- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
2.—(1) Mae Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012(1) yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.
(2) Rhaid darllen rheoliad 3 (ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth) fel a ganlyn—
(a)ym mharagraff (1)(a) yn lle “i awdurdod cynllunio lleol” rhodder “i Weinidogion Cymru”;
(b)ym mharagraff (1)(c)(ii) a (iii) yn lle “fod yr awdurdod cynllunio lleol” rhodder “fod Gweinidogion Cymru”;
(c)hepgorer paragraff (3) a Rhan 1 o Atodlen 1;
(d)ym mharagraff (4) yn lle “awdurdod cynllunio lleol yn barnu, wedi iddo anfon y gydnabyddiaeth fel sy’n ofynnol gan baragraff (3), fod y cais yn annilys, rhaid iddo” rhodder “Gweinidogion Cymru yn barnu bod y cais yn annilys, rhaid iddynt”;
(e)yn lle paragraff (5) rhodder—
“(5) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi cael cais dilys, yr amser a ganiateir iddynt ar gyfer rhoi hysbysiad o’u penderfyniad i’r ceisydd yw’r cyfnod penderfynu fel y’i disgrifir yn adran 62L o’r brif Ddeddf.”;
(f)ym mharagraff (6) hepgorer “neu hysbysiad o gyfeirio at Weinidogion Cymru” ac yn lle “awdurdod cynllunio lleol yn penderfynu rhoi” rhodder “Gweinidogion Cymru yn penderfynu rhoi”;
(g)hepgorer paragraff (7).
(3) Rhaid darllen rheoliad 6(1) fel pe rhoddid “unrhyw gais am ganiatâd adeilad rhestredig, pan fo’r penderfyniad ar y caniatâd hwnnw i gael ei wneud gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 62F o’r brif Ddeddf,” yn lle “unrhyw gais i awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd adeilad rhestredig”.
(4) Rhaid darllen rheoliad 7 (tystysgrif sydd i ddod gyda cheisiadau ac apelau) fel a ganlyn—
(a)ym mharagraff (1) yn lle “awdurdod cynllunio lleol” rhodder “Weinidogion Cymru” a hepgorer “neu 4”;
(b)ym mharagraff (3)—
(i)hepgorer “neu 4”;
(ii)yn lle “yr awdurdod cynllunio lleol” rhodder “Gweinidogion Cymru”;
(iii)yn lle is-baragraff (a) rhodder—
“(a)rhaid iddynt benderfynu’r cais cyn diwedd y cyfnod penderfynu y darperir ar ei gyfer yn adran 62L o Ddeddf 1990”;”
(iv)yn lle is-baragraff (b) rhodder—
“(b)wrth benderfynu’r cais rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau sy’n ymwneud ag ef a wneir iddynt cyn diwedd y cyfnod sylwadau y darperir ar ei gyfer yn erthygl 4 o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 gan unrhyw berson sy’n bodloni Gweinidogion Cymru fod y person yn berchennog ar yr adeilad neu unrhyw ran ohono;”.
(5) Nid yw rheoliadau 8 a 9 yn gymwys.
(6) Rhaid darllen rheoliad 10 (hysbysebu ceisiadau) fel a ganlyn—
(a)hepgorer paragraff (1); a
(b)yn lle paragraff (2) rhodder—
“Yr amser a ganiateir i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r ceisydd o’u penderfyniad yw’r cyfnod penderfynu, fel y’i disgrifir yn adran 62L o’r brif Ddeddf”.
(7) Hepgorer rheoliadau 11, 12 a 12A.
3.—(1) Mae Gorchymyn 2016 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn.
(2) Rhaid darllen erthygl 15 (derbyn ceisiadau) fel pe bai’r cais, yn achos cais am ganiatâd o dan adran 8 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, yn dod gyda’r eitemau hynny a restrir yn rheoliadau 3(1), 3(2) a 6 (datganiadau dylunio a mynediad) o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012.
(3) Rhaid darllen erthygl 18 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio: Gweinidogion Cymru) fel pe na bai’n gymwys mewn perthynas ag unrhyw gais am—
(a)caniatâd adeilad rhestredig i wneud gwaith sy’n effeithio yn unig ar du mewn adeilad a ddosbarthwyd fel adeilad rhestredig Gradd II (di-seren) pan hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei gylch ddiwethaf gan Weinidogion Cymru, fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig; neu
(b)amrywio neu ryddhau o amodau a osodwyd ar ganiatâd adeilad rhestredig mewn cysylltiad â thu mewn adeilad rhestredig Gradd II (di-seren) o’r fath.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys