neu

(c)gwrthfiotig ar ffurf hylif sydd iʼw roi drwyʼr geg, pan foʼn ofynnol, am resymau fferyllol mewn cysylltiad ag ef, ei ddarparu mewn pecyn heb ei agor,

nad yw ar gael iʼw ddarparu fel rhan o wasanaethau fferyllol ac eithrio mewn pecynnau pan fo’r maint lleiaf sydd ar gael yn cynnwys swm priodol ar gyfer cwrs o driniaeth am gyfnod sy’n hwy na 5 niwrnod, caiff y fferyllydd GIG ddarparu pecyn oʼr maint lleiaf sydd ar gael.

(8Pan fo unrhyw gyffur y maeʼr paragraff hwn yn gymwys iddo (hynny yw, cyffur nad yw Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 yn gymwys iddo, onid ywʼn gyffur a bennir am y tro yn Atodlen 4 neu 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001), a archebwyd gan ragnodydd ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, ar gael ar gyfer ei ddarparu gan fferyllydd GIG mewn pecyn mewn swm gwahanol iʼr swm a archebwyd felly, aʼr cyffur hwnnw—

(a)yn ddi-haint,

(b)yn eferw neuʼn hygrosgopig,

(c)yn gymysgedd hylifol iʼw ychwanegu at ddŵr bath,

(d)yn gymysgedd col-tar,

(e)yn gymysgedd gludiog, neu

(f)wedi ei becynnu ar adeg ei weithgynhyrchu mewn pecyn calendr neu gynhwysydd arbennig,

rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparuʼr cyffur yn y pecyn sydd oʼr swm agosaf iʼr swm a archebwyd felly.

(9Yn y paragraff hwn, ystyr “cynhwysydd arbennig” yw unrhyw gynhwysydd sydd âʼr modd o roiʼr cynnwys yn rhan integrol ohono, neu nad ywʼn ymarferol ei ddefnyddio i weinyddu swm cywir oʼr cynnwys.

(10Pan fo rhagnodydd yn archebu cyffur, neu pan fo cyffur sydd i’w ddarparu yn unol â PPD, mewn swm, neu luosrif o swm, sydd ar gael yn hwylus fel maint pecyn a weithgynhyrchir i ddeiliad awdurdodiad marchnata ar gyfer y cyffur, rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparuʼr cyffur mewn pecyn gwreiddiol (neu mewn pecynnau gwreiddiol) oʼr maint hwnnw sydd wedi eu cydosod gan weithgynhyrchydd oʼr cyffur ar gyfer y deiliad awdurdodiad marchnata hwnnw, oni bai—

(a)nad ywʼn bosibl iʼr fferyllydd GIG gael pecyn (neu becynnau) oʼr fath yn rhesymol brydlon yng nghwrs arferol busnes, neu

(b)nad ywʼn ymarferol iʼr fferyllydd GIG ddarparu pecyn (neu becynnau) oʼr fath wrth ymateb iʼr archeb (er enghraifft oherwydd anghenion y claf neuʼr dull o roiʼr cyffur).

(11Ac eithrio fel yʼi darperir yn is-baragraff (12), ni chaiff fferyllydd GIG ddarparu cyffur Atodlen wrth ymateb i archeb syʼn cyfeirio ato wrth ei enw, ei fformiwla neu ddisgrifiad arall ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy.

(12Pan fo gan gyffur enw amherchnogol priodol a phan foʼn cael ei archebu ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, naill ai wrth yr enw hwnnw neu wrth ei fformiwla, caiff fferyllydd GIG ddarparu cyffur sydd âʼr un fanyleb, hyd yn oed pan foʼr cyffur hwnnw yn gyffur Atodlen, ar yr amod pan fo cyffur Atodlen mewn pecyn syʼn cynnwys cyffur mewn mwy nag un cryfder, nad yw darparu felly yn golygu cyflenwi rhan oʼr pecyn yn unig.

(13Pan fo cyffur a archebir fel yʼi pennir yn is-baragraff (12) yn gyfuniad o fwy nag un cyffur, nid ywʼr is-baragraff hwnnw yn gymwys ond os oes gan y cyfuniad enw amherchnogol priodol, pa un a oes gan y cyffuriau unigol yn y cyfuniad enwau oʼr fath ai peidio.

(14Rhaid i fferyllydd GIG ddarparu unrhyw gyffur y maeʼn ofynnol iddo ei ddarparu o dan baragraff 5, neu unrhyw gyffur y mae’n ei ddarparu o dan baragraff 6, mewn cynhwysydd addas.

(15Pan fo fferyllydd GIG yn darparu cyffur neu gyfarpar o dan baragraff 6, rhaid i’r fferyllydd GIG gynnwys yn y label gweinyddu ar ddeunydd pecynnu’r cynnyrch, er budd y claf, wybodaeth i’r perwyl bod y cynnyrch yn cael ei gyflenwi yn unol â PPD, gan nodi’r PPD penodol.

Gwrthod darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwyd

10.—(1Caiff fferyllydd GIG wrthod darparuʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar a archebwyd ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan foʼr fferyllydd GIG yn credu, yn rhesymol, nad yw’n archeb ddilys ar gyfer y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy (er enghraifft, oherwydd ei fod yn credu, yn rhesymol, fod y ffurflen wedi ei ddwyn neu ei ffugio),

(b)pan foʼn ymddangos iʼr fferyllydd GIG fod camgymeriad ar y ffurflen bresgripsiwn neu ar y presgripsiwn amlroddadwy neu ei swp-ddyroddiad cysylltiedig (gan gynnwys camgymeriad clinigol a wnaed gan y rhagnodydd) neu y byddai darparuʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar, o dan yr amgylchiadau, yn groes i farn glinigol y fferyllydd GIG,

(c)pan foʼr fferyllydd GIG neu bersonau eraill yn y fangre yn dioddef trais neuʼn cael eu bygwth â thrais gan y person syʼn cyflwynoʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy, neu gan unrhyw berson sydd yng nghwmniʼr person hwnnw, neu

(d)pan foʼr person syʼn cyflwynoʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy, neu unrhyw berson arall sydd yng nghwmniʼr person hwnnw, yn cyflawni neuʼn bygwth cyflawni trosedd.

(2Rhaid i fferyllydd GIG wrthod darparu cyffur a archebwyd ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy pan foʼr archeb yn archeb am feddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig, ac nad oedd hawlogaeth gan y rhagnodydd iʼw rhagnodi.

(3Rhaid i fferyllydd GIG wrthod darparu cyffur neu gyfarpar a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan fo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—

(i)y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano, neu

(ii)cyffuriau neu gyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw, a

(b)pan fo darpariaeth amgen eisoes wedi digwydd yn unol â’r PPD.

(4Caiff fferyllydd GIG wrthod darparu cyffur neu gyfarpar a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan fo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—

(i)y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano, neu

(ii)cyffuriau neu gyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyffur neu’r cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw,

(b)pan fo fferyllydd cofrestredig o’r farn, wrth arfer ei sgìl proffesiynol a’i farn broffesiynol, fod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn afresymol neu’n amhriodol, ac

(c)pan na fo’r fferyllydd GIG yn gallu darparu’r cyffur neu’r cyfarpar o fewn amserlen resymol,

ond os yw’r fferyllydd GIG yn gwrthod gwneud hynny, rhaid iddo ddarparu cyngor priodol, fel y bo’n angenrheidiol, i’r claf neu i’r person sy’n gofyn am y cyffur neu’r cyfarpar ar ran y claf ynghylch dychwelyd i’r rhagnodydd er mwyn i’r rhagnodydd adolygu triniaeth y claf.

(5Rhaid i fferyllydd GIG wrthod darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwyd ar bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan na fo gan y fferyllydd GIG gofnod oʼr presgripsiwn hwnnw,

(b)pan na fo gan y fferyllydd GIG, yn achos presgripsiwn amlroddadwy anelectronig, unrhyw swp-ddyroddiad cysylltiedig a phan na fo swp-ddyroddiad oʼr fath wedi ei gyflwyno iddo,

(c)pan na fo wedi ei lofnodi gan ragnodydd amlroddadwy,

(d)pan fyddai gwneud hynny yn anghyson ag unrhyw ysbeidiau a bennir yn y presgripsiwn,

(e)pan hwnnw fyddaiʼr tro cyntaf i gyffur neu gyfarpar gael ei ddarparu yn unol âʼr presgripsiwn, a phan fo’r presgripsiwn wedi ei lofnodi fwy na 6 mis yn gynharach,

(f)pan fo’r presgripsiwn amlroddadwy wedi ei lofnodi fwy nag 1 flwyddyn yn gynharach,

(g)pan foʼr dyddiad dod i ben ar y presgripsiwn amlroddadwy wedi mynd heibio, neu

(h)pan foʼr rhagnodydd amlroddadwy wedi rhoi gwybod i’r fferyllydd GIG nad oes angen y presgripsiwn mwyach.

(6Pan fo claf yn gofyn i gyffuriau neu gyfarpar a archebwyd ar bresgripsiwn amlroddadwy (ac eithrioʼr tro cyntaf y maeʼn gofyn felly) gael eu cyflenwi neu ei gyflenwi, ni chaiff fferyllydd GIG ddarparuʼr cyffuriau aʼr cyfarpar a archebwyd felly oni bai ei fod wedi ei fodloni—

(a)o ran y claf yr ysgrifennwyd y presgripsiwn mewn cysylltiad ag ef—

(i)ei fod yn cymryd neuʼn defnyddioʼr cyffur neuʼr cyfarpar yn briodol, ac yn debygol o barhau iʼw gymryd neu ei ddefnyddio felly, a

(ii)nad ywʼn dioddef unrhyw un neu ragor o sgil effeithiauʼr driniaeth syʼn dangos bod angen, neu ei bod yn ddymunol, adolygu triniaeth y claf,

(b)nad yw trefn feddyginiaethol y claf yr ysgrifennwyd y presgripsiwn mewn cysylltiad ag ef, neuʼr modd y defnyddir y cyfarpar gan y claf hwnnw, wedi newid mewn ffordd syʼn dangos bod angen, neu ei bod yn ddymunol, adolygu triniaeth y claf, ac

(c)nad oes unrhyw newidiadau wedi bod yn iechyd y claf yr ysgrifennwyd y presgripsiwn mewn cysylltiad ag ef, syʼn dangos bod angen, neu ei bod yn ddymunol, adolygu triniaeth y claf.

Gweithgareddau pellach sydd iʼw cyflawni mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau gweinyddu

11.—(1Mewn cysylltiad âʼr gwasanaethau a ddarperir o dan baragraff 4, rhaid i fferyllydd GIG—

(a)sicrhau y rhoddir cyngor priodol i gleifion ynghylch unrhyw gyffuriau neu gyfarpar a ddarperir iddynt—

(i)iʼw galluogi i ddefnyddioʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar yn briodol, a

(ii)i ddiwallu anghenion rhesymol y claf am wybodaeth gyffredinol ynglŷn âʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar,

(b)darparu cyngor priodol i bersonau y maeʼn darparu cyffuriau neu gyfarpar iddynt ynghylch—

(i)cadwʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar yn ddiogel, neu

(ii)dychwelyd unrhyw gyffuriau neu gyfarpar diangen iʼr fferyllfa iʼw dinistrioʼn ddiogel,

(c)wrth ddarparu cyffuriau i gleifion yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy, ddarparu cyngor priodol, yn benodol ar bwysigrwydd dim ond gofyn am yr eitemau hynny y mae eu hangen arnynt mewn gwirionedd,

(d)wrth ddarparu cyfarpar i gleifion yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(i)darparu cyngor priodol, yn benodol ar bwysigrwydd dim ond gofyn am yr eitemau hynny y mae eu hangen arnynt mewn gwirionedd, a

(ii)at y dibenion hynny, roi sylw iʼr manylion a gynhwysir yn y cofnodion a gynhelir o dan baragraff (f) mewn cysylltiad â darparu cyfarpar aʼr patrwm rhagnodi syʼn ymwneud âʼr claf o dan sylw,

(e)darparu i glaf nodyn ysgrifenedig o unrhyw gyffur neu gyfarpar syʼn ddyledus iddo, a rhoi gwybod iʼr claf pan ddawʼr cyffur neuʼr cyfarpar ar gael,

(f)cadw a chynnal cofnodion—

(i)oʼr cyffuriau aʼr cyfarpar a ddarperir, pan foʼn angenrheidiol neuʼn ddymunol gwneud hynny er mwyn hwyluso parhad gofal y claf,

(ii)mewn achosion priodol, oʼr cyngor a roddir ac unrhyw ymyriadau neu atgyfeiriadau a wneir (yn benodol ymyriadau o arwyddocâd clinigol mewn achosion syʼn ymwneud â phresgripsiynau amlroddadwy), a

(iii)o nodiadau a ddarperir o dan baragraff (e),

(g)ymgymryd â hyfforddiant priodol mewn cysylltiad â rhagnodi amlroddadwy, gan roi sylw i unrhyw argymhellion mewn cysylltiad â’r hyfforddiant hwnnw a nodir yn y Tariff Cyffuriau,

(h)os ywʼn cymryd meddiant o bresgripsiwn amlroddadwy neu swp-ddyroddiad cysylltiedig, storioʼr presgripsiwn amlroddadwy hwnnw neuʼr swp-ddyroddiad cysylltiedig hwnnw yn ddiogel,

(i)cynnal cofnodion o bresgripsiynau amlroddadwy ar ffurf a fydd yn darparu trywydd archwilio eglur oʼr cyflenwadau o dan y presgripsiwn amlroddadwy (gan gynnwys dyddiadau aʼr symiau a gyflenwir),

(j)dinistrio unrhyw swp-ddyroddiadau dros ben syʼn ymwneud â chyffuriau neu gyfarpar—

(i)nad oes eu hangen, neu

(ii)y gwrthodwyd eu darparu neu ei ddarparu i glaf yn unol â pharagraff 10,

(k)sicrhau, pan wrthodir darparu cyffuriau neu gyfarpar i berson yn unol â pharagraff 10(1)(b), (2), (3) neu (4), yr atgyfeirir y claf yn ôl at y rhagnodydd am gyngor pellach,

(l)pan fo cyffuriau wedi eu darparu neu gyfarpar wedi ei ddarparu i glaf o dan bresgripsiwn amlroddadwy, hysbysuʼr rhagnodydd am unrhyw faterion o arwyddocâd clinigol syʼn codi mewn cysylltiad âʼr presgripsiwn a chadw cofnod oʼr hysbysiad hwnnw,

(m)hysbysuʼr rhagnodydd am unrhyw wrthodiad i ddarparu cyffuriau neu gyfarpar yn unol â pharagraff 10(4),

(n)wrth ddarparu cyfarpar, ddarparu nodyn ysgrifenedig i glaf o enw, cyfeiriad a rhif ffôn y fferyllydd GIG, ac

(o)wrth ddarparu cyfarpar penodedig, gydymffurfio âʼr gofynion ychwanegol a nodir ym mharagraff 12.

(2Pan na fo fferyllydd GIG, wrth i ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy gael ei chyflwyno neu ei gyflwyno mewn cysylltiad â gwasanaethau gweinyddu o dan baragraff 4, yn gallu darparu cyfarpar (gan roi sylw i unrhyw PPD perthnasol), neu pan fo angen addasu cyfarpar stoma ac na foʼr fferyllydd GIG yn gallu darparuʼr addasiad, rhaid iʼr fferyllydd GIG—

(a)os ywʼr claf yn cydsynio, atgyfeirioʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy at fferyllydd GIG arall neu at gontractwr cyfarpar GIG, neu

(b)os nad ywʼr claf yn cydsynio i atgyfeirio, ddarparu iʼr claf fanylion cyswllt o leiaf ddau berson syʼn fferyllwyr GIG neuʼn gontractwyr cyfarpar GIG sy’n gallu darparuʼr cyfarpar neu addasuʼr cyfarpar stoma (yn ôl y digwydd), os ywʼr manylion hyn yn hysbys iʼr fferyllydd GIG.

Gofynion ychwanegol mewn perthynas â chyfarpar penodedig

12.—(1Maeʼr paragraff hwn yn nodiʼr gofynion ychwanegol y cyfeirir atynt ym mharagraff 11(1)(o) syʼn ymwneud â darparu cyfarpar penodedig.

(2Rhaid i fferyllydd GIG syʼn gweinyddu cyfarpar penodedig yng nghwrs arferol busnes ddarparu gwasanaeth danfon i gartrefi mewn cysylltiad âʼr cyfarpar hwnnw ac, fel rhan oʼr gwasanaeth hwnnw—

(a)rhaid iʼr fferyllydd GIG gynnig danfon y cyfarpar penodedig i gartref y claf,

(b)os ywʼr claf yn derbyn y cynnig hwnnw, rhaid gwneud y danfoniad yn rhesymol brydlon ac ar yr adeg y cytunir arni âʼr claf,

(c)rhaid danfon y cyfarpar penodedig mewn pecyn nad ywʼn arddangos unrhyw ysgrifen neu farciau eraill a allai ddangos ei gynnwys, a

(d)ni chaiff y modd y danfonir y pecyn ac unrhyw eitemau atodol syʼn ofynnol gan is-baragraff (3) gyfleuʼr math o gyfarpar a ddanfonir.

(3Mewn unrhyw achos pan fo cyfarpar penodedig yn cael ei ddarparu (drwy ei ddanfon iʼr cartref neu fel arall), rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparu cyflenwad rhesymol o eitemau atodol priodol (megis clytiau tafladwy a bagiau gwaredu) ac—

(a)rhaid iddo sicrhau y caiff y claf, os ywʼr claf yn dymuno, ymgynghori â pherson i gael cyngor clinigol arbenigol ynglŷn âʼr cyfarpar, neu

(b)os ywʼr fferyllydd GIG yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, rhaid iddo—

(i)atgyfeirioʼr claf at ragnodydd, neu

(ii)cynnig gwasanaeth adolygu defnyddio cyfarpar i’r claf.

(4Os na all y fferyllydd GIG ddarparu gwasanaeth adolygu defnyddio cyfarpar yn unol ag is-baragraff (3)(b)(ii), rhaid iʼr fferyllydd GIG roi iʼr claf fanylion cyswllt o leiaf ddau berson syʼn fferyllwyr GIG neuʼn gontractwyr cyfarpar GIG sy’n gallu trefnu i’r gwasanaeth gael ei ddarparu, os ywʼr manylion hyn yn hysbys iʼr fferyllydd GIG.

(5Pan fo fferyllydd GIG yn darparu llinell gofal ffôn mewn cysylltiad â gweinyddu unrhyw gyfarpar penodedig, rhaid iʼr fferyllydd GIG sicrhau, yn ystod cyfnodau y tu allan i oriau—

(a)bod cyngor yn cael ei roi ar gael i gleifion drwyʼr llinell gofal ffôn honno, neu

(b)bod rhif ffôn Galw Iechyd Cymru, neu gyfeiriad gwefan Galw Iechyd Cymru(5), yn cael ei roi ar gael i gleifion drwyʼr llinell gofal ffôn honno.

(6At ddibenion y paragraff hwn—

ystyr “cyfnodau y tu allan i oriau” (“out of hours periods”), mewn perthynas â fferyllfa, ywʼr cyfnodau y tu allan iʼr cyfnodau pan foʼr fferyllydd GIG—

(a)

o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa yn rhinwedd paragraff 22(1) neu 26(1), neu

(b)

yn darparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa yn unol â hysbysiad o dan baragraff 22(2);

ystyr “cyngor clinigol arbenigol” (“expert clinical advice”), mewn perthynas â chyfarpar penodedig, yw cyngor a roddir gan berson sydd wedi ei hyfforddiʼn addas ac sydd â phrofiad perthnasol mewn cysylltiad âʼr cyfarpar.

Gwasanaeth gwaredu mewn cysylltiad â chyffuriau diangen

13.  Rhaid i fferyllydd GIG, iʼr graddau y mae paragraff 14 yn ei gwneud yn ofynnol ac yn y modd a ddisgrifir yn y paragraff hwnnw, dderbyn a gwaredu cyffuriau diangen a ddarperir iʼr fferyllydd GIG iʼw gwaredu.

Gweithdrefn sylfaenol mewn cysylltiad â chyffuriau diangen

14.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), pan fo person yn cyflwyno i fferyllydd GIG, neu i unrhyw un neu ragor o staff y fferyllydd GIG, unrhyw gyffuriau a ddarparwyd ar gyfer claf sydd—

(a)ar aelwyd breifat, neu

(b)mewn cartref gofal preswyl,

aʼr cyffuriau wedi eu cadw yn un oʼr mannau hynny, rhaid iʼr fferyllydd GIG dderbyn y cyffuriau aʼu gwaredu yn unol ag is-baragraff (3).

(2Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol i fferyllydd GIG dderbyn unrhyw gyffuriau ar gyfer eu gwaredu oni bai bod y Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol wedi gwneud trefniadau âʼr fferyllydd GIG ar gyfer casglu a gwaredu cyffuriau oʼr disgrifiad hwnnw.

(3Ar ôl cael y cyffuriau, rhaid iʼr fferyllydd GIG—

(a)os gofynnir iddo wneud hynny gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu gan gontractwr gwaredu gwastraff y defnyddir ei wasanaeth gan y Bwrdd Iechyd Lleol, wahanuʼr cyffuriau solet neu’r ampylau, yr hylifau aʼr aerosolau oddi wrth ei gilydd,

(b)storioʼr cyffuriau mewn cynwysyddion a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu gan gontractwr gwaredu gwastraff y defnyddir ei wasanaeth gan y Bwrdd Iechyd Lleol at ddiben storio cyffuriau oʼr disgrifiad hwnnw, ac

(c)cydymffurfio ag unrhyw ofynion statudol eraill mewn cysylltiad â storio neu waredu cyffuriau oʼr disgrifiad hwnnw (mae bodloniʼr gofynion hynny, felly, yn wasanaeth hanfodol at ddibenion y Rheoliadau hyn),

a rhaid iddo gydweithredu ag unrhyw drefniadau addas sydd gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn eu lle ar gyfer casgluʼr cyffuriau yn rheolaidd o fangreʼr fferyllydd GIG, gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu ar ei ran.

Gweithgareddau pellach sydd iʼw cyflawni mewn cysylltiad â gwaredu cyffuriau diangen

15.  Mewn cysylltiad âʼr gwasanaethau a ddarperir o dan baragraff 13, rhaid i fferyllydd GIG—

(a)sicrhau ei fod ef ac unrhyw aelodau oʼi staff yn ymwybodol oʼr risgiau syʼn gysylltiedig â thrin cyffuriau gwastraff ac oʼr gweithdrefnau cywir sydd iʼw dilyn er mwyn lleihauʼr risgiau hynny, a

(b)sicrhau bod cyfarpar diogelu priodol, gan gynnwys menyg, oferôls a deunyddiau i ymdrin â gollyngiadau, ar gael yn hwylus iddo ef ac i unrhyw aelodau oʼi staff, ac wrth law unrhyw fan lle y caiff cyffuriau gwastraff eu storio.

Hybu ffyrdd iach o fyw

16.  Rhaid i fferyllydd GIG, iʼr graddau y mae paragraffau 17 a 18 yn ei gwneud yn ofynnol, ac yn y modd a nodir yn y paragraffau hynny, hybu negeseuon iechyd y cyhoedd iʼr cyhoedd.

Ymyrryd mewn cysylltiad â phresgripsiwn

17.—(1Pan fo person syʼn defnyddio fferyllfa—

(a)yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy i fferyllydd GIG, a

(b)pan foʼn ymddangos iʼr fferyllydd GIG fod y person—

(i)yn dioddef o ddiabetes,

(ii)mewn perygl o ddioddef clefyd coronaidd y galon neu bwysedd gwaed uchel, neu

(iii)yn ysmygu neuʼn pwyso gormod,

rhaid iʼr fferyllydd GIG, fel y boʼn briodol, ddarparu cyngor iʼr person hwnnw, gydaʼr nod o ychwanegu at wybodaeth y person hwnnw aʼi ddealltwriaeth oʼr materion iechyd syʼn berthnasol i amgylchiadau personol y person hwnnw.

(2Caniateir ateguʼr cyngor a roddir o dan is-baragraff (1), fel y boʼn briodol—

(a)drwy ddarparu deunydd ysgrifenedig (er enghraifft, taflenni), a

(b)drwy atgyfeirioʼr person i ffynonellau eraill o wybodaeth neu gyngor.

(3Rhaid i fferyllydd GIG, mewn achosion priodol, gadw a chynnal cofnod oʼr cyngor a roddir yn unol âʼr paragraff hwn, a rhaid iʼr cofnod hwnnw fod ar ffurf syʼn hwyluso—

(a)archwilio’r gwasanaethau fferyllol a ddarperir gan y fferyllydd GIG, a

(b)gofal dilynol iʼr person y rhoddwyd y cyngor iddo.

Ymgyrchoedd iechyd y cyhoedd

18.  Rhaid i fferyllydd GIG, ar gais y Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol, sicrhau—

(a)ei fod ef, ac unrhyw aelodau oʼi staff, yn cymryd rhan, yn y modd y gofynnir amdano’n rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol, mewn hyd at chwe ymgyrch ym mhob blwyddyn galendr i hybu negeseuon iechyd y cyhoedd i ddefnyddwyr fferyllfaʼr fferyllydd GIG, a

(b)pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gofyn iddo wneud hynny, gofnodi nifer y bobl y darparwyd gwybodaeth iddynt fel rhan o un oʼr ymgyrchoedd hynny.

Cyfeirio defnyddwyr

19.  Rhaid i fferyllydd GIG, iʼr graddau y mae paragraff 20 yn ei gwneud yn ofynnol, ac yn y modd a nodir yn y paragraff hwnnw, ddarparu gwybodaeth i ddefnyddwyr fferyllfaʼr fferyllydd GIG ynghylch darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill a sefydliadau cymorth.

Amlinelliad oʼr gwasanaeth mewn cysylltiad â chyfeirio defnyddwyr

20.—(1Pan foʼn ymddangos i fferyllydd GIG neu aelod oʼi staff, gan roi sylw iʼr angen i leihauʼr defnydd amhriodol o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymorth, fod ar berson syʼn defnyddio fferyllfaʼr fferyllydd GIG—

(a)angen cyngor, triniaeth neu gymorth na all y fferyllydd GIG ei ddarparu neu ei darparu, ond

(b)bod darparwr arall gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol neu wasanaethau cymorth, y maeʼr fferyllydd GIG yn ymwybodol ohono, yn debygol o allu darparuʼr cyngor hwnnw, y driniaeth honno neuʼr cymorth hwnnw,

rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparu manylion cyswllt y darparwr hwnnw iʼr person hwnnw ac, mewn achosion priodol, rhaid iddo atgyfeirioʼr person hwnnw at y darparwr hwnnw.

(2Pan na fo fferyllydd GIG, pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, yn gallu darparu cyfarpar, neu addasu cyfarpar stoma, oherwydd nad yw darparuʼr cyfarpar neuʼr addasu yng nghwrs busnes arferol y fferyllydd GIG, rhaid iʼr fferyllydd GIG—

(a)os ywʼr claf yn cydsynio, atgyfeirioʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy at fferyllydd GIG arall neu at gontractwr cyfarpar GIG, neu

(b)os nad ywʼr claf yn cydsynio i atgyfeirio, cdarparu iʼr claf fanylion cyswllt o leiaf ddau berson syʼn fferyllwyr GIG neuʼn gontractwyr cyfarpar GIG sy’n gallu darparuʼr cyfarpar neu addasuʼr cyfarpar stoma (yn ôl y digwydd), os ywʼr manylion hyn yn hysbys iʼr fferyllydd GIG.

(3Pan foʼn briodol, caniateir defnyddio nodyn atgyfeirio ysgrifenedig i wneud atgyfeiriad o dan y paragraff hwn.

(4Rhaid iʼr fferyllydd GIG, mewn achosion priodol, gadw a chynnal cofnod o unrhyw wybodaeth a roddir, neu unrhyw atgyfeiriad a wneir, o dan y paragraff hwn, a rhaid iʼr cofnod hwnnw fod ar ffurf syʼn hwyluso—

(a)archwilio’r gwasanaethau fferyllol a ddarperir gan y fferyllydd GIG, a

(b)gofal dilynol iʼr person y rhoddwyd yr wybodaeth iddo neu y gwnaed yr atgyfeiriad mewn cysylltiad ag ef.

Cymorth ar gyfer hunanofal

21.  Rhaid i fferyllydd GIG, iʼr graddau y mae paragraff 22 yn ei gwneud yn ofynnol, ac yn y modd a nodir yn y paragraff hwnnw, ddarparu cyngor a chymorth i bobl syʼn gofalu amdanynt eu hunain neu eu teuluoedd.

Amlinelliad oʼr gwasanaeth mewn cysylltiad â chymorth ar gyfer hunanofal

22.—(1Pan foʼn ymddangos i fferyllydd GIG neu aelod oʼi staff, gan roi sylw iʼr angen i leihauʼr defnydd amhriodol o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, y byddai person syʼn defnyddio fferyllfaʼr fferyllydd GIG yn cael budd o gyngor gan y fferyllydd GIG i helpuʼr person i reoli cyflwr meddygol (gan gynnwys, yn achos gofalwr, i helpuʼr gofalwr i gynorthwyo i reoli cyflwr meddygol person arall), rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparu cyngor iʼr person syʼn defnyddioʼr fferyllfa ynglŷn â rheoliʼr cyflwr meddygol gan gynnwys, fel y boʼn briodol, gyngor—

(a)ar y dewis o driniaethau, gan gynnwys cyngor ar ddethol a defnyddio cyffuriau priodol nad ydynt yn feddyginiaethau a roddir ar bresgripsiwn yn unig, a

(b)ar newidiadau yn ffordd y claf o fyw.

(2Rhaid iʼr fferyllydd GIG, mewn achosion priodol, gadw a chynnal cofnod o unrhyw gyngor a roddir o dan is-baragraff (1), a rhaid iʼr cofnod hwnnw fod ar ffurf syʼn hwyluso—

(a)archwilio’r gwasanaethau fferyllol a ddarperir gan y fferyllydd GIG, a

(b)gofal dilynol iʼr person y rhoddwyd y cyngor iddo neu mewn cysylltiad ag ef.

RHAN 3Oriau agor fferyllfa

Oriau agor fferyllfa: cyffredinol

23.—(1Rhaid i fferyllydd GIG sicrhau y darperir gwasanaethau fferyllol ym mhob un oʼr mangreoedd y maeʼr fferyllydd GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohonynt—

(a)am ddim llai na 40 awr bob wythnos, neu

(b)os ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, wedi cyfarwyddo y caiff y fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am lai na 40 awr yr wythnos ar yr amod bod y fferyllydd GIG yn darparuʼr gwasanaethau hynny ar amseroedd penodol ac ar ddiwrnodau penodol, ar yr amseroedd ac ar y diwrnodau a bennwyd felly, neu

(c)os ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, wedi cyfarwyddo bod rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am fwy na 40 awr yr wythnos ar amseroedd penodol ac ar ddiwrnodau penodol, ar yr amseroedd ac ar y diwrnodau a bennwyd felly, neu

(d)os ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, wedi cyfarwyddo bod rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am fwy na 40 awr yr wythnos—

(i)am y cyfanswm oriau bob wythnos syʼn ofynnol yn rhinwedd y cyfarwyddyd hwnnw, a

(ii)o ran yr oriau ychwanegol y maeʼn ofynnol iʼr fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn rhinwedd y cyfarwyddyd hwnnw, ar y diwrnodau ac ar yr amseroedd y maeʼn ofynnol iʼr fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ystod yr oriau ychwanegol hynny, fel yʼi nodir yn y cyfarwyddyd hwnnw,

ond caiff Bwrdd Iechyd Lleol, o dan amgylchiadau priodol, gytuno i atal gwasanaethau fferyllol dros dro am gyfnod penodol, pan fo wedi cael 3 mis o rybudd gan y fferyllydd GIG oʼr bwriad i atal y gwasanaethau dros dro.

(2Rhaid i fferyllydd GIG hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol am oriau eraill y bydd y fangre y mae’r fferyllydd GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohoni ar agor, sef oriau sy’n ychwanegol at yr oriau y maeʼr fferyllfa o dan rwymedigaeth i agor yn rhinwedd is-baragraff (1) (ac y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “oriau agor atodol”).

(3Ym mhob un oʼr mangreoedd y mae fferyllydd GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohonynt, rhaid iʼr fferyllydd GIG arddangos—

(a)hysbysiad syʼn pennuʼr amseroedd y mae’r fangre ar agor ar gyfer darparu cyffuriau a chyfarpar, a

(b)ar yr amseroedd nad yw’r fangre ar agor, hysbysiad syʼn seiliedig ar wybodaeth a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ac sy’n ddarllenadwy oʼr tu allan iʼr fangre, syʼn pennu cyfeiriadau fferyllwyr GIG eraill sydd wedi eu cynnwys yn y rhestr fferyllol aʼr amseroedd y gellir cael cyffuriau a chyfarpar oʼr cyfeiriadau hynny.

(4Rhaid i fferyllydd GIG, ar gais, gyflwyno datganiad iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol, syʼn nodi—

(a)yr amseroedd y darperir gwasanaethau fferyllol ym mhob un oʼr mangreoedd y mae’r fferyllydd GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohonynt (gan gynnwys yr amseroedd y mae’r fferyllydd GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol pan nad yw o dan rwymedigaeth i wneud hynny yn rhinwedd is-baragraff (1)), a

(b)y gwasanaethau fferyllol y maeʼr fferyllydd GIG fel arfer yn eu darparu ym mhob un oʼr mangreoedd hynny.

(5Pan fo fferyllydd GIG yn newid—

(a)y diwrnodau neuʼr amseroedd y mae’r gwasanaethau fferyllol i’w darparu mewn mangre y mae’r fferyllydd GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohoni, neu

(b)y gwasanaethau fferyllol y mae’r fferyllydd GIG fel arfer i’w darparu yn y fangre honno,

rhaid iʼr fferyllydd GIG gyflenwi, iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fferyllydd GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol, ddatganiad syʼn rhoi gwybod iddo am y newid.

(6Pan fo fferyllydd GIG wedi cyflwyno datganiad o dan is-baragraff (4) neu (5) mewn cysylltiad ag unrhyw fangre, neu pan foʼr fferyllydd GIG wedi nodi, mewn cais o dan y Rheoliadau hyn i gael ei gynnwys yn y rhestr fferyllol, y diwrnodau aʼr amseroedd y darperir gwasanaethau fferyllol yn y fangre y maeʼr cais yn ymwneud â hi os caniateir y cais—

(a)rhaid iʼr fferyllydd GIG sicrhau y darperir gwasanaethau fferyllol yn y fangre y maeʼr datganiad neuʼr cais yn ymwneud â hi ar y diwrnodau ac ar yr amseroedd a nodir yn y datganiad neuʼr cais (oni bai bod y datganiad neuʼr cais wedi ei ddisodli gan ddatganiad, neu ddatganiad pellach, o dan is-baragraff (5)), a

(b)ni chaiff y fferyllydd GIG newid—

(i)y diwrnodau naʼr amseroedd y mae gwasanaethau fferyllol iʼw darparu yn y fangre honno, neu

(ii)y gwasanaethau fferyllol y maeʼr fferyllydd GIG iʼw darparu fel arfer yn y fangre honno,

fel yʼu nodir yn y datganiad hwnnw neuʼr cais hwnnw, am gyfnod o 3 mis o leiaf ar ôl i’r Bwrdd Iechyd Lleol gael y datganiad hwnnw neuʼr cais hwnnw.

(7Pan fo fferyllydd GIG wedi ei rwystro gan salwch neu achos rhesymol arall rhag cydymffurfio âʼi rwymedigaethau o dan is-baragraff (1), rhaid iddo, pan foʼn ymarferol, wneud trefniadau ag un neu ragor o fferyllwyr GIG eraill y mae eu mangreoedd yn y gymdogaeth ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol yn ystod y cyfnod hwnnw.

(8Pan fo darpariaeth gwasanaethau fferyllol wedi ei hatal dros dro am reswm sydd y tu hwnt i reolaeth y fferyllydd GIG, ni fydd y fferyllydd GIG wedi torri is-baragraffau (1), (2) a (3) ar yr amod—

(a)bod y fferyllydd GIG yn hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r fferyllydd GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol am yr ataliad hwnnw cyn gynted ag y boʼn ymarferol, a

(b)bod y fferyllydd GIG yn gwneud pob ymdrech resymol i ailddechrau darparu gwasanaethau fferyllol cyn gynted ag y boʼn ymarferol.

(9Nid yw gwaith a gynlluniwyd ymlaen llaw i ailwampio fferyllfa yn “achos rhesymol” at ddibenion is-baragraff (7) nac yn “rheswm sydd y tu hwnt i reolaeth y fferyllydd GIG” at ddibenion is-baragraff (8).

(10At ddibenion cyfrifo nifer yr oriau y mae fferyllfa ar agor yn ystod wythnos syʼn cynnwys Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith, Sul y Pasg neu ŵyl banc, rhaid barnu bod y fferyllfa ar agor ar y diwrnod hwnnw ar yr amseroedd y byddai wedi bod ar agor fel arfer ar y diwrnod hwnnw oʼr wythnos.

(11Yn y Rhan hon—

ystyr “cyfarwyddyd presennol” (“existing direction”) yw cyfarwyddyd a wnaed yn unol âʼr Rhan hon neu gyfarwyddyd a oedd yn bodoli ar y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym;

ystyr “oriau ychwanegol” (“additional hours”) y mae i fod yn ofynnol i fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol ywʼr oriau hynny pan na fyddaiʼr fferyllydd GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol, pe baiʼr fferyllydd GIG yn ddarostyngedig iʼr amod a nodir yn is-baragraff (1)(a) ac nid yr amod a nodir yn is-baragraff (1)(d).

Materion iʼw hystyried wrth ddyroddi cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag oriau agor fferyllfa

24.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd syʼn pennu unrhyw amseroedd neu ddiwrnodau o dan y Rhan hon, rhaid iddo, wrth wneud hynny, geisio sicrhau bod yr oriau y mae mangre ar agor ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol yn rhai syʼn sicrhau y darperir y gwasanaethau fferyllol ar y diwrnodau hynny ac ar yr amseroedd hynny syʼn angenrheidiol er mwyn diwallu anghenion pobl yn y gymdogaeth, neu ddefnyddwyr tebygol eraill y fferyllfa, am wasanaethau fferyllol.

(2Wrth ystyried y materion a grybwyllir yn is-baragraff (1), caiff y Bwrdd Iechyd Lleol roi sylw i unrhyw wasanaethau fferyllol a ddarperir yn y gymdogaeth honno o dan amgylchiadau pan na fo’r fferyllydd GIG o dan rwymedigaeth i ddarparuʼr gwasanaethau hynny.

(3Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol gyfarwyddo y caiff fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am lai na 40 awr yn ystod unrhyw wythnos, oni bai ei fod wedi ei fodloni bod darpariaeth gwasanaethau fferyllol yn y gymdogaeth yn debygol o fod yn ddigonol i ddiwalluʼr angen am wasanaethau oʼr fath ar yr amseroedd pan nad yw’r fferyllydd GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol.

(4Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol gyfarwyddo bod rhaid i fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am fwy na 40 awr yn ystod unrhyw wythnos, oni bai ei fod wedi ei fodloni y bydd y fferyllydd GIG yn cael tâl rhesymol mewn cysylltiad âʼr oriau ychwanegol y mae’n ofynnol iddo ddarparu gwasanaethau fferyllol (ac mae unrhyw dâl ychwanegol syʼn daladwy yn unol â phenderfyniad a wneir o ganlyniad i reoliad 42 mewn cysylltiad âʼr oriau hynny yn “tâl rhesymol” at y dibenion hyn).

Penderfyniad a ysgogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch oriau agor fferyllfa

25.—(1Pan foʼn ymddangos iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, ar ôl ymgynghori âʼr Pwyllgor Fferyllol Lleol neu ar ôl ystyried y mater ar gais y Pwyllgor hwnnw, nad yw’r amseroedd y mae, neu y bydd, fferyllfa ar agor ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol yn diwallu anghenion y canlynol mwyach, neu na fydd yr amseroedd hynny yn diwallu anghenion y canlynol—

(a)pobl yn y gymdogaeth, neu

(b)defnyddwyr tebygol eraill y fferyllfa honno,

am wasanaethau fferyllol, caiff asesu pa un ai i ddyroddi cyfarwyddyd iʼw gwneud yn ofynnol iʼr fferyllydd GIG syʼn berchen ar y fferyllfa ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa ar amseroedd penodol ac ar ddiwrnodau penodol (a all gynnwys Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith, Sul y Pasg a gwyliau banc).

(2Cyn cwblhauʼr asesiad o dan is-baragraff (1), rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)rhoi hysbysiad iʼr fferyllydd GIG o unrhyw newidiadau arfaethedig yn yr amseroedd neuʼr diwrnodau y maeʼr fferyllfa i fod ar agor, a

(b)caniatáu cyfnod o 30 o ddiwrnodau iʼr fferyllydd GIG ar gyfer cyflwyno sylwadau ysgrifenedig iʼr Bwrdd Iechyd Lleol ynglŷn âʼr newidiadau arfaethedig.

(3Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol ag is-baragraff (2)(b), rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)dyroddi cyfarwyddyd (a fydd yn disodli unrhyw gyfarwyddyd presennol) syʼn bodloni gofynion is-baragraffau (4) a (5),

(b)cadarnhau unrhyw gyfarwyddyd presennol syʼn pennu’r diwrnodau a’r amseroedd y mae rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa, ar yr amod y byddaiʼr cyfarwyddyd presennol yn bodloni gofynion is-baragraffau (4) a (5) pe dyroddid ef o dan y paragraff hwn, neu

(c)naill ai—

(i)dirymu (heb ei amnewid) unrhyw gyfarwyddyd presennol syʼn pennu’r amseroedd neu’r diwrnodau y mae rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa, neu

(ii)mewn achos pan na fo cyfarwyddyd presennol, beidio â dyroddi unrhyw gyfarwyddyd, ac mewn achos oʼr fath, yn rhinwedd paragraff 23(1)(a), rhaid iʼr fferyllfa fod ar agor am ddim llai na 40 awr bob wythnos.

(4Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (3), mewn cysylltiad â fferyllfa y maeʼn ofynnol iddi fod ar agor—

(a)am fwy na 40 awr bob wythnos, rhaid iddo, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi—

(i)cyfanswm nifer yr oriau bob wythnos y mae rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa, a

(ii)ynglŷn âʼr oriau ychwanegol y maeʼr fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol, y diwrnodau a’r amseroedd y maeʼn ofynnol iʼr fferyllydd GIG ddarparuʼr gwasanaethau hynny yn ystod yr oriau ychwanegol hynny,

ond ni chaiff, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi’r diwrnodau neu’r amseroedd y maeʼr fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ystod oriau nad ydynt yn oriau ychwanegol, neu

(b)am lai na 40 awr bob wythnos, rhaid iddo, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi’r diwrnodau a’r amseroedd y mae gwasanaethau fferyllol iʼw darparu yn y fferyllfa honno.

(5Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (3) os ei effaith, yn syml, yw ei gwneud yn ofynnol i fferyllfa fod ar agor am 40 awr bob wythnos ar ddiwrnodau penodol ac amseroedd penodol (hynny yw, rhaid iʼr cyfarwyddyd gael yr effaith oʼi gwneud yn ofynnol i fferyllfa fod ar agor am naill ai mwy neu lai na 40 awr bob wythnos).

(6Rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol hysbysuʼr fferyllydd GIG yn ysgrifenedig am unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir, neu unrhyw gam gweithredu arall a gymerir, o dan is-baragraff (3), a phan foʼn pennu diwrnodau newydd neu amseroedd newydd y maeʼr fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa, rhaid iddo gynnwys gydaʼr hysbysiad ddatganiad ysgrifenedig oʼr canlynol—

(a)y rhesymau dros y newid, a

(b)hawl y fferyllydd GIG i apelio o dan is-baragraff (7).

(7Caiff fferyllydd GIG, o fewn 30 o ddiwrnodau i gael hysbysiad o dan is-baragraff (6), apelio’n ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn erbyn unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddwyd neu unrhyw gam gweithredu arall a gymerwyd o dan is-baragraff (3), syʼn pennu diwrnodau newydd neu amseroedd newydd y maeʼr fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol.

(8Caiff Gweinidogion Cymru, wrth benderfynu apêl, naill ai cadarnhauʼr cam gweithredu a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gymryd unrhyw gam gweithredu y gallaiʼr Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei gymryd o dan is-baragraff (3).

(9Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysuʼr fferyllydd GIG yn ysgrifenedig am eu penderfyniad a rhaid iddynt, ym mhob achos, gynnwys gydaʼr hysbysiad ddatganiad ysgrifenedig oʼr rhesymau dros y penderfyniad.

(10Os ywʼr amseroedd neuʼr diwrnodau y mae fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol mewn fferyllfa wedi eu newid yn unol âʼr paragraff hwn, rhaid iʼr fferyllydd GIG gyflwynoʼr newidiadau—

(a)os nad yw wedi apelio o dan is-baragraff (7), ddim hwyrach nag 8 wythnos ar ôl y dyddiad y maeʼn cael hysbysiad o dan is-baragraff (6), neu

(b)os yw wedi apelio o dan is-baragraff (7), ddim hwyrach nag 8 wythnos ar ôl y dyddiad y maeʼn cael hysbysiad o dan is-baragraff (9).

Penderfyniad a ysgogir gan y fferyllydd GIG ynghylch oriau agor fferyllfa

26.—(1Caiff fferyllydd GIG wneud cais i Fwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol iddo newid y diwrnodau neuʼr amseroedd y maeʼr fferyllydd GIG o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn fferyllfaʼr fferyllydd GIG, mewn ffordd—

(a)syʼn lleihau cyfanswm nifer yr oriau y maeʼr fferyllydd GIG o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol bob wythnos, neu

(b)syʼn cadw cyfanswm nifer yr oriau yn ddigyfnewid.

(2Pan fo fferyllydd GIG yn gwneud cais o dan is-baragraff (1), rhaid iʼr fferyllydd GIG, fel rhan oʼr cais hwnnw, ddarparu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol unrhyw wybodaeth y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gofyn yn rhesymol amdani mewn cysylltiad ag unrhyw newidiadau yn anghenion pobl yn y gymdogaeth, neu ddefnyddwyr tebygol eraill y fferyllfa, am wasanaethau fferyllol syʼn berthnasol iʼr cais.

(3Rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu cais o dan is-baragraff (1) o fewn 60 niwrnod i’w gael (gan gynnwys unrhyw wybodaeth syʼn ofynnol gan y ceisydd yn unol ag is-baragraff (2)).

(4Wrth benderfynuʼr cais, rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)dyroddi cyfarwyddyd (a fydd yn disodli unrhyw gyfarwyddyd presennol) syʼn bodloni gofynion is-baragraffau (5) a (6) ac yn cael yr effaith naill ai o ganiatáuʼr cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu’n rhannol yn unig,

(b)cadarnhau unrhyw gyfarwyddyd presennol syʼn pennu’r diwrnodau a’r amseroedd y mae rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa, ar yr amod y byddaiʼr cyfarwyddyd presennol yn bodloni gofynion is-baragraffau (5) a (6), neu

(c)naill ai—

(i)dirymu (heb ei amnewid) unrhyw gyfarwyddyd presennol mewn cysylltiad âʼr amseroedd neuʼr diwrnodau y mae rhaid iʼr fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa, pan fo hyn yn cael yr effaith o ganiatáuʼr cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu’n rhannol yn unig, neu

(ii)mewn achos pan na fo cyfarwyddyd presennol, beidio â dyroddi unrhyw gyfarwyddyd, ac mewn achos oʼr fath, yn rhinwedd paragraff 23(1)(a), rhaid iʼr fferyllfa fod ar agor am ddim llai na 40 awr bob wythnos.

(5Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (4) mewn cysylltiad â fferyllfa y maeʼn ofynnol iddi fod ar agor—

(a)am fwy na 40 awr bob wythnos, rhaid iddo, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi—

(i)cyfanswm nifer yr oriau bob wythnos y maeʼn ofynnol iʼr fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fferyllfa, a

(ii)ynglŷn âʼr oriau ychwanegol y maeʼr fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol, y diwrnodau a’r amseroedd y maeʼn ofynnol iʼr fferyllydd GIG ddarparuʼr gwasanaethau hynny yn ystod yr oriau ychwanegol hynny,

ond ni chaiff, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi’r diwrnodau neu’r amseroedd y maeʼr fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ystod oriau nad ydynt yn oriau ychwanegol, neu

(b)am lai na 40 awr bob wythnos, rhaid iddo, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi’r diwrnodau a’r amseroedd y mae gwasanaethau fferyllol iʼw darparu yn y fferyllfa honno.

(6Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (4) os ei effaith, yn syml, yw ei gwneud yn ofynnol i fferyllfa fod ar agor am 40 awr bob wythnos ar ddiwrnodau penodol ac amseroedd penodol (hynny yw, rhaid iʼr cyfarwyddyd gael yr effaith oʼi gwneud yn ofynnol i fferyllfa fod ar agor am naill ai mwy neu lai na 40 awr bob wythnos).

(7Pan foʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried gweithredu o dan is-baragraff (4)(a) neu (c)(i), rhaid iddo ymgynghori âʼr Pwyllgor Fferyllol Lleol cyn penderfynuʼr cais.

(8Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol hysbysuʼr fferyllydd GIG yn ysgrifenedig am unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir, neu unrhyw gam gweithredu arall a gymerir, o dan is-baragraff (4), a phan fo hyn yn cael yr effaith o wrthod cais o dan y paragraff hwn, neu ei ganiatáu’n rhannol, rhaid iddo anfon at y fferyllydd GIG ddatganiad ysgrifenedig syʼn nodi—

(a)y rhesymau dros y gwrthodiad neu, yn ôl y digwydd, dros ganiatáuʼr cais yn rhannol yn unig, a

(b)hawl y fferyllydd GIG i apelio o dan is-baragraff (9).

(9Caiff fferyllydd GIG, o fewn 30 o ddiwrnodau i gael hysbysiad yn unol ag is-baragraff (8), apelio’n ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn erbyn unrhyw gam gweithredu o dan is-baragraff (4) syʼn cael yr effaith o wrthod cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu’n rhannol yn unig.

(10Caiff Gweinidogion Cymru, wrth benderfynu apêl, naill ai cadarnhauʼr cam gweithredu a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gymryd unrhyw gam gweithredu y gallaiʼr Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei gymryd o dan is-baragraff (4).

(11Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysuʼr fferyllydd GIG yn ysgrifenedig am eu penderfyniad a rhaid iddynt, ym mhob achos, gynnwys gydaʼr hysbysiad ddatganiad ysgrifenedig oʼr rhesymau dros y penderfyniad.

(12Os ywʼr diwrnodau neuʼr amseroedd y mae fferyllydd GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol mewn fferyllfa wedi eu newid yn unol âʼr paragraff hwn, rhaid iʼr fferyllydd GIG gyflwynoʼr newidiadau—

(a)os nad yw wedi apelio o dan is-baragraff (9), ddim cynharach na 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y maeʼn cael hysbysiad o dan is-baragraff (8), neu

(b)os yw wedi apelio o dan is-baragraff (9), ddim cynharach na 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y maeʼn cael hysbysiad o dan is-baragraff (11).

Oriau agor dros dro a chyfnodau cau yn ystod argyfwng, syʼn ei gwneud yn ofynnol darparu gwasanaethau fferyllol yn hyblyg

27.—(1Er gwaethaf darpariaethauʼr Atodlen hon, yn ystod argyfwng syʼn ei gwneud yn ofynnol darparu gwasanaethau fferyllol mewn ffordd hyblyg, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, os gwneir cais gan y fferyllydd GIG, ganiatáu iʼr fferyllydd GIG newid dros dro y diwrnodau neuʼr amseroedd y maeʼr fferyllydd GIG o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre y mae’r fferyllydd GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohoni, neu ganiatáu cauʼr fangre honno dros dro—

(a)os yw’r fferyllydd GIG yn rhoi o leiaf 24 awr o rybudd oʼr newid neuʼr cau, a

(b)os ywʼr rhesymau a roddir gan y fferyllydd GIG dros wneud y cais yn rhesymau digonol ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Nid oes angen iʼr Bwrdd Iechyd Lleol gymeradwyoʼr cais cyn y newid neuʼr cau, ac os nad ywʼn gwneud hynny ond yn penderfynu yn ddiweddarach nad yw rhesymauʼr fferyllydd GIG, yn ei farn, yn rhesymau digonol, yna maeʼr diwrnodau neuʼr amseroedd y maeʼr fferyllydd GIG o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre i ddychwelyd iʼr hyn a oeddent cyn eu disodli, oʼr diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir y penderfyniad hwnnw iʼr fferyllydd GIG.

RHAN 4Llywodraethu clinigol a chwynion

Llywodraethu clinigol

28.—(1Rhaid i fferyllydd GIG, mewn cysylltiad âʼr holl wasanaethau fferyllol y mae’r fferyllydd GIG yn eu darparu, gymryd rhan mewn system dderbyniol o lywodraethu clinigol, yn y modd sy’n rhesymol ofynnol gan y Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol.

(2Mae system o lywodraethu clinigol yn “dderbyniol” os ywʼn darparu ar gyfer—

(a)cydymffurfio âʼr cydrannau llywodraethu clinigol a nodir yn is-baragraff (3), a

(b)cyflwyno hunanasesiad blynyddol oʼr cydymffurfedd (hyd at lefel gymeradwy) âʼr cydrannau llywodraethu clinigol hynny, drwy gyfrwng trefniadau cyflwyno data cymeradwy syʼn caniatáu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol gael mynediad iʼr asesiad hwnnw.

(3Y cydrannau llywodraethu clinigol yw’r canlynol—

(a)rhaglen ar gyfer cynnwys y cleifion aʼr cyhoedd, syʼn cynnwys—

(i)gofyniad y dylaiʼr fferyllydd GIG lunio, mewn modd cymeradwy, daflen ymarfer mewn cysylltiad â fferyllfaʼr fferyllydd GIG a rhoiʼr daflen ar gael mewn modd priodol,

(ii)gofyniad bod y fferyllydd GIG yn rhoi cyhoeddusrwydd iʼr gwasanaethau GIG sydd ar gael yn fferyllfa’r fferyllydd GIG neu ohoni,

(iii)gofyniad bod y fferyllydd GIG, pan foʼn rhoi cyhoeddusrwydd iʼr gwasanaethau GIG sydd ar gael yn fferyllfa’r fferyllydd GIG neu ohoni (pa un a ywʼr fferyllydd GIG yn llunio ei ddeunydd cyhoeddusrwydd ei hunan, ynteuʼn hysbysebuʼr gwasanaethau mewn deunydd a gyhoeddir gan berson arall), yn gwneud hynny mewn modd syʼn ei gwneud yn glir mai fel rhan oʼr gwasanaeth iechyd y cyllidir y gwasanaethau hynny,

(iv)gofyniad y dylaiʼr fferyllydd GIG ymgymryd ag arolwg cymeradwy o foddhad y cleifion yn flynyddol, mewn modd cymeradwy, gan gynnwys gofyniad i roi cyhoeddusrwydd i ganlyniadauʼr arolwg ac i unrhyw gamau gweithredu priodol y maeʼr fferyllydd GIG yn bwriadu eu cymryd,

(v)trefniadau ar gyfer monitro cyffuriau neu gyfarpar syʼn ddyledus i gleifion ond nad ydynt mewn stoc,

(vi)system gwyno gymeradwy (syʼn bodloni gofynion y Rhan hon),

(vii)gofyniad bod y fferyllydd GIG yn cydweithreduʼn briodol ag ymweliadauʼr Cyngor Iechyd Cymuned Lleol ac yn cymryd camau gweithredu priodol o ganlyniad iʼr ymweliadau hynny,

(viii)gofyniad bod y fferyllydd GIG yn cydweithreduʼn briodol ag unrhyw arolygiad neu adolygiad rhesymol y maeʼr Bwrdd Iechyd Lleol neu unrhyw awdurdod statudol perthnasol yn dymuno ymgymryd ag ef, a

(ix)trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfedd â Deddf Cydraddoldeb 2010(6),

(b)rhaglen archwilio clinigol (5 niwrnod, fel arfer), syʼn cynnwys o leiaf un archwiliad mewn fferyllfa ac un archwiliad amlddisgyblaethol a gytunir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ym mhob blwyddyn ariannol,

(c)rhaglen rheoli risg, syʼn cynnwys—

(i)trefniadau ar gyfer sicrhau bod yr holl stoc yn cael ei drin mewn ffordd briodol,

(ii)trefniadau ar gyfer sicrhau bod yr holl gyfarpar a ddefnyddir wrth ddarparu gwasanaethau fferyllol yn cael ei gynnal yn briodol,

(iii)system gymeradwy o adrodd am ddigwyddiadau, ynghyd â threfniadau ar gyfer dadansoddi digwyddiadau critigol ac ymateb iddynt, syʼn cynnwys y canlynol—

(aa)cofnod o ddigwyddiadau diogelwch cleifion, a

(bb)cofnod o ddigwyddiadau a fu bron a digwydd,

(iv)trefniadau, gan gynnwys trefniadau cadw cofnodion, ar gyfer ymdrin yn briodol ac yn amserol â chyfathrebiadau ynglŷn â diogelwch cleifion oddi wrth Weinidogion Cymru, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd a Bwrdd Comisiynuʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol,

(v)gweithdrefnau gweithredu safonol priodol, gan gynnwys gweithdrefnau gweithredu safonol mewn cysylltiad â phresgripsiynau amlroddadwy a darparu cyngor a chymorth i bobl syʼn gofalu amdanynt eu hunain neu eu teuluoedd,

(vi)trefniadau gwaredu gwastraff priodol (yn ychwanegol at y rheini syʼn ofynnol o dan baragraffau 14 a 15) ar gyfer gwastraff clinigol a chyfrinachol,

(vii)arweinydd llywodraethu clinigol ar gyfer pob fferyllfa, a benodir felly gan y fferyllydd GIG (neuʼr fferyllydd GIG ei hunan), syʼn wybodus ynglŷn âʼr gweithdrefnau fferylliaeth yn y fferyllfa honno aʼr gwasanaethau GIG eraill sydd ar gael yn ardal leol y fferyllfa honno,

(viii)gweithdrefnau priodol ar gyfer amddiffyn plant, a

(ix)trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfedd â Deddf Iechyd a Diogelwch etc. 1974(7),

(d)rhaglen effeithiolrwydd clinigol, syʼn cynnwys trefniadau ar gyfer sicrhau y rhoddir cyngor priodol gan y fferyllydd GIG—

(i)mewn cysylltiad â darparu cyffuriau yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy,

(ii)mewn cysylltiad â darparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu

(iii)i bobl syʼn gofalu amdanynt eu hunain neu eu teuluoedd,

a threfniadau ar gyfer sicrhau bod y fferyllydd GIG, wrth roi cyngor i unrhyw glaf ar fater a grybwyllir ym mharagraff (d)(ii), yn rhoi sylw iʼr manylion a gynhwysir yn y cofnodion a gynhelir o dan baragraff 11(1)(f) mewn cysylltiad â darparu cyfarpar aʼr patrwm rhagnodi syʼn ymwneud âʼr claf o dan sylw,

(e)rhaglen staffio a rheoli staff, syʼn cynnwys—

(i)trefniadau ar gyfer darparu hyfforddiant ymsefydlu priodol i staff, gan gynnwys unrhyw locwm,

(ii)hyfforddiant priodol iʼr holl staff mewn cysylltiad ag unrhyw rôl y gofynnir iddynt ei chyflawni,

(iii)trefniadau ar gyfer gwirio cymwysterau a geirdaon yr holl staff syʼn ymwneud â darparu gwasanaethau GIG,

(iv)trefniadau ar gyfer canfod a chefnogi anghenion datblygu’r holl staff syʼn ymwneud â darparu gwasanaethau fferyllol, neu wasanaethau GIG eraill, gan gynnwys datblygiad proffesiynol parhaus i fferyllwyr cofrestredig ac unrhyw achredu syʼn angenrheidiol mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau cyfeiriedig,

(v)trefniadau ar gyfer ymdrin â pherfformiad gwael (ar y cyd âʼr Bwrdd Iechyd Lleol fel y boʼn briodol), a

(vi)trefniadau (y mae rhaid iddynt gynnwys polisi ysgrifenedig) ar gyfer sicrhau bod yr holl staff, gan gynnwys unrhyw locwm, sydd, o ganlyniad iʼw cyflogaeth gydaʼr fferyllydd GIG—

(aa)yn gwneud yr hyn syʼn ddatgeliad gwarchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected disclosure” yn adran 43A o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(8) (ystyr “protected disclosure”), yn cael yr hawliau a roddir mewn cysylltiad â datgeliadau oʼr fath gan y Ddeddf honno, a

(bb)yn darparu gwybodaeth yn ddidwyll ac nid er eu budd personol iʼr Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu i Fwrdd Iechyd Lleol syʼn cynnwys honiad difrifol ei natur, y credant yn rhesymol ei fod yn wir o ran ei sylwedd ond nad yw datgeliad ohono yn ddatgeliad gwarchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected disclosure” yn adran 43A o’r Ddeddf honno, yn cael yr hawl i beidio â dioddef unrhyw anfantais neu ddioddef eu diswyddo o ganlyniad iʼr weithred honno,

(f)rhaglen llywodraethu gwybodaeth, syʼn darparu ar gyfer—

(i)cydymffurfio â gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer rheoli a diogelu gwybodaeth, a

(ii)cyflwyno hunanasesiad blynyddol oʼr cydymffurfedd (hyd at lefel gymeradwy) âʼr gweithdrefnau hynny, drwy gyfrwng trefniadau cyflwyno data cymeradwy syʼn caniatáu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol gael mynediad iʼr asesiad hwnnw, ac

(g)rhaglen safonau mangre syʼn cynnwys—

(i)system ar gyfer cynnal glanweithdra yn y fferyllfa, sydd wedi ei chynllunio er mwyn sicrhau, mewn modd cymesur, fod y risg i bobl yn y fferyllfa o gael haint a ddelir wrth gael gofal iechyd yn cael ei lleihau, a

(ii)trefniadau ar gyfer gwahanuʼn glir rhwng y mannau mewn fferyllfa syʼn amgylchedd gofal iechyd priodol (lle y mae cleifion yn cael gwasanaethau GIG) aʼr mannau hynny nad ydynt yn amgylchedd gofal iechyd.

Safonau proffesiynol

29.  Rhaid i fferyllydd GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol, ac arfer unrhyw farn broffesiynol mewn cysylltiad â darparuʼr gwasanaethau hynny, gan gydymffurfio âʼr safonau a dderbynnir yn gyffredinol yn y proffesiwn fferyllol.

Cymhellion

30.—(1Ni chaiff fferyllydd GIG na’i staff roi, addo na chynnig, i unrhyw berson, unrhyw rodd neu wobr (boed ar ffurf cyfran o elwʼr busnes, neu ddifidend ar yr elw hwnnw, neu ar ffurf disgownt neu ad-daliad, neu fel arall) fel cymhelliad iʼr person syʼn cyflwyno archeb am gyffuriau neu gyfarpar ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neuʼn gydnabyddiaeth am hynny.

(2Nid yw addo, cynnig neu ddarparu cymorth cydymffurfio neu wasanaeth danfon gartref yn “rhodd neu wobr” at ddibenion is-baragraff (1).

(3Yn achos darparu cyfarpar, ni chaiff fferyllydd GIG, nac unrhyw berson a gyflogir neu a gymerir ymlaen gan y fferyllydd GIG hwnnw, dderbyn na chael unrhyw rodd neu wobr mewn cysylltiad, yn unig, â’r canlynol—

(a)darparu manylion cyswllt fferyllwyr GIG neu gontractwyr cyfarpar GIG eraill yn unol â pharagraff 11(2)(b), 12(4) neu 20(2)(b), neu

(b)atgyfeirio ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy at fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG arall yn unol â pharagraff 11(2)(a) neu 20(2)(a) heb ddarparu unrhyw wasanaeth ychwanegol mewn cysylltiad âʼr eitem ar y presgripsiwn hwnnw.

Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth am faterion addasrwydd i ymarfer wrth iddynt godi

31.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 32, rhaid i fferyllydd GIG, a phan foʼr fferyllydd GIG yn rhan o gorff corfforedig, bob un oʼi gyfarwyddwyr, roi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig o fewn 7 niwrnod i’r digwyddiad, os ywʼr fferyllydd GIG neu gyfarwyddwr—

(a)yn cael ei euogfarnu o unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig,

(b)yn cael ei rwymo yn dilyn euogfarn droseddol yn y Deyrnas Unedig,

(c)yn derbyn rhybuddiad gan yr heddlu yn y Deyrnas Unedig,

(d)mewn achos diannod yn yr Alban mewn cysylltiad â throsedd, wedi bod yn destun gorchymyn iʼw ryddhauʼn ddiamod (heb fynd ymlaen iʼw euogfarnu),

(e)wedi derbyn a chytuno i dalu naill ai dirwy procuradur ffisgal o dan adran 302 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(9) (cosb benodedig: cynnig amodol gan brocuradur ffisgal) neu gosb o dan adran 115A o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992(10) (cosb fel dewis arall yn lle erlyn),

(f)yn cael ei euogfarnu yn rhywle arall o drosedd, neuʼr hyn a fyddaiʼn drosedd pe bai’n cael ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr,

(g)yn cael ei gyhuddo o drosedd yn y Deyrnas Unedig, neuʼn cael ei gyhuddo yn rhywle arall o drosedd a fyddaiʼn drosedd, pe bai’n cael ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr,

(h)yn cael ei hysbysu gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall am ganlyniad unrhyw ymchwiliad iʼw ymddygiad proffesiynol, a bod canfyddiad yn ei erbyn,

(i)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ymddygiad proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall,

(j)yn mynd yn destun ymchwiliad iʼw ymddygiad proffesiynol mewn cysylltiad ag unrhyw gyflogaeth gyfredol neu flaenorol, neuʼn cael ei hysbysu am ganlyniad unrhyw ymchwiliad oʼr fath ac unrhyw ganfyddiad yn ei erbyn,

(k)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG mewn perthynas â thwyll,

(l)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a allai arwain at ei ddileu o restr berthnasol, neu

(m)ar sail addasrwydd, yn cael ei ddileu, ei ddileu yn ddigwyddiadol, neu ei atal dros dro o restr berthnasol, neu os gwrthodir mynediad iddo i restr oʼr fath, neu os caiff ei gynnwys yn amodol mewn rhestr oʼr fath,

ac os felly, rhaid iʼr fferyllydd GIG roi manylion unrhyw ymchwiliad neu achos a gynhaliwyd neu sydd iʼw gynnal, gan gynnwys natur yr ymchwiliad neu’r achos, ym mha le ac oddeutu pa bryd y cynhaliwyd yr ymchwiliad hwnnw neuʼr achos hwnnw neu y mae’r ymchwiliad hwnnw neu’r achos hwnnw i’w gynnal, ac unrhyw ganlyniad.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff 32, os yw person y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo yn gyfarwyddwr i gorff corfforedig, neu os oedd yn gyfarwyddwr i gorff corfforedig ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, rhaid i’r person, yn ychwanegol, roi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 7 niwrnod os yw unrhyw gorff corfforedig oʼr fath—

(a)yn cael ei euogfarnu o unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig,

(b)yn cael ei euogfarnu yn rhywle arall o drosedd, neuʼr hyn a fyddaiʼn drosedd pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr,

(c)yn cael ei gyhuddo o drosedd yn y Deyrnas Unedig, neuʼn cael ei gyhuddo yn rhywle arall o drosedd a fyddai’n drosedd, pe bai’n cael ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr,

(d)yn cael ei hysbysu gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall am ganlyniad unrhyw ymchwiliad iʼw ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol, a bod canfyddiad yn erbyn y corff corfforedig,

(e)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall,

(f)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad mewn perthynas â thwyll neuʼn cael ei hysbysu am ganlyniad unrhyw ymchwiliad oʼr fath, aʼr canlyniad hwnnw yn anffafriol,

(g)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a allai arwain at ei ddileu o restr berthnasol, neu

(h)ar sail addasrwydd, yn cael ei ddileu, ei ddileu yn ddigwyddiadol, neu ei atal dros dro o restr berthnasol, neu os gwrthodir mynediad iddo i restr oʼr fath, neu os caiff ei gynnwys yn amodol mewn rhestr oʼr fath,

ac os felly, rhaid iʼr person hwnnw roi enw a swyddfa gofrestredig y corff corfforedig a manylion unrhyw ymchwiliad neu achos a gynhaliwyd neu sydd iʼw gynnal, gan gynnwys natur yr ymchwiliad neu’r achos, ym mha le ac oddeutu pa bryd y cynhaliwyd yr ymchwiliad hwnnw neuʼr achos hwnnw neu y mae’r ymchwiliad hwnnw neu’r achos hwnnw i’w gynnal, ac unrhyw ganlyniad.

(3Rhaid i berson y mae is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys iddo gydsynio iʼr Bwrdd Iechyd Lleol ofyn i unrhyw gyflogwr neu gyn-gyflogwr neu unrhyw gorff trwyddedu neu reoleiddio, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, am wybodaeth ynghylch ymchwiliad cyfredol neu ymchwiliad â chanlyniad anffafriol.

Bwrdd Iechyd Lleol cartref cyrff corfforedig

32.  Pan fo fferyllydd GIG yn gorff corfforedig â swyddfa gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, caniateir iʼr wybodaeth sydd iʼw darparu o dan baragraffau 31 a 35(3) i (6) gael ei darparu yn hytrach i Fwrdd Iechyd Lleol cartref (fel yʼi diffinnir yn rheoliad 60). Pan ywʼr fferyllydd GIG yn darparuʼr wybodaeth iʼw Fwrdd Iechyd Lleol cartref, rhaid iddo hefyd ddarparu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol cartref fanylion yr holl Fyrddau Iechyd Lleol eraill y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn eu rhestrau fferyllol.

Cwynion

33.  Rhaid i fferyllydd GIG gael yn eu lle drefniadau syʼn cydymffurfio â gofynion Rheoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011(11), ar gyfer trin ac ystyried unrhyw bryderon neu gwynion ynghylch mater syʼn gysylltiedig â darparu gwasanaethau fferyllol gan y fferyllydd GIG.

RHAN 5Telerau gwasanaeth eraill

Gwasanaethau cyfeiriedig

34.  Rhaid i fferyllydd GIG, y mae Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol yn gwneud trefniant ag ef ar gyfer darparu unrhyw wasanaethau cyfeiriedig, gydymffurfio â thelerau ac amodauʼr trefniant.

Gwybodaeth sydd iʼw chyflenwi

35.—(1Rhaid i fferyllydd GIG roi hysbysiad oʼr canlynol iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol, o fewn 28 o ddiwrnodau (neu os nad yw hyn yn ymarferol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl hynny)—

(a)unrhyw ddigwyddiad syʼn ei gwneud yn ofynnol newid yr wybodaeth a gofnodwyd amdano yn y rhestr fferyllol, na roddodd hysbysiad ohono fel arall yn unol âʼr Rheoliadau hyn,

(b)yn achos fferyllydd GIG syʼn unigolyn, unrhyw newid yn ei gyfeiriad preifat, ac

(c)yn achos fferyllydd GIG syʼn gorff corfforedig, unrhyw newid yng nghyfeiriad ei swyddfa gofrestredig.

(2Rhaid i fferyllydd GIG, os gofynnir iddo gan y Bwrdd Iechyd Lleol, roi iʼr Bwrdd Iechyd Lleol enw unrhyw fferyllydd a gyflogir ganddo syʼn gyfrifol am weinyddu presgripsiwn penodol.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), rhaid i fferyllydd GIG syʼn gorff corfforedig roi hysbysiad ysgrifenedig iʼr Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 28 o ddiwrnodau (neu os nad yw hyn yn ymarferol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl hynny) o unrhyw newidiadau yn enwau a chyfeiriadau pob un oʼi gyfarwyddwyr aʼi uwcharolygydd.

(4Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), os yw fferyllydd GIG syʼn gorff corfforedig yn penodi cyfarwyddwr neu uwcharolygydd nas rhestrwyd yng nghais y fferyllydd GIG i’w gynnwys mewn rhestr fferyllol, rhaid iʼr fferyllydd GIG roi hysbysiad ysgrifenedig iʼr Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 28 o ddiwrnodau (neu os nad yw hyn yn ymarferol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl hynny) oʼr wybodaeth am addasrwydd y person hwnnw i ymarfer.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), rhaid i fferyllydd GIG, neu gyfarwyddwr neu uwcharolygydd fferyllydd GIG syʼn gorff corfforedig, roi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)os ywʼr fferyllydd GIG, neu gorff corfforedig y maeʼn gyfarwyddwr neuʼn uwcharolygydd iddo, yn gwneud cais i gael ei gynnwys yn unrhyw un neu ragor o restrau cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG Bwrdd Iechyd Lleol arall, ac am ganlyniad unrhyw gais oʼr fath, a

(b)os dawʼr fferyllydd GIG yn gyfarwyddwr neuʼn uwcharolygydd i gorff corfforedig sydd yn unrhyw un neu ragor o restrau cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG Bwrdd Iechyd Lleol arall, neu syʼn gwneud cais i gael ei gynnwys mewn rhestr oʼr fath, ac am ganlyniad unrhyw gais oʼr fath.

(6Pan fo fferyllydd GIG yn gorff corfforedig sydd â swyddfa gofrestredig yng Nghymru, dim ond iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r swyddfa gofrestredig honno yn ei ardal y caniateir iʼr wybodaeth sydd iʼw darparu o dan is-baragraffau (3) i (5) gael ei darparu, os ywʼr fferyllydd GIG hefyd yn darparu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw fanylion yr holl Fyrddau Iechyd Lleol eraill y mae wedi ei gynnwys yn eu rhestrau fferyllol, ac o dan yr amgylchiadau hyn, rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw drosglwyddoʼr wybodaeth i unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall—

(a)y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, neu

(b)y mae’r fferyllydd GIG yn gwneud cais iddo i gael ei gynnwys yn ei restr fferyllol,

ac syʼn gofyn amdani.

(7Yn y paragraff hwn, ystyr “rhestr cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG” yw

(a)rhestr fferyllol, neu

(b)rhestr a gynhelir o gyflawnwyr neu ddarparwyr cymeradwy gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau deintyddol neu wasanaethau offthalmig.

Tynnu’n ôl o restrau fferyllol

36.  Pan fo fferyllydd GIG yn bwriadu tynnu’n ôl oʼr rhestr fferyllol, rhaid iddo hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol am hyn, o leiaf 3 mis cyn y dyddiad hwnnw, oni bai ei bod yn anymarferol gwneud hynny, ac os felly, rhaid iddo hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol cyn gynted ag y boʼn ymarferol gwneud hynny.

Codi ffioedd am gyffuriau, ac ad-daliadau

37.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan adran 121 o Ddeddf 2006 (codi ffioedd am gyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar, neu wasanaethau fferyllol) rhaid darparuʼr holl gyffuriau, cynwysyddion a chyfarpar a ddarperir o dan y telerau gwasanaeth hyn yn ddi-dâl.

(2Pan fo fferyllydd GIG yn cyflenwi cynhwysydd, wrth ymateb i archeb am gyffuriau a lofnodwyd gan ragnodydd, neuʼn cyflenwi cynhwysydd ocsigen neu gyfarpar ocsigen, ac eithrio cyfarpar a bennir yn y Tariff Cyffuriau fel cyfarpar nad yw’n ddychweladwy at y fferyllydd GIG, maeʼr cynhwysydd aʼr cyfarpar yn parhauʼn eiddo iʼr fferyllydd GIG.

(3Pan fo unrhyw berson a chanddo hawlogaeth i gael ad-daliad o unrhyw ffi a dalwyd o dan y Rheoliadau Ffioedd yn cyflwyno i fferyllydd GIG hawliad dilys am ad-daliad, rhaid iʼr fferyllydd GIG wneud yr ad-daliad.

(4At ddibenion is-baragraff (3), nid yw hawliad am ad-daliad yn ddilys onis gwneir yn briodol ar Ffurflen WP57 0405 o fewn 3 mis iʼr dyddiad y talwyd y ffi.

Arolygiadau a mynediad at wybodaeth

38.—(1Rhaid i fferyllydd GIG ganiatáu i bersonau, sydd wedi eu hawdurdodi’n ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, fynd i fferyllfaʼr fferyllydd GIG a’i harolygu ar unrhyw adeg resymol, at y dibenion a ganlyn—

(a)canfod pa un a ywʼr fferyllydd GIG yn cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon ai peidio;

(b)archwilio, monitro a dadansoddi—

(i)y ddarpariaeth a wneir gan y fferyllydd GIG ar gyfer gofal a thriniaeth i gleifion, a

(ii)y modd y maeʼr fferyllydd GIG yn rheoliʼr gwasanaethau fferyllol y mae’n eu darparu,

pan foʼr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni.

(2Yr amodau yw—

(a)bod rhybudd rhesymol wedi ei roi oʼr bwriad i fynd i’r fferyllfa,

(b)bod y Pwyllgor Fferyllol Lleol ar gyfer yr ardal y mae’r fferyllfa ynddi wedi ei wahodd i fod yn bresennol yn yr arolygiad, pan foʼr fferyllydd GIG yn gofyn am hynny,

(c)bod gan y person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig dystiolaeth ysgrifenedig oʼi awdurdodiad yn ei feddiant, aʼi fod yn cyflwynoʼr dystiolaeth honno ar gais, a

(d)nad ywʼr person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig yn mynd i unrhyw ran oʼr fangre a ddefnyddir fel llety preswyl yn unig heb gydsyniad y preswylydd.

(3Rhaid i fferyllydd GIG, ar gais y Bwrdd Iechyd Lleol neu berson sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig a grybwyllir yn is-baragraff (1), ganiatáu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol neu berson sydd wedi ei awdurdodi ganddo gael mynediad at unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol neuʼr person—

(a)at y dibenion a grybwyllir yn is-baragraff (1), neu

(b)yn achos y Bwrdd Iechyd Lleol, mewn cysylltiad âʼi swyddogaethau syʼn ymwneud â gwasanaethau fferyllol.

Y Gymraeg

39.—(1Pan fo fferyllydd GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol drwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid iʼr fferyllydd GIG hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr fferyllydd GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol, yn ysgrifenedig.

(2Rhaid i fferyllydd GIG roi ar gael fersiwn Gymraeg o unrhyw ddogfen neu ffurflen iʼw defnyddio gan gleifion a/neu aelodau oʼr cyhoedd, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(3Pan fo fferyllydd GIG yn arddangos arwydd neu hysbysiad newydd mewn cysylltiad â gwasanaethau fferyllol, rhaid iʼr testun ar yr arwydd neuʼr hysbysiad fod yn Gymraeg ac yn Saesneg, a chaiff fferyllydd GIG ddefnyddioʼr gwasanaeth cyfieithu a gynigir gan y Bwrdd Iechyd Lleol at y diben hwn.

(4Rhaid i fferyllydd GIG annog y rheini syʼn darparu gwasanaethau fferyllol ac syʼn siarad Cymraeg i wisgo bathodyn, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, er mwyn cyfleu eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

(5Rhaid i fferyllydd GIG annog y rheini syʼn darparu gwasanaethau fferyllol i ddefnyddio gwybodaeth a/neu fynd i gyrsiau hyfforddi a digwyddiadau a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, fel y gallant ddatblygu—

(a)ymwybyddiaeth oʼr Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth oʼi hanes aʼi rôl yn niwylliant Cymru), a

(b)dealltwriaeth o sut y gellir defnyddioʼr Gymraeg mewn cysylltiad âʼr gwasanaethau fferyllol a ddarperir.

(6Rhaid i fferyllydd GIG annog y rheini syʼn darparu gwasanaethau fferyllol i ganfod a chofnodiʼr dewis iaith Cymraeg neu Saesneg a fynegir gan glaf neu ar ran claf.

Rheoliad 12

ATODLEN 6Telerau gwasanaeth ar gyfer contractwyr cyfarpar GIG syʼn darparu gwasanaethau fferyllol drwy ddarparu cyfarpar yn unig

Corffori darpariaethau

1.  Mae unrhyw ddarpariaethau oʼr canlynol syʼn effeithio ar hawliau a rhwymedigaethau contractwyr cyfarpar GIG syʼn darparu gwasanaethau fferyllol yn ffurfio rhan oʼr telerau gwasanaeth—

(a)y Rheoliadau,

(b)y Tariff Cyffuriau iʼr graddau y maeʼn rhestru cyfarpar at ddibenion adran 80 o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol),

(c)cymaint o Ran 2 o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992 ag syʼn ymwneud â’r canlynol—

(i)ymchwiliadau a wneir gan y pwyllgor disgyblu fferyllol aʼr cyd-bwyllgor disgyblu a chamau gweithredu y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol eu cymryd o ganlyniad i ymchwiliadau oʼr fath, a

(ii)apelau i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniadauʼr Bwrdd Iechyd Lleol, a

(d)cymaint o reoliad 29 o Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010(12) (mynd i mewn i fangreoedd aʼu harchwilio) ag syʼn ymwneud â mynd i mewn i fangreoedd, y maeʼr contractwr cyfarpar GIG naill aiʼn berchen arnynt neuʼn eu rheoli neuʼn darparu gwasanaethau fferyllol ynddynt, ac archwilio’r mangreoedd hynny.

Rhannu cyfrifoldebau rhwng unigolion a chyrff corfforedig

2.—(1Iʼr graddau y maeʼr Atodlen hon yn gosod ar gontractwr cyfarpar GIG ofyniad mewn cysylltiad â gweithgaredd na ellid ei gyflawni gan neb ond person naturiol, neu a gyflawnid fel arfer gan berson naturiol—

(a)os ywʼr contractwr cyfarpar GIG yn fferyllydd cofrestredig—

(i)rhaid iʼr fferyllydd cofrestredig hwnnw gydymffurfio âʼr gofyniad hwnnw, neu

(ii)os ywʼn cyflogi neu wedi cymryd ymlaen fferyllydd cofrestredig mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau fferyllol, rhaid iʼr fferyllydd cofrestredig hwnnw naill ai cydymffurfio âʼr gofyniad hwnnw neu sicrhau cydymffurfedd âʼr gofyniad hwnnw gan y person y maeʼn ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen, a

(b)os nad ywʼr contractwr cyfarpar GIG yn berson naturiol, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG hwnnw sicrhau cydymffurfedd âʼr gofyniad hwnnw gan berson y maeʼn ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen,

a rhaid dehongli cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at gontractwr cyfarpar GIG yn unol â hynny.

(2Pan foʼr Atodlen hon yn gosod gofyniad ar gyfarwyddwr corff corfforedig sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol, rhaid barnu bod torriʼr gofyniad hwnnw yn golygu bod y corff corfforedig wedi torri ei delerau gwasanaeth.

Gwasanaethau gweinyddu

3.  Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, iʼr graddau y maeʼn ofynnol gan baragraffau 4 i 8 ac yn y modd a ddisgrifir yn y paragraffau hynny, ddarparu cyfarpar priodol a digonol i bersonau syʼn cyflwyno presgripsiynau am gyfarpar gan broffesiynolion gofal iechyd yn unol âʼu swyddogaethau.

Gweinyddu cyfarpar

4.—(1Yn y paragraff hwn, mae “wedi ei llofnodi” yn cynnwys llofnodi gyda llofnod electronig uwch rhagnodydd.

(2Yn ddarostyngedig i ddarpariaethauʼr Atodlen hon, pan fo—

(a)unrhyw berson yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn anelectronig syʼn cynnwys—

(i)archeb am gyfarpar, nad ywʼn gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi gan ragnodydd, neu

(ii)archeb am gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi gan ragnodydd ac yn cynnwys y cyfeirnod “SLS”, “Selected List Scheme” neu “Drug Tariff”, neu

(b)contractwr cyfarpar GIG yn cael presgripsiwn amlroddadwy electronig syʼn cydymffurfio âʼr gwasanaeth TPE ac yn cynnwys archeb o fath a bennir ym mharagraff (a)(i) a (ii) ac—

(i)bod unrhyw berson yn gofyn bod cyfarpar yn cael ei ddarparu yn unol âʼr presgripsiwn hwnnw, neu

(ii)bod y contractwr cyfarpar GIG wedi trefnu gydaʼr claf yn flaenorol y byddaiʼn gweinydduʼr presgripsiwn hwnnw pan ddeuai i law,

rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG, yn rhesymol brydlon, ddarparuʼr cyfarpar hwnnw a archebir felly a gyflenwir ganddo yng nghwrs arferol busnes.

(3At ddibenion y paragraff hwn, mae presgripsiwn amlroddadwy anelectronig am gyfarpar iʼw ystyried fel pe bai wedi ei gyflwyno, hyd yn oed os nad ywʼr person syʼn dymuno cael y cyfarpar yn cyflwynoʼr presgripsiwn hwnnw—

(a)pan fo’r presgripsiwn hwnnw gan y contractwr cyfarpar GIG yn ei feddiant, a

(b)pan fo’r person hwnnw yn cyflwyno swp-ddyroddiad cysylltiedig neu pan fo swp-ddyroddiad cysylltiedig ym meddiant y contractwr cyfarpar GIG.

Cyflenwi yn unol â PPD

5.—(1Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan—

(a)bo person yn gofyn i gontractwr cyfarpar GIG am gyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, a

(b)bo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—

(i)y cyfarpar y gofynnir amdano, neu

(ii)cyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw.

(2Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid i gontractwr cyfarpar GIG ystyried a yw’n rhesymol ac yn briodol cyflenwi yn unol â’r PPD yn hytrach nag yn unol â’r ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy.

(3Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, caiff contractwr cyfarpar GIG ddarparu cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r cynnyrch neu swm y cynnyrch a archebwyd ar y ffurflen bresgripsiwn neu’r presgripsiwn amlroddadwy, pan—

(a)bo’r contractwr cyfarpar GIG yn gallu gwneud hynny yn rhesymol brydlon,

(b)bo gwneud hynny yn unol â’r PPD, ac

(c)bo’r contractwr cyfarpar GIG o’r farn bod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn rhesymol ac yn briodol.

(4Pan fo contractwr cyfarpar GIG, yn unol ag is-baragraff (3), yn darparu cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd—

(a)rhaid i’r contractwr cyfarpar GIG arnodi’r presgripsiwn neu’r swp-ddyroddiad cysylltiedig yn unol â hynny (os yw’r Tariff Cyffuriau yn darparu ar gyfer y modd arnodi, yn y modd hwnnw y darperir ar ei gyfer yn y Tariff Cyffuriau), ac mae’r presgripsiwn neu’r swp-ddyroddiad cysylltiedig fel y’i harnodir felly yn cael ei drin fel y presgripsiwn at ddibenion ad-dalu cost y cynnyrch (er nad yw’r cyflenwi yn unol â’r presgripsiwn hwnnw), a

(b)(i)os yw’r claf y mae’r cynnyrch wedi ei ddarparu iddo neu ar ei gyfer ar restr cleifion, a

(ii)os yw math o gynnyrch yn cael ei gyflenwi y mae Gweinidogion Cymru a’r person sydd, am y tro, yn berson yr ymgynghorir ag ef o dan adran 89(1)(a) o Ddeddf 2006 mewn cysylltiad â thâl fferyllol ar gyfer contractwyr cyfarpar GIG, gan weithredu ar y cyd, wedi dyroddi argymhelliad mewn perthynas ag ef ac wedi rhoi cyhoeddusrwydd i’r argymhelliad hwnnw, yn y modd y gwelant ei fod yn addas, i’r perwyl, am resymau clinigol, yn achos cyflenwi cynnyrch o’r math hwnnw, y dylid hysbysu darparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol bod cynnyrch wedi ei gyflenwi i glaf ar eu rhestr cleifion yn unol â PPD yn hytrach nag yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy,

rhaid i’r contractwr cyfarpar GIG hysbysu’r darparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’r claf ar ei restr cleifion, am y cyflenwi yn unol â PPD yn hytrach nag yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy.

(5Pan—

(a)bo is-baragraff (1) yn gymwys,

(b)bo contractwr cyfarpar GIG o’r farn bod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn afresymol neu’n amhriodol, ac

(c)bo’r contractwr cyfarpar GIG yn gallu cyflenwi’r cynnyrch neu swm y cynnyrch a archebwyd gan y rhagnodydd o fewn amserlen resymol ond nid yn rhesymol brydlon,

mae’r gofyniad i weithredu’n rhesymol brydlon ym mharagraff 4(2) i’w ddarllen fel pe bai’n ofyniad i weithredu o fewn amserlen resymol.

Cyflenwi ar frys heb bresgripsiwn

6.—(1Maeʼr paragraff hwn yn gymwys pan fo rhagnodydd, mewn achos brys, yn gofyn i gontractwr cyfarpar GIG ddarparu cyfarpar.

(2Caiff y contractwr cyfarpar GIG ddarparuʼr cyfarpar y gofynnir amdano cyn cael ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy mewn cysylltiad âʼr cyfarpar hwnnw, ar yr amod bod y rhagnodydd yn ymgymryd ag—

(a)rhoi iʼr contractwr cyfarpar GIG ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig mewn cysylltiad âʼr cyfarpar o fewn 72 o oriau i’r cais gael ei wneud, neu

(b)rhoi iʼr contractwr cyfarpar GIG ffurflen bresgripsiwn electronig syʼn cydymffurfio âʼr gwasanaeth TPE o fewn 72 o oriau i’r cais gael ei wneud.

Materion rhagarweiniol cyn darparu cyfarpar

7.—(1Os ywʼr person a bennir yn is-baragraff (2) yn gofyn iʼr contractwr cyfarpar GIG wneud hynny—

(a)rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG roi amcangyfrif oʼr amser pan fydd y cyfarpar yn barod, a

(b)os na fydd yn barod erbyn hynny, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG roi amcangyfrif diwygiedig oʼr amser pan fydd yn barod.

(2Person a bennir yn yr is-baragraff hwn yw person—

(a)syʼn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig, neu

(b)syʼn gofyn i gyfarpar gael ei ddarparu yn unol â ffurflen bresgripsiwn electronig neu bresgripsiwn amlroddadwy electronig.

(3Cyn darparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ofyn i unrhyw berson syʼn gwneud datganiad nad oes rhaid iʼr person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy daluʼr ffioedd a bennir yn rheoliad 3 oʼr Rheoliadau Ffioedd (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr), yn rhinwedd naill ai—

(i)hawlogaeth i gael esemptiad o dan reoliad 8 oʼr Rheoliadau Ffioedd (esemptiadau), neu

(ii)hawlogaeth i beidio â thalu ffioedd o dan reoliad 5 oʼr Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl (hawlogaeth i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn),

gyflwyno tystiolaeth foddhaol oʼr hawlogaeth honno, oni bai bod y datganiad mewn cysylltiad â hawlogaeth i gael esemptiad yn rhinwedd rheoliad 8 oʼr Rheoliadau Ffioedd neu mewn cysylltiad â hawlogaeth i beidio â thalu yn rhinwedd rheoliad 5(1)(e) neu (2) oʼr Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl, a bod tystiolaeth oʼr fath eisoes wedi ei rhoi ar gael iʼr contractwr cyfarpar GIG ar adeg gwneud y datganiad,

(b)yn achos ffurflen bresgripsiwn anelectronig neu bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig, os na chyflwynir tystiolaeth foddhaol iʼr contractwr cyfarpar GIG fel syʼn ofynnol gan baragraff (a), rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG arnodiʼr ffurflen y gwneir y datganiad arni iʼr perwyl hwnnw, ac

(c)yn achos ffurflen bresgripsiwn electronig neu bresgripsiwn amlroddadwy electronig, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG gydymffurfio ag unrhyw ofynion gan y gwasanaeth TPE i ddarparu—

(i)cofnod oʼr esemptiad rhag talu neuʼr hawlogaeth i beidio â thalu a hawliwyd, ac a gyflwynwyd tystiolaeth foddhaol, fel y cyfeirir ati ym mharagraff (a), a

(ii)mewn unrhyw achos pan fo ffi yn ddyledus, gadarnhad bod y ffi berthnasol wedi ei thalu.

(4Mae is-baragraff (3) yn gymwys i ddarparu cyfarpar yn unol â PPD fel y mae’n gymwys i ddarparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy (neu swp-ddyroddiad cysylltiedig), ac at y dibenion hyn, mae’r presgripsiwn at ddibenion ad-dalu cost y cynnyrch, fel y’i crybwyllir ym mharagraff 5(4)(a), yn cael ei drin fel y presgripsiwn y darperir y cyfarpar yn unol ag ef (er nad yw’r cyflenwi yn unol â’r presgripsiwn hwnnw).

Darparu cyfarpar

8.—(1Pan fo ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy wedi ei chyflwyno neu ei gyflwyno i gontractwr cyfarpar GIG, ni chaiff y contractwr cyfarpar GIG ddarparuʼr cyfarpar a archebir felly ond—

(a)os ywʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy wedi ei llofnodi a’i chwlhau neu ei lofnodi aʼi gwblhau yn briodol, fel yʼi disgrifir ym mharagraff 4, a

(b)yn unol âʼr archeb sydd ar y ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy,

yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau sydd mewn grym o dan Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985 aʼr darpariaethau a ganlyn oʼr Atodlen hon.

(2Os ywʼr archeb yn archeb am fath o gyfarpar y maeʼn ofynnol ei fesur aʼi ffitio gan y contractwr cyfarpar GIG neu os yw cynnyrch sydd i’w ddarparu yn unol â PPD yn fath o’r cyfarpar hwnnw, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG wneud yr holl drefniadau angenrheidiol ar gyfer—

(a)mesur y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy am y cyfarpar, a

(b)ffitioʼr cyfarpar.

(3Os ywʼr archeb yn archeb am gyfarpar sydd wedi ei gynnwys yn y Tariff Cyffuriau, Fformiwlari Cenedlaethol Prydain (gan gynnwys unrhyw Atodiad a gyhoeddwyd fel rhan oʼr Fformiwlari hwnnw), Fformiwlariʼr Ymarferydd Deintyddol, y Cyffurlyfr Ewropeaidd neu Godecs Fferyllol Prydain neu os yw cynnyrch sydd i’w ddarparu yn unol â PPD yn gyfarpar o’r fath, rhaid iʼr cyfarpar a ddarperir gydymffurfio âʼr safon neuʼr fformiwla a bennir yno.

(4Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn darparu cyfarpar o dan baragraff 5, rhaid i’r contractwr cyfarpar GIG gynnwys gydag ef mewn nodyn ysgrifenedig, er budd y claf, wybodaeth i’r perwyl bod y cynnyrch yn cael ei gyflenwi yn unol â PPD, gan nodi’r PPD penodol.

Gwrthod darparu cyfarpar a archebwyd

9.—(1Caiff contractwr cyfarpar GIG wrthod darparu cyfarpar a archebwyd ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan foʼr contractwr cyfarpar GIG yn credu, yn rhesymol, nad ywʼn archeb ddilys ar gyfer y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy,

(b)pan foʼn ymddangos iʼr contractwr cyfarpar GIG fod camgymeriad ar y ffurflen bresgripsiwn neu ar y presgripsiwn amlroddadwy neu, yn achos presgripsiwn amlroddadwy anelectronig, ei swp-ddyroddiad cysylltiedig (gan gynnwys camgymeriad clinigol a wnaed gan y rhagnodydd) neu y byddai darparuʼr cyfarpar, o dan yr amgylchiadau, yn groes i farn glinigol y contractwr cyfarpar GIG,

(c)pan foʼr contractwr cyfarpar GIG neu bersonau eraill yn dioddef trais neuʼn cael eu bygwth â thrais gan y person syʼn cyflwynoʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy neu syʼn gofyn i gyfarpar gael ei ddarparu yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu gan unrhyw berson sydd yng nghwmniʼr person hwnnw, neu

(d)pan foʼr person syʼn cyflwynoʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy neu syʼn gofyn i gyfarpar gael ei ddarparu yn unol â ffurflen bresgripsiwn electronig neu bresgripsiwn amlroddadwy electronig neu unrhyw berson arall sydd yng nghwmniʼr person hwnnw, yn cyflawni neuʼn bygwth cyflawni trosedd.

(2Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG wrthod darparu cyfarpar a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan fo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—

(i)y cyfarpar y gofynnir amdano, neu

(ii)cyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw, a

(b)pan fo darpariaeth amgen eisoes wedi digwydd yn unol â’r PPD.

(3Caiff contractwr cyfarpar GIG wrthod darparu cyfarpar a archebir ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan fo PPD yn cael effaith mewn cysylltiad ag—

(i)y cyfarpar y gofynnir amdano, neu

(ii)cyfarpar o ddisgrifiad penodedig, a bod y cyfarpar y gofynnir amdano o’r disgrifiad hwnnw,

(b)pan fo’r contractwr cyfarpar GIG o’r farn bod cyflenwi cynnyrch gwahanol neu swm gwahanol o gynnyrch i’r hyn a archebwyd gan y rhagnodydd yn afresymol neu’n amhriodol, ac

(c)pan na fo’r contractwr cyfarpar GIG yn gallu darparu’r cyfarpar o fewn amserlen resymol,

ond os yw’r contractwr cyfarpar GIG yn gwrthod gwneud hynny, rhaid iddo ddarparu cyngor priodol, fel y bo’n angenrheidiol, i’r claf neu i’r person sy’n gofyn am y cyfarpar ar ran y claf ynghylch dychwelyd i’r rhagnodydd er mwyn i’r rhagnodydd adolygu triniaeth y claf.

(4Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG wrthod darparu cyfarpar a archebwyd ar bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan na fo ganddo gofnod oʼr presgripsiwn hwnnw,

(b)pan na fo ganddo, yn achos presgripsiwn amlroddadwy anelectronig, unrhyw swp-ddyroddiad cysylltiedig a phan na fo swp-ddyroddiad oʼr fath wedi ei gyflwyno,

(c)pan na fo wedi ei lofnodi gan ragnodydd amlroddadwy,

(d)pan fyddai gwneud hynny yn anghyson ag unrhyw ysbeidiau a bennir yn y presgripsiwn,

(e)pan hwnnw fyddaiʼr tro cyntaf i gyfarpar gael ei ddarparu yn unol âʼr presgripsiwn, a phan fo’r presgripsiwn wedi ei lofnodi (yn electronig neu fel arall) fwy na 6 mis yn gynharach,

(f)pan fo’r presgripsiwn amlroddadwy wedi ei lofnodi (yn electronig neu fel arall) fwy nag 1 flwyddyn yn gynharach,

(g)pan fo’r dyddiad dod i ben ar y presgripsiwn amlroddadwy wedi mynd heibio, neu

(h)pan fo’r rhagnodydd amlroddadwy wedi rhoi gwybod iddo nad oes angen y presgripsiwn mwyach.

(5Pan fo claf yn gofyn i gyfarpar a archebwyd ar bresgripsiwn amlroddadwy (ac eithrioʼr tro cyntaf y mae’n gofyn felly) gael ei gyflenwi, ni chaiff contractwr cyfarpar GIG ddarparuʼr cyfarpar a archebwyd oni bai ei fod wedi ei fodloni—

(a)o ran y claf y maeʼr presgripsiwn yn ymwneud ag ef—

(i)ei fod yn defnyddioʼr cyfarpar yn briodol, ac yn debygol o barhau iʼw ddefnyddio felly, a

(ii)nad ywʼn dioddef unrhyw un neu ragor o sgil effeithiauʼr driniaeth syʼn dangos bod angen, neu ei bod yn ddymunol, adolygu triniaeth y claf,

(b)nad ywʼr modd y defnyddir y cyfarpar gan y claf y maeʼr presgripsiwn yn ymwneud ag ef wedi newid mewn ffordd syʼn dangos bod angen, neu ei bod yn ddymunol, adolygu triniaeth y claf, ac

(c)nad oes unrhyw newidiadau wedi bod yn iechyd y claf y maeʼr presgripsiwn yn ymwneud ag ef syʼn dangos bod angen, neu ei bod yn ddymunol, adolygu triniaeth y claf.

Gweithgareddau pellach sydd iʼw cyflawni mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau gweinyddu

10.—(1Mewn cysylltiad âʼr gwasanaethau a ddarperir o dan baragraff 3, rhaid i gontractwr cyfarpar GIG—

(a)sicrhau y rhoddir cyngor priodol i gleifion ynghylch unrhyw gyfarpar a ddarperir iddynt—

(i)iʼw galluogi i ddefnyddioʼr cyfarpar yn briodol, a

(ii)i ddiwallu anghenion rhesymol y cleifion am wybodaeth gyffredinol ynglŷn âʼr cyfarpar,

(b)darparu cyngor priodol i gleifion y maeʼn darparu cyfarpar iddynt ynglŷn â chadwʼr cyfarpar yn ddiogel,

(c)wrth ddarparu cyfarpar i glaf yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(i)darparu cyngor priodol, yn benodol ar bwysigrwydd dim ond gofyn am yr eitemau hynny y mae eu hangen arno mewn gwirionedd, a

(ii)at y dibenion hynny, roi sylw iʼr manylion sydd wedi eu cynnwys yn y cofnodion a gynhelir o dan baragraff (f) mewn cysylltiad â darparu cyfarpar aʼr patrwm rhagnodi syʼn ymwneud âʼr claf o dan sylw,

(d)darparu i glaf nodyn ysgrifenedig o unrhyw gyfarpar syʼn ddyledus iddo, a rhoi gwybod iʼr claf pa bryd y disgwylir y dawʼr cyfarpar ar gael,

(e)darparu i glaf nodyn ysgrifenedig o enw, cyfeiriad a rhif ffôn y contractwr cyfarpar GIG,

(f)cadw a chynnal cofnodion—

(i)oʼr cyfarpar a ddarperir, er mwyn hwyluso parhad gofal y claf,

(ii)mewn achosion priodol, oʼr cyngor a roddir ac unrhyw ymyriadau neu atgyfeiriadau a wneir (gan gynnwys ymyriadau o arwyddocâd clinigol mewn achosion syʼn ymwneud â phresgripsiynau amlroddadwy), a

(iii)o nodiadau a ddarperir o dan baragraff (d),

(g)ymgymryd â hyfforddiant priodol mewn cysylltiad ag amlweinyddu, gan roi sylw i unrhyw argymhellion mewn cysylltiad â’r hyfforddiant hwnnw a nodir yn y Tariff Cyffuriau,

(h)os ywʼr contractwr cyfarpar GIG yn cymryd meddiant o bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig neu swp-ddyroddiad cysylltiedig, storioʼr presgripsiwn amlroddadwy hwnnw neuʼr swp-ddyroddiad cysylltiedig hwnnw yn ddiogel,

(i)os ywʼr contractwr cyfarpar GIG yn darparu cyfarpar o dan bresgripsiwn electronig, ddarparu iʼr claf, os ywʼr claf yn gofyn amdano, gofnod ysgrifenedig oʼr cyfarpar a archebwyd ar y presgripsiwn hwnnw, ac yn achos presgripsiwn amlroddadwy electronig, gofnod o nifer y troeon y caniateir ei weinyddu,

(j)cynnal cofnodion o bresgripsiynau amlroddadwy ar ffurf a fydd yn darparu trywydd archwilio eglur oʼr cyflenwadau o dan y presgripsiwn amlroddadwy (gan gynnwys dyddiadau aʼr symiau a gyflenwir),

(k)dinistrio unrhyw swp-ddyroddiadau dros ben syʼn ymwneud â chyfarpar—

(i)nad oes eu hangen, neu

(ii)y gwrthodwyd ei ddarparu i glaf yn unol â pharagraff 9,

(l)sicrhau, pan wrthodir darparu cyfarpar i berson yn unol â pharagraff 9(1)(b), (2) neu (3), yr atgyfeirir y claf yn ôl at y rhagnodydd am gyngor pellach,

(m)pan fo cyfarpar wedi ei ddarparu i glaf o dan bresgripsiwn amlroddadwy, hysbysuʼr rhagnodydd am unrhyw faterion o arwyddocâd clinigol syʼn codi mewn cysylltiad âʼr presgripsiwn a chadw cofnod oʼr hysbysiad hwnnw,

(n)hysbysuʼr rhagnodydd am unrhyw wrthodiad i ddarparu cyfarpar yn unol â pharagraff 9(3), ac

(o)wrth ddarparu cyfarpar penodedig, gydymffurfio âʼr gofynion ychwanegol a nodir ym mharagraff 11.

(2Pan na fo contractwr cyfarpar GIG, wrth i ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy gael ei chyflwyno neu ei gyflwyno mewn cysylltiad â gweinyddu cyfarpar o dan baragraff 4, yn gallu darparu cyfarpar, neu pan fo angen addasu cyfarpar stoma ac na foʼr contractwr cyfarpar GIG yn gallu darparuʼr addasiad hwnnw, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG—

(a)os ywʼr claf yn cydsynio, atgyfeirioʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy at gontractwr cyfarpar GIG arall neu at fferyllydd GIG, neu

(b)os nad ywʼr claf yn cydsynio i atgyfeirio, ddarparu iʼr claf fanylion cyswllt o leiaf ddau berson syʼn fferyllwyr GIG neuʼn gontractwyr cyfarpar GIG sy’n gallu darparuʼr cyfarpar neu addasu’r cyfarpar stoma (yn ôl y digwydd), os ywʼr manylion hyn yn hysbys iʼr contractwr cyfarpar GIG.

Gofynion ychwanegol mewn perthynas â chyfarpar penodedig

11.—(1Maeʼr paragraff hwn yn nodiʼr gofynion ychwanegol y cyfeirir atynt ym mharagraff 10(1)(o) syʼn ymwneud â darparu cyfarpar penodedig.

(2Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG syʼn gweinyddu cyfarpar penodedig yng nghwrs arferol busnes ddarparu gwasanaeth danfon i gartrefi mewn cysylltiad âʼr cyfarpar hwnnw ac, fel rhan oʼr gwasanaeth hwnnw—

(a)rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG gynnig danfon y cyfarpar penodedig i gartref y claf,

(b)os ywʼr claf yn derbyn y cynnig hwnnw, rhaid gwneud y danfoniad yn rhesymol brydlon ac ar yr adeg y cytunir arni âʼr claf,

(c)rhaid danfon y cyfarpar penodedig mewn pecyn nad ywʼn arddangos unrhyw ysgrifen neu farciau eraill a allai ddangos ei gynnwys, a

(d)ni chaiff y modd y danfonir y pecyn ac unrhyw eitemau atodol syʼn ofynnol gan is-baragraff (3) gyfleuʼr math o gyfarpar a ddanfonir.

(3Mewn unrhyw achos pan fo cyfarpar penodedig yn cael ei ddarparu (drwy ei ddanfon iʼr cartref neu fel arall), rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu cyflenwad rhesymol o eitemau atodol priodol (megis clytiau tafladwy a bagiau gwaredu) ac—

(a)rhaid iddo sicrhau y caiff y claf, os ywʼr claf yn dymuno, ymgynghori â pherson i gael cyngor clinigol arbenigol ynglŷn âʼr cyfarpar, neu

(b)os ywʼr contractwr cyfarpar GIG yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, rhaid iddo—

(i)atgyfeirioʼr claf at ragnodydd, neu

(ii)cynnig gwasanaeth adolygu defnyddio cyfarpar iʼr claf.

(4Os na all y contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaeth adolygu defnyddio cyfarpar yn unol ag is-baragraff (3)(b)(ii), rhaid iddo roi iʼr claf fanylion cyswllt o leiaf ddau berson syʼn fferyllwyr GIG neuʼn gontractwyr cyfarpar GIG sy’n gallu trefnu i’r gwasanaeth gael ei ddarparu, os ywʼr manylion hyn yn hysbys iʼr contractwr cyfarpar GIG.

(5Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn darparu llinell gofal ffôn mewn cysylltiad â gweinyddu unrhyw gyfarpar penodedig, rhaid iddo sicrhau, yn ystod cyfnodau y tu allan i oriau—

(a)bod cyngor yn cael ei roi ar gael i gleifion drwyʼr llinell gofal ffôn honno, neu

(b)bod rhif ffôn Galw Iechyd Cymru, neu gyfeiriad gwefan Galw Iechyd Cymru, yn cael ei roi ar gael i gleifion drwyʼr llinell gofal ffôn.

(6At ddibenion y paragraff hwn—

ystyr “cyfnodau y tu allan i oriau” (“out of hours periods”), mewn perthynas â phob un oʼr mangreoedd y mae contractwr cyfarpar GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohonynt, ywʼr cyfnodau y tu allan iʼr cyfnodau pan foʼr contractwr cyfarpar GIG o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn rhinwedd paragraff 13;

ystyr “cyngor clinigol arbenigol” (“expert clinical advice”), mewn perthynas â chyfarpar penodedig, yw cyngor a roddir gan berson sydd wedi ei hyfforddiʼn addas ac sydd â phrofiad perthnasol mewn cysylltiad âʼr cyfarpar.

Cyfeirio defnyddwyr

12.—(1Pan na fo contractwr cyfarpar GIG, wrth i ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy gael ei chyflwyno neu ei gyflwyno, yn gallu darparu cyfarpar neu addasu cyfarpar stoma oherwydd nad yw darparuʼr cyfarpar neuʼr addasu yng nghwrs arferol ei fusnes, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG—

(a)os ywʼr claf yn cydsynio, atgyfeirioʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy at gontractwr cyfarpar GIG arall neu at fferyllydd GIG, a

(b)os nad ywʼr claf yn cydsynio i atgyfeirio, ddarparu iʼr claf fanylion cyswllt o leiaf ddau berson syʼn fferyllwyr GIG neuʼn gontractwyr cyfarpar GIG sy’n gallu darparuʼr cyfarpar neu addasu’r cyfarpar stoma (yn ôl y digwydd), os ywʼr manylion hyn yn hysbys iʼr contractwr cyfarpar GIG.

(2Rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG, mewn achosion priodol, gadw a chynnal cofnod o unrhyw wybodaeth a roddir neu atgyfeiriad a wneir o dan is-baragraff (1), a rhaid iʼr cofnod hwnnw fod ar ffurf syʼn hwyluso—

(a)archwilio’r gwasanaethau fferyllol a ddarperir gan y contractwr cyfarpar GIG, a

(b)gofal dilynol iʼr person y rhoddwyd yr wybodaeth iddo neu y gwnaed yr atgyfeiriad mewn cysylltiad ag ef.

Oriau agor: cyffredinol

13.—(1Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG sicrhau y darperir gwasanaethau fferyllol ym mhob un oʼr mangreoedd y mae wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohonynt—

(a)am ddim llai na 30 o oriau bob wythnos;

(b)os ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr contractwr cyfarpar GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, wedi cyfarwyddo (naill ai o dan yr Atodlen hon neu Atodlen 5 i Reoliadau 2013) y caiff y contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am lai na 30 o oriau yr wythnos ar yr amod y darperir y gwasanaethau hynny ar amseroedd penodol ac ar ddiwrnodau penodol, ar yr amseroedd ac ar y diwrnodau a bennwyd felly,

(c)os ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr contractwr cyfarpar GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, wedi cyfarwyddo (naill ai o dan yr Atodlen hon neu Atodlen 5 i Reoliadau 2013) fod rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am fwy na 30 o oriau yr wythnos ar amseroedd penodol ac ar ddiwrnodau penodol, ar yr amseroedd ac ar y diwrnodau a bennwyd felly, neu

(d)os ywʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr contractwr cyfarpar GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, neu Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, wedi cyfarwyddo o dan yr Atodlen hon fod rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am fwy na 30 o oriau bob wythnos—

(i)am y cyfanswm oriau bob wythnos syʼn ofynnol yn rhinwedd y cyfarwyddyd hwnnw, a

(ii)o ran yr oriau ychwanegol y maeʼn ofynnol iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn rhinwedd y cyfarwyddyd hwnnw, ar y diwrnodau ac ar yr amseroedd y maeʼn ofynnol iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ystod yr oriau ychwanegol hynny, fel yʼi nodir yn y cyfarwyddyd hwnnw,

ond caiff Bwrdd Iechyd Lleol, o dan amgylchiadau priodol, gytuno i atal gwasanaethau fferyllol dros dro am gyfnod penodol, pan fo wedi cael 3 mis o rybudd oʼr bwriad i atal y gwasanaethau dros dro.

(2Ym mhob un oʼr mangreoedd y mae contractwr cyfarpar GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohonynt, rhaid i gontractwr cyfarpar GIG arddangos hysbysiad syʼn pennuʼr diwrnodau aʼr amseroedd y mae’r fangre ar agor ar gyfer darparu cyfarpar.

(3Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, ar gais, gyflwyno datganiad iʼr Bwrdd Iechyd Lleol syʼn nodi—

(a)y diwrnodau aʼr amseroedd y darperir gwasanaethau fferyllol ym mhob un oʼr mangreoedd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohonynt (gan gynnwys yr amseroedd y maeʼn darparu gwasanaethau fferyllol pan nad yw o dan rwymedigaeth i wneud hynny yn rhinwedd is-baragraff (1), y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “oriau agor atodol”), a

(b)y gwasanaethau fferyllol y maeʼr contractwr cyfarpar GIG fel arfer yn eu darparu ym mhob un oʼr mangreoedd hynny.

(4Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn newid—

(a)y diwrnodau neuʼr amseroedd y mae’r gwasanaethau fferyllol iʼw darparu mewn mangre y mae wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohoni, neu

(b)y gwasanaethau fferyllol y mae fel arfer iʼw darparu yn y fangre honno,

rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG gyflenwi, iʼr Bwrdd Iechyd Lleol, ddatganiad sy’n rhoi gwybod iddo am y newid.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), pan fo contractwr cyfarpar GIG wedi ei rwystro gan salwch neu achos rhesymol arall rhag cydymffurfio âʼi rwymedigaethau o dan is-baragraff (1), rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG, pan foʼn ymarferol, wneud trefniadau ag un neu ragor o gontractwyr cyfarpar GIG, fferyllwyr GIG neu ddarparwyr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot y mae eu mangreoedd yn y gymdogaeth ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol lleol yn ystod y cyfnod hwnnw.

(6Ni chaiff contractwr cyfarpar GIG wneud trefniant â darparwr gwasanaethau fferyllol lleol o dan gynllun peilot o dan is-baragraff (5) ond pan foʼr darparwr hwnnw yn darparu gwasanaethau fferyllol lleol o ddisgrifiad a graddau tebyg iʼr gwasanaethau fferyllol y mae’r contractwr cyfarpar GIG fel arfer yn eu darparu.

(7Pan fo darpariaeth gwasanaethau fferyllol gan gontractwr cyfarpar GIG wedi ei hatal dros dro am reswm sydd y tu hwnt iʼw reolaeth, ni fydd y contractwr cyfarpar GIG wedi torri is-baragraffau (1) a (2), ar yr amod bod y contractwr cyfarpar GIG—

(a)yn hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol am yr ataliad hwnnw cyn gynted ag y boʼn ymarferol, a

(b)yn gwneud pob ymdrech resymol i ailddechrau darparu gwasanaethau fferyllol cyn gynted ag y boʼn ymarferol.

(8Nid yw gwaith a gynlluniwyd ymlaen llaw i ailwampio mangre yn “achos rhesymol” at ddibenion is-baragraff (5) nac yn “rheswm sydd y tu hwnt iʼw reolaeth” at ddibenion is-baragraff (7).

(9At ddibenion cyfrifo nifer yr oriau y mae mangre ar agor yn ystod wythnos syʼn cynnwys Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith, Sul y Pasg neu ŵyl banc, bernir bod y fangre ar agor ar y diwrnod hwnnw ar yr amseroedd y byddai wedi bod ar agor fel arfer ar y diwrnod hwnnw oʼr wythnos.

(10Yn yr Atodlen hon, yr “oriau ychwanegol” y mae i fod yn ofynnol i gontractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol ywʼr oriau hynny pan na fyddaiʼr contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol, pe baiʼr contractwr cyfarpar GIG yn ddarostyngedig iʼr amod a nodir yn is-baragraff (1)(a) ac nid yr amod a nodir yn is-baragraff (1)(d).

(11Er gwaethaf darpariaethau paragraffau 14 i 17, yn ystod argyfwng syʼn ei gwneud yn ofynnol darparu gwasanaethau fferyllol mewn ffordd hyblyg, caiff Bwrdd Iechyd Lleol, os gwneir cais gan gontractwr cyfarpar GIG, ganiatáu iʼr contractwr cyfarpar GIG newid dros dro y diwrnodau neuʼr amseroedd y mae’r contractwr cyfarpar GIG o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre y mae wedi ymgymryd â darparu gwasanaethau fferyllol ohoni, neu ganiatáu cauʼr fangre honno dros dro—

(a)os yw’r contractwr cyfarpar GIG yn rhoi o leiaf 24 awr o rybudd oʼr newid neuʼr cau, a

(b)os ywʼr rhesymau a roddir gan y contractwr cyfarpar GIG dros wneud y cais yn rhesymau digonol ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol.

(12Nid oes angen iʼr Bwrdd Iechyd Lleol gymeradwyoʼr cais y cyfeirir ato yn is-baragraff (11) cyn y newid neuʼr cau, ac os nad ywʼn gwneud hynny ond yn penderfynu yn ddiweddarach nad yw rhesymauʼr contractwr cyfarpar GIG, yn ei farn, yn rhesymau digonol, yna mae’r diwrnodau neuʼr amseroedd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre i ddychwelyd iʼr hyn a oeddent cyn eu disodli, oʼr diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir y penderfyniad hwnnw iʼr contractwr cyfarpar GIG.

Materion iʼw hystyried wrth ddyroddi cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag oriau agor

14.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd syʼn pennu unrhyw ddiwrnodau neu amseroedd o dan yr Atodlen hon, rhaid iddo, wrth wneud hynny, geisio sicrhau bod yr oriau y mae mangre ar agor ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol yn rhai syʼn sicrhau y darperir y gwasanaethau fferyllol ar y diwrnodau hynny ac ar yr amseroedd hynny syʼn angenrheidiol er mwyn diwallu anghenion pobl yn y gymdogaeth, neu ddefnyddwyr tebygol eraill y fangre, am wasanaethau fferyllol.

(2Wrth ystyried y materion a grybwyllir yn is-baragraff (1)—

(a)rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol drin unrhyw wasanaethau fferyllol lleol a ddarperir yn y gymdogaeth honno ar y diwrnodau a’r amseroedd o dan sylw fel pe baent yn wasanaethau fferyllol a ddarperid felly, a

(b)caiff y Bwrdd Iechyd Lleol roi sylw i unrhyw wasanaethau fferyllol a ddarperir yn y gymdogaeth honno o dan amgylchiadau pan na foʼr person syʼn darparuʼr gwasanaethau fferyllol o dan rwymedigaeth i ddarparuʼr gwasanaethau hynny.

(3Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol gyfarwyddo y caiff contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am lai na 30 o oriau yn ystod unrhyw wythnos, oni bai ei fod wedi ei fodloni bod y trefniadau ar gyfer cyflenwi cyfarpar yn y gymdogaeth yn debygol o fod yn ddigonol i ddiwalluʼr angen am wasanaethau oʼr fath ar yr amseroedd pan nad yw’r contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol.

(4Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol gyfarwyddo bod rhaid i gontractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre am fwy na 30 o oriau yn ystod unrhyw wythnos, oni bai bod Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni y bydd y contractwr cyfarpar GIG yn cael tâl rhesymol mewn cysylltiad âʼr oriau ychwanegol y maeʼn ofynnol iddo ddarparu gwasanaethau fferyllol (ac mae unrhyw dâl ychwanegol syʼn daladwy o dan y Tariff Cyffuriau mewn cysylltiad âʼr oriau hynny yn “dâl rhesymol” at y dibenion hyn).

Penderfyniad a ysgogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch oriau agor

15.—(1Pan foʼn ymddangos iʼr Bwrdd Iechyd Lleol, ar ôl ymgynghori âʼr Pwyllgor Fferyllol Lleol neu ar ôl ystyried y mater ar gais y Pwyllgor hwnnw, nad ywʼr diwrnodau neuʼr amseroedd y mae neu y bydd mangre ar agor ar gyfer cyflenwi cyfarpar yn diwallu anghenion y canlynol mwyach, neu na fyddant yn diwallu anghenion y canlynol—

(a)pobl yn y gymdogaeth, neu

(b)defnyddwyr tebygol eraill mangreʼr contractwr cyfarpar GIG,

ar gyfer cyflenwi cyfarpar, caiff asesu pa un ai i ddyroddi cyfarwyddyd i’w gwneud yn ofynnol iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre ar amseroedd penodol ac ar ddiwrnodau penodol (a all gynnwys Ddydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith, Sul y Pasg a gwyliau banc).

(2Cyn cwblhauʼr asesiad o dan is-baragraff (1), rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)rhoi hysbysiad iʼr contractwr cyfarpar GIG o unrhyw newidiadau arfaethedig yn y diwrnodau neuʼr amseroedd y maeʼr fangre i fod ar agor, a

(b)caniatáu cyfnod o 60 niwrnod iʼr contractwr cyfarpar GIG ar gyfer cyflwyno sylwadau ysgrifenedig iʼr Bwrdd Iechyd Lleol ynglŷn âʼr newidiadau arfaethedig.

(3Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir yn unol ag is-baragraff (2)(b), rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)dyroddi cyfarwyddyd (a fydd yn disodli unrhyw gyfarwyddyd presennol) syʼn bodloni gofynion is-baragraffau (4) a (5), neu

(b)cadarnhau unrhyw gyfarwyddyd presennol mewn cysylltiad âʼr diwrnodau aʼr amseroedd y mae rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, ar yr amod y byddaiʼr cyfarwyddyd presennol, pa un a yw wedi ei ddyroddi o dan yr Atodlen hon neu Atodlen 5 i Reoliadau 2013, yn bodloni gofynion is-baragraffau (4) a (5) pe dyroddid ef o dan y paragraff hwn, neu

(c)naill ai—

(i)dirymu (heb ei amnewid) unrhyw gyfarwyddyd presennol mewn cysylltiad âʼr diwrnodau aʼr amseroedd y mae rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, pa un a yw wedi ei ddyroddi o dan yr Atodlen hon neu Atodlen 5 i Reoliadau 2013, neu

(ii)mewn achos pan na fo cyfarwyddyd presennol, beidio â dyroddi unrhyw gyfarwyddyd ac mewn achos oʼr fath, yn rhinwedd paragraff 13(1)(a), rhaid iʼr fangre fod ar agor am ddim llai na 30 o oriau bob wythnos.

(4Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (3), mewn cysylltiad â mangre y maeʼn ofynnol iddi fod ar agor—

(a)am fwy na 30 o oriau bob wythnos, rhaid iddo, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi—

(i)cyfanswm nifer yr oriau bob wythnos y mae rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, a

(ii)ynglŷn â’r oriau ychwanegol y maeʼr contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol, y diwrnodau a’r amseroedd y maeʼn ofynnol iddo ddarparuʼr gwasanaethau hynny yn ystod yr oriau ychwanegol hynny,

ond ni chaiff, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi’r diwrnodau neu’r amseroedd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ystod oriau nad ydynt yn oriau ychwanegol, neu

(b)am lai na 30 o oriau bob wythnos, rhaid iddo, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi’r diwrnodau a’r amseroedd y mae gwasanaethau fferyllol iʼw darparu yn y fangre honno.

(5Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (3) os ei effaith, yn syml, yw ei gwneud yn ofynnol i fangre fod ar agor am 30 o oriau bob wythnos ar ddiwrnodau penodol ac amseroedd penodol (hynny yw, rhaid iʼr cyfarwyddyd gael yr effaith oʼi gwneud yn ofynnol i fangre fod ar agor am naill ai mwy neu lai na 30 o oriau bob wythnos).

(6Rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol hysbysuʼr contractwr cyfarpar GIG yn ysgrifenedig am unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir, neu unrhyw gam gweithredu arall a gymerir, o dan is-baragraff (3), a phan foʼn pennu diwrnodau newydd neu amseroedd newydd y mae’r contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, rhaid iddo gynnwys gydaʼr hysbysiad ddatganiad oʼr canlynol—

(a)y rhesymau dros y newid, a

(b)hawl y contractwr cyfarpar GIG i apelio o dan is-baragraff (7).

(7Caiff contractwr cyfarpar GIG, o fewn 30 o ddiwrnodau i gael hysbysiad o dan is-baragraff (6), apelio’n ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn erbyn unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddwyd neu unrhyw gam gweithredu arall a gymerwyd o dan is-baragraff (3), syʼn pennu diwrnodau newydd neu amseroedd newydd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol.

(8Caiff Gweinidogion Cymru, wrth benderfynu apêl, naill ai cadarnhauʼr cam gweithredu a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gymryd unrhyw gam gweithredu y gallaiʼr Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei gymryd o dan is-baragraff (3).

(9Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysuʼr contractwr cyfarpar GIG yn ysgrifenedig am benderfyniad o dan is-baragraff (8) a rhaid iddynt, ym mhob achos, gynnwys gydaʼr hysbysiad ddatganiad ysgrifenedig oʼr rhesymau dros y penderfyniad.

(10Os ywʼr diwrnodau neuʼr amseroedd y mae contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre wedi eu newid yn unol âʼr paragraff hwn, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG gyflwynoʼr newidiadau—

(a)os nad yw wedi apelio o dan is-baragraff (7), ddim hwyrach nag 8 wythnos ar ôl y dyddiad y maeʼn cael hysbysiad o dan is-baragraff (6), neu

(b)os yw wedi apelio o dan is-baragraff (7), ddim hwyrach nag 8 wythnos ar ôl y dyddiad y maeʼn cael hysbysiad o dan is-baragraff (9).

Penderfyniad a ysgogir gan y contractwr cyfarpar GIG ynghylch oriau agor

16.—(1Caiff contractwr cyfarpar GIG wneud cais i Fwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig, gan roi 90 o ddiwrnodau o rybudd iddo newid y diwrnodau neuʼr amseroedd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ei fangre, mewn ffordd—

(a)syʼn lleihau cyfanswm nifer yr oriau y maeʼr contractwr cyfarpar GIG o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol bob wythnos, neu

(b)syʼn cadwʼr cyfanswm nifer oriau hwnnw yn ddigyfnewid.

(2Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn gwneud cais o dan is-baragraff (1), rhaid iddo, fel rhan oʼr cais hwnnw, ddarparu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol unrhyw wybodaeth y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gofyn yn rhesymol amdani mewn cysylltiad ag unrhyw newidiadau yn anghenion pobl yn y gymdogaeth, neu ddefnyddwyr tebygol eraill y fangre, am wasanaethau fferyllol syʼn berthnasol iʼr cais.

(3Rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu cais o dan is-baragraff (1) o fewn 60 niwrnod i’w gael (gan gynnwys unrhyw wybodaeth syʼn ofynnol gan y ceisydd yn unol ag is-baragraff (2)).

(4Wrth benderfynuʼr cais, rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)dyroddi cyfarwyddyd (a fydd yn disodli unrhyw gyfarwyddyd presennol) syʼn bodloni gofynion is-baragraffau (5) a (6) ac yn cael yr effaith naill ai o ganiatáuʼr cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu’n rhannol yn unig,

(b)cadarnhau unrhyw gyfarwyddyd presennol mewn cysylltiad âʼr diwrnodau aʼr amseroedd y mae rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, ar yr amod y byddaiʼr cyfarwyddyd presennol, pa un a yw wedi ei ddyroddi o dan yr Atodlen hon neu o dan Atodlen 5 i Reoliadau 2013, yn bodloni gofynion is-baragraffau (5) a (6), neu

(c)naill ai—

(i)dirymu (heb ei amnewid) unrhyw gyfarwyddyd presennol mewn cysylltiad âʼr diwrnodau aʼr amseroedd y mae rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, pa un a yw wedi ei ddyroddi o dan yr Atodlen hon neu o dan Atodlen 5 i Reoliadau 2013, pan fo hyn yn cael yr effaith o ganiatáuʼr cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu’n rhannol yn unig, neu

(ii)mewn achos pan na fo cyfarwyddyd presennol, beidio â dyroddi unrhyw gyfarwyddyd,

ac mewn achos oʼr fath, yn rhinwedd paragraff 13(1)(a), rhaid iʼr fangre fod ar agor am ddim llai na 30 o oriau bob wythnos.

(5Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn dyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (4) mewn cysylltiad â mangre y maeʼn ofynnol iddi fod ar agor—

(a)am fwy na 30 o oriau bob wythnos, rhaid iddo, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi—

(i)cyfanswm nifer yr oriau bob wythnos y mae rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre, a

(ii)ynglŷn â’r oriau ychwanegol y maeʼr contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol, y diwrnodau a’r amseroedd y maeʼn ofynnol iddo ddarparuʼr gwasanaethau hynny yn ystod yr oriau ychwanegol hynny,

ond ni chaiff, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi’r diwrnodau neu’r amseroedd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn ystod oriau nad ydynt yn oriau ychwanegol, neu

(b)am lai na 30 o oriau bob wythnos, rhaid iddo, yn y cyfarwyddyd hwnnw, nodi’r diwrnodau a’r amseroedd y mae gwasanaethau fferyllol iʼw darparu yn y fangre honno.

(6Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddyroddi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (4) os ei effaith, yn syml, yw ei gwneud yn ofynnol i fangre fod ar agor am 30 o oriau bob wythnos ar ddiwrnodau penodol ac amseroedd penodol (hynny yw, rhaid iʼr cyfarwyddyd gael yr effaith oʼi gwneud yn ofynnol i fangre fod ar agor am naill ai mwy neu lai na 30 o oriau bob wythnos).

(7Pan foʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried gweithredu o dan is-baragraff (4)(a) neu (4)(c)(i), rhaid iddo ymgynghori âʼr Pwyllgor Fferyllol Lleol cyn penderfynuʼr cais.

(8Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol hysbysuʼr contractwr cyfarpar GIG am unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir, neu unrhyw gam gweithredu arall a gymerir, o dan is-baragraff (4), a phan fo hyn yn cael yr effaith o wrthod cais o dan y paragraff hwn, neu ei ganiatáu’n rhannol, rhaid iddo anfon at y contractwr cyfarpar GIG ddatganiad syʼn nodi—

(a)y rhesymau dros y gwrthodiad neu, yn ôl y digwydd, dros ganiatáuʼr cais yn rhannol yn unig, a

(b)hawl y contractwr cyfarpar GIG i apelio o dan is-baragraff (9).

(9Caiff contractwr cyfarpar GIG, o fewn 30 o ddiwrnodau i gael hysbysiad yn unol ag is-baragraff (8), apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn unrhyw gam gweithredu o dan is-baragraff (4) syʼn cael yr effaith o wrthod cais o dan y paragraff hwn neu ei ganiatáu’n rhannol yn unig.

(10Caiff Gweinidogion Cymru, wrth benderfynu apêl, naill ai cadarnhauʼr cam gweithredu a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu gymryd unrhyw gam gweithredu y gallaiʼr Bwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei gymryd o dan is-baragraff (4).

(11Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysuʼr contractwr cyfarpar GIG yn ysgrifenedig am eu penderfyniad a rhaid iddynt, ym mhob achos, gynnwys gydaʼr hysbysiad ddatganiad ysgrifenedig oʼr rhesymau dros y penderfyniad.

(12Os ywʼr diwrnodau neuʼr amseroedd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre wedi eu newid yn unol âʼr paragraff hwn, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG gyflwynoʼr newidiadau—

(a)os nad yw wedi apelio o dan is-baragraff (9), ddim cynharach na 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y maeʼn cael hysbysiad o dan is-baragraff (4), neu

(b)os yw wedi apelio o dan is-baragraff (9), ddim cynharach na 30 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y maeʼn cael hysbysiad o dan is-baragraff (11).

Llywodraethu clinigol

17.—(1Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, mewn cysylltiad âʼr holl wasanaethau y mae’n eu darparu, gymryd rhan mewn system dderbyniol o lywodraethu clinigol, yn y modd sy’n rhesymol ofynnol gan y Bwrdd Iechyd Lleol y mae wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol.

(2Mae system o lywodraethu clinigol yn “dderbyniol” os ywʼn darparu ar gyfer—

(a)cydymffurfio âʼr cydrannau llywodraethu clinigol a nodir yn is-baragraff (3), a

(b)cyflwyno hunanasesiad blynyddol oʼr cydymffurfedd (hyd at lefel gymeradwy) âʼr cydrannau llywodraethu clinigol hynny, drwy gyfrwng trefniadau cyflwyno data cymeradwy syʼn caniatáu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol gael mynediad iʼr asesiad hwnnw.

(3Y cydrannau llywodraethu clinigol yw’r canlynol—

(a)rhaglen ar gyfer cynnwys y cleifion aʼr cyhoedd, syʼn cynnwys—

(i)gofyniad y dylai’r contractwr cyfarpar GIG lunio, mewn modd cymeradwy, daflen ymarfer mewn cysylltiad â phob un oʼr mangreoedd y maeʼn darparu gwasanaethau fferyllol ohonynt, a rhoi’r daflen ar gael mewn modd priodol,

(ii)gofyniad bod y contractwr cyfarpar GIG yn rhoi cyhoeddusrwydd iʼr gwasanaethau GIG sydd ar gael yn y fangre y maeʼr contractwr cyfarpar GIG yn darparu’r gwasanaethau hynny ynddi, neu sydd ar gael oʼr fangre honno,

(iii)gofyniad bod y contractwr cyfarpar GIG, pan fo’n rhoi cyhoeddusrwydd iʼr gwasanaethau GIG sydd ar gael yn y fangre y maeʼr contractwr cyfarpar GIG yn darparu’r gwasanaethau hynny ynddi neu sydd ar gael oʼr fangre honno (pa un a ywʼn llunio ei ddeunydd cyhoeddusrwydd ei hunan, ynteuʼn hysbysebuʼr gwasanaethau mewn deunydd a gyhoeddir gan berson arall), yn gwneud hynny mewn modd syʼn ei gwneud yn glir mai fel rhan oʼr gwasanaeth iechyd y cyllidir y gwasanaethau hynny,

(iv)gofyniad y dylai’r contractwr cyfarpar GIG ymgymryd ag arolwg cymeradwy o foddhad y cleifion yn flynyddol, mewn modd cymeradwy, gan gynnwys gofyniad i roi cyhoeddusrwydd i ganlyniadauʼr arolwg ac i unrhyw gamau gweithredu priodol y maeʼr contractwr cyfarpar GIG yn bwriadu eu cymryd,

(v)trefniadau ar gyfer monitro cyfarpar syʼn ddyledus i gleifion ond nad ydynt mewn stoc,

(vi)system gwyno gymeradwy (syʼn bodloni gofynion y Rhan hon),

(vii)gofyniad bod y contractwr cyfarpar GIG yn cydweithreduʼn briodol ag ymweliadauʼr Cyngor Iechyd Cymuned Lleol ac yn cymryd camau gweithredu priodol o ganlyniad i’r ymweliadau hynny,

(viii)gofyniad bod y contractwr cyfarpar GIG yn cydweithreduʼn briodol ag unrhyw arolygiad neu adolygiad rhesymol y maeʼr Bwrdd Iechyd Lleol neu unrhyw awdurdod statudol perthnasol yn dymuno ymgymryd ag ef, a

(ix)trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfedd â Deddf Cydraddoldeb 2010(13),

(b)rhaglen archwilio clinigol (5 niwrnod, fel arfer), syʼn cynnwys o leiaf un archwiliad mewn mangre ac un archwiliad amlddisgyblaethol a gytunir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ym mhob blwyddyn ariannol,

(c)rhaglen rheoli risg, syʼn cynnwys—

(i)trefniadau ar gyfer sicrhau bod yr holl stoc yn cael ei drin mewn ffordd briodol,

(ii)trefniadau ar gyfer sicrhau bod yr holl gyfarpar a ddefnyddir wrth ddarparu gwasanaethau fferyllol yn cael ei gynnal yn briodol,

(iii)system gymeradwy o adrodd am ddigwyddiadau, ynghyd â threfniadau ar gyfer dadansoddi digwyddiadau critigol ac ymateb iddynt, syʼn cynnwys y canlynol—

(aa)cofnod o ddigwyddiadau diogelwch cleifion, a

(bb)cofnod o ddigwyddiadau a fu bron a digwydd,

(iv)trefniadau, gan gynnwys trefniadau cadw cofnodion, ar gyfer ymdrin yn briodol ac yn amserol â chyfathrebiadau ynglŷn â diogelwch cleifion oddi wrth Weinidogion Cymru, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd a Bwrdd Comisiynuʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol,

(v)gweithdrefnau gweithredu safonol priodol, gan gynnwys gweithdrefnau gweithredu safonol mewn cysylltiad â phresgripsiynau amlroddadwy a darparu cyngor a chymorth i bobl syʼn gofalu amdanynt eu hunain neu eu teuluoedd,

(vi)trefniadau gwaredu gwastraff priodol ar gyfer gwastraff clinigol a chyfrinachol,

(vii)arweinydd llywodraethu clinigol ar gyfer pob un oʼr mangreoedd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau GIG ohonynt, syʼn wybodus ynglŷn â gweithdrefnauʼr contractwr cyfarpar GIG aʼr gwasanaethau GIG eraill sydd ar gael yn yr ardal leol,

(viii)gweithdrefnau priodol ar gyfer amddiffyn plant, a

(ix)trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfedd â Deddf Iechyd a Diogelwch etc. 1974(14),

(d)rhaglen effeithiolrwydd clinigol, syʼn cynnwys trefniadau ar gyfer sicrhau y rhoddir cyngor priodol gan y contractwr cyfarpar GIG—

(i)mewn cysylltiad â darparu cyfarpar yn unol â ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu

(ii)i bobl syʼn gofalu amdanynt eu hunain neu eu teuluoedd,

a threfniadau ar gyfer sicrhau bod y contractwr cyfarpar GIG, wrth roi cyngor i unrhyw glaf ar fater a grybwyllir ym mharagraff (d)(i), yn rhoi sylw iʼr manylion a gynhwysir yn y cofnodion a gynhelir o dan baragraff 10(1)(f) mewn cysylltiad â darparu cyfarpar aʼr patrwm rhagnodi syʼn ymwneud âʼr claf o dan sylw,

(e)rhaglen staffio a rheoli staff, syʼn cynnwys—

(i)trefniadau ar gyfer darparu hyfforddiant ymsefydlu priodol i staff, gan gynnwys unrhyw locwm,

(ii)hyfforddiant priodol iʼr holl staff mewn cysylltiad ag unrhyw rôl y gofynnir iddynt ei chyflawni,

(iii)trefniadau ar gyfer gwirio cymwysterau a geirdaon yr holl staff syʼn ymwneud â darparu gwasanaethau GIG,

(iv)trefniadau ar gyfer canfod a chefnogi anghenion datblygu’r holl staff syʼn ymwneud â darparu gwasanaethau GIG, gan gynnwys datblygiad proffesiynol parhaus i fferyllwyr cofrestredig ac unrhyw achredu sy’n angenrheidiol mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau cyfeiriedig,

(v)trefniadau ar gyfer ymdrin â pherfformiad gwael (ar y cyd âʼr Bwrdd Iechyd Lleol fel y boʼn briodol), a

(vi)trefniadau (y mae rhaid iddynt gynnwys polisi ysgrifenedig) ar gyfer sicrhau bod yr holl staff, gan gynnwys unrhyw locwm, sydd, o ganlyniad iʼw cyflogaeth gydaʼr contractwr cyfarpar GIG—

(aa)yn gwneud yr hyn syʼn ddatgeliad gwarchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected disclosure” yn adran 43A o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(15) (ystyr “protected disclosure”), yn cael yr hawliau a roddir mewn cysylltiad â datgeliadau oʼr fath gan y Ddeddf honno, a

(bb)yn darparu gwybodaeth yn ddidwyll ac nid er eu budd personol iʼr Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu i Fwrdd Iechyd Lleol syʼn cynnwys honiad difrifol ei natur, y credant yn rhesymol ei fod yn wir o ran ei sylwedd ond nad yw datgeliad ohono yn ddatgeliad gwarchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected disclosure” yn adran 43A o’r Ddeddf honno, yn cael yr hawl i beidio â dioddef unrhyw anfantais neu ddioddef eu diswyddo o ganlyniad iʼr weithred honno,

(f)rhaglen llywodraethu gwybodaeth, syʼn darparu ar gyfer—

(i)cydymffurfio â gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer rheoli a diogelu gwybodaeth, a

(ii)cyflwyno hunanasesiad blynyddol oʼr cydymffurfedd (hyd at lefel gymeradwy) âʼr gweithdrefnau hynny, drwy gyfrwng trefniadau cyflwyno data cymeradwy syʼn caniatáu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol gael mynediad iʼr asesiad hwnnw, ac

(g)rhaglen safonau mangre syʼn cynnwys—

(i)system ar gyfer cynnal glanweithdra yn y fangre y maeʼr contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau GIG ohoni, sydd wedi ei chynllunio er mwyn sicrhau, mewn modd cymesur, fod y risg i bobl yn y fangre o gael haint a ddelir wrth gael gofal iechyd yn cael ei lleihau, a

(ii)trefniadau ar gyfer gwahanuʼn glir rhwng y mannau yn y fangre syʼn amgylchedd gofal iechyd priodol (lle y mae cleifion yn cael gwasanaethau GIG) aʼr mannau hynny nad ydynt yn amgylchedd gofal iechyd.

Safonau proffesiynol

18.  Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG ddarparu gwasanaethau fferyllol, ac arfer unrhyw farn broffesiynol mewn cysylltiad â darparuʼr gwasanaethau hynny, gan gydymffurfio âʼr safonau a dderbynnir yn gyffredinol yn y proffesiwn fferyllol.

Cymhellion

19.—(1Ni chaiff contractwr cyfarpar GIG nac unrhyw berson sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen gan gontractwr cyfarpar GIG, roi, addo na chynnig, i unrhyw berson, unrhyw rodd neu wobr (boed ar ffurf cyfran o elwʼr busnes, neu ddifidend ar yr elw hwnnw, neu ar ffurf disgownt neu ad-daliad, neu fel arall) fel cymhelliad iʼr person sy’n cyflwyno archeb am gyfarpar ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu’n gydnabyddiaeth am hynny.

(2Nid yw addo, cynnig neu ddarparu gwasanaeth danfon i gartrefi yn “rhodd neu wobr” at ddibenion is-baragraff (1).

(3Ni chaiff contractwr cyfarpar GIG, nac unrhyw berson sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen gan gontractwr cyfarpar GIG, dderbyn na chael unrhyw rodd neu wobr mewn cysylltiad, yn unig, âʼr canlynol—

(a)darparu manylion cyswllt fferyllwyr GIG neu gontractwyr cyfarpar GIG eraill yn unol â pharagraff 10(2)(b), 11(4) neu 12(1)(b), neu

(b)atgyfeirio ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy at gontractwr cyfarpar GIG neu fferyllydd GIG arall yn unol â pharagraff 10(2)(a) neu 12(1)(a) heb ddarparu unrhyw wasanaeth ychwanegol mewn cysylltiad âʼr eitem ar y presgripsiwn hwnnw.

Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth am faterion addasrwydd i ymarfer wrth iddynt godi

20.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 21, rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, a phan foʼr contractwr cyfarpar GIG yn gorff corfforedig, bob un o gyfarwyddwyr y corff corfforedig, roi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig o fewn 7 niwrnod i’r digwyddiad, os ywʼr contractwr cyfarpar GIG neu gyfarwyddwr—

(a)yn cael ei euogfarnu o unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig,

(b)yn cael ei rwymo yn dilyn euogfarn droseddol yn y Deyrnas Unedig,

(c)yn derbyn rhybuddiad gan yr heddlu yn y Deyrnas Unedig,

(d)mewn achos diannod yn yr Alban mewn cysylltiad â throsedd, wedi bod yn destun gorchymyn iʼw ryddhauʼn ddiamod (heb fynd ymlaen iʼw euogfarnu),

(e)wedi derbyn a chytuno i dalu naill ai dirwy procuradur ffisgal o dan adran 302 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(16) (cosb benodedig: cynnig amodol gan brocuradur ffisgal) neu gosb o dan adran 115A o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992(17)) (cosb fel dewis arall yn lle erlyn),

(f)yn cael ei euogfarnu yn rhywle arall o drosedd, neuʼr hyn a fyddaiʼn drosedd pe bai’n cael ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr,

(g)yn cael ei gyhuddo o drosedd yn y Deyrnas Unedig, neuʼn cael ei gyhuddo yn rhywle arall o drosedd a fyddaiʼn drosedd, pe bai’n cael ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr,

(h)yn cael ei hysbysu gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall am ganlyniad unrhyw ymchwiliad iʼw ymddygiad proffesiynol, a bod canfyddiad yn ei erbyn,

(i)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ymddygiad proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall,

(j)yn mynd yn destun ymchwiliad iʼw ymddygiad proffesiynol mewn cysylltiad ag unrhyw gyflogaeth gyfredol neu flaenorol, neuʼn cael ei hysbysu am ganlyniad unrhyw ymchwiliad oʼr fath ac unrhyw ganfyddiad yn ei erbyn,

(k)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG mewn perthynas â thwyll,

(l)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a allai arwain at ddileu o restr berthnasol, neu

(m)ar sail addasrwydd i ymarfer, yn cael ei ddileu, ei ddileu yn ddigwyddiadol, neu ei atal dros dro o restr berthnasol, neu os gwrthodir mynediad iddo i restr oʼr fath, neu os caiff ei gynnwys yn amodol mewn rhestr oʼr fath,

ac os felly, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG roi manylion unrhyw ymchwiliad neu achos a gynhaliwyd neu sydd iʼw gynnal, gan gynnwys natur yr ymchwiliad neuʼr achos, ym mha le ac oddeutu pa bryd y cynhaliwyd yr ymchwiliad hwnnw neuʼr achos hwnnw neu y mae’r ymchwiliad hwnnw neu’r achos hwnnw i’w gynnal, ac unrhyw ganlyniad.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff 21, os yw person y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo yn gyfarwyddwr i gorff corfforedig, neu os oedd yn gyfarwyddwr i gorff corfforedig ar adeg y digwyddiadau cychwynnol, rhaid iʼr person, yn ychwanegol, roi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 7 niwrnod os yw unrhyw gorff corfforedig oʼr fath—

(a)yn cael ei euogfarnu o unrhyw drosedd yn y Deyrnas Unedig,

(b)yn cael ei euogfarnu yn rhywle arall o drosedd, neuʼr hyn a fyddaiʼn drosedd pe bai’n cael ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr,

(c)yn cael ei gyhuddo o drosedd yn y Deyrnas Unedig, neuʼn cael ei gyhuddo yn rhywle arall o drosedd a fyddaiʼn drosedd, pe bai’n cael ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr,

(d)yn cael ei hysbysu gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall am ganlyniad unrhyw ymchwiliad iʼw ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol, a bod canfyddiad yn erbyn y corff corfforedig,

(e)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad iʼw ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall,

(f)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad mewn perthynas ag unrhyw dwyll neu’n cael ei hysbysu am ganlyniad unrhyw ymchwiliad oʼr fath, aʼr canlyniad hwnnw yn anffafriol,

(g)yn mynd yn destun unrhyw ymchwiliad gan Fwrdd Iechyd Lleol arall neu gorff cyfatebol, a allai arwain at ei ddileu o restr berthnasol, neu

(h)ar sail addasrwydd i ymarfer, yn cael ei ddileu, ei ddileu yn ddigwyddiadol, neu ei atal dros dro o restr berthnasol, neu os gwrthodir mynediad iddo i restr oʼr fath, neu os caiff ei gynnwys yn amodol mewn rhestr oʼr fath,

ac os felly, rhaid iʼr person hwnnw roi enw a swyddfa gofrestredig y corff corfforedig a manylion unrhyw ymchwiliad neu achos a gynhaliwyd neu sydd iʼw gynnal, gan gynnwys natur yr ymchwiliad neuʼr achos, ym mha le ac oddeutu pa bryd y cynhaliwyd yr ymchwiliad hwnnw neuʼr achos hwnnw neu y mae’r ymchwiliad hwnnw neu’r achos hwnnw i’w gynnal, ac unrhyw ganlyniad.

(3Rhaid i berson y mae is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys iddo gydsynio iʼr Bwrdd Iechyd Lleol ofyn i unrhyw gyflogwr neu gyn-gyflogwr neu unrhyw gorff trwyddedu neu reoleiddio, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, am wybodaeth ynghylch ymchwiliad cyfredol neu ymchwiliad â chanlyniad anffafriol.

Bwrdd Iechyd Lleol cartref cyrff corfforedig

21.  Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn gorff corfforedig â swyddfa gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, caniateir i’r wybodaeth sydd iʼw darparu o dan baragraffau 20 a 24(3) i (6) gael ei darparu yn hytrach i Fwrdd Iechyd Lleol cartref (fel yʼi diffinnir yn rheoliad 60). Pan ywʼr contractwr cyfarpar GIG yn darparuʼr wybodaeth iʼw Fwrdd Iechyd Lleol cartref, rhaid iddo hefyd ddarparu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol cartref fanylion yr holl Fyrddau Iechyd Lleol eraill y maeʼr contractwr cyfarpar GIG wedi ei gynnwys yn eu rhestrau fferyllol.

Cwynion

22.  Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG gael yn eu lle drefniadau syʼn cydymffurfio â gofynion Rheoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011, ar gyfer trin ac ystyried unrhyw bryderon neu gwynion ynghylch mater syʼn gysylltiedig â darparu gwasanaethau fferyllol gan y contractwr cyfarpar GIG.

Gwasanaethau cyfeiriedig

23.  Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, y mae Bwrdd Iechyd Lleol yn gwneud trefniant ag ef ar gyfer darparu unrhyw wasanaethau cyfeiriedig, gydymffurfio â thelerau ac amodauʼr trefniant.

Gwybodaeth sydd iʼw chyflenwi

24.—(1Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG roi hysbysiad ysgrifenedig o’r canlynol iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr contractwr cyfarpar GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol, o fewn 28 o ddiwrnodau (neu os nad yw hyn yn ymarferol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl hynny)—

(a)unrhyw ddigwyddiad syʼn ei gwneud yn ofynnol newid yr wybodaeth a gofnodwyd am y contractwr cyfarpar GIG yn y rhestr fferyllol, nad ywʼr contractwr cyfarpar GIG wedi hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol amdano fel arall yn unol âʼr Rheoliadau hyn,

(b)yn achos contractwr cyfarpar GIG syʼn unigolyn, unrhyw newid yn ei gyfeiriad preifat, ac

(c)yn achos contractwr cyfarpar GIG syʼn gorff corfforedig, unrhyw newid yng nghyfeiriad ei swyddfa gofrestredig.

(2Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, os gofynnir iddo gan y Bwrdd Iechyd Lleol, roi iʼr Bwrdd Iechyd Lleol enw unrhyw fferyllydd cofrestredig a gyflogir gan y contractwr cyfarpar GIG ac syʼn gyfrifol am weinyddu presgripsiwn penodol.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), rhaid i gontractwr cyfarpar GIG syʼn gorff corfforedig roi hysbysiad ysgrifenedig iʼr Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 28 o ddiwrnodau (neu os nad yw hyn yn ymarferol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl hynny) o unrhyw newidiadau yn enwau a chyfeiriadau ei gyfarwyddwyr.

(4Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), os yw contractwr cyfarpar GIG syʼn gorff corfforedig yn penodi cyfarwyddwr neu uwcharolygydd nas rhestrwyd yng nghais y contractwr cyfarpar GIG i’w gynnwys mewn rhestr fferyllol, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG roi hysbysiad ysgrifenedig iʼr Bwrdd Iechyd Lleol o fewn 28 o ddiwrnodau (neu os nad yw hyn yn ymarferol, cyn gynted ag y boʼn ymarferol ar ôl hynny) oʼr wybodaeth am addasrwydd y person hwnnw i ymarfer.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, neu gyfarwyddwr neu uwcharolygydd contractwr cyfarpar GIG syʼn gorff corfforedig, roi gwybod i’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)os yw ef, neu gorff corfforedig y maeʼn gyfarwyddwr neuʼn uwcharolygydd iddo, yn gwneud cais i gael ei gynnwys yn unrhyw un neu ragor o restrau cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG Bwrdd Iechyd Lleol arall, ac am ganlyniad unrhyw gais oʼr fath, a

(b)os daw’n gyfarwyddwr neuʼn uwcharolygydd i gorff corfforedig sydd ar unrhyw un neu ragor o restrau cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG Bwrdd Iechyd Lleol arall, neu syʼn gwneud cais i gael ei gynnwys mewn rhestr oʼr fath, ac am ganlyniad unrhyw gais oʼr fath.

(6Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn gorff corfforedig â swyddfa gofrestredig yng Nghymru, dim ond iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r swyddfa gofrestredig honno yn ei ardal y caniateir i’r wybodaeth sydd i’w darparu o dan is-baragraffau (3) i (5) gael ei darparu, os ywʼr contractwr cyfarpar GIG hefyd yn darparu iʼr Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw fanylion yr holl Fyrddau Iechyd Lleol eraill y mae wedi ei gynnwys yn eu rhestrau fferyllol, ac o dan yr amgylchiadau hyn, rhaid iʼr Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw drosglwyddoʼr wybodaeth i unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol arall—

(a)y maeʼr contractwr cyfarpar GIG wedi ei gynnwys yn ei restr fferyllol, neu

(b)y mae’r contractwr cyfarpar GIG yn gwneud cais iddo i gael ei gynnwys yn ei restr fferyllol, ac sy’n gofyn amdani.

(7Yn y paragraff hwn, ystyr “rhestr cyflawnwyr neu ddarparwyr GIG” yw—

(a)rhestr fferyllol, neu

(b)rhestr a gynhelir o gyflawnwyr neu ddarparwyr cymeradwy gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau deintyddol neu wasanaethau offthalmig.

Tynnu’n ôl o restrau fferyllol

25.  Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn bwriadu tynnu’n ôl oʼr rhestr fferyllol mewn cysylltiad â mangre benodol, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol am hyn, o leiaf 3 mis cyn y dyddiad hwnnw, oni bai ei bod yn anymarferol iʼr contractwr cyfarpar GIG wneud hynny, ac os felly, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol cyn gynted ag y boʼn ymarferol gwneud hynny.

Codi ffioedd am gyfarpar

26.  Yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan adran 121 o Ddeddf 2006, rhaid darparuʼr holl gyfarpar a ddarperir o dan y telerau gwasanaeth hyn yn ddi-dâl.

Arolygiadau a mynediad at wybodaeth

27.—(1Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG ganiatáu i bersonau sydd wedi eu hawdurdodi’n ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd Lleol fynd i unrhyw fangre y mae’r contractwr cyfarpar GIG yn ei defnyddio i ddarparu gwasanaethau fferyllol aʼi harolygu, ar unrhyw adeg resymol, at y dibenion a ganlyn—

(a)canfod pa un a ywʼr contractwr cyfarpar GIG yn cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon ai peidio;

(b)archwilio, monitro a dadansoddi—

(i)y ddarpariaeth a wneir gan y contractwr cyfarpar GIG, wrth ddarparu gwasanaethau fferyllol, ar gyfer gofal a thriniaeth i gleifion gan gynnwys unrhyw drefniant a wneir â pherson mewn cysylltiad â darparu cyfarpar, a

(ii)y modd y maeʼr contractwr cyfarpar GIG yn rheoliʼr gwasanaethau fferyllol y mae’n eu darparu, pan foʼr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni.

(2Yr amodau yw—

(a)bod rhybudd rhesymol wedi ei roi oʼr bwriad i fynd i’r fangre,

(b)bod y Pwyllgor Fferyllol Lleol ar gyfer yr ardal y mae’r fangre ynddi wedi ei wahodd i fod yn bresennol yn yr arolygiad, pan foʼr contractwr cyfarpar GIG yn gofyn am hynny,

(c)bod gan y person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig dystiolaeth ysgrifenedig oʼi awdurdodiad yn ei feddiant, a’i fod yn cyflwyno’r dystiolaeth honno ar gais, a

(d)nad yw’r person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig yn mynd i unrhyw ran oʼr fangre a ddefnyddir fel llety preswyl yn unig heb gydsyniad y preswylydd.

(3Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG, ar gais y Bwrdd Iechyd Lleol neu berson sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig a grybwyllir yn is-baragraff (1), ganiatáu mynediad at unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol yn rhesymol gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu’r person hwnnw—

(a)at y dibenion a grybwyllir yn is-baragraff (1), neu

(b)yn achos y Bwrdd Iechyd Lleol, mewn cysylltiad âʼi swyddogaethau syʼn ymwneud â gwasanaethau fferyllol.

Y Gymraeg

28.—(1Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn darparu gwasanaethau fferyllol drwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid iʼr contractwr cyfarpar GIG hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr contractwr cyfarpar GIG wedi ei gynnwys ar ei restr fferyllol, yn ysgrifenedig.

(2Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG roi ar gael fersiwn Gymraeg o unrhyw ddogfen neu ffurflen iʼw defnyddio gan gleifion a/neu aelodau oʼr cyhoedd, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(3Pan fo contractwr cyfarpar GIG yn arddangos arwydd neu hysbysiad newydd mewn cysylltiad â gwasanaethau fferyllol, rhaid iʼr testun ar yr arwydd neuʼr hysbysiad fod yn Gymraeg ac yn Saesneg, a chaiff contractwr cyfarpar GIG ddefnyddioʼr gwasanaeth cyfieithu a gynigir gan y Bwrdd Iechyd Lleol at y diben hwn.

(4Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG annog y rheini syʼn darparu gwasanaethau fferyllol ac syʼn siarad Cymraeg i wisgo bathodyn, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, er mwyn cyfleu eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

(5Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG annog y rheini syʼn darparu gwasanaethau fferyllol i ddefnyddio gwybodaeth a/neu fynd i gyrsiau hyfforddi a digwyddiadau a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, fel y gallant ddatblygu—

(a)ymwybyddiaeth oʼr Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth oʼi hanes aʼi rôl yn niwylliant Cymru), a

(b)dealltwriaeth o sut y gellir defnyddioʼr Gymraeg mewn cysylltiad âʼr gwasanaethau fferyllol a ddarperir.

(6Rhaid i gontractwr cyfarpar GIG annog y rheini syʼn darparu gwasanaethau fferyllol i ganfod a chofnodiʼr dewis iaith Cymraeg neu Saesneg a fynegir gan glaf neu ar ran claf.

Rheoliad 12

ATODLEN 7Telerau gwasanaeth ar gyfer meddygon syʼn darparu gwasanaethau fferyllol

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon, mae cyffuriau neu gyfarpar iʼw hystyried fel pe bai person wedi gofyn amdanynt, neu fel pe baent wedi eu darparu, yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy, hyd yn oed os nad ywʼr person syʼn dymuno cael gwasanaethau fferyllol yn cyflwynoʼr presgripsiwn hwnnw, cyhyd ag—

(a)bod y presgripsiwn hwnnw gan y meddyg yn ei feddiant, a

(b)bod y person hwnnw yn cyflwyno swp-ddyroddiad cysylltiedig, neu fod gan y meddyg swp-ddyroddiad cysylltiedig yn ei feddiant.

Corffori darpariaethau

2.  Mae unrhyw ddarpariaethau oʼr canlynol syʼn effeithio ar hawliau a rhwymedigaethau meddygon syʼn darparu gwasanaethau fferyllol yn ffurfio rhan oʼr telerau gwasanaeth—

(a)y Rheoliadau,

(b)y Tariff Cyffuriau iʼr graddau y maeʼn rhestru cyffuriau a chyfarpar at ddibenion adran 80 o Ddeddf 2006 (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol),

(c)cymaint o Ran 2 o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992 ag syʼn ymwneud â’r canlynol—

(i)ymchwiliadau a wneir gan y pwyllgor disgyblu fferyllol aʼr cyd-bwyllgor disgyblu a chamau gweithredu y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol eu cymryd o ganlyniad i ymchwiliadau oʼr fath, a

(ii)apelau i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniadauʼr Bwrdd Iechyd Lleol, a

(d)cymaint o reoliad 29 o Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010(18) (mynd i mewn i fangreoedd aʼu harchwilio) ag syʼn ymwneud â mynd i mewn i fangreoedd y mae’r meddyg fferyllol naill ai’n berchen arnynt neu’n darparu gwasanaethau fferyllol ynddynt, ac archwilio’r mangreoedd hynny.

Personau sydd wedi eu hawdurdodi’n briodol i weinyddu ar ran meddygon fferyllol

3.  Pan foʼr Atodlen hon yn gosod gofyniad ar feddyg fferyllol mewn cysylltiad â gweithgaredd y mae wedi awdurdodi person arall yn briodol i ymgymryd ag ef, os ywʼr person arall hwnnw yn ymgymryd âʼr gweithgaredd hwnnw yn lleʼr meddyg fferyllol—

(a)rhaid iʼr person arall hwnnw gydymffurfio âʼr gofyniad hwnnw, a

(b)rhaid iʼr meddyg fferyllol hwnnw sicrhau cydymffurfedd âʼr gofyniad hwnnw gan y person arall hwnnw,

ac mae cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at feddyg fferyllol iʼw dehongli yn unol â hynny.

Gweinyddu cyffuriau a chyfarpar a archebwyd gan ragnodydd arall

4.—(1Yn ddarostyngedig iʼr darpariaethau a ganlyn o’r Atodlen hon, pan fo unrhyw berson yn cyflwyno i feddyg fferyllol ffurflen bresgripsiwn syʼn cynnwys—

(a)archeb am gyffuriau nad ydynt yn gyffuriau Atodlen, neu am gyfarpar nad yw’n gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi gan ragnodydd ac eithrioʼr meddyg fferyllol,

(b)archeb am gyffur a bennir yn Atodlen 2 iʼr Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau (cyffuriau neu feddyginiaethau sydd iʼw harchebu o dan amgylchiadau penodol yn unig), wedi ei llofnodi gan ragnodydd ac eithrioʼr meddyg fferyllol ac yn cynnwys y cyfeirnod “SLS”, neu

(c)archeb am gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi gan ragnodydd ac eithrioʼr meddyg fferyllol ac yn cynnwys y cyfeirnod “SLS”,

a phan foʼr meddyg fferyllol wedi ei awdurdodi neu o dan ofyniad yn rhinwedd rheoliad 26 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon) oʼr Rheoliadau hyn i ddarparuʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar a archebir felly, rhaid iʼr meddyg fferyllol, yn rhesymol brydlon, ddarparuʼr cyffuriau a archebir felly aʼr cyfarpar hwnnw a archebir felly y mae’n ei gyflenwi yng nghwrs arferol ei bractis neu ei fusnes.

(2Yn ddarostyngedig iʼr darpariaethau a ganlyn o’r Atodlen hon—

(a)pan fo unrhyw berson yn cyflwyno i feddyg fferyllol bresgripsiwn amlroddadwy anelectronig syʼn cynnwys—

(i)archeb am gyffuriau nad ydynt yn gyffuriau Atodlen, nac yn gyffuriau rheoledig o fewn ystyr “controlled drugs” yn Neddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, ac eithrio cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 4 neu 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001 (syʼn ymwneud â chyffuriau rheoledig a eithriwyd o waharddiadau penodol o dan y Rheoliadau hynny), wedi ei llofnodi gan ragnodydd, ac eithrioʼr meddyg fferyllol, syʼn rhagnodydd amlroddadwy,

(ii)archeb am gyffur a bennir yn Atodlen 2 iʼr Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau, nad ywʼn gyffur rheoledig o fewn ystyr “controlled drug” yn Neddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, ac eithrio cyffur a bennir am y tro yn Atodlen 4 neu 5 i Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001, wedi ei llofnodi gan ragnodydd, ac eithrioʼr meddyg fferyllol, syʼn rhagnodydd amlroddadwy, ac yn cynnwys y cyfeirnod “SLS”,

(iii)archeb am gyfarpar nad yw’n gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi gan ragnodydd, ac eithrioʼr meddyg fferyllol, syʼn rhagnodydd amlroddadwy, neu

(iv)archeb am gyfarpar argaeledd cyfyngedig, wedi ei llofnodi gan ragnodydd, ac eithrioʼr meddyg fferyllol, syʼn rhagnodydd amlroddadwy, ac yn cynnwys y cyfeirnod “SLS”,

a hefyd yn cyflwyno swp-ddyroddiad, neu

(b)pan fo’r meddyg fferyllol yn cael presgripsiwn amlroddadwy electronig syʼn cynnwys archeb o fath a bennir ym mharagraff (a)(i) i (iv), ac—

(i)pan fo unrhyw berson yn gofyn i gyffuriau neu gyfarpar gael eu darparu neu ei ddarparu yn unol âʼr presgripsiwn amlroddadwy hwnnw, neu

(ii)pan fo’r meddyg fferyllol wedi trefnu gydaʼr claf yn flaenorol y byddaiʼn gweinydduʼr presgripsiwn amlroddadwy hwnnw pan ddeuai i law,

aʼr meddyg fferyllol wedi ei awdurdodi neu o dan ofyniad gan reoliad 26 i ddarparuʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar a archebir felly, rhaid iʼr meddyg fferyllol, yn rhesymol brydlon, ddarparuʼr cyffuriau a archebir felly aʼr cyfarpar hwnnw a archebir felly y mae’n ei gyflenwi yng nghwrs arferol ei bractis neu ei fusnes.

(3At ddibenion y paragraff hwn, ystyrir bod presgripsiwn amlroddadwy anelectronig am gyffuriau neu gyfarpar wedi ei gyflwyno, hyd yn oed os nad ywʼr person syʼn dymuno cael y cyffuriau neuʼr cyfarpar yn cyflwynoʼr presgripsiwn hwnnw—

(a)pan foʼr presgripsiwn hwnnw gan y meddyg fferyllol yn ei feddiant, a

(b)pan fo’r person hwnnw yn cyflwyno swp-ddyroddiad cysylltiedig, neu pan fo gan y meddyg fferyllol swp-ddyroddiad cysylltiedig yn ei feddiant.

(4Rhaid iʼr cyffuriau aʼr cyfarpar rhestredig a ddarperir o dan y paragraff hwn gael eu darparu mewn cynhwysydd addas.

Gweinyddu cyffuriau a chyfarpar a archebwyd gan y meddyg fferyllol

5.  O dan amgylchiadau pan na fo paragraff 4 yn gymwys, ac yn ddarostyngedig iʼr darpariaethau a ganlyn o’r Atodlen hon, pan fo meddyg fferyllol wedi ei awdurdodi neu o dan ofyniad yn rhinwedd Rhan 6 oʼr Rheoliadau hyn i ddarparu cyffuriau neu gyfarpar i berson, o ran y meddyg fferyllol—

(a)rhaid iddo gofnodi archeb am ddarparu unrhyw gyffuriau neu gyfarpar y mae eu hangen ar gyfer trin y claf ar ffurflen bresgripsiwn a gwblheir yn unol â chontract GMC syʼn rhoi effaith i baragraff 39 o Atodlen 6 iʼr Rheoliadau GMC (telerau contractiol eraill: rhagnodi),

(b)rhaid iddo ddarparuʼr cyffuriau hynny neuʼr cyfarpar hwnnw mewn cynhwysydd addas,

(c)ni chaiff ddarparu ar gyfer y claf gyffur a bennir yn Atodlen 2 iʼr Rheoliadau Rhagnodi Cyffuriau ond pan foʼr amodau ym mharagraff 42(2) o Atodlen 6 iʼr Rheoliadau GMC (cyfyngiadau ar ragnodi gan ymarferwyr meddygol) wedi eu bodloni, a

(d)ni chaiff ddarparu ar gyfer y claf gyfarpar argaeledd cyfyngedig ond os ywʼr claf yn berson, neu os yw at ddiben, a bennir yn y Tariff Cyffuriau.

Materion rhagarweiniol cyn darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwyd

6.  Cyn darparu cyffuriau neu gyfarpar rhestredig a gofnodwyd ar ffurflen bresgripsiwn yn unol â pharagraff 4, neu o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 7—

(a)rhaid iʼr meddyg fferyllol ofyn i unrhyw berson syʼn gwneud datganiad nad oes rhaid iʼr claf daluʼr ffioedd a bennir yn rheoliad 4(1) oʼr Rheoliadau Ffioedd (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan feddygon), yn rhinwedd naill ai—

(i)hawlogaeth i gael esemptiad o dan reoliad 8(1) oʼr Rheoliadau Ffioedd (esemptiadau), neu

(ii)hawlogaeth i beidio â thalu ffioedd o dan reoliad 5 oʼr Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl (hawlogaeth i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn),

gyflwyno tystiolaeth foddhaol oʼr hawlogaeth honno, oni bai bod y datganiad mewn cysylltiad â hawlogaeth i gael esemptiad yn rhinwedd rheoliad 8 oʼr Rheoliadau Ffioedd neu mewn cysylltiad â hawlogaeth i beidio â thalu yn rhinwedd rheoliad 5(1)(d) neu 5(2)(d) neu (dd) oʼr Rheoliadau Peidio â Chodi Tâl, a bod tystiolaeth oʼr fath eisoes ar gael i’r meddyg fferyllol ar adeg gwneud y datganiad, a

(b)os na chyflwynir tystiolaeth foddhaol iʼr meddyg fferyllol, fel syʼn ofynnol gan is-baragraff (a), rhaid iʼr meddyg fferyllol arnodiʼr ffurflen y gwneir y datganiad arni iʼr perwyl hwnnw.

Darparu cyffuriau Atodlen

7.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaiff meddyg fferyllol ddarparu unrhyw gyffur Atodlen ar gyfer claf, ac eithrio, pan foʼr meddyg fferyllol neu ragnodydd annibynnol wedi archebu cyffur y mae iddo enw amherchnogol priodol, naill ai wrth yr enw neu wrth ei fformiwla, y caiff ddarparu cyffur a chanddoʼr un fanyleb, hyd yn oed os ywʼr cyffur hwnnw yn gyffur Atodlen (ond, yn achos cyffur syʼn cyfuno mwy nag un cyffur, ni chaniateir gwneud hynny ond os oes gan y cyfuniad enw amherchnogol priodol).

(2Nid oes dim yn yr Atodlen hon syʼn atal meddyg fferyllol rhag darparu cyffur Atodlen neu gyfarpar argaeledd cyfyngedig ar gyfer claf, ac eithrio o dan y gwasanaethau fferyllol.

Gwrthod darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwyd

8.—(1Caiff meddyg fferyllol wrthod darparu’r cyffuriau neu’r cyfarpar a archebwyd ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan foʼr meddyg fferyllol yn credu, yn rhesymol, nad ywʼn archeb ddilys ar gyfer y person a enwir ar y ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy (er enghraifft, oherwydd bod y meddyg fferyllol yn credu, yn rhesymol, fod y ffurflen neu’r presgripsiwn wedi ei dwyn neu ei ddwyn neu ei ffugio), neu

(b)pan foʼn ymddangos iʼr meddyg fferyllol fod camgymeriad ar y ffurflen bresgripsiwn neu ar y presgripsiwn amlroddadwy neu ei swp-ddyroddiad cysylltiedig (gan gynnwys camgymeriad clinigol a wnaed gan y rhagnodydd) neu y byddai darparuʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar, o dan yr amgylchiadau, yn groes i farn glinigol y meddyg fferyllol.

(2Caiff meddyg fferyllol wrthod darparuʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar a archebwyd ar ffurflen bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy, neu y mae fel arall wedi ei awdurdodi neu o dan ofyniad iʼw darparu neu i’w ddarparu yn rhinwedd rheoliad 26—

(a)pan foʼr meddyg fferyllol neu bersonau eraill yn y fangre yn dioddef trais neuʼn cael eu bygwth â thrais gan y person syʼn cyflwynoʼr presgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy, neu gan unrhyw berson sydd yng nghwmniʼr person hwnnw, neu

(b)pan foʼr person syʼn cyflwynoʼr ffurflen bresgripsiwn neuʼr presgripsiwn amlroddadwy, neu unrhyw berson arall sydd yng nghwmniʼr person hwnnw, yn cyflawni neuʼn bygwth cyflawni trosedd.

(3Rhaid i feddyg fferyllol wrthod darparu cyffuriau neu gyfarpar a archebwyd ar bresgripsiwn amlroddadwy—

(a)pan na fo gan y meddyg fferyllol gofnod oʼr presgripsiwn hwnnw,

(b)pan na fo wedi ei lofnodi gan ragnodydd amlroddadwy,

(c)pan fyddai gwneud hynny yn anghyson ag unrhyw ysbeidiau a bennir yn y presgripsiwn,

(d)pan hwnnw fyddaiʼr tro cyntaf i gyffur neu gyfarpar gael ei ddarparu yn unol âʼr presgripsiwn, a phan fo’r presgripsiwn wedi ei lofnodi fwy na 6 mis yn gynharach,

(e)pan fo’r presgripsiwn amlroddadwy wedi ei lofnodi fwy nag 1 flwyddyn yn gynharach,

(f)pan foʼr dyddiad dod i ben ar y presgripsiwn amlroddadwy wedi mynd heibio, neu

(g)pan fo’r rhagnodydd amlroddadwy wedi rhoi gwybod i’r meddyg fferyllol nad oes angen y presgripsiwn mwyach.

(4Pan foʼr claf yn gofyn i gyffuriau neu gyfarpar a archebwyd ar bresgripsiwn amlroddadwy (ac eithrioʼr tro cyntaf y maeʼr claf yn gofyn felly) gael eu cyflenwi neu ei gyflenwi, ni chaiff meddyg fferyllol ddarparuʼr cyffuriau neuʼr cyfarpar a archebwyd oni bai ei fod wedi ei fodloni—

(a)o ran y claf y maeʼr presgripsiwn yn ymwneud ag ef—

(i)ei fod yn cymryd neuʼn defnyddioʼr cyffur neuʼr cyfarpar yn briodol, ac yn debygol o barhau i’w gymryd neu ei ddefnyddio felly, a

(ii)nad ywʼn dioddef unrhyw un neu ragor o sgil effeithiauʼr driniaeth syʼn dangos bod angen, neu ei bod yn ddymunol, adolygu triniaeth y claf,

(b)nad yw trefn feddyginiaethol y claf y maeʼr presgripsiwn yn ymwneud ag ef, wedi newid mewn ffordd syʼn dangos bod angen, neu ei bod yn ddymunol, adolygu triniaeth y claf, ac

(c)nad oes unrhyw newidiadau wedi bod yn iechyd y claf y maeʼr presgripsiwn yn ymwneud ag ef, syʼn dangos bod angen, neu ei bod yn ddymunol, adolygu triniaeth y claf.

Ffioedd a chodi tâl

9.—(1Maeʼr telerau mewn contract GMC syʼn rhoi effaith i reoliad 24 oʼr Rheoliadau GMC ac Atodlen 5 iʼr Rheoliadau hynny (ffioedd a chodi tâl) yn gymwys mewn cysylltiad â darparu unrhyw gyffuriau neu gyfarpar gan feddyg fferyllol fel y maent yn gymwys mewn perthynas â phresgripsiynau am gyffuriau a chyfarpar.

(2Pan fo meddyg fferyllol yn darparu cyffur neu gyfarpar o dan y gwasanaethau fferyllol neuʼn darparu unrhyw wasanaeth ychwanegol syʼn gysylltiedig â gweinyddu cyffuriau a chyfarpar oʼr fath—

(a)yn unol âʼr Atodlen hon neu gytundeb âʼr Bwrdd Iechyd Lleol, a

(b)pe baiʼr cyffur, y cyfarpar neuʼr gwasanaeth ychwanegol wedi ei ddarparu gan gontractwr syʼn darparu gwasanaethau gweinyddu o dan gontract GMC, y byddai hawlogaeth wedi bod gan y contractwr, yn rhinwedd cyfarwyddydau a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 45 o Ddeddf 2006 (contractau GMC: taliadau), i gael taliad—

(i)mewn cysylltiad âʼr cyffur neuʼr cyfarpar, neu

(ii)mewn cysylltiad â darparuʼr gwasanaeth ychwanegol,

bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn credyduʼr taliad iʼr meddyg fferyllol.

Cwynion a phryderon

10.—(1Pan fo meddyg fferyllol—

(a)yn gontractwr GMC, neu wedi ei gymryd ymlaen neu ei gyflogi gan gontractwr GMC, y weithdrefn gwyno a sefydlir yn unol â thelerau contract GMC syʼn rhoi effaith i baragraffau 89A a 90 o Atodlen 6 iʼr Rheoliadau GMC (pryderon a chwynion);

(b)yn gontractwr GMDdA, neu wedi ei gymryd ymlaen neu ei gyflogi gan gontractwr GMDdA, y weithdrefn gwyno a sefydlir gan y contract GMDdA perthnasol i ymdrin â chwynion mewn perthynas â darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol;

(c)wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan Fwrdd Iechyd Lleol at ddibenion darparu gwasanaethau fferyllol o fewn practis GMBILl, y weithdrefn gwyno a sefydlir gan y practis GMBILl hwnnw i ymdrin â chwynion mewn perthynas â darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol,

syʼn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fater sy’n gysylltiedig yn rhesymol â darparu gwasanaethau fferyllol, fel y maeʼn gymwys mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarperir o dan y contract hwnnw neuʼr cytundeb hwnnw, neu o fewn y practis hwnnw.

(2Yn unol â hynny, mae contract GMC syʼn rhoi effaith i baragraff 95 o Atodlen 6 iʼr Rheoliadau GMC (cydweithredu ag ymchwiliadau) yn gymwys hefyd mewn perthynas â chwynion neu bryderon a hysbysir ynghylch materion oʼr fath.

Arolygiadau a mynediad at wybodaeth

11.—(1Rhaid i feddyg fferyllol ganiatáu i bersonau sydd wedi eu hawdurdodi gan y Bwrdd Iechyd Lleol fynd i unrhyw fangre y mae’n ei defnyddio i ddarparu gwasanaethau fferyllol a’i harolygu, ar unrhyw adeg resymol, at y dibenion a ganlyn—

(a)canfod pa un a ywʼr meddyg fferyllol yn cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon ai peidio;

(b)archwilio, monitro a dadansoddi—

(i)y ddarpariaeth a wneir gan y meddyg fferyllol, wrth ddarparu gwasanaethau fferyllol, ar gyfer gofal a thriniaeth i gleifion, gan gynnwys unrhyw drefniant a wneir â pherson mewn cysylltiad â darparu cyfarpar, a

(ii)y modd y maeʼr meddyg fferyllol yn rheoliʼr gwasanaethau fferyllol y maeʼr meddyg fferyllol yn eu darparu,

pan foʼr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni.

(2Yr amodau yw—

(a)bod rhybudd rhesymol wedi ei roi oʼr bwriad i fynd i’r fangre,

(b)bod y Pwyllgor Fferyllol Lleol ar gyfer yr ardal y mae’r fangre ynddi wedi ei wahodd i fod yn bresennol yn yr arolygiad, pan foʼr meddyg fferyllol yn gofyn am hynny,

(c)bod gan y person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig dystiolaeth ysgrifenedig oʼi awdurdodiad yn ei feddiant, a rhaid iddo gyflwynoʼr dystiolaeth honno ar gais, a

(d)nad ywʼr person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig yn mynd i unrhyw ran oʼr fangre a ddefnyddir fel llety preswyl yn unig heb gydsyniad y preswylydd.

(3Rhaid i feddyg fferyllol, ar gais y Bwrdd Iechyd Lleol neu berson sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig a grybwyllir yn is-baragraff (1), ganiatáu iddo ef neuʼr person hwnnw gael mynediad at unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol yn rhesymol ganddo ef neuʼr person hwnnw—

(a)at y dibenion a grybwyllir yn is-baragraff (1), neu

(b)yn achos y Bwrdd Iechyd Lleol, mewn cysylltiad âʼi swyddogaethau syʼn ymwneud â gwasanaethau fferyllol.

Y Gymraeg

12.—(1Pan fo meddyg fferyllol yn darparu gwasanaethau fferyllol drwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid iʼr meddyg fferyllol hysbysuʼr Bwrdd Iechyd Lleol yn ysgrifenedig.

(2Rhaid i feddyg fferyllol roi ar gael fersiwn Gymraeg o unrhyw ddogfen neu ffurflen i’w defnyddio gan gleifion a/neu aelodau oʼr cyhoedd, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(3Pan fo meddyg fferyllol yn arddangos arwydd neu hysbysiad newydd mewn cysylltiad â gwasanaethau fferyllol, rhaid iʼr testun ar yr arwydd neuʼr hysbysiad fod yn Gymraeg ac yn Saesneg, a chaiff meddyg fferyllol ddefnyddioʼr gwasanaeth cyfieithu a gynigir gan y Bwrdd Iechyd Lleol at y diben hwn.

(4Pan fo meddyg fferyllol yn siarad Cymraeg, feʼi hanogir i wisgo bathodyn a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, er mwyn cyfleu bod y meddyg fferyllol yn gallu siarad Cymraeg.

(5Anogir meddyg fferyllol i ddefnyddio gwybodaeth a/neu fynd i gyrsiau hyfforddi a digwyddiadau a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, fel y gall y meddyg fferyllol ddatblygu—

(a)ymwybyddiaeth oʼr Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth oʼi hanes aʼi rôl yn niwylliant Cymru), a

(b)dealltwriaeth o sut y gellir defnyddioʼr Gymraeg mewn cysylltiad âʼr gwasanaethau fferyllol a ddarperir.

(6Wrth ddarparu gwasanaethau fferyllol, anogir meddyg fferyllol i ganfod a chofnodiʼr dewis iaith Cymraeg neu Saesneg a fynegir gan glaf neu ar ran claf.

Rheoliad 64

ATODLEN 8Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Rheoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992

1.  Yn rheoliad 2 o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pwyllgorau Gwasanaethau a’r Tribiwnlys) 1992(19) (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “Pharmaceutical Regulations”, yn lle “National Health Service (Pharmaceutical Services) (Wales) Regulations 2013” rhodder “National Health Service (Pharmaceutical Services) (Wales) Regulations 2020”, a

(b)ym mharagraff (4)(c)(20), yn lle “paragraph 33 of Schedule 4 to, or paragraph 21 of Schedule 5 to” rhodder “paragraph 33 of Schedule 5 to, or paragraph 22 of Schedule 6 to”.

Rheoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Symiau Dangosol) 1997

2.  Yn rheoliad 1(2) o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Symiau Dangosol) 1997 (enwi, cychwyn a dehongli)(21), yn y diffiniad o “Drug Tariff”, yn lle “regulation 41 (the Drug Tariff and remuneration of NHS pharmacists and NHS appliance contractors) of the National Health Service (Pharmaceutical Services) (Wales) Regulations 2013” rhodder “regulation 55 (the Drug Tariff and remuneration of NHS pharmacists and NHS appliance contractors) of the National Health Service (Pharmaceutical Services) (Wales) Regulations 2020”.

Rheoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau gan Awdurdodau Lleol i Awdurdodau Iechyd) (Swyddogaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2001

3.  Yn rheoliad 2 (swyddogaethau rhagnodedig yr Awdurdodau Iechyd yng Nghymru) o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau gan Awdurdodau Lleol i Awdurdodau Iechyd) (Swyddogaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2001(22), ym mharagraff (2)(ch)(23), yn lle “rheoliad 41 o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013” rhodder “rheoliad 55 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020”.

Rheoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004

4.—(1Mae Rheoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004(24) wedi eu diwygio yn unol âʼr paragraff hwn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “Drug Tariff”, yn lle “regulation 41” rhodder “regulation 55”, a

(b)yn y diffiniad o “Pharmaceutical Regulations”, yn lle “National Health Service (Pharmaceutical Services) (Wales) Regulations 2013” rhodder “National Health Service (Pharmaceutical Services) (Wales) Regulations 2020”.

(3Yn Atodlen 6 (telerau contractiol eraill)—

(a)ym mharagraff 47 (darparu gwasanaethau gweinyddu)—

(i)yn is-baragraffau (4)(b) a (9)(a), yn lle “paragraph 6 of Schedule 2, paragraph 13 of Schedule 2 or paragraph 8(3) of Schedule 3 to”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “paragraph 6 of Schedule 3, paragraph 13 of Schedule 3 or paragraph 8(3) of Schedule 4 to”, a

(ii)yn is-baragraff (9)(b)(ii), yn lle “Part 2 of Schedule 3 to” rhodder “Part 2 of Schedule 4 to”,

(b)ym mharagraff 48 (cydsyniad i weinyddu)—

(i)yn is-baragraff (2)—

(aa)yn lle “regulation 24 of and Part 3 of Schedule 2 to” rhodder “regulation 30 of, and Part 3 of Schedule 3 to,”, a

(bb)yn lle “regulation 24” rhodder “regulation 30”,

(ii)yn is-baragraff (4), yn lle “regulation 24(9)” rhodder “regulation 30(9)”,

(iii)yn lle is-baragraff (5) rhodder—

(5) Regulation 30 of the Pharmaceutical Regulations will apply as if modified as follows: in paragraph (1), for “to provide pharmaceutical services to patients under regulation 26(1)(b) or (c) (arrangements for the provision of pharmaceutical services by doctors)” there were substituted a reference to the provision of dispensing services to patients under paragraph 47., a

(iv)yn lle is-baragraff (6) rhodder—

(6) Part 3 of Schedule 3 to the Pharmaceutical Regulations will apply as if modified as follows: in paragraph 8(1)(a)(ii), for “dispensing doctor list made under Part 6 of these Regulations” there were substituted a reference to an application under sub-paragraph (1) of this paragraph., ac

(c)ym mharagraff 49(8)(25) (telerau syʼn ymwneud â darparu gwasanaethau gweinyddu), yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “Schedule 6” rhodder “Schedule 7”.

Rheoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007

5.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007(26), yn y diffiniad o “Tariff Cyffuriau”, yn lle “rheoliad 41 o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013 (y Tariff Cyffuriau a chydnabyddiaeth ariannol i fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG)” rhodder “rheoliad 55 o Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020 (y Tariff Cyffuriau a thâl ar gyfer fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG)”.

Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010

6.  Ym mharagraff 1(3) o Atodlen 1 i Reoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010(27), yn y diffiniadau o—

(a)“nyrs syʼn rhagnodiʼn annibynnol”,

(b)“parafeddyg-ragnodydd annibynnol”,

(c)“ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol”,

(d)“podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol”, ac

(e)“radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol”,

yn lle “Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013” rhodder “Reoliadauʼr Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020”.

(2)

1971 p. 38. Gweler adran 2(1)(a) oʼr Ddeddf honno syʼn diffinio “controlled drug” at ddibenion y Ddeddf honno.

(5)

Rhif ffôn Galw Iechyd Cymru 0845 46 47, cyfeiriad gwefan www.nhsdirect.wales.nhs.uk.

(8)

1996 p. 18; mewnosodwyd adran 43A gan adran 1 o Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 (p. 23). Gweler hefyd adran 43K(1)(c) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 syʼn estyn ystyr “worker” ar gyfer y Rhan oʼr Ddeddf honno syʼn ymdrin â datgeliadau gwarchodedig fel ei fod yn cwmpasu pob unigolyn syʼn darparu gwasanaethau fferyllol yn unol â threfniadau a wneir gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan adran 80 o Ddeddf 2006.

(10)

1992 p. 5.

(15)

1996 p. 18; mewnosodwyd adran 43A gan adran 1 o Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 (p. 23). Gweler hefyd adran 43K(1)(c) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 syʼn estyn ystyr “worker” ar gyfer y Rhan oʼr Ddeddf honno syʼn ymdrin â datgeliadau gwarchodedig fel ei fod yn cwmpasu pob unigolyn syʼn darparu gwasanaethau fferyllol yn unol â threfniadau a wneir gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan adran 80 o Ddeddf 2006.

(17)

1992 p. 5.

(20)

Mewnosodwyd paragraff (4) gan O.S. 1996/703.

(21)

O.S. 1997/980, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/1112 (Cy. 117).

(23)

Mewnosodwyd paragraff (2)(ch) gan O.S. 2013/898 (Cy. 102).

(25)

Amnewidiwyd is-baragraff (8) gan O.S. 2013/898 (Cy. 102).

(26)

O.S. 2007/121 (Cy. 11). Amnewidiwyd y diffiniad o “Tariff Cyffuriau” gan O.S. 2007/1112 (Cy. 117) ac fe’i diwygiwyd ymhellach gan O.S. 2013/898 (Cy. 102).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill