Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 5 Mai 2017.

Cymhwyso

2.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru mewn perthynas ag—

(a)y ceisiadau a restrir ym mharagraff (2) a wnaed ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny; a

(b)yr apelau a restrir ym mharagraff (2) pan fo—

(i)y cais sy’n destun yr apêl yn cael ei wneud ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny; neu

(ii)yr hysbysiad gorfodi sy’n destun yr apêl wedi ei ddyroddi ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny.

(2Y ceisiadau a’r apelau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)cais am ganiatâd cynllunio a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o’r Ddeddf Gynllunio (atgyfeirio ceisiadau i’r Ysgrifennydd Gwladol);

(b)apêl o dan adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath) neu apêl o dan yr adran honno—

(i)fel y’i cymhwysir gan adran 198(3)(c) a (4) o’r Ddeddf honno (gorchmynion cadw coed); a

(ii)fel y’i cymhwysir gan reoliadau a wnaed o dan adran 220 o’r Ddeddf Gynllunio (rheoliadau sy’n rheoli arddangos hysbysebion);

(c)apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi) neu apêl o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan reoliad 16 o Reoliadau 2015(1) (apelau yn erbyn hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus) a Rhan 1 o Atodlen 4 iddynt;

(d)apêl o dan adran 195 o’r Ddeddf Gynllunio (apelau yn erbyn gwrthod cais am dystysgrif o gyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol neu arfaethedig, neu fethiant i roi penderfyniad ar gais o’r fath);

(e)apêl o dan adran 208 o’r Ddeddf Gynllunio (apelau yn erbyn hysbysiadau ailblannu coed);

(f)apêl o dan adran 217 o’r Ddeddf Gynllunio (apêl yn erbyn hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynnal tir);

(g)cais am ganiatâd adeilad rhestredig a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 12, neu gais i amrywio neu ryddhau amodau a atgyfeirir atynt o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 19, neu apêl iddynt o dan adran 20, o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;

(h)cais am ganiatâd ardal gadwraeth a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 12 (gan gynnwys cais y cymhwysir yr adran honno iddo gan adran 19), neu apêl iddynt o dan adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig fel y cymhwysir yr adrannau hynny gan adran 74(3) o’r Ddeddf honno;

(i)apêl o dan adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi adeiladau rhestredig) neu apêl o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 74(3) o’r Ddeddf honno (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi ardal gadwraeth);

(j)cais am ganiatâd sylweddau peryglus a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 20 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus (atgyfeirio ceisiadau i’r Ysgrifennydd Gwladol);

(k)apêl o dan adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus (apelau yn erbyn penderfyniadau neu fethiant i wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â sylweddau peryglus).

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “achosion cyfunol” (“combined proceedings”) yw achosion sy’n cyfuno dau neu ragor o’r canlynol—

(a)

sylwadau ysgrifenedig;

(b)

gwrandawiad;

(c)

ymchwiliad;

ystyr “apêl” (“appeal”) yw—

(a)

penderfynu ar gais atgyfeiriedig; a

(b)

apêl a wneir o dan adrannau 78, 174, 195, 208 neu 217 o’r Ddeddf Gynllunio, adrannau 20 neu 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus;

ystyr “apêl deiliad tŷ” (“householder appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o’r Ddeddf Gynllunio mewn perthynas â chais deiliad tŷ, ond nid yw’n cynnwys—

(a)

apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu

(b)

apêl sy’n dod gydag apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio neu o dan adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;

ystyr “apêl fasnachol fach” (“minor commercial appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o’r Ddeddf Gynllunio mewn perthynas â chais masnachol bach, ond nid yw’n cynnwys—

(a)

apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu

(b)

apêl sy’n dod gydag apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio neu o dan adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;

ystyr “apêl gorfodi” (“enforcement appeal”) yw apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi;

ystyr “apêl ynghylch caniatâd i arddangos hysbyseb” (“advertisment consent appeal”) yw apêl o dan adran 78(1) o’r Ddeddf Gynllunio (fel y’i cymhwysir drwy reoliadau a wnaed o dan adran 220 o’r Ddeddf Gynllunio) mewn perthynas â chais i arddangos hysbyseb, ac eithrio apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd a roddir yn ddarostyngedig i amodau;

ystyr “apelydd” (“appellant”), yn achos—

(a)

cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o’r Ddeddf Gynllunio, adran 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 20 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yw’r person a gyflwynodd y cais hwnnw i’r awdurdod cynllunio lleol;

(b)

apêl o dan adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio, adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yw’r person y gwrthodwyd ei gais, y person y caniatawyd ei gais yn ddarostyngedig i amodau (ac eithrio apelau ynghylch caniatâd i arddangos hysbyseb, apelau deiliad tŷ ac apelau masnachol bach) neu’r person nas penderfynwyd ar ei gais, gan yr awdurdod cynllunio lleol;

(c)

apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio, yw’r person sydd wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru o dan yr adran honno;

(d)

apêl o dan adran 195 o’r Ddeddf Gynllunio, yw’r person y gwrthodwyd ei gais o dan adran 191 o’r Ddeddf honno;

(e)

apêl o dan adran 208 o’r Ddeddf Gynllunio, yw’r person sydd wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru o dan yr adran honno;

(f)

apêl o dan adran 217 o’r Ddeddf Gynllunio, yw’r person sydd wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru o dan yr adran honno;

(g)

apêl o dan adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yw’r person sydd wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru o dan yr adran honno;

ystyr “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”), mewn perthynas ag—

(a)

cais atgyfeiriedig, yw’r corff a fyddai wedi ymdrin â’r cais pe na bai wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru;

(b)

apêl o dan adrannau 78 neu 195 o’r Ddeddf Gynllunio, adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yw’r corff a oedd yn gyfrifol am benderfynu ar y cais sy’n achosi’r apêl;

(c)

apêl o dan adrannau 174, 208 neu 217 o’r Ddeddf Gynllunio neu adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yw’r corff a ddyroddodd yr hysbysiad sy’n achosi’r apêl;

ystyr “cais atgyfeiriedig” (“referred application”), mewn perthynas ag adran 77 o’r Ddeddf Gynllunio, adrannau 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig ac adran 20 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yw’r cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru, ond nid yw’n cynnwys cais y bernir ei fod wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru yn rhinwedd rheoliad 9(3) o Reoliadau 2012(2);

ystyr “cais deiliad tŷ” (“householder application”) yw cais ar gyfer—

(a)

caniatâd cynllunio ar gyfer ehangu tŷ annedd, gwella tŷ annedd neu newid arall i dŷ annedd, neu ddatblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd o’r fath, neu

(b)

newid defnydd i ehangu cwrtil tŷ annedd,

at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â mwynhau’r tŷ annedd, ond nid yw’n cynnwys—

(i)

unrhyw gais arall am newid defnydd,

(ii)

cais i godi tŷ annedd, neu

(iii)

cais i newid nifer yr anheddau mewn adeilad;

ystyr “cais i arddangos hysbyseb” (“advertisement application”) yw cais am ganiatâd datganedig i arddangos hysbyseb a wneir o dan Ran 3 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992(3);

ystyr “cais masnachol bach” (“minor commercial application”) yw cais am ganiatâd cynllunio i ehangu, gwella neu wneud newid arall i adeilad presennol sydd ag arwynebedd llawr gros allanol ar lefel y llawr daear nad yw’n fwy na 250 metr sgwâr, neu ran o’r adeilad hwnnw, sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn sy’n gais ar gyfer—

(a)

newid defnydd o unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn i unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir yn naill ai paragraff 2 neu baragraff 3 o’r Atodlen honno;

(b)

newid defnydd o unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn i unrhyw un neu ragor o’r dibenion a nodir ym mharagraff 3 o’r Atodlen honno; neu

(c)

gwneud gwaith adeiladu neu weithrediadau eraill i flaen siop;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(4);

y “cyfnod sylwadau” (“representation period”) yw’r cyfnod o 6 wythnos sy’n cychwyn â’r dyddiad dechrau;

mae i “datganiad achos llawn” (“full statement of case”)—

(a)

mewn perthynas ag apelau ac eithrio apelau gorfodi, yr ystyr a roddir yn—

(i)

erthygl 2 o Orchymyn 2012;

(ii)

rheoliad 2 o Reoliadau 2012;

(iii)

rheoliad 2 o Reoliadau 2015;

(iv)

adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio, fel y’i haddaswyd gan reoliad 15 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 a Rhan III o Atodlen 4 iddynt;

(v)

adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio, fel y’i haddaswyd gan reoliad 15 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 a Rhan V o Atodlen 4 iddynt;

(vi)

adran 78 o’r Ddeddf Gynllunio, fel y’i haddaswyd gan erthygl 7 o’r Atodlen (Ffurf Gorchymyn Cadw Coed) i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999(5) a Rhan I o Atodlen 2 i’r Atodlen honno;

(b)

mewn perthynas ag apelau gorfodi—

(i)

yn achos apêl yn erbyn hysbysiad o dan adran 24(1) o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, yr ystyr a roddir yn adran 174 o’r Ddeddf Gynllunio fel y’i haddaswyd gan reoliad 16 o Reoliadau 2015, a Rhan 1 o Atodlen 4 iddynt;

(ii)

ym mhob achos arall, yr ystyr a ganlyn, sef y datganiad achos llawn a gyflwynir gan yr apelydd o dan reoliadau 8, 9 neu 10 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2017(6);

(c)

yr ystyr a ganlyn, ac sydd ar y ffurf a ganlyn, mewn perthynas ag apelau ac eithrio apelau gorfodi—

(i)

datganiad ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol sy’n cynnwys manylion llawn yr achos y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl; a

(ii)

copïau o unrhyw ddogfennau y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth;

(d)

yr ystyr a ganlyn, ac sydd ar y ffurf a ganlyn, mewn perthynas ag apelau gorfodi—

(i)

datganiad ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol sy’n cynnwys—

(aa)

ymateb i bob un o seiliau’r apêl a bledir gan yr apelydd;

(bb)

mynegiad ynghylch pa un a fyddai’r awdurdod cynllunio lleol yn fodlon rhoi—

(bba)

caniatâd cynllunio ar gyfer y materion yr honnir yn yr hysbysiad gorfodi eu bod yn torri rheolaeth gynllunio;

(bbb)

caniatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth ar gyfer y gwaith y mae’r hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig neu’r hysbysiad gorfodi ardal gadwraeth yn ymwneud ag ef, yn ôl y digwydd;

(bbc)

caniatâd sylweddau peryglus ar gyfer presenoldeb unrhyw faint o sylweddau peryglus ar y tir, dros y tir neu o dan y tir y mae’r hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus yn ymwneud ag ef;

(cc)

manylion yr amodau, os oes rhai, y byddent yn dymuno eu gosod ar unrhyw ganiatâd neu gydsyniad y byddent yn fodlon ei roi;

(dd)

manylion llawn yr achos y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl; a

(ii)

copïau o unrhyw ddogfennau y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth;

ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015(7);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru;

mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan;

ystyr “drwy hysbyseb leol” (“by local advertisement”) yw drwy gyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle y mae’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef wedi ei leoli;

ystyr “dyddiad dechrau” (“starting date”) yw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 15 (hysbysu ynghylch cael apêl);

ystyr “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig” (“the Listed Buildings Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;

ystyr “y Ddeddf Gynllunio” (“the Planning Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

ystyr “y Ddeddf Sylweddau Peryglus” (“the Hazardous Substances Act”) yw Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990;

ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(8);

ystyr “holiadur” (“questionnaire”) yw dogfen ar y ffurf a gyflenwir gan Weinidogion Cymru i awdurdod cynllunio lleol at ddiben unrhyw achosion o dan y Rheoliadau hyn, ac at y diben hwn, tybir bod ffurf wedi ei chyflenwi pan fo Gweinidogion Cymru wedi ei chyhoeddi ar wefan ac wedi hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol—

(a)

bod y ffurf wedi ei chyhoeddi ar y wefan;

(b)

am gyfeiriad y wefan; ac

(c)

ymhle ar y wefan y gellir cael mynediad at y ffurf a sut y gellir cael mynediad ati;

ystyr “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yw hysbysiad o dan—

(a)

adran 172(1) o’r Ddeddf Gynllunio;

(b)

adran 182(1) o’r Ddeddf Gynllunio;

(c)

adran 38(1) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu hysbysiad o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 74(3) o’r Ddeddf honno;

(d)

adran 46(1) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;

(e)

adran 24(1) o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus;

(f)

adran 207(1) o’r Ddeddf Gynllunio;

(g)

adran 215(1) o’r Ddeddf Gynllunio;

ystyr “hysbysiad peidio â pharhau” (“discontinuance notice”) yw hysbysiad o dan reoliad 8 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992;

ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar apêl neu i gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru(9);

ystyr “personau â buddiant” (“interested persons”)—

(a)

mewn perthynas ag apelau ac eithrio apelau gorfodi—

(i)

yw unrhyw berson a hysbysir neu yr ymgynghorir ag ef yn unol â’r Ddeddf Gynllunio, y Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y Ddeddf Sylweddau Peryglus, gorchymyn neu reoliadau datblygu, yn ôl y digwydd, ynghylch y cais; a

(ii)

unrhyw berson arall a gyflwynodd sylwadau i’r awdurdod cynllunio lleol ynghylch y cais hwnnw;

(b)

mewn perthynas ag apelau gorfodi a hysbysiadau peidio â pharhau, yw meddianwyr eiddo yn ardal leol y safle y mae’r hysbysiad gorfodi neu’r hysbysiad peidio â pharhau yn ymwneud ag ef; ac

(c)

mewn perthynas ag apelau gorfodi ac eithrio apelau yn erbyn hysbysiadau ailblannu coed, yw unrhyw berson (ac eithrio’r sawl y cyflwynir yr hysbysiad gorfodi iddo) sydd, ym marn yr awdurdod cynllunio lleol neu’r awdurdod sylweddau peryglus, yn cael ei effeithio gan y materion a honnir yn yr hysbysiad gorfodi;

ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012(10);

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015(11);

mae “sylw” (“representation”) yn cynnwys tystiolaeth, esboniad, gwybodaeth a sylwadaethau;

mae “sylwadau ysgrifenedig” (“written representations”) yn cynnwys dogfennau ategol;

ystyr “terfynau amser perthnasol” (“relevant time limits”) yw’r terfynau amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn neu, pan fo Gweinidogion Cymru wedi arfer y pŵer o dan reoliad 7, unrhyw derfyn amser diweddarach; a

nid yw “tŷ annedd” (“dwellinghouse”) yn cynnwys adeilad sy’n cynnwys un neu ragor o fflatiau, na fflat sydd wedi ei gynnwys o fewn adeilad o’r fath.

(2Mewn perthynas â defnyddio cyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben yn y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni yn electronig—

(a)mae’r ymadrodd “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau electronig;

(b)mae cyfeiriadau at hysbysiadau, sylwadau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o ddogfennau o’r fath, yn cynnwys cyfeiriadau at y fath ddogfennau, neu at gopïau ohonynt, ar ffurf electronig.

Defnyddio cyfathrebiadau electronig

4.—(1Mae paragraffau (2) i (7) o’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person yn defnyddio cyfathrebiad electronig at y diben o gyflawni unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn i roi i unrhyw berson arall (“y derbynnydd”), neu i anfon ato, unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall.

(2Ystyrir y bydd y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo’r hysbysiad neu’r ddogfen arall a drosglwyddir drwy gyfrwng y cyfathrebiad electronig—

(a)yn un y gall y derbynnydd gael mynediad iddo neu iddi;

(b)yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac

(c)yn ddigon parhaol i’w ddefnyddio neu i’w defnyddio i gyfeirio ato neu ati yn ddiweddarach.

(3Ym mharagraff (2), ystyr “darllenadwy ym mhob modd perthnasol” (“legible in all material respects”) yw bod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad neu’r ddogfen arall ar gael i’r derbynnydd i’r un graddau o leiaf â phe bai’r wybodaeth wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.

(4Pan fo’r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i’w oriau busnes, ystyrir ei fod wedi ei gael ar y diwrnod gwaith nesaf.

(5Mae gofyniad yn y Rheoliadau hyn y dylai unrhyw ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi ei fodloni pan fo’r ddogfen honno’n bodloni’r meini prawf ym mharagraff (2), ac mae “ysgrifenedig” (“written”) ac ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny.

(6Pan fo apelydd, awdurdod cynllunio lleol neu barti â buddiant yn anfon unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall at Weinidogion Cymru drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, ystyrir eu bod wedi cytuno—

(a)i’r defnydd o’r fath gyfathrebiadau at bob diben sy’n ymwneud â’r apêl y mae modd eu cyflawni drwy gyfrwng electronig;

(b)mai eu cyfeiriad at ddibenion cyfathrebiadau o’r fath yw’r cyfeiriad a ymgorfforir yn yr hysbysiad neu’r ddogfen, neu, fel arall, y cyfeiriad a gysylltir yn rhesymegol â’r hysbysiad neu’r ddogfen;

(c)y bydd cytundeb tybiedig yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol neu’r parti â buddiant o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes i’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol neu barti â buddiant, yn ôl y digwydd, roi hysbysiad yn unol â rheoliad 6 o ddymuniad i ddirymu’r cytundeb.

(7Pan ystyrir bod apelydd, awdurdod cynllunio lleol neu barti â buddiant wedi cytuno i’r defnydd o gyfathrebiadau electronig o dan baragraff (6), ystyrir hefyd eu bod wedi cytuno bod dolen uniongyrchol i’r hysbysiad neu’r ddogfen yn cael ei darparu ar wefan.

(8Cydymffurfir â gofyniad yn y Rheoliadau hyn i anfon mwy nag un copi o ddatganiad neu ddogfen arall drwy anfon un copi yn unig o’r datganiad neu ddogfen arall ar ffurf electronig.

Trosglwyddo dogfennau

5.  Caniateir anfon neu gyflenwi hysbysiadau neu ddogfennau y mae’n ofynnol eu hanfon neu eu cyflenwi o dan y Rheoliadau hyn—

(a)drwy’r post;

(b)drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig i drosglwyddo’r hysbysiad neu’r ddogfen i berson ym mha bynnag gyfeiriad a bennir gan y person hwnnw at y diben hwnnw am y tro; neu

(c)drwy ddarparu dolen uniongyrchol i’r hysbysiad neu’r ddogfen i berson ym mha bynnag gyfeiriad a bennir gan y person hwnnw at y diben hwnnw am y tro.

Tynnu’n ôl gydsyniad i ddefnyddio cyfathrebiadau electronig

6.—(1Pan na fo person yn fodlon derbyn y defnydd o gyfathrebiadau electronig mwyach at unrhyw ddiben yn y Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni yn electronig, rhaid i’r person roi hysbysiad ysgrifenedig sydd—

(a)yn tynnu’n ôl unrhyw gyfeiriad yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru neu awdurdod cynllunio lleol amdano at y diben hwnnw; neu

(b)yn dirymu unrhyw gytundeb yr ymrwymwyd iddo gyda Gweinidogion Cymru neu gydag awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw.

(2Mae’r tynnu’n ôl neu’r dirymu o dan baragraff (1) yn derfynol ac yn cael effaith ar y diweddaraf o’r canlynol—

(a)y dyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad ond ni chaiff y dyddiad hwnnw fod yn llai nag 1 wythnos ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad; neu

(b)pan fo’r cyfnod o 1 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad wedi dod i ben.

Caniatáu rhagor o amser

7.  Caiff Gweinidogion Cymru mewn unrhyw achos penodol roi cyfarwyddydau sy’n estyn y terfynau amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn.

Arolygu safleoedd

8.—(1Caiff Gweinidogion Cymru arolygu’r tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu cynnal arolygiad o dan baragraff (1), cânt hysbysu’r apelydd ac unrhyw berson arall ynghylch dyddiad ac amser yr arolygiad.

(3Nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru ohirio arolygiad pan na fo unrhyw berson (gan gynnwys yr apelydd) yn bresennol ar yr adeg a bennwyd.

Gwybodaeth bellach

9.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ofyn am sylwadau pellach gan—

(a)yr apelydd;

(b)yr awdurdod cynllunio lleol;

(c)unrhyw berson â buddiant a gyflwynodd sylwadau mewn perthynas â’r apêl o fewn 4 wythnos i’r dyddiad dechrau.

(2Yn benodol, caiff Gweinidogion Cymru ofyn yn ysgrifenedig—

(a)gan y person sy’n cyflwyno unrhyw sylw, am nifer penodedig o gopïau ychwanegol o’r sylw hwnnw;

(b)am ymatebion i gwestiynau a ofynnir gan Weinidogion Cymru ynghylch y materion sydd wedi eu cynnwys mewn unrhyw sylw.

(3Rhaid i bob sylw ar unrhyw fater penodol a gyflwynir ar ôl gofyn amdano beidio â bod yn fwy na 3,000 o eiriau, a rhaid ei gyflwyno o fewn y cyfnod amser a bennir gan Weinidogion Cymru ac yn y dull a bennir ganddynt hwy.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw sylw—

(a)a geir ar ôl y cyfnod amser neu a geir mewn dull ac eithrio’r dull a bennir;

(b)sy’n fwy na 3,000 o eiriau;

(c)y maent yn ystyried ei fod yn flinderus neu’n wacsaw; neu

(d)sy’n ymwneud â rhagoriaethau polisi a nodir mewn cynllun datblygu neu unrhyw ddatganiad polisi perthnasol a wnaed gan Weinidogion Cymru neu a gyhoeddir ganddynt hwy.

(5Os digwydd bod sylw ysgrifenedig yn fwy na 3,000 o eiriau, caiff Gweinidogion Cymru ddychwelyd y sylw i’r person sy’n ei gyflwyno gan ofyn bod y sylw yn cael ei ailgyflwyno heb fod yn fwy na 3,000 o eiriau ac o fewn y fath derfyn amser ag y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu wrth ddychwelyd y sylw.

(6Caiff Gweinidogion Cymru gynyddu nifer y geiriau ym mharagraff (3) mewn unrhyw achos penodol, ac yn unol â hynny mae’r cyfeiriadau at uchafswm nifer o eiriau yn gyfeiriadau at y fath nifer uwch.

(7Pan fo Gweinidogion Cymru yn arfer eu disgresiwn o dan baragraff (6) rhaid i’r sylw ysgrifenedig ddod gyda chrynodeb ysgrifenedig sy’n cynnwys dim mwy na 1,500 o eiriau.

(8Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod yr holl sylwadau ysgrifenedig, a’r ymatebion ysgrifenedig i’r cwestiynau, a geir ganddynt ar gael yn y fath fodd y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Gweld dogfennau

10.—(1Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol roi i unrhyw berson sy’n gwneud y fath gais gyfle rhesymol i weld unrhyw ddogfen a anfonir iddo neu ganddo yn unol â’r Rheoliadau hyn, a, phan fo’n ymarferol, wneud copïau o’r dogfennau hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), ystyrir bod cyfle wedi ei roi i berson pan fo’r person yn cael ei hysbysu—

(a)bod y dogfennau a grybwyllir yn y paragraff hwnnw wedi eu cyhoeddi ar wefan;

(b)ynghylch cyfeiriad y wefan;

(c)ymhle ar y wefan y gellir cael mynediad at y dogfennau a sut y gellir cael mynediad atynt.

Materion y caniateir eu codi mewn apêl yn erbyn penderfyniadau

11.—(1Ni chaiff yr apelydd godi unrhyw fater nad oedd gerbron yr awdurdod cynllunio lleol ar yr adeg a bennir ym mharagraff (2) oni bai y gall yr apelydd ddangos—

(a)na ellid bod wedi codi’r mater cyn yr adeg honno, neu

(b)na chodwyd y mater cyn yr adeg honno o ganlyniad i amgylchiadau eithriadol.

(2Yr adeg a bennir at ddibenion paragraff (1) yw—

(a)pan wnaed y penderfyniad sy’n destun yr apêl; neu

(b)pan roddwyd hysbysiad o apêl mewn perthynas â methiant yr awdurdod cynllunio lleol i—

(i)rhoi hysbysiad i’r apelydd am ei benderfyniad ar y cais;

(ii)rhoi hysbysiad i’r apelydd ei fod wedi arfer ei bŵer o dan adran 70A neu 70C o’r Ddeddf Gynllunio i wrthod penderfynu ar y cais; neu

(iii)rhoi hysbysiad bod y cais wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru o dan adran 77 o’r Ddeddf Gynllunio, adran 12 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 20 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus.

(3Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw ofyniad neu hawlogaeth i roi sylw i—

(a)darpariaethau’r cynllun datblygu, neu

(b)unrhyw amgylchiadau perthnasol eraill.

Sylwadau sydd i’w hystyried

12.  Wrth benderfynu ar apêl caiff Gweinidogion Cymru neu’r person penodedig, yn ôl y digwydd, ddiystyru unrhyw sylwadau, dogfennau, tystiolaeth neu wybodaeth a geir ar ôl y terfynau amser perthnasol.

Y cyfnod rhagnodedig

13.  At ddibenion adran 319B o’r Ddeddf Gynllunio, adran 88E o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig ac adran 21B o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus y cyfnod rhagnodedig yw 6 wythnos o’r dyddiad dechrau.

Pennu’r weithdrefn

14.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth iddynt bennu’r weithdrefn o dan adrannau 319B(1) neu 217(7)(c) o’r Ddeddf Gynllunio, adran 88E(1) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu adran 21B(1) o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus, nodi pa faterion, os oes rhai, sydd i’w hystyried mewn gwrandawiad neu ymchwiliad.

(2Rhaid i hysbysiad o dan adrannau 319B(5), 88E(5) neu 21B(5)—

(a)nodi’r materion, os oes rhai, sydd i’w penderfynu mewn gwrandawiad neu ymchwiliad;

(b)nodi materion y mae Gweinidogion Cymru yn gofyn am sylwadau pellach arnynt;

(c)datgan pa un a yw’r fath sylwadau pellach i’w rhoi’n ysgrifenedig neu mewn gwrandawiad neu ymchwiliad; neu

(d)cynnwys datganiad bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu penderfynu ar y cais ar sail sylwadau ysgrifenedig.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol o fewn 6 wythnos i’r dyddiad dechrau ynghylch y weithdrefn a bennir ganddynt o dan adran 217(7)(c), a rhaid i’r hysbysiad hwnnw nodi’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2)(a) i (d).

(4Mae darpariaethau rheoliad 9 yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn gofyn am unrhyw sylwadau pellach.

(4)

2000 p. 7. Diwygiwyd adran 15(1) gan adran 406(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21) a pharagraff 158 o Atodlen 17 iddi.

(9)

Gweler Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu ar Apelau gan Bersonau Penodedig) (Dosbarthau Rhagnodedig) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1822 (Cy. 264)).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill