- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliad 40
1. Unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, 28 o ddiwrnodau cyn i’r datganiad o ddiben diwygiedig gymryd effaith.
2. Bod y darparwr gwasanaeth (unigolyn neu sefydliad) yn newid ei enw.
3. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gwmni, unrhyw newid i gyfarwyddwyr y cwmni.
4. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, penodi ymddiriedolwr mewn methdaliad mewn perthynas â’r unigolyn hwnnw.
5. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth, penodi derbynnydd, rheolwr derbynnydd, datodwr neu ddatodwr dros dro mewn perthynas â’r cwmni hwnnw neu’r bartneriaeth honno.
6. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, marwolaeth un o’r partneriaid.
7. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, unrhyw newid i’r partneriaid.
8. Absenoldeb disgwyliedig yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.
9. Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.
10. Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.
11. Bod yr unigolyn cyfrifol yn dychwelyd o fod yn absennol.
12. Bod yr unigolyn cyfrifol yn peidio â bod, neu’n bwriadu peidio â bod, yr unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth.
13. Unrhyw gam-drin neu honiad o gam-drin mewn perthynas â phlentyn sy’n ymwneud â’r darparwr gwasanaeth, aelod o staff, gwirfoddolwr a/neu riant maeth.
14. Bod y darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei euogfarnu o drosedd.
15. Unrhyw honiad o gamymddwyn gan aelod o staff.
16. Damwain ddifrifol neu anaf difrifol plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.
17. Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu sy’n ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.
18. Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.
19. Unrhyw atgyfeiriad i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.
20. Cychwyn a chanlyniad unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.
21. Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu unrhyw amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn.
22. Unrhyw gynnig i newid cyfeiriad y brif swyddfa, 28 o ddiwrnodau cyn i’r newid ddigwydd.
23. Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.
24. Unrhyw atgyfeiriad i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.
25. Damwain ddifrifol neu anaf difrifol plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.
26. Unrhyw glefyd heintus yn torri allan yng nghartref rhieni maeth, a hwnnw’n glefyd sydd, ym marn ymarferydd cyffredinol syʼn ymweld âʼr cartref, yn ddigon difrifol i hysbysu amdano felly.
27. Honiad bod plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol.
28. Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu syʼn ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.
29. Unrhyw achos o blentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth yn absennol heb ganiatâd.
30. Unrhyw gŵyn ddifrifol neu honiad difrifol ynghylch unrhyw rieni maeth a gymeradwywyd gan y darparwr gwasanaeth.
31. Cychwyn a chanlyniad unrhyw ymholiad amddiffyn plant syʼn ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.
32. Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu unrhyw amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn.
33. Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.
34. Unrhyw glefyd heintus yn torri allan yng nghartref rhieni maeth, a hwnnw’n glefyd sydd, ym marn ymarferydd cyffredinol syʼn ymweld âʼr cartref, yn ddigon difrifol i hysbysu amdano felly.
35. Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu unrhyw amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn.
36. Cychwyn a chanlyniad unrhyw ymholiad amddiffyn plant syʼn ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.
37. Unrhyw ddigwyddiad syʼn ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth a gaiff ei adrodd i’r heddlu.
38. Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.
39. Unrhyw glefyd heintus yn torri allan yng nghartref rhieni maeth, a hwnnw’n glefyd sydd, ym marn ymarferydd cyffredinol syʼn ymweld âʼr cartref, yn ddigon difrifol i hysbysu amdano felly.
40. Honiad bod plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol.
41. Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu unrhyw amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys