Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Adolygu Penderfyniadau Cofrestru) (Cymru) 2017

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 3Sylwadau ysgrifenedig

Y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bernir at ddibenion adran 1AE(5)(c) o Ddeddf 1979 bod y dogfennau a ganlyn yn ffurfio sylwadau ysgrifenedig y personau a ganlyn mewn perthynas â’r adolygiad—

(a)yn achos y ceisydd—

(i)cais a wnaed yn unol â rheoliad 5; a

(ii)unrhyw sylwadaethau ysgrifenedig a wnaed o dan reoliad 8(3);

(b)yn achos Gweinidogion Cymru, datganiad Gweinidogion Cymru ar yr adolygiad a’r dogfennau, y deunyddiau a’r dystiolaeth sy’n dod gyda’r datganiad;

(c)yn achos person â buddiant, unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd yn flaenorol o dan adran 1AE o Ddeddf 1979 gan y person hwnnw;

(d)yn achos unrhyw berson neu gorff y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 7(1)(b), unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd yn flaenorol gan y fath berson neu gorff ynghylch cynnig Gweinidogion Cymru i—

(i)cynnwys yr heneb y mae adolygiad yn ymwneud â hi ar y Gofrestr; neu

(ii)gwneud diwygiad perthnasol o’r math a ddisgrifir yn adran 1AA(5)(a) o Ddeddf 1979 mewn perthynas â’r heneb ar y Gofrestr.

(2Caiff person â buddiant neu unrhyw berson neu gorff y rhoddir hysbysiad iddo o dan reoliad 7(1)(b), yn ogystal â’r sylwadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(c) neu (d) (yn ôl y digwydd), gyflwyno sylwadau ysgrifenedig pellach o dan adran 1AE(5)(c) o Ddeddf 1979, a phan fo’n gwneud hynny rhaid iddo anfon tri chopi o’r fath sylwadau at y person penodedig o fewn y cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad dechrau.

(3Rhaid i’r person penodedig, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael unrhyw sylwadau a gyflwynir o dan baragraff (2), anfon copi o’r fath sylwadau at y ceisydd ac at Weinidogion Cymru.

(4Rhaid i’r ceisydd a Gweinidogion Cymru anfon at y person penodedig ddau gopi o unrhyw sylwadaethau ysgrifenedig sydd ganddynt ynghylch unrhyw sylwadau a gyflwynwyd o dan baragraff (1)(c), (d) neu (2) fel eu bod yn dod i law o fewn y cyfnod o chwe wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad dechrau.

(5Pan fo’r person penodedig wedi cael unrhyw sylwadaethau ysgrifenedig yn unol â pharagraff (4), rhaid i’r person penodedig—

(a)yn achos unrhyw sylwadaethau o’r fath a geir oddi wrth y ceisydd, anfon copi at Weinidogion Cymru; a

(b)yn achos unrhyw sylwadaethau o’r fath a geir oddi wrth Weinidogion Cymru, anfon copi at y ceisydd.

Pan fo paragraffau (2) i (4) yn gosod gofyniad ar unrhyw berson neu unrhyw gorff i anfon mwy nag un copi o unrhyw sylwadau ysgrifenedig neu sylwadaethau ysgrifenedig (yn ôl y digwydd) at unrhyw berson arall neu i unrhyw gorff arall, mae’r fath ofyniad i’w ddehongli fel pe bai’n caniatáu anfon un fersiwn yn unig o’r ddogfen honno at ddiben bodloni’r gofyniad hwnnw mewn unrhyw achos pan fo’r person y gosodir y gofyniad arno yn dewis anfon y sylwadau neu’r sylwadaethau drwy ddull cyfathrebu electronig.

Penodi asesydd

10.  Pan fo asesydd yn cael ei benodi o dan baragraff 4(1)(b) o Atodlen A2 i Ddeddf 1979 (penderfyniadau ar adolygiadau gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru), rhaid i’r person penodedig hysbysu’r ceisydd a Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig ynghylch y penodiad, enw’r person a benodir a’r materion y bydd yn rhoi cyngor arnynt.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill