- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r amodau yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (2), yn ddarostyngedig i’r diwygiadau iddynt y darperir ar eu cyfer yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (3), i gael eu trin fel yr amodau cydnabod safonol a lunnir ac a gyhoeddir gan Gymwysterau Cymru o dan baragraff 2(1) o Atodlen 3 i’r Ddeddf.
(2) Y ddogfen yw’r un o’r enw “General conditions of Recognition March 2015” a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2015(1) ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0003(2).
(3) Y ddogfen yw’r un o’r enw “Amendments to General Conditions of Recognition” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0004(3).
(4) O 21 Medi 2015 ymlaen, ystyr cyfeiriadau yn y dogfennau a ddisgrifir ym mharagraffau (2) a (3) at “regulatory documents” yw’r dogfennau a restrir yn y ddogfen o’r enw “Qualifications Wales Regulatory Documents List” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0005(4).
(5) O 21 Medi 2015 ymlaen, ystyr cyfeiriadau yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (2) at “certificate requirements” yw’r gofynion a nodir yn y ddogfen o’r enw “Additional Certificate Requirements” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0006(5).
Ym mis Mawrth 2015, anfonodd Gweinidogion Cymru gopïau o’r ddogfen hon at swyddogion cyfrifol personau a oedd wedi eu cydnabod bryd hynny o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997.
Ar 21 Medi 2015, mae’r ddogfen hon ar gael yn www.cymwysteraucymru.org.
Ar 21 Medi 2015, mae’r ddogfen hon ar gael yn www.cymwysteraucymru.org.
Ar 21 Medi 2015, mae’r ddogfen hon ar gael yn www.cymwysteraucymru.org.
Ar 21 Medi 2015, mae’r ddogfen hon ar gael yn www.cymwysteraucymru.org.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys