Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1RHAGARWEINIOL

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod y daw adran 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 i rym.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “DTGT” yw Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.

RHAN 2CYMYSGEDDAU O DDEUNYDDIAU SY’N GYFAN GWBL AR FFURF GRONYNNAU MÂN

Cyffredinol

Dehongli’r Rhan hon

3.  Yn y Rhan hon—

ystyr “cyfarwyddyd” (“direction”) yw cyfarwyddyd a ddyroddwyd gan ACC o dan reoliad 6 nas tynnwyd yn ôl;

ystyr “deunydd anghymwys” (“non-qualifying material”) yw deunydd nad yw’n ddeunydd cymwys;

ystyr “y ganran colled wrth danio” (“LOI percentage”) yw swm y deunydd anghymwys sydd wedi ei gynnwys mewn cymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân, fel y dangosir gan y ganran o fàs y gronynnau mân hynny a gollir wrth danio;

ystyr “yr hysbysiad ACC” (“the WRA notice”) yw hysbysiad a gyhoeddwyd gan ACC o dan adran 17(5) o DTGT nas tynnwyd yn ôl drwy hysbysiad cyhoeddedig dilynol;

ystyr “prawf colled wrth danio” (“LOI test”) yw prawf i ganfod canran colled wrth danio cymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân.

Gofynion mewn cysylltiad â chymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân

4.—(1Rhaid bodloni’r gofynion a ganlyn (yn ogystal â gofynion 1 i 6 yn adran 16 o DTGT) er mwyn i gymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân gael ei drin fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau.

Gofyniad 1

Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig lle y gwneir gwarediad trethadwy o’r cymysgedd fod wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad ACC.

Gofyniad 2

Rhaid i’r gweithredwr feddu ar y dystiolaeth a bennir yn yr hysbysiad ACC ynghylch cymryd y camau hynny.

Gofyniad 3

Os cynhaliwyd prawf colled wrth danio ar sampl o’r gwarediad trethadwy, ni chaiff y ganran colled wrth danio a ddangoswyd gan y prawf fod yn uwch na 10% (ond gweler paragraff (3)).

Gofyniad 4

Ni chaiff y cymysgedd sydd wedi ei gynnwys yn y gwarediad trethadwy fod wedi’i wahardd rhag cael ei drin fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau yn rhinwedd rheoliad 5(3).

(2Caiff ACC benderfynu bod gofyniad 2 i’w drin fel pe bai wedi ei fodloni os yw ACC wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n ei gwneud yn rhesymol ofynnol iddynt gael eu profi, ac a fyddai wedi eu profi gan y dystiolaeth pe bai’r gofyniad hwnnw wedi ei fodloni, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.

(3Caiff yr hysbysiad ACC bennu amgylchiadau lle caniateir anwybyddu prawf colled wrth danio sy’n dangos bod y ganran colled wrth danio yn uwch na 10%.

Gofynion cyffredinol mewn cysylltiad â phrofion colled wrth danio

5.—(1Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gydymffurfio â’r gofynion a ganlyn er mwyn i gymysgeddau o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân gael eu trin fel cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau pan fyddant yn cael eu gwaredu ar y safle.

Gofyniad 1

Rhaid i’r gweithredwr gynnal prawf colled wrth danio ar y cymysgeddau—

(a)ar yr adegau a’r cyfnodau a bennir yn yr hysbysiad ACC, oni roddir cyfarwyddyd i’r gweithredwr wneud fel arall o dan reoliad 6, neu

(b)os rhoddir cyfarwyddyd o’r fath i’r gweithredwr, ar yr adegau a’r cyfnodau a bennir yn y cyfarwyddyd.

Gofyniad 2

Rhaid i’r gweithredwr, wrth gynnal pob prawf colled wrth danio—

(a)cynhesu sampl o’r cymysgedd a brofir i dymheredd o 440°C am o leiaf 5 awr, a

(b)cydymffurfio ag unrhyw ofyniad arall yn yr hysbysiad ACC sy’n ymwneud â chynnal y prawf.

Gofyniad 3

Pan fo—

(a)prawf colled wrth danio yn cael ei gynnal ar sampl o gymysgedd, a

(b)y ganran colled wrth danio a ddangosir gan y prawf yn uwch na 10%,

rhaid i’r gweithredwr gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad ACC.

Gofyniad 4

Rhaid i’r gweithredwr—

(a)cadw’r dystiolaeth a bennir yn yr hysbysiad ACC mewn perthynas â phob prawf colled wrth danio a gynhelir gan y gweithredwr, a

(b)storio’r dystiolaeth yn ddiogel am y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(2Caiff ACC benderfynu bod y gweithredwr i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofyniad 4 os yw ACC wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n ei gwneud yn rhesymol ofynnol iddynt gael eu profi, ac a fyddai wedi eu profi gan y dystiolaeth pe bai’r gweithredwr wedi cydymffurfio â’r gofynion, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.

(3Pan fo’r gweithredwr yn methu â chydymffurfio â gofyniad a grybwyllir ym mharagraff (1), mae cymysgeddau o ronynnau mân sydd wedi eu cynnwys mewn gwarediadau trethadwy o ddisgrifiad a bennir yn yr hysbysiad ACC wedi eu gwahardd rhag cael eu trin fel cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau.

Pŵer ACC i roi cyfarwyddyd i weithredwr gynnal profion colled wrth danio

6.—(1Caiff ACC drwy hysbysiad roi cyfarwyddyd i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gynnal prawf colled wrth danio ar unrhyw gymysgedd o ddeunyddiau—

(a)yr ymddengys i ACC ei fod yn gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân,

(b)sydd o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd, ac

(c)sy’n bresennol ar y safle.

(2Caniateir amrywio cyfarwyddyd a roddwyd o dan y rheoliad hwn neu ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad ar unrhyw adeg.

Pŵer ACC i gymryd samplau a chynnal profion colled wrth danio

7.—(1Caiff ACC—

(a)cymryd sampl o unrhyw gymysgedd o ddeunyddiau ar safle tirlenwi awdurdodedig yr ymddengys i ACC ei fod yn gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân, a

(b)cynnal prawf colled wrth danio ar y sampl.

(2Pan fo ACC yn gwneud hynny, rhaid iddo—

(a)cynnal y prawf drwy gynhesu is-sampl o’r sampl i dymheredd o 440°C am o leiaf 5 awr,

(b)dyroddi hysbysiad am y ganran colled wrth danio a ganfyddir gan y prawf i weithredwr y safle,

(c)cadw—

(i)nid llai nag 1kg o’r sampl, a

(ii)cofnod o ganlyniad y prawf colled wrth danio,

(d)storio’r gyfran a gedwir o’r sampl yn ddiogel am gyfnod o 3 mis sy’n dechrau â dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth berthnasol, ac

(e)storio’r cofnod o ganlyniad y prawf colled wrth danio yn ddiogel am y cyfnod y byddai’n ofynnol i berson y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth ei gadw o dan adran 38 o DCRhT (dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel).

(3Ym mharagraff (2)(d), y “ffurflen dreth berthnasol” yw’r ffurflen dreth ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu y rhoddir cyfrif arni am y dreth sydd i’w chodi am waredu’r cymysgedd.

Cosbau

Cosb am fethu â chydymffurfio â gofynion sy’n ymwneud â thystiolaeth

8.—(1Mae gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig sy’n—

(a)trin cymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau wrth roi cyfrif am y dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy, ond

(b)sy’n methu â chydymffurfio—

(i)â gofyniad 2 yn rheoliad 4 (mewn perthynas â’r gwarediad hwnnw), neu

(ii)â gofyniad 4 yn rheoliad 5 (mewn perthynas â’r cymysgedd hwnnw),

yn agored i gosb nad yw’n fwy na £3,000.

(2Ond nid yw’r gweithredwr yn agored i gosb o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â’r methiant os yw ACC wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n ei gwneud yn rhesymol ofynnol iddynt gael eu profi, ac a fyddai wedi eu profi gan y dystiolaeth pe bai’r gweithredwr wedi cydymffurfio â’r gofynion hynny, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.

Asesu cosbau a’u talu

9.—(1Pan ddaw gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig yn agored i gosb o dan reoliad 8, rhaid i ACC—

(a)asesu’r gosb, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r gweithredwr am y gosb a asesir.

(2Caniateir cyfuno asesiad o gosb gydag asesiad treth.

(3Rhaid i asesiad o gosb o dan reoliad 8 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y gweithredwr yn agored i’r gosb.

(4Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig y dyroddir hysbysiad am gosb iddo o dan y rheoliad hwn dalu’r gosb cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am y gosb (ond gweler adran 182 o DCRhT (talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl)).

Darpariaeth atodol ynghylch cosbau

10.—(1Nid yw person yn agored i gosb o dan reoliad 8 mewn cysylltiad ag unrhyw beth os yw’r person wedi cael euogfarn am drosedd mewn perthynas â hynny.

(2Os yw person sy’n agored i gosb o dan reoliad 8 wedi marw, caniateir asesu unrhyw gosb y gellid bod wedi ei hasesu ar y person ar gynrychiolwyr personol y person.

(3Mae cosb a asesir yn unol â pharagraff (2) i’w thalu o ystad y person.

Darpariaeth atodol arall

Darpariaeth atodol ynghylch hysbysiadau a chyfarwyddydau ACC

11.—(1Caiff ACC wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol yn—

(a)yr hysbysiad ACC, a

(b)unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan ACC o dan reoliad 6.

(2Caiff y ddarpariaeth gynnwys (ymhlith pethau eraill) darpariaeth drosiannol sy’n gymwys i weithredwyr safleoedd tirlenwi a oedd, yn union cyn y diwrnod y daw adran 2 o DTGT i rym, wedi eu cofrestru o dan adran 47 o Ddeddf Cyllid 1996.

RHAN 3CREDYD ANSOLFEDD CWSMER

Cyffredinol

Credyd ansolfedd cwsmer

12.—(1Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer credyd treth mewn cysylltiad â’r dreth.

(2Enw’r credyd fydd credyd ansolfedd cwsmer.

Dehongli’r Rhan hon

13.—(1Yn y Rhan hon—

mae i “anfoneb dirlenwi” (“landfill invoice”) yr ystyr a roddir yn adran 41(8) o DTGT;

ystyr “cwsmer” (“customer”), mewn perthynas â gwarediad trethadwy, yw’r person y gwneir y gwarediad ar ei gyfer;

ystyr “hawliad” (“claim”) yw hawliad yn unol â’r Rhan hon am swm o gredyd ansolfedd cwsmer;

ystyr “hawlydd” (“claimant”) yw person sy’n gwneud hawliad.

(2Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at daliad oddi wrth gwsmer yn cynnwys taliad oddi wrth berson arall ar ran y cwsmer.

Hawlogaeth i gredyd

Amgylchiadau sy’n arwain at hawlogaeth i gredyd

14.—(1Mae gan berson (“yr hawlydd”) hawlogaeth i gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy os bodlonir y gofynion a ganlyn.

Gofyniad 1

Bod y gwarediad wedi ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig.

Gofyniad 2

Bod yr hawlydd—

(a)wedi ei gofrestru yn weithredwr y safle ar adeg y gwarediad, a

(b)wedi gwneud y gwarediad, neu wedi caniatáu i’r gwarediad gael ei wneud.

Gofyniad 3

Bod y gwarediad wedi ei wneud am gydnabyddiaeth ariannol ar ran person arall (“y cwsmer”)—

(a)nad yw’r hawlydd yn gysylltiedig ag ef, a

(b)nad oedd yr hawlydd yn gysylltiedig ag ef ar adeg y gwarediad.

Gofyniad 4

Bod yr hawlydd wedi dyroddi anfoneb dirlenwi i’r cwsmer mewn cysylltiad â’r gwarediad trethadwy—

(a)o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwnaed y gwarediad, neu

(b)o fewn unrhyw gyfnod hwy a bennir mewn hysbysiad a ddyroddir i’r hawlydd o dan adran 41(6) o DTGT.

Gofyniad 5

Bod yr hawlydd—

(a)wedi rhoi cyfrif am swm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r gwarediad ar ffurflen dreth, a

(b)wedi talu swm y dreth sy’n daladwy o dan adran 42(1) neu (1A) o DTGT mewn cysylltiad â’r ffurflen dreth.

Gofyniad 6

Bod y cwsmer—

(a)wedi mynd yn ansolfent o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y dyroddwyd yr anfoneb dirlenwi, a

(b)wedi methu â thalu i’r hawlydd yr holl gydnabyddiaeth, neu ran ohoni, sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gwarediad.

Gofyniad 7

Nad yw’r hawlydd wedi gallu adennill y gydnabyddiaeth nas talwyd, er gwaethaf cymryd camau rhesymol i wneud hynny.

Gofyniad 8

Bod yr hawlydd—

(a)wedi gosod yn erbyn swm y gydnabyddiaeth nas talwyd unrhyw ddyled sy’n ddyledus gan yr hawlydd i’r cwsmer y caniateir ei gosod yn erbyn y swm hwnnw, a

(b)wedi lleihau swm y gydnabyddiaeth nas talwyd gan werth unrhyw sicrhad gorfodadwy a ddelir gan yr hawlydd mewn perthynas â’r cwsmer,

ond bod swm o gydnabyddiaeth yn parhau i fod yn weddill mewn cysylltiad â’r gwarediad.

(2Er gwaethaf paragraff (1), nid oes gan berson hawlogaeth i gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy—

(a)os yw’r person wedi cael budd yn flaenorol o unrhyw swm o gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â’r gwarediad, neu

(b)os yw anfoneb dirlenwi wedi ei dyroddi mewn cysylltiad â’r gwarediad ar ôl diwedd y diweddaraf o’r cyfnodau a grybwyllir yng ngofyniad 4.

(3Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at gydnabyddiaeth sy’n weddill, mewn perthynas â gwarediad trethadwy, yn gyfeiriadau at y swm o gydnabyddiaeth a grybwyllir ar ddiwedd gofyniad 8.

Darpariaeth atodol sy’n ymwneud â hawlogaeth i gredyd

15.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gwneud darpariaeth atodol at ddibenion rheoliad 14.

(2Mae adrannau 1122 a 1123 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010(1) (personau cysylltiedig) yn gymwys at ddiben penderfynu pa un a yw’r hawlydd yn gysylltiedig â’r cwsmer fel y crybwyllir yng ngofyniad 3 ai peidio, ac mae adran 1122 o’r Ddeddf honno yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (8)—

(9) A person (“A”) is connected with any person who is an employee of A or by whom A is employed.

(10) For the purposes of this section, any director or other officer of a company is to be treated as employed by that company.

(3Pa fo’r cwsmer wedi gwneud taliad i’r hawlydd, mae rheoliad 16 yn gymwys at ddiben penderfynu pa un a yw’r taliad i’w drin, ac i ba raddau y mae’r taliad i’w drin, fel pe bai wedi ei ddyrannu i dalu’r gydnabyddiaeth sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gwarediad (ac, o ganlyniad, pa un a yw’r cwsmer wedi methu â thalu’r gydnabyddiaeth gyfan am y gwarediad, neu ran ohoni, fel y crybwyllir yng ngofyniad 6).

(4Mae rheoliad 17 yn gymwys at ddiben penderfynu pa un a yw’r cwsmer wedi mynd yn ansolfent fel y crybwyllir yng ngofyniad 6.

(5Yng ngofyniad 8, ystyr “sicrhad” yw—

(a)mewn perthynas â Chymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, unrhyw forgais, arwystl, hawlrwym neu sicrhad arall;

(b)mewn perthynas â’r Alban, unrhyw sicrhad (boed etifeddol neu symudol), unrhyw arwystl cyfnewidiol ac unrhyw hawl i hawlrwym neu ffafriaeth neu hawl dargadw (ac eithrio hawl i ddigollediad neu osod yn erbyn);

(c)mewn perthynas ag unrhyw wlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig, unrhyw beth sy’n cael effaith sy’n cyfateb i unrhyw beth a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b).

(6Mae rheoliad 21(3) yn gymwys at ddiben penderfynu pa un a yw’r hawlydd wedi cael budd yn flaenorol o swm o gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â’r gwarediad fel y crybwyllir yn rheoliad 14(2).

Cydnabyddiaeth am warediad trethadwy: dyrannu taliadau

16.—(1Pan fo—

(a)hawlydd yn derbyn taliad oddi wrth gwsmer y gwnaed gwarediad trethadwy ar ei ran, a

(b)y cwsmer mewn dyled i’r hawlydd mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am y gwarediad,

mae’r taliad fel arfer i’w drin fel pe bai’n cael ei ddyrannu i’r ddyled honno.

(2Ond pa fo’r cwsmer hefyd mewn dyled i’r hawlydd mewn cysylltiad ag un neu ragor o faterion (pa un a yw neu a ydynt yn ymwneud â gwarediadau trethadwy ai peidio) ac eithrio’r gydnabyddiaeth am y gwarediad, mae’r taliad i’w drin yn lle hynny—

(a)fel pe bai’n cael ei ddyrannu i’r ddyled a gododd gynharaf, a

(b)os yw swm y taliad yn fwy na’r ddyled honno, fel pe bai’n cael ei ddyrannu wedi hynny i’r dyledion eraill yn nhrefn y dyddiadau yr oeddent yn codi.

(3Pan fo effaith paragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol dyrannu taliad (neu ran o daliad) i ddwy ddyled neu ragor sy’n codi ar yr un diwrnod, mae swm y taliad sydd i’w drin fel pe bai’n cael ei ddyrannu i ddyled benodol sy’n codi ar y diwrnod hwnnw i’w gyfrifo yn unol â’r fformiwla a ganlyn—

Dyraniad =

pan fo—

(a)

“Dyraniad” yw swm y dyraniad;

(b)

CT yw cyfanswm y taliad sydd i’w ddyrannu o dan baragraff (2) i’r dyledion sy’n codi ar y diwrnod hwnnw;

(c)

D yw swm y ddyled benodol o dan sylw;

(d)

CD yw cyfanswm yr holl ddyledion—

(i)

a oedd yn codi ar y diwrnod hwnnw, a

(ii)

sy’n ddyledus gan y cwsmer i’r hawlydd.

(4Pan fo anfoneb dirlenwi wedi ei dyroddi mewn cysylltiad â mwy nag un gwarediad trethadwy, mae pob dyled mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am bob gwarediad i’w thrin fel bai’n codi ar yr un diwrnod (sef y diwrnod ar ôl y diwrnod erbyn pryd y mae’n rhaid talu’r anfoneb); ac mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys yn unol â hynny.

Ansolfedd cwsmer

17.—(1Mae cwsmer yn mynd yn ansolfent at ddibenion rheoliad 14 os yw—

(a)trefniant gwirfoddol ar ran cwmni yn cael effaith mewn perthynas â’r cwsmer o dan Ran 1 o Ddeddf Ansolfedd 1986(2);

(b)gorchymyn gweinyddu (o fewn ystyr Atodlen B1 i’r Ddeddf honno) yn cael ei wneud, neu os caiff derbynnydd neu reolwr, neu dderbynnydd gweinyddol, ei benodi mewn perthynas â’r cwsmer;

(c)achos o ddirwyn i ben yn wirfoddol gan y credydwyr (o fewn ystyr Rhan 4 o’r Ddeddf honno), neu achos o ddirwyn i ben gan y llys o dan Bennod 6 o Ran 4 o’r Ddeddf honno, yn cael ei gychwyn mewn perthynas â’r cwsmer;

(d)gorchymyn rhyddhau o ddyled yn cael ei wneud mewn perthynas â’r cwsmer o dan Ran 7A o’r Ddeddf honno;

(e)trefniant gwirfoddol unigol yn cael effaith mewn perthynas â’r cwsmer o dan Ran 8 o’r Ddeddf honno;

(f)gorchymyn methdalu (o fewn ystyr Rhan 9 o’r Ddeddf honno) yn cael ei wneud mewn perthynas â’r cwsmer;

(g)unrhyw ddigwyddiad cyfatebol yn digwydd sy’n cael effaith o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon neu wlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig, neu o ganlyniad iddi.

(2Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddigwyddiad ansolfedd yn gyfeiriadau at ddigwyddiad a ddisgrifir ym mharagraff (1)(a) i (g).

Swm y credyd

Cyfrifo swm y credyd ansolfedd cwsmer

18.—(1Mae swm y credyd ansolfedd cwsmer y mae gan berson hawl iddo mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy i’w gyfrifo yn unol â’r fformiwla a ganlyn—

Credyd =

pan fo—

(a)

“Credyd” yn swm y credyd ansolfedd cwsmer;

(b)

T yn swm y dreth y mae’r person wedi rhoi cyfrif amdano mewn cysylltiad â’r gwarediad mewn ffurflen dreth, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3);

(c)

SG yn swm y gydnabyddiaeth sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gwarediad (gweler rheoliad 14(3)), yn ddarostyngedig i baragraff (3);

(d)

C y gydnabyddiaeth am y gwarediad, yn ddarostyngedig i baragraff (3).

(2Pan fo swm y dreth y rhoddir cyfrif amdano mewn cysylltiad â’r gwarediad yn cynyddu, anwybydder y cynnydd hwnnw.

(3Pan fo swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad yn llai na swm y dreth y rhoddwyd cyfrif amdano mewn cysylltiad â’r gwarediad (gan anwybyddu unrhyw gynnydd)—

(a)T yw swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad;

(b)mae C ac SG ill dau i’w lleihau gan swm sy’n hafal â’r gwahaniaeth rhwng y ddau swm o dreth.

Hawlio credyd

Hawliadau gan bersonau sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy

19.—(1Caiff person cofrestredig sydd â hawlogaeth i gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy hawlio’r credyd mewn ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad ag—

(a)y cyfnod cyfrifyddu cymwys cyntaf, neu

(b)unrhyw gyfnod cyfrifyddu dilynol.

(2Y cyfnod cyfrifyddu cymwys cyntaf yw’r cyfnod cyfrifyddu y daw’r cyfnod o 6 mis, sy’n dechrau â dyddiad y digwyddiad ansolfedd perthnasol, i ben ynddo.

(3Mae’r hawliad i’w wneud yn y ffurflen dreth—

(a)drwy osod swm y credyd yn erbyn swm y dreth y byddai fel arall yn ofynnol i’r person ei dalu o dan adran 42(1) o DTGT mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu perthnasol, a

(b)os yw swm y credyd yn fwy na swm y dreth, drwy ddatgan swm y credyd gormodol.

(4Pan fo swm o gredyd gormodol yn cael ei ddatgan yn y ffurflen dreth yn unol â pharagraff (3)(b)—

(a)caiff ACC osod y swm hwnnw yn erbyn unrhyw swm o dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dalu ond nad yw wedi ei dalu eto, a

(b)os oes unrhyw swm o gredyd gormodol yn weddill, rhaid i ACC dalu i’r person swm sy’n hafal â’r swm hwnnw sy’n weddill.

(5Ond nid yw’n ofynnol i ACC wneud taliad o dan baragraff (4)(b) oni bai, a hyd nes, bod pob ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r dreth wedi ei dychwelyd.

(6Yn y rheoliad hwn—

ystyr “y digwyddiad ansolfedd perthnasol” (“the relevant insolvency event”) yw’r digwyddiad ansolfedd a arweiniodd at hawlogaeth i gredyd mewn cysylltiad â’r gwarediad trethadwy;

ystyr “y cyfnod cyfrifyddu perthnasol” (“the relevant accounting period”) yw’r cyfnod cyfrifyddu y dychwelir y ffurflen dreth sy’n cynnwys yr hawliad mewn cysylltiad ag ef.

Hawliadau gan bersonau eraill

20.—(1Caiff person—

(a)nad yw’n gofrestredig, a

(b)sydd â hawlogaeth i gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy,

hawlio’r credyd drwy wneud cais ysgrifenedig i ACC.

(2Ni chaniateir gwneud cais o dan baragraff (1) cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â dyddiad y digwyddiad ansolfedd perthnasol.

(3Os yw ACC wedi ei fodloni—

(a)nad yw’r person yn gofrestredig,

(b)bod gan y person hawlogaeth i swm o gredyd ansolfedd cwsmer, ac

(c)nad yw’r hawlogaeth i’r credyd wedi ei throsglwyddo i unrhyw berson arall,

rhaid i ACC dalu i’r person swm sy’n hafal â swm y credyd.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “y digwyddiad ansolfedd perthnasol” yw’r digwyddiad ansolfedd a arweiniodd at hawlogaeth i gredyd mewn cysylltiad â’r gwarediad trethadwy.

Darpariaeth atodol sy’n ymwneud â hawliadau

21.—(1Rhaid i hawliad am gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy fod am gyfanswm y credyd mewn cysylltiad â’r gwarediad hwnnw (yn hytrach na rhan o’r swm yn unig).

(2Pan fo gan berson hawlogaeth i gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â mwy nag un gwarediad trethadwy, caniateir gwneud hawliad mewn cysylltiad â phob un o’r gwarediadau hynny, neu mewn cysylltiad ag un ohonynt neu rai ohonynt yn unig.

(3Pan fo—

(a)swm o gredyd ansolfedd cwsmer wedi ei osod, o dan reoliad 19(3)(a) neu (4)(a), yn erbyn swm o dreth y byddai’n ofynnol i berson ei dalu fel arall, neu

(b)swm sy’n hafal â swm credyd ansolfedd cwsmer yn cael ei dalu i berson o dan reoliad 19(4)(b) neu 20(3),

mae’r person i’w drin, at ddibenion y Rhan hon, fel pe bai wedi cael budd o’r swm hwnnw o gredyd.

Tystiolaeth a chadw cofnodion

Tystiolaeth i ategu hawliadau

22.—(1Rhaid i hawlydd—

(a)ar y diwrnod y gwneir yr hawliad, feddu ar y dystiolaeth a bennir ym mharagraff (2) mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y mae’r hawliad yn ymwneud ag ef, a

(b)storio’r dystiolaeth honno’n ddiogel am gyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.

(2Y dystiolaeth yw—

(a)copi o’r anfoneb dirlenwi a ddyroddwyd mewn cysylltiad â’r gwarediad;

(b)cofnodion neu ddogfennau eraill sy’n dangos bod yr hawlydd—

(i)wedi rhoi cyfrif am y gwarediad mewn ffurflen dreth, a

(ii)wedi talu’r swm o dreth sy’n daladwy o dan adran 42(1) neu (1A) o DTGT mewn cysylltiad â’r ffurflen dreth;

(c)cofnodion neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud ag unrhyw daliad a wnaed gan y cwsmer mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am y gwarediad;

(d)cofnodion neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud ag—

(i)unrhyw ddyled sy’n ddyledus gan yr hawlydd i’r cwsmer, neu

(ii)unrhyw sicrhad gorfodadwy a ddelir gan yr hawlydd mewn perthynas â’r cwsmer;

(e)cofnodion neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud ag unrhyw gamau a gymerwyd i adennill y gydnabyddiaeth sy’n ddyledus am y gwarediad.

Cofnod credyd ansolfedd cwsmer

23.—(1Rhaid i hawlydd gadw cofnod cyfredol o’r hawliad (sef “cofnod credyd ansolfedd cwsmer”) drwy gydol y cyfnod cofnodi.

(2Mae’r cyfnod cofnodi yn dechrau â’r diwrnod y gwneir yr hawliad, ac yn dod i ben â’r dyddiad sydd 6 mlynedd ar ôl y diweddaraf o blith—

(a)y diwrnod y gwnaed yr hawliad, a

(b)y diwrnod y diweddarwyd cofnod yr hawliad ddiwethaf.

(3Rhaid i’r cofnod gynnwys yr wybodaeth a ganlyn mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y mae’r hawliad yn ymwneud ag ef—

(a)swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad;

(b)y gydnabyddiaeth am y gwarediad;

(c)y ffurflen dreth y rhoddwyd cyfrif am y gwarediad ynddi, a’r dyddiad y talwyd unrhyw dreth oedd yn daladwy mewn cysylltiad â’r ffurflen;

(d)rhif adnabod yr anfoneb dirlenwi a ddyroddwyd mewn cysylltiad â’r gwarediad, a’r dyddiad y’i dyroddwyd;

(e)yn achos gwaredu deunydd y mae disgrifiad ysgrifenedig ohono yn ofynnol yn rhinwedd adran 34(1)(c)(ii) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(3), y disgrifiad ysgrifenedig;

(f)y swm a dalwyd mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am y gwarediad, gan gynnwys unrhyw daliad a gaiff ei drin fel pe bai wedi ei ddyrannu i’r ddyled honno yn rhinwedd rheoliad 16 (boed cyn neu ar ôl gwneud yr hawliad), a swm y gydnabyddiaeth sy’n weddill;

(g)unrhyw gamau a gymerwyd i adennill y gydnabyddiaeth sy’n weddill am y gwarediad.

(4Rhaid i’r cofnod hefyd gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)cyfanswm yr hawliad;

(b)y ffurflen dreth y gwnaed yr hawliad ynddi;

(c)cyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n weddill y gwneir yr hawliad mewn cysylltiad â hi.

(5Pan fo hawlydd yn gwneud mwy nag un hawliad, rhaid cadw’r cofnodion y mae’n rhaid eu cadw o dan y rheoliad hwn mewn un cyfrif (a elwir “y crynodeb credyd ansolfedd cwsmer”).

Adennill credyd

Adennill yn dilyn taliad gan gwsmer

24.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo hawlydd—

(a)wedi cael budd o swm o gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy (gweler rheoliad 21(3)), a

(b)ar ôl hynny yn derbyn taliad oddi wrth y cwsmer sy’n cael ei drin, yn rhinwedd rheoliad 16, fel pe bai wedi ei ddyrannu, yn rhannol neu’n gyfan gwbl, i’r ddyled sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am y gwarediad.

(2Rhaid i’r hawlydd dalu i ACC, cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r hawlydd yn derbyn taliad y cwsmer, swm a gyfrifir yn unol â’r fformiwla ym mharagraff (3).

(3Y fformiwla yw—

Taliad =

pan fo—

(a)

“Taliad” yw swm y taliad y mae’n rhaid ei wneud i ACC;

(b)

“CredydP” yw’r swm perthnasol o gredyd ansolfedd cwsmer;

(c)

T yw swm y taliad a gaiff ei drin fel pe bai wedi ei ddyrannu i’r ddyled sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am y gwarediad, fel y disgrifir ym mharagraff (1)(b);

(d)

SG yw—

(i)

y swm a gaiff ei drin fel SG at ddibenion cyfrifo swm y credyd mewn cysylltiad â’r gwarediad o dan reoliad 18(1), llai

(ii)

unrhyw swm a dderbynnir oddi wrth y cwsmer sydd eisoes wedi ei drin fel T o dan y rheoliad hwn.

(4Y swm perthnasol o gredyd ansolfedd cwsmer yw—

(a)swm y credyd a gyfrifir mewn cysylltiad â’r gwarediad o dan reoliad 18(1), llai

(b)unrhyw swm y bu eisoes yn ofynnol i’r hawlydd ei dalu i ACC mewn cysylltiad â’r gwarediad o dan y rheoliad hwn.

Adennill yn dilyn methiant i gadw cofnodion neu dystiolaeth arall

25.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo hawlydd—

(a)wedi cael budd o swm o gredyd ansolfedd cwsmer o ganlyniad i hawliad (gweler rheoliad 21(3)), ond

(b)wedi methu â chydymffurfio â gofyniad o dan reoliad 22 neu 23 mewn cysylltiad â’r hawliad.

(2Rhaid i ACC—

(a)asesu’r swm o gredyd ansolfedd cwsmer y mae’r hawlydd wedi cael budd ohono mewn cysylltiad â’r hawliad, a

(b)dyroddi hysbysiad i’r hawlydd—

(i)yn pennu’r swm a aseswyd, a

(ii)yn ei gwneud yn ofynnol i’r person dalu swm sy’n hafal â’r swm hwnnw i ACC.

(3Rhaid i’r hawlydd dalu’r swm a bennir yn yr hysbysiad i ACC cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.

(4Nid yw’n ofynnol i ACC ddyroddi hysbysiad o dan baragraff (2) os yw wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n ei gwneud yn rhesymol ofynnol iddynt gael eu profi, ac a fyddai wedi eu profi gan y cofnodion neu’r dystiolaeth arall sy’n ofynnol o dan reoliad 22 neu 23, wedi eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.

(5Nid yw’n ofynnol i hawlydd y dyroddir hysbysiad iddo o dan baragraff (2) dalu’r swm a bennir yn yr hysbysiad i ACC—

(a)os yw’r hawlydd yn cyflwyno tystiolaeth ddogfennol i ACC, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, ynghylch y ffeithiau a fyddai wedi eu profi gan y cofnodion neu’r dystiolaeth arall sy’n ofynnol o dan reoliad 22 neu 23, a

(b)os yw ACC yn dyroddi hysbysiad pellach i’r hawlydd yn datgan bod y dystiolaeth yn profi, er boddhad ACC, y ffeithiau y mae’n rhesymol ofynnol ganddo iddynt gael eu profi.

Diwygiadau ac addasiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol

Diwygiadau i Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

26.  Mae’r Atodlen yn gwneud diwygiadau i DTGT a DCRhT(4).

Addasiadau i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

27.  Mae adrannau 74 i 77 o DCRhT (ymholiadau ynghylch hawliadau) yn gymwys i hawliadau o dan reoliad 20 yn yr un modd ag y maent yn gymwys i hawliadau o dan adran 62, 63 neu 63A o’r Ddeddf honno ond fel pe bai—

(a)yn adran 74, y cyfeiriadau at ddiwygio hawliad wedi eu hepgor,

(b)yn adran 75, is-adran (3) wedi ei hepgor, ac

(c)yn adran 77(1)(b), y cyfeiriad at ollwng neu ad-dalu treth ddatganoledig yn gyfeiriad at dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth.

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru

24 Ionawr 2018

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill